Rhwydwaith Iechyd Chyoeddus Cymru - Adroddiad Blynddol 2016-2017

Page 1

Adroddiad Blynyddol 2016 - 2017


Cynnwys CYFLWYNIAD

1

AMCANION AR GYFER 2016 / 2017

2

GRÅ´P CYNGHORI

3

AELODAETH

4

GWEFAN

5

PECYN CYMORTH A CHRONFA DDATA ARFER DA

6

CYNADLEDDAU, SEMINARAU A DIGWYDDIADAU

7

CYNLLUNIAU AR GYFER Y DYFODOL

8

RHAGOR O WYBODAETH


Cyflwyniad Yn dilyn lansio Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ei newydd wedd ddwy flynedd yn ôl, mae’r rhwydwaith wedi mynd o nerth i nerth. Fel pawb arall yn y wlad, mae’n rhaid i ni addasu i amgylchedd economaidd sy’n gynyddol heriol, ond gyda gwaith rhagorol y tîm a chefnogaeth ardderchog ein haelodau, rydym wedi gallu parhau i ddarparu cymorth o safon uchel, fel y nodwyd yn yr adborth gan ein partneriaid a’n haelodau. Mae cryfder y rhwydwaith yn seiliedig ar arbenigedd a phrofiad cyfunol yr aelodau ac rydym wedi gweld y rheini’n cael eu rhoi ar waith drwy’r digwyddiadau rydym wedi’u cynnal a’r cyfraniadau rhagorol a gawn yn rheolaidd ar gyfer yr e-fwletinau poblogaidd. Mae’r model grymuso democrataidd yr ydym wedi’i fabwysiadu wedi golygu bod yr aelodau eu hunain wedi llywio’r digwyddiadau a gynhaliwn, y gallu i gynyddu capasiti a gynigiwn a datblygiad y wefan a’r gwasanaethau eraill a ddarparwn. Ac rydym yn anelu at ddatblygu’r ymgysylltiad gweithredol brwdfrydig hwn yn y dyfodol, gan wneud yn fawr o’r adnoddau sydd ar gael i ni a chael y wybodaeth ddiweddaraf am y byd digidol sy’n datblygu’n barhaus.

Malcolm Ward Prif Arbenigwr Hybu Iechyd; Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol


Amcanion ar gyfer 2016 / 2017 Mae Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn anelu at greu rhwydwaith sydd o ddiddordeb i bawb sy’n gweithio ar faterion iechyd cyhoeddus yng Nghymru gyda chyngor, gwybodaeth a chefnogaeth amserol o safon. Mae ei amcanion fel a ganlyn: Darparu a chynnal porth deinamig, atyniadol a deniadol ar y we sy’n rhoi mynediad parod i wybodaeth iechyd cyhoeddus gynhwysfawr, eitemau newyddion cyfredol a rhai sy’n dod i’r amlwg, ffrydiau fideo, gwybodaeth friffio ar ymchwil a thystiolaeth a chymunedau o ddiddordeb. Helpu i lywio a chefnogi’r gwaith o ddatblygu polisi iechyd cyhoeddus ac ymarfer iechyd cyhoeddus gorau drwy amrywiaeth o ddigwyddiadau amserol chwarterol gan gynnwys seminarau a chynadleddau. Hyrwyddo a chefnogi ymarfer iechyd cyhoeddus da drwy ddatblygu a dosbarthu pecyn cymorth a chronfa ddata o arferion a rennir ar-lein y gellir ei lawrlwytho. Ymateb mewn modd amserol i faterion iechyd cyhoeddus newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg gyda fforymau rhyngweithiol a’r cyfle i gymryd rhan mewn cymunedau ar-lein. Mae cylch gwaith y rhwydwaith yn cynnwys: Darparu cymorth ac arweiniad i’r gweithlu iechyd cyhoeddus ehangach. Trefnu a hyrwyddo digwyddiadau rhanbarthol a chenedlaethol ar bynciau iechyd cyhoeddus. Cynhyrchu a dosbarthu e-fwletinau i aelodau cofrestredig o’r rhwydwaith. Datblygu a chynnal cyfres o gronfeydd data i gefnogi ymarferwyr yn eu datblygiad parhaus ym maes iechyd cyhoeddus. Hyrwyddo a chefnogi arferion da mewn mentrau iechyd cyhoeddus


