Chwefror 2018
Croeso i’r e-fwletin Croeso i rifyn mis Chwefror o e-fwletin Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yr hyn sydd dan sylw fis yma yw ‘Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ‘. Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn cael ei ddathlu ar 8 Mawrth bob blwyddyn. Mae’n dathlu’r mudiad dros hawliau menywod. Ei nod yw dathlu cyflawniadau menywod, yn ogystal ag ysgogi newid yn ymwneud â chydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae wedi cael ei ddathlu ers dros 100 mlynedd a chaiff ei ddathlu bellach ar hyd a lled y byd. Mae llawer o adnoddau yn ymwneud â’n testun dewisol yng nghronfa ddata adnoddau’r Rhwydwaith. Mae ‘Sail Wybodaeth Brexit Iach’ bellach ar gael ar ein gwefan. Trwy hyn, mae Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn edrych ar Brexit trwy lens penderfynydd cymdeithasol yn bennaf, gyda’r nod o hysbysu ymarferwyr ynghylch yr hyn y gallai Brexit ei olygu i iechyd y boblogaeth yn ei ystyr ehangach. Cynhelir ein Seminar nesaf ‘Cyfraniad Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd’ ar 14 Mawrth 2018 yn Neuadd Brangwyn, Abertawe. Cynhelir ein cynhadledd flynyddol, Iechyd Rhywiol yng Nghymru ar gyfer y Genhedlaeth Bresennol a Chenedlaethau’r Dyfodol hefyd ar 22 Mawrth 2018 yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd, Caerdydd. Rydym wedi gwneud rhai apwyntiadau newydd i’r Grŵp Ymgynghorol sydd bellach yn golygu bod swyddi gwag ar y Grŵp Cyfeirio. Os hoffech chi ddod yn aelod o Grŵp Cyfeirio’r Rhwydwaith yna cysylltwch â ni drwy’r cyfeiriad e-bost isod. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw wybodaeth yr hoffech ei chynnwys ar y wefan neu’r e-fwletin yn publichealth.network@wales.nhs.uk
@PHNetworkcymru
/publichealthnetworkcymru
www.publichealthnetwork.cymru
#PwysoamGy
ynnydd
Diwrnod Rhyngwladol y Menywod Dan Sylw
Thema ymgyrch 2018 Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yw #PwysoamGynnydd. Gan fod canfyddiadau Adroddiad Bwlch Bydeang Rhwng y Rhywiau 2017 Fforwm Economaidd y Byd yn dweud wrthym fod tegwch rhwng y rhywiau dros 200 mlynedd i ffwrdd - ni fu erioed amser pwysicach i ysgogi a #PhwysoamGynnydd. Nid yw Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn benodol i wlad, grŵp na sefydliad. Mae’r diwrnod yn eiddo i bob grŵp ym mhobman. Felly gyda’n gilydd, beth am fod yn gadarn yn datblygu tegwch rhwng y rhywiau. Gyda’n gilydd, beth am Bwyso am Gynnydd. https://www.internationalwomensday.com/
Effaith Anghydraddoldeb Rhwng y Rhywiau ar Iechyd – EuroHealthNet
Mae gwahaniaethau yn seiliedig ar ryw o ran disgwyliad oes, blynyddoedd bywyd iach, ymddygiad iechyd, perygl o farwolaeth a morbidrwydd. Mae hyn yn rhannol oherwydd rolau dynion a menywod sy’n cael eu ffurfio’n gymdeithasol, a’r berthynas rhyngddynt. Mae’r normau hyn yn dylanwadu ar y cyflyrau iechyd y mae unigolion mewn perygl o’u cael, yn ogystal â mynediad i wasanaethau iechyd a’u hymgymeriad. Mae EuroHealthNet wedi archwilio effaith anghydraddoldebau rhwng y rhywiau ar iechyd a’r mentrau sydd eisoes ar y gweill i fynd i’r afael â’r anghyfartaledd mewn ‘Crynodeb Polisi’ – Making the Link: Gender Equality and Health. Mae menywod yn byw’n hwy na dynion ond yn treulio llai o flynyddoedd mewn iechyd da. Mae’r bylchau rhwng y rhywiau o ran cyflog a phensiynau, 16.3% a 38% yn y drefn honno, yn rhoi menywod hŷn yn arbennig mewn perygl o dlodi ac allgau cymdeithasol sydd yn creu rhwystrau i wasanaethau iechyd. Yn ogystal, mae gwrthdaro rhwng rolau’r rhywiau, cyfanswm baich gwaith, a gwaith di-dâl yn gallu cael effaith niweidiol ar lesiant ac iechyd hirdymor menywod. Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi lansio nifer o fentrau i geisio unioni’r anghydbwysedd rhwng y rhywiau a’i effeithiau, fel cynnwys cydraddoldeb rhwng y rhywiau ym Mhiler Hawliau Cymdeithasol Ewrop. Mae rhaglenni i fynd i’r afael ag achosion anghydraddoldeb wedi cael eu datblygu hefyd mewn Aelod-wladwriaethau. Yn y Crynodeb Polisi, mae EuroHealthNet yn dadlau dros ymagwedd holistaidd integredig tuag at hybu iechyd, mynediad i ofal iechyd, ac integreiddio i’r farchnad lafur yn seiliedig ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau; hybu grymuso pob menyw a merch trwy gyfranogiad llawn mewn cymdeithas a gwneud penderfyniadau; helpu rhieni i gyfuno gwaith â chyfrifoldebau rhieni; gweithredu effeithiol yn ymwneud â rhyw ym Mhiler Hawliau Cymdeithasol Ewrop; yn cynnwys mwy o ddangosyddion sy’n berthnasol i ryw ar y Sgorfwrdd Cymdeithasol; ac archwilio’r cysylltiadau rhwng Nodau Datblygu Cynaliadwy 3 (Iechyd a Llesiant Da) a 5 (Cydraddoldeb Rhwng y Rhywiau).
