Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru Medi 2016

Page 1

Medi 2016


Croeso i’r E-fwletin Croeso i e-fwletin mis Medi Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r e-fwletin y mis yma’n canolbwyntio ar iechyd y geg sydd, fel y byddwch yn gweld, yn codi pryderon ar gyfer pob grŵp oedran er mai pydredd dannedd yw’r clefyd cronig mwyaf cyffredin sy’n effeithio ar blant. Rydym wedi cynnwys rhywfaint o’r ymchwil sydd yn digwydd yng Nghymru, ynghyd â manylion prosiectau presennol iechyd y geg ar gyfer plant yn ogystal â’r boblogaeth hŷn. Bydd y rheiny ohonoch sydd wedi ymweld â’r wefan yn ddiweddar yn gweld bod yr hafan wedi cael ei gweddnewid. Mae’n fwy rhyngweithiol nag erioed erbyn hyn gyda’r newyddion, y digwyddiadau a’r ymgynghoriadau mwyaf diweddar ar gael i’w gweld ar unwaith. Fodd bynnag, peidiwch anghofio mewngofnodi i’r wefan i weld eich hafan bersonol chi. Rydym wrthi’n trefnu ein seminar diweddaraf ar Gynllunio, Gweithgaredd Corfforol ac Iechyd a gynhelir ar 30 Tachwedd 2016 a’n cynhadledd fydd yn canolbwyntio ar Brofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod a gynhelir ar 15 Mawrth 2017. Os oes gennych unrhyw newyddion neu ddigwyddiadau yr hoffech i ni eu cynnwys yn yr e-fwletin nesaf, anfonwch e-bost atom yn publichealth.network@wales.nhs.uk


www.publichealthnetwork.cymru @PHNetworkcymru

/publichealthnetworkcymru


Smile fel ch


hi yn golygu ei Pwyslais ar Iechyd y Geg Mae’r e-fwletin y mis yma’n canolbwyntio ar iechyd y geg. Mae iechyd y geg yn hanfodol i iechyd ac ansawdd bywyd cyffredinol. Mae’n golygu bod yn rhydd rhag poen yn y geg ac ar yr wyneb, canser y geg a’r gwddf, heintiau a briwiau’r geg, clefyd periodontol (y deintgig), pydredd dannedd, colli dannedd a chlefydau ac anhwylderau eraill sydd yn cyfyngu gallu unigolyn i gnoi, gwenu, siarad a’u lles seicogymdeithasol. (Sefydliad Iechyd y Byd, 2012)


Rhywbeth i Wenu yn ei Gylch

Gan Nigel Monaghan, Ymgynghorydd Iechyd Deintyddol Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru Pydredd dannedd yw’r clefyd cronig mwyaf cyffredin sydd yn effeithio ar blant, gan achosi poen ac yn difetha eu gwên. Mae plant mewn cymunedau difreintiedig yn fwy tebygol o brofi pydredd dannedd am eu bod yn fwy tebygol o gael bwyd a diod felys yn aml. Gall cyflwyno fflworid i’r dannedd helpu. Yn 2008, roedd gan 48% o blant 5 oed 1 dant o leiaf gyda phydredd dannedd amlwg. Yn yr un flwyddyn, lansiodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gwên i wella iechyd ceg plant mewn ardaloedd difreintiedig. Mae Cynllun Gwên yn cynnwys ystod o elfennau, ond yn greiddiol iddo mae rhaglen brwsio dannedd wedi ei oruchwylio yn yr ysgol gan ddefnyddio past dannedd yn cynnwys fflworid. Ategir hyn gan wybodaeth am fwyta’n iach, a chyflwyno rhaglen selio tyllau yn y geg neu farnais fflworid i’r rheiny â risg uchel o bydredd dannedd. Yn 2012, cafwyd newyddion da bod gostyngiad yng nghyfran y plant â phydredd amlwg i 41%, ac yn fwy diweddar yn 2015, mae data arolwg yn dangos bod nifer yr achosion o bydredd bellach yn 35%. Mae’r gostyngiad o 13% mewn pydredd er 2008 fel petai’n cyd-fynd â‘r cyfnod pan gyflwynwyd Cynllun Gwên. Felly a allwn ddweud bod y gwelliant yn sgil Cynllun Gwên? Y rheolaeth orau sydd gennym yw Lloegr nad oedd â rhaglen genedlaethol debyg. Yn ystod yr un cyfnod, mae Lloegr wedi gweld gostyngiad yn nifer yr achosion o bydredd, ond dim ond hanner mor serth â’r gostyngiad yng Nghymru – o 31% i 25%. Mae Gogledd Orllewin Lloegr yn agosach i Gymru o ran lefelau pydredd llinell sylfaen. Yno mae’r gostyngiad yn nifer yr achosion o bydredd yn 5 oed rhwng 2008 a 2015 o 38% i 33%. Mae’n gyffredin gweld annhegwch cynyddol mewn canlyniadau iechyd gyda gwelliant mewn iechyd. Yn achos y gwelliant presennol mewn pydredd dannedd, y newyddion da yw nad yw’r anghydraddoldebau yn ehangu. Mae plant mewn ardaloedd difreintiedig o Gymru yn gweld cymaint o welliant a’u cyfoedion llai difreintiedig. Felly, ymddengys o ran effaith Cynllun Gwên, bod gan Gymru yn wir rywbeth i wenu yn ei gylch.


