Gorffennaf
2016
Croseo i’r e-fwletin Croeso i rifyn mis Gorffennaf o e-Fwletin Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae rhifyn y mis hwn yn canolbwyntio ar Gemau Olympaidd 2016 a gynhelir rhwng 5 a 21 o Awst. Arwyddair y Gemau Olympaidd hyn yn Rio de Janeiro yw Viva sua paixão sy’n golygu ‘Byw eich Angerdd’ / ‘Live your passion’, ac yng ngwir ysbryd y Gemau rydym wedi cynnwys rhai gweithgareddau llawn hwyl y gall swyddfeydd gymryd rhan ynddynt i ddangos eu cefnogaeth. Mae Emily Marchant, aelod o’r Grŵp Cynghori, yn sôn wrthom ni am ei harbenigedd a’i gwaith PhD cyfredol ym maes iechyd ac addysg plant. Yn ôl yr addewid mae’r e-Fwletin yn ymddangos ar ei newydd wedd yn dilyn eich sylwadau o’n sioe deithiol Creu Cysylltiadau ym mis Mai; mae’r newidiadau yn cynnwys rhannu’r bwletinau Cymraeg a Saesneg fel eu bod ar wahân ac yn haws eu darllen, ac ychwanegu adran a elwir ‘Y Bwrlwm Iechyd’ sy’n tynnu sylw at ein holl weithgareddau diweddaraf ar y cyfryngau cymdeithasol Twitter, Facebook a’n Fforymau. Gobeithio y byddwch yn mwynhau’r e-Fwletin ar ei newydd wedd. Byddem wrth ein bodd cael gwybod sut mae eich gweithle chi yn croesawu ethos y Gemau drwy gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, felly anfonwch e-bost i publichealth.network@wales.nhs.uk a hefyd anfonwch e-bost atom os oes gennych unrhyw sylwadau, awgrymiadau ac erthyglau ar gyfer rhifynnau’r dyfodol.
www.publichealthnetwork.cymru @PHNetworkcymru
/publichealthnetworkcymru
Haf
f o Chwaraeon Sylw i’r Gemau Olymaidd Mae’r sylw y mis hwn yn canolbwyntio ar y Gemau Olympaidd! Yr haf hwn bydd chwaraeon ar feddwl pawb yn dilyn gorchestion Cymru ym mhencampwriaeth pêl-droed Ewrop, Wimbledon, a’r Gemau Olympaidd, y cyfan o fewn amser byr i’w gilydd! Gan gadw hyn mewn cof, dylai pawb fod yn gofyn.....Beth allwn ni ei wneud i wella gweithgarwch corfforol yng Nghymru? A fydd holl gyffro a miri’r Ewro yn creu cyfnod newydd o bencampwyr ym myd chwaraeon?
Pam na fydd Rio 2016 yn ein helpu ni i gael Cymru i symud? Barn: Rob Sage, Prif Ymarferydd Hybu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru Wrth i ni edrych ymlaen at Gemau Olympaidd Rio, mae’n gyfle i edrych yn ôl ar ‘Waddol’ hirddisgwyliedig Gemau Llundain yn 2012.A wnaeth llwyddiant yr ychydig elît ‘ysbrydoli cenhedlaeth’ i fod yn fwy egnïol? A yw digwyddiadau chwaraeon mawr yn cael effaith barhaus ar lefelau gweithgaredd corfforol y boblogaeth? Bydd athletwyr o dros 200 o wledydd yn dod i Rio i gymryd rhan mewn 42 o gampau gwahanol, wrth i filiynau wylio eu doniau ar y teledu. Ond, a gânt eu hysgogi i fod yn fwy egnïol wedi’r gemau? Ac os felly, a fydd y brwdfrydedd hwn yn parhau? Nid oes tystiolaeth gref bod digwyddiadau chwaraeon mawr, yn cynnwys Llundain 2012, yn cael effaith ar gyfranogiad y boblogaeth ehangach mewn gweithgaredd corfforol. Mae effeithiau tymor byr wedi cael eu gweld, ond mae’r dystiolaeth amlycaf yn awgrymu bod hyn yn pylu’n gyflym. Mae data sydd yn dangos cynnydd yn lefel cyfranogiad a mesurau cysylltiedig, fel gwariant ar offer chwaraeon, yn gallu cael ei esbonio gyda’r rheini sydd eisoes yn egnïol yn cael eu hysbrydoli i wneud mwy - ac uwchraddio eu cyfarpar. Mae sawl model sydd yn ceisio ein helpu i ddeall newid mewn ymddygiad, ac mae ‘ysgogiad’, ‘hyder’ a ‘chyfleoedd’ yn elfennau cyffredin. Os ydym yn cymryd mai ‘Ysgogiad’ yw’r elfen fwyaf tebygol i gael ei dylanwadu gan ddigwyddiad chwaraeon proffil uchel, yna gallwn weld pam mae’r effaith, os o gwbl, yn un tymor byr. Gellir cyflwyno ysgogiad ar raddfa yn amrywio o Anghynhenid [allanol] i Gynhenid [mewnol], gyda’r awgrym bod angen ysgogiad cynhenid dwfn wrth fabwysiadu ymddygiad newydd yn yr hirdymor – rhaid iddo feddwl rhywbeth i chi a bod yn rhan o bwy ydych chi. Mae arsylwi yn gyffredinol ar lawer o bobl nad ydych yn eu hadnabod, ac efallai yn methu uniaethu â nhw, yn annhebygol o’ch ysgogi. Bydd y cyfryngau a chyrff chwaraeon yn aml yn ceisio cyflwyno straeon am Olympiaid unigol er mwyn ein helpu i gysylltu’n haws â nhw ar lefel fwy personol, gan gynyddu’r siawns o gael ein hysgogi. Ond hyd yn oed os gellir gwneud y cysylltiad hwn, ar ôl i’r digwyddiad ddod i ben, a’r personoliaethau hyn yn diflannu o’n sgrin deledu, bydd y cysylltiad, a’r ysgogiad posibl, yn cael ei golli. Os nad yw’r digwyddiad yn gysylltiedig â’n bywyd bob dydd, mae’n llai tebygol o’n hysgogi. Felly os na chafodd Llundain 2012 lawer o effaith yma yng Nghymru, y disgwyl yw y bydd Rio 2016 yn cael llai hyd yn oed. Ceir rhywfaint o dystiolaeth sydd yn dangos bod paratoadau ar gyfer cynnal gemau yn cael mwy o effaith, felly a fydd dod â Gemau’r Gymanwlad i Gymru yn gatalydd i wneud gweithgaredd corfforol yn fwy poblogaidd? Gallai gemau cartref greu awch o ysgogiad, ond rhaid gwneud yn siŵr bod gan bawb yr hyder a’r cyfle i fod yn egnïol, neu bydd fel rhoi clwstwr o bobl yn yr Afon Hafren heb hyfforddiant, gydag ambell i fwrdd syrffio a disgwyl iddynt ddal y don fawr sy’n dod heibio a’i hwylio. Mi fydd yn gorchuddio y rhan fwyaf o bobl.
