PHNC August Bulletin Welsh HQ

Page 1

June 2017

Awst 2017


Croeso i’r e-fwletin Croeso i rifyn mis Awst o’r e-fwletin sydd, fis yma, yn canolbwyntio ar Iechyd Rhywiol. Cynhelir Wythnos Iechyd Rhywiol 2017 o 11 – 17 Medi. Y thema eleni yw siarad am bornograffi. Mae’r Gymdeithas Cynllunio Teulu (FPA) yn amlygu’r ffordd y gall gweithwyr proffesiynol hybu Wythnos Iechyd Rhywiol. Ar gyfer gweithwyr iechyd rhywiol proffesiynol, gallai hyn olygu lledaenu’r gair am nad yw’r rhyw yn y rhan fwyaf o bornograffi yn dangos sut i ddiogelu eich hun rhag heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STI) na beichiogrwydd nas dymunir. Ar gyfer rhieni ac athrawon, efallai y byddwch eisiau siarad â phobl ifanc am ystod eang o faterion yn ymwneud â phornograffi, fel: • gwahanu ffantasi a realaeth • hunan-barch a delwedd y corff • pwysigrwydd cydsynio a chyfathrebu • cadw’n ddiogel, a’r gyfraith. Mae gan yr FPA ddigon o adnoddau, deunyddiau a chyngor y gallant eu darparu yn ystod Wythnos Iechyd Rhywiol. http://www.fpa.org.uk/campaigns/sexual-health-week Rydym wrthi’n gwerthuso’r Rhwydwaith er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i wella’r wefan a’r e-fwletinau ac yn darparu’r digwyddiadau sydd fwyaf defnyddiol i aelodau. Rydym wedi gofyn i’r holl aelodau gwblhau arolwg byr y gellir ei weld yma. Peidiwch ag anghofio, gallwch gael cyfle i ennill £ 25 mewn talebau Amazon! Rydym yn cynllunio nifer o ddigwyddiadau a chyn gynted ag y byddwn wedi cadarnhau’r manylion, byddwn yn anfon negeseuon e-bost gyda mwy o wybodaeth. Cysylltwch gydag unrhyw wybodaeth yr hoffech i ni ei chynnwys ar y wefan neu’r e-fwletin trwy gysylltu â ni yn publichealth.network@wales.nhs.uk


@PHNetworkcymru

/publichealthnetworkcymru

www.publichealthnetwork.cymru


Iechyd Sexual Rhywiol: Health - Pwn


nc Anodd? Iechyd Rhywiol Dan Sylw Mae ymgyrch Wythnos Iechyd Rhywiol, a gynhelir gan y Gymdeithas Cynllunio Teulu (FPA) yn hysbysu’r cyhoedd, yn dylanwadu ar ddarparwyr gwasanaethau ac yn cefnogi gweithwyr iechyd proffesiynol. Bydd yr FPA yn darparu adnoddau ar gyfer yr wythnos fydd o gymorth i chi siarad am ryw. Er enghraifft, nid yw’r rhan fwyaf o bornograffi yn dangos pobl yn defnyddio condomau nac argaeau - sy’n cyfrannu at gamargraff nad oes eu hangen, neu y byddant yn rhwystro pleser rhywiol. Yn yr astudiaeth a gynhaliwyd ar gyfer Wythnos Iechyd Rhywiol y llynedd, nid oedd dros hanner y bobl yn credu ei fod yn wir y gallwch gael STI o ryw geneuol. Mae’r FPA yn darparu pecynnau adnoddau AM DDIM ar gyfer Wythnos Iechyd Rhywiol 2017 i Weithwyr Ysgolion Uwchradd yn y DU. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma http://www.fpa.org.uk/campaigns/sexualhealth-week


Iechyd Rhywiol a Gweithgaredd Rhywiol yn Nes Ymlaen mewn Bywyd

Cyfarwyddwr Gerontoleg ac Astudiaethau Heneiddio, Prifysgol Abertawe Mae’r boblogaeth yn heneiddio ac mae hawliau, lles a llesiant y garfan oedran hon yn dod yn fwy amlwg yn fyd-eang ac yn ffocws cryn ddatblygiad polisi. Er bod ymchwil yn arwain y ffordd ac yn llywio hyn mewn sawl maes ym mywyd person hŷn, nid yw hyn yn wir ar gyfer iechyd rhywiol. Mae ymgyrchoedd llythrennedd ac ymyriadau iechyd rhywiol yn targedu carfanau ‘mewn perygl’, gan anwybyddu’r rheiny dros 60 oed i raddau helaeth. Gyda chynnydd mewn heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STI) yn y grŵp oedran hwn a difrifoldeb posibl cyflyrau heb eu trin, mae’r adolygiad hwn yn amlygu’r angen am fwy o ymchwil, llythrennedd iechyd ac ymyriadau a dargedir. Mae rhwystrau cymdeithasol sydd yn atal oedolion hŷn rhag cael rhyw mwy diogel wedi cael eu nodi, gan amlygu graddfa’r newidiadau mewn agwedd a pholisi sydd eu hangen i roi tegwch i oedrannau gwahanol. Cyflwyniad Mae trosglwyddo’r feirws imiwnoddiffygiant dynol (HIV) a heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol (STI) yn dal yn broblem fyd-eang sydd ar raddfa ‘epidemig’. Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, amcangyfrifir bod 35 miliwn o bobl yn byw gyda HIV ar hyn o bryd ac mae dros filiwn o bobl yn caffael STI bob dydd ar draws y byd.1,2 Gellir gwella rhai heintiau, fel siffilis, gonorea, chlamydia a trichomoniasis, tra bod angen rheoli a thrin eraill am oes, yn cynnwys HIV a herpes. Yn Ewrop, nodwyd bod cynnydd o 80% yn y diagnosis o HIV er 2004, er gwaethaf ehangu mynediad i sgrinio a thriniaethau.3 Disgrifiwyd yr epidemig HIV fel un sydd yn ‘heneiddio’ ochr yn ochr â phoblogaeth sy’n heneiddio a chyfraddau gwell o hirhoedledd mewn cenhedloedd breintiedig yn economaidd.4 Fodd bynnag, mae anghenion iechyd oedolion hŷn sy’n byw gyda HIV ac STI eraill a diagnosis o STI yn nes ymlaen mewn bywyd yn dal yn feysydd ymchwil a pholisi sy’n cael eu hesgeuluso. Yn yr adolygiad hwn rydym yn archwilio materion yn ymwneud ag iechyd rhywiol ymysg oedolion hŷn trwy ddefnyddio llenyddiaeth ymchwil rhyngwladol. Cyn troi at anghenion oedolion hŷn, rydym gyntaf yn trafod y cyd-destun cymdeithasol sydd yn llywio blaenoriaethau ac ymgyrchoedd iechyd rhywiol yn y Brydain gyfoes. Mae’r dirwedd rywiol yn y DU yn newid, neu o leiaf yr amgyffrediad o’i defnydd. Mae ymgyrchoedd rhyw diogel y 1980au (Carreg Bedd/AIDs) wedi hen fynd ac nid yw’r genhedlaeth newydd sydd bellach yn dechrau bywyd rhywiol erioed wedi dod ar eu traws. Er ei fod yn amlwg bod ymgyrchoedd rhyw diogel (er enghraifft, ‘Condom, Dim condom’, 2012) yn bodoli, nid oes ganddynt yr un proffil. Yn 2013, cafwyd 446,253 diagnosis newydd o STI, gan fwy na dyblu’r rheiny a nodwyd ychydig dros ddegawd yn gynt, yn 2003. Nid dyma’r darlun cywir, fodd bynnag, am fod rhai clefydau a grwpiau demograffig sydd wedi dangos cynnydd nodedig iawn. Rhwng 2012 a 2013, cafwyd cynnydd o 15% yn yr achosion newydd o gonorea ac, yn ystod yr un cyfnod, cynnydd o 9% mewn siffilis. Yn erbyn cefndir cymdeithasol o fwy o gydraddoldeb cyfreithiol o ran rhyw a rhywioldeb, mynediad haws i wybodaeth am iechyd rhywiol a mwy o ddiogelwch rhag STI, gellir disgwyl bod mwy o’r boblogaeth sy’n oedolion yn teimlo’n fwy gwybodus am eu statws iechyd rhywiol ac yn fwy parod i ddefnyddio gwasanaethau iechyd rhywiol. Gallai hyn i ddechrau arwain at fwy o gynnydd yn y niferoedd sy’n cael diagnosis. Er nad yw trosglwyddiadau STI yn benodol i hunaniaeth neu gyfeiriadedd rhywiol,5 mae carfanau sy’n cael eu targedau gan asiantaethau iechyd y cyhoedd sydd â mwy o berygl o drosglwyddo STI. Mae dynion sy’n cael rhyw gyda dynion (MSM) wedi eu nodi fel poblogaeth ‘risg uchel’ ac yn rhoi cyfrif am 74% o’r achosion o ddiagnosis newydd o siffilis yn 2014,5 cynnydd sylweddol o ystyried y cymhlethdodau iechyd posibl os na chaiff ei drin. Er bod ymgyrchoedd hybu iechyd yn aml yn targedu’r grŵp hwn, mae diffygion amlwg o ran cyfleu’r neges, yn bennaf o ran ymgysylltu’r boblogaeth ac amlygir hyn trwy fynychder uwch. Yn debyg iawn i grwpiau cymdeithasol eraill, nid yw MSM yn grŵp homogenaidd ac mae angen i asiantaethau iechyd y cyhoedd ystyried torri ar draws gwahaniaethau mewn ethnigrwydd, diwylliant, ffydd, gallu ac wrth gwrs oed sydd yn dylanwadu ar y graddau y mae dynion yn ymgysylltu ag ymgyrchoedd iechyd. Mae siffilis yn glefyd y mae llawer wedi cael ei nodi amdano sydd yn nodi nid yn unig y cyfnodau, ond hefyd y symptomau a chymhlethdodau’r cyfnodau terfynol hefyd. Gyda dyfodiad penisilin, cafodd siffilis ei ddileu bron ac yn hyn o beth mae bron wedi mynd yn angof fel STI, ond mae’n un sydd yn cael rhywfaint o atgyfodiad ar hyn o bryd.