Grŵp Cynghori Sefydlwyd Grŵp Cynghori i oruchwylio ac arwain gwaith Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r grŵp amlddisgyblaeth yn cynrychioli aelodau’r Rhwydwaith, ac mae’n anelu at annog pobl i gydweithio mwy yng Nghymru. Mae’n cynnwys cynrychiolwyr o’r holl sectorau, disgyblaethau a lleoliadau sydd â rôl i’w chwarae mewn gwella iechyd poblogaeth Cymru. Mae ‘Cylch gorchwyl’ a ‘datganiadau ymrwymiad’ ar gael ar gyfer aelodau’r grŵp a chawsant eu cymeradwyo a’u cadarnhau yn y cyfarfod agoriadol ar 24 Mawrth 2016 a byddant yn cael eu hadolygu’n flynyddol. Amlygodd yr alwad am wirfoddolwyr ar gyfer y Grŵp Cynghori y brwdfrydedd a’r amrywiaeth o ddiddordebau a phrofiad ymysg yr aelodau na fyddai byth modd manteisio arnynt yn llawn drwy’r Grŵp Cynghori yn unig, ac felly sefydlwyd ‘Grŵp Cyfeirio’ ehangach o’r aelodau. Mae’n darparu carfan o brofiad a gwybodaeth eang y gall tîm y rhwydwaith ei ddefnyddio pan fydd gan yr aelodau gwestiynau neu pan fydd angen cyngor arnynt sydd y tu hwnt i’w harbenigedd proffesiynol. Ceir manylion aelodau’r grwpiau Cynghori a Chyfeirio yma: http://www.publichealthnetwork.cymru/cy/about-us/public-health-network-cymru-advisory-group/ Un wedd newydd bwysig ar y rhwydwaith yw’r rôl o ran cefnogi a hyrwyddo gwaith yr aelodau ar lefel leol ac, er mwyn gwneud y mwyaf o’r cysylltiadau ar y lefel hon, recriwtiwyd nifer o wirfoddolwyr sy’n aelodau i weithredu fel ‘Hyrwyddwyr Lleol’. Eu rôl yw gweithredu fel cyswllt ar gyfer y rhwydwaith drwy drosglwyddo gwybodaeth yn ôl i dîm y rhwydwaith fel y gellir ei rhannu’n fwy eang gan gyfleu gwybodaeth o’r tîm yn ôl i’r ardal leol hefyd.

Aelodaeth Lansiwyd Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru ym mis Mai 2015. Ers hynny, mae nifer aelodau cofrestredig y rhwydwaith yn parhau i gynyddu ac roedd 1,004 o aelodau ar 30 Mawrth 2017. Mae aelodau cofrestredig y Rhwydwaith yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am weithgaredd Iechyd Cyhoeddus ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys e-fwletinau, mynediad i nodweddion ar gyfer aelodau’n unig ar y wefan, gwahoddiadau i gynadleddau a seminarau a gynhelir gan Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru, a’r cyfle i lywio seminarau a chynadleddau yn y dyfodol. Mae amrywiaeth mawr o weithwyr proffesiynol wedi’u cofrestru â’r rhwydwaith, gan gynnwys Gweithwyr Cymunedol, Gweithwyr Proffesiynol Amgylcheddol, Rheolwyr Wardiau, Rheolwyr Prosiectau, Cyfarwyddwyr, Therapyddion Galwedigaethol, Ymarferwyr Iechyd Cyhoeddus ac Athrawon o bob sector a rhan o Gymru a thu hwnt.


Gwefan Ers ei lansio ym mis Mai 2015, mae’r wefan yn parhau i ddatblygu, gyda thudalennau pwnc, newyddion a digwyddiadau newydd yn cael eu hychwanegu bob dydd, cyfeirlyfr gwasanaethau ac adnoddau helaeth a’r nodweddion rhyngweithiol a ganlyn: Pecyn cymorth a chronfa ddata Arfer a Rennir sy’n darparu gwybodaeth ac adnoddau ar gyfer ymarferwyr Fforwm ar-lein, lle mae materion sy’n ymwneud â siwgr, iechyd yn y gweithle a gweithgaredd corfforol wedi’u trafod hyd yn hyn Fideos wedi’u hychwanegu at y rhan fwyaf o’r tudalennau pwnc. Mae’r cam datblygu olaf wedi arwain at sefydlu nifer o wefannau cysylltiedig gan gynnwys yr Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru; y Ganolfan Gydweithredol Ymchwil a Datblygu; y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth a ‘Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif’. Yn ogystal, bu meysydd ychwanegol ar y wefan a neilltuwyd i ‘Gymunedau o Ddiddordeb’ cysylltiedig gan gynnwys y Gynghrair Tlodi Bwyd a Grŵp Iechyd a Llesiant GIG Cymru. Bydd datblygiad parhaus y wefan yn galluogi cyfathrebu ac yn cynyddu cymorth eiriolaeth ar gyfer polisïau sy’n gwella iechyd, yn ogystal â dull gweithredu system amlasiantaeth.