Prosiect y Ffordd i Rio
Prosiect yn seiliedig ar chwaraeon yw’r Ffordd i Rio sy’n cael ei gyflwyno gan Cartrefi Dinas Casnewydd, Casnewydd Fyw, Charter Housing, Cymdeithas Tai Sir Fynwy, Tesco a Linc Cymru. I weld y rhestr lawn o ddigwyddiadau’r Ffordd i Rio, ewch i werfan Newport live Bob nos yn ystod y 2 fis diwethaf cynhaliwyd y prosiect mewn ysgolion cynradd, ynghanol y ddinas, ac mewn cymunedau, gan ddod i ben mewn digwyddiad mawr ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd. Eisoes mae dros 9.500 o bobl (yn bennaf plant a phobl ifanc) wedi cymryd rhan, wedi rhoi cynnig ar chwaraeon newydd, ac wedi dod yn fwy egnïol yng Nghasnewydd - gan arwain at y digwyddiad mawr a chyfres o ddigwyddiadau Chwaraeon yn y Parc yng Nghasnewydd yr haf hwn. Mae Cartrefi Dinas Casnewydd, mewn partneriaeth â Chasnewydd Fyw, yn cynnig cludiant bws am ddim i’r rhai sy’n mynd i ddigwyddiad cymunedol a theuluol y Ffordd i Rio sy’n dathlu seremoni Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Rio ar ddydd Gwener 5 Awst rhwng 11 a.m. a 4 p.m. Bydd digwyddiad cymunedol a theuluol y Ffordd i Rio, a gynhelir ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd (NISV), yn cynnwys arlwy anferth o sesiynau blasu chwaraeon, chwaraeon Olympaidd a Pharalympaidd, gweithgareddau llawn hwyl i deuluoedd, bwyd o Frasil, dawnswyr a chantorion. Bydd hefyd yn tynnu sylw at y gwahaniaethau diwylliannol rhwng y DU a Brasil, fel cyflogaeth, y system les, iechyd ac addysg. Bydd digon o weithgareddau ar gael am ddim i bob grŵp oedran a bydd hyfforddwyr chwaraeon Casnewydd Fyw, Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol Chwaraeon a Chlybiau Chwaraeon Lleol wrth law i sicrhau digwyddiad gwefreiddiol Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Karl Reed
Cyffuriau, Chwaraeon a’r Defnydd Ehangach o Gyffuriau sy’n Gwella Perfformiad a Delwedd Gan Gareth Morgan a Josie Smith, Rhaglen Camddefnyddio Sylweddau, Diogelu Iechyd Ymhen llai na phythefnos bydd Rio de Janeiro yn croesawu’r Gemau Olympaidd. Wrth i 10,500 o athletwyr sy’n cynrychioli mwy na 200 o wledydd baratoi i gystadlu ac ennill clod a bri yn rhan o hanes chwaraeon, tynnwyd sylw at ochr dywyllach i’r gemau enfawr hyn. Fe’i disgrifiwyd gan swyddogion Asiantaeth Gwrth-gyffuriau’r Byd (WADA) fel y “sgandal gyffuriau fwyaf erioed”. Mae’r sylw wedi bod ar athletwyr gobeithiol Olympaidd o Rwsia yn dilyn datgelu rhaglen gyffuriau ar draws ei gwledydd. Mae hyn wedi arwain at wahardd holl athletwyr trac a maes Rwsia, a nifer o rai eraill ar draws gwahanol gampau. Mae’r hanesion am gyffuriau o fewn y campau yn bell o fod yn ffenomenon newydd. Cafwyd adroddiadau am wella perfformiad drwy ddefnyddio cyffuriau yn mynd yn ôl i’r 19eg ganrif pan honnwyd bod Edward Payson Weston wedi bwyta dail coca mewn ymgais i wella ei wydnwch corfforol yn ystod ras gerdded pellter eithafol. Ers hynny, mae athletwyr di-ri gan gynnwys pobl fel Ben Johnson, Marion Jones, Dwayne Chambers, a Lance Armstrong wedi cael eu cosbi ar ôl iddynt gael eu profi o dorri rheolau gwrthgyffuriau (ADRV). Y tu allan i’r cylch chwaraeon elitaidd mae’r defnydd o atchwanegiadau i wella perfformiad wedi treiddio i lawr i unigolion sy’n cymryd rhan mewn cynghreiriau lled-broffesiynol ac amaturaidd. Mae bron 25 y cant o’r athletwyr a restrir gan UK Anti-Doping fel rhai sydd bellach dan ADRV yn hanu o ffederasiynau lled-broffesiynol/amatur. Er bod llawer yn cysylltu’r defnydd o steroidau â’r gymuned chwaraeon ac adeiladu’r corff, mae’r cynnydd o ran cynhyrchu’r sylweddau hyn ac eraill a’r ffaith eu bod ar gael yn hawdd wedi golygu bod dynion a menywod sy’n dyheu am y ‘corff perffaith’ bellach yn eu defnyddio. Felly, crëwyd y term Cyffuriau sy’n Gwella Perfformiad a Delwedd (IPED) i grynhoi cymhellion amrywiol o’r fath, ac mae’n cynnwys cymysgedd o sylweddau sy’n amrywio o steroidau anabolig androgenig y gellir eu chwistrellu neu eu cymryd trwy’r geg, hormonau twf dynol a pheptidau, llosgwyr braster a diwretigion, a deunyddiau lliw haul y gellir eu chwistrellu fel Melanotan. Mae defnyddio sylweddau o’r fath heb oruchwyliaeth feddygol ac ar ddosau therapiwtig uwch yn risg difrifol i iechyd corfforol a seicolegol. At hynny, mae’r rheini sy’n chwistrellu unrhyw sylwedd mewn perygl o feirws a gludir yn y gwaed ac o heintiau bacteriol. Mae’r defnydd o IPED yng Nghymru yn eang ac mae dros 13,000 o unigolion mewn cysylltiad rheolaidd â gwasanaethau darparu cyfarpar sy’n chwistrellu IPED yn 2015. Ers 2010, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cychwyn ac arwain rhaglen gydweithredol gydag arbenigwyr yng Nghanolfan Iechyd Cyhoeddus Prifysgol John Moores yn Lerpwl, Iechyd Cyhoeddus Lloegr a GIG yr Alban. Mae’r rhaglen yn cynnwys y wefan: www.IPEDinfo.co.uk sy’n cynnwys tystiolaeth a gwybodaeth am leihau niwed i’r rheini sy’n ystyried defnyddio IPEDs neu’r rhai sydd eisoes yn eu defnyddio, rhaglen hyfforddiant genedlaethol a phecyn cymorth i bobl ifanc, a’r arolwg IPED cenedlaethol a luniwyd i roi tystiolaeth, dros amser, o natur a hyd a lled y defnydd o IPED ar draws y DU; y niwed i iechyd corfforol a seicolegol a brofir gan ddefnyddwyr; ac ymddygiadau risg cysylltiedig eraill.