Prosiect SAFE Mae’r elusen genedlaethol Volunteering Matters wedi lansio prosiect newydd, gwych wedi ei anelu at fenywod ag anableddau dysgu ar hyd a lled Gwent. Bydd prosiect SAFE (‘Ymwybyddiaeth Rywiol i Bawb’) yn canolbwyntio ar gydberthynas priodol a gwella diogelwch personol ac iechyd rhywiol menywod ifanc (16 i 35 oed) ag anawsterau dysgu trwy weithdai wedi eu harwain gan gymheiriaid, a chymorth a thrwy gynhyrchu a dosbarthu deunyddiau SAFE. Mae ‘SAFE’ wedi cael ei ariannu gan gronfa Treth Tamponau am dair blynedd. Mae’r prosiect yn agored i unrhyw fenyw 16-35 oed, ond yn arbennig y rheiny ag anabledd dysgu – er bod gwirfoddolwyr SAFE yn fenywaidd, rydym yn cyflwyno gweithdai i grwpiau cymysg mewn Colegau, ysgolion a grwpiau Ieuenctid a Chymunedol. Mae gwirfoddolwyr SAFE yn helpu i greu gweithdai modern, hwyliog ac yn cefnogi sesiynau sy’n ymwneud â diogelwch personol, cydberthynas mwy diogel ac iechyd rhywiol, gan greu sesiynau rhyngweithiol, hwyliog i helpu menywod eraill sydd ag anabledd dysgu. Byddant yn cael gwybodaeth yn ymwneud ag iechyd rhywiol, ymwybyddiaeth o anabledd a diogelwch personol. Bydd y gwirfoddolwyr wedyn yn cyflwyno eu gweithdai eu hunain ar draws eu hardal leol. Mae’n gyfle rhagorol i gyfarfod pobl eraill, cael profiadau gwerthfawr a helpu menywod eraill i wneud dewisiadau bywyd cadarnhaol ac iach.
Os oes gennych gysylltiad â rhywun ag anableddau dysgu ac os oes ganddyn nhw neu eu rhiant/gofalwr broblem neu bryderon yn ymwneud â rhyw a chydberthynas ac angen cymorth, neu os ydych yn gwirfoddoli ar gyfer y prosiect, gallwch eu hatgyfeirio. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mandy.wilmot@volunteeringmatters.org.uk
S.A.F.E
(Sexual Awareness for Everyone) A healthy relationship could be…. When they trust you and are kind to
ONLINE SAFETY
you. They ae caring and also make you laugh. You feel safe and loved
Safe—remember not to give out personal information Meet—meeting someone you have only been in touch with online can be dangerous
Accept—never accept messages, emails etc from people you do not know Reliable—be aware that information shared online may not be the truth
Tell—if you feel uncomfortable online, tell a trusted adult “Always be SMART”
when in a healthy relationship.
The PANTS Rule The PANTS rule is a guide to help keep people safe from unwanted touch.
A unhealthy relationship could be…. When they don’t trust you, they tell you who you can be friends with and hit you. It also means that you
Privates are private
feel scared and unhappy.
Always remember your body belongs to you No means no! Tell someone
Volunteering Matters is a registered charity in England and Wales no. 291222 and in Scotland no. SC039171. Volunteering Matters is a company limited by guarantee no. 1435877.
Designed by—
If you would like more information about the S.A.F.E Project contact—
Janine, Joanne, Leanne,
Email-mandy.wilmot@volunteering
Connor, Ieuan, Sarah,
matters.org.uk
Naomi & Siobhan
Or call 01495 750 333/07548291897
Volunteering Matters is a registered charity in England and Wales no. 291222 and in Scotland no. SC039171. Volunteering Matters is a company limited by guarantee no. 1435877.
Are you a female aged 16-35? Do you live in the Gwent area? Would you like to develop your skills in Health & Social Care? If you have answered yes then please get in touch today. S.A.F.E is the project to help give you that start today!
