Rhagfyr 2017
Croeso i’r e-fwletin Croeso i rifyn mis Rhagfyr o e-fwletin Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r sylw’r mis yma ar ‘Gadw’n Iach y Gaeaf Hwn’. Mae Ymgyrch ‘Cadw’n Iach y Gaeaf Hwn’ Age Cymru yn rhoi gwybodaeth a chyngor i bobl hŷn yng Nghymru i’w galluogi i aros yn iach trwy gydol misoedd y gaeaf. Er bod yr ymgyrch wedi ei gyfeirio at bobl hŷn, rydym wedi ehangu’r e-fwletin hwn gan ein bod wedi derbyn llawer o erthyglau defnyddiol a ddiddorol gan sefydliadau yn rhoi cyngor ar draws yr oesoedd. Mae llawer o adnoddau’n ymwneud â’n testun dewisol yng Nghronfa ddata adnoddau’r Rhwydwaith Cynhaliwyd Seminar Dementia’r Rhwydwaith ar 14 Rhagfyr ac roedd yn llwyddiant ysgubol. Cafodd y seminar ei ffrydio’n fyw hefyd ar y diwrnod a bydd gwybodaeth o’r diwrnod ar gael ar ein gwefan mewn ychydig wythnosau. Ein Seminar sy’n cael ei chynllunio ar gyfer dechrau Mawrth 2018 fydd Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd. Bydd mwy o wybodaeth ar gael yn y Flwyddyn Newydd. Mae Cynhadledd Iechyd Rhywiol yn cael ei chynllunio hefyd ar gyfer 22 Mawrth 2018 felly mae llawer i ddod gan Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw wybodaeth yr hoffech ei chynnwys ar y wefan neu’r e-fwletin trwy gysylltu â ni yn publichealth.network@wales.nhs.uk Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda!
@PHNetworkcymru
/publichealthnetworkcymru
www.publichealthnetwork.cymru
Cadwch yn Iach y Gaeaf
f Hwn Pwyslais ar Gadw’n Iach y Gaeaf Hwn
Mae Gwefan Cadw’n Iach y Gaeaf Hwn yn rhoi cyngor ar gadw’n iach ac yn gynnes y gaeaf hwn. Mae awgrymiadau defnyddiol ar gyfer gwresogi eich cartref yn effeithiol, gwybodaeth am y cymorth ariannol sydd ar gael a chamau ar gyfer paratoi ar gyfer y gaeaf Mae’n bwysig iawn cadw’n gynnes. Rydym i gyd yn fwy tebygol o ddal annwyd a’r ffliw yn y gaeaf ond gall y tywydd oer hefyd achosi problemau iechyd mwy difrifol fel trawiad ar y galon, strôc a llid yr ysgyfaint. Mae cadw gallwch yn eich ffordd hyd yn oed
eich hun mor heini ac iach ag y bwysig drwy’r flwyddyn, ond gall o fyw wneud mwy o wahaniaeth pan ddaw i gadw’n iach yn y gaeaf.
Mae diogelwch tân yn arbennig o bwysig yn ystod y gaeaf. Bydd eich gwasanaeth tân ac achub lleol yn cynnal gwiriad diogelwch tân yn y cartref am ddim ac yn gosod larymau mwg os nad oed rhai gennych yn barod. Ffoniwch nhw ar 0800 169 1234 am fwy o wybodaeth https://www.ageuk.org.uk/cymru/health-wellbeing/keep_well_this_winter/keep-safe/
Ymgyrch Scarfie
Rhannwch #Scarfie, achubwch fywyd. Prevent asthma attacks this winter with a #Scarfie Gallwch osgoi pyliau o asthma’r gaeaf hwn gyda #Scarfie Gall lapio sgarff o amgylch eich trwyn a’ch ceg atal pyliau o asthma. Lledaenwch y gair trwy rannu’ r fideo #Scarfie yma. Sut gall #Scarfies helpu i atal pyliau o asthma’r gaeaf hwn Mae anadlu aer oer yn aml yn achosi symptomau asthma, ac weithiau pyliau o asthma. Dywedodd tri chwarter y bobl ag asthma bod hyn yn digwydd iddyn nhw. Ond pan fyddwch yn anadlu drwy sgarff, mae’n cynhesu’r aer. Mae hyn yn atal yr aer oer rhag llidio eich llwybr anadlu ac achosi pwl o asthma. Yr unig beth sydd angen i chi ei wneud yw lapio sgarff yn llac o amgylch eich trwyn a’ch ceg i gynhesu’r aer cyn i chi anadlu i mewn. Cyngor ar gyfer rheoli eich asthma’r gaeaf hwn Mae llawer o bethau y gallwch ei wneud i ofalu amdanoch chi eich hun a’ch asthma’r gaeaf hwn. Darllenwch dudalen Asthma UK ar achoswyr tywydd er mwyn gweld sut y gallwch eu rheoli. https://www.asthma.org.uk/advice/triggers/weather/
Awgrymiadau ar gyfer Fy Iechyd y Gaeaf Hwn Os ydych angen cymorth neu gyngor ewch ar-lein: galwiechydcymru.wales.nhs.uk neu ffoniwch 0845 46 47. Os ydych yn byw yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont neu Sir Gaerfyrddin ffoniwch 111.
Byddwch barod – gofalwch am eich iechyd Ydych chi’n gymwys i gael brechiad ffliw am ddim? Ewch i weld eich fferyllydd neu eich meddyg teulu – ewch i gael un yn gynnar i osgoi’r rhuthr. Oes gennych chi bresgripsiynau amlroddadwy? Ewch â nhw i gael eu llenwi’n gynnar. Mae nifer o feddygfeydd a fferyllfeydd ar agor am lai o oriau dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Dewiswch y tymheredd cywir. Gosodwch eich gwres rhwng 18-21 oC. Mae cael larwm carbon monocsid cyn bwysiced â larwm mwg a gallai achub eich bywyd. Mae siopau DIY yn eu gwerthu, ac mae’n hawdd eu gosod a’u defnyddio. Taflwch hen sliperi i osgoi cwympo a llithro, ac os byddwch yn mynd tu allan gwisgwch esgidiau â gwaelod cadarn a digon o afael arnynt. Gwnewch yn siŵr fod digon o fwydydd tun a bwydydd wedi’u rhewi gennych, fel na fydd angen i chi fentro allan ormod pan fydd yn oer neu’n rhewllyd. Oes gennych annwyd neu ddolur gwddf? Does dim angen i chi fynd at eich meddyg teulu, ewch i weld eich fferyllydd.