Dengys arolwg 2015, sy’n cynnwys gwybodaeth gan 650 o ddefnyddwyr IPED, fod y cymhellion ar gyfer eu defnyddio yn amrywio o wella cryfder a gallu’r corff i golli pwysau a chynyddu greddf rywiol. Am ragor o wybodaeth ewch i: IPed Website and the Public Health Wales Website.
Chwaraeon Anabledd Cymru #what-
Gweithgarwch Corfforol 2016: Cynnydd a Heriau Yn 2012, cyhoeddodd y Lancet ei Gyfres gyntaf ar weithgarwch corfforol, a ddaeth i’r casgliad bod gan weithgarwch corfforol ffactor risg y gellir ei reoli o glefydau cronig sydd yr un mor bwysig â gordewdra a thybaco. Bedair blynedd yn ddiweddarach, mae’r ail Gyfres yn rhoi diweddariad o’r maes, gan gynnwys cynnydd o ran ymchwil epidemiolegol, gwyliadwriaeth fyd-eang, strategaethau ymyrryd a chamau gweithredu polisi. Bydd y papurau hefyd yn cynnwys y dadansoddiad-meta cyson mwyaf o ran yr effaith y mae ymddygiad eisteddog a gweithgarwch corfforol yn ei chael ar y cyd ar iechyd, a’r amcangyfrif cyntaf byd-eang o faich economaidd anweithgarwch corfforol. Mae’r Gyfres yn annog gwneuthurwyr polisi i roi sylw mwy difrifol i weithgarwch corfforol ac i ddarparu digon o gapasiti a chyllid i weithredu polisïau cenedlaethol. Heb weithredu ar frys ni fydd modd cyrraedd targed Sefydliad Iechyd y Bod o 10% o ostyngiad mewn gweithgarwch corfforol erbyn 2025. Mae’n rhaid i ni barhau i ymdrechu at y nod tymor hirach: sef sicrhau bod gweithgarwch corfforol yn rhan ganolog o’n bywydau bob dydd.
Pêl-foli Oasis Gan ragweld Gemau Olympaidd 2016 Rio, fe wnaeth Canolfan Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Oasis ymuno â Phêl-foli Cymru a Chlwb Pêl-foli Caerdydd i drefnu gŵyl pêl-foli ym Mharc Moorland, Sblot. Cynlluniwyd y digwyddiad gan swyddogion lleol Chwaraeon Caerdydd, a chymerwyd rhan gan 25 o ffoaduriaid gwrywaidd o wledydd mor bell ag Eritrea a Nigeria. Dywedodd un o’r cyfranogwyr a oedd yn bresennol yn y digwyddiad: “Roedd yn ddiwrnod mor wych, dwi’n methu aros i chwarae rhagor o bêl-foli”. Mae swyddogion Chwaraeon Caerdydd bellach yn gweithio i ddatblygu clwb cynaliadwy yn y ganolfan gyda’r bwriad o gael tîm i chwarae yng Nghynghrair Pêl-foli Caerdydd.
Diwrnod Chwaraeon Cenedlaethol gyda ‘I Am GB’ Ar ddydd Sadwrn 27 Awst, mae ‘I am GB’ yn gwahodd y genedl gyfan i ymuno i groesawu’r arwyr Olympaidd adref a dweud “I am Team GB”. Bydd y Loteri Genedlaethol ac ITV yn cynnal miloedd o ddigwyddiadau hwyliog “I am Team GB” am ddim ledled y wlad. Cynhelir y digwyddiad mewn partneriaeth â Chymdeithas Olympaidd Prydain, UK Sport, gyda chefnogaeth Join In. Ar y wefan mae A-Z gwych yn dangos ffyrdd y gallwch gymryd rhan. Gan amrywio o weithgareddau pwerus i gemau hwyliog i deuluoedd a gweithgareddau ysgafn yn yr awyr agored, mae rhywbeth yno i bawb. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan ‘I Am GB’.
Ymyriadau Gweithgarwch Corfforol i Bobl Hŷn Dydd Mercher 3 Awst 2016, Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, y Surf Room 2.00pm – 3.00pm Mae’r seminar hon yn rhan o weithdy i sefydlu grŵp datblygu ymchwil ym maes Heneiddio’n Iach i Oedolion Hŷn, gan ganolbwyntio’n benodol ar weithgarwch corfforol. Bydd y seminar yn dechrau gyda throsolwg byr o Sefydliad Iechyd Lincoln, gan ddangos gallu’r Sefydliad (LIH) o ran cymhwyso ymchwil o’r gell i’r gymuned, cyn canolbwyntio ar enghreifftiau penodol o’n hymchwil i ymyriadau gweithgarwch corfforol gyda phobl hŷn. Bydd yr enghreifftiau hyn yn cynnwys treialon clinigol mawr mewn nifer o ganolfannau ym maes atal cwympiadau, arthritis gwynegol a dementia. Bydd y seminar yn cyflwyno rhai o’r dulliau newid ymddygiad a gafodd eu datblygu, eu cymhwyso a’u profi gennym ni, yn ogystal â thynnu sylw at y prif wersi a ddysgwyd. Chris Bridle yw Athro Meddygaeth Ymddygiadol a Chyfarwyddwr Sefydliad Iechyd Lincoln (LIH), sy’n cynnwys 11 o grwpiau ymchwil ar draws y sbectrwm cymhwyso. Yn REF 2014, LIH oedd y 9fed allan o 98 o gyflwyniadau Prifysgol o ran ansawdd yr ymchwil a gyhoeddwyd gan ei ymchwilwyr. Mae Chris yn Seicolegydd Iechyd Siartredig ac mae wedi dal swyddi ym Mhrifysgolion Efrog, Warwick ac Aberystwyth. Mae’n arbenigo mewn dylunio, cynnal a dadansoddi treialon wedi’u rheoli ar hap, a chyfosod tystiolaeth, yn benodol mewn cysylltiad ag ymyriadau ymddygiadol. Mae wedi llwyddo i sicrhau £15m mewn cyllid ymchwil yn y deng mlynedd diwethaf, gyda £4m fel Prif Ymchwilydd, o sefydliadau cyllido fel NIHR, ESRC a rhaglen EU Horizon 2020. I gadw eich lle e-bostiwch Joanne Hudson
Y Rhath i Rio I ddathlu Gemau Olympaidd 2016 Rio daeth Chwaraeon Caerdydd ynghyd â Chymunedau yn Gyntaf a Chyngor Ffoaduriaid Cymru i greu Gŵyl y Rhath i Rio. Fe’i cynhaliwyd ar ddydd Sadwrn 4 Mehefin ym Mharc y Rhath yn rhan o’r Wythnos Ffoaduriaid. Y nod oedd integreiddio ffoaduriaid a cheiswyr lloches o fewn y gymuned leol yng Nghaerdydd, yn ogystal â chwalu’r rhwystrau sy’n gysylltiedig â ffoaduriaid drwy chwaraeon. Roedd yn hynod o lwyddiannus, gyda mwy na 300 o bobl o amrywiaeth eang o wledydd yn cymryd rhan. Roedd 5 o Gyrff Llywodraethu Cenedlaethol/clybiau cymunedol yn bresennol yn cynnig sesiynau blasu am ddim mewn chwaraeon Olympaidd, gan gynnwys athletau, badminton, golff a phêl-foli, yn ogystal â chriced. Hefyd, cynhaliwyd cystadleuaeth bêl-droed a chymerwyd rhan gan 5 tîm o ffoaduriaid / ceiswyr lloches, ochr yn ochr â 5 tîm cymunedol. Roedd Clear Springs hefyd yno yn darparu bwyd a diod am ddim i bawb a oedd yn cymryd rhan.