Free travel around Gwent
CONTACT—
Mandy Wilmot – Volunteer Manager 1 Portland Buildings Commercial Street Pontypool, Torfaen, NP4 6JS Tel: 01495 750 333 Email: mandy.wilmot@volunteeringmatters.org.uk
Sgwad Ni’n Ceisio Cael Merched Cymru i Fod yn Heini ac yn Egnïol Chwaraeon Cymru’n annog eraill i gyfeirio merched tuag at yr adnodd Mae merched yng Nghymru’n cael eu hannog i fod yn fwy egnïol yn gorfforol gyda chefnogaeth ac arweiniad yn cael eu cynnig drwy fenter Sgwad Ni. Mae’r ymgyrch gan Chwaraeon Cymru, gyda’i byddin gadarn o Lysgenhadon ymroddedig a’i chlybiau cyfeillgar, yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i helpu merched i ddod o hyd i wahanol weithgareddau chwaraeon ac wedyn magu hyder i roi cynnig arnyn nhw. Wedi’i chreu’n benodol ar gyfer y rhai sy’n gwneud fawr ddim gweithgarwch corfforol, os o gwbl, mae’r ymgyrch yn cynnig cyngor defnyddiol ar gyfer dechrau arni a chynnal y cymhelliant, a hefyd yn tynnu sylw at y gwahanol gyfleoedd sydd ar gael ledled Cymru. Yn ystod ei 6 mis cyntaf mae wedi sicrhau dilyniant cadarn ar-lein o ferched sy’n cefnogi ac yn dathlu llwyddiannau ei gilydd. Sylfaenwyd Sgwad yn cymryd rhan
Ni gan fod ymchwil mewn chwaraeon a
yn dangos bod llai o hamdden gorfforol na’u
ferched a genethod cyfoedion gwrywaidd.
Ar hyn o bryd, mae 576,000 o ferched yng Nghymru’n dweud nad ydynt yn cymryd rhan mewn unrhyw fath o weithgarwch, tra bo mwy na hanner (54%) y merched yn dweud eu bod wedi gwneud o leiaf un gweithgaredd yn ystod y pedair wythnos diwethaf o gymharu â 63% o ddynion.
Mae’r ymchwil yn dangos bod: • diffyg hyder • ofn beirniadaeth • anallu ymddangosiadol • neb yn gwmni i fynd i rywbeth newydd yn ffactorau cyffredin sy’n atal merched a genethod rhag bod yn fwy egnïol. Mae’r tîm tu ôl i Sgwad Ni’n annog cymaint o gyrff â phosib i gyfeirio merched (y rhai sydd ofn y gampfa a’r athletwyr proffesiynol fel ei gilydd) i gymryd rhan yn yr ymgyrch, yn y gobaith y bydd y rhwydwaith cefnogi’n tyfu ac y bydd mwy’n gallu dechrau elwa o fanteision ffordd o fyw sy’n fwy egnïol.
Dywedodd Claire Barlow, o’r tîm tu ôl i Sgwad Ni: “Does dim digon o ferched yng Nghymru’n byw bywydau digon egnïol ac mae’n rhaid i hynny newid. Rydyn ni’n gwybod oddi wrth ymchwil mai diffyg hyder a chefnogaeth yw un o’r rhwystrau mwyaf i lawer ohonom ni ei oresgyn.
“Nod Sgwad Ni yw cynnig cymuned ddiogel lle gall merched gynnig anogaeth i’w gilydd a hefyd rhannu cyngor ar bethau fel dod o hyd i amser i ymarfer ochr yn ochr â bywyd bob dydd. “Rydyn ni angen cymaint o bobl â phosib i gyfeirio merched tuag at yr ymgyrch, fel eu bod nhw’n gallu elwa o’r adnodd sydd gennym ni, ond hefyd i’n helpu ni i dyfu ein cymuned. Rydyn ni’n gwybod wedi’r cwbl bod merched yn fwy tebygol o ddal ati i fod yn egnïol drwy gael cefnogaeth ffrindiau; mae ein cymuned ar-lein ni’n ceisio darparu’r swyddogaeth yma.” I gael gwybod mwy am yr ymgyrch, ewch i www.oursquad.wales neu chwiliwch amdani ar twitter: @oursquadcymru, Instagram: oursquadcymru neu facebook: @oursgwadcymru I gysylltu â’r tîm tu ôl i’r ymgyrch, anfonwch e-bost i oursquad@sport.wales