Cynllun Gwên

Mae Cynllun Gwên yn rhaglen genedlaethol Gwella Iechyd y Geg i wella iechyd deintyddol plant yng Nghymru. Caiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a chafodd ei lansio’n wreiddiol ar 30 Ionawr 2009 yng Ngogledd a De Cymru fel peilot tair blynedd ond mae bellach wedi cael ei gyflwyno ar draws Cymru. Mae dwy elfen i Raglen Cynllun Gwên: Rhaglen ataliol ar gyfer plant ysgol Feithrin/Cynradd: Mae hyn yn cynnwys cyflwyno rhaglenni brwsio dannedd a farnais fflworid mewn Ysgolion/ Meithrinfeydd ar gyfer plant 3-5 oed gan helpu i sefydlu arferion da yn gynnar. Mae plant 6-11 oed yn cael rhaglen Selio Tyllau yn y Geg yn ogystal â chyngor ataliol o ran gofalu am iechyd eu ceg. Rhaglen ataliol ar gyfer plant o enedigaeth i 3 oed: I ddechrau, mae cynlluniau peilot yn cael eu sefydlu gan weithio gydag Ymwelwyr Iechyd ac ystod eang o weithwyr proffesiynol sydd yn gweithio gyda phlant ifanc. Y nod yw rhoi cyngor cyson dda i rieni, i ddarparu brwsys dannedd a phast a’u hannog i ymweld â’r deintydd.


Gwella Iechyd y Geg mewn Cartrefi Gofal Gan Nigel Monaghan, Ymgynhorydd Iechyd Deintyddol Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru Yn 2010/11, cynhaliwyd arolwg deintyddol mawr o drigolion cartrefi gofal yng Nghymru ynghyd ag arolwg deintyddol y Swyddfa Ystadegau Gwladol o oedolion. Dros y 2 flynedd ddiwethaf, mae nifer o bapurau wedi cael eu cynhyrchu mewn cyfnodolion gwyddonol yn amlygu nifer o ganfyddiadau o’r arolygon hyn. Mae gan ryw hanner trigolion cartrefi gofal rai dannedd naturiol, llai na phobl hŷn sy’n byw yn y gymuned. Mae gan drigolion cartrefi gofal fwy o glefyd y geg ac yn nodi mwy o effaith ar weithgareddau bywyd bob dydd na chyfoedion yn y gymuned. Mae ganddynt hefyd iechyd y geg gwaeth sydd yn berygl hysbys o niwmonia allsugno a allai fod yn angheuol. Er gwaethaf y clefyd sy’n bresennol yn eu cegau, mae gan drigolion cartrefi gofal anghenion triniaeth cymharol syml (archwilio, tynnu cen, cyngor am hylendid y geg, llenwi syml). Yn aml, nid yw darparu’r gofal syml hwn yn hawdd oherwydd problemau cydweithredu, symudedd a chymhlethdod meddygol. Mae angen rhoi rhywfaint o ystyriaeth i ystod a sgiliau’r staff a’r lleoliadau sydd eu hangen i ddarparu gofal deintyddol ar gyfer trigolion cartrefi gofal. Cafodd profiad tebyg o’r clefyd ei nodi ar gyfer trigolion cartrefi gofal diweddar a thymor hwy sy’n awgrymu bod y problemau hyn yn bodoli cyn iddynt fynd i mewn i’r cartref. Un peth allweddol sy’n cael ei ddysgu o’r arolwg yw dau gwestiwn syml fydd yn helpu i adnabod y rheiny a allai elwa ar ofal deintyddol. Mae “A oes gennych ddannodd neu broblemau eraill gyda’ch ceg?” yn amlygu rhai o’r rheiny sydd yn byw gyda’r effeithiau, ond nid pawb. Hefyd, bydd gofyn “Pa mor aml y mae gennych geg sych?” yn helpu i adnabod y rheiny sydd yn fwy tebygol o fod yn byw gydag effeithiau ar eu bywyd bob dydd. Mae’r ddau gwestiwn yma yn rhywbeth y gallwn i gyd ei ddefnyddio wrth ryngweithio gyda phobl hŷn yn y gymuned ac mewn cartrefi gofal. Yn y ddau achos, byddai atgyfeirio i gael gwiriad dannedd yn briodol. Mae ceg sych i ryw raddau yn gysylltiedig â heneiddio, ond yn aml hefyd, mae’n cael ei achosi gan feddyginiaeth. Os bydd trigolion mewn cartref preswyl yn ateb “oes” i’r cwestiwn am geg sych yna awgrymir 2 weithred: atgyfeirio i gael gwiriad dannedd ac atgyfeirio am adolygiad o’r feddyginiaeth.


Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru: Gwella Iechyd y Geg ar gyfer Pobl Hŷn Sydd yn byw mewn Cartrefi Gofal yng Nghymru

Lisa Howells, Dirprwy Brif Swyddog Deintyddol, Llywodraeth Cymru Mae tua 23,000 o bobl hŷn yn byw mewn tua 700 o gartrefi gofal yng Nghymru ar unrhyw adeg. Mae gan lawer o’r trigolion iechyd y geg gwael neu annigonol pan fyddant yn symud i mewn i’w cartref gofal, yn aml o ganlyniad i iechyd a symudedd yn dirywio yn ystod y blynyddoedd cyn hynny. Mae gan lawer anghenion cymhleth a byddant yn gyfan gwbl ddibynnol ar eraill am bob agwedd ar eu bywyd bob dydd - yn cynnwys brwsio eu dannedd. Mae ymchwil yng Nghymru wedi helpu i amlygu’r problemau a gallwch ddarllen un darn o ymchwil yn yr erthygl “Improving Oral Health in Care Homes” gan Nigel Monaghan. Mae gofal y geg yn rhan hanfodol o ofal iechyd ac mae’n arbennig o bwysig i bobl hŷn â phroblemau iechyd eraill a all gynyddu eu perygl o glefydau’r geg. Mae hylendid effeithiol y geg yn helpu i gynnal lles ac urddas unigolyn, ac mae’n cyfrannu at ansawdd eu bywyd. Yn bwysicach, mae iechyd y geg yn dibynnu ar ofal ceg da “o ddydd i ddydd”. Mae’r hyn syn digwydd bob dydd yn y cartref gofal yn llawer pwysicach nag ymweliadau achlysurol gan y tîm deintyddol. Cyhoeddwyd Gwella Iechyd y Geg ar gyfer Pobl Hŷn sy’n Byw mewn Cartrefi Gofal yng Nghymru (Cylchlythyr Iechyd Cymru WHC/2015/001) ym mis Chwefror 2015 gyda’r nod o wella iechyd y geg a gofal y geg ar gyfer pobl hŷn sydd yn byw mewn cartrefi gofal trwy ddatblygu dull cyson ar draws Cymru. Roedd y Cylchlythyr yn cynnwys cyllid ailadroddus blynyddol a rennir ar draws 7 bwrdd iechyd (BI). Mae Grwpiau Gweithredu Lleol wedi cael eu sefydlu ym mhob bwrdd iechyd sydd yn dod â phobl ynghyd o ystod o sefydliadau a phroffesiynau yn cynnwys – nyrsys uwch sy’n gyfrifol am bobl hŷn yn y gymuned, y proffesiwn deintyddol, cartrefi gofal neu sefydliadau fel Fforwm Gofal Cymru; yr awdurdod /awdurdodau lleol; a chynrychiolwyr pobl hŷn sydd yn byw mewn cartrefi gofal, er enghraifft, y Cyngor Iechyd Cymunedol. Mae rhai grwpiau hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr y Trydydd Sector a gweithwyr proffesiynol fel Therapyddion Galwedigaethol, Therapyddion Iaith a Lleferydd a Deietegwyr. Mae’n ofynnol ar y Grwpiau Gweithredu Lleol sicrhau bod y gwaith yn cael ei gyflwyno a’i weithredu gan ddefnyddio methodolegau gwella cydnabyddedig sydd yn cyd-fynd â Gwasanaeth Gwella 1000 o Fywydau ac yn tanategu’r ffordd y caiff y rhaglen ei datblygu a’i chyflwyno. Mae Grŵp Cynghori Cenedlaethol amlddisgyblaethol wedi cael ei sefydlu i oruchwylio ac arwain y rhaglen, ac mae grŵp Gorchwyl a Gorffen yn datblygu dogfennau Cymru gyfan ac adnoddau addysgu i gefnogi’r gwaith o gyflenwi’r rhaglen. Gallwch ddarllen mwy ar y wefan hon.


Effaith anuniongyrchol clefydau deintyddol y gellir eu hosgoi ar ragnodi gwrthfiotigau By Anup Karki, Consultant in Dental Public Health, Public Health Wales Dangosodd yr Arolwg Iechyd Deintyddol Oedolion dengmlwyddol diwethaf (2009/10) fod gan 47% o oedolion yng Nghymru bydredd dannedd amlwg. Roedd gan wyth y cant o oedolion gyflyrau’r geg oedd angen gofal deintyddol brys. Fel y nodwyd rhywle arall yn y bwletin hwn, mae nifer yr achosion o bydredd dannedd o fewn poblogaeth plant a phobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal hefyd yn uchel. Gall presenoldeb pydredd dannedd a/neu ‘clefydau’r deintgig’, clefydau y gellir eu hatal i raddau helaeth, arwain at boen a heintiau (e.e. dannoedd waed, yr wyneb yn chwyddo ac ati) yn gofyn am ymyriad deintyddol fel tynnu’r dant, endorri a draenio’r ddannodd waed ac ati. Weithiau, bydd angen cwrs o wrthfiotigau ar gleifion hefyd. Fodd bynnag, dangosodd gwaith Iechyd Deintyddol Cyhoeddus yn 2009 mai deintyddion oedd yn rhagnodi 9% o’r holl wrthfiotigau a ragnodir mewn gofal sylfaenol yng Nghymru oedd yn ymddangos yn uchel o ystyried nad oes llawer o gyflyrau deintyddol lle mae’r defnydd o wrthfiotigau wedi cael ei argymell. Gydag ymwrthedd gwrthficrobaidd cynyddol wrth ddefnyddio a chamddefnyddio gwrthfiotigau, roedd cynyddu’r defnydd o wrthfiotigau mewn deintyddiaeth yng Nghymru’n cael ei ystyried yn bryder yn ymwneud ag iechyd deintyddol cyhoeddus. Gall cleifion sydd yn cael presgripsiwn gwrthfiotigau heb unrhyw ymyrraeth ddeintyddol hefyd nodi gofal deintyddol amhriodol. Felly mae cynyddu’r defnydd o wrthfiotigau mewn deintyddiaeth yn cyd-fynd yn dda gyda swyddogaethau iechyd deintyddol cyhoeddus eraill o wella gofal iechyd deintyddol a lleihau nifer yr achosion o heintiau deintyddol h.y. clefydau deintyddol yn y boblogaeth. Un o’r argymhellion o waith Iechyd Deintyddol Cyhoeddus yn 2009 oedd cyflwyno ffurflenni rhagnodi unigol ar gyfer deintyddion y GIG yng Nghymru. Cafodd ffurflen ragnodi unigol ar gyfer deintyddion yng Nghymru ei gyflwyno ym mis Mai 2012. Cafodd archwiliad gwrthficrobaidd 1000 o Fywydau ar gyfer ymarferwyr deintyddol hefyd ei ddatblygu trwy gydweithio rhwng y Tîm Iechyd Deintyddol Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, Ysgol Ddeintyddiaeth Prifysgol Caerdydd a’r Ddeoniaeth Ôl-radd Ddeintyddol yn 2012. Yn yr un flwyddyn, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddileu cymhelliant gwrthynysig ar gyfer rhagnodi gwrthfiotigau yng nghontract y Gwasanaeth Deintyddol Cyffredinol. Mae’r ‘ymyriadau’ lluosog hyn wedi arwain at ostyngiad o 22% mewn eitemau gwrthfiotig sy’n cael eu rhagnodi gan ddeintyddion yng Nghymru (Ffig 1).


Our success in reducing antibiotic prescribing in dentistry in Wales have been shared with other UK countries through the UK Chief Dental Officers’ meetings, personal communication with Dental Public Health teams within Public Health England and publications in the British Dental Journal. The national antimicrobial dental audit is still ongoing providing dental practitioners with an opportunity to reflect and improve on their prescribing practice. By April 2016, 303 dentists had completed and further 207 were participating in the audit. Other pieces of work o this area include exploration of clinical and non clinical factors associated with antibiotic prescribing in dentistry and dental consultations by general medical practitioners. A dental public health project has recently started to explore the possibility of producing accurate antibiotic prescribing profile of each individual dental practitioner in Wales. Once completed, this project should lead to development and testing of various interventions with the aim of further optimising antibiotic prescribing in dentistry.

Gwella Ansawdd Gyda’n Gilydd – y Rhaglen Gwella Ansawdd Ymarfer Deintyddol Gan Lisa Howells, Dirprwy Brif Swyddog Deintyddol, Llywodraeth Cymru Mae Adran Israddedig Deintyddol Prifysgol Caerdydd wedi datblygu Rhaglen Gwella Ansawdd Ymarfer - cyfres o offer i gefnogi meddygfeydd deintyddol i wella ansawdd a diogelwch ymhellach mewn ymarfer deintyddol, a helpu pob tîm deintyddol gyda datblygiad ac addysg ôl-radd parhaus. Cefnogir y rhaglen gan y Tiwtoriaid Datblygu Ymarfer. Mae’r offer yn cynnwys: • Hyfforddiant wrth Ymarfer • Cynlluniau ymarfer a datblygiad personol • Deintyddiaeth Matrics Aeddfedrwydd (system hunanasesu wedi ei hwyluso gan ymarfer) • Archwilio Clinigol (yn cynnwys archwiliadau Cymru gyfan ar ragnodi gwrthfiotigau a rheoli traws-heintio) a’r • Canllaw gwella ansawdd ar gyfer timau deintyddol (a ddatblygwyd ar y cyd gan yr Adran Ôl-radd Ddeintyddol a Gwella Gwasanaeth 1000 o Fywydau). Mae’r Rhaglen Gwella Ansawdd Ymarfer yn helpu i nodi a bodloni anghenion addysgol unigolion a thimau ymarfer deintyddol, yn ogystal â’u cefnogi i wella eu meddygfa ymhellach, gweithio fel tîm a gofal cleifion. Mae profiadau addysgol a rennir yn rhoi’r egwyddorion i’r timau ymarfer ar gyfer hunan-wella a gwella ymarfer gan eu galluogi i addasu a datblygu yn unol â chynlluniau a safonau ansawdd cenedlaethol.


Crynodeb Deintyddol y Prif Swyddog Mae Prif Swyddog Deintyddol Cymru yn cyhoeddi Crynodeb Deintyddol ddwywaith y flwyddyn. Mae wedi ei anelu at bob aelod o’r tîm deintyddol ac mae’n cynnwys ystod eang o wybodaeth a allai hefyd fod o ddiddordeb i weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill. Gallwch ddarllen y rhifyn diweddaraf a chael gafael ar rifynnau blaenorol ar Wefan Llywodraeth Cymru.

Yr angen am weithredu ar ganser y geg Gan Mary Wilson, Hyfforddai Iechyd Cyhoeddus Cymru

Arbenigedd,

Iechyd

Deintyddol

Cyhoeddus,

Mae nifer y bobl yng Nghymru sy’n cael diagnosis o ganserau’r geg ac oropharyngeal (y geg) yn cynyddu bob blwyddyn, gyda thua 300 o bobl yng Nghymru’n cael diagnosis bob blwyddyn. Mae dwywaith cymaint o ddynion yn cael diagnosis o ganser y geg â menywod, ond mae’r nifer sy’n cael eu heffeithio yn cynyddu ymysg y ddau ryw. Cafwyd y cynnydd mwyaf yn nifer yr achosion mewn dynion ifanc sy’n oedolion (35-44 oed), o 128% yn y degawd hyd at 2013. Mae pob grŵp oedran ymysg menywod wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion er 2001. Cafwyd y cynnydd mwyaf, sef 82%, yn y grŵp oedran 65-74 oed. Nododd Iechyd Cyhoeddus Cymru mai dim ond 55% o bobl gyda chanser y geg sydd yn byw mwy na phum mlynedd ar ôl diagnosis. Po gynharaf y caiff y canser ei ganfod, y lleiaf yw’r tebygolrwydd y bydd y driniaeth yn llwyddo i ymestyn bywyd. Fodd bynnag, mae 59% o bobl â chanser y geg (lle mae’r cyfnod yn hysbys), yn cael diagnosis yn ystod cyfnod mwyaf datblygedig y clefyd. Mae’r ffactorau risg o ganser y geg yn cynnwys smygu, cnoi tybaco ac yfed alchohol, a’r haint feirws papilloma dynol (HPV). Gall pobl gael cyngor i leihau’r perygl gan eu deintydd, eu meddyg neu’r fferyllfa leol, a gallant gysylltu â Dim Smygu Cymru am gymorth i roi’r gorau i smygu. Gall gweithwyr iechyd proffesiynol wella eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth o ganser y geg gyda phecyn cymorth ar-lein am ddim a gynhyrchwyd gan Ymchwil Canser y DU a Chymdeithas Ddeintyddol Prydain. Mae’r pecyn cymorth yn rhoi gwybodaeth am arwyddion a symptomau canser y geg, llyfrgell ddelweddau, astudiaethau achos, fideos archwilio a chwis DPP. Mynediad (trwy glicio Ydw, rwyf yn weithiwr deintyddol proffesiynol) yn: http://www.doctors.net.uk/eClientopen/CRUK/ oral_cancer_toolkit_2015_open/home.html Cynhelir Mis Gweithredu ar Ganser y Geg ym mis Tachwedd gyda’r nod o wella addysg yn ymwneud â ffactorau risg ac arwyddion a symptomau canser y geg tra’n annog pawb i’w trafod gyda’u gweithiwr deintyddol proffesiynol.



Cael Ei Holi Mae ‘Yn y Fan a’r Lle’ y mis yma gyda Maria Morgan, sydd yn Uwch Ddarlithydd Iechyd Deintyddol Cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ble rydych chi’n gweithio ar hyn o bryd a beth yw eich maes arbenigedd? Rwy’n gweithio 4 diwrnod yr wythnos fel uwch ddarlithydd ym maes iechyd deintyddol cyhoeddus i Brifysgol Caerdydd (lle rwy’n arwain gwaith Uned Gwybodaeth Iechyd y Geg Cymru ac un dydd fel arbenigwr iechyd y cyhoedd i’r tîm iechyd deintyddol cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rwyf yn arbenigwr iechyd y cyhoedd cyffredinol wedi fy nghofrestru ar UKPHR yn ogystal â Chymrawd Cyfadran Iechyd y Cyhoedd. Fy meysydd arbenigedd yw epidemioleg ddeintyddol, iechyd deintyddol ac ehangach cyhoeddus a maeth iechyd y cyhoedd.

Mae’r e-fwletin y mis yma’n canolbwyntio ar Iechyd y Geg, beth yn eich barn chi yw’r neges bwysicaf o ran Iechyd y Cyhoedd y dylid ei chyfleu i weithwyr proffesiynol a’r cyhoedd yn ymwneud ag iechyd y geg? Mae gennyf ddwy neges allweddol sydd mor gysylltiedig ni allaf eu blaenoriaethu. Gall swnio ychydig yn syml ond fy neges allweddol gyntaf yw “na allwch wahanu’r pen o weddill y corff”. Felly gall beth bynnag y byddwch yn ei fwyta neu ei yfed effeithio ar y geg yn ogystal â gweddill y corff. Gall ffactorau ffordd o fyw fel deiet yn llawn siwgr, yfed gormod o alcohol a smygu tybaco effeithio ar iechyd y geg gymaint ag y gallant effeithio ar iechyd mwy cyffredinol. Fy mhrif neges arall yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd fyddai i frwsio eich dannedd ddwywaith y dydd, bore a nos, gyda phast dannedd wedi ei fflworideiddio. Mae Cyflenwi iechyd y geg gwell yn becyn cymorth defnyddiol ac ymarferol sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac yn rhoi manylion crynodiadau fflworid mewn past dannedd sy’n briodol ar gyfer plant ac oedolion a sut i helpu plant i frwsio.

Pa wasanaethau sydd ar gael yng Nghymru yn ymwneud ag iechyd y geg? Ceir ystod o wasanaethau yng Nghymru yn ymwneud ag iechyd y geg sydd yn cynnwys ystod eang o weithwyr iechyd deintyddol proffesiynol. .


NHS dentistry is provided via hospitals, the general dental service and the community dental service. There is also private provision. Members of the dental team include dentists, hygienists, therapists, nurses, technicians and the administrators involved in supporting the service. More details about services available can be found at the Health in Wales link. The community dental service, sometimes referred to as “the salaried dental service”, has a fundamental public health role. It is involved in providing robust epidemiological data which informs planning and it delivers our national oral health promotion programme Designed to Smile.

Pe byddech yn cael 3 dymuniad, beth fyddent? Lleihau’r anghydraddoldebau o ran iechyd y geg Sicrhau nad oes unrhyw blant (ar wahân i’r rheiny ag anghenion arbennig iawn) yn cael triniaeth ddeintyddol trwy anaesthesia cyffredinol Y diwydiant bwyd ac iechyd yn cydweithio i ailffurfio cynnyrch bwyd er mwyn lleihau’r siwgr sydd ynddynt ac addysgu defnyddwyr mewn ffordd deg a thryloyw.

Beth yw eich diddordebau personol? Rwy’n berson y bobl, rwyf wrth fy modd yn rhannu fy amser gyda fy nheulu a’m ffrindiau. Nhw yw fy ysbrydoliaeth i’m gyrfa ym maes iechyd y cyhoedd. Hoffwn feddwl fy mod yn gweithio i wella ansawdd bywyd ar gyfer pobl sydd yn byw yng Nghymru a thu hwnt – ac mae hynny’n cynnwys fy merch 15 oed, Rhiannon! Un diwrnod, pan fydd gennyf fwy o amser rhydd, hoffwn gymryd rhan yn y Bake Off a dangos y gallwch bobi gyda llai o siwgr!


The Grapevine Mae’r rhan hwn o’r e-fwletin wedi’i neilltuo i newyddion gan aelodau’r rhwydwaith. Cewch gyflwyno newyddion ynglŷn â gwaith sy’n cael ei wneud yn eich ardal chi, ysgrifennwch erthygl ar ein cyfer, hyrwyddwch ddigwyddiad sydd i ddod neu broliwch am eich cyraeddiadau! Os ydych chi’n dymuno cyflwyno erthygl ar gyfer yr adran Clecs anfonwch neges e-bost at Sarah.James10@wales.nhs. uk. Ni ddylai’r erthygl gynnwys mwy na 500 o eiriau ac rydym yn croesawu lluniau bob amser!!

Plant ysgol yn Sir y Fflint yn rhannu eu gwên yn dilyn gwobr flaenllaw gan y Bwrdd Iechyd Mae disgyblion yn Ysgol Gwynedd, y Fflint, wedi derbyn gwobr am eu hymrwymiad i’r rhaglen genedlaethol Cynllun Gwên gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae menter Llywodraeth Cymru wedi ei dylunio i wella hylendid y geg ymysg plant ysgol gynradd trwy eu hannog i sefydlu arferion deintyddol da yn ifanc. Fel rhan o’r cynllun ac yn ogystal â brwsio yn y cartref, dangosir i’r disgyblion sut i frwsio eu dannedd yn ddyddiol yn yr ysgol yn dilyn arweiniad clinigol ar arfer gorau, gyda phast dannedd fflworid. Ar draws Gogledd Cymru, mae dros 400 o leoliadau cyn-ysgol ac ysgol gynradd (yn cynnwys 176 o ysgolion) yn cymryd rhan yn y rhaglen hybu iechyd y geg, Cynllun Gwên, sydd yn cynnwys dros 21,200 o blant. Ysgol Gwynedd, ar Rodfa Tywysog Cymru, oedd y gyntaf o chwech o ysgolion i gael a chynnal y statws blaenllaw. Mae’n cymryd rhan ym mhob agwedd ar y rhaglen hybu iechyd y geg, yn cynnwys yr ysgol gyfan yn brwsio dannedd, sgrinio iechyd y geg ysgol gyfan, yn ogystal â chymryd rhan mewn rhaglenni Selio Tyllau yn y Geg a Farnais Fflworid. Fe wnaeth Cadeirydd y Bwrdd Iechyd, Dr Peter Higson, ynghyd â Chyfarwyddwr Iechyd Deintyddol Cyhoeddus, Dr Sandra Sandham, a Marian Jones, Rheolwr Hybu Iechyd Deintyddol, ymweld ag Ysgol Gwynedd i gyflwyno’r wobr a llongyfarch ei disgyblion a’r staff am eu hymroddiad i’r rhaglen.


Dywedodd Dr Higson: “Roedd yn bleser ymweld â disgyblion Ysgol Gwynedd a gweld pa mor dda y maent yn ei wneud gyda rhaglen Cynllun Gwên. Mae eu brwdfrydedd a’u hagwedd yn rhagorol ac rwy’n canmol y disgyblion a’r staff am eu hymroddiad yn gwneud hyn yn rhan arferol o’r diwrnod ysgol.” Dywedodd Marian Jones: “Mae Ysgol Gwynedd wedi derbyn y rhaglen ac mae’n gwbl ymroddedig i wella iechyd deintyddol ei disgyblion. “Mae Jeremy Griffiths, pennaeth yr ysgol, wedi gwneud gwaith rhagorol yn cefnogi gweddill y staff i gynnal y rhaglen. “Mae’r ysgol wedi bod yn rhan o Gynllun Gwên ers iddo gael ei lansio yn 2009, ac mae’r disgyblion wedi cefnogi’r rhaglen, i’r graddau ei bod bellach yn rhan arferol o’r diwrnod ysgol.” Dywedodd Jeremy Griffiths, Pennaeth Ysgol Gwynedd: “Rydym yn falch iawn o fod yn gysylltiedig â Rhaglen Cynllun Gwên ac mae wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i iechyd deintyddol ac agweddau ein plant. “Maent nid yn unig yn ymwybodol o bwysigrwydd brwsio rheolaidd ond hefyd o effeithiau gormod o siwgr yn ein deiet ar eu dannedd a’u hiechyd yn gyffredinol. “Mae’r broses gyfan yn cymryd munudau yn unig ond mae’r brwsio yn gyfnod tawel ym mhob dosbarth sydd yn helpu disgyblion i baratoi ar gyfer y sesiwn ddysgu nesaf.”


Atal pydredd yn ystod plentyndod cynnar yng Nghymru: gwaith cydweithredol Gan Mary Wilson, Hyfforddai Arbenigedd, Iechyd Deintyddol Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru Canfu arolwg epidemioleg ddeintyddol 2013-14 yng Nghymru fod 14.5% o blant tair oed wedi profi pydredd dannedd, yn codi i 20.2% yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig (Morgan a Monaghan, 2015). Mae angen cynyddu manteision iechyd deintyddol ymysg y grwpiau oedran ieuengaf posibl er mwyn rhoi’r cyfle gorau i blant leihau’r risg o bydredd dannedd yn ystod cwrs bywyd. Gan ddefnyddio egwyddorion iechyd darbodus, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda Chynllun Gwên a thimau Ymwelwyr Iechyd i wella hybu iechyd y geg ymhellach ymysg teuluoedd a babanod neu blant bach. Mae hyfforddiant yn cael ei ddarparu i atgyfnerthu gwybodaeth a sgiliau yn darparu addysg iechyd y geg, yng nghyd-destun ymchwil ddiweddar i ffactorau ysgogi a normau cymdeithasol (Trubey et al, 2015). Mae pecyn cymorth iechyd y geg a ddatblygwyd ar gyfer ymwelwyr iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (Karki a Childs, 2015) yn cael ei gyflwyno ar draws Cymru, gyda gwaith cydweithredol er mwyn ei addasu’n lleol. Mae hyn yn datblygu’r berthynas agos rhwng ymwelwyr iechyd a’r gwasanaethau deintyddol. Mae dichonoldeb cyflwyno ‘Lift the Lip’, offeryn sgrinio iechyd y geg ar gyfer plant ifanc, yn cael ei archwilio yn ystod ymweliad a ariennir gan Gymrodoriaeth Churchill Fellowship i Awstralia. Bydd Mary Wilson o dîm Iechyd Deintyddol Cyhoeddus Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweld sut y gall y rhaglen ‘Lift the Lip’ ychwanegu at ddatblygu rôl ymwelwyr iechyd er mwyn adnabod plant sydd mewn perygl a chyflwyno strategaethau ymyrraeth gynnar i leihau pydredd dannedd. Bydd hyn yn helpu i ddatblygu ymagwedd amlddisgyblaethol tuag at wella iechyd y geg a lleihau anghydraddoldebau sydd yn dal yn rhy gyffredin ymysg plant yn y DU.

Chwalu Mythau am Boen Cefn Mae ymgyrch newydd gan Gymdeithas Siartredig y Ffisiotherapyddion bellach yn ceisio chwalu’r pedwar myth mwyaf er mwyn mynd i’r afael â’r hyn sydd yn dal yn brif achos anabledd ac absenoldeb salwch o’r gwaith. Mae mythau hirsefydlog am boen cefn yn gwneud i bobl ofni gwneud y gweithgareddau sydd angen iddynt eu gwneud i’w helpu i wella, mae ffisiotherapyddion yn rhybuddio. Mae astudiaethau yn dangos pwysigrwydd bod yn egnïol a pharhau i wneud ymarfer corff, yn cynnwys codi pwysau lle y bo’n briodol, er mwyn goresgyn poen cefn. Mae’r mythau fel a ganlyn: - Bydd symud yn gwaethygu’r boen yn fy nghefn - Dylwn osgoi gwneud ymarfer corff, yn arbennig codi pwysau - Bydd sgan yn dangos yn union beth sydd yn bod - Mae poen yn golygu niwed Mae’r mythau’n cael eu chwalu mewn taflen newydd, adnoddau ar-lein a chyfres o bosteri fydd yn cael eu harddangos mewn ystafelloedd aros ffisiotherapi ar draws y wlad.




HIV and Ageing Research Have your say in the calls we make to government.

Are you aged 50 or over and living with HIV? Could you spare a couple of hours to share your experiences and opinions on growing older with HIV? Your input will help us to influence the Government and decision makers. You will be interviewed by a peer researcher from our team, all of whom are aged 50 or older and are living with HIV themselves. You will be reimbursed for all travel cost and refreshments will be provided. If you are interested in taking part please contact laura.scott@tht.org.uk or 0207 812 1636 for more information.

The HIV and sexual health charity for life

Terrence Higgins Trust is a registered charity in England and Wales (reg no. 288527) and in Scotland (SC039986). Company reg. no. 1778149. A company limited by guarantee.


Ffilm animeiddiedig i helpu cleifion i roi’r gorau i smygu Mae meddyg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wed creu ffilm animeiddiedig i helpu cleifion i roi’r gorau i smygu cyn llawdriniaeth. Fe wnaeth Dr Tony Funnell, anesthetydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru, greu ‘Di-fwg Cyn eich Triniaeth’ i amlygu buddion rhoi’r gorau i smygu. Mae’r ffilm, mewn cydweithrediad â’r Tîm Iechyd y Cyhoedd Lleol, yn defnyddio delweddau wedi eu tynnu â llaw i esbonio y gall rhoi’r gorau iddi gynyddu eich siawns o lawdriniaeth lwyddiannus a chynorthwyo adferiad.

DreamBig Fe aeth ymgyrch DreamBig, sydd yn ceisio cynyddu uchelgais ymysg merched yn eu harddegau yng Ngogledd Cymru, i ddigwyddiad Olympaidd yr UD i Ferched a gynhaliwyd yng Nghanolfan Hamdden y Rhyl ar 18 Awst. Dangosodd aelodau tîm Iechyd y Cyhoedd Gogledd Cymru y wefan newydd sbon i’r merched a fynychodd a’u hannog i fod yn flogwyr ar y safle newydd. Wedi ei ddylunio gan ac ar gyfer menywod ifanc 11-16 oed yng Ngogledd Cymru, nod DreamBig yw rhoi cyfarwyddyd, cymorth ac arweiniad ar yrfaoedd, ffyrdd o fagu hyder, trechu bwlio a hybu iechyd a lles.

Cynllun Cerdyn C YMCA Caerdydd – Hyfforddiant Man Casglu Mae Cynllun Cerdyn C Caerdydd wedi datblygu cwrs hyfforddi ‘Man Casglu’ yn targedu gweithwyr proffesiynol sydd yn gweithio mewn meddygfeydd, fferyllfeydd a chyfleusterau hamdden. Mae hwn yn ymdrech i gynyddu nifer y lleoliadau Cerdyn C hygyrch ar gyfer pobl ifanc ar draws Caerdydd


Tîm yr Uned Adfywio Gwledig: Hwyf Fawr Oddi Wrthym Ni… Yn dilyn 12 mlynedd lwyddiannus, bydd cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Cydweithfeydd Bwyd Cymunedol ar draws Cymru yn dod i ben ar 30 Medi 2016. Dros y deuddeg mis diwethaf, mae’r prosiect wedi canolbwyntio’n bennaf ar gefnogi nifer graidd o gydweithfeydd i fod yn fwy hunangynhaliol. Mae’r tîm yn falch iawn, allan o’r grŵp craidd o 108 o gydweithfeydd bwyd cymunedol cysylltiedig a’u 552 o wirfoddolwyr, eu bod wedi cyflawni’r canlyniadau rhagorol hyn:

Mae’r tîm bellach yn symud ymlaen i borfeydd newydd, ac eisiau dweud cymaint o bleser y maent wedi ei gael yn gweithio gyda’r holl gydweithfeydd a phartneriaid allweddol dros y blynyddoedd.