Cyfres Insport Ar Fedi 9fed a 10fed mae digwyddiad blynyddol mwyaf Chwaraeon Anabledd Cymru, y gyfres insport, yn digwydd ym Mhrifysgol Met Caerdydd, Campws Cyncoed. Disgwylir i fwy na 600 o bobl anabl a’u teulu a ffrindiau fynychu ar draws y ddau ddiwrnod, er mwyn rhoi cynnig ar 20 o chwaraeon gwahanol, i gyd o dan un to! Yn addas ar gyfer pob oedran a lefel gallu, mae’r digwyddiad sefydledig hwn yn cynnig cyfle unigryw i bobl anabl roi cynnig ar ystod anferth o chwaraeon a hefyd dysgu am glybiau chwaraeon lleol gallan nhw ymuno â nhw. Mae’r chwaraeon a gynigir yn cynnwys pêl-droed, dringo, pêl-fasged gadair olwyn, tennis bwrdd, tennis cadair olwyn, golff, saethu. Jiwdo, pêl-gôl, trampolinio, a llawer mwy Mae croeso i unrhyw un fynychu ar y naill diwrnod neu’r llall rhwng 10yb a 4yh a mae mynediad am ddim. I gael manylion pellach ffoniwch 029 2020 5284 neu e-bostiwch disabilitysportwales
Whats your story: Nathan Stephens
CProsiect Peilot Cyfnewid Dinas-ranbarth: Rhowch Gychwyn arno mewn Chwaraeon ac Ymarfer Roedd y prosiect oedd yn cael ei redeg gan Brifysgol Caerdydd yn anelu at drafod yr her o alluogi unigolion i ymgysylltu â chwaraeon ac ymarfer fel rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru (WG) i wella iechyd pobl yng Nghymru. Cafodd cyfanswm o 11 gweithdy ar sut i ymarfer yn dda eu cyflenwi i boblogaeth oedd wedi dechrau neu oedd yn bwriadu dechrau rhaglen ymarfer er iechyd. Cyrraeddiad llawn y gweithdai oedd 53 unigolyn. Fe wnaeth 7.5% o’r unigolion hynny ddychwelyd am addysg barhaol bellach wedi i’r gweithdai cychwynnol gael eu cynnal yn gynharach yn 2016. Roedd 11% wedi cymryd rhan yn Hanner Marathon y Byd Caerdydd ond nid oedden nhw wedi gallu mynychu’r gweithdai y tro cyntaf. Roedden nhw wedi clywed amdanyn nhw drwy ffrindiau ac felly fe wnaethon nhw ymuno pan ddarparwyd sesiynau ychwanegol am amseroedd gwahanol. Nid oedd oddeutu 80% wedi rhedeg hanner marathon o’r blaen ac roedden nhw’n anelu at redeg yn Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref 2016. Ychwanegwyd at y gweithdai gan ddeunydd addysgol ar-lein, gan gynnwys fideos hunan-gymorth a gyflenwyd gan ffisiotherapydd arbenigol ym maes chwaraeon ac ymarfer. Cynhaliwyd adnodd ar-lein pwrpasol, yn arwain cyfranogwyr at fideos dewisol. Hefyd cyfeiriwyd cyfranogwyr at y wefan Prifysgol Caerdydd, lle roedd fideos ychwanegol ar gael i’r rhai hynny oedd yn mwynhau’r rhyngwyneb hwnnw o’r cyfryngau. Cyrchwyd fideos y deunydd ar-lein 1232 o weithiau gan 149 o wahanol unigolion a defnyddiwyd yr wybodaeth gefnogol gyffredinol 820 o weithiau gan 114 o bobl. Arweiniwyd pob sesiwn gweithdy gan uwch-aelod o staff o glinig Ffisiotherapi Chwaraeon ac Ymarfer Prifysgol Caerdydd, yng nghwmni myfyrwyr israddedig, yn darparu profiad dysgu gwerthfawr i’r myfyriwr y tu allan i’w addysgu arferol. Roedd cyfranogwyr yn adlewyrchu cynulleidfa darged y boblogaeth ar roedd hyn yn galonogol. Mae adroddiadau gan Gymunedau yn Gyntaf ym Merthyr wedi dangos bod rhedeg wedi cynyddu’n sylweddol fel ffordd o ymarfer ac mae mwy o unigolion yn dal i ymuno â’r clwb rhedwyr ar gyfer dechreuwyr. Mae ymgysylltu datblygiad pellach â grŵp Merthyr Tudful yn parhau. Mae’r cynllun peilot yn cael ei ehangu i grŵp Trelluest ar hyn o bryd. Mae’r grŵp hwn wedi sicrhau rhywfaint o gyllid inni gynnal un neu ddau weithdy yn eu lansiad, yn anelu at gychwyn grŵp rhedeg tebyg yn yr ardal. Hefyd rydyn ni’n ystyried addasu’r model i gysylltu â datblygiad strategol arall mewn sefydliadau megis Gymnasteg Cymru. Mae gan y grŵp hwn fenter lwyddiannus i gael plant i ddechrau gwneud gymnasteg, yn cysylltu ag egwyddorion llythrennedd gorfforol ac mae wedi bod yn arbennig o lwyddiannus mewn grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn ardal De Cymru. Felly gellid ystyried bod y cynllun peilot wedi bod yn llwyddiannus iawn, nid yn unig o ran canlyniad y gweithgarwch a ariannwyd gan grant ond hefyd y potensial ar gyfer ymgysylltu yn y dyfodol.