Diwrnod Rhyngwladol y Menywod Dr Lowri Thomas, Gwyddonydd wedi ei Hariannu gan Sefydliad Prydeinig y Galon ym Mhrifysgol Abertawe Mae Dr Lowri Thomas, gwyddonydd ymchwil wedi ei hariannu gan Sefydliad Prydeinig y Galon ym Mhrifysgol Abertawe, yn gobeithio canfod yr hyn sydd yn rheoli’r ffordd y mae celloedd cyhyrau’r galon yn cyfangu. Mae’n sôn am yr hyn sy’n ei hysbrydoli ac yn rhoi cyngor i unrhyw un â diddordeb mewn gyrfa ym maes gwyddoniaeth. Mae Dr Thomas, sydd yn 38 oed ac o Cross Hands, yn byw yng Nghaerdydd ac mae’n rhan o dîm ym Mhrifysgol Abertawe sy’n astudio’r prosesau sy’n rheoli’r ffordd y mae celloedd cyhyrau’r galon yn cyfangu yn ystod pob curiad calon a’r hyn sy’n mynd o’i le yn rhythmau annormal y galon. Er mwyn i gelloedd cyhyrau’r galon gyfangu, mae’n rhaid i galsiwm gael ei ryddhau’n gyflym o storfa fewnol yn y gell. Caiff y calsiwm hwn ei ryddhau trwy lawer o sianeli protein o’r enw derbynyddion RyR2. Mae rhai gwyddonwyr yn credu bod y sianeli hyn yn cysylltu mewn grŵp ac yn agor a chau ar y cyd, gan alluogi pob cyfangiad i ddigwydd mewn ffordd gyflym a threfnus, ac os nad yw hyn yn digwydd, gall arwain at rythm annormal y galon. Esbonia Dr Thomas: “Rwy’n gweithio ar glefyd o’r enw CPVT, cyflwr genetig sy’n amharu ar rythm y galon. Ceir diagnosis ohono mewn pobl ifanc neu blant yn bennaf. Mae’r symptomau cyffredin yn cynnwys llewygu, crychguriadau a phenysgafnder, ond gall arwain at farwolaeth gardiaidd sydyn yn sgil gweithgaredd corfforol dwys neu emosiynau dwys. “Rydym yn defnyddio techneg arbrofol newydd i ddangos a mesur cerrynt ar y cyd trwy sianeli RyR2, i weld a ydynt gerllaw ei gilydd ac a yw sianeli sydd yn agos at ei gilydd yn agor ac yn cau ar yr un pryd. Byddwn wedyn yn profi’r hyn allai ddylanwadu ar yr agor a’r cau hyn ar y cyd i weld pa rai sydd yn bwysig yn creu afreoleidd-dra. Bydd y gwaith ymchwil hwn yn rhoi goleuni ar y ffordd y mae sianeli RyR2 yn agor ac yn cau, ac a ydynt yn gysylltiedig â rhythmau annormal y galon. “Nid yw fy nghymhelliant dros weithio ym maes ymchwil yn syml ac mae wedi newid dros y blynyddoedd. Rwy’n credu mai chwilfrydedd ydoedd i ddechrau, rwyf bob amser wedi cael pleser wrth ddatrys problemau a dechreuodd fy chwilfrydedd gyda gwyddoniaeth yn yr ysgol pan oeddwn yn ddigon ffodus o gael athrawon oedd yn fy ysbrydoli, felly nid oedd byth yn faich i mi astudio. Astudiais Eneteg ym Mhrifysgol Caerdydd a gwneud PhD yn yr ysgol feddygaeth yno. “Rwyf wedi dysgu, er mwyn bod yn ymchwilydd llwyddiannus, bod yn rhaid i chi gael ymagwedd eofn tuag at sicrhau cyllid ar gyfer prosiectau. Rwy’n credu mai fy eiliad ddewraf oedd ysgrifennu fy ngrant cyntaf, am fod yn rhaid i mi wynebu’r posibilrwydd real iawn o gael fy ngwrthod ac roedd yn rhaid i mi herio fy hun i gredu bod fy syniadau yn ddigon da i gael cyllid ac i bobl weithio arnynt. Roeddwn yn llwyddiannus y tro cyntaf hwnnw ac mae hyn wedi arwain at fwy o gyllid, yn cynnwys prosiectau BHF yr wyf yn gweithio arnynt nawr. “Mae diben ehangach yr hyn yr wyf yn ceisio ei gyflawni yn rhan o fy nghymhelliant hefyd. Roedd methiant y galon difrifol ar fy nhad erbyn iddo farw, a dyma un o brif achosion marwolaeth yng Nghymru. Mae ymchwil yn broses hir sydd yn datblygu o hyd. Rwy’n defnyddio canfyddiadau ymchwilwyr ddeng mlynedd yn ôl i lywio’r ffordd yr wyf yn meddwl y mae prosesau clefydau yn digwydd ac rwy’n gobeithio y bydd rhywun arall yn defnyddio fy ngwaith yn yr un ffordd i ddatblygu rhywbeth ystyrlon.” Yn ogystal â gweithio ar brosiectau yn Abertawe a Chaerdydd, mae Dr Thomas yn gweithio ar brosiect mewn cydweithrediad ag Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Caerdydd. Mae hefyd yn goruchwylio myfyrwyr PhD hyd at gwblhau ac mae’n addysgu israddedigion ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n gorffen:” Rwyf wrth fy modd yn dysgu ac yn addysgu, ac mae’r swydd hon yn rhoi cyfle i mi wneud y ddau. Mae hefyd o gymorth bod gan rywun arall ffydd yn fy syniadau. Mae fy mhennaeth, yr Athro Alan Williams, yn gefnogol iawn ac mae hyn yn rhoi hyder i mi. Mae’r ffaith fod gan rywun ychydig o ffydd ynddoch chi yn golygu llawer iawn.”
Busnes Pawb Canolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd
Busnes Pawb yw ymgyrch y Gynghrair Iechyd Meddwl Mamau sy’n galw i bob menyw ar draws y DU sy’n profi problemau iechyd meddwl mamau dderbyn y gofal sydd ei angen arnynt hwy a’u teuluoedd, lle bynnag a phryd bynnag y mae ei angen arnynt. Beth yw iechyd meddwl amenedigol? Mae iechyd meddwl amenedigol yn cyfeirio at iechyd meddwl menyw yn ystod beichiogrwydd a’r flwyddyn gyntaf ar ôl yr enedigaeth. Mae hyn yn cynnwys salwch meddwl a oedd yn bodoli cyn beichiogrwydd, yn ogystal â salwch sy’n datblygu am y tro cyntaf, neu sy’n gwaethygu’n fawr yn y cyfnod amenedigol. Gallai enghreifftiau o salwch meddwl amenedigol gynnwys iselder cynenedigol/ôl-enedigol, gorbryder, OCD amenedigol, seicosis ôl-enedigol ac anhwylder straen wedi trawma. Gall y mathau hyn o salwch fod yn ysgafn, yn gymedrol neu’n ddifrifol, ac yn galw am wahanol fathau o ofal neu driniaeth. Yr angen am wasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol yng Nghymru Mae angen cefnogaeth gwasanaethau arbenigol ar fenywod â phroblemau iechyd meddwl amenedigol. Mae’n bosibl darparu’r rhain yn y gymuned drwy dîm o staff sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig a thrwy Uned Mamau a Babanod, lle bydd mam a’i baban yn aros gyda’i gilydd ac yn derbyn y driniaeth a’r cymorth sydd ei angen arnynt. Yng Nghymru, yn ogystal ag yng ngweddill y DU, nid yw gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol digonol yn cael eu darparu’n gyfartal ar draws y DU. Canlyniad hyn yw bylchau mewn darpariaeth gwasanaeth a menywod nad ydynt yn derbyn gofal hollbwysig. Er bod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i sefydlu gwasanaethau cymunedol ar draws y saith ardal bwrdd iechyd, mae cam datblygiad y gwasanaethau hyn yn wahanol sy’n golygu bod argaeledd y gofal hwn yn ddibynnol o hyd ar lle mae menywod yn byw. Nid oes Uned Mamau a Babanod arbenigol ychwaith yng Nghymru, felly mae menywod sydd angen gofal fel cleifion mewnol yn gorfod teithio dros y ffin neu dderbyn triniaeth mewn uned seiciatryddol oedolion, heb eu baban. Cafodd y bylchau hyn eu hamlygu yn ddiweddar yn dilyn ymchwiliad i iechyd meddwl amenedigol a gynhaliwyd gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cymru. Cyflwynodd y Pwyllgor gyfres o argymhellion, gan gynnwys sefydlu rhwydwaith clinigol wedi’i reoli yng Nghymru a darparu Uned Mamau a Babanod. Ymatebodd Dr Alain Gregoire, cadeirydd y Gynghrair Iechyd Meddwl Mamau i’r adroddiad, gan bwysleisio’r argymhellion yr ydym ni’n credu y dylid mynd i’r afael â hwy ar frys: 1. Sefydlu rhwydwaith clinigol wedi’i reoli 2. Sicrhau cyllid pellach er mwyn mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb yn y gofal sydd ar gael rhwng byrddau iechyd 3. Darparu Uned Mamau a Babanod 4. Hyfforddi pob gweithiwr proffesiynol sy’n gofalu am fenywod yn y cyfnod amenedigol, gan gynnwys recriwtio bydwragedd ac ymwelwyr iechyd arbenigol Ers hyn, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymateb i’r argymhellion, gan dderbyn nifer ohonynt mewn egwyddor.
Mae hyn yn gam ymlaen enfawr ac edrychwn ymlaen at weld yr argymhellion hyn yn cael eu gweithredu, fodd bynnag, mae gwaith i’w wneud o hyd i #troi’rmapynwyrdd/#turnthemapgreen yng Nghymru.
Ffeithiau ac ystadegau allweddol 1. Mae mwy na 1 o bob 10 o fenywod yn datblygu salwch meddwl yn ystod eu beichiogrwydd neu o fewn y flwyddyn gyntaf ar ôl cael babi1 2. Bydd 7 o bob 10 o fenywod yn cuddio neu’n bychanu difrifoldeb eu salwch meddwl amenedigol2 3. Hunanladdiad yw un o brif achosion marwolaeth i fenywod yn ystod beichiogrwydd ac un flwyddyn ar ôl genedigaeth y babi3 4. Heb eu trin gall salwch meddwl amenedigol gael effaith ddinistriol ar y menywod sydd wedi’u heffeithio a’u teuluoedd4 5. Yn y DU, nid yw salwch meddwl ymhlith menywod beichiog ac ôl-enedigol yn aml yn derbyn cydnabyddiaeth, diagnosis na thriniaeth5 Prevention in Mind, 2013 ac Adroddiad Economaidd y Ganolfan Iechyd Meddwl/LSE 2014 Boots Family Trust 2013 3 Confidential Enquiries into Maternal Death, MBRRACE ac Adroddiad Economaidd y Ganolfan Iechyd Meddwl/LSE 2014 4 Adroddiad Economaidd y Ganolfan Iechyd Meddwl /LSE 2014 5 Adroddiad Economaidd y Ganolfan Iechyd Meddwl/LSE 2014 1 2
Podlediad
Fe wnaethoch ofyn i ni am bodlediadau ac fe wnaethom wrando! Mae Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gweithio gyda nifer o sefydliadau i greu podlediadau y gellir eu llwytho i lawr a gwrando arnynt wrth fynd. Mae’r holl bodlediadau ar gael yn adran ‘Cymryd Rhan’ y wefan.
Cael Ei Holi Fis yma, mae Dr Gill Richardson, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Polisi, Ymchwil a Rhyngwladol Datblygu yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, dan sylw.
Ble ydych chi’n gweithio ar hyn o bryd a beth yw eich maes arbenigedd? Rwy’n gweithio yn Capital Quarter ac mae gennyf rôl arwain yn ymwneud â Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches. Fi yw Cadeirydd grŵp gweithredu’r Siarter Iechyd Rhyngwladol, ac rwy’n cefnogi sawl maes Ymchwil Polisi a Datblygu Rhyngwladol (PRID) a gwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys Rhaglen Trawsnewid yr Heddlu, Integreiddio Cynllunio Iechyd yr Amgylchedd ac Asesu’r Effaith ar Iechyd, Canolfan Gydweithredol WHO, a Hyb cymorth ACE CWW. Rwyf hefyd yn cefnogi Mark Bellis, ein Cyfarwyddwr a Tracy Black, ein Rheolwr Busnes gyda chyfrifoldebau Cynllunio ac Uwch Reolaeth.
Fis yma, mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod dan sylw yn yr e-fwletin. Beth yn eich barn chi yw’r prif heriau sy’n ein hwynebu wrth fynd i’r afael â’r mater yma yng Nghymru? Mae camau mawr wedi cael eu gwneud, ond mae menywod yn dal i gael eu tangynrychioli ar lefel uwch mewn rhai meysydd fel Gwleidyddiaeth a Diwydiant, ac mae gwahaniaethau o hyd mewn cyflog mewn rhai swyddi ac mae hyn wedi bod yn destun gwrthdaro yn y cyfryngau yn ddiweddar. Mae hyn yn arbennig o arwyddocaol os oes unrhyw nodweddion arbennig eraill sydd yn gwneud dod o hyd i waith da yn anodd. Efallai mai’r rhwystr arwyddocaol mwyaf yw bod gan fenywod ifanc lai o hyder a hunan-gred i roi cynnig ar rai proffesiynau, er bod rhaglenni ysgolion gan gyrff fel Sefydliad y Peirianwyr Sifil wedi helpu pobl ifanc o’r ddau ryw i weld y cyfleoedd sy’n agored iddynt. Mae trais domestig a masnachu mewn unigolion waeth beth fo’u rhyw yn peri pryder mawr hefyd.
Beth yw’r materion pwysicaf sy’n wynebu iechyd y cyhoedd o ran y testun hwn? Rwy’n credu bod yr angen am addysg a llais i fenywod ar draws y byd mewn materion etholaethol a barnwrol yn flaenoriaeth, i fenywod eu hunain ac am fod iechyd plant yn cyd-fynd yn agos â statws addysgol menywod, a’r hawliau sydd ganddynt yn ymwneud â rhyddid, cyflogaeth, llesiant a darpariaeth ariannol er enghraifft os ydynt wedi cael ysgariad unochrog neu wedi cael eu gadael.