Yn 2008, roedd 11 gwaith yn fwy o ran niferoedd diagnosis sylfaenol ac eilaidd mewn clinigau GUM (meddygaeth genito-wrinol) nag ym 1999, gydag MSM yn profi’r cynnydd mwyaf a dynion heterorywiol yn ail gweddol agos.6 O ystyried yr effeithiau sydd yn gallu bod yn ddifrifol, yn arbennig niwro-siffilis, os caiff ei adael heb ei drin a’r cyfnod cudd hir heb symptomau, ymddengys mai mwy o sgrinio ac ymwybyddiaeth y cyhoedd yw’r ateb gorau i fynd i’r afael â’r atgyfodiad hwn. Gwelwyd cynnydd tebyg yn y diagnosis o HIV. Wrth fapio mynychder diagnosis o HIV o ddechrau’r 1980au, cafwyd cynnydd gweddol barhaus hyd at 2000 pan gafwyd cynnydd sylweddol yng nghyfraddau’r diagnosis o’r haint.7 Er gwaethaf ymgyrch iechyd amlwg iawn yn y 1980au, mae mynychder trosglwyddo HIV yn dal i gynyddu.8 Gellir dadlau bod datblygu cyfuniad o driniaethau gwrth-retrofeirysol i reoli’r cyflwr, gan ei newid o haint sy’n cyfyngu bywyd i gyflwr cronig, wedi lleihau effaith ymgyrchoedd rhyw diogel.9,10 Mae’r canfyddiad hwn hefyd yn cyd-fynd â chynnydd nodedig yng nghyfraddau diagnosis a’r gostyngiad yn y niferoedd sy’n cael diagnosis o AIDS ac yn marw yn sgil hyn.3 Yr hyn nad yw’n amlwg o’r wybodaeth uchod yw bod yr ymchwil sydd ar gael yn ymwneud yn bennaf ag oedolion iau. Mae oedolion dros 50 oed yn flaenorol wedi cynrychioli poblogaeth gudd mewn perthynas â diagnosis o STI a HIV, ac nid yw heneiddio wedi cael ei gydnabod yn llawn eto o fewn strategaethau a chynllunio iechyd rhywiol fel ffactor cymdeithasol arwyddocaol sydd yn llunio trosglwyddo, diagnosis a thriniaeth. Fe wnaeth diagnosis newydd o HIV ymysg oedolion dros 50 oed fwy na dyblu rhwng 2002 a 2011, gan gynyddu o 442 yn 2002, i 990 yn 2012.11 Dyma nid yn unig un o’r grwpiau oedran i gael diagnosis HIV positif, sy’n cynyddu gyflymaf, ond dyma hefyd un o’r carfanau sydd yn byw gyda’r cyflwr sy’n cynyddu gyflymaf hefyd. Yn 2012, roedd un mewn pedwar o’r oedolion sydd yn byw gyda diagnosis o HIV yn 50 oed ac yn hŷn o’i gymharu ag un mewn wyth yn 2003.11 Mae hyn yn golygu bod y grŵp oedran hwn nid yn unig yn byw gyda HIV, ond hefyd bod dirywiad yn gysylltiedig ag oed mewn iechyd corfforol a meddyliol a chyd-forbidrwydd iechyd eraill, rhai ohonynt, fel crud cymalau adweithiol, sy’n gallu cael ei waethygu gan y cyflwr.12 Camdybiaeth gyffredin arall am oedolion hŷn yw nad ydynt yn cael rhyw nac yn ymgymryd ag ymddygiad rhywiol. Yn wir, cânt eu hystyried yn anrhywiol yn aml 13 neu, os ystyrir eu bod yn cael rhyw, yna cymerir eu bod yn heterorywiol.14 Er gwaethaf y myth treiddiol hwn,15 mae’r ystadegau uchod ar drosglwyddo STI yn dangos yn glir nad yw hyn yn wir. Mae oedolion hŷn dros 60 oed yn nodi eu bod yn weithredol yn rhywiol er gwaethaf nodi dirywiad mewn gweithrediad a chynnwrf rhywiol.16,17 Yn fwy diweddar, roedd Arolwg Cenedlaethol Agweddau Rhywiol a Ffordd o Fyw³ ym Mhrydain yn cynnwys ymatebwyr hyd at 74 oed er mwyn cyfleu agweddau a gweithgareddau rhywiol oedolion hŷn Prydain. Dyma’r tro cyntaf y mae’r arolwg wedi cynnwys oedolion dros 59 oed. Mae canfyddiadau’r ymchwil yn dangos bod oedolion hŷn yn dal i ymgymryd â gweithgaredd rhywiol yn nes ymlaen mewn bywyd, er bod hyn yn llai aml na charfanau iau.18 Mae’r canfyddiadau hefyd yn nodi cynnydd yn nifer yr oedolion o bob oed sydd yn nodi gweithgaredd rhywiol gyda phartner o’r un rhyw, gyda 11.5% o fenywod ac 8.0% o ddynion yn nodi profiadau gyda’r un rhyw. Er ei fod yn eithriadol o anodd amcangyfrif y boblogaeth yn seiliedig ar hunaniaeth rywiol, mae amcangyfrifon bras yn awgrymu bod 1.2 miliwn o bobl hŷn yn datgan eu bod yn lesbiaidd, yn hoyw neu’n ddeurywiol (LGB) yn y DU.19 Mae gweithgaredd rhywiol yn agwedd bwysig ar lesiant oedolion hŷn. Nododd Gott a Hinchliff15 fod yr oedolion hŷn hynny yn eu sampl oedd yn cymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol, i gyd wedi nodi ei fod naill ai’n ‘bwysig’ neu’n ‘bwysig iawn’. Yn ogystal, nododd yr ymatebwyr eu bod wedi profi ystod eang o gydberthynas rywiol yn cynnwys cydberthynas newydd, lluosog ac ‘achlysurol’.15 Fodd bynnag, er bod ymchwil yn dangos yn glir bod oedolion hŷn yn wir yn weithredol yn rhywiol, nid yw’n archwilio eu llythrennedd iechyd na’u hymddygiad. Yn yr un modd, nid yw strategaethau a pholisïau iechyd yn rhydd rhag credoau sy’n gwahaniaethu ar sail oed sydd yn dal yn amlwg mewn cymunedau academaidd a gwyddonol. Mae’r bwlch amlwg hwn mewn iechyd ac ymchwil gymdeithasol yn codi rhai cwestiynau amlwg. Sut mae bywydau rhywiol oedolion hŷn yn cael eu trafod mewn llenyddiaeth ymchwil cyfoes? Sut mae anghenion iechyd a llesiant y garfan hon yn cael eu trin mewn fframweithiau presennol? Beth yw’r materion unigryw sy’n wynebu’r carfanau hyn nad ydynt yn cael eu trin ar hyn o bryd? Nod yr adolygiad systematig hwn o lenyddiaeth ryngwladol yw mynd i’r afael â’r cwestiynau hyn. Parhau i ddarllen yma: https://www.cambridge.org/core/journals/reviews-in-clinical-gerontology/article/sexual-health-and-sexualactivity-in-later-life/747AE870467ACEA1BFFB96FCFBDE8670