Pecyn Cymorth a Chronfa Ddata Arfer a Rennir Mewn ymdrech i rannu dulliau ymarfer a’r gwersi a ddysgwyd, mae’r rhwydwaith wedi sefydlu cronfa ddata ‘Arfer a Rennir’ ar y wefan lle gall aelodau cofrestredig lawrlwytho prosiectau, rhaglenni a mentrau. Er mwyn codi rhagor o ymwybyddiaeth a phroffil y rhain, caiff enghraifft ei gynnwys ym mhob e-fwletin a bydd digwyddiadau’r sioe deithiol flynyddol yn neilltuo amser i brosiectau lleol. Er mwyn cefnogi ymarferwyr ac eraill, ac i hyrwyddo’r arferion gorau, ceir adnoddau y gellir eu lawrlwytho hefyd gan gynnwys ‘pecyn cymorth hunanasesu’ sydd ar gael yn yr adran Aarfer a Rennir. Ar hyn o bryd, mae 17 o brosiectau wedi’u hamlygu. Ceir rhagor o fanylion am arfer a rennir yma: http://www.publichealthnetwork.cymru/cy/cyfeiriadur-arferda/


Cynadleddau, Seminarau a Digwyddiadau

Egwyddor bwysig a sefydlwyd gan y rhwydwaith yw ymateb i anghenion yr aelodau a manteisio ar y cyfleoedd ar gyfer ymgysylltiad gweithredol yr aelodau. Un ffordd yr ydym wedi gwneud hyn yw drwy ofyn i’r aelodau bleidleisio dros eu dewisiadau ar gyfer y gyfres flynyddol o seminarau lle y caiff 3 seminar eu cynnal pob blwyddyn. Bu’r broses hon yn boblogaidd iawn a chawsom fwy na 140 o ymatebion i’r bleidlais ddiwethaf sy’n llywio’r seminarau ar gyfer 2017/18. Cafwyd dros 80 o ymatebion i’r gwahoddiad i bleidleisio ar gyfres 2016/17 a ddarparodd seminarau ar:

Gwella Iechyd o fewn y Gymuned LHDT ar 22 Gorffennaf 2016 yn Adeilad Hadyn Ellis, Prifysgol Caerdydd. Denodd y seminar hwn, o dan gadeiryddiaeth Tracy Myhill, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, 46 o gyfranwyr gydag 80 yn rhagor yn dilyn y ffrydio byw drwy Twitter. Cafwyd cyflwyniadau gan: • Dr Paul Willis, Prifysgol Bryste – ‘Ailfeddwl am ofal a thai cymdeithasol ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LHDT) hŷn’. Mae Paul Willis yn uwch ddarlithydd mewn gwaith cymdeithasol gydag oedolion yn yr Ysgol Astudiaethau Polisi ym Mhrifysgol Bryste ac mae’n weithiwr cymdeithasol cofrestredig, a chanolbwyntiodd ei gyflwyniad ar ofal cymdeithasol a thai cymdeithasol ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol (LHDT) hŷn yng Nghymru.


