11 minute read

Penawdau

Next Article
Pynciau

Pynciau

Gallai mabwysiadu cynllun incwm sylfaenol yng Nghymru wella iechyd i bawb

Mae adroddiad a gyhoeddwyd yn Mehefin (2021) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu y gallai cyflwyno cynllun incwm sylfaenol yng Nghymru fod yn gatalydd ar gyfer gwell canlyniadau iechyd a llesiant i bawb.

Mae'r syniad o incwm sylfaenol cyffredinol, math o nawdd cymdeithasol sydd â'r nod o ddarparu swm penodol o incwm rheolaidd i bawb, er enghraifft £500 y mis heb brawf modd, wedi bodoli ers canrifoedd ond heb gael ei weithredu'n llawn.

Yn seiliedig ar dystiolaeth ryngwladol, nododd canfyddiadau allweddol gweithredu cynllun o'r fath effeithiau cadarnhaol posibl ar iechyd pobl, gan gynnwys:

• Cynyddu diogelwch incwm: Pryderon ariannol yw un o'r sbardunau mwyaf cyffredin ar gyfer gorbryder ac iselder • Gostyngiadau mewn tlodi plant a gwelliannau mewn canlyniadau eraill yn ystod plentyndod: Mae ymchwil yn dangos bod plant yn gallu dysgu'n well yn yr ysgol pan fydd ganddynt ddigon i'w fwyta a bywyd teuluol sefydlog • Cyrhaeddiad addysgol gwell: Mae plant o gefndir ariannol diogel yn fwy tebygol o aros mewn addysg yn hwy neu ddychwelyd i addysg • Arian ychwanegol i'r rhai sy'n fwy tebygol o fod mewn swyddi â chyflog is fel pobl anabl a menywod o ardaloedd difreintiedig, gan arwain at safon byw uwch • Mwy o ddiogelwch bwyd a gwell maeth • Gwelliannau i ansawdd tai ac opsiynau tai mwy fforddiadwy • Gostyngiad yn nifer y derbyniadau i'r ysbyty yn enwedig mewn perthynas â damweiniau, anafiadau a chyflyrau iechyd meddwl • Fodd bynnag, pan gafodd y cynlluniau eu hatal, lleihaodd yr effeithiau cadarnhaol ac mewn rhai achosion roedd llesiant wedi gwaethygu o'i gymharu â'r cyfnod cyn gweithredu'r cynllun.

Mae’r adroddiad ‘Incwm sylfaenol i wella iechyd a llesiant y boblogaeth yng Nghymru?’ yn ystyried amrywiaeth o dystiolaeth ac yn trafod effeithiau posibl ar iechyd a llesiant. Mae hefyd yn edrych ar y dulliau gwahanol o gynllunio a gweithredu polisi yn rhyngwladol.

Meddai awdur yr adroddiad Adam Jones, Uwch-swyddog Polisi ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Byddai pa mor dda y mae cynllun incwm sylfaenol yn gweithio yn sicr yn dibynnu ar sut y caiff ei gynllunio a'i ddarparu.

“Mae faint o incwm y mae'n ei ddarparu, pwy sy'n gymwys i gael yr incwm, a pha mor hir y mae'r cynllun wedi'i gynllunio i bara i gyd yn ffactorau hollbwysig wrth bennu canlyniadau.

“Mae diogelu a gwella iechyd Cymru wrth wraidd popeth a wnawn yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae tystiolaeth yn awgrymu y byddai aelodau o gymdeithas yn cael budd o incwm sy'n cefnogi eu hiechyd a'u llesiant ac yn eu galluogi i gyfrannu at gymdeithas a ffynnu.

“Mae math o incwm sylfaenol yn un o'r opsiynau y gall llywodraeth eu hystyried i gyflawni hyn. Mae’n gysyniad radical nad yw wedi'i fabwysiadu'n ffurfiol eto gan unrhyw wlad ond mae rhannau o Ganada a'r Ffindir wedi treialu cynlluniau, gyda gwahanol ddulliau, gyda'r ddau yn gweld effeithiau cadarnhaol ar iechyd a llesiant yn y boblogaeth. Roedd y rhain yn cynnwys pobl yn nodi gwell llesiant meddyliol, gyda gwell boddhad yn eu bywydau, a llai o straen meddyliol, iselder ac unigrwydd. Nododd y derbynwyr hefyd welliannau mewn diogelwch incwm, defnydd addysgol, a chyfranogiad cymunedol.