Barod am PrEP – lansio astudiaeth Proffylacsis Cyn-gysylltiol yng Nghymru

Adam Jones, Ymarferydd Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru Cafodd astudiaeth ar ymgymeriad ac ymlyniad yn ymwneud â dull newydd o atal haint HIV ei lansio trwy Glinigau Iechyd Rhywiol Integredig GIG Cymru ym mis Gorffennaf 2017. Proffylacsis Cyn-gysylltiol (PrEP) yw’r defnydd o feddyginiaeth gwrthretrofeirysol gan bobl sydd heb eu heintio er mwyn atal caffael haint HIV. Mae PrEP yn rhoi’r opsiwn ychwanegol o atal heintiau HIV newydd yng Nghymru. Cafwyd cynnydd cyson yn nifer y bobl sydd yn byw gyda HIV yng Nghymru, gan adlewyrchu cynnydd yng nghyfraddau goroesi a diagnosis newydd – ar gyfartaledd, dros y chwe blynedd adrodd diwethaf (2010-2015), cafodd 153 o achosion newydd ddiagnosis yn flynyddol. Yng ngoleuni ymwybyddiaeth gynyddol o PrEP, a’r galw amdano, gofynnwyd i Iechyd Cyhoeddus Cymru gan Lywodraeth Cymru greu Grŵp HIV Arbenigol Annibynnol (HIVEG). Mae’r HIVEG yn cynnwys ymarferwyr sy’n cynrychioli diogelu iechyd y cyhoedd, hybu iechyd y cyhoedd, polisi iechyd y cyhoedd, epidemioleg, fferylliaeth, iechyd rhywiol a gwasanaethau clinigol HIV ac academia. Cafodd yr HIVEG y dasg o adolygu’r dystiolaeth sydd ar gael yn ymwneud â PrEP, a chafodd yr adolygiad hwn – Paratoi ar gyfer PrEP?’ – ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2016. Ar yr un pryd, anfonwyd cyflwyniad gan y cwmni fferyllol Gilead Sciences Inc. i’w cyffur Truvada® gael ei drwyddedu i gael ei ddefnyddio fel PrEP i Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG). Ystyriodd Llywodraeth Cymru’r papur ‘Paratoi ar gyfer PrEP?’ a chanfyddiadau’r AWMSG ym mis Ebrill 2017 cyn cyhoeddi, trwy Ddatganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething AC, y byddai astudiaeth Cymru gyfan yn cael ei chynnal, gan ddarparu Truvada® fel Proffylacsis Cyn-gysylltiol (PrEP) i bawb fyddai’n cael budd o’r driniaeth ataliol. Gofynnwyd i Iechyd Cyhoeddus Cymru ddyfeisio protocol yr astudiaeth a helpu i drefnu’r gwaith o weithredu’r gwasanaeth yng Nghlinigau Iechyd Rhywiol Integredig GIG Cymru. Bydd yr astudiaeth - PrEPARED - yn arwain at dderbynwyr posibl PrEP - fel y diffinnir yn y meini prawf cymhwysedd a amlinellir gan y Grŵp HIV Arbenigol Annibynnol - yn cael cynnig PrEP mewn Clinigau Iechyd Rhywiol Integredig neu Glinigau Triniaeth HIV yng Nghymru. Bydd cleifion sydd yn derbyn y cynnig o gael PrEP yn cael eu monitro’n ofalus yn unol â Chanllawiau Rheoli PrEP, gyda data’n cael ei gydgrynhoi a’i ddadansoddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru’n chwarterol. Bydd y rhesymau dros wrthod y cynnig o PrEP hefyd yn cael eu casglu a’u dadansoddi er mwyn deall y penderfyniadau hyn. Nid yw’n dreial clinigol nac yn astudiaeth ddichonoldeb. Yn hytrach, mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar fonitro derbynioldeb PrEP i’r boblogaeth berthnasol, caffaeliad HIV/STI a chanlyniadau iechyd y rheiny sydd yn ei dderbyn neu’n ei wrthod. Cynhelir gwerthusiad o’r prosiect pan ddaw i ben.


Meini Prawf Cymhwysedd Dylid ystyried y meini prawf fel isafswm, ac ni ddylent ddisodli safbwynt clinigol. Mae’n ymwneud â rhywun sydd eisoes wedi ymgysylltu mewn gofal. Poblogaethau Agweddau Angenrheidiol

MSM, pobl drawsrywiol • Cofnodi 4edd genhedlaeth HIV negatif wrth ddechrau PrEP • Nodi rhyw heb gondom a chyfathrach yr anws yn y tri mis blaenorol • Ystyried yn debygol i gael rhyw heb gondom dro ar ôl tro yn y tri mis nesaf • Prawf o breswylio yng Nghymru wedi ei ddarparu

Canllawiau Pellach

Lle y bo ar gael, defnyddio profion yn y man gofal (prawf pedwaredd genhedlaeth). Partner HIV negatif person HIV positif • Ataliad feirysol partner HIV positif yn anhysbys • Rhagwelir rhyw heb gondom neu mae hyn wedi digwydd yn y tri mis diwethaf • Prawf o breswylio yng Nghymru wedi ei ddarparu

Poblogaeth Agweddau Angenrheidiol

Canllawiau pellach Poblogaeth Agweddau Angenrheidiol

Canllawiau pellach

Dylid argymell PrEP lle mae’r meddyg sydd yn trin yn argymell ac yn monitro’r driniaeth fel rhan o leihau risg ehangach (e.e. addysg iechyd, hybu rhyw mwy diogel) Dylid ystyried triniaeth fel ataliaeth ar gyfer y partner HIV positif. Pobl heterorywiol HIV negatif • Yn hysbys eu bod wedi cael rhyw heb gondom gyda pherson â HIV ag ataliaeth feirysol anhysbys yn y tri mis diwethaf • Rhagwelir y byddant yn cael rhyw heb gondom gyda’r person, neu berson o statws tebyg, eto • Prawf o breswylio yng Nghymru wedi ei ddarparu Dylid argymell PrEP lle mae’r meddyg sydd yn trin yn argymell ac yn monitro’r driniaeth fel rhan o leihau risg ehangach (e.e. addysg iechyd, hybu rhyw mwy diogel)

Llinell Amser Tachwedd 2016 Mawrth 2017 Ebrill 2017 Mehefin 2017 Gorffennaf 2017

Adolygiad Tystiolaeth ‘Paratoi ar gyfer PrEP?’ wedi ei gwblhau Canllawiau Rheoli PrEP wedi eu datblygu, er mwyn i feddygon oruchwylio gofal cleifion sy’n defnyddio PrEP y tu allan i’r GIG Penderfyniad AWMSG ar Truvada® fel PrEP, wedi ei ddilyn gan benderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet i ariannu astudiaeth tair blynedd Protocol Astudiaeth PrEPARED wedi ei orffen a’i gadarnhau PrEP yn cael ei wneud ar gael yng nghlinigau iechyd Rhywiol Integredig GIG Cymru

Mae mwy o wybodaeth am brosiect PrEPARED ar gael ar wefan Cymru Chwareus: http://friskywales.org/walesprep-project.html Os oes gennych unrhyw ymholiadau am PrEP yng Nghymru, cysylltwch ag Arweinydd Rhaglen Iechyd Rhywiol Iechyd Cyhoeddus Cymru, Zoë Couzens (zoe.couzens@wales.nhs.uk) neu’r Prif Ymgynghorydd Diogelu iechyd, Dr. Giri Shankar (giri.shankar@wales.nhs.uk).