Ymarfer yn ystod Beichiogrwydd Mae gwasanaethau mamolaeth o fewn ABMU wedi partneru â’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) i gynnig ymarfer benodol gysylltiedig â beichiogrwydd i fenywod yn ein hardal ni. Cynigir atgyfeiriad i fenywod yn eu hapwyntiad archebu gyda’u bydwraig ac yna anfonir y manylion at y tîm NERS. Mae’r cydgysylltwyr ymarfer NERS yn cysylltu â’r fenyw; yn trafod ei hanghenion a sut all NERS helpu i annog ymarfer yn ystod beichiogrwydd. Mae dosbarthiadau ar gael yn lleoliadau Abertawe a Phen-y-bonr ill dau trwy NERS.Yng Nghastell Nedd Port Talbot mae gwasanaethau’n cael eu cynnig gan Hamdden Celtic yn eu rhaglen Fit 4 Birth. Maen nhw’n cynnig yr un gyfradd ostyngedig i fenywod yn ystod beichiogrwydd ac yn derbyn atgyfeiriadau ar gyfer menywod â BMI>30 sy’n dymuno ymarfer yn ardaloedd Castell Nedd Port Talbot. Darperir dosbarthiadau yn Lido Afan Lido, Port Talbot, â chynlluniau i ehangu i safleoedd Hamdden Celtic eraill. Cynigir dosbarthiadau i fenywod yn eu hardal ac oni bai eu bod yn gymwys i gael “pasbort i iechyd” neu fod ganddyn nhw aelodaeth yn ei lle eisoes, maen nhw’n talu cyfradd ostyngedig o £2 y sesiwn. Mae hyn wedi’i wneud yn bosibl gan gymorth ariannol a ddarperir gan dîm Iechyd Cyhoeddus ABMU sydd wedi rhoi grant sylweddol i gefnogi’r rhaglen gan NERS a Hamdden Celtic. Os ydych chi eisiau gwybod rhagor am y NERS beichiogrwydd/ Fit 4 Birth cysylltwch â Kate Evans – Bydwraig Iechyd Cyhoeddus, ABMU 07870831176 neu e-bostiwch Kate Evans. Cynigir dosbarthiadau Genedigaeth Egnïol / Hypno-enedigaeth i fenywod yn ABMU gan grŵp bach o fydwragedd. Mae’r bydwragedd wedi’u hyfforddi’n benodol i gynnig y rhaglen hon ar gyfer genedigaeth. Y nod yw cadw menywod yn symudol, unionsyth a mewn cysylltiad â’u cryfder emosiynol er mwyn annog genedigaeth arferol. Mae’r tîm newydd ehangu ac mae dosbarthiadau’n llawn wythnosau o flaen llaw. Os oes gennych ddiddordeb i gael gwybod rhagor cysylltwch â’r fydwraig gymunedol Kath Silvey 07766466940
Gemau Olympiadd y Swyddfa 2016
Cadwch yn heini a chael hwyl gydag ychydig o gystadleuaeth iach (a diogel) gyda Gemau Olympaidd y Swyddfa. Dyma ychydig o awgrymiadau ichi roi cychwyn arno:
Her y Cylch Hwla 2 Gylch Hwla, un enillydd. Y person cyntaf i ollwng y cylch (dim twyllo, allwch chi ddim defnyddio’ch dwylo, pengliniau na thraed i’w gadw i fyny) sy’n colli. Neu gallech chi gael tabl cynghrair, a’r person sy’n cadw’r Cylch Hwla i fyny’n troellio am yr amser hiraf sy’n ennill. Gweithgaredd corfforol gwych i’w wneud tra’ch bod
Ffensio Ŵy a Llwy Mae manylrwydd yn allweddol wrth chwarae Ffensio Ŵy a Llwy, y person cyntaf i gnocio ŵy’r person arall oddi ar eu llwy yw’r enillydd. Awgrym Uchaf: Chwaraewch gyda wyau wedi’u berwi’n galed... dydych chi ddim eisiau bod yn gyfrifol am lanhau’r annibendod oddi ar y carpedi!
Saethyddiaeth Papur Gwastraff Mae’r rheolau’n eithaf syml gyda’r un yma! Anelwch at daflu’ch papur gwastraff yn yb bin o bellter. Mae’r person sy’n cael y papur yn agosaf neu yn y bin sy’n ennill. Os bydd mwy nag 1 person yn cael ei phapur yn y bin, trefnwch dafliad marwolaeth sydyn.
Ras Cydosod Papur Mae gennych 4 munud cyn eich cyfarfod, ac mae gennych bentwr o bapurau heb eu cydosod sydd wedi eu cymysgu gyda phapurau mae pobl eraill wedi eu hargraffu! Pedwar munud sydd gennych i ddod o hyd i’r agenda a dodi’r holl waith papur yn y drefn gywir. Gellwch amseru’r gêm hon fesul un i bob chwaraewr unigol, neu fe ellwch ei gwneud yn ras gyfnewid. Byddwch yn ofalus rhag torri eich hun gydag ymyl y papur!
Cael Ei Holi Emily Marchant, aelod o Grŵp Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru sydd yn cael ei holi y mis yma. Ar hyn o bryd mae Emily yn gwneud PhD ym Mhrifysgol Abertawe a fydd yn canolbwyntio ar rwydwaith ysgolion cynradd o’r enw HAPPEN (Iechyd a Chyrhaeddiad Disgyblion mewn Rhydwaith Addysg Gynradd). Bydd Emily yn gwerthuso HAPPEN ac yn cysylltu cyraeddiadau disgyblion ysgol gynradd gyda chofnodion iechyd sydd wedi eu cadw mewn cronfa ddata o’r enw SAIL.
Beth yw eich maes arbenigedd?
Mae fy nghefndir mewn iechyd cyhoeddus plant, ac mae gennyf brofiad mewn ymchwil ac yn y gymuned. Ar hyn o bryd yr wyf yn astudio am fy PhD mewn iechyd plant ac addysg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae‘r ymchwil yr wyf yn ei wneud yn canolbwyntio ar HAPPEN; rhwydwaith sy’n ymwneud ag iechyd ac addysg ysgolion cynradd yr wyf fi’n gyfrifol am ei gydlynu. Cydweithrediad rhwng pobl broffesiynol ym meysydd iechyd, addysg ac ymchwil yw’r rhwydwaith a’i nôd yw gwella iechyd, llês a deilliannau addysol plant mewn ysgolion cynradd yn Abertawe.
Pam wnaethoch chi ymuno â Grŵp Ymgynghorol Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru?
Yr wyf wedi bod yn aelod o’r Rhwydwaith oddi ar iddo gael ei ail-sefydlu, ac roeddwn yn aelod o Rwydwaith Ymarfer Corff ac Ymborth Cymru cyn hynny. Roedd datblygu Grŵp Ymgynghorol yn gyfle cyffrous i gael llais yngŷn â’r cyfeiriad y byddai’r rhwydwaith yn ei ddilyn yn y dyfodol, gan gydweithio gydag aelodau o wahanol gefndiroedd ym maes iechyd. Roeddwn hefyd yn awyddus i gynrychioli fy maes i o safbwynt ymchwil a chymunedol.