“Fodd bynnag, mae hyn yn seiliedig ar dystiolaeth gyfyngedig, ac mae llawer o feysydd lle nad oes fawr ddim newid mewn canlyniadau, os o gwbl. Mae incwm sylfaenol fel syniad ac fel cynnig mor amlweddog a chymhleth â'r materion y mae angen iddo fynd i'r afael â nhw.”

Mae'r adroddiad yn nodi opsiynau ar gyfer gwneuthurwyr polisi sy'n ystyried incwm sylfaenol, fel cynnal modelu economaidd, rhoi iechyd a llesiant fel nod craidd unrhyw gynllun, a chynnal astudiaethau dichonoldeb i ddeall sut y gellid cyflwyno incwm sylfaenol yng Nghymru.

Cyngor am Lesiant Ariannol gan Arian Cymru

Mae’r cyswllt rhwng arian ac iechyd meddwl a chorfforol wedi ei hen sefydlu. Gall pryderon ariannol wneud problemau iechyd presennol yn waeth neu achosi rhai newydd, gan arwain at bobl angen cymorth gyda materion iechyd ac arian. Beth yw llesiant ariannol?

Mae llesiant ariannol yn ymwneud â theimlo’n ddiogel ac mewn rheolaeth. Mae’n gwybod eich bod yn gallu talu’r biliau heddiw, yn gallu ymdrin â’r annisgwyl ac ar y llwybr cywir am ddyfodol sydd yn iach yn ariannol. Yn fras, teimlo’n hyderus ac wedi eich grymuso.

Sut gall pryderon ariannol effeithio ar iechyd

Os ydych yn wynebu problem iechyd, efallai mai arian yw’r peth olaf ar eich meddwl. Dylid ystyried iechyd ariannol yr un mor bwysig i lesiant corfforol ag iechyd corfforol a meddyliol. Dangosodd arolwg diweddar (Money and Mental Health Policy Institute, 2018) fod 18% o bobl â phroblemau iechyd mewn dyledion difrifol, y gellir ei ddisgrifio fel pobl sydd yn ystyried cadw i fyny gyda’u biliau rheolaidd a’u hymrwymiadau credyd yn “faich trwm”.

Ystadegau allweddol llesiant ariannol yng Nghymru

Cyn COVID-19, roedd heriau sylweddol yn ymwneud â llesiant ariannol yng Nghymru: • roedd 15.5% o oedolion yng Nghymru yn or-ddyledus – hynny yw, roeddent ynystyried cadw i fyny â biliau ac ymrwymiadau credyd yn faich trwm neu ar ei hôl hi gyda thaliadau mewn tri neu fwy o’r chwe mis blaenorol. • nid oedd 66% o oedolion yng Nghymru yn fodlon gyda’u hamgylchiadau ariannol cyffredinol. • roedd gan 27% o oedolion yng

Nghymru lai na £100 mewn cynilion a buddsoddiadau.

(Gwasanaeth Cyngor Ariannol ‘Wellbeing in Wales’, 2018)

Sut gall y GWASANAETH ARIAN A PHENSIYNAU helpu:

Rhwydweithiau Cymorth ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol: Efallai eich bod yn weithiwr rheng flaen sydd yn cynorthwyo pobl gyda materion ariannol fel rhan o’ch swydd, neu’n arweinydd mewn sefydliad sydd yn darparu canllawiau ariannol fel rhan o’i wasanaeth. Mae rhannu eich profiad gyda phobl eraill mewn swyddi gwahanol yn ffordd wych o ddysgu mwy am yr hyn sy’n gweithio a datblygu eich sgiliau. Mae Arian Cymru yn cefnogi rhwydwaith o ganllawiau ariannol, ymarferwyr ag adnoddau am ddim yn cynnwys gweminarau, gweithdai, cyfarfodydd a grwpiau trafod ar draws y DU. Awydd ymuno â’n cymuned? Ysgrifennwch atom a dilynwch @money_wales ar Twitter. Mae’r digwyddiad nesaf ym mis Hydref yn ymwneud â’r defnydd o ynni a chadernid mewn tywydd oer ac yn codi ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael i aelwydydd agored i niwed.