Adolygu Iechyd Rhywiol yng Nghymru yn y cyfnod canol Zoe Couzens, Prifathro Iechyd y Cyhoedd , Iechyd Cyhoeddus Cymru

Yn 2010, adnewyddodd Llywodraeth Cymru ei hymrwymiad i wella iechyd a lles rhywiol yng Nghymru trwy lansio Cynllun Gweithredu Iechyd a Lles Rhywiol ar gyfer Cymru. Rhoddodd Y Cynllun Gweithredu Iechyd a Lles Rhywiol ar gyfer Cymru (2010-2015) lwyfan ar gyfer datblygu ymateb lleol a chenedlaethol gan arwain at fwy o gydweithredu rhwng asiantaethau sydd â rôl i’w chwarae yn gwella iechyd rhywiol Cymru trwy addysg a darparu gwasanaeth clinigol. Er gwaethaf y cyflawniadau sylweddol yn lleihau beichiogi yn yr arddegau a gwella diagnosis o STI, mae cyfleoedd i barhau i wella ar y gwaith a wnaed rhwng 2010-2015. Yn hyn o beth, cafodd adolygiad o wasanaethau Iechyd Rhywiol a HIV ei nodi fel blaenoriaeth gan y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd ym mis Tachwedd 2016 (Llywodraeth Cymru, 2016c). Wrth i ni gyrraedd cyfnod canol yr adolygiad, mae’n amser da i roi diweddariad ar y cynnydd hyd yn hyn, yn ogystal â rhoi cipolwg ar yr ymagwedd a gymerwyd ar gyfer cynnal yr adolygiad. Ymagwedd Iechyd Cyhoeddus Cymru tuag at yr Adolygiad Dylai’r disgwyliadau cyflenwi a’r blaenoriaethau penodol a nodwyd yn yr Adolygiad newydd o Wasanaethau Iechyd Rhywiol a HIV yng Nghymru helpu i wireddu’r uchelgeisiau trosfwaol canlynol ar gyfer iechyd a lles rhywiol gwell yng Nghymru: • Mae pawb yn cael cyfle i gael mynediad i ofal a gwasanaethau iechyd rhywiol o ansawdd uchel • Mae pobl yn cael eu grymuso i edrych ar ôl eu hunain a chefnogi eraill i atal salwch rhywiol. Roedd y cais ffurfiol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddechrau adolygiad o wasanaethau iechyd rhywiol yng Nghymru yn rhagweld mynd i’r afael â’r canlynol: • Asesu anghenion y rheiny sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd rhywiol integredig; • Asesu angen heb ei fodloni; • Asesu ymddygiad peryglus, ymgysylltu a deall risg ymysg y rheiny sydd â’r perygl mwyaf o ganlyniadau nas bwriadwyd o’u hymddygiad; • Ystyried y ddarpariaeth bresennol o wasanaethau iechyd rhywiol integredig, yn cynnwys gwerthusiad o effeithiolrwydd cost modelau gwasanaeth presennol ac ansawdd data; • Ystyried rhannu gwybodaeth cleifion yn unol â Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Clefydau Gwenerol) 1974; ac • Ystyried y potensial ar gyfer ymgyrchoedd hybu iechyd wedi eu targedu i effeithio ar newid mewn ymddygiad. Er mwyn goruchwylio’r Adolygiad, mae’r Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd wedi cytuno i sefydlu Bwrdd Rhaglen Iechyd Rhywiol, wedi ei gadeirio gan y Prif Swyddog Meddygol, Dr. Frank Atherton, gyda’r bwriad o sefydlu blaenoriaethau ar gyfer iechyd rhywiol a gwasanaethau iechyd rhywiol yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru’n cael eu cynrychioli ar y Bwrdd hwn, a bydd yn gyfrifol am roi diweddariadau parhaus i’r Bwrdd yn ymwneud â chynnydd yr Adolygiad. I gyflwyno gofynion yr adolygiad hwn, mae gweithgorau o gynrychiolwyr perthnasol wedi cael eu sefydlu a byddant yn gweithredu fel grwpiau Gorchwyl a Gorffen, i gyd yn canolbwyntio ar y maes gwaith a nodir yn y cais gan Lywodraeth Cymru.


Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n gweithio’n gydweithredol gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol, o GIG Cymru a sectorau nad ydynt yn rhai’r GIG (ar draws Cymru), i gyflawni’r gofynion trwy ddau grŵp Gorchwyl a Gorffen: 1) Grŵp Gwasanaeth fydd yn goruchwylio: a. Adolygu darpariaeth gwasanaeth bresennol b. Datblygiad manyleb gwasanaeth c. Dadansoddi bylchau rhwng darpariaeth bresennol, angen a manyleb gwasanaeth d. Deddfwriaeth ar gyfer rhannu gwybodaeth cleifion (is-grŵp ar wahân o’r Grŵp Gwasanaeth) 2) Grŵp Ymddygiad Risg fydd yn goruchwylio: a. Asesu anghenion b. Asesu ymddygiad risg c. Ymyriadau newid ymddygiad Adolygu Iechyd Rhywiol - Datblygiadau Allweddol hyd yn hyn ‘Asesiad o anghenion y rheiny sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd rhywiol integredig’ • Arolwg defnyddwyr y gwasanaeth sydd ar y gweill (hyd at ddiwedd mis Medi 2017) ar draws Gwasanaethau Iechyd Rhywiol Integredig yng Nghymru, sydd hefyd yn gofyn i ddefnyddwyr y gwasanaeth sut y gwnaethant fynychu’r gwasanaeth a’u profiadau wrth fynychu. ‘Asesiad o angen heb ei ddiwallu’ • Ar y cyd â chydweithwyr yn Gwella 1000 o Fywydau, cynhaliwyd gweithdy ar 26 Gorffennaf a mynychodd cynrychiolwyr proffesiynol o’r grwpiau poblogaeth canlynol: pobl ifanc; pobl ifanc agored i niwed/wedi ei hallgáu; pobl hŷn; LGB; trawsrywiol; camddefnyddio sylweddau; anabledd dysgu; plant sy’n derbyn gofal. Roedd y gweithdy mewn dwy ran; yn gyntaf, yn edrych ar ofynion gwybodaeth a fformat y wybodaeth yma, ac yn ail mae Ymarferwyr wedi cael eu gwahodd i gynnal y gweithdy gyda defnyddwyr eu gwasanaeth a rhoi adborth i dîm y prosiect. ‘Ystyried darpariaeth bresennol gwasanaethau iechyd rhywiol integredig, yn cynnwys gwerthuso effeithiolrwydd cost modelau gwasanaeth presennol ac ansawdd data’ • Gofynnwyd i bob BILlau ddarparu data ar gyfer yr un wythnos ym mis Mai yn eu clinigau iechyd rhywiol, gan alluogi Tîm y Prosiect i ddadansoddi pob agwedd ar y clinig yn deg ledled Cymru. Roedd y data a gasglwyd yn cynnwys math o glinig, a oedd yn glinig galw heibio neu’n seiliedig ar apwyntiadau, nifer y staff yn y clinig, y gwasanaeth a ddarperir yn y clinig, nifer y cleifion sy’n cael eu troi i ffwrdd, gwasanaethau sy’n ofynnol gan gleifion, unrhyw atgyfeiriadau pellach a wnaed. Gofynnwyd am lefelau staffio a chyllideb ar gyfer y gwasanaethau hefyd. • Lluniwyd adroddiad ‘Cyflwr y Genedl’ gan Dîm y Prosiect, gyda Thîm Dadansoddol Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu ystadegau diweddaraf ar gyfer y mapiau yn dangos: lleoliad clinigau iechyd rhywiol yng Nghymru; cyfraddau beichiogi ymysg menywod o dan 18 oed; cyfradd erthyliadau cyfreithlon ymysg menywod sy’n preswylio yng Nghymru 15-44 oed; lleoliad fferyllfeydd sy’n darparu dulliau atal cenhedlu hormonaidd brys yng Nghymru, diagnosis o STI mewn clinigau iechyd rhywiol yng Nghymru (Mawrth – Medi 2016) a lleoliad Cynlluniau Cerdyn C, lleoliad gwasanaethau meddyg teulu yng Nghymru sy’n darparu dulliau atal cenhedlu gwrthdroadwy hirdymor. Darparodd Canolfan Arolygu Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru dablau/siartiau data ar gyfer cyfraddau STI, presenoldeb mewn clinigau iechyd rhywiol (2011-2015) • Paratowyd manyleb gwasanaeth drafft cyn y Tasglu Gorchwyl a Gorffen ‘Gwasanaethau’ ar 24 Mai, gyda grŵp i ystyried yr ymagwedd orau i’r dyfodol. Cofrestrydd arbenigol i gynorthwyo’r gwaith o ysgrifennu drafft diwygiedig ar adborth y Tasglu Gorchwyl a Gorffen, gyda’r bwriad o gael drafft terfynol erbyn Medi 2017. Mae safonau gwasanaeth a llwybrau gofal presennol ac i ddod i’w cynnwys yn y fanyleb gwasanaeth newydd yn cael eu mapio. • Bydd Set Ddata Genedlaethol ar gyfer Iechyd Rhywiol yng Nghymru yn cael ei datblygu, gyda’r gwaith hwn yn dechrau yn Ch4. • Mae gwefan Cymru Chwareus (www.friskywales.org) wedi cael ei ehangu i gynnwys tudalennau gwybodaeth i gleifion ar Siffilis, Hepatitis A,B a C, Chlamydia, Gonorea, Herpes a Defaid Gwenerol, ac mae hefyd yn cynnwys manylion prosiect PrEP.