Gofalwch am eich hun Cadwch yn gynnes drwy wisgo haenau o ddillad, y tu fewn a’r tu allan. Defnyddiwch botel ddŵr poeth neu flanced drydan i gadw eich gwely’n gynnes. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael o leiaf un pryd bwyd poeth y dydd – mae bwyta’n rheolaidd yn eich helpu i gadw’n gynnes; a gwnewch yn siŵr eich bod yn yfed diodydd poeth ac oer yn rheolaidd yn ystod y dydd. Mae’n gyfnod o lawenydd, ond ceisiwch beidio â’i gorwneud hi. Peidiwch yfed gormod o alcohol, bwytewch ddeiet cytbwys a chadwch yn heini – bydd hyd yn oed ymarfer corff cymedrol yn cadw eich corff yn gryf ac yn eich helpu i osgoi cwympo. Gwnewch yn siŵr fod eich twrci wedi dadrewi’n iawn ac yna ei goginio’n iawn tan bod y sudd yn glir. Mae germau’n lledaenu o gig amrwd a dofednod i arwynebau, byrddau torri, llestri ac offer y gegin – dylech eu golchi’n drwyadl cyn eu defnyddio ar gyfer bwyd wedi’i goginio.
Os oes gennych broblemau gyda’r galon neu’r frest, arhoswch mewn yn ystod tywydd oer iawn, ac os oes yn rhaid i chi fynd allan gwisgwch sgarff o amgylch eich ceg i amddiffyn eich ysgyfaint rhag yr aer oer. Peidiwch â bod yn unig y gaeaf hwn. Os ydych chi, aelod o’r teulu neu gymydog yn poeni am berthynas neu gymydog hŷn, cysylltwch â’ch cyngor lleol neu ffoniwch llinell gymorth Age Cymru am ddim ar 08000 223 444, dydd Llun i Gwener, 9yb-5yh.
© Hawlfraint Y Goron 2017 WG33078
Oes gennych Wifren Achub Bywyd? Dylech wisgo’r wifren drwy’r amser pan fyddwch yn y tŷ.
Dewch o hyd i’r lle iawn ar gyfer gofal a thriniaeth trwy Dewis Iach y gaeaf hwn - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Mae pobl yn cael eu gofyn i helpu y gaeaf hwn i'r GIG drwy Dewis Iach a mynd i'r lle iawn i gael cyngor a thriniaeth ar gyfer cyflyrau cyffredin a mân anafiadau. Rhai sydd â chwynion o'r fath fel cur pen, y ddannoedd, stumogau cynhyrfu a heintiau llygaid yn cael eu gofyn i ystyried ymweld â'u fferyllydd, optegydd neu ddeintydd yn hytrach na'u meddyg teulu. Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Meddyg Teulu Dr Nicola Lewis: "Ar gyfer unrhyw broblemau llygaid, hyd yn oed os oes gennych haint llygaid, gallwch fynd yn syth at yr optegydd. "Ar gyfer unrhyw broblemau deintyddol, poen dannedd, poen gwm, wlserau yn y geg gallwch fynd yn syth at y deintydd. "Gallwch fynd at y fferyllydd i gael cyngor cyffredinol, yn enwedig os oes gennych anhwylder ar y stumog, cur pen neu tebyg i ffliw symptomau, neu os oes gennych unrhyw bryderon am eich meddyginiaeth." Nid oes angen apwyntiad i weld y fferyllydd ac mae gan nifer o ystafelloedd preifat i drafod materion iechyd. Hefyd Nododd Dr Lewis i Galw Iechyd Cymru (http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/) a Dewis gwefannu Well (http://www.dewisdoethcymru.org.uk/hafan) sy'n helpu pobl adnabod y lle gorau i fynd i gael triniaeth. Ychwanegodd: "Os nad ydych yn siwr y gall bob amser yn mynd i ofyn i'r fferyllydd os ydynt yn credu ei fod yn rhywbeth y gallant helpu gyda, a gallant bob amser ailgyfeirio pobl i ni os ydynt yn teimlo sydd ei angen." Rhai sydd â mân anafiadau fel crafiadau, brathiadau, ysigiadau a thorri esgyrn yn gallu ymweld â'r Unedau Mân Anafiadau yn Ysbyty Cwm Rhondda ac Ysbyty Cwm Cynon. Mae cleifion sy'n ymweld â'r unedau yn gallu derbyn gofal ar gyfer y mathau hyn o anafiadau a bydd yn aml yn cael eu trin yn llawer cyflymach na phe baent yn mynychu A & E, gydag awr yw'r amser aros cyfartalog. Yn ogystal â aros llai o amser i gael ei drin, yn ymweld â'r unedau arbed amser teithio i gleifion, gan y gallai rhai sydd â mân anafiadau a mynychu adrannau damweiniau ac achosion brys yn dal i gael eu cyfeirio i'r Unedau Mân Anafiadau. Cheryl Davies, Prif Nyrs a Ymarferydd Nyrsio Brys yn Ysbyty Cwm Cynon, dywedodd: "Mae Uned Mân Anafiadau yn delio â digwyddiadau brys ond bygythiol heb bywyd megis aelodau'r corff torri, ysigiadau, straen, brathiadau dynol, cyrff estron yn eu llygaid, trwyn, clustiau. Mae'n cwmpasu llawer o agweddau ar ofal ac mae gennym lawer o gyfleusterau ar y safle. "Mae'r budd-dal yw diffyg amser aros. Ar ein diwrnod prysuraf ein amser aros yw tua awr tra mewn prif adran D & A gall fod yn bedair awr a mwy. " Mae'r oriau agor ar gyfer Unedau Mân Anafiadau yn: Ysbyty Cwm Rhondda, Llywnypia - 9am - 4:30pm, Llun - Gwener (ac eithrio Gwyliau Banc) ymân AnafiadauUned (MIU) a leolir yn YsbytyCwmRhondda yn gweithio ar sail y cyntaf ffôn. Mae hyn yn golygu bod angen i chi ffonio'r uned cyn mynychu. Y rhif ffôn yn Gyntaf ar gyfer yw 01443 444 075. Ysbyty Cwm Cynon, Aberpennar - 9am - 4:30pm, Llun - Gwener (ac eithrio Gwyliau Banc). Does dim angen trefnu yn Ysbyty Cwm Cynon. Am unrhyw wybodaeth bellach cysylltwch ag Uned Mân Anafiadau ar 01443 715 200. I gael mwy o wybodaeth am y Dewis Iach y gaeaf hwn, ewch i http://www.dewisdoethcymru.org.uk/hafan
Lledaenwch y Gwres Age Cymru