Wythnos Siarad am Arian Cael pobl i siarad am faterion ariannol: Bob mis Tachwedd mae Arian Cymru yn annog Cymru a’r DU i sôn am reoli arian – o arian poced i bensiynau – a dathlu’r gwaith a wneir gan filoedd o sefydliadau i ddatblygu llesiant ariannol ar draws y wlad. Eleni, cynhelir yr ymgyrch rhwng 8-12 Tachwedd 2021. Ein nod yw troi siarad am arian fel un o destunau lleiaf ffafriol Cymru yn rhywbeth cyffredin. Mae ein Pecyn Cyfranogiad yn llawn syniadau ac adnoddau i’ch helpu i gymryd rhan a chynnal eich gweithgareddau eich hun.

Mae MoneyHelper yma i wneud eich dewisiadau yn ymwneud ag arian a phensiwn yn gliriach. Gall unrhyw un ddefnyddio ein gwasanaeth ac rydym yn rhoi arweiniad dwyieithog ar draws ystod eang o faterion ariannol, i helpu pobl i reoli eu harian. Mae ein ffocws ar gefnogi pobl sydd yn gallu elwa fwyaf o’n cymorth neu sydd yn wynebu digwyddiadau arwyddocaol bywyd. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: Lee Phillips Lee.Phillips@maps.org.uk

Cynyddu Incwm: Sut mae Cyngor ar Bopeth yn mynd i’r afael â phroblemau sydd yn cyfrannu at iechyd a llesiant gwael

Bob blwyddyn mae miloedd o bobl yn cysylltu â Chyngor ar Bopeth ar draws Cymru am gymorth i ddatrys eu problemau. Rydym yn rhan bwysig o’r gymuned, gyda dealltwriaeth gredadwy, ddiweddar o anghenion lleol. Mae ein gwasanaeth wedi ei deilwra ar gyfer y bobl yr ydym yn eu cefnogi ac mae pobl sy’n ei ddefnyddio yn ymddiried ynddo. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau ar draws Cymru i wella cyngor ac yn eirioli newid. Mae Covid-19 wedi achosi heriau ariannol digynsail gyda llawer o bobl yn colli eu swyddi neu’n gweld gostyngiad yn eu hincwm, gan eu gadael yn cael anhawster yn cadw i fyny â chostau o ddydd i ddydd. Y bobl hynny y mae eu cyflogaeth wedi cael ei effeithio gan coronafeirws, aelwydydd â phlant a phobl anabl sydd fwyaf tebygol o fod wedi cael eu heffeithio.

Mae angen i bobl y mae eu hincwm wedi cael ei amharu gan yr achosion allu dibynnu ar y system fudd-daliadau fel rhwyd ddiogelwch. Fodd bynnag, gwyddom yn ystod yr argyfwng hwn – a chyn hynny hyd yn oed – nad yw nifer sylweddol o bobl yng Nghymru wedi hawlio’r holl fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Cyn y pandemig, canfuodd ymchwil gan Cyngor ar Bopeth Cymru fod dros chwarter (26%) y bobl yng Nghymru wedi oedi neu benderfynu peidio hawlio budd-dâl, er gwaethaf meddwl y

Amgyffrediad negyddol am fudd-daliadau ac amgyffrediad yn ymwneud â’r anhawster neu’r amser sydd yn gysylltiedig â gwneud cais yw’r prif resymau nad yw pobl yn hawlio budd-daliadau yng Nghymru. Canfu ein hymchwil hefyd fod pobl sydd yn cael anhawster yn dod o hyd i wybodaeth neu gwblhau ffurflenni ar-lein yn llawer mwy tebygol o oedi neu ohirio hawlio budd-dâl. Er bod y rhan fwyaf o fudd-daliadau’n cael eu gweinyddu gan Lywodraeth y DU, rydym wedi bod yn erioli am amser hir i Lywodraeth Cymru weithredu o fewn cwmpas eu pwerau i alluogi pobl yng Nghymru i hawlio’r holl gymorth y mae ganddynt hawl iddo. Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf ar chwe chynllun peilot cynyddu incwm, a weinyddir gan wasanaethau Cyngor ar Bopeth lleol gyda phartneriaid, yn targedu grwpiau penodol sydd mewn perygl o dlodi neu anfantais. Rydym hefyd wedi ffurfio partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru ar ymgyrch hysbysebu a ddyluniwyd i hysbysu ac annog pobl nad ydynt efallai yn hawlio’r hyn sy’n ddyledus iddynt i ganfod yr hyn y mae ganddynt hawl iddo.