‘Ystyried rhannu gwybodaeth cleifion yn unol â Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Clefydau Gwenerol) 1974’ • Mae papur opsiynau ar gyfer ystyriaethau yn y dyfodol yn ymwneud â rhannu data cleifion rhwng Clinigau Iechyd Rhywiol Integredig a Gofal Sylfaenol/Eilaidd ar ffurf drafft cyntaf, a chafodd ei rannu gyda Grŵp Gorchwyl a Gorffen ‘Deddfwriaeth’ ar 14 Gorffennaf a’i drafod yn y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar 21 Gorffennaf. Papur opsiynau i’w gymeradwyo yn y cyfarfod, a drafft terfynol i gael ei rannu erbyn wythnos gyntaf Medi. Am fwy o wybodaeth am unrhyw agwedd ar yr Adolygiad Iechyd Rhywiol, cysylltwch â Thîm y Prosiect: Uwch Swyddog Cyfrifol, Dr. Giri Shankar Rheolwr y Prosiect, Zoë Couzens Ymarferydd Polisi

giri.shankar@wales.nhs.uk zoe.couzens@wales.nhs.uk adam.jones2@wales.nhs.uk

Cyfeiriadau Iechyd Cyhoeddus Cymru (2016) Gwneud Gwahaniaeth: Buddsoddi mewn Iechyd a Llesiant Cynaliadwy i Bobl Cymru – Crynodeb Gweithredol. [Ar-lein]. Ar gael yn: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/documents/888/PHW%20Making%20a%20difference%20ES%28Web%5F2%29.pdf. Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru (2016a) Gwneud Gwahaniaeth: Wyth ffeithlun sy’n canolbwyntio ar heriau iechyd allweddol i Gymru ac atebion seiliedig ar dystiolaeth a awgrymir. [Ar-lein]. Ar gael yn: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/documents/888/ PHW%5FMaking%5Fa%5FDiffernce%5FInfographics%5FE%28web%29.pdf [Defnyddiwyd: 9 Mai 2017]. Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru (2016b) Gwneud Gwahaniaeth: Buddsoddi mewn Iechyd a Llesiant Cynaliadwy i Bobl Cymru – Tystiolaeth Ategol. [Ar-lein]. Ar gael yn: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/opendoc/293342 [Defnyddiwyd: 9 Mai 2017]. Llywodraeth Cynulliad Cymru (2010) Cynllun Gweithredu Iechyd a Lles Rhywiol ar gyfer Cymru, 2010-2015. Llywodraeth Cymru (2016a) Dwyn Cymru yn ei Blaen 2016-2021. [Ar-lein]. Ar gael yn: http://gov.wales/docs/strategies/160920-taking-walesforward-en.pdf [Defnyddiwyd: 9 Mawrth 2017]. Llywodraeth Cymru (2016b) Dwyn Cymru yn ei Blaen Amcanion Llesiant Llywodraeth Cymru (2016). [Ar-lein]. Ar gael yn: http://gov.wales/docs/ caecd/publications/161104-well-being-a-en.pdf [Defnyddiwyd: 9 Mawrth 2017]. Llywodraeth Cymru (2016c) Datganiad Ysgrifenedig - Iechyd Rhywiol yng Nghymru. [Ar-lein]. 23 Tachwedd 2016. Ar gael yn: http://gov.wales/ about/cabinet/cabinetstatements/2016-new/sexualhealth/?lang=en [Defnyddiwyd: 16 Mehefin 2017].


Methu Ei Drosglwyddo

Aderinola Omole – Arbenigwr Hybu Iechyd, Ymddiriedolaeth Terrence Higgins Cymru Yr haf yma, lansiodd Ymddiriedolaeth Terrence Higgins ymgyrch mawr ‘Can’t Pass It On’, i gyfleu’r neges i bobl sydd ar driniaeth HIV effeithiol nad ydynt yn gallu trosglwyddo’r feirws i bobl eraill. Am yr 20 mlynedd diwethaf, mae tystiolaeth wedi bod yn datblygu sydd yn dangos bod y tebygolrwydd o drosglwyddo HIV yn gysylltiedig â faint o’r feirws sydd yng ngwaed person – llwyth feirysol HIV. Mae triniaeth effeithiol yn lleihau’r llwyth feirysol i lefelau na ellir eu canfod, all gymryd hyd at chwe mis o ddechrau’r driniaeth, sy’n golygu na ellir canfod yr HIV na’i drosglwyddo. Y llynedd, edrychodd astudiaeth flaenllaw PARTNER ar fwy na 58,000 o achosion o ryw heb gondom, lle’r oedd un partner yn HIV positif ac un yn HIV negatif. Canfu’r canlyniadau, pan oedd y partner positif ar driniaeth effeithiol na chafwyd unrhyw achosion o drosglwyddo HIV. Mae hwn yn ganfyddiad anhygoel sydd yn rhoi tystiolaeth gadarn i ni sydd yn dweud yn hyderus na all pobl ar driniaeth HIV effeithiol drosglwyddo’r feirws. Nid ydynt yn heintus. Nid oes unrhyw reswm pam na allant gael perthynas, syrthio mewn cariad, cael bywyd rhywiol iach, gweithio na chael teulu fel pawb arall. Mae mudiad byd-eang wedi dechrau i ledaenu’r gair bod ‘Methu Canfod = Methu Heintio’, a fynegir yn aml fel #UequalsU. Dechreuodd hyn gydag un unigolyn yn yr UD, o’r enw Bruce Richman, sydd wedi ysgogi cynghrair o gannoedd o sefydliadau arbenigol ar draws y byd i ymrwymo i gyfleu’r neges hon. Mae Ymddiriedolaeth Terrence Higgins ymysg y sefydliadau hyn ac yn un o’r cyntaf i addasu ei negeseuon yn dilyn canfyddiadau astudiaeth PARTNER. Ni wnaethom gymryd y cam hwn ar chwarae bach ac ni fyddem wedi gwneud hyn pe na fyddem yn hyderus o’r wyddoniaeth. Ni yw un o’r elusennau HIV mwyaf ac mae gennym gyfrifoldeb i gyfleu’r ffeithiau a herio’r mythau am HIV sydd yn dal i fodoli, sydd yn aml yn beryglus ac yn creu stigma. Mae hyn yn arbennig o bwysig oherwydd canlyniadau arolwg diweddar a gynhaliwyd gyda YouGov, a ganfu mai dim ond naw y cant o bobl yng Nghymru oedd yn ymwybodol na all pobl ar driniaeth effeithiol drosglwyddo HIV. Canfu’r arolwg hefyd y byddai tua un mewn pump (20%) o bobl Cymru yn teimlo’n anghyfforddus yn rhoi Cymorth Cyntaf i rywun sydd yn byw gyda HIV sydd ar driniaeth effeithiol. Yn y cyfamser, byddai bron 22% o bobl o Gymru yn anghyfforddus yn mynd allan gyda rhywun sydd yn byw gyda HIV sydd ar driniaeth effeithiol, ac roedd bron 1 mewn 6 (15%) yn teimlo’r un peth am wneud chwaraeon â chyswllt. Ofni cael eu heintio yw’r ffynhonnell stigma a gwahaniaethu fwyaf yn ymwneud â HIV, ac mae’r stigma yma, yn ei dro, yn atal pobl rhag dod ymlaen i gael eu profi. Mae’n dal yn frawychus, fodd bynnag, yn 2017, bod y safbwyntiau hyn yn parhau a bod pobl yng Nghymru’n dal i gael eu trin yn wahanol oherwydd eu statws HIV. Mae angen i ni ailosod y ffordd yr ydym yn ystyried HIV fel cymdeithas. Mae’r mythau am y ffordd y mae HIV yn cael ei drosglwyddo wedi eu sefydlu’n ddwfn yn agweddau unigolion tuag at HIV, ond maent hefyd wedi eu sefydlu yn strwythurau ac arferion ein GIG, o brofion gwaed i ddeintyddiaeth. Nawr bod gennym y dystiolaeth feddygol all ein helpu i newid agweddau yn sylfaenol – mae’n amser gwrando ar wyddoniaeth, nid stigma. (a) Astudiaeth PARTNER Rodger et al i grŵp astudiaeth PARTNER. Sexual activity without condoms and risk of HIV transmission in serodifferent couples when the HIVpositive partner is using suppressive antiretroviral therapy. JAMA, 2016;316(2):1-11 Gall gymryd hyd at chwe mis o ddechrau triniaeth i fethu canfod yr HIV. (b) Arolwg YouGov Mae’r holl ffigurau, oni nodir fel arall, o YouGov Plc. Cyfanswm maint y sampl oedd 2022 o oedolion. Gwaith maes a gynhaliwyd rhwng 6 -7 Mehefin 2017. Cynhaliwyd yr arolwg ar-lein. Mae’r ffigurau wedi cael eu pwysoli ac yn gynrychioliadol o holl oedolion PF (18+ oed).