“Dr Aneta a’r wybodaeth ynghylch sut i weithio gyda sefydliadau pobl ifanc a phlant – i gyd yn rhagorol.” • Dr Nigel Sherriff, Prifysgol Brighton - ‘Health4LGBTI: Prosiect Peilot ar leihau’r anghydraddoldebau iechyd y mae pobl LHDTRh yn eu profi’. Mae Dr. Nigel Sherriff yn Brif Gymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Brighton (y Ganolfan Ymchwil Iechyd), ac mae’n adnabyddus am ei waith ymchwil ar iechyd rhywiol a HIV, anghydraddoldebau iechyd, a magu plant (tadolaeth a chefnogi bwydo ar y fron). Rhoddodd Nigel y wybodaeth ddiweddaraf i’r cyfranogwyr am brosiect peilot newydd wedi’i ariannu gan yr UE sy’n anelu at leihau’r anghydraddoldebau iechyd y mae pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol, trawsrywiol a rhyngrywiol (LHDTRh) yn eu profi. • Jenny-Anne Bishop, Rhwydwaith Trawsrywiol Unique a Dafydd Snelling, Iechyd Cyhoeddus Cymru - Defnyddio dull ABCD i weithio mewn partneriaeth â Gwasanaethau Sgrinio Iechyd Cyhoeddus: y Prosiect “In it Together”. Mae Jenny-Anne yn helpu i reoli Unique, y grŵp cymorth cymdeithasol a chydfuddiannol Trawsrywiol mwyaf yng Nghymru ac mae’n cydgysylltu TransForum Manchester, grŵp Cymorth a Gweithredu Trawsrywiol mawr ym Manceinion, sy’n rhoi cyswllt dyddiol iddi â’r gymuned drawsrywiol. Mae Dafydd wedi gweithio ym maes Iechyd Cyhoeddus dros y 10 mlynedd ddiwethaf yn ymwneud â gordewdra ymysg plant, gweithgaredd plant, rhoi’r gorau i ysmygu, ac Iechyd Dynion. Bu’n gweithio i’r Is-adran Sgrinio dros yr 8 mlynedd diwethaf. Amlygwyd y Prosiect Ymwybyddiaeth o Bobl Drawsrywiol ‘In it Together’ ac eglurwyd pwysigrwydd eu gwaith a sut mae Adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i weithio mewn partneriaeth â defnyddwyr gwasanaethau sy’n drawsrywiol yng Nghymru i wella’r gwasanaethau a ddarperir a’r mynediad i raglenni sgrinio’r GIG. Yn dilyn hynny, mewn 3 sesiwn ar y cyd ystyriwyd: 1. Sut mae’r dystiolaeth sydd gennym hyd yma yn cefnogi’r ymarferwyr ar lawr gwlad? 2. A oes meysydd o hyd lle mae angen rhagor o waith ymchwil a thystiolaeth? Os felly, beth ydynt, o bosibl? 3. A yw’r grŵp yn teimlo bod y polisi presennol yn ddigonol i’w cefnogi yn y gymuned LHDT? Os nad yw, pam? Gellir gweld cyflwyniadau, fideos a’r adroddiad gwerthuso yma: http://www.publichealthnetwork.cymru/ cy/cymerwch-ran/past-event/lgbt-health/

Cynllunio ar gyfer Iechyd a Llesiant Gwell Cynhaliwyd Cynllunio ar gyfer Iechyd a Llesiant Gwell ar 30 Tachwedd 2016 yng Ngwesty Holland House yng Nghaerdydd ac fe’i cadeiriwyd gan Kate Eden, Cyfarwyddwr Anweithredol Iechyd Cyhoeddus Cymru. Agorwyd y digwyddiad gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Rhoddodd y Gweinidog drosolwg o bolisïau a deddfwriaeth bresennol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â Theithio Llesol. Cydweithiodd y Rhwydwaith â Llywodraeth Cymru a Theithio Llesol Cymru i drefnu’r digwyddiad hwn, a oedd yn cynnwys amrywiaeth o weithdai lle y cafodd y cyfranwyr y cyfle i drafod y pwnc yn fanylach. Roedd hefyd yn gyfle i lansio’r adnodd a ganlyn a gynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Gymdeithas Cynllunio Gwlad a Thref: Briefing on integrating planning and public health for practitioners working in local planning authorities and health organisations in Wales.


“I gyd yn nodedig a diddorol iawn. Roedd y Cadeirydd yn wych.”