Beth yw Lledaenwch y Gwres? Lledaenwch y Gwres yw ymgyrch cenedlaethol Age Cymru i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch peryglon iechyd yn sgil tywydd oer a gostyngiad mewn tymheredd i bobl hŷn. Bob gaeaf, mae un person hŷn yn marw bob saith munud o’r oerfel. Er bod llawer ohonom yn edrych ymlaen at ddyfodiad a chyffro’r Nadolig, mae llawer o bobl yn poeni wrth i’r gaeaf agosáu. Gall y gaeaf fod yn arbennig o anodd i bobl hŷn sy’n byw yn ein cymunedau, yn arbennig y rheiny sydd wedi colli anwyliaid ar hyd y ffordd. Nod ein hymgyrch, o’r enw Lledaenwch y Gwres, yw helpu pobl hŷn i fyw’n fwy cyfforddus a diogel yn y cartref, yn ystod y gaeaf, ac i barhau i gysylltu ag eraill a bod yn rhan o’r hyn sydd yn digwydd yn eu cymuned. Rydym eisiau gwneud y gaeaf yn fwy na rhywbeth i’w ddioddef i bobl hŷn. Rydym eisiau i bobl hŷn wybod bod Age Cymru yma i’w helpu. Gan weithio gyda phartneriaid Age Cymru ar draws Cymru, rydym rydym yn cynnig gwasanaeth gwybodaeth a chyngor neilltuol a chyfrinachol, gwasanaeth Person da ei law, sgyrsiau a sesiynau ymwybyddiaeth, a gwasanaethau ymarferol fel ymweliadau â’r cartref a thorri ewinedd traed. Cysylltwch â llinell Gynghori Age Cymru ar 08000 223 444 i ganfod pa wasanaethau sydd ar gael yn eich ardal chi. Sut gallwch gymryd rhan yn Lledaenwch y Gwres Helpwch ni i gyrraedd miloedd o bobl hŷn sy’n byw yng Nghymru’r gaeaf hwn sydd angen ein cymorth i gadw’n gynnes, yn ddiogel ac mewn cysylltiad ag eraill. Lawrlwythwch a dangoswch bosteri yn eich llyfrgell leol, grŵp cymunedol neu ddigwyddiad arall ar thema’r gaeaf. Gyda’n gilydd, gallwn helpu pobl i deimlo’n gynnes, yn iach ac mewn cysylltiad ag eraill y gaeaf hwn. Mae mwy o wybodaeth ac adnoddau y gellir eu llwytho i lawr ar gael yma https://www.ageuk.org.uk/ cymru/health--wellbeing/spread-the-warmth/what-is-spread-the-warmth/
Nod Ymgyrch Sliperi ar gyfer y Nadolig yw Atal Pobl Hŷn Rhag Syrthio’r Gaeaf hwn Mae ymgyrch yn annog pobl i brynu sliperi newydd ar gyfer pobl hŷn, i leihau’r perygl o syrthio, wedi cael ei lansio. Nod ‘Sliperi ar gyfer y Nadolig’ Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, gyda chymorth yr elusen Age Connects Caerdydd a’r Fro, yw annog caredigrwydd y Nadolig hwn, tra’n codi ymwybyddiaeth am atal syrthio. Gyda rhyw 500 o bobl dros 65 oed yn mynychu Uned Achosion Brys Caerdydd a’r Fro bob mis am eu bod wedi syrthio, mae’n bwysig cofio y gellir atal syrthio ac nid yw’n rhan anochel o heneiddio. Hen sliperi sydd wedi treulio neu’n ffitio’n wael yw un o brif achosion syrthio ymysg pobl hŷn. Gall syrthio arwain at anaf, colli hyder ac aros yn yr ysbyty am amser hir, gan roi pwysau y gellir ei osgoi ar wasanaethau iechyd. Dywedodd Cheryl Williams, Prif Arbenigwr Hybu Iechyd yn nhîm Iechyd Caerdydd a’r Fro “Er bod unrhyw un mewn perygl o syrthio, mae’r siawns yn cynyddu ar ôl 65 oed. Fodd bynnag, mae ffyrdd y gallwch leihau’r risg, yn cynnwys gwisgo esgidiau priodol a gwella eich cryfder a’ch cydbwysedd i’ch gwneud yn llai tebygol o syrthio. “Y rhoddion gorau y gallwch eu rhoi y Nadolig hwn yw iechyd da ac annibyniaeth. Bydd sliperi newydd ar gyfer anwylyn neu gymydog nid yn unig yn helpu i osgoi syrthio, ond byddant yn eu cadw’n gynnes yn ystod y gaeaf hefyd.” Yn ogystal ag esgidiau priodol, anogir pobl i gofio’r tri phrif ffactor i atal syrthio: • Os ydych wedi syrthio o’r blaen, rydych yn fwy tebygol o syrthio eto. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth eich meddyg teulu os ydych wedi syrthio neu bron gwneud. • Gall yr amgylchedd yn eich cartref fod yn rhan o hyn. Gwnewch yn siŵr bod eich cartref yn rhydd rhag annibendod ac nad oes unrhyw geblau neu fatiau ar hyd y lle. Gall sefydliadau fel Gofal a Thrwsio asesu eich cartref am beryglon ac awgrymu addasiadau, fel rheiliau gafael neu oleuadau nos ar goridorau. • Gall gwella eich cryfder a’ch cydbwysedd helpu. Gallwch fynychu dosbarthiadau ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg. Dywedodd Nona Hexter o Siop Iechyd Hŷn Age Connects yn y Barri, lle cafodd yr ymgyrch ei lansio: "Yn anffodus, gwyddom y gall ofn syrthio, yn arbennig yn ystod y gaeaf, achosi llawer o bobl hŷn i golli hyder, a’u gwneud yn garcharorion yn eu cartref eu hunain. Gall palmentydd anwastad, rhewllyd a golau gwael eu hatal rhag mynd allan ar eu pen eu hunain. "Mae llawer o beryglon yn y cartref sydd yn gallu cyfrannu at syrthio. Mae sliperi ac esgidiau sydd yn ffitio’n dda yn gwneud gwahaniaeth mawr, felly beth am roi rhodd i berson hŷn sydd yn bwysig i chi y Nadolig hwn?" Mae Jean Driscoll, 79, wedi bod yn mynychu dosbarth cryfder a chydbwysedd ers cael llawdriniaeth i gael clun newydd. Mae’n cefnogi’r ymgyrch Sliperi ar gyfer y Nadolig. Dywedodd Jean, o Riwbeina yng Nghaerdydd: “Mae fy wyrion yn prynu sliperi newydd i mi ar gyfer y Nadolig am eu bod wedi blino dweud wrthyf am wisgo esgidiau da.” Wrth brynu sliperi newydd ar gyfer person hŷn, dylech sicrhau eu bod yn gaeëdig yn y cefn, nid yn agored, bod gafael da ar y gwadn, eu bod yn gallu cael eu cau ac nad oes sawdl iddynt. Gallwch gefnogi’r ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd gan ddefnyddio #slippersforchristmas.
Podlediad
Fe wnaethoch ofyn i ni am bodlediadau ac fe wnaethom wrando! Mae Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gweithio gyda nifer o sefydliadau i greu podlediadau y gellir eu llwytho i lawr a gwrando arnynt wrth fynd. Mae’r holl bodlediadau ar gael yn adran ‘Cymryd Rhan’ y wefan.
Cael Ei Holi Fis yma mae Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, dan sylw.
Ble ydych chi’n gweithio ar hyn o bryd a beth yw eich maes arbenigedd? Fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, fi yw llais annibynnol a hyrwyddwr pobl hŷn. Rwy’n sefyll drostynt ac yn siarad ar eu rhan ac yn cynnal cyrff cyhoeddus i ystyried ystod eang o faterion, yn cwmpasu popeth o iechyd a gofal cymdeithasol i faterion fel cyfleoedd cyflogaeth a hawliau pobl hŷn.
Mae’r e-fwletin fis yma’n rhoi sylw i Gadw’n Iach y Gaeaf Hwn. Beth yn eich barn chi yw’r prif heriau sy’n ein hwynebu wrth fynd i’r afael â materion yn ymwneud â hyn yng Nghymru? Mae’r heriau a ddaw yn y gaeaf, yn arbennig i bobl hŷn, yn hysbys iawn, ond maent yn dal i fodoli. Mae angen i ni felly osod targedau gwella clir i ni ein hunan, gan gryfhau ein negeseuon – yn uniongyrchol i bobl hŷn ac, yn bwysicach efallai, trwy gyfryngwyr dibynadwy sydd â chysylltiadau cadarn â’u cymunedau lleol yn barod – a sicrhau bod y cyngor ymarferol a’r gefnogaeth sydd ar gael nid yn unig yn cael ei ddefnyddio mwy, ond hefyd yn cael ei dargedu tuag at y rheiny sydd mewn mwy o berygl. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael mynediad i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn brydlon, tra’n cydnabod hefyd bod y peryglon y maent yn eu hwynebu weithiau’n cael eu gwaethygu gan yr arferion yn y sectorau hyn. Mae Amlgyffuriaeth, er enghraifft, yn chwarae rôl arwyddocaol o ran pobl hŷn yn syrthio. Yn yr un modd, gallai unigrwydd ac ynysu gael ei leihau gyda rhagnodi cymdeithasol, ond nid yw hyn yn cael ei ddefnyddio’n safonol o hyd.
Beth yw’r neges bwysicaf y dylid ei chyfleu i weithwyr proffesiynol a’r cyhoedd yn ymwneud â’r testun hwn? Gallai cymaint o’r canlyniadau negyddol y mae pobl hŷn yn eu profi gael eu hatal. Mae hyn yn dda iddyn nhw ac i gyllid cyhoeddus hefyd. Er mwyn cyflawni hyn, fodd bynnag, mae’n rhaid i’n harfer gorau fod yn arfer safonol, mae’n rhaid i integreiddio ar draws gwasanaethau fod yn norm ac mae’n rhaid bod mwy o gydnabyddiaeth gan wasanaethau cyhoeddus bod cymdeithas ehangach yn ased allweddol y dylid ei ddefnyddio’n fwy effeithiol i’w helpu i sicrhau bod pobl yn gallu cadw’n iach yn ystod misoedd y gaeaf.
Ydych chi’n credu y gallai Cymru fod yn gwneud mwy i wella ymwybyddiaeth? Ymwybyddiaeth yw’r man cychwyn, ond mewn gwirionedd mae’n ymwneud â gweithredu. Mae’n ymwneud â sicrhau bod risg yn cael ei leihau, bod gofal a chymorth priodol ar gael a bod rhai o brif benderfynyddion sylfaenol salwch yn ystod y gaeaf, fel tlodi a thai gwael, yn cael eu trin yn effeithiol.
Pe byddech yn cael 3 dymuniad beth fydden nhw? 1. Fel cenedl, ein bod yn herio’r syniad bod bregusrwydd a dirywiad yn rhan anochel o heneiddio. 2. Ein bod yn cydnabod pobl hŷn fel ased enfawr sy’n cyfrannu at ein bywydau mewn cymaint o ffyrdd a buddsoddi yn ein cenhedlaeth hŷn mewn ffordd sy’n eu galluogi i fod yn aelodau gweithredol a chyfranogol yn ein cymunedau a chymdeithas ehangach. 3. Ein bod yn cydnabod ei fod o fudd i bob un ohonom i wneud ein harfer gorau yn arfer safonol. Pan fyddwn yn hŷn, byddwn i gyd yn dymuno bod hyn yn wir.
Beth yw eich diddordebau/hobïau? Nid oes gennyf lawer o amser sbâr, ond pan fydd gennyf amser, rwy’n mwynhau hwylio, pobi a threulio amser gyda ffrindiau a theulu.
Pyncia Llosg Mae rhan hwn o’r e-fwletin wedi’i neilltuo i newyddion gan aelodau’r rhwydwaith. Cewch gyflwyno newyddion ynglyn a gwaith sy’n cael ei wneud yn eich ardal chi, ysgrifennwch erthygl ar ein cyfer, hyrwyddwch ddigwyddiad sydd i ddod neu broliwch am eich cyraeddiaddau! Os ydych chi’n dynuno cyflwyno erthygl ar gyfer yr adran Clecs anfonwch neges e-bost publichealth.network@wales.nhs.uk Ni ddylai’r erthygl gynnwys mwy na 500 o eiriau ac rydym yn croesawu lluniau bob amser!!
