Iechyd Yng Nghrymru A Thu Hwnt I'w Ffiniau - Hydref 2016

Page 1

Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I’w Ffiniau Hydref 2016

Dathliadau i nodi 10 Mlynedd o Gymru o Blaid Affrica Mwy ar dudalen 5


Welcome Croeso i rifyn mis Hydref o e-fwletin Ewropeaidd a rhyngwladol IHCC. Bydd rhifyn y mis yma’n rhoi gwybodaeth i chi am 23ain Cyfarfod Blynyddol Rhwydwaith Rhanbarthau ar gyfer Iechyd WHO, 66ain Sesiwn Pwyllgor Rhanbarthol Ewrop WHO a gweithgaredd yng Nghymru a thu hwnt i’w ffiniau, yn ogystal â chyhoeddiadau a chyfleoedd newydd. Dilynwch yr IHCC ar Twitter am ddiweddariadau rheolaidd #IHCCWales ac ar wefan IHCC.

Contents Mewn Focus – Y Tu Hwnt i Gymru

tud 3

Mewm Focus – Yng Nghymru

tud 5

Cyfleoedd tud 7 Sefydliadau a Chylchlythyrau Rhyngwladol

tud 17


Mewn Ffocws Y Tu Hwnt i Gymru

23ain Cyfarfod Blynyddol Rhwydwaith Rhanbarthau ar gyfer Iechyd WHO Cynhaliodd Rhwydwaith Rhanbarthau ar gyfer Iechyd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO RHN) ei 23ain cyfarfod blynyddol yn Lithuania ar 22-23 Medi ar thema cymdeithas iach, gynaliadwy a gwella integreiddio, cynhwysiant a chydlyniaeth ar lefelau rhyngwladol, is-genedlaethol a rhanbarthol. Roedd y cyfarfod hwn, a agorwyd gan Zsuzsanna Jakab, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Ewrop WHO, yn gyfle i ranbarthau fel Cymru gyfnewid ac archwilio cydweithrediadau wrth weithredu’r Nodau Datblyg Cynaliadwy. Roedd dirprwyaeth Cymru yn cynnwys Rebecca Evans AC, y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd; a Luke Rees, Llysgennad Ieuenctid, Chwaraeon Cymru. Rhoddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru gyflwyniad ar Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn ogystal ag adroddiad Gwneud Gwahaniaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru. Roedd y trafodaethau hefyd yn cynnwys sut i gysylltu’n well â WHO RHN a’r Rhwydwaith Dinasoedd Iach. Gallwch ganfod mwy ar wefan WHO RHN.


66ed Sesiwn Pwyllgor Rhanbarthol Ewrop WHO Denmarc ar 12–15 Medi 2016 i drafod gweithredu cyflymach ac ymrwymiad gwleidyddol cryfach ar iechyd ffoaduriaid a mudwyr, iechyd menywod, iechyd rhywiol ac atgenhedlol, clefydau anhrosglwyddadwy, HIV/AIDS, hepatitis feirysol, gwasanaethau iechyd integredig a defnyddio data ym maes iechyd y cyhoedd. Roedd y prif uchafbwyntiau yn cynnwys briff ar Iechyd yn Agenda 2030 ar gyfer Datblygu Cynaliadwy ac mewn perthynas â Strategaeth Iechyd 2020, yn ogystal ag ateb ar strategaeth a chynllun gweithredu Ewropeaidd ar gyfer iechyd ffoaduriaid a mudwyr. Ewch i wefan WHO EURO i ddarllen uchafbwyntiau dyddiol y cyfarfod yn ogystal â’r atebion a’r adroddiadau a gyflwynwyd.