Beth ydych yn eu gweld fel y sialensau fydd yn wynebu’r Grŵp Ymgynghorol? Sicrhau cydbwysedd rhwng cyfraniadau holl aelodau’r grŵp ar yr hyn sy’n flaenoriaethau iechyd cyhoeddus ar hyn o bryd, materion iechyd eraill ac unrhyw themâu neu ymchwil sy’n dod i’r amlwg. Mae yna unigolion hynod brofiadol o amryw gefndiroedd ym maes iechyd ar y Grŵp Ymgynghorol. Mae’n bwysig ein bod yn manteisio ar sgiliau pob aelod ac yn defnyddio eu gwybodaeth yn y maes perthnasol. 1
1
Mae e-fwletin y mis yma yn rhoi sylw i’r Gemau Olympaidd, sut ydych chi’n meddwl all y Gemau Olympaidd ddylanwadu ar blant a phobl ifanc yng Nghymru i’w cael i wneud mwy o ymarfer corff?
TLlwyfan yw’r Gemau Olympaidd i ddathlu chwaraeon ac ymarfer corff. Mae chwaraeon yn un o’r sylfaeni sy’n diffinio diwylliant Cymru. Fel cenedl, rydym yn byw ar adeg hynod fanteisiol o ran ysbrydoli chwaraeon, gyda’r gemau Olympaidd yn dilyn yn syth ar ôl ein llwyddiant diweddar ym mhencampwriaethau’r Ewros. Mae’n hanfodol fod sefydliadau sy’n cael cyfle i gynnig ymarfer corff yn manteisio ar yr ysbryd hwn sydd wedi dal dychymyg cymunedau ar hyn o bryd. Gall defnyddio’r Gemau Olympaidd fel thema wrth gynnig ymarfer corff fod yn un ffordd i sefydliadau fanteisio arni er mwyn dylanwadu ar blant a phobl ifanc i wneud mwy o ymarfer corff.
Pa awgrymiadau y byddech chi’n eu rhoi i aelodau i’w helpu i hybu gweithgarwch corfforol yn weithredol?
Edrychwch ar yr hyn sydd eisoes yn gweithio mewn sefydliadau eraill. Mae pobl yn aml yn awyddus i ddatblygu dull newydd o gael pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol, ond gallwn ddysgu llawer mwy o feysydd o arferion a rennir. Enghraifft dda o hyn yw’r filltir ddyddiol, menter a ddechreuwyd gan Bennaeth mewn ysgol gynradd yn yr Alban. Mae disgyblion yn rhedeg am 15 munud bob dydd â’r prif nod o wella eu hiechyd, eu lles a’u lefelau ffitrwydd. Mae ysgolion o bob rhan o’r DU wedi mabwysiadu’r filltir ddyddiol erbyn hyn a gall sefydliadau addasu enghreifftiau fel hyn a’u darparu ar gyfer eu cynulleidfa eu hunain.
Pe byddech yn cael 3 dymuniad, beth fyddai’r rheiny?
I addysg gorfforol gael ei wneud yn bwnc craidd yn y cwricwlwm mewn ysgolion, i leihau lefelau anweithgarwch corfforol cenedlaethol a mwy o gyfyngiadau ar siwgr a ychwanegir at fwyd a diod plant.
Pe byddech yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd pa chwaraeon fyddech chi’n ei ddewis a pham? Byddwn i’n dewis yr heptathlon. Pan oeddwn i’n blentyn, cefais brofiad gwych o ymarfer corff a chwaraeon yn yr ysgol ac rwy’n meddwl bod hyn wedi bod yn brofiad cadarnhaol trwy gydol fy nghyfnod yn yr ysgol a’i fod wedi cyfrannu at y ffaith i weithgaredd corfforol fod yn rhan annatod o fy null o fyw fel oedolyn. Mae gen i atgofion da o brynhawniau cynnes o haf a dreuliwyd ar y caeau chwarae yn cymryd rhan yn yr amrywiaeth eang o weithgareddau athletau. Rwy’n edmygu lefel y sgil sy’n angenrheidiol yn yr heptathlon, i fod yn gallu cystadlu mewn amrywiaeth mor eang o gystadleuaethau, a gallu dylanwadu ar blant a phobl ifanc i gynyddu lefelau eu gweithgaredd corfforol.
Pyncia Llosg Mae’r rhan hwn o’r e-fwletin wedi’i neilltuo i newyddion gan aelodau’r rhwydwaith. Cewch gyflwyno newyddion ynglŷn â gwaith sy’n cael ei wneud yn eich ardal chi, ysgrifennwch erthygl ar ein cyfer, hyrwyddwch ddigwyddiad sydd i ddod neu broliwch am eich cyraeddiadau! Os ydych chi’n dymuno cyflwyno erthygl ar gyfer yr adran Clecs anfonwch neges e-bost at Sarah.James10@wales.nhs.uk. Ni ddylai’r erthygl gynnwys mwy na 500 o eiriau ac rydym yn croesawu lluniau bob amser!!