Helpwch Eich Sefydliad neu Gymuned i Feicio! Mae mynd allan ar y beic gyda phobl o’r un anian yn y gymuned leol neu’n gweithle wedi cael effaith gadarnhaol ar les meddwl a chorfforol miloedd o bobl ar hyd a lled Cymru. Gyda ffocws ar agwedd gymdeithasol beicio, diogelwch cynyddol beicio mewn grŵp ac ymagwedd nad yw’n gystadleuol tuag at fod allan ar y beic, nid yw’n syndod bod Beicio Cymdeithasol yn dod yn fwy poblogaidd ar hyd a lled y wlad. Fel corff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer beicio yng Nghymru, mae Beicio Cymru yn gweithio gyda Beicio Prydain a HSBC UK i roi cyfle i fwy o bobl yng Nghymru i feicio er mwyn gwella eu hiechyd a’u lles. Mae gennym ystod o weithdai ar gael trwy gydol 2018 y gellir eu mynychu’n rhad ac am ddim gan wirfoddolwyr neu staff sydd â diddordeb yn cynnal teithiau beicio ar gyfer eu sefydliadau neu gymunedau lleol. Bydd y gweithdai’n cynnwys pob elfen ar Feicio Cymdeithasol yn cynnwys; cynllunio taith, lleihau rhwystrau, hyrwyddo a newid ymddygiad, yr holl offer sydd eu hangen arnoch i gael eich sefydliad yn beicio! I ategu’r sesiynau hanner diwrnod hyn, mae gan Feicio Cymru’r adnoddau i hyfforddi nifer gyfyngedig o unigolion mewn Arweinyddiaeth Beicio er mwyn iddynt allu cynnal teithiau beicio ar gyfer aelodau o’r cyhoedd yn eu cymunedau lleol (Mae’r lleoedd yn gyfyngedig a chânt eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin). Gall beicio fod yn ffordd hwyliog a hygyrch o wella lles meddwl a chorfforol. Mae Beicio Cymru eisiau eich helpu i gefnogi’r rheiny yr ydych yn cysylltu â nhw trwy gynyddu cyfleoedd Beicio. I ganfod mwy am fynychu Gweithdy Beicio Cymdeithasol, gwneud cais i fynychu hyfforddiant arweinyddiaeth beicio neu i siarad mwy am gyfleoedd i weithio gyda Beicio Cymru, cysylltwch â sam.richards@WelshCycling.co.uk 07710024802, gallwn eich helpu i integreiddio beicio i’ch sefydliad neu gymuned.
Cyllid i redeg peilot presgripsiynu cymdeithasol ar gyfer iechyd meddwl a llesiant Rydym yn gwahodd ceisiadau oddi wrth gyrff Trydydd Sector cenedlaethol yng Nghymru am gyllid grant i gynnal cynllun peilot presgripsiynu cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar iechyd meddwl. Mae’r
broses
ymgeisio
wedi
agor.
Darllenwch
y
callawiau’n
llawn
cyn
llenwi’r
ffurflen
gais.
Mae presgripsiynu cymdeithasol yn disgrifio ffyrdd o gysylltu pobl â chymorth anfeddygol yn y gymuned. Nid oes unrhyw ddiffiniad penodedig, ac felly at ddibenion y grant rydym yn ystyried presgripsiynu cymdeithasol yn ddull o gysylltu pobl â gwasanaethau llesiant. Rydym yn disgwyl gwahodd ceisiadau: • sy’n seiliedig ar fodel gweithiwr cyswllt, ac yn derbyn atgyfeiriadau o amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys gofal sylfaenol • sy’n gweithredu mewn o leiaf ddwy ardal beilot neilltuol, gan gynnwys Cymoedd y De • sy’n cynnwys gwerthusiad annibynnol cadarn fel rhan o’r peilot • sy’n cael eu datblygu mewn cydweithrediad, er enghraifft, â gofal cymdeithasol neu bartneriaid eraill yn y trydydd sector. Rydym yn disgwyl i’r cyllid grant ddechrau o 1 Ebrill 2018. Nodiadau Canllaw ar Gyfer Gwneud Cais Ffurflen Gais
O’r fan honno i’r fan hon – Get The Boys a Lift - John Stacey Dechreuodd Get the Boys a Lift, a alwyd yn 'Get Gaz a Lift' yn flaenorol, ym mis Medi 2016 gyda’r nod o ddechrau un sgwrs fawr am Iechyd Meddwl a graddfa hunanladdiad ymysg pobl ifanc. Dechreuodd Gareth Owens, sydd bellach yn bennaeth Get the Boys a Lift, ar antur bodio i godi ymwybyddiaeth a chael pobl i siarad am iechyd meddwl yn seiliedig ar y ffaith nad oes rhaid i chi adnabod rhywun i godi eu calon. Yn lle dilyn y dorf a gofyn am gyfraniadau, dechreuodd Gareth ddylunio ac argraffu crysau t i’w gwerthu a chodi arian ac ymwybyddiaeth. Ar ôl dychwelyd adref o’r trip cychwynnol, penderfynwyd mai’r unig ffordd o wella’r syniad, a fu’n llwyddiant ysgubol yn cael pobl ifanc i siarad, yn ogystal â chodi swm mawr ar gyfer elusen wych, fyddai cynnwys mwy o bobl a’i ail-frandio fel Get the Boys a Lift, a dechrau gyda gwella dyluniadau’r crysau t a’r dillad, cynllunio taith arall, a datblygu gwefan yn galluogi’r dillad i gael eu gwerthu a helpu i ymestyn y syniad. Yn ystod y misoedd wedi hynny, fe wnaethom ni fel sefydliad ddatblygu tudalen ar y we www.gettheboysalift. co.uk a pharhau i werthu dillad ar-lein a dechrau trefnu taith arall. Ym mis Awst 2017, dechreuodd 4 dyn ifanc (Gareth Owens, Wilson Curtis, Noah Harvatt a Thomas Doyle), ar daith 700 milltir ar draws Cymru. Cawsant sylw mawr ar lwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol a chael bron 300,000 o ymweliadau mewn un wythnos yn unig ar Facebook a chodi bron £5,000 ar ôl costau cynhyrchu ar ddillad. Roedd Get the Boys a Lift wedi dechrau cael ei gydnabod ar-lein trwy bresenoldeb o’r fath. Ym mis Hydref 2017, fe wnaethom gyfarfod â’r grŵp Buddiannau Cymunedol, Value Independence, i drafod dod at ein gilydd a’r posibilrwydd o ddefnyddio gofod warws, gan nad oedd y sefydliad yn gallu cadw stoc o’r fath yn fflat waelod un o’r aelodau bellach. Mae Value