Cyflwr yr Undeb Ewropeaidd 2016 Cyflwynodd Llywydd Juncker y Comisiwn Ewropeaidd ei araith Cyflwr yr Undeb Ewropeaidd (UE) flynyddol i Senedd Ewrop ar 14 Medi. I wledydd yr UE, amlygodd flaenoriaethau’r Comisiwn ar gyfer cyflogaeth, busnesau bach, mynediad i dechnolegau gwybodaeth a chyfathrebu, a chymorth i’r cyfryngau. Ar gyfer gweithredu’r UE y tu hwnt i ffiniau Ewropeaidd, cyhoeddodd Llywydd Juncker Gynllun Buddsoddi newydd ar gyfer Affrica yn ogystal â chreu Ffin Ewropeaidd a Gwarchodfa Arfordir Newydd. Ewch i wefan y Comisiwn Ewropeaidd i ganfod mwy.


Mewn Ffocws Yng Nghymru

Mae’r adran hon yn amlygu enghreifftiau diweddar o weithgaredd Cymru y tu hwnt i’n ffiniau. Gallai hyn fod ar ffurf cydweithredu, digwyddiadau a gwaith arall yn ymwneud â gwella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau yng Nghymru. Os ydych yn weithiwr iechyd proffesiynol neu’n weithiwr iechyd arall yng Nghymru sy’n gysylltiedig â gwaith rhyngwladol ac eisiau rhannu eich gwaith, anfonwch ebost international.health@wales.nhs.uk.

Dathliadau i nodi 10 Mlynedd o Gymru o Blaid Affrica Cynhaliodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, ddigwyddiad yng Nghaerdydd i ddathlu degawd o bartneriaeth Cymru gydag Affrica. Daeth y digwyddiad hwn â phobl sydd wedi rhoi eu hamser, eu hadnoddau a’u harbenigedd i wella bobl yn Affrica Is-Sahara, yn ogystal â phobl o Affrica sydd wedi elwa’n uniongyrchol ar y rhaglen, ynghyd. Yn y digwyddiad, lansiodd y Prif Weinidog adroddiad yn dangos yr effaith gadarnhaol y mae rhaglen Cymru o Blaid Affrica wedi ei gael ar filoedd o bobl ledled Cymru ac Affrica. Darllenwch yr erthygl lawn ar wefan Llywodraeth Cymru neu gwyliwch y fideo ar YouTube.


Ymgynghoriad Strategaeth Iechyd Rhyngwladol Diben yr ymgynghoriad hwn yw cael cipolwg ar werthoedd, safbwyntiau, profiadau a syniadau pobl i lywio datblygiad strategaeth iechyd rhyngwladol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru enw da yn ymgysylltu ac yn cydweithredu’n rhyngwladol sy’n cael ei adlewyrchu yn ei Gynllun Strategol (IMTP). Bydd strategaeth newydd ar gyfer iechyd rhyngwladol yn ei alluogi i gydgrynhoi ei waith a ffurfio a chynllunio sut bydd yn symud ymlaen. Ar gyfer pwy mae’r ymgynghoriad hwn? • Pob gweithiwr iechyd a gweithiwr proffesiynol cysylltiedig sy’n gweithio gyda safbwynt byd-eang i wella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau ledled Cymru • Pob gweithiwr iechyd proffesiynol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru • Partneriaid a rhanddeiliaid strategol Iechyd Cyhoeddus Cymru ym maes iechyd a datblygiad rhyngwladol a byd-eang Cliciwch yma i ddarllen y ddogfen gefndir ac i ymateb i’r ymgynghoriad.


Wythnos Dathlu Iechyd Rhyngwladol Cwm Taf Yn ystod wythnos 26 Medi, roedd staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn siarad am brosiectau gofal iechyd dramor yn fwy nag erioed o’r blaen. Cafodd cyfres o ddigwyddiadau eu trefnu i ddangos a dathlu’r gwaith rhagorol y mae’r staff wedi bod yn gysylltiedig ag ef, yn ogystal â chodi proffil Siarter Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol IHCC a’r hyn y mae’n ei olygu i’r bwrdd iechyd. Ewch i wefan IHCC i ganfod mwy.