Cafwyd cyflwyniadau gan: • Dr Tim Jones o Brifysgol Oxford Brookes a eglurodd yr astudiaeth ‘Cycle Boom’ a oedd wedi’i anelu at ddeall beicio ymysg y boblogaeth hŷn a sut mae hyn yn effeithio ar annibyniaeth, iechyd a llesiant. Cyfeiriodd Dr Jones hefyd at rôl posibl beiciau trydan o ran hyrwyddo iechyd cyhoeddus. • Yna cyflwynodd Dr Barry Lambe o Sefydliad Technoleg Waterford waith ymchwil a gynhaliwyd fel rhan o Raglen Teithio Doethach Iwerddon. Edrychodd yr astudiaeth ar ddau ymyriad mewn gwahanol drefi yn Iwerddon a daeth i’r casgliad nad yw gwella’r seilwaith ar gyfer cerdded a beicio yn ei hunan yn hybu pobl i ddechrau cymudo mewn modd bywiog a pharhau i wneud hynny. Er mwyn i ddiwygiadau o’r fath i’r seilwaith fod yn effeithiol, mae angen eu cefnogi â pholisïau sy’n cyfyngu ar geir. • Cyflwynodd Stuart Williams o Gyngor Dinas Caerdydd y safbwynt lleol ac eglurodd sut y cynhaliwyd Asesiad o’r Effaith ar Iechyd i lywio’r Cynllun Datblygu Lleol. Trafododd Stuart y materion a nodwyd yn yr asesiad a pha rai sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun. • Rhoddwyd cyflwyniad ar y cyd gan Michael Chang o’r Gymdeithas Cynllunio Gwlad a Thref a Liz Green o Iechyd Cyhoeddus Cymru. Roedd y cyflwyniad hwn yn ymwneud â datblygiad dogfen: ‘Cynllunio ar gyfer Iechyd a Lles Gwell yng Nghymru’ a lansiwyd yn y digwyddiad. Roedd y prynhawn yn cynnwys pedwar gweithdy: • Creu amgylcheddau cefnogol ar gyfer cerdded a beicio i’r ysgol: o ddrws i ddrws • Heneiddio Bywiog: Creu Momentwm • Llywio rhwydweithiau teithio bywiog yn y dyfodol • Cynllunio ar gyfer Cymru Bywiog Gellir gweld y cyflwyniadau, fideos a’r adroddiad gwerthuso yma: http://www.publichealthnetwork.cymru/ cy/cymerwch-ran/past-event/planning-for-better-health-and-wellbeing/

Y Defnydd o Apiau a Thechnoleg ar gyfer Hybu Iechyd (#TechniHealth) Cadeirwyd y seminar gan Dr Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystod sesiynau’r bore, a chan Malcolm Ward, Prif Arbenigwr Hybu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y prynhawn. Fe’i cynhaliwyd ar 27 Chwefror 2017 yn Techniquest yng Nghaerdydd. Roedd 44 o gynrychiolwyr yn bresennol ar y diwrnod ac ymunodd 36 yn rhagor â’r ffrwd fyw ar Twitter.


“Y siaradwyr – pob un ohonynt yn ddiddorol. Roedd y fideo’n bwerus iawn.”

• Rhoddwyd y cyflwyniad cyntaf gan Peter Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd a Gofal Digidol Llywodraeth Cymru. Peter yw’r arweinydd polisi ar reoli gwybodaeth a thechnoleg yn yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac mae’n atebol i Lywodraeth Cymru ar gyfer Gwasanaeth Gwybodeg Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru. Canolbwyntiodd ei gyflwyniad ar strategaeth iechyd Llywodraeth Cymru yn y dyfodol, gan gynnwys galluogi aelodau’r cyhoedd i gymryd perchnogaeth o’u hiechyd a’u llesiant eu hunain. Roedd hyn yn rhan o’r agenda integreiddio rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Cyfeiriodd hefyd at ddarparu’r wybodaeth a’r offer yr oedd y gweithwyr proffesiynol eu hangen, ac at dynnu’r wybodaeth allan o fyd meddygon teulu a’i gynnwys mewn gofal eilaidd. • Roedd yr ail gyflwyniad yn cynnwys dau siaradwr, Dr Kelly Mackintosh a Dr Melitta McNarry, y naill a’r llall yn uwch ddarlithwyr mewn Gwyddorau Chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe. Derbyniodd Dr Mackintosh radd BSc (Anrh) mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff o Brifysgol Caerfaddon yn 2008, ac yna MSc mewn Gwyddorau Chwaraeon o Brifysgol Loughborough yn 2009. Yna cwblhaodd ei PhD ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl yn 2012. Penodwyd Dr Mackintosh yn Ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Gorffennaf 2012, a daeth yn Uwch Ddarlithydd ym mis Hydref 2013. Mae Dr McNarry yn arbenigo mewn ffitrwydd cardio-anadlol ar draws iechyd, ffitrwydd a hyd bywyd gyda diddordeb arbennig mewn poblogaethau pediatrig. Mae ei gwaith diweddar wedi canolbwyntio ar ddatblygu strategaethau ymyrraeth anffarmacolegol. Cyfeiriodd Dr Mackintosh at weithgaredd corfforol ymysg plant, a’r canllawiau ar ymddygiad eisteddog. Roedd hyn yn cynnwys astudiaeth o’r newidiadau yn BMI plant 3 oed dros amser mewn lleoliad daearyddol penodol. Cyfeiriodd hefyd at esblygiad bodau dynol mewn amgylcheddau obesogenig. Gorffennodd gyda chyflwyniad ar y prosiect Mission Possible, lle y cafodd astudiaeth beilot ei chynnal ar gyhoeddi canlyniadau plant mewn 3D fel bod ganddynt adborth dealladwy ar gyfer eu hymdrechion. Canolbwyntiodd Dr McNarry ar y cysyniad o ddefnyddio technoleg gemau consol sydd ar gael yn gyffredinol fel camera Kinect Microsoft ar gyfer yr Xbox ar gyfer ymyriadau sy’n canolbwyntio ar ymarferion dwysedd uchel ffeibrosis systig, gan gynnwys mesurydd cyflymu, magnetomedr a geirosgop di-echelinol o’r enw’r slamtracker a’r broses o feddwl drwy systemau a oedd yn cyd-fynd â hynny. • Dr Pelham Carter, darlithydd mewn Seicoleg Gymhwysol ym Mhrifysgol Dinas Birmingham, a roddodd y trydydd cyflwyniad, a hynny ar y patrwm ymchwil ar gyfer datblygu theori yn ymyriadau wedi’u targedu ar sail apiau. Dechreuodd Pelham fel darlithydd ym Mhrifysgol Dinas Birmingham ym mis Ionawr 2013 ac mae’n dysgu ar hyn o bryd ar amrywiaeth o fodiwlau israddedig ynghylch Seicoleg Gwybyddol, Biolegol ac Ymddygiadol. Cyfeiriodd cyflwyniad Dr Carter at y materion sy’n ymwneud ag ymyriadau apiau a thechnoleg, eu heffaith ac Adroddiad Stern. Darparodd awgrymiadau ar gyfer cyfnodau a phatrymau, a disgrifiodd enghreifftiau o brosiectau.