Trans Ageing and Care (TrAC): Dignified and inclusive health and social care for older trans people in Wales Heneiddio a Gofal Traws (TrAC): Iechyd a gofal cymdeithasol cynhwysol gydag urddas i bobl draws hŷn yng Nghymru.

Seeking health and social care professionals to take part in a short survey. We are running a study looking at health and social care delivery for older trans people in Wales, of which we know very little. As well as interviewing older trans people to hear about their experiences, needs and hopes, we’re conducting a survey with health and social care professionals working in Wales. For a fuller description of our study, please visit our web-site: http://trans-ageing.swan.ac.uk/. Would you like to help us? If you choose to participate, it would take no more than 20 minutes of your time. As a small token of thanks, participants are free to enter a prize draw (four winners; £50 One4all vouchers), and entering the draw will not compromise their anonymity. What do I need to do to participate? Simply click on the following link: http://psy.swan.ac.uk/questionnaires/transageing / Many thanks for your time!

Rydyn ni'n chwilio am weithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i gymryd rhan mewn arolwg byr.

Rydyn ni'n cynnal astudiaeth i edrych ar sut mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu darparu i bobl draws hŷn yng Nghymru - maes na wyddom lawer amdano. Yn ogystal â chyfweld â phobl draws hŷn am eu profiadau, eu hanghenion a'u dyheadau, rydyn ni'n cynnal arolwg ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth am ein hastudiaeth, ewch i'n gwefan: http://trans-ageing.swan.ac.uk/?lang=cy Hoffech chi ein helpu? Os byddwch yn dewis cymryd rhan, ni ddylai'r arolwg gymryd mwy nag 20 munud i'w lenwi. Fel arwydd bach o ddiolch, mae cyfle i ymatebwyr ennill un o bedair gwobr (talebau gwario One4all gwerth £50), ac ni fydd cymryd rhan yn y gystadleuaeth yn risg i gyfrinachedd – bydd eich atebion yn yr arolwg yn aros yn ddienw. Sut mae cymryd rhan? Cliciwch ar un o'r dolenni isod: http://psy.swansea.ac.uk/questionnaires/tra nsageing_cymraeg/ Diolch i chi am roi o'ch amser!


Podlediad

Gofynnwyd i ni am bodlediadau ac fe wnaethom wrando! Mae Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gweithio gyda nifer o sefydliadau i greu podlediadau y gellir eu llwytho i lawr a gwrando arnynt wrth fynd. Mae’r holl bodlediadau ar gael yn adran ‘Cymryd Rhan’ y wefan. Mae’r podlediadau sydd ar gael ar hyn o bryd i’w llwytho i lawr yn canolbwyntio ar Iechyd y Galon, Iechyd Meddwl, Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac ACE, Diogelwch yn yr Haul a Chanser y Croen, ac Iechyd Trans.

Ymarfer a Rennir Prosiect y mis yw Prosiect Byw’n Ddiogel, yn Iach ac yn Annibynnol (SWAIL). Mae prosiect Byw’n Ddiogel, yn Iach ac yn Annibynnol (SWAIL) wedi ei gyfyngu i ardaloedd Llanelli a Chaerfyrddin o Sir Gaerfyrddin ac mae’n targedu unigolion dros 60 oed gyda’r nodweddion canlynol sy’n eu gwneud yn fregus: • Unigolion â salwch meddwl a/neu gorfforol • Unigolion sydd yn camddefnyddio alcohol neu sylweddau • Byw ar eu pen eu hunain a/neu’n byw mewn eiddo ar rent • Ymwneud â thân e.e. smygu, coginio, canhwyllau • Dioddefwr troseddau/bygythiad o droseddu • Defnyddiwr cyson o’r Gwasanaethau 999 Mae’r Prosiect yn darparu Gwiriad Diogelwch yn y Cartref Holistaidd, sydd yn cynnwys Arolwg/ Cyngor ar Atal Troseddu sylfaenol a gosod rhai eitemau lleihau tân/troseddu lle y bo’n briodol. Os hoffech ychwanegu eich prosiect eich hun i’r Cyfeiriadur Ymarfer a Rennir mae ffurflen arlein hawdd (sydd ond ar gael i aelodau) ac unwaith y caiff ei chymeradwyo gan un o’r cydlynwyr, bydd eich prosiect wedyn yn ymddangos ar y cyfeiriadur. Mae Pecyn Cymorth Hunanasesu hefyd y gellir ei argraffu neu ei lenwi ar-lein ac mae’n galluogi cydlynwyr i sicrhau ansawdd y datblygiad a darpariaeth prosiectau newydd a phresennol. Os oes angen cymorth arnoch yn cwblhau’r pecyn cymorth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu ag un o’r cydlynwyr yn publichealth.network@wales.nhs.uk


Cael Ei Holi Y mis yma mae Adam Jones dan sylw. Mae Adam yn Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Polisi yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a chyn hynny, ef oedd Cydlynydd Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan.

Ble rydych chi’n gweithio ar hyn o bryd a beth yw eich maes arbenigedd? Er Hydref 2015, rwyf wedi bod yn ymarferydd polisi i Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn y swydd hon, rwyf yn rhoi arweiniad a chymorth i gydweithwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda gwaith polisi (fel ymateb i ymgynghoriadau, rhoi tystiolaeth mewn ymchwiliadau, datblygu datganiadau sefyllfa). Gan fod Iechyd y Cyhoedd yn faes mor eang (beth sydd ddim yn iechyd y cyhoedd?), mae hon yn swydd brysur gyda llawer o bwysau. Graddiais mewn Gwleidyddiaeth, ac yn hyn o beth rwy’n credu fy mod bob amser wedi cyflwyno safbwynt gwahanol i broffesiwn sydd yn cynnwys ymarferwyr wedi eu hyfforddi’n feddygol yn bennaf. Mae fy nghymwysterau yn bendant yn addas i’r swydd sydd gennyf heddiw.

Fel cydlynydd blaenorol Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan, beth yn eich barn chi yw agweddau cadarnhaol a negyddol bod yn un Rhwydwaith hollgynhwysol? Roeddwn yn dal yn rhan o dîm y Rhwydwaith yn ystod y cyfnod pontio o rwydweithiau unigol oedd yn canolbwyntio ar destunau, ac roedd yn bwysig yn ystod y cyfnod datblygu’r we i’r Rhwydwaith newydd fod gan bobl yr opsiwn o hyd i deilwra’r cynnwys i’w hanghenion nhw – ni fydd pawb angen gwybod am ddatblygiadau ym maes camddefnyddio sylweddau os ydynt yn gweithio ym maes iechyd yr amgylchedd, er enghraifft – felly mae’n wych bod gan bobl yr opsiwn hwnnw o hyd. Y fantais fawr arall yw ehangder y testunau sy’n cael eu cynnwys erbyn hyn. Pan oedd y Rhwydweithiau ar wahân, yn cwmpasu pedwar testun unigol, roedd ymarferwyr yn aml yn gofyn i ni pam nad oedd rhwydwaith rhoi’r gorau i smygu, neu pryd byddai rhwydwaith alcohol. Mae Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru’n llwyddo i fynd i’r afael â hyn. Ac mae hynny’n arwain at yr unig elfen negyddol y gallaf feddwl amdano. Mae angen i bob asiantaeth fod yn ymwybodol o Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i hybu’n weithredol a chyfrannu ato. Mae Tîm y Rhwydwaith yn fach, ac nid oes disgwyl iddynt wybod am bob testun i’r un graddau â’r adeg pan oeddwn yn goruchwylio Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan, yn edrych ar un testun, er enghraifft. Mae Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dibynnu mwy nag erioed ar gyfraniadau gan aelodau. (Mae’n rhaid i mi ychwanegu er nad wyf yn gydlynydd rhwydwaith bellach, rwyf nawr yn aelod rhagweithiol!!)


Mae’r e-fwletin y mis yma yn rhoi sylw i Iechyd Rhywiol, beth yn eich barn chi yw’r prif heriau yr ydym yn eu hwynebu yn mynd i’r afael â’r mater hwn yng Nghymru? Beth yw’r neges bwysicaf y dylid ei chyfleu i weithwyr proffesiynol a’r cyhoedd yn ymwneud ag iechyd rhywiol? Mae’n gyfnod diddorol iawn i gael y rhifyn hwn o’r E-fwletin, gan ei fod hanner ffordd trwy Adolygiad Iechyd Rhywiol a gynhelir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gais Llywodraeth Cymru. Mae’r Adolygiad yn amlygu rhai o’r gwahaniaethau yn narpariaeth gwasanaeth iechyd rhywiol ar draws Cymru, gydag enghreifftiau o arfer gwych y mae angen i ni ei efelychu ledled Cymru. Mae hefyd yn dda gweld faint o flaenoriaeth yw iechyd rhywiol i’r Prif Swyddog Meddygol, Dr. Frank Atherton, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, Vaughan Gething AC. Mae’r penderfyniad diweddar i ariannu Proffylacsis Cyngysylltiol (PrEP) yn amlygu gymaint o bwyslais y mae Llywodraeth Cymru’n ei roi ar iechyd rhywiol. Serch hynny, ar adegau pan mae cyllidebau’n dynn, mae angen i ymarferwyr barhau i frwydro dros iechyd rhywiol. Yn ystod cyfnodau blaenorol o gyllid caeth, yn y DU a thu hwnt, iechyd rhywiol yn aml yw un o’r meysydd cyntaf lle mae cyllid yn cael ei leihau. Mae angen i ni gyd barhau i frwydro dros fuddsoddi mewn iechyd rhywiol da, a sicrhau ein bod yn dangos sut rydym yn gwneud y defnydd gorau o’r cyllidebau sydd gennym.

Beth yn eich barn chi allai Cymru fod yn ei wneud i hybu neu gymryd rhan yn Wythnos Iechyd Rhywiol? Rwy’n credu po fwyaf y gallwn ei wneud i hybu iechyd rhywiol - yn ogystal ag Wythnos Iechyd Rhywiol - y gorau. Mae ymgyrch ‘Sextember’ a gynhaliwyd yn BIP Betsi Cadwaladr dros y blynyddoedd diwethaf, wedi bod yn wych; byddai’n dda gweld hyn yn cael ei efelychu ledled Cymru. I roi un esiampl, byddai’n sicr angen symud i ffwrdd o daflenni a phosteri yn unig, a mynd â’r negeseuon i’r mannau lle mae unigolion risg uchel yn cyfarfod; ar-lein yw’r fan hon yn gynyddol. Gyda thema eleni, sef pornograffi, a ydym yn credu o ddifrif bod defnyddwyr pornograffi ar-lein yn edrych am daflen neu boster i wella eu hiechyd rhywiol? Dewch i ni fod yn fentrus!

Pe byddech yn cael 3 dymuniad beth fyddent? • Yn broffesiynol, i Iechyd Rhywiol fod yn brif flaenoriaeth i bob sefydliad iechyd; rydym i gyd yn fodau rhywiol i ryw raddau, beth am gydnabod y ffaith honno. • Yn bersonol – cyhoeddi fy nofel (ond yn gyntaf, hoffwn ei gorffen!) • Yn bersonol – i rywun arall ddod draw i lanhau’r ffwrn; fy nghas beth i’w wneud!

Beth yw eich diddordebau/hobïau personol? Rwyf yn ddarllenwr brwd, sydd wedi gofyn i Waterstones roi gorchymyn atal i mi (maent wedi gwrthod). Rwyf hefyd yn ffotograffydd, gyda diddordeb penodol mewn ffotograffiaeth stryd; gallwch ddod o hyd i mi ar Instagram/Twitter @adamthomasjones os hoffech gymryd golwg.


Pyncia Llosg Mae rhan hwn o’r e-fwletin wedi’i neilltuo i newyddion gan aelodau’r rhwydwaith. Cewch gyflwyno newyddion ynglyn a gwaith sy’n cael ei wneud yn eich ardal chi, ysgrifennwch erthygl ar ein cyfer, hyrwyddwch ddigwyddiad sydd i ddod neu broliwch am eich cyraeddiaddau! Os ydych chi’n dynuno cyflwyno erthygl ar gyfer yr adran Clecs anfonwch neges e-bost publichealth.network@wales.nhs.uk Ni ddylai’r erthygl gynnwys mwy na 500 o eiriau ac rydym yn croesawu lluniau bob amser!!

Decipher Short Courses

DECIPHer sHort CoursEs - sEPtEmbEr 2017

CoursE 1: ProCEss EvaluatIon of ComPlEx IntErvEntIons

DECIPHEr

dECIpHer, the Centre for the development and Evaluation of Complex Interventions for Public Health Improvement, is one of five UKRC Public Health Research Centres of Excellence coordinated by the Medical Research Council.

DuratIon: 1 Day DatE: 27 september 2017 venue: Glamorgan building, Cardiff university Cost: £225

The aim of this one-day course is to provide participants with a working knowledge of the theory and practice of process evaluation of complex interventions. The course is led by Dr Rhiannon Evans (Research Fellow, DECIPHer). The teaching team (Dr Graham Moore, Dr Micky Wilmott, and Dr Jeremy Segrott) includes authors of numerous empirical and methodological works related to process evaluation, including recent Medical Research Council guidance.

DECIPHer is a strategic partnership between Cardiff, Bristol and Swansea Universities. It is a leading centre of methodologically innovative multidisciplinary public health research, and has a strong track record of working with partners from public health policy and practice, and of public involvement in research.