Gweithgaredd Corfforol sydd yn Gwella Iechyd Yn ddiweddar, mynychodd Malcolm Ward a Ben Gray o Gyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru gynhadledd Rhwydwaith Gweithgaredd Corfforol sy’n Gwella Iechyd (HEPA) Ewrop 2016 yn Belfast. Daeth y gynhadledd fynyddol ag academyddion, ymchwilwyr ac ymarferwyr blaenllaw ynghyd sydd yn gweithio ar yr agenda gweithgaredd corfforol ac iechyd y cyhoedd. Roedd y gynhadledd yn darparu llwyfan delfrydol i rannu enghreifftiau o arfer gorau ac ymchwil sy’n dod i’r amlwg, gan alluogi rhywfaint o’r wybodaeth i ddod yn ôl i Gymru ac roedd yn gyfle ar gyfer trafodaethau ynghylch cyfleoedd ymchwil posibl a chydweithrediadau rhwng Cymru ac Ewrop. Yn ogystal â dysgu o weddill Ewrop, cyfrannodd Malcolm a Ben at raglen gyffredinol y gynhadledd. Fel arweinydd y gweithgor, cyd-arweiniodd Malcolm weithdy ‘Lleoliadau Gofal Iechyd’ ynghyd â gweithgorau’r ‘Amgylchedd’ a ‘Heneiddio’n Egnïol’ gan gyflwyno adroddiad ar Hybu Gweithgaredd Corfforol mewn lleoliadau Gofal Sylfaenol, yn seiliedig ar lond llaw o astudiaethau achos ar draws Ewrop wedi eu hategu gan chwiliad llenyddiaeth cyflym. Gwahoddwyd Ben fel ymgeisydd terfynol gwobr Seren Ymchwil Dechrau Gyrfa i gyflwyno ei papur o’r enw “Cardio respiratory fitness testing in male steelworkers; a useful addition to their annual workplace medicals?” yn sesiwn grŵp y Gweithle. Ewch i wefan HEPA neu twitter i ganfod mwy.


Fforwm Iechyd Ewropeaidd Gastein Cymerodd Mariana Dyakova a Lauren Ellis ran yng Nghynhadledd Fforwm Iechyd Ewropeaidd Gastein (EHFG) 2016. Cyflwynodd Mariana’r sesiwn ‘Urban environments and NCDs: Engaging multiple stakeholders and sustainable environments to nurture a life free from NCDs’. Tra bod Lauren wedi mynychu gydag ysgoloriaeth broffesiynol, ac yn ogystal â blogio, wedi eistedd ar banel trafod ar Brexit yn amlygu safbwynt Cymru. Ewch i wefan EHFG i ganfod mwy.


Gwyddonydd o Gymru’n cael Cydnabyddiaeth Ryngwladol Mae Dr Lewis White, Prif Wyddonydd yn Labordy Gyfeirio Mycoleg, wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol am ei waith yn 26ain Cyngres Ewropeaidd Microbioleg Clinigol a Chlefydau Heintus (ECCMID) yn Amsterdam. Roedd tri phapur gan Dr Lewis White ymysg y 10 prif bapur Mycoleg Diagnostig, ar ôl cael ei ddethol o gronfa ryngwladol gan adolygiad cymheiriaid annibynnol. Yng nghynhadledd Microbau Cymdeithas Microbioleg America (ASM) yn Boston, roedd gan Lewis bapur arall yn 10 prif bapur Mycoleg Clinigol.Unwaith eto wedi ei ddethol gan adolygiad cymheiriaid annibynnol o lenyddiaeth. Dywedodd yr Athro Rosemary Barnes (Microbiolegydd Ymgynghorol, Microbioleg Iechyd Cyhoeddus Cymru Caerdydd ac Athro Emeritws Microbioleg Meddygol, Prifysgol Caerdydd): “Mae cael tri phapur yn 10 prif bapur Mycoleg Diagnostig a phapur yn 10 prif bapur Mycoleg Clinigol yn nau o’r cynadleddau meddygol mwyaf blaenllaw yn gyflawniad rhagorol i Lewis. Darllenwch yr erthygl lawn yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.