Yn ystod y pandemig, mae nifer y cleientiaid y mae ein cynghorwyr wedi eu helpu i ‘gynyddu incwm’ wedi bod bedair gwaith y nifer yn yr un cyfnod y llynedd. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd cyngor ar hawl i fudd-daliadau – yn arbennig am y gallai hyd yn oed y rheiny sydd yn cael cymorth budd-daliadau ganfod nad ydynt yn cael digon i dalu eu costau. Canfu ymchwil Cyngor ar Bopeth a gyhoeddwyd y llynedd fod bron hanner (49%) y rheiny sydd yn derbyn budd-daliadau oed gweithio wedi cael anhawster yn talu costau hanfodol dros y 12 mis cyn hynny.

Mae ein cyngor yn gwneud gwahaniaeth mawr i iechyd a llesiant ein cleientiaid. Dywedodd dwy ran o dair (66%) o’r bobl eu bod yn teimlo dan lai o straen, llai o iselder neu lai o orbryder o ganlyniad i’r cymorth a gawsant gan Gyngor ar Bopeth, a dywedodd bron hanner (45%) fod eu hiechyd corfforol wedi gwella. Ond nid helpu’r unigolyn yn unig mae ein cyngor ni. Gwyddom fod incwm isel a dyled yn ffactorau allweddol mewn annhegwch iechyd. Trwy fynd i’r afael â ffactorau cymdeithasol ac economaidd trwy ein cyngor, gallwn arbed amser ac arian i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Gwyddom fod ein gwaith yng Nghymru yn arbed miliynau o bunnoedd bob blwyddyn i’r llywodraeth a’r gwasanaethau cyhoeddus, gyda £250 miliwn mewn arbedion i unigolion yn unig, a £44 miliwn pellach mewn arbedion cyllidol a £324 miliwn mewn arbedion cyhoeddus. Ebostiwch policy.cymru@citizensadvice. org.uk neu ewch i’r wefan citizensadvice. org.uk am fwy o wybodaeth.

Principality yn lansio hwb digidol i gynorthwyo darpariaeth addysg ariannol mewn ysgolion

Mae cymdeithas adeiladu fwyaf Cymru wedi lansio hwb addysg ariannol digidol i athrawon ledled Cymru i'w cynorthwyo wrth ddarparu sgiliau arian a chynilo o oedran ifanc.

Yn rhan o'i hymrwymiad parhaus i addysg ariannol i bobl ifanc, mae Cymdeithas Adeiladu Principality wedi lansio Hwb Athrawon Sgwad Safio Dylan. Nod y llwyfan digidol dwyieithog yw hyrwyddo agweddau cyfrifol at arian, gan gynnig adnoddau, cynlluniau gwersi a chymorth cwricwlwm i helpu athrawon i ddarparu addysg ariannol mewn ffordd ddiddorol llawn hwyl.

Lluniwyd yr adnoddau i ddisgyblion rhwng 5 ac 11 oed gan y Principality mewn

partneriaeth ag ymgynghorydd addysgol i gyd-fynd â chwricwlwm Donaldson, ac maent ar gael ar yr hwb. Gall athrawon yng Nghymru gael gafael ar yr adnoddau dwyieithog am ddim, a dewis rhwng cyflwyno'r rhaglen yn llawn neu ddewis gweithgareddau unigol ar wahân. I gael gwybod mwy, ewch i www.sgwadathrawondylan.cymru

Cyfoeth y Genedl: Cyflwr Ariannol Aelwydydd ar Draws y DU

Bob blwyddyn, mae CACI yn amcangyfrif incwm gros a gwariantaelwydydd ar draws y DU, ac mae’r data’n dangos dosbarthiad cyfartalog ac wedi ei fodelu o incwm aelwydydd a gwariant hanfodol ar gyfer yr 1.6 miliwn o godau post preswyl yn y DU.

Mae data eleni’n edrych ar gyflwr cyllid y genedl ac yn ymchwilio a yw Covid-19 wedi dylanwadu ar fwy o anghyfartaledd mewn incwm ac a yw’r effaith wedi bod yn unffurf ar draws y wlad.

Prif bwyntiau y mae adroddiad 2021 yn eu cynnwys: • Incwm cyfartalog aelwydydd yn y DU a sut mae wedi newid ers y llynedd • Sut olwg sydd ar ddosbarthiad cyfoeth y

DU? • Beth yw cyflwr annhegwch cyfoedd ar draws y DU? • Ble mae’r ardaloedd cyfoethocaf yn y

DU? • Ble mae’r ardaloedd tlotaf yn y DU? • Sut mae’r pandemig wedi effeithio ar adrannau gwahanol o gymdeithas?

Read more

This article is from: