Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru Efwletin Medi 2021

Page 6

Penawdau Gallai mabwysiadu cynllun incwm sylfaenol yng Nghymru wella iechyd i bawb Mae adroddiad a gyhoeddwyd yn Mehefin (2021) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu y gallai cyflwyno cynllun incwm sylfaenol yng Nghymru fod yn gatalydd ar gyfer gwell canlyniadau iechyd a llesiant i bawb. Mae'r syniad o incwm sylfaenol cyffredinol, math o nawdd cymdeithasol sydd â'r nod o ddarparu swm penodol o incwm rheolaidd i bawb, er enghraifft £500 y mis heb brawf modd, wedi bodoli ers canrifoedd ond heb gael ei weithredu'n llawn. Yn seiliedig ar dystiolaeth ryngwladol, nododd canfyddiadau allweddol gweithredu cynllun o'r fath effeithiau cadarnhaol posibl ar iechyd pobl, gan gynnwys: • Cynyddu diogelwch incwm: Pryderon ariannol yw un o'r sbardunau mwyaf cyffredin ar gyfer gorbryder ac iselder • Gostyngiadau mewn tlodi plant a gwelliannau mewn canlyniadau eraill yn ystod plentyndod: Mae ymchwil yn dangos bod plant yn gallu dysgu'n well yn yr ysgol pan fydd ganddynt ddigon i'w fwyta a bywyd teuluol sefydlog • Cyrhaeddiad addysgol gwell: Mae plant o gefndir ariannol diogel yn fwy tebygol o aros mewn addysg yn hwy neu ddychwelyd i addysg

• Arian ychwanegol i'r rhai sy'n fwy tebygol o fod mewn swyddi â chyflog is fel pobl anabl a menywod o ardaloedd difreintiedig, gan arwain at safon byw uwch • Mwy o ddiogelwch bwyd a gwell maeth • Gwelliannau i ansawdd tai ac opsiynau tai mwy fforddiadwy • Gostyngiad yn nifer y derbyniadau i'r ysbyty yn enwedig mewn perthynas â damweiniau, anafiadau a chyflyrau iechyd meddwl • Fodd bynnag, pan gafodd y cynlluniau eu hatal, lleihaodd yr effeithiau cadarnhaol ac mewn rhai achosion roedd llesiant wedi gwaethygu o'i gymharu â'r cyfnod cyn gweithredu'r cynllun. Mae’r adroddiad ‘Incwm sylfaenol i wella iechyd a llesiant y boblogaeth yng Nghymru?’ yn ystyried amrywiaeth o dystiolaeth ac yn trafod effeithiau posibl ar iechyd a llesiant. Mae hefyd yn edrych ar y dulliau gwahanol o gynllunio a gweithredu polisi yn rhyngwladol. Meddai awdur yr adroddiad Adam Jones, Uwch-swyddog Polisi ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Byddai pa mor dda y mae cynllun incwm sylfaenol yn gweithio yn sicr yn dibynnu ar sut y caiff ei gynllunio a'i ddarparu.

Read


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.