Strictly Parkinsons: Dance Classes in Builth Wells Yng nghalon canolbarth Cymru yn Llanfair ym Muallt mae dosbarth dawns/ymarfer corff a elwir yn Strictly Parkinsons. Mae wedi bod yn cael ei gynnal yn llwyddiannus ers bron i bedair blynedd bellach ac yn cael ei arwain gan ddau ddawnsiwr sydd wedi eu hyfforddi i ddeall y problemau symudedd a lleferydd lawer ac amrywiol y gall pobl sy’n byw gyda chlefyd Parkinson eu dioddef. Bydd y dosbarth felly yn cynnwys symudiadau i ymlacio, ymestyn ysgafn, gwaith ar eu heistedd ar freichiau a choesau, rhai ymarferion lleferydd ac yna dawns greadigol a all fod ar eu heistedd neu ar eu traed a symud yn unol â gallu pob unigolyn ar y diwrnod hwnnw. Ceir llawer o chwerthin ac mae’r agwedd gymdeithasol yn bwysig gan fod pobl sy’n byw gyda chlefyd Parkinson, yn enwedig yn ein hardaloedd lleol, yn gallu dioddef unigedd a diffyg hyder. Rydym yn cyfarfod ar fore dydd Iau yn ystod tymor yr ysgol yn Neuadd Wesley ac mae pawb sy’n cymryd rhan yn cytuno ein bod i gyd yn cael budd o’r dosbarth, er bod hynny am gyfnod byr yn unig, o ran ein hosgo, symudedd a chydbwysedd a mwy na hyn i gyd mae’n gwella ein lles. Roedd yn cael ei ariannu i ddechrau gan Powys Dance, sydd wedi derbyn statws elusennol ers hynny, ond erbyn hyn mae’r dosbarth yn cael ei ariannu gan gangen de Powys o Parkinson’s UK ond nid oes raid bod yn aelod o Parkinson’s UK i gymryd rhan. Mae croeso i bawb a effeithir gan glefyd Parkinson, y rhai hynny â’r clefyd, eu gofalwyr ac aelodau o’r teulu neu ffrindiau agos. Mae’r dosbarth wedi cael sylw gan BBC Radio Wales a BBC Wales Today ac mae’n un o’r arloeswyr o’r math hwn o ymarfer corff therapiwtig yng Nghymru er bod diddordeb cynyddol sylweddol ac mae dosbarthiadau dawns/ ymarfer corff eraill yng Nghymru bellach. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Steff Streat ar 01597 851319
Canolfan Ledaenu y Sefydliad Ymchwil Iechyd Cenedlaethol yn cefnogi gwneuthurwyr penderfyniadau yn y GIG ledled Mae Canolfan Ledaenu y Sefydliad Ymchwil Iechyd Cenedlaethol wedi ei sefydlu i’w gwneud yn haws i bobl y mae angen tystiolaeth ymchwil iechyd arnynt allu cael gafael arni. Bob wythnos rydym yn cyhoeddi tri neu bedwar ‘Signal’ newydd – crynodeb byr o ymchwil iechyd sydd wedi ymddangos yn ddiweddar mewn cyfnodolion a adolygwyd gan gymheiriaid. Cyhoeddir Signal ar borth ‘Discover’ y Ganolfan Ledaenu. Mae hon yn wefan mynediad agored rhad ac am ddim ac mae’n gwbl chwiliadwy. Mae croeso i unrhyw un gofrestru ar ein gwefan i dderbyn diweddariad misol o bob Signal y byddwn yn ei gyhoeddi neu ddewis derbyn Signal mewn categorïau penodol. Mae’r Ganolfan Ledaenu hefyd yn cynhyrchu dau beth arall allweddol: ‘Highlight’ ac Adolygiadau Thematig. Mae ‘Highlight’ yn grynodeb byr o hyd at chwe astudiaeth ymchwil neu adolygiadau systematig a ariennir gan y Sefydliad Ymchwil Iechyd Cenedlaethol. Datblygir ‘Highlight’ trwy drafod â rhanddeiliaid allweddol ac fe’i cyflwynir mewn rhannau ar wahân ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol. Mae ‘Highlight’ yn cynnwys canllawiau eglur i ddarllenwyr ynglŷn â sut i wneud gwaith dilynol neu weithredu canfyddiadau’r ymchwil. Bydd y tri ‘Highlight’ cyntaf - ar ordewdra mewn dynion, therapïau gwybyddol ar gyfer iselder a chefnogaeth i ofalwyr pobl â dementia - ar gael ar ein gwefan. Bydd yr ‘Highlight’ nesaf ar ddewisiadau eraill i lawdriniaeth agored, yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2016. Mae Adolygiadau Thematig yn cynnig adolygiad mwy eang o ‘gyflwr y dystiolaeth’ ar fater iechyd neu ofal cymdeithasol allweddol. Caiff yr adolygiadau hyn eu datblygu gyda grŵp llywio o weithwyr proffesiynol ac arbenigwyr cleifion/gofalwyr. Maent yn rhoi tystiolaeth ymchwil y mae ei hangen ar wneuthurwyr penderfyniadau o bob math er mwyn llunio darpariaethau gwasanaeth. Mae’r ddau Adolygiad Thematig cyntaf – ar Ofal Diwedd Oes ac Ymchwil i Wasanaethau Ambiwlans ar gael ar ein gwefan. Bydd yr Adolygiad Thematig nesaf, ar atal, trin a hunanreoli Diabetes Math 2 yn cael ei gyhoeddi ddiwedd mis Awst 2016. Ymunwch â’n dilynwyr lawer ar Twitter hefyd - @NIHR_DC
Ffisio yn rheoli tîm cyfan Cymru yn y Gemau Gymanwlad nesaf Bydd Nicola Phillips yn gweithredu fel ‘chef de mission’ ar gyfer tîm o athletwyr, hyfforddwyr, rheolwyr a staff cefnogi Cymru yn y gemau, a gynhelir ar Arfordir Aur Awstralia. Mae ‘chef de mission’ yn gweithredu fel rheolwr tîm yn y cyfnod cyn ac yn ystod pencampwriaeth fawr, swyddogaeth y gwnaeth Dr Phillips am y tro cyntaf y llynedd yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad fis Medi diwethaf yn Samoa. Mae Dr Phillips wedi gweithio fel ffisio mewn llawer o bencampwriaethau gan gynnwys gweithredu fel prif ffisio ar gyfer Tîm Prydain yng Ngemau Olympaidd Beijing yn 2008. Mae hi hefyd wedi gweithio ym maes rygbi’r undeb proffesiynol, ac mae hi’n Athro ym maes Ffisiotherapi ym Mhrifysgol Caerdydd. Meddai Dr Phillips: ‘Mae hwn yn gam naturiol i mi ac mae’n benllanw degawdau o fod yn rhan o Gemau’r Gymanwlad. Rwyf wedi bod yn rhan o Gemau’r Gymanwlad ers 30 o flynyddoedd ac rwyf wedi teithio gyda’r tîm i nifer o’r gemau mewn gwahanol swyddogaethau. Rwyf wedi treulio fy mywyd proffesiynol cyfan yn cefnogi athletwyr mewn un ffordd neu’r llall, felly mae cael y swyddogaeth arwain uchaf ar gyfer Tîm Cymru yn gwbl anhygoel’
Prosiect Ymchwil Ymddiriedolaeth Terrence Higgins Mae Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yn gobeithio clywed gennych chi am eich profiadau o heneiddio gyda HIV. Bydd eich barn chi yn ein helpu ni i lobïo llywodraeth y DU i wneud yn siŵr bod anghenion pobl hŷn sy’n byw gyda HIV yn cael eu diwallu. Os ydych chi’n 50 oed neu’n hŷn ac yn byw gyda HIV cymerwch ran yn yr ymchwil pwysig hwn trwy glicio yma i lenwi ein harolwg. Mae’r ymchwil hwn yn cael ei gynllunio a’i weithredu gyda chymorth a chyfraniad ein tîm o gymheiriaid ymchwil, pob un ohonynt yn byw gyda HIV ac yn eu 50au a’u 60au.