Course will cover: •The role of process evaluation in understanding complex interventions; •The importance of intervention theory and logic models; •Fidelity and implementation of complex interventions; •Relationships and resource issues; •Identifying questions and combining methods and data sources; •Analysis and dissemination of evaluation findings. Who is it for? Academics, practioners and policymakers interested in the development and evaluation of complex interventions, specifically in public health. No prior knowledge is assumed. How to Book: www.decipher.uk.net/decipher- short-courses

(029) 2087 5274

train@cardiff.ac.uk

/

CardiffUniCpd


Hyfforddiant cyflwyniadol Asesu Effaith ar Iechyd (HIA) a chyfleoedd Briffio Asesu Effaith ar Les Meddwl (MWIA). Yn dilyn pasio Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, bydd HIA yn dod yn asesiad statudol yng Nghymru o fewn amgylchiadau penodol. Ar hyn o bryd, mae’r rheoliadau’n cael eu drafftio yn barod ar gyfer ymgynghoriad. Bydd y rheoliadau’n diffinio’r amgylchiadau penodol ar gyfer cymhwyso HIA. Ar wahân i Ddeddf Iechyd y Cyhoedd, mae HIA yn offeryn allweddol ym ‘mlwch offer’ ymarferwyr Iechyd y Cyhoedd. Mae’r sesiynau cyflwyniadol hyn yn gyfle i ddysgu am HIA, yn cynnwys: • Sut mae HIA yn cefnogi ymagwedd Iechyd ym Mhob Polisi (HiAP) tuag at wneud polisïau • Sut y gall gefnogi gweithredu’r egwyddor datblygu cynaliadwy a ffyrdd o weithio sydd yn ategu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol • Yr egwyddorion a’r broses sy’n ategu HIA • Sut mae HIA yn defnyddio sgiliau allweddol Iechyd y Cyhoedd • Ar gyfer ymarferwyr Iechyd y Cyhoedd sydd yn ceisio Cofrestru fel Ymarferwyr, bydd y cwrs cyflwyniadol yn cefnogi nifer o gymwyseddau. Bydd gan sesiwn friffio MWIA y canlyniadau dysgu canlynol: • Gwybodaeth am fframwaith llesiant a chadernid, datblygiad, methodoleg a sail dystiolaeth MWIA sy’n tanategu Pecyn Cymorth MWIA • Gwybodaeth am gymhwyso MWIA mewn ystod o sectorau a lleoliadau fel offeryn ar gyfer “Iechyd Meddwl ym mhob Polisi” • Perthnasedd MWIA i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol • Buddion a chanlyniadau defnyddio MWIA Dyddiadau’r cwrs: • Cyflwyniad i HIA, Dydd Iau 21 Medi, bore yn Yr Optic Llanelwy, gogledd Cymru • Cyflwyniad i HIA, Dydd Llun 25 Medi, bore, Ystafell Hyfforddiant, Capitol Qtr 2 Caerdydd • Briff Asesu Effaith ar Les Meddwl, prynhawn, Ystafell Hyfforddiant, Capitol Qtr 2 Caerdydd Am fwy o fanylion a ffurflen gofrestru, cysylltwch â ODLearning@wales.nhs.uk or tel. 02920827639

Cynhadledd Flynyddol Anabledd Dysgu Cymru Caru eich Iechyd: Am fod iechyd pawb yn bwysig Dydd Mercher 25 - Dydd Iau 26 Hydref 2017 Casnewydd, De Cymru (Lleoliad hygyrch) Bydd Anabledd Dysgu Cymru yn cynnal eu cynhadledd flynyddol fydd, eleni, yn canolbwyntio ar thema iechyd a materion iechyd y mae plant, pobl ifanc ac oedolion ag anabledd dysgu’n eu hwynebu. Bydd cymysgedd bywiog o weithdai rhyngweithiol, llawn gwybodaeth, siaradwyr a drama ynghyd â llawer o arddangoswyr rhagorol yn edrych ar destunau fel: • Mynediad i wasanaethau iechyd • Ffordd o fyw • Iechyd meddwl • Heneiddio a gofal diwedd oes • Gofal deintyddol • Gofal y llygaid a cholli/nam ar y clyw • Llesiant


Crynodeb o’r Newyddion Croeso i’r Crynodeb o’r Newyddion! Cliciwch ar benawdau’r eitemau newyddion i fynd at y stori newyddion Iawn ar Wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cyrmu.

Ymchwil a Tystiolaeth 2017 Cynllun Grant Cyfnewid Gwybodaeth Lansio

Ar gyfer Polisi Makers ac Ymarferwyr yng Nghymru sy’n gweithio ym maes iechyd a / neu ofal cymdeithasol. Mae’r tîm cymorth canolog yn NCPHWR bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o sicrhau bod yr ymchwil y mae’r Ganolfan yn ei gwneud yn cael effaith ar ‘fywyd go iawn’ a’n bod yn gweithio ar y cwestiynau sydd o bwys mewn gwirionedd i iechyd a llesiant yng Nghymru. Un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o wneud hyn yw trwy gynnwys defnyddwyr ymchwil o’r cychwyn cyntaf.

Maeth Pam nad yw diodydd llawn siwgr a phrydau bwyd llawn protein yn gyfuniad da

Gall yfed diod sydd wedi’i felysu â siwgr gyda phryd sy’n uchel mewn protein gael effaith negyddol ar y cydbwysedd ynni, newid dewisiadau bwyd a gwneud i’r corff storio mwy o fraster, yn ôl astudiaeth sydd wedi’i chyhoeddi yn y cylchgrawn mynediad agored BMC Nutrition.

Gweithgaredd Corfforol Chwaraeon Cymru yn galw ar ferched a genethod Cymru i ymuno a’n ‘Sgwad Ni’ Mae Chwaraeon Cymru wedi lansio cam cyntaf menter newydd i uno rhaglenni a phrosiectau merched a genethod ledled Cymru i ddathlu, annog a grymuso mwy o ferched a genethod i ddod yn egnïol ac i ddal ati i fod yn egnïol.

Amgylchedd Naturiol Arolwg Ordnans yn lansio mapiau mannau gwyrdd

Yr ardal Mannau Gwyrdd newydd ar Fapiau OS yw’r ffordd hawsaf o ganfod mannau gwyrdd ledled Prydain.


Dementia Addysg dementia’n ymwneud â risg yn ysbrydoli pobl ganol oed i ystyried ffordd o fyw iachach Byddai tri chwarter pobl ganol oed yn gwneud newidiadau i’w ffordd o fyw nawr i leihau’r perygl o ddatblygu dementia yn y dyfodol, yn ôl elusennau dementia mwyaf y DU.

Y Blynyddoedd Cynnar Bron traean o blant dan bump nad ydynt yn cael digon o chwarae yn yr awyr agored Mae adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datgelu er bod bron yr holl rieni yng Nghymru (97 y cant) yn credu ei bod yn bwysig i’w plentyn chwarae yn yr awyr agored bob dydd, mae bron traean o blant dan bump oed (29 y cant) nad ydynt yn cael yr amser yn yr awyr agored sydd ei angen arnynt.

Cliciwch yma am fwy o newyddion ar y wefan Cysyllt Iechyd y Cyhoedd Cymru


Medi

0 0 1 1 1 2

6 8 1 8 9 2

Rhoi Cyfranogiad ar Waith gyda Phobl Ifanc Caerdydd

Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant Aberaeron

Wythnos Iechyd Rhywiol 2017 Digwyddiad Cenedlaethol

Cynhadledd ‘Sextember’ Bangor

Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru Gweminar Cynhadledd iechyd rhywiol ac atgenhedlol Llundain

Cliciwch yma am mwy o ddigwyddiadau ar y wefan Cyswllt Iechyd y Cyhoedd Cymru


Cysylltu â Ni Rhif 2 Capitol Quarter Llawr 5 Tyndall Stryd Caerdydd CF10 4BZ www.publichealthnetwork.cymru Os oes gennych unrhyw newyddion neu ddigwyddiadau i’w cyfrannu i’r rhifyn nesaf afonwch nhw at publichealth.network@wales.nhs.uk Dyddiad olaf ar gyfer eu cyflwyno yw’r trydydd dydd Gwener o bob mis.



Rhifyn Nesaf: Dydd Iechyd Meddwl y Byd


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.