“Diwrnod addysgiadol iawn gyda siaradwyr brwdfrydig iawn, difyr iawn. Diolch.”

• Julia Bailey, Uwch Ddarlithydd Clinigol mewn Gofal Sylfaenol yng Ngholeg Prifysgol Llundain a meddyg arbenigol mewn iechyd rhywiol cymunedol yn Hackney, Dwyrain Llundain. Cyfeiriodd Julia at ddulliau o hybu iechyd rhywiol ymysg pobl ifanc a ddarperir drwy’r cyfryngau digidol. Cyfeiriodd ei chyflwyniad at ymyriadau drwy ffonau symudol a’r we mewn perthynas ag iechyd digidol gyda ffocws penodol ar ymyriadau iechyd rhywiol a newid ymddygiad ar gyfer pobl ifanc, gan gynnwys therapi ymddygiad gwybyddol a therapi systemig. Defnyddiodd enghreifftiau o wefannau hunangymorth ar gyfer amrywiaeth o broblemau rhywiol, a sut mae gan y wladwriaeth ddarpariaeth arloesol, ond byddai angen ei haddasu i’r cyd-destun penodol hwn. • Siaradwr olaf y dydd oedd David Crane, ymchwilydd o Goleg Prifysgol Llundain. Cyflwynodd gipolwg o ddyluniad ac astudiaeth o ap di-fwg, yn ogystal â’i waith blaenorol ar ap yfed alcohol. Mae gan David gefndir mewn datblygu’r we ac apiau. Cyn dechrau ar ei PhD, creodd ap rhoi’r gorau i ysmygu llwyddiannus iawn, Smoke Free, ar gyfer ei thesis MSc. Siaradodd am ddatblygu apiau, gan gynnwys canfod anghenion defnyddwyr drwy wyddorau ymddygiad ac astudio apiau eraill. Pwysleisiodd bwysigrwydd astudiaethau defnyddioldeb a chanolbwyntio ar y manteision i’r defnyddiwr, gan gynnwys hygrededd, a defnyddio tôn gyfeillgar nad yw’n feirniadol wrth ymdrin â defnyddwyr. Cyflwynwyd astudiaeth o adolygiadau gan ddefnyddwyr ar gyfer yr apiau a ddatblygwyd i ddangos pwysigrwydd deall anghenion defnyddwyr, yn ogystal â chylch datblygiad parhaus apiau hyd yn oed ar ôl iddynt fynd yn fyw. Ar ôl y sesiwn olaf, gofynnodd y cyfranwyr gwestiynau i’r siaradwyr a thrafodwyd manteision ac anfanteision defnyddio Apiau a Thechnoleg ar gyfer Hybu Iechyd. Gwnaeth 44 o gyfranwyr fynychu’r digwyddiad gyda 70 yn rhagor yn dilyn y ‘llif byw’ ar Twitter. Gellir gweld y cyflwyniadau, y fideos a’r gwerthusiad yma: http://www.publichealthnetwork.cymru/cy/cymerwch-ran/past-event/ technihealth-health-promotion-in-the-digital-era/