Cyfleoedd

Cyllid Horizon 2020 Cyfarwyddwr Cyffredinol Ymchwil a Datblygu y Comisiwn Ewropeaidd Geiriau allweddol: ymchwil, arloesi Dyddiadau cau: yn benodol i alwadau Ewch i Borth Cyfranogwyr Cyfarwyddwr Cyffredinol Ymchwil am fwy o wybodaeth.


Grantiau Hub Cymru Africa Hub Cymru Africa Geiriau allweddol: Affrica, iechyd, dysgu gydol oes, newid yn yr hinsawdd, bywoliaeth gynaliadwy Dyddiad cau: 6 Rhagfyr 2016 Swm: £25 000 (yn cynnwys £11 000 ar gyfer iechyd) Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei chyhoeddi erbyn 1 Tachwedd ar wefan Hub Cymru Africa.

Cronfa Ymchwil Ffiniau Datblygu ESRC-DFID Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC); Yr Adran Datblygu Rhyngwladol (DFID) Geiriau allweddol: ymchwil, datblygu rhyngwladol, cynaliadwyedd, tlodi, gwrthdaro Dyddiad cau: 26 Ionawr 2017 Gallwch ganfod mwy ar wefan ESRC.


Galwadau Agored Rhaglen Gydweithredu Cymru Iwerddon Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) Geiriau allweddol: arloesi, newid yn yr hinsawdd, cymorth diwylliannol a naturiol, treftadaeth a thwristiaeth. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan WEFO.

Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd Polisi Cydlyniant Rhanbarthol yr Undeb Ewropeaidd Geiriau allweddol: ymchwil, arloesi, cyflogaeth gynaliadwy, ynni adnewyddadwy, datblygu trefol, sgiliau ar gyfer twf Ewch i wefan WEFO am fwy o wybodaeth.

Cronfeydd ECHO Adran Cymorth Dyngarol ac Amddiffyniad Sifil (ECHO) y Comisiwn Ewropeaidd Geiriau allweddol: grantiau, caffaeliad cyhoeddus, cymorth dyngarol, gwirfoddoli dramor, y trydydd sector, yr Undeb Ewropeaidd. Ewch i wefan ECHO am fwy o wybodaeth.


Cyhoeddiadau Mesur y Nodau Datblygu Cynaliadwy sy’n ymwneud ag Iechyd Y Lancet Geiriau allweddol: nodau datblygu cynaliadwy, metrigau iechyd, baich byd-eang clefydau Gallwch ganfod mwy ar wefan y Lancet.

Sustainability Now! Gweledigaeth Ewropeaidd ar gyfer Cynaliadwyedd Comisiwn Ewropeaidd Geiriau allweddol: nodau datblygu cynaliadwy, Ewrop, polisi Gallwch ganfod mwy ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

Cau’r ffiniau: Sgil-effeithiau Polisi Ffoaduriaid Awstralia ac Ewropeaidd Sefydliad Datblygu Dramor (ODI) Geiriau allweddol: mudo, polisi ffoaduriaid, Ewrop, gwledydd datblygol Gallwch ganfod mwy ar wefan ODI.


Creu’r Cyswllt: Mudo, Ffoaduriaid ac Anghenion Iechyd EuroHealthNet Geiriau allweddol: ffoaduriaid, mudo, polisïau, Ewrop Gallwch ganfod mwy ar wefan EuroHealthNet.

Methiant Parhaus i Fynd i’r Afael â’r “Gwarth Cenedlaethol” o Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod Senedd y DU Geiriau allweddol: anffurfio organau cenhedlu benywod, DU, polisi Gallwch ganfod mwy ar wefan Senedd y DU.

Defnydd Darbodus o Gyfryngau Gwrthficrobaidd mewn Meddyginiaeth Ddynol Comisiwn Ewropeaidd Geiriau allweddol: ymwrthedd gwrthficrobaidd, iechyd, Ewrop Gallwch ganfod mwy ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.


