Taflu goleuni ar Iechyd Dynion Spotlight on Men's Health
Mai 2016 May 2016
Cynnwys Contents Croeso/Welcome
2
Taflu goleuni ar Iechyd Dynion/Spotlight on Men's Health 3-9 Creu'r Cysylltiadau/Creating Connections
10-11
Pynciau llosg/The Grapevine
12-17
Crynodeb o’r Newyddion/News Roundup
18
Beth sy’n digwydd/What's going on
19
Cysylltwch â Ni/Contact Us
20
Croeso Welcome
C
roeso i rifyn mis Mai o E-fwletin Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd y mis yma yn fersiwn cryno o'r e-fwletin am ein bod wedi bod yn brysur yn croesawu ein haelodau yn Nigwyddiadau Creu Cysylltiadau! Rydym yn achub ar y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr holl ddigwyddiadau, a gobeithio y bydd gennym yr holl adborth a'r newidiadau i'w hystyried dros y mis nesaf, ac y byddwch yn gweld newidiadau'n cael eu gwneud i'r wefan a'r e-fwletinau i adlewyrchu hyn. Mae'r mis yma'n taflu goleuni ar iechyd dynion, mewn pryd ar gyfer Mis Iechyd Dynion a Sul y Tadau. Mae dynion a menywod yn rhannu llawer o bryderon iechyd, ond mae llawer o wahaniaethau wrth gwrs rhwng y rhywiau, a materion iechyd y mae dynion yn eu hwynebu yn fwy na menywod. Dangoswyd yn ddiweddar bod cyfraddau hunanladdiad ymysg dynion yng Nghymru wedi codi 23% yn y DU, gyda 2013 ar ei gyfradd uchaf er 2001. Mae canser y prostad hefyd ymysg y canser sydd â'r cyfraddau diagnosis uchaf ymysg Dynion yn y DU. Yn yr e-fwletin hwn mae gennym erthyglau gan aelodau o'n Bwrdd Cynghori, "Beth am y dynion hšn hynaf" Margaret Hanson a sesiwn Holi ac Ateb gan Edna Astbury-Ward.
W
elcome to the May edition of the Public Health Network Cymru Ebulletin. Apologies for this slightly late and condensed issue, we have been very busy visiting our members and potential new members across Wales in our Creating Connections Events! We are currently collating all of the great ideas and feedback received from these events and will take these into account, so keep an eye out over the next few months for changes Tip! being made to the website and ebulletin. The spotlight this month centres around mens health, just in time for Men's Health Month and Fathers Day. Men and women share many health concerns, but there are of course many differences between sexes, and health issues that men face more than women. Male suicides in Wales were recently shown to have risen by 23% in the Tip! UK, with 2013 at it's highest rate since 2001. Prostate cancer is also the most commonly diagnosed cancer in Men in the UK. Within this ebulletin we have articles from members of our Advisory Board, "What about the oldest old men", Margaret Hanson and a Q&A from Edna Astbury-Ward.
Taflu goleuni ar Iechyd Dynion Spotlight on Men's Health Prifysgol Durham yn mapio Pencampwriaethau Iechyd Ewrop Duraham University map the European Health Championships
M
ae Prifysgol Durham wedi dadansoddi disgwyliad oes dynion o'r gwl dydd sy'n cymryd rhan yn nhwrnament pêl-droed Ewrop yr haf hwn. Mae'r ymchwil yn dangos bod rhaniadau iechyd enfawr rhwng gwledydd cyfoethog Ewrop. O rownd 16 ymlaen, sgoriodd Bencampwriaeth Iechyd Ewrop dîm pêl-droed pob gwlad yn seiliedig ar ddisgwyliad oes dynion y wlad ar gyfer 2013. Cafodd Cymru a Gogledd Iwerddon eu bwrw allan yn y rownd gyntaf, a chafodd Lloegr eu bwrw allan yn y Chwarteri. Daeth Lloegr i frig y grŵp trwy guro Rwsia (63 mlynedd), Slofacia (disgwyliad oes o 72 mlynedd), a Chymru (78 mlynedd). Y Swistir yw'r pencampwyr am y tro cyntaf yn hanes y gystadleuaeth, yn curo Gwlad ir Iâ o drwch blewyn trwy giciau cosb yn y ffeinal.
D
urham University has analyised the life expectancy of men from the countries taking part in this summers European football tournement. The research demonstrates that there are huge health divides across europe.
From round 16 onwards, the European Health Chamionship scored each nation's football team based on the country's male life expectancy at birth for 2013. Wales and Northern Ireland were knocked out in the first round, and England were knocked out in the quarter finals. England narrowly topped the group by beating Russia (63 years), Slovakia (72 years life expectancy), and Wales (78 years). Switzerland would walk away as champions for the first time in the competiton's history, narrowly beating Iceland on penalities in the final.