Sioe Deithiol Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus 2016 – ‘Creu Cysylltiadau’ Nodwedd bwysig arall o raglen y rhwydwaith yw’r ‘sioe deithiol’ flynyddol. Mae hyn yn rhoi cyfle i fynd â’r rhwydwaith allan ar y ffordd ledled Cymru i ymgysylltu ag aelodau yn eu hardaloedd. Mae’r amcanion yn cynnwys hyrwyddo’r rhwydwaith, gofyn barn aelodau a llywio datblygiad parhaus y rhwydwaith fel ei fod yn diwallu’r anghenion a gyflëwyd gan yr aelodau. Canolbwyntiodd sioe deithiol 2016/17, ‘Creu Cysylltiadau’, yn benodol ar sefydlu a datblygu systemau i gynyddu diddordeb lleol, gyda digwyddiadau’n cael eu cynnal yn: • Dydd Mercher 4 Mai 2016 – Canolfan Fusnes Conwy, Conwy • Dydd Iau 5 Mai 2016 – Gwesty Ramada Plaza, Wrecsam • Dydd Iau 12 Mai 2016 – Prifysgol Aberystwyth, Aberystwyth • Dydd Mercher 18 Mai 2016 - Redhouse Cymru, Merthyr Tudful • Dydd Iau 19 Mai 2016 – Stadiwm Liberty, Abertawe • Dydd Mercher 25 Mai 2016 - Theatr Glan yr Afon, Casnewydd • Dydd Iau 26 Mai 2016 – Stadiwm SWALEC, Caerdydd Mynychodd cyfanswm o 201 o bobl y 7 digwyddiad, a oedd yn cynrychioli pob sector.


“Roedd y seicoleg gadarnhaol yn wych. Mae Dr Tunariu a Sophie Howe yn rhoi gobaith ar gyfer y dyfodol.”

Diben y digwyddiadau oedd rhoi cyfle i’r ymarferwyr ym mhob maes hybu a gwella iechyd i gwrdd â chydweithwyr proffesiynol, rhwydweithio a chanfod mwy am yr adnoddau a’r nodweddion ychwanegol ar y wefan newydd. Roedd hyn yn gyfle i ymgysylltu â’r cyfranwyr a rhoi cyfle iddynt gyfrannu eu syniadau/ awgrymiadau a hefyd i roi adborth ar berfformiad y Rhwydwaith hyd yn hyn. Cynhaliwyd sesiwn Caffi’r Byd i alluogi’r cyfranwyr i roi adborth ar agweddau ar y Rhwydwaith gan gynnwys ‘ymgysylltiad ar-lein a chylchlythyrau’, ‘seminarau, cynadleddau a digwyddiadau’, ‘sesiynau hyfforddi’, a ‘cronfa ddata arferion da’. Roedd y digwyddiadau hyn am hanner diwrnod yn agored i unrhyw weithwyr proffesiynol sydd â diddordeb mewn iechyd cyhoeddus, o athrawon a gweithwyr ieuenctid i ymchwilwyr a meddygon teulu, i weithwyr llywodraeth leol, y sector gwirfoddol a’r trydydd sector. Cynhadledd Genedlaethol – Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE): Yr hyn y mae’n ei olygu i chi. Ym mis Mawrth 2017, cynhaliwyd ein cynhadledd genedlaethol gyntaf ar gyfer y rhwydwaith a oedd yn canolbwyntio ar y pwnc ‘Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod’ mewn partneriaeth â chydweithwyr o’r ganolfan ACE. Cynhaliwyd y Gynhadledd yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd yng Nghaerdydd ar 15fed Mawrth 2017. Cafodd ei gyd-gadeirio gan Sarah Crawley, Cyfarwyddwr, Barnardo’s Cymru, a gadeiriodd sesiwn bore, a Steve Thomas CBE, Prif Weithredwr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a gadeiriodd sesiwn y prynhawn, a chafwyd cyflwyniadau gan: • Alyson Francis, Cyfarwyddwr canolfan ACE, Cymru Well Wales ar y pwnc ‘Pwysigrwydd Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod: datblygu gweledigaeth ar gyfer canolfan ACE’. • Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ar ‘Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol: Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a Gweithredu’ • Dr Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru ar ‘Pam mae angen Dull Hawliau Plant o fynd i’r afael yn llwyddiannus â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod?’ Cafwyd 2 weithdy hefyd a gynhaliwyd gan Dr Aneta Tunariu, Pennaeth Ymyriadau Seicolegol, Prifysgol Dwyrain Llundain, a oedd yn ystyried “Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod mewn Sgyrsiau” a “Seicoleg Gadarnhaol yn fy mhractis” a sesiwn gweithdy ar y cyd i archwilio profiadau, cyfraniadau ac anghenion y cyfranwyr er mwyn llywio datblygiad yr hyb. Daeth 112 o gyfranwyr i’r digwyddiad, ac roedd 84 yn rhagor yn ei ddilyn ar ‘ffrwd fyw’ Twitter. Gellir gweld y cyflwyniadau, y fideos a’r gwerthusiad yma: http://www.publichealthnetwork.cymru/cy/cymerwch-ran/past-event/adverse-childhood-experiences/ Partneriaid a rhanddeiliaid Yn ychwanegol at ddigwyddiadau’r rhwydwaith, rydym wedi cyfrannu at amrywiaeth o ddigwyddiadau eraill, gan gynnwys: • Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru – Tachwedd 2016 • Seminar ‘Ymchwil yng Nghymru’ Iechyd Cyhoeddus Cymru – Mawrth 2017 • Gwneud i bob Cysylltiad Gyfrif – Mawrth 2017 • Digwyddiad i ddathlu’r Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol – Mawrth 2017 • Symposiwm Meddygaeth Ymarfer Corff Cymru – Chwefror 2017