Independence CIC yn sefydliad sydd wedi ei sefydlu sy’n rhoi cyfleoedd a phrofiadau i bobl leol ar draws Sir Benfro trwy weithgareddau amrywiol fel garddio yn y gymuned, datblygu sgiliau arlwyo, celf a chrefft, therapi cerddorol a chyfleoedd niferus eraill. Maent yn rhoi cyfle i bobl ddatblygu sgiliau o’r fath ar gyfer y rheiny nad ydynt yn barod i fynd allan i weithio, neu’r rheiny sydd allan o waith am resymau penodol, gan roi lle a syniad o berthyn iddynt. Awgrymwyd y gallai ein system bacio a phostio fod yn gyfle i rai aelodau o’r cynllun cyfeirio gymryd rhan ynddi. Gwnaeth hynny i ni feddwl, gyda digon o ddyfalbarhad, y byddem yn gallu cael ein lle ein hunain a darparu cyfle tebyg yn ein cymuned wedi ei ymgorffori yn ein syniad ni a’r weledigaeth o fod yn ddeniadol i bobl ifanc. Ar gyfer pobl ifanc, gall mynd at feddyg teulu, neu fynychu sesiwn gwnsela fod yn frawychus yn aml a chynnwys llawer o bryder. Yn aml, mae eistedd mewn ystafell aros, yng nghanol pobl sydd yn peswch, cyn gweld meddyg teulu, yr ydych yn aml yn ei adnabod y tu allan i’r feddygfa, gan fod Sir Benfro yn ardal mor fach, ymhell o fod yn ddeniadol i berson ifanc sydd yn aml ond eisiau cael sgwrs gyda rhywun, yn hytrach na chael cyffuriau ar bresgripsiwn i ddatrys mater dros dro. Ein gweledigaeth yw rhoi llwyfan i bobl ifanc symud i ffwrdd o’r hyn sydd bellach yn cael ei ystyried fel y norm. Gweledigaeth Prif nod Get the Boys a Lift yw rhoi rhywle i bobl siarad am eu meddyliau sydd yn gam i ffwrdd o’r mannau arferol fel meddygfa neu wasanaethau cwnsela sydd yn aml yn arwain at orbryder ac nid ydynt yn ddeniadol i bobl ifanc. Breuddwyd Get the Boys yw creu amgylchedd hygyrch sydd ag awyrgylch cynnes, croesawgar sydd yn galluogi pobl i alw heibio i drafod materion sy’n eu llethu tra’n galluogi pobl â gorffennol anodd i integreiddio’n ôl i gymdeithas trwy roi cyfle iddynt weithio a chael profiad gwaith gwerthfawr, yn wirfoddol neu â thâl. Yn y 5 mlynedd nesaf, mae Get the Boys a Lift yn breuddwydio am gael sefydliad hunangynhaliol sydd ag ardal lle gall y gymuned, yn arbennig ieuenctid yn y gymuned, eistedd, cael coffi a siarad â rhywun sydd wedi cael hyfforddiant iechyd meddwl. Y syniad yw ei fod mor syml, ond eto’n hawdd a chyfleus i bobl ifanc. Os hoffech ddod i gael coffi cyn y gwaith, gallwch wneud hynny. Os hoffech eistedd gyda gliniadur a gwneud rhywfaint o waith, gallwch wneud hynny, neu os hoffech wneud y ddau uchod a siarad â rhywun yn ymwneud ag iechyd meddwl, bydd rhywun wrth law er mwyn i chi allu gwneud hynny. Os bydd un person yn unig sydd yn teimlo’n unig yn teimlo y gallant gael budd o sefydliad sy’n darparu gwasanaeth o’r fath, mae hynny’n gadarnhaol. I gyd-fynd â hyn, rydym hefyd yn gweld dyfodol o ran cyd-gynhyrchu a chynnig ffyrdd i bobl ar bob llwyfan. Fel y nodwyd yn flaenorol, rydym ar hyn o bryd yn rhoi cyfle i bobl yn Value Independence
bacio a gweithio mewn amgylchedd diogel, gan eu galluogi i ddysgu sgiliau newydd a throsglwyddo’r rhain, gobeithio, i ddatblygu eu hunain fel rhan o’u cerrig milltir personol e u hunain. Blwyddyn 1 – yr hyn yr ydym wedi ei gyflawni hyd yn hyn - Medi 2016 - Medi 2017 • Rhoi £2,500 i PAPYRUS a MIND yn y drefn honno • Datblygu dilyniant ar y cyfryngau cymdeithasol trwy offer fel Facebook, Instagram a Snapchat • Parhau i weithio ar greu dillad fel crysau t a hwdis • Cyfweliad ar S4C i drafod y stigma’n ymwneud ag iechyd meddwl • Cyfweliad radio ar orsaf radio leol i hyrwyddo ein hachos. Ein Cynllun ar gyfer Blwyddyn 2 – Blwyddyn 5 - Hydref 2017 - Rhagfyr 2018 • Cyhoeddi cyfrifon ariannol ar y wefan i alluogi tryloywder cyfan gwbl o un flwyddyn i’r llall • Sefydlu Grŵp Llywio • Terfynu’r Cyfansoddiad Busnes • Cwblhau 2x ‘Sgwrs’ gyda’r grŵp llywio • Cynnal 4x trafodaeth grŵp ar draws y wlad • Trefnu gwasanaeth ‘clicio a chasglu’ mewn ardal leol i roi ffynhonnell i bobl siarad • Ceisio ehangu a datblygu ein hystod o gynnyrch • Cynyddu’r dilyniant ar y cyfryngau cymdeithasol i 10,000 o ddilynwyr • Cynyddu’r Elw Gros 20% • Datganiad i’r Wasg yn y papur lleol yn nodi ein nod • Rhoi cyfran o’r elw i achosion lleol o dan gyfarwyddyd y grŵp llywio Blwyddyn 3 - Ionawr 2019 - Rhagfyr 2019 • Dadansoddi cyfrifon busnes i nodi sefydlu gofod unigryw i weithredu • Dadansoddi’r cyfrifon a cheisio cynyddu proffidioldeb y cwmni • Argraffu’n fewnol a phrynu offer • Prynu nwyddau mewn sypiau • Dadansoddi’r dull cyflenwi • Mynd at y bwrdd iechyd lleol ac edrych ar feysydd ar gyfer atgyfeirio i gynorthwyo pobl leol • Ceisio cyflogi staff â thâl i gynorthwyo gyda gweithredu’r gofod • Datblygu staff â hyfforddiant Iechyd Meddwl penodol • Creu cynlluniau i gael ardal eistedd ac yfed i sefydlu amgylchedd ‘siop goffi’ • Datblygu’r Elw Gros 15% • 2x ddatganiad i’r wasg i godi ymwybyddiaeth • Cynnal prosiect newydd i godi ymwybyddiaeth am ein prif amcan Blwyddyn 4 - Ionawr 2020 - Rhagfyr 2020 • Rhoi cynlluniau ar waith i agor amgylchedd sy’n gyfeillgar i ddefnyddwyr • Ehangu’r gweithlu i weithredu gofod yr uned • Nodi buddsoddwyr posibl i ddatblygu