I gael cyfle i ennill basged anhygoel o nwyddau pampro moethus y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw llenwi’r arolwg pwysig iawn hwn a nodi eich cyfeiriad e-bost ar y diwedd. Mae’r fasged hon, gwerth cyfanswm o £540, ac mae’n cynnwys deunyddiau bath Molton Brown a llawer mwy o gynhyrchion gan gynllunwyr. Pob lwc! Mae Ymddiriedolaeth Terrence Higgins bob amser yn ceisio sicrhau bod lleisiau pobl sy’n byw gyda HIV yn cael eu clywed gan wneuthurwyr penderfyniadau ac mae hyn yn hysbysu’r holl waith yr ydym yn ei wneud. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cael eich cyfweld neu gymryd rhan mewn gweithdy yn rhan o gamau hwyrach y prosiect ymchwil hwn cysylltwch â ni yn research@tht.org.uk.
A ydych chi’n eistedd wrth eich desg drwy’r dydd? Mae Cymdeithas Siartredig y Ffisiotherapyddion wedi cynhyrchu cyfres o gardiau post sy’n dangos awgrymiadau ynglŷn â chadw’n heini yn y gweithle. Maent ar gael i’w lawrlwytho neu eu harchebu trwy wefan y Gymdeithas.
Crynodeb o’r Newyddion Croeso i’r Crynodeb o’r Newyddion! Cliciwch ar benawdau’r eitemau newyddion i fynd at y stori newyddion lawn ar Wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Maethiad Atchwanegiadau fitaminau a mwynau ar gyfer menywod beichiog yn gost ddiangen yn ôl ymchwilwyr Mae atchwanegiadau fitaminau a mwynau, sydd yn aml yn cael eu hybu ar gyfer menywod beichiog fel ffordd o roi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i’w plentyn, yn annhebygol o fod yn angenrheidiol i’r rhan fwyaf o fenywod beichiog ac maent yn gost ddiangen, yn ôl adolygiad o’r dystiolaeth sydd ar gael, a gynhoeddwyd yn rhifyn y mis yma o’r Drug and Therapeutics Bulletin (DTB).
Iechyd Rhywiol Ffigurau STI newydd yn dangos cynnydd parhaus ymysg dynion hoyw Mae ffigurau newydd heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STI) yn dangos cynnydd parhaus ymysg dynion hoyw a chyfraddau cyson uchel ymysg pobl ifanc.
Camddefnyddio Sylweddau Ymgyrch I’m Worth Mae ymgyrch I’m Worth yn rhaglen ymwybyddiaeth clefydau gyda’r nod o fynd i’r afael â’r stigma y mae llawer o bobl â hepatitis C yn ei wynebu. Cafodd ei ddatblygu a’i ariannu gan Gilead Sciences gyda mewnbwn gan grwpiau cleifion â diddordeb mewn Hepatitis C yn y DU.
Gweithgarwch Corfforol Golwg ar y Dystiolaeth: gwella gweithgaredd corfforol ymysg pobl hŷn yn y gymuned Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) wedi cyhoeddi sylwebaeth Golwg ar y Dystiolaeth sydd yn helpu rhoi tystiolaeth newydd pwysig mewn cyd-destun, gan amlygu meysydd a allai fod yn arwydd o newid mewn ymarfer clinigol.
Alcohol Gallai cynnydd ym mhris alcohol leihau ymweliadau ag Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys Mae astudiaeth a wnaed gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi dod i’r casgliad y byddai cynnydd bach ym mhris alcohol, uwchlaw chwyddiant, yn y ddwy farchnad, yn lleihau nifer y cleifion sy’n mynychu Adrannau Brys i gael triniaeth am anafiadau’n ymwneud â thrais yng Nghymru a Lloegr yn sylweddol. attending Emergency Departments for treatment of violence-related injuries in England and Wales.
Ysmygu Anweddu mewn mannau cyhoeddus: cyngor i gyflogwyr a sefydliadau
Mae Public Health England (PHE) wedi cyhoeddi cyngor fframwaith newydd ar gyfer busnesau a chyflogwyr i’w helpu i greu eu polisïau eu hunain ar ddefnyddio e -sigaréts.
Rhywioldeb Iechyd meddwl gwell ar gyfer pobl ifanc LGBTU Mae Prosiect Ieuenctid Allsorts wedi cyhoeddi canllaw i iechyd a lles meddwl a ysgrifennwyd gan, ac ar gyfer pobl ifanc lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws neu ansicr (LGBTU).
Cliciwch yma i gael rhagor o newyddion ar wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru
Awst
03 0 1 2 2
8 1 2 2
Diwrnod Chwarae 2016 03 Awst 2016 Digwyddiad Cenedlaethol
Ysgol Haf Newid mewn Ymddygiad Canolfan UCL 2016: ‘Newid mewn Ymddygiad – Egwyddorion ac Ymarfer’ 08 - 12 Awst 2016 University College London, London
Gŵyl Aml-gamp Gemau Stryd 11 Awst 2016 Caerdydd
Webinar: Cyngor Byr am Weithgaredd Corfforol 22 Awst 2016 Webinar
International Population Data Linkage Network Conference 22 - 25 Awst 2016 The Great Hall, Swansea University
Cliciwch yma i weld rhagor o ddigwyddiadau ar wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus
Y Bwrlwn Iechyd
Negeseuon Trydar#LGBTCymru
Ar 22 Gorffennaf cynhaliodd Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru seminar o’r enw Gwella Iechyd LGBT yn y Gymuned. Roedd y digwyddiad yn un llwyddiannus, a chafodd y cyflwyniadau eu ffrydio’n fyw trwy twitter. I weld negeseuon trydar a gweld y fideos, ewch i @PHNetworkCymru neu chwiliwch am #LGBTCymru.
Apiau Y Rhyngrwyd
Buddion iechyd Pokémon Go Mae canlyniadau iechyd positif bywyd go iawn sy’n deillio o chwarae Pokémon Go - gêm realiti estynedig newydd seiliedig ar GPS – yn cael eu cyflawni ledled y genedl. Yn ôl un arbenigwr, mae’r cais hwn i’w “dal nhw i gyd” yn newyddion da i iechyd cyhoeddus.
Apiau Iechyd ar gyfer Gweithgarwch Corfforol Mae Cyngor Doncaster wedi rhyddhau rhestr o apiau cymeradwy cysylltiedig ag iechyd a gynllunir ichi roi cychwyn arno, gan gynnwys Couch to 5k, Stepwise and HiMOTIV.
Cysylltu â Ni 02921 841943 Publichealth.network@wales.nhs.uk Hadyn Ellis Building Maindy Road Cathays Cardiff CF24 4HQ www.publichealthnetwork.cymru Os oes gennych unrhyw newyddion neu ddigwyddiadau i’w cyfrannu i’r rhifyn nesaf anfonwch nhw at publichealth.network@wales.nhs.uk – y dyddiad olaf ar gyfer eu cyflwyno yw’r trydydd dydd Gwener o bob mis.
Rhifyn nesaf: Canolbwynt ar Ddementia