Cynlluniau yn y dyfodol Dros y 12 mis diwethaf rhoddwyd llawer o sylw i hyrwyddo’r rhwydwaith, datblygu’r wefan ac integreiddio’r mân wefannau. Wrth i ni symud ymlaen drwy’r flwyddyn nesaf, rydym yn gobeithio gwella’r ymgysylltiad dwyffordd, yn benodol drwy ddatblygu’r fforymau a’r cyfryngau cymdeithasol ymhellach. Er mwyn sicrhau’r ymgysylltiad gorau a mwyaf effeithiol gydag aelodau’r rhwydwaith a’n rhanddeiliaid a’n partneriaid allweddol, datblygwyd Strategaeth “Cyfathrebu ac Ymgysylltu” gydag amrywiaeth o argymhellion. Yn dilyn ymgynghoriad gyda’r aelodau a’r rhanddeiliaid allweddol, bydd ‘Cynllun Gweithredu’ yn cael ei ddatblygu a’i roi ar waith i ddatblygu’r argymhellion. Rydym hefyd yn gobeithio canolbwyntio mwy ar waith rhagorol ein haelodau a cheisio gwella capasiti’r rhwydwaith ymhellach gyda chyfleoedd mewn perthynas â hyfforddi a datblygiad proffesiynol parhaus. Mae hyn yn cynnwys sefydlu cyfleoedd e-ddysgu drwy’r wefan, gan gynyddu nifer y mentrau ar y gronfa ddata ‘arfer a rennir’, rhagor o gyfleoedd hyfforddi sy’n gysylltiedig â’r sioeau teithiol a llwyfan i arddangos mentrau lleol drwy’r sioeau teithiol a defnyddio’r e-fwletinau poblogaidd.


Rhagor o wybodaeth Ceir rhagor o wybodaeth am yr holl agweddau ar y rhwydwaith, gan gynnwys proses gofrestru ar-lein syml ac am ddim ar wefan y rhwydwaith yma: http://www.publichealthnetwork.cymru/cy/ (Cymraeg) neu http://www.publichealthnetwork.cymru/en/ (Saesneg) Neu drwy anfon e-bost at publichealth.network@wales.nhs.uk Yn ogystal, ceir cyfrifon Facebook, Twitter, LinkedIn, Instagram & YouTube. Mae holl aelodau tîm y rhwydwaith yn fwy na pharod i dderbyn ymholiadau a mynd i’r afael ag unrhyw bryderon. Mae’r tîm yn cynnwys: Marie Griffiths: Marie.Griffiths2@wales.nhs.uk Becky Winslade: Rebecca.Winslade@wales.nhs.uk Cath Evans: Catherine.Evans10@wales.nhs.uk Sarah James: Sarah.James10@wales.nhs.uk Sorin Annuar: Sorin.Annuar@wales.nhs.uk Jamie-Lee Fitzpatrick: Jamie-Lee.Fitzpatrick@wales.nhs.uk


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.