M
ae'r ymchwil sylfaenol ar anghydraddoldebau iechyd yn rhan o brosiect rhyngwladol o dan arweiniad Prifysgol Durham o'r enw HiNews, sydd yn ceisio danrganfod pam y mae'r anghydraddoldebau hyn yn parhau mewn gwledydd Ewropeaidd a'r hyn y gellir ei wneud i'w lleihau. Mae hefyd wedi ei gynnwys mewn llyfr newydd gan ymchwilydd blaenllaw, yr Athro Clare Bambra, o'r enw "Health divides: where you live can kill you" fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Awst. Dywedodd Caroline Costongs, Rheolwr-gyfarwyddwr EuroHealthNet: "Mae Pencampwriaeth Iechyd Ewrop yn amlwg yn dangos mai dim ond trwy ddiogelu a hybu iechyd pawb y gallwn ennill. Er mwyn bod yn gystadleuol ym maes pêl-droed, neu yn fwy cyffredinol mewn unrhyw ymgais yn Ewrop, mae angen i ni sicrhau iechyd a lles pawb a pheidio gadael unrhyw berson ar ôl. Mae timau cryf a chadarn yn gwneud yn well ac yn ôl tystiolaeth, mae buddsoddi i leihau anghydraddoldebau yn talu ar ei ganfed. Mae EuroHealthNet, fel Partneriaeth Ewropeaidd flaenllaw yn y maes hwn, yn ganolog i gyfnewid a chefnogi polisiau a gweithredoedd i wella iechyd, tegwch a lles ar lefel yr UE yn ogystal ag o fewn gwledydd." Ariennir HiNews gan Gydweithrediaeth Asiantaeth Cyfleoedd Newydd ar gyfer Ariannu Ymchwil yn Ewrop (NORFACE) sydd yn bartneriaeth o gynghorau ymchwil Ewropeaidd yn cynnwys y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).
T
he underlying research on the health inqualities is part of an international project led by Durham University, called HiNews, which is aiming to find out why these inqualities persist in European countries and what can be done to reduce them. It also features in a new book by lead researcher, Professor Clare Bambra, called "Health Divides: Where You Live Can Kill You" which is due to be released in August. Caroline Costongs, Managing Director of EuroHealthNet, commented: "This European Health Chamionship clearly demonstrates that we can only win by protecting and promoting the health of all. In order to be competitive in fooball, or more generally in any endeavor in Europe, we need to ensure the health and wellbeing of everyone and to not leave any people behind. Strong and resilient teams do better and evidence tells us that investin in the recution of inequalities pays off. EuroHealthNet, as the leading European Partnership in this area, is at center field exchanging and supporting policies and actions to improve health, equity and wellbeing at EU level as well as within countries." HiNews is funded by New Opportunities for Research Funding Agency Co-operation in Europe (NORFACE), a partnership of European research councils including the Economic and Social Research Council (ESRC).
Darn Safbwynt: Mae Beth am y dynion hŷn hynaf? Gan Margaret Hanson, Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru aelod o fwrdd Opinion Piece: What About The Oldest Old Men? By Margaret Hanson, Public Health Network Cymru Board Member
W
edi gweithio gyda phobl hŷn am y rhan fwyaf o'm gyrfa. Ond mae fy ymchwil gyda dynion hŷn ond yn mynd yn ôl bum mlynedd. Dechreuais trwy edrych ar hybu iechyd ac effaith heneiddio'n egnïol ar ddynion, cyn symud ymlaen y llynedd i wneud ymchwil ar greu lles gyda dynion dros 85. Rwyf wedi dechrau sylweddoli bod pobl hŷn yn gyffredinol, a dynion yn arbennig, yn cael bargen wael o ran ymchwil ynghylch sut i hybu eu hiechyd a'u lles. Mae pobl hŷn fel cyfranogwyr ymchwil yn tueddu i fod yn fenywaidd. Mae dynion fel arfer y cael eu cynnwys naill ai fel dynion heterorywiol o'r grŵp homogenaidd o 'bobl hŷn', neu fel aelodau o'r cymunedau LGBT neu BME. Mae Strategaeth Pobl Hŷn yng Nghymru hyd yn oed yn methu gwahaniaethu rhwng anghenion gwahanol y rhywiau wrth iddynt heneiddio. Nid oes llawer o ymdrech wedi cael ei wneud i ddeall y profiad gwrywaidd o heneiddio yn yr 21ain ganrif. Pe byddai, efallai y byddai'n bosibl hybu iechyd a lles dynion hŷn mewn ffordd sy'n dderbyniol iddynt ac sy'n gweithio. Ond yr ateb syml yw: nid ydym yn gwybod sut i wneud hyn mewn gwirionedd, am nad ydym wedi gofyn ac nid ydym wedi gwrando. Ac nid yw dynion, sydd braidd yn ddi-ddweud fel rheol o ran materion iechyd a lles, yn siarad.
I
have worked with older people for most of my career. But my research with older men only goes back five years. I started by looking at health promotion and the impact of active ageing on men, before moving last year to research the creation of wellbeing with men over 85. I have come to realise that older people in general, and men in particular, get a raw deal when it comes to research into how to promote their health and wellbeing. Older people as research participants tend to be female. Men are usually included either as straight members of the homogenous group of ‘older people’, or as members of the LGBT or BME communities. Even the Older People’s Strategy in Wales fails to distinguish between the genders’ different needs as they age. Very little effort has gone into understanding the male experience of ageing in the 21st century. If it had, it might be possible to promote older men’s health and wellbeing in a way that is acceptable to them and actually works. But the simple answer is: we do not really know how to do this, because we have not asked and we have not listened. And men, being rather reticent as a rule when it comes to matters of health and wellbeing, are not talking.