Ydych chi’n credu y gallai Cymru fod yn gwneud mwy i wella ymwybyddiaeth ynghylch hawliau menywod? Rwy’n credu bod hawliau pawb yr un mor bwysig, yn cynnwys menywod, ond hefyd y rheiny o unrhyw ryw sydd â phroblemau synhwyraidd, corfforol neu iechyd meddwl, anawsterau dysgu, diffyg sgiliau iaith neu lywio diwylliannol, neu’n byw mewn sefyllfaoedd o dlodi. Mae’r rheiny sydd wedi cael profiadau niweidiol lluosog o’r ddau ryw yn profi canlyniadau iechyd gwaeth ac felly mae hawliau’r rheiny sydd wedi profi trawma – yn cynnwys plant sydd bellach yn derbyn gofal gan yr Awdurdodau Lleol, y di-gartref a’r rheiny sydd wedi eu hallgau yn gymdeithasol, i gyd yn feysydd y gallai Cymru wella arnynt. Mae’r mudiad Cenedl Noddfa yn cwmpasu llawer o’r cysyniadau hyn.
Pe byddech yn cael 3 dymuniad, beth fyddent? 1. Ein bod yn cyflawni’r nodau Datblygu Cynaliadwy rhyngwladol 2. Ein bod yn cyflawni Datganiad Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig yn fyd-eang 3. Ein bod yn helpu i greu amodau lle mae pob person yng Nghymru’n cyflawni eu llawn botensial
Beth yw eich diddordebau personol/hobïau? 1. 2. 3.
Canu, a gwrando ar gerddoriaeth o Broadway i Beethoven a phob band Roc yn y canol. Beicio, cerdded a dawnsio pan mae amser (a’r tywydd)! yn caniatáu Dysgu ieithoedd a theithio, yn arbennig i fannau â ‘hanes’ er mwyn archwilio.
Pyncia Llosg Mae rhan hwn o’r e-fwletin wedi’i neilltuo i newyddion gan aelodau’r rhwydwaith. Cewch gyflwyno newyddion ynglyn a gwaith sy’n cael ei wneud yn eich ardal chi, ysgrifennwch erthygl ar ein cyfer, hyrwyddwch ddigwyddiad sydd i ddod neu broliwch am eich cyraeddiaddau! Os ydych chi’n dynuno cyflwyno erthygl ar gyfer yr adran Clecs anfonwch neges e-bost publichealth.network@wales.nhs.uk Ni ddylai’r erthygl gynnwys mwy na 500 o eiriau ac rydym yn croesawu lluniau bob amser!!
Cymunedau Tosturiol yn Sir Benfro
Beth yw Cymuned Dosturiol? Mae Cymuned Dosturiol yn gymuned sydd yn gyfforddus yn siarad am heneiddio, salwch, marw a phrofedigaeth ac mae’n ymagwedd tuag at ofal diwedd oes sydd yn datblygu cymuned. Mae’n cynnwys dinasyddion yn uniongyrchol wrth gynllunio ar gyfer eu gofal diwedd oes eu hunain ac yn eu cefnogi i fynd i’r afael â’u pryderon a chanfod eu hatebion eu hunain tuag at fyw a marw’n dda. Gall y broses newid amgylcheddau cymdeithasol, diwylliannau, ymddygiad ac agweddau tuag at brofiadau diwedd oes a’r potensial i leihau pwysau ar wasanaethau Iechyd Statudol a gwasanaethau cymdeithasol a chymorth 3ydd sector sydd o dan bwysau gyda dinasyddion sydd yn wybodus ac yn gallu cefnogi ei gilydd i feddwl ynghylch, siarad am ac ysgrifennu eu cynlluniau gofal i’r dyfodol i lawr ar gyfer diwedd oes a phrofedigaeth. Yn gyffredinol, mae cynllunio ar gyfer ein hanghenion gofal i’r dyfodol yn cynnwys siarad am farwolaeth, marw, gofalu a galar ac nid yw’n destun y mae’r boblogaeth yn gyffredinol yn ymdrin ag ef yn dda iawn. Yn ogystal, ceir diffyg cymorth wedi ei hwyluso i alluogi unigolion, teuluoedd a grwpiau i siarad am y materion hyn gyda’i gilydd ac i gymryd rheolaeth, cyfrifoldeb a chreu ein cynlluniau gofal iechyd ein hunain yn y dyfodol. Pan fod angen rhaglen o weithgareddau? • Mae marwolaeth, marw, colled a gofal yn effeithio ar bawb • Mae’r rhan fwyaf o bobl sydd yn byw ac, yn y pen draw, yn marw yn sgil salwch datblygedig sy’n cyfyngu bywyd, yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser gartref yn derbyn gofal a chymorth gan aelodau o’r teulu, ffrindiau a chymdogion (Cymunedol) • Mae llawer o bobl yn teimlo nad ydynt wedi paratoi pan fyddant yn wynebu salwch datblygedig sy’n cyfyngu bywyd, marwolaeth a phrofedigaeth ac yn ansicr sut i gynnig cefnogaeth a chymorth • Maent yn brofiadau â chost bersonol, iechyd a chymdeithasol ychwanegol y gellir eu hatal a/neu eu lleddfu os yw’r cymorth iawn ar gael yn y lle iawn ar yr adeg iawn