gofod yr uned • Datblygu’r Elw Gros 15% unwaith eto a cheisio asesu cynaliadwyedd y sefydliad • Gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynorthwyo atgyfeiriadau posibl ar gyfer gwaith (â thâl a gwirfoddol • Datblygu cynllun atgyfeirio a rhaglen adsefydlu • Cyflwyno dadansoddiad chwarterol o ofod yr uned a rhoi’r manylion mewn cyfarfodydd chwarterol o’r grŵp llywio • Sefydlu trafodaethau mewnol rheolaidd yn ymwneud â stigma iechyd meddwl Blwyddyn 5 - Ionawr 2021 - Rhagfyr 2021 • Rhoi gofod ein huned/amgylchedd cyfeillgar i ddefnyddwyr ar waith • Cael tîm wedi ei sefydlu yn gweithio gyda ni yng ngofod yr uned/amgylchedd sy’n gyfeillgar i ddefnyddwyr • Datblygu’r Elw Gros 20% trwy ddatblygu gwerthiannau nwyddau • Parhau i ddatblygu strategaethau yn datblygu ein syniad, ynghyd â sicrhau cydgynhyrchu a bod ein gwasanaeth yn un y mae pobl yn teimlo sydd yn addas, y gallant ei ddefnyddio, ond parhau i gyfeirio pobl i wasanaethau gwych eraill a all fod yn fwy addas ar eu cyfer. For further information please contact: Gareth Owens getgazalift@gmail.com
DEUDDEG DYDD (CYNALIADWY) NADOLIG Ar ddydd 1af Nadolig fy nghariad rhoes i mi coeden i’w hailgylchu. https://blog.fantasticgardeners.co.uk/replant-reuse-recycle-your-christmas-tree/
Ar yr 2il ddydd o’r Nadolig fy nghariad rhoes i mi 2 berson unig a ….. https://communitychristmas.org.uk/
Ar y 3ydd dydd o’r Gwyliau fy nghariad rhoes i mi 3 glôb eira, 2 …… https://www.childrenssociety.org.uk/sites/default/files/tcs/snow_globes.pdf
Y 4ydd o’r dyddiau fy nghariad rhoes i mi, 4 ffôn symudol, 3 ………. https://www.oxfam.org.uk/donate/other-ways-to-donate/recycle-with-us
Ar y 5ed dydd o’r Dolig fy nghariad rhoes i mi 5 darn gwaith llaw, 4 … https://www.pinterest.co.uk/explore/recycled-christmas-cards/?lp=truem
Ar y 6ed dydd o’r Dolig fy nghariad rhoes i mi 6 addurn prydferth, 5 ………….. http://www.recycleforwales.org.uk/what-to-do-with/christmas-decorations-0
Ar y 7fed dydd o’r Dolig fy nghariad rhoes i mi 7 dalen lapio, 6 … http://greenwrap.yolasite.com/fun-alternatives-for-gift-wrap.php
Ar yr 8fed dydd o’r Dolig fy nghariad rhoes i mi 8 bin compostio, 7 …….. https://www.zerowasteweek.co.uk/compost-cooked-food/
Ar y 9fed o’r dyddiad fy nghariad rhoes i mi 9 tegan dros ben, 8 ……….. http://www.toys-to-you.co.uk/acatalog/ToyRecycling.html
Ar y 10fed o’r dyddiau fy nghariad rhoes i mi 10 dysgl twrci, 9 ……….. https://www.lovefoodhatewaste.com/search?search_api_views_fulltext=turkey
Ar yr 11eg fy nghariad rhoes i mi 11 o gracers, 10.. http://oakwoodagency.com/blog/december-2014/diychristmascrackers/
Ar 12fed dydd Nadolig fy nghariad rhoes i mi 12 syniad gwych, 11 ………… https://www.glashieburn.aberdeen.sch.uk/wp/wp-content/uploads/2016/10/Twelve_Days_of_Christmas-Low-Res-PDF.pdf
“GWNEWCH Y NEWID”
Cartrefi Iach Pobl Iach Gogledd Cymru (HHHPNW)* Trechu tlodi tanwydd, lleihau anghydraddoldebau iechyd y gellir eu hosgoi a gwella iechyd a lles pobl sy’n byw yn y sector rhentu preifat Rydym yn edrych ar ymateb mwy holistaidd i’r ystod lawn o beryglon yn y cartref ac yn defnyddio ymagwedd sy’n canolbwyntio ar y person i fynd i’r afael ag angen ac i wella iechyd a lles, trwy greu cartref i bawb sydd yn “ddiogel, yn gadarn, yn gynnes ac yn glud y gall pawb fyw, chwarae a thyfu ynddo”. Bydd yr ymweliadau’n edrych ar 4 maes, y Cartref a Diogelwch Personol, Cynyddu Incwm a Chymorth Personol/Teuluol, Cynhesrwydd Fforddiadwy a Chanlyniadau Iechyd a Lles. A all y ffordd newydd hon o weithio gynorthwyo eich cleientiaid, trigolion, ffrindiau, cydweithwyr neu denantiaid? 1. Ydych chi’n rhentu eich cartref oddi wrth landlord neu asiant? 2. A yw eich cartref yn effeithio ar eich iechyd chi neu iechyd eich teulu? 3. A yw eich cartref yn oer neu’n llaith? 4. Ydych chi’n cael anhawster i wresogi eich cartref? 5. Ydych chi mewn ôl-ddyledion ar eich rhent, eich morgais neu filiau tanwydd? Os ydych yn ateb ydw i 2 neu fwy o’r cwestiynau canlynol, yna gall Cartrefi Iach Pobl Iach helpu. Cyswllt Joanna Seymour Rheolwr Prosiect – Cartrefi Iach Pobl Iach Gogledd Cymru Rhaglen Hyrwyddwr Ynni Cymunedol Cymru Gynnes Ebost: Joanna.Seymour@warmwales.org.uk neu HealthyHomesHP@flintshire.gov.uk Neu ffoniwch: 07592503188 neu 01352 703440 am fwy o fanylion neu i wneud atgyfeiriad. Noder: *Cyflwyno cangen Gogledd Cymru o Raglen Hyrwyddwr Ynni Cymunedol Cymru Gynnes trwy ddod â grŵp o bobl fodlon ynghyd. Edrych ar gyflwyno Cartrefi Iach Pobl Iach ar draws Gogledd Cymru fel yr un sy’n cael ei gyflwyno yn Sir y Fflint, gan weithio yn Sir Ddinbych, Wrecsam, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn. Bydd Cartrefi Iach Pobl Iach Gogledd Cymru’n cael ei oruchwylio gan Reolwr Prosiect a bydd y gwaith yng Ngogledd Cymru’n gysylltiedig â’r gwaith sy’n cael ei gyflwyno yn Ne Cymru (Caerdydd) a’r De Orllewin (Cernyw) fel rhan o Raglen Hyrwyddwr Ynni Cymunedol sy’n cael ei gynnal gan Gymru Gynnes. Mae Cyngor Sir y Fflint hefyd wedi sicrhau cyllid ychwanegol i gynorthwyo’r cartrefi hynny sydd yn dioddef tlodi tanwydd ac sydd heb wres canolog.