P
am mae hyn yn bwysig? Efallai eich bod yn dal i ystyried henaint ar ei ffurf draddodiadol, fel profiad cwbl fenywaidd, heb newid llawer dros filenia. Ac roedd hynny yn wir. Fodd bynnag, mae cyfansoddiad heniant o ran rhyw wedi newid yn gyflym er 2001, yn arbennig ymysg pobl dros 85 oed. Mae'r bwlch rhwng y rhywiau yn cau, gyda Chymru a Lloegr yn mlaenllaw yn y duedd fyd-eang hon. Yn ôl yn 2001, y gymhareb o'r menywod hynaf i'r dynion hynaf yng Nghymru a Lloegr oedd 9:1. Erbyn 2011, roedd y bwlch yn 5:1. Fodd bynnag, nid yw hyn yn cael ei gydnabod yn helaeth. O ystyried amcangy frifon y bydd y boblogaeth hynaf sy'n hen yn bwrw 3.6 miliwn erbyn 2039, llawer ohonynt yn ddynion, daw'r angen i newid yn glir. Heb newid y ffordd y mae cymdeithas yn eu deall, bydd y dynion hynaf hyn yn dibynnu ar wasanaethau wedi eu priodoli i fodloni anghenion menywod, sy'n byw mewn mannau cyhoeddus a phreifat wedi eu dylunio o amgylch y ffyrdd y mae menywod yn trefnu eu hunain. Nid oes dealltwriaeth dda o effaith hyn ar eu hunanreolaeth, gyda'i effaith ar eu hiechyd a'u lles. Yr un mor bwysig, bydd y dynion hŷn hynaf hyn yn derbyn gofal gan fenywod yn bennaf, ond yn fwyaf anffurfiol gan aelodau o'r teulu. Os nad ydym yn hybu iechyd a lles dynion hynaf yn effeithiol, bydd gan y gofalwyr hynny waith llawer caletach i'w wneud am lawer hwy. Felly rwy'n credu bod yr amser wedi dod i'r gymuned iechyd y cyhoedd yng Nghymru eirioli i iechyd a lles y dynion hŷn hynaf i gael lle yn fframwaith Heneiddio'n Dda yng Nghymru. Fel ymarferwyr iechyd y cyhoedd neu academyddion, mae gennym ddyletswydd moesol i hybu iechyd a lles pawb yn deg. Ni ddylem anwybyddu anghenion y dynion hynaf. Mae angen ymchwil ar frys.
W
hy does this matter? You may still think of older age in its traditional form, as a wholly feminine experience, changing little over millennia. And that was true. However, the gender composition of older age has shifted rapidly since 2001, particularly in the over 85s. The gender gap is closing, with England and Wales at the forefront of this global trend. Back in 2001, the ratio of oldest women to oldest men in England and Wales was 9:1. By 2011, the gap stood at 5:1. However, this is not widely recognised. Given estimates that the oldest old population will hit 3.6 million by 2039, many of whom will be men, the imperative to change becomes clear. Without change in how society understands them, these oldest men will rely on services predicated upon meeting the needs of women, living in public and private spaces designed around the ways in which women organise themselves The impact of this on their autonomy, with its effects on their health and wellbeing, is not well understood. Just as importantly, these oldest old men will be predominantly cared for by women, some professionally, but most informally by family members. If we do not promote oldest men’s health and wellbeing effectively, those carers will have a much harder job for a lot longer. So I believe the time has come for the public health community in Wales to advocate for the oldest old men’s health and wellbeing to be given a place in the Ageing Well in Wales Framework. As public health practitioners or academics, we have an ethical duty to promote equitably the health and wellbeing of all. We should not ignore the needs of oldest men. Research is urgently needed.
Gall ymwybyddiaeth o iechyd dynion wedi torri cyfraddau Dementia
E
H
Men's health awareness may have cut Dementia rates fallai fod ymwybyddiaeth o iechyd dynion wedi lleihau cyfraddau dementia , gallai "dynion newydd" sy'n ymwybodol o gadw'n iach fod yn bennaf gyfrifol am ostyngiad dramatig yng nghyfraddau Alzheimer a mathau eraill o ddementia dros yr 20 mlynedd diwethaf, yn ôl ymchwil. Er gwaethaf pryderon o "tsunami" dementia wrth i bobl fyw'n hwy a mynd yn fwy agored i'r clefyd sy'n dinistrio'r ymennydd, mae nifer yr achosion o'r cyflwr wedi gostwng o bumed yn Lloegr. O ganlyniad, credir bod 40,000 yn llai o achosio newydd o ddementia bob blwyddyn yn y DU nag y byddai wedi bod pe byddai'r duedd a welwyd dau ddegawd yn ôl wedi parhau. Mae'r gwelliant wedi ei lywio gan ddynion, mae gwyddonwyr wedi canfod - ond mae pam yn dal yn gwestiwn heb ei ateb. Un posibilrwydd, sy'n cael ei gydnabod gan yr ymchwilwyr, allai fod bod dynion wedi dod yn well yn gofalu ar ôl eu hunain. Mae llai o ddynion yn smygu heddiw, a chredir bod eu calonnau a'u rhydwelïau mewn cyflwr gwell, er bod lefelau gordewdra yn dal yn uchel. Gallai addysg gwell, newidiadau i ddeiet a mwy o ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ymarfer corff fod yn ffactorau cyfrannol. Dywedodd yr Athro Carol Brayne, cyfarwyddwr y Sefydliad Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol Caergrawnt, a gydarweiniodd yr astudiaeth: "Gall y pethau hynny fod yn chwarae rôl. Rwy'n gwybod bod eraill wedi awgrymu bod dynion yn dod ychydig yn debycach i fenywod o ran eu patrymau iechyd." Mae'r canfyddiadau, a nodir yn y cyfnodolyn Nature Communications, o'r Astudiaeth Gweithrediad Gwybyddol a Heneiddio (CFAS) oedd yn canolbwyntio ar dri rhanbarth economaidd gynrychioliadol o Loegr, Swydd Gaergrawnt gefnog a Newcastle a Nottingham sy'n llai cefnog. Rhwng 1991 a 1994, asesodd ymchwilwyr 7,500 o ddynion a menywod 65 oed ac yn hŷn a chynhaliwyd ail gyfweliadau ddwy flynedd yn ddiweddarach i fesur nifer yr achosion o ddementia . Dau ddegawd yn ddiweddarach, ailadroddwyd y broses gyda grŵp newydd o'r un nifer o gyfranogwyr yn fras. Dangosodd y canlyniadau bod pob math o ddementia wedi gostwng 20% rhwng y ddau ddyddiad, ond arhosodd nifer yr achosion o fenywod heb newid llawer. Cafodd y gwelliant ei ysgogi gan ostyngiad yng nghyfran y dynion o bob oed sy'n datblygu'r cyflwr.
ealth-conscious "new men" may be largely responsible for a dramatic reduction in rates of Alzheimer's and other forms of dementia over the past 20 years, research suggests.
Despite fears of a dementia "tsunami" as people live longer and become more vulnerable to the devastating brain disease, incidence of the condition has fallen by a fifth in England. As a result, there are thought to be 40,000 fewer new cases of dementia each year in the UK than there would have been had the trend seen two decades ago continued. The improvement is almost entirely driven by men, scientists discovered, but why remains an unanswered question. One possibility, recognised by researchers, could be that men have become better at looking after themselves. Fewer men smoke today, and their hearts and arteries are believed to be in better shape, even though obesity levels remain high. Better education, changes in diet and more awareness of the importance of exercise may also be contributing factors. Professor Carol Brayne, director of the Institute of Public Health at Cambridge University, who co-led the study, said: "It may be that those things are playing a role. I know that others have suggested that men are becoming a bit more like women in terms of their health patterns." The findings, reported in the Journal of Nature Communications, are from the Cognitive Function and Ageing Study (CFAS) which focused on three economically representative regions of England, affluent Cambridgeshire and less well off Newcastle and Nottingham. Between 1991 and 1994, researchers assessed 7,500 men and women aged 65 and over and conducted repeat interviews two years later to measure dementia incidence. Two decades later, the process was repeated with a new group of roughly the same number of participants. The results showed that rates of all kinds of dementia had fallen by 20% between the two dates, but women's incidence remained almost unchanged. The improvement was driven by a reduction in the proportion of men of all ages developing the condition.
O
'r canfyddiadau hyn, mae'r gwyddonwyr yn amcangyfrif yn y DU bod ychydig o dan 210,000 o achosion newydd o ddementia bob blwyddyn, 74,000 o ddynion a 135,000 o fenywod. Byddai rhagfynegiad yn seiliedig ar nifer yr achosion cynharach wedi rhagweld 250,000 o achosion newydd. Dywedodd yr Athro Brayne: "Mae ein canfyddiadau yn awgrymu bod iechyd yr ymennydd yn gwella'n sylweddol yn y DU ar draws y cenedlaethau, yn arbennig ymysg dynion, ond bod amddifadedd yn dal i roi pobl o dan anfantais. "Mae'r DU mewn oesoedd cynt wedi gweld buddsoddiadau cymdeithasol sylweddol i wella iechyd y boblogaeth ac ymddengys bod hyn yn helpu i amddyffyn pobl hšn rhag dementia . Mae'n hanfodol bod polisïau yn ystyried buddion hirdymor posibl." Pwysleisiodd y cyd-awdur, yr Athro Fiona Matthews, o'r Sefydliad Iechyd a Chymdeithas ym Mhrifysgol Newcastle ac Uned Bioystadegau y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC), Caergrawnt, fod y mesurau iechyd y cyhoedd sydd wedi eu hanelu at leihau perygl pobl o ddementia yn "hanfodol" ac o bosibl yn fwy cost effeithiol na chanfod a thrin yn gynnar. Ychwanegodd: "Mae ein canfyddiadau yn cefnogi dull iechyd y cyhoedd ar gyfer atal dementia yn yr hirdymor, er nad yw hyn yn amlwg yn lleihau'r angen am ddulliau amgen ar gyfer grwpiau sydd mewn perygl ac ar gyfer y rheiny sy'n datblygu dementia ." I ddarllen mwy, ewch i Wefan y South Wales Guardian.
E
xtrapolating from the findings, the scientists estimate that in the UK there are just under 210,000 new cases of dementia each year, 74,000 men and 135,000 women. A prediction based on the earlier incidence rates would have anticipated 250,000 new cases.
Professor Brayne said: "Our findings suggest that brain health is improving significantly in the UK across generations, particularly among men, but that deprivation is still putting people at a disadvantage. "The UK in earlier eras has seen major societal investments into improving population health and this appears to be helping protect older people from dementia . It is vital that policies take potential long-term benefits into account." Co-author Professor Fiona Matthews, from the Institute of Health and Society at the University of Newcastle and the Medical Research Council (MRC) Biostatistics Unit, Cambridge, stressed that public health measures aimed at reducing people's risk of dementia were "vital" and potentially more cost-effective than early detection and treatment. She added: "Our findings support a public health approach for long-term dementia prevention, although clearly this does not reduce the need for alternative approaches for at-risk groups and for those who develop dementia ." To continue reading, please visit the South Wales Guardian Website.
Creu’r Cysylltiadau Creating Connections
R
ydym wedi cael mis prysur yn ymweld ag aelodau'r rhwydwaith dros Gymru gyfan. Cafwyd 7 digwyddiad i gyd, ac rydym wedi cyfarfod â bron 200 o aelodau, hen a newydd. Rydym wedi cael llawer o syniadau gwych yn ymwneud â symud y rhwydwaith yn ei flaen, a pha gyfeiriadau i fynd o ran hyfforddiant, digwyddiadau, ymgysylltu ar-lein a'r cyfeiriadur arfer da. Bydd y wybodaeth yma bellach yn cael ei chydgrynhoi a byddwch yn gweld yr awgrymiadau hyn yn cael eu gweithredu yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf. Bydd adroddiad gwerthuso'n cael ei gyhoeddi trwy ein gwefan. Hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'n haelodau a fynychodd a rhoi llawer o adborth gwych i ni.