Offer ac Adnoddau Fforwm Gwleidyddol Lefel Uchel ar Ddatblygu Cynaliadwy – Adolygiad 2016 Y Cenhedloedd Unedig (CU) Geiriau allweddol: Nodau Datblygu Cynaliadwy, adolygiad cynnydd, adroddiad gwlad Ewch i Lwyfan Gwybodaeth Datblygu Cynaliadwy y CU i ganfod mwy.


Cynadleddau a Digwyddiadau i Ddod Uwchgynhadledd Datblygu Rhyngwladol Cymru Hub Cymru Africa Abertawe, 1 Tachwedd 2016-09-29 Geiriau allweddol: datblygu rhyngwladol, Affrica, Cymru, addysg, cyfathrebu, alltud, masnach deg, iechyd Gallwch ganfod mwy ar wefan Eventbrite.

9fed Cynhadledd Ewropeaidd Iechyd y Cyhoedd Sefydliad Ewropeaidd Cynhadledd Iechyd y Cyhoedd, Cymdeithas Ewropeaidd Iechyd y Cyhoedd (EUPHA); Österreichische Gesellschaft für Public Health Vienna, Awstria, 9 – 12 Tachwedd 2016 Geiriau allweddol: polisi iechyd y cyhoedd, Ewrop, ymchwil, gwasanaethau iechyd, hyfforddiant iechyd Gallwch ganfod mwy ar wefan cynhadledd EPH.


Cyfleoedd arbenigedd Lleoliad Rhaglen Gyfnewid Ewropeaidd HOPE Academi Arweinyddiaeth GIG Geiriau allweddol: Iechyd, trochi, cyfnewid Dyddiad cau: 31 Hydref Gallwch ganfod mwy ar wefan Academi Arweinyddiaeth GIG.

Ymgynghoriad Nodweddion Olrhain a Diogelwch Cynnyrch Tybaco Comisiwn Ewropeaidd Geiriau allweddol: Ewrop, tybaco, system olrhain Dyddiad cau: 4 Tachwedd 2016 Gallwch ganfod mwy ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

Cyfnewid gwybodaeth Partneriaeth Arloesi Ewropeaidd ar Gadwrfa Heneiddio’n Egnïol ac yn Iach Comisiwn Ewropeaidd Geiriau allweddol: arloesi, atebion, gweithredu, atebion, gwybodaeth Gallwch ganfod mwy ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.


Hyfforddiant Gwneud Cais am Gronfeydd DFID a’u Rheoli BOND Geiriau allweddol: cyllid, cais, hyfforddiant, yr Adran Datblygu Rhyngwladol (DFID), Cyrff Anllywodraethol Gallwch ganfod mwy ar wefan BOND.

Codi Arian gan Sefydliadau: Paratoi Cynigion Buddugol BOND Geiriau allweddol: cyllid, cais, hyfforddiant Geiriau allweddol: cyllid, cais, hyfforddiant, Comisiwn Ewropeaidd (CE) Gallwch ganfod mwy ar wefan BOND.

Rheoli Contractau CE ac Adrodd ar Grantiau CE BOND Geiriau allweddol: cyllid, cais, hyfforddiant, Comisiwn Ewropeaidd (CE) Gallwch ganfod mwy ar wefan BOND.


Sefydliadau a Chylchlythyrau Rhyngwladol Connect Cymru Gallwch ganfod mwy am gyfleoedd Gwaith Ieuenctid Rhyngwladol ar wefan newydd Connect Cymru.

Cynnal Cymru Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau, hyfforddiant ac ymgynghoriaeth gan Sustain Cymru trwy ddarllen eu cylchlythyr.

Cylchlythyr Iechyd Byd-eang Wessex I gadw mewn cysylltiad â Rhwydwaith Iechyd Byd-eang Wessex a chael diweddariadau rheolaidd, darllenwch eu diweddariadau wythnosol neu ymunwch er mwyn derbyn eu cylchlythyr ar eu gwefan.