Beth ydym ni’n ei wneud? Rydym yn datblygu ystod o weithgareddau mewn 4 cymuned leol yn Sir Benfro, sef Saundersfoot, Penfro/ Maenorbŷr, Treletert a Brynberian. Nod y gweithgareddau rhyngweithiol, hwyliog hyn yw galluogi’r bobl sydd yn byw yn y cymunedau hyn i siarad mwy am fyw’n dda a marw’n dda (Marwolaeth, Marw, Colled a Gofalu). Mae hyn wedi ei gynllunio ynghyd â grwpiau a sefydliadau presennol sydd yn gweithio ym maes Gofal yr Henoed ac EOLC, sef Hosbis Paul Sartori yn y Cartref, Meddygfa Saundersfoot, Cysylltwyr Cymunedol yn PAVS, ymysg eraill. Mae’r prosiect yma i gefnogi pobl yn y meysydd hyn i feddwl ychydig yn wahanol am ofal diwedd oes er mwyn annog pobl i gynllunio ymlaen llaw, siarad ag eraill a rhoi cymorth ymarferol yn y gymuned i’r rheiny sy’n wynebu materion gofal diwedd oes. Mae hyn yn ymagwedd Datblygu Cymunedol tuag at fater Iechyd y Cyhoedd gwirioneddol ac mae ein gweithgareddau i gyd yn galluogi cymunedau i wella eu Cyfalaf Cymdeithasol ar y cyd (o ran Ymddiriedaeth, Empathi a Chydweithrediad). Mae’r gweithgareddau yr ydym yn eu hwyluso yn cynnwys: • Caffi Cymuned Dosturiol ‘/ Compassionate Community Café, Brynberian. Mae’n cyfarfod bob bore dydd Mawrth yn y Neuadd Gymunedol ac mae’n cynnwys te, cacennau a sgwrs ar bob mater yn ymwneud â chynllunio ar gyfer ein gofal i’r dyfodol. • Clwb Ffilmiau Cymuned Dosturiol yn Jameston/Maenorbŷr, yn dangos ffilmiau doniol yn fisol ar destun marwolaeth a marw ynghyd â chawl, bara a digon o de a chacennau! • Meddyliwch amdano, Siaradwch amdano a’i Ysgrifennu i lawr. Cyfres o weithdai i gynorthwyo pobl i gynllunio ar gyfer y dyfodol ac i ysgrifennu datganiad o’u dymuniadau a rhannu hyn gyda’u meddyg teulu a’u Teulu (Cynllunio Gofal Uwch). • Clwb Gwneud Arch Doc Penfro: Mae hyn yn ymagwedd hwyliog a rhyngweithiol tuag at siarad am ein profiadau o golled, gofalu a phrofedigaeth. Mae wedi ei anelu at ddynion yn arbennig ac mewn partneriaeth â Sied Ddynion Doc Penfro. Bydd yn dechrau ym mis Mawrth 2018. Gweithgareddau wedi eu cynllunio ar gyfer y dyfodol: • Sgyrsiau a gweithdai am Angladdau DIY: Mae’r gost o drefnu angladdau yn cynyddu o hyd ac yn gwthio llawer o deuluoedd i mewn i ddyled. Nod y gweithdy hwyliog hwn yw cynorthwyo pobl i gynllunio angladd fforddiadwy a mynd i’r afael â llawer o’r mythau yn ymwneud â chynllunio angladd. • Sefydliad y Fagloriaeth Gymreig (Ôl-16), (Datblygu Cymunedol): Mae’n rhoi cyfle i Fyfyrwyr/ Disgyblion 16/17 oed ddysgu am faterion marwolaeth a marw a sut maent yn effeithio ar bobl ifanc ynghyd â chodi arian ar gyfer mudiad Hosbis Sir Benfro. • Siarter Cymuned Dosturiol: Mae’n cefnogi Cymunedau i ddyfeisio eu Siarter eu hunain ynghylch sut byddant yn cefnogi ei gilydd yn ymwneud â byw a marw’n well. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: luke@communitychoice.org.uk Phone: 07908860061
Cyfraniad Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Perthynol i Iechyd y Cyhoedd 14 Mawrth 2018 10:00 - 15:20 Neuadd Brangwyn Abertawe
Cofrestrwch Yma Byddwn yn ffrydio’n fyw ar gyfrif Twitter @PHNetworkcymru ac ar dudalen Facebook /publichealthnetworkcymru Bydd y seminar hwn yn canolbwyntio ar gyfraniad Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd i Iechyd y Cyhoedd. Bydd y cyflwyniadau’n cynnwys cyflwyniad i Fframwaith Cymru a lansiwyd yn ddiweddar, profiadau gweithio gyda Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd ym maes Iechyd y Cyhoedd fel Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Lleol, a thystiolaeth mewn perthynas â