News Round-Up Croeso i’r Crynodeb o’r Newyddion. Cliciwch ar benawdau’r eitem newyddion i fynd i’r stori newyddion lawn ar Wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Substance Misuse Cynllun Cyflenwi Camddefnyddio Sylweddau 2016-2018 Mae Cynllun Cyflenwi Camddefnyddio Sylweddau tair blynedd wedi cael ei lansio sydd yn nodi’r ffordd y bydd Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a sefydliadau partner eraill yn mynd i’r afael ag effaith camddefnyddio sylweddau, yn cynnwys gwaith i leihau nifer y marwolaethau sy’n ymwneud â chyffuriau ac alcohol.

Physical Activity Symud mwy. Eistedd llai. Chwarae gyda’ch gilydd Mae ffeithlun newydd yn seiliedig ar ganllawiau gweithgaredd corfforol yn DU ar gyfer y blynyddoedd cynnar wedi cael ei lansio. Bydd y ffeithlun yn helpu athrawon y blynyddoedd cynnar, ysgolion meithrin, ymwelwyr iechyd a meddygon i siarad am bwysigrwydd plant ifanc yn bod yn egnïol. Gellir hefyd ei ddefnyddio fel adnodd hyfforddiant.


Cardiovascular Llai yn marw yng Nghymru o gyflyrau’r galon The Welsh Government’s Heart Disease Annual Report has been released which shows that there has been a reduction in the number of people dying from cardiovascular disease in Wales. The report also shows that patients are being treated more quickly and closer to home and more lives are being saved through early diagnosis of heart disease related conditions.

Health Professionals Offeryn ar-lein i olrhain iechyd y genedl Mae offeryn ar-lein yn cynnwys y data mwyaf cyfredol a diweddar ar iechyd pobl Cymru wedi cael ei lansio gan yr Is-adran Gwybodaeth Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mental Health Lansio cymuned ar-lein “Clic” newydd Hafal ar gyfer pobl yng Nghymru sydd wedi eu heffeithio gan salwch meddwl Cafodd cymuned ar-lein “Clic” newydd Hafal ei lansio mewn digwyddiad yng Ngerddi’r Castell, Abertawe ar 14 Medi. Mae’r gymuned ar-lein ddwyieithog newydd wedi cael ei datblygu gan bobl â phrofiad uniongyrchol o salwch meddwl mewn partneriaeth â Hafal a’r Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol, a chaiff ei hariannu gan Gronfa Loteri Fawr Cymru.

Click Here for more news on the Public Health Network Cymru website


Hydref

01

04

Stoptober 2016 01/10/16 -31/10/16 Ymgyrch Lloegr

Pobl Ifanc LGBTQ: Making Things Perfectly Queer 04/10/16 Caerdydd


05 05 06 06 07 07 10 11

Canolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia : Codi Ymwybyddiaeth – Cynhadledd Codi Safonau 05/10/16 Caerdydd

Seminar SaFE: Sut ddylai ymyrraeth i hybu rhyw diogel a chydberthynas iach mewn Addysg Bellach ymddangos? 05/10/16 Prifysgol Caerdydd

Cynhadledd Rianta 2016 – Rhianta a Chymorth Teuluol – datblygu ein gweithlu i fodloni’r Her 06/10/16 Llanfair-ym-muallt

Fforwm Iechyd Meddwl Compass Cyntaf yr UE 06/10/16 – 07/10/16 Lwcsembwrg

Cyfarfod Cydweithredol Nyrsio 07/10/16 Llandrindod

Llwybrau at niwed, llwybrau at ddiogelu: dysgu o gamdriniaeth ddifrifol ac angheuol plant 07/10/16 Llundain

Hyfforddiant Deuddydd Ymwybyddiaeth Iechyd Rhywiol a cyfforddiant Cerdyn C 10/10/16 Caerdydd

Buddsoddi mewn Chwaraeon a Gweithgaredd. Economaidd Chwaraeon 11/10/16 Maes Pêl-droed Manchester United

Click Here for more events on the Public Health Network Cymru website

Effaith


The Health Buzz Brush DJ Ar gael am ddim ar Apple a Google, mae Brush DJ yn amserydd brwsio sy’n defnyddio llyfrgell gerddoriaeth bersonol person i helpu i frwsio am ddwy funud lawn. Mae’r wefan yn rhoi tiwtorial fideo ar nodweddion yr ap, ynghyd â gwybodaeth i gleifion a gweithwyr deintyddol proffesiynol. Ceir rhestr o hoff ganeuon brwsio hyd yn oed.

Ap Sugar Smart Mae’r ap Sugar Smart yn galluogi pobl i sganio côd bar dros 75,000 o gynnyrch bwyd a diod bob dydd i weld sawl ciwb siwgr 4 gram y mae’n ei gynnwys (cyfanswm siwgr). Gallant hefyd rannu ‘datgeliad siwgr’ gyda ffrindiau a theulu, a chael awgrymiadau a syniadau ynghylch sut i gwtogi ar siwgr ar wefan Newid am Oes. Mae ap Sugar Smart ar gael am ddim o’r app store a google play.

Hafan ar ei Newydd Wedd Mae hafan y wefan wedi cael ei diweddaru’n ddiweddar. Rhowch wybod i ni os oes gennych fwy o awgrymiadau ar gyfer ei gwella.


Contact Us Publichealth.network@wales.nhs.uk Capital Quarter 2 Floor 5 Tyndall Way Cardiff CF10 4BZ www.publichealthnetwork.cymru Os oes gennych unrhyw newyddion neu ddigwyddiadau i’w cyfrannu i’r rhifyn nesaf anfonwch nhw at publichealth.network@wales.nhs.uk – y dyddiad olaf ar gyfer eu cyflwyno yw’r trydydd dydd Gwener o bob mis.


Rhufyn Mis Hydref: Pwyslais ar Iechyd Cyn-filwyr



Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.