W
e had a busy month visiting our network members all over Wales. With 7 events in total, and in nearly 200 members, old and new. We have been given lots of great ideas around moving the network forward, and what directions to take with training, events, online engagement and the Good Practice Directory. This information is now going to be brought together and you will see these suggestions being implemented through-out the next few months. An evalulation of the events will be published via our website. We would like to take this opportunity to thank our members who attended and gave us such valuable feedback.
Merthyr Tydfil Merthyr Tydfil
Pynciau llosg The Grapevine Wrth Law: Edna Astbury-Ward
C
On the Spot: Edna Astbury-Ward
roeso i'n 2il rifyn o Yn y Fan a'r Lle, ein sesiwn Holi ac Ateb misol gyda'n Bwrdd Cynghori. Y mis yma mae gennym Edna Astbury-Ward, Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Glyndŵr yn y fan a'r lle.
Beth yw eich maes arbenigedd chi?
Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol, yn arbennig erthyliad, y menopos, dulliau atal cenhedlu a thrafferthion rhywiol yn arbennig trafferthion ymgodol.
Pam oeddech chi eisiau ymuno â grŵp cynghori PHNC?
Mae gennyf dros ddeng mlynedd ar hugain o brofiad eang a hyfforddiant mewn Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol ac roeddwn eisiau gallu rhannu fy arbenigedd a'm gwybodaeth gyda grŵp eang ac amrywiol o bobl, y tu hwnt i ddarparwyr gofal iechyd traddodiadol. Roeddwn hefyd eisiau dysgu oddi wrth arbenigwyr eraill mewn meysydd gwahanol i fy maes i. Rwy'n credu ei fod yn arbennig o bwysig ym maes iechyd rhywiol am fod rhannu gwybodaeth yn eang yn hysbysu pobl eraill ac yn helpu i leihau'r stigma sydd mor aml yn gysylltiedig â llawer o faterion yn ymwneud ag iechyd rhywiol (yn arbennig stigma sy'n gysylltiedig ag erthyliad)
Beth yn eich barn chi fydd yr heriau i'r Grŵp Cynghori?
Rhoi gwybodaeth glir a hygyrch ar fformatiau sy'n hawdd eu deall. Rydym yn cael cymaint o negeseuon iechyd yn sawl cornel o'n bywydau. Weithiau mae'n anodd i'r cyhoedd wybod a oes gan yr hyn y maent yn ei ddarllen unrhyw werth neu bwysigrwydd iddyn nhw.
Gan edrych ymlaen 10 mlynedd, beth yn eich barn chi fydd y prif heriau iechyd i bobl Gogledd Cymru?
Lleihau lefelau clefydau sy'n gysylltiedig â smygu, alcohol, gordewdra ac effaith bywydau eisteddog.
W
elcome to our 2nd edition of 'On the Spot', your monthly Q&A with our Advisory Group. This month we have Edna Astbury-Ward, Senior Lecturer at Glyndwr University on the spot.
What is your area of expertise?
Sexual and Reproductive Health, in particular abortion, menopause, contraception and sexual dysfunctions, particularly erectile dysfunction.
Why did you want to join the PHNC Advisory Group?
I have over thirty years broad experience and training in Sexual and Reproductive Health and I wanted to be able to share my expertise and knowledge with a wide and diverse group of people, beyond the traditional health care providers. I also wanted to learn from other experts in different fields to mine. I think it is especially important in sexual health as sharing knowledge and information widely, informs others and helps to reduce the stigma which is so often associated with many issues around sexual health (especially abortion related stigma)
What do you perceive the challenges will be for the Advisory Group?
To provide clear and accessible information in easily understood formats, we are bombarded with so many health messages into many corners of our lives, sometimes it is difficult for the general public to know whether what they are reading actually has any value or importance to them.
Looking forward 10 years, what do you think will be the key health challenges for the people of North Wales? Reductions in levels of smoking, alcohol, obesity related disease and the impact of sedentary lives.
Mae'r e-fwletin y mis yma'n amlygu iechyd dynion. Beth yn eich barn chi yw'r neges iechyd y cyhoedd bwysicaf y dylid ei chyfleu yn ystod Mis Iechyd Dynion?
Yn draddodiadol, mae dynion bob amser wedi bod yn fwy amharod na menywod i gael mynediad i ofal iechyd ac o ganlyniad, ar gyfartaledd, maent yn marw ynghynt o salwch y gellir ei atal am eu bod yn llai tebygol na menywod o gydnabod salwch neu gael cymorth pan fyddant yn sâl. Yr hyn sy'n peri'r pryder mwyaf yw cyfraddau hunanladdiad ymysg dynion sydd bron dair gwaith yn uwch ar 18.2 o farwolaethau ymysg dynion o'i gymharu â 5.2 o farwolaethau ymysg menywod fesul 100,000 o'r boblogaeth, gyda'r gyfradd uchaf ymysg dynion 40 i 44. Mae'n rhaid i ni wneud mwy i geisio pwysleisio'r neges i ddynion , nad yw cael cymorth ar gyfer salwch, p'un a'i un meddyliol neu gorfforol, yn eich gwneud yn llai o ddyn!
Pa awgrymiadau fyddech chi'n eu rhoi i'n haelodau i hybu iechyd dynion?
Byddwch yn greadigol am y ffyrdd y gallwn ymgysylltu dynion i fod yn gyfrifol am eu hiechyd eu hunain, meddyliwch ble a sut y gallwn gael gafael ar ddynion at ddibenion addysg iechyd, fel digwyddiadau chwaraeon.
Pe byddech yn cael 3 dymuniad, beth fydden nhw?
Dileu stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd rhywiol a phroblemau iechyd meddwl. Cynyddu nifer y Nyrsys a'r Meddygon wedi eu hyfforddi ar gyfer y cartref yn y GIG. Nad oes rhaid i gleifion yng Nghymru deithio allan o Gymru i gael y gofal sydd ei angen arnynt
Beth yw eich diddordebau personol?
Dylunio mewnol ac ailfodelu cartrefi (yn derbyn comisiynau!).
This month’s ebulletin spotlights men’s health, What do you think is the most important public health message that should be conveyed in Men's Health Month?
Men traditionally have always been more reluctant than women to access health care and as a result, on average die earlier from preventable illnesses because they are less likely than women to acknowledge illness or to seek help when sick. Particularly worrying is the male suicide rates which are more than three times higher at 18.2 male deaths compared with 5.2 female deaths per 100,000 population. With the highest rate is among men aged 40 to 44. We must do more to bring the message home to men that seeking help for an illness, whether that be mental or physical does not make you less of a man!
What tips would you give our members to help actively promote men’s health? Be creative in your thinking about ways in which we can engage men to be actively responsible for their own health, think about where and how we can access men for the purposes of health education, such as sporting events.
If you were granted 3 wishes what would they be?
Remove stigma surrounding sexual health and mental health problems. Increase in numbers of home trained Nurses and Doctors in the NHS. Welsh patients did not have to travel out of Wales to access the care they need.
What are your personal interests?
Interior design and house remodeling (commissions taken!).
Coleg Pen-y-bont ar Ogwr: Cynhadledd Gwella Iechyd Meddwl Dynion yng Nghymru 15 Mehefin 2016 8:45-16:00 Theatr Sony, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr Bridgend College: Improving Men's Mental Health in Wales Conference 15th June 2016 8:45-16:00 Sony Theatre, Bridgend College Ni yw'r unig gynhadledd Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Nghymru.
ar gyfer Dynion yng
Eleni, lleoliad ein prif gynhadledd yw Theatr Sony yng nghanol Prif Gampws Coleg Pen-y-bont. Mae Coleg Pen-y-bont yn Goleg Addysg Bellach (AB) sy'n cefnogi dros 6,000 o ddysgwyr ac yn cyflogi dros 600 o aelodau o staff ar draws ei bum campws ym Mhen-y-bont, Pencoed, Heol y Frenhines, Maesteg a Chaerdydd. Engage Training yw'r gyfarwyddiaeth sy'n wynebu tuag allan ac yn canolbwyntio ar fusnes yng Ngholeg Pen-y-bont, wedi ei leoli yn Nhŷ Morien ar Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'r siaradwyr yn cynnwys: Tim Rhys Evans MBE. Mae Tim Rhys-Evans o Only Men Aloud wedi datgelu ei frwydr dros gyfnod hir gyda salwch meddwl, a arweiniodd ato'n cael ei dderbyn i'r ysbyty dair blynedd yn ôl. Mark Williams Reaching Out PMH, Tad Ysbrydoledig y Flwyddyn ac Arwr Lleol Pride of Britain 2012. Mae Mark wedi siarad ar Deledu a Radio Cenedlaethol. Ar ôl i'w iechyd fethu yn 2011, sefydlodd Fathers Reaching Out for fathers with Perinatal Mental Health illness. Mark Smith Sylfeinydd “Making Minds” sydd yn sefydliad cymunedol wedi ei leoli yng Nghymru sy'n hyrwyddo ac yn archwilio swyddogaeth celf a dawn greadigol mewn iechyd meddwl. Dr Phil Cooper State Of Mind. Cyflwyno rhaglen Salwch Meddwl effeithiol i ddynion. Cafodd rhaglen Rygbi Cynghrair a'r Undeb STATE OF MIND ei sefydlu yn 2013 gyda'r nod o wella iechyd meddwl, lles a bywyd gwaith chwaraewyr a chymunedau rygbi'r undeb.
We’re the only conference for Men's Mental Health Awareness in Wales. This year, our main conference venue is the Sony Theatre. In the Heart of Bridgend College Main Campus. Bridgend College is a Further Education (FE) College supporting over 6,000 learners and employing over 600 members of staff across its five campuses at Bridgend, Pencoed, Queens Road, Maesteg and Cardiff. Engage Training is the business focused and externally facing directorate of Bridgend College, based at Morien House on Bridgend Industrial Estate. Speakers Include: Tim Rhys Evans MBE Only Men Aloud’s Tim Rhys-Evans has revealed his long struggle with mental illness, which led to him being hospitalised three years ago. Mark Williams Reaching Out PMH, Inspirational Father of the Year and Local Hero Pride of Britain 2012. Mark has spoken on National Television and Radio. After a breakdown in 2011, he set up Fathers Reaching Out for fathers with Perinatal Mental Health illness. Mark Smith Founder of “Making Minds” which is a community organisation based in Wales that promotes and explores the role of art and creativity in mental health. Dr Phil Cooper State Of Mind. Delivering an effective programme of Mental Health for men. The STATE OF MIND Rugby league and Union programme was established in 2013 with the aim of improving the mental health, wellbeing and working life of rugby union players and communities
Tom Morgan Chwaraewr Rygbi o Scorpions RLFC De Cymru. Mae Tom wedi ymddangos ar y teledu ac yn ddiweddar ar “Loose Women” am ymwybyddiaeth o ADHD ac Awtistiaeth oedd yn effeithio ar ei gynnydd ym myd chwaraeon.
Tom Morgan Rugby Player from South Wales Scorpions RLFC. Tom has appeared on television and recently “Loose Women” about awareness of ADHD and Autism which affected his progress in the world of sport.
Antony Metcalfe Amser i Newid Cymru yw'r ymgyrch Cymru Gyfan cyntaf sy'n ceisio dileu stigma a gwahaniaethu yn erbyn pobl â phrofiad o drallod meddwl. Caiff ei gyflwyno mewn partneriaeth â Mind, Gofal a Hafal ac mae'n gweithredu ar draws Cymru.
Antony Metcalfe Time to Change Wales is the first all Wales campaign that aims to eradicate the stigma and discrimination against people with experience of mental distress. It is delivered in partnership with Mind, Gofal and Hafal and operates across Wales.
Colin Dolan Sylfeinydd Mental Health Football UK: Cafodd Colin Dlws Torch ac mae wedi ysbrydoli pobl ar draws y DU gyda'i stori ei hun. Mae Mental Health Football UK yn tyfu bob blwyddyn ac mae'n defnyddio pêl-droed fel ffordd o helpu pobl eraill â Salwch Iechyd Meddwl. Andrew Hall Mae Andrew yn hyfforddwr gydag Ymddiriedolaeth Goffa Charlie Waller, elusen a sefydlwyd er cof am Charlie Waller, a gymerodd ei fywyd ei hun ar ôl brwydr yn erbyn iselder. Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad hwn, ewch i wefan Coleg Pen-y-bont.
Colin Dolan Founder Mental Health Football UK: Colin was awarded the Torch Trophy and has inspired people around the UK about his own story. Mental Health Football UK is growing each year and using football as a way to help others with Mental Health Illness. Andrew Hall Andrew is a trainer with the Charlie Waller Memorial Trust, a charity set up in memory of Charlie Waller, who tragically took his own life after a battle with depression. For further information on this event, please visit the Bridgend College website.
Ein Gofod: Cyfle i Fenter Gymdeithasol
M
P
Our Space: Social Enterprise Opportunity
ae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gorff statudol o'r GIG sy'n gyfrifol am wella iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Ym mis Medi 2016, mae'n adleoli dros 550 o'i staff o wyth lleoliad ledled De Ddwyrain Cymru i pedwar llawr yn 2 Capital Quarter, Tyndall St, Caerdydd. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn teimlo bod y cam hwn yn gyfle gwych i weithio'n gydweithredol gyda phartneriaid allanol a hoffai archwilio'r posibilrwydd o redeg caffi / siop menter gymdeithasol fyddai wedi ei leoli ar lawr gwaelod yr adeilad. Noder, yn ystod y cam hwn, nad oes gan yr Ymddiriedolaeth unrhyw gynlluniau na bwriadau cadarn i'r perwyl hwn, ond byddai'n croesawu mynegiadau o ddiddordeb gan sefydliadau gydag arbenigedd yn rhedeg cyfleuster o'r fath. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Sally Attwood Cyfarwyddwr, Rhagle ni a Chyfleusterau Strategol, Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Sally.attwood@wales.nhs.uk.
ublic Health Wales is a statutory NHS body responsible for improving public health in Wales. In September 2016, it is relocating over 550 of its staff from eight locations across South East Wales to four floors within Number 2 Capital Quarter, Tyndall St, Cardiff. Public Heath Wales feels that the move is a fantastic opportunity to work in collaboration with external partners and would like to explore the possibility of running a social enterprise cafe / coffee shop which would be located within the ground floor of the building. Please note, at this stage, the Trust has no firm plans or intentions in this regard, but would welcome expressions of interest from organisations with an expertise in running such a facility. For further information please contact Sally Attwood Director, Strategic Programmes & Facilities, Public Health Wales at Sally.attwood@wales.nhs.uk.
Cymorth Gamblo: Cyngor ar Bopeth Casnewydd
M
T
Gambling Support: Newport Citizens Advice
ae'r Ymddiriedolaeth Gamblo Cyfrifol (RGT) wedi cytuno i roi cymorth grant i Gyngor ar Bopeth Casnewydd i gyflwyno rhaglen i godi ymwybyddiaeth o niwed yn gysylltiedig â gamblo ymysg grwpiau agored i niwed. Bydd y Gwasanaeth Cymorth Gamblo yn cyflwyno rhaglen estynedig o ymywyddiaeth ac addysg i grwpiau sydd mewn perygl a'u darparwyr cymorth. Bydd ymyrraeth gynnar, hygyrch yn cael ei gynnig i'r unigolion hynny y nodir bod angen cymorth ychwanegol arnynt. Ariennir y prosiect yn wreiddiol am 2 flynedd a bydd yn ychwanegu at lwyddiant gwaith Cyngor ar Bopeth Casnewydd fel rhan o'r Peilot Lleihau Perygl a Niwed yn sgil Gamblo(GRaHM). Datblygodd y gwaith hwn enw da i'r ganolfan yn lleol ac yn genedlaethol fel y lle 'i fynd' am gyngor am broblemau gamblo.
he Responsible Gambling Trust (RGT) has agreed to provide grant funding to Newport Citizens Advice to deliver a programme to raise awareness of gambling related harm amongst vulnerable groups. The Gambling Support Service will deliver an extensive programme of awareness and education to at risk groups and their support providers. Easily accessible early intervention will be offered to those individuals identified as requiring additional support. The project will initially be funded for 2 years and will build on the success of Newport Citizens Advice work as part of the Gambling Risk and Harm Minimisation Pilot (GRaHM). This work built the bureau a respected position locally and nationally as the ‘go-to’ place for problem gambling advice.
U
O
n o'n prif nodau yw cynyddu ymwybyddiaeth o niwed sy'n gysylltiedig â gamblo (GRH) ac i wella adnabod ac ymyrryd yn gynnar gydag asiantaethau cyngor rheng flaen. Barn gyffredinol rhanddeiliaid sy'n gweithio i leihau niwed yw bod niwed sy'n gysylltiedig â gamblo yn mynd y tu hwnt i'r 'person sydd â phroblem gamblo' yn unig. Mae'n effeithio ar deulu, ffrindiau, rhwydweithiau cymdeithasol a'r gymuned ehangach. Mae tystiolaeth bellach yn dangos bod grwpiau sy'n agored i niwed; yn cynnwys pobl ifanc, yn fwy tebygol o fod mewn perygl, gan wneud sefydiadau fel eich un chi mewn sefyllfa berffaith i gyflenwi gwasanaethau. Yn ddelfrydol, byddem yn edrych ar grwpiau o ryw 12 o bobl am gyfnod o dair awr. Mae'r hyfforddiant am ddim ac mae'n cynnwys cyflwyniad o 2-3 awr, 'pecyn cymorth' ar gyfer pob cyfrwnogwr a thystysgrif. Byddwn wrth law i roi cymorth proffesiynol parhaus os oes angen a byddwn yn defnyddio'r cylchlythyr hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi. Os ydych yn trefnu neu'n mynychu unrhyw ddigwyddiadau yn y dyfodol, dylech ystyried gwahodd ein tîm i fynychu.
ne of our key aims is to increase awareness of gambling related harm (GRH) and to improve identification and early intervention with frontline advice agencies. It is the general consensus of stakeholders working with harm minimisation that the concept of gambling related harm goes far beyond just the ‘problem gambler’ it impacts on family, friends, social networks and the wider community. Evidence further shows us that vulnerably groups; including young people are more likely to be at risk, making organisations such as yours perfectly positioned to deliver services. Ideally, we would look to groups of around 12 people for a three hour period. The training is free and includes a 2-3 hour presentation, a ‘tool kit’ for each participant to take away and a certificate. We will be on hand to offer continual professional support if and when required and will use this newsletter to keep you updated. If you are organising or attending any events in the future, please consider inviting our team to attend.
A
I
wgrym ar gyfer ymyrraeth: Camsyniad Gamblo. Y camsyniad gamblo, a elwir hefyd yn gamsyniad Monte Carlo, neu'r camsyniad o aeddfedrwydd siawns, yw'r camsyniad y bydd rhywbeth, os yw'n digwydd yn amlach nag arfer yn ystod rhyw gyfnod, yn digwydd yn llai aml yn y dyfodol. Mae'r gred hon, er ei bod yn apelio at y meddwl dynol, yn un ffug. Gall y camsyniad hwn godi mewn llawer o sefyllfaoedd ymarferol er ei bod yn fwyaf cysylltiedig â gamblo lle mae camgymeriadau yn gyffredin ymysg chwaraewyr. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwybod os ydych yn gamblo ar y periannau slot, terfynellau betio lle mae'r tebygolrwydd wedi ei sefydlu (FOBT), gemau casino, byddwch yn colli arian dros amser. Ond i rywun sy'n cael problemau gyda gamblo, mae'n ddefnyddiol esbonio rhai syniadau sylfaenol gyda nhw i helpu i herio'r camsyniad gamblo.
ntervention tip: Gamblers Fallacy. The gambler's fallacy, also known as the Monte Carlo fallacy or the fallacy of the maturity of chances, is the mistaken belief that, if something happens more frequently than normal during some period, it will happen less frequently in the future. This belief, though appealing to the human mind, is false. This fallacy can arise in many practical situations although it is most strongly associated with gambling where such mistakes are common among players. The majority of people know that if you gamble on slot machines, fixed odds betting terminals (FOBT’s), casino games, you’ll lose money over time. But for someone experiencing problems with gambling it is useful to explain some basic ideas with them to help challenge the gambler’s fallacy. For more information visit the CAB website.
Crynodeb o'r Newyddion News Round-up
Y
mis yma rydym yn treialu fersiwn cryno o'r crynodeb newyddion. Cliciwch ar y testun i fynd â chi i'r eitemau newyddion sy'n gysylltiedig â'r testun hwnnw. Os oes gennych unrhyw adborth, anfonwch ebost at sarah.james10@wales.nhs.uk
Iechyd Meddwl
T
his month we are trialing a condenced version of the news round up. Just click on the topic to take you to the news items related to that topic. If you have any feedback, please email sarah.james10@wales.nhs.uk
Mental Health
Gweithgarwch Corfforol
Physical Activity
Ysmygu
Smoking
Maethiad
Nutrition
Iechyd Rhywiol
Sexual Health
LHD
LGB
Rhyw
Gender
Alcohol
Alcohol
Tlodi Bwyd
Food Poverty
Datblygu Cynaliadwy
Sustainable Development
Cludiant
Transport
Chwarae
Play
Tai
Housing
Fferylliaeth
Pharmacy
Gweithwyr iechyd proffesiynol
Health Professionals
Beth sy’n digwydd? What's going on? Digwyddiadau
Events Facebook Twitter Forums
Cysylltwch â Ni Contact Us 02921 841943 Publichealth.network@wales.nhs.uk Hadyn Ellis Building Maindy Road Cathays Cardiff CF24 4HQ www.rhwydwaithiechydcyhoeddus.cymru www.publichealthnetwork.cymru Os oes gennych unrhyw newyddion neu ddigwyddiadau i’w cyfrannu ay y rhifyn nesaf, cyflwynwch nhw i publichealth.network@wales.nhs.uk cyn 22 June 2016. If you have any news or events to contribute to the next edition please submit them to publichealth.network@wales.nhs.uk before 22 June 2016.
Rhifyn nesaf: Pwyslais ar Hepatitis Next edition: Spotlight on Hepatitis