Economeg Iechyd ar gyfer Ymarfer ac Ymchwil Iechyd Cyhoeddus CWRS BYR 2 DDIWRNOD YM MHRIFYSGOL BANGOR 19fed—21fed Mawrth 2018
Cyfanswm cost: £775 Pris yn cynnwys:
Prydau bwyd a llety o 4pm ddydd Llun 19fed Mawrth tan 1.30pm Ddydd Mercher 21fed Mawrth yn y Ganolfan Rheolaeth, Bangor (https://www.bangor.ac.uk/management_centre/index.php.cy)
Cyfarwyddwr y cwrs: Yr Athro Rhiannon Tudor Edwards, ynghyd â siaradwyr gwadd. Cofrestru’n cau 28 Chwefror 2018* Unrhyw gwestiwn, cysylltwch â : Mrs Ann Lawton Canolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau Prifysgol Bangor Neuadd Ardudwy Bangor. LL57 2PZ Ffôn: 01248 382153 E-bost: cheme@bangor.ac.uk Am ragor o wybodaeth: http://cheme.bangor.ac.uk/health-economics-course-16.php.cy *Tâl canslo o 10% cyn 28fed Chwefror 2018, 50% ar ôl y dyddiad hwn.
Chwaraeon a Fi_Y Sgwrs
Byddem yn hoffi gweld cymaint o bobl a sefydliadau â phosib yn cymryd rhan mewn sgwrs gyffrous i ddatblygu gweledigaeth newydd ar gyfer chwaraeon yng Nghymru. Cofiwch leisio eich barn ac ymuno yn y sgwrs Mae chwaraeon yn hwyl ac yn ein helpu ni i fod yn egnïol ac yn iach. Hefyd mae gan chwaraeon bŵer i uno ein cenedl ni gyda'i gilydd a gwella bywydau pobl a ffyniant Cymru.
Mae tua hanner y boblogaeth yn egnïol yn rheolaidd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae mwy a mwy o bobl wedi dewis bod yn egnïol - sy'n grêt. Ond hefyd mae'n rhaid i ni roi sylw i'r rhwystrau - gan gynnwys diffyg arian, amser a hyder - sy'n atal rhai pobl rhag bod yn egnïol drwy chwaraeon. Drwy gydweithio, byddwn yn canfod atebion newydd i rymuso pob cymuned i gymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd, yn unol â'r amcanion polisi sydd wedi'u hamlinellu yn Ffyniant i Bawb. Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth ac ystadegau fel rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru. Dyma pam rydyn ni'n dechrau sgwrs am ddyfodol chwaraeon yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth ac ystadegau ar gael yma http://www.sport.wales/amdanom-ni/am-chwaraeoncymru/chwaraeon-a-fi_y-sgwrs.aspx?lang=cy&
Crynodeb o’r Newyddion Croeso i’r Crynodeb o’r Newyddion! Cliciwch ar benawdau’r eitemau newyddion i fynd at y stori newyddion Iawn ar Wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Pobl Hŷn Unigrwydd ac ynysu yn ‘broblem sylweddol’ yng Nghymru
Unigrwydd ac ynysu yw rhai o’r problemau mwyaf sylweddol y mae pobl hŷn yn eu hwynebu, yn ôl grŵp o ACau.
Gweithgarwch Corfforol Air Pollution Cancels Out Health Benefits of Exercise
The cardiovascular benefits of a brisk walk along Oxford Street are cancelled out by exposure to air pollution for the over 60s, according to new research funded by the British Heart Foundation (BHF).
Cymunedau Materion Adsefydlu
Mae ymgyrch newydd Cymdeithas Siartredig y Ffisiotherapyddion (CSP) #RehabMatters yn amlygu pwysigrwydd adsefydlu cymunedol.
Bwydo ar y Fron Adnodd newydd sy’n bwydo ar y fron
Mae tîm Iechyd Cyhoeddus Betsi Cadwaladr mewn cydweithrediad â Cyswllt Conwy a Hawdd Ei Ddeall Cymru wedi datblygu adnodd ar-lein newydd i gefnogi mamau yn y gogledd i fwydo ar y fron.
Cliciwch yma am fwy o newyddion ar y wefan Cysyllt Iechyd y Cyhoedd Cymru
Ionawr
1 1 1 1 1 2 2
0 5 6 7 8 5 7
Iechyd Meddwl yn y Gweithle: Atal, Cefnogi a Deall yr Effaith Canol Llundain
Pobl Ifanc Ddigartref: Y cyfan rydw i eisiau yw To uwch fy Mhen Caerdydd
Cynhadledd Chwarae ac Iechyd y Cyhoedd Canolfan Fusnes Conwy, Cyffordd Llandudno
Lleihau Damweiniau mewn Lleoliadau Gofal Plant Blynyddoedd Cynnar Aberystwyth Cefnogi Gofalwyr Ifanc: Pwy sy’n Gofalu am y Gofalwyr Caerfyrddin Brwydro yn Erbyn Llygredd Aer yn Ewrop: Cynyddu Ymdrechion i greu Amgylchedd Iachach Gwesty Thon, Brwsel Symposiwm Meddygaeth Ymarfer Corff Cymru 2018 Canolfan yr Holl Genhedloedd, Caerdydd
Cliciwch yma am fwy o ddigwyddiadau ar y wefan Cyswllt Iechyd y Cyhoedd Cymru
Cysylltu â Ni Rhif 2 Capitol Quarter Llawr 5 Tyndall Stryd Caerdydd CF10 4BZ www.publichealthnetwork.cymru Os oes gennych unrhyw newyddion neu ddigwyddiadau i’w cyfrannu i’r rhifyn nesaf afonwch nhw at publichealth.network@wales.nhs.uk Dyddiad olaf ar gyfer eu cyflwyno yw’r trydydd dydd Gwener o bob mis.
Rhifyn Nesaf: Diwrnod Canser y Byd