WHO Ewrop Gallwch gael y newyddion diweddaraf am iechyd y cyhoedd ar draws Rhanbarth Ewropeaidd WHO trwy danysgrifio i e-fwletin Ewrop WHO.

Rhwydwaith Rhanbarthau ar gyfer Iechyd Mae’r bwletin hwn yn rhoi gwybodaeth ddiweddar am y gwaith a ddatblygwyd gan rwydwaith RHN WHO. Darllenwch y rhifyn diweddaraf ar wefan RHN.


Panorama WHO Mae Panorama Iechyd y Cyhoedd yn rhoi llwyfan i wyddonwyr ac ymarferwyr iechyd y cyhoedd gyhoeddi’r gwersi a ddysgwyd yn y maes hwn, yn ogystal â gwaith ymchwil gwreiddiol, i hwyluso’r defnydd o dystiolaeth ac arfer da ar gyfer gweithredu ym maes iechyd y cyhoedd.

EuroHealthNet Trwy gyhoeddi ei gylchgrawn, nod EuroHealthNet yw esbonio’i brosiectau, ei amcanion a’i ffyrdd o weithio. Ewch i wefan cylchgrawn EuroHealthNet i ganfod mwy.

Awdurdodau Iechyd Rhanbarthol a Lleol Ewrop (EUREGHA) Mae EUREGHA yn rhwydwaith o 14 o Awdurdodau Iechyd Rhanbarthol a Lleol Ewropeaidd sydd yn canolbwyntio ar iechyd a gofal iechyd. Darllenwch y newyddion diweddaraf ar wefan EUREGHA.

Comisiwn Ewropeaidd: SANTE Health-EU Gallwch weld cylchlythyr SANTE Health EU ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd am wybodaeth am, Newyddion o’r UE, Datganiadau i’r Wasg am yr UE, Gwobr Iechyd yr UE ar gyfer Cyrff Anllywodraethol, Digwyddiadau i ddod, Cyhoeddiadau newydd ac Adroddiadau ar draws Ewrop.

Cymdeithas Ewropeaidd Iechyd y Cyhoedd (EUPHA) Mae’r rhifyn diweddaraf o gylchlythyr EUPHA, ar gael ar eu gwefan, yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am Iechyd y Cyhoedd, yn cynnwys digwyddiadau i ddod, cyfleoedd a newyddion gan ei Aelodau.


Partneriaeth Arloesi Ewropeaidd ar Heneiddio’n Egnïol ac yn Iach Darllenwch y cylchlythyr diweddaraf ar Heneiddio’n Egnïol ac yn Iach ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

Conffederasiwn y GIG Mae Conffederasiwn y GIG yn cynnig amrywiaeth o gylchlythyrau y gellir tanysgrifio iddynt trwy gofrestru ar eu gwefan.

Conffederasiwn GIG Ewrop Mae e-fwletin Swyddfa Ewropeaidd Conffederasiwn y GIG yn eich hysbysu am bolisi, cyllid a rhannu gwybodaeth.

Horizon 2020 WEFO Wedi ei roi gyda’i gilydd ar eich cyfer chi gan Uned Horizon 2020 Llywodraeth Cymru, mae e-Newyddion Horizon 2020 yn grynhoad rheolaidd o wybodaeth ddefnyddiol ar gyfer cymuned Horizon 2020 yng Nghymru. I danysgrifio, anfonwch ebost i flwch postio Horizon 2020. Neu am fwy o wybodaeth ewch i wefan Horizon 2020 WEFO.


Cysylltu â Ni E-bost International.health@wales.nhs.uk Ffôn 02920 104 459 Swydd International Health Coordination Centre c/o Public Health Wales Capital Quarter 2 Tyndall Way Cardiff CF10 4BZ Gwefan www.internationalhealth.nhs.uk

_

Twitter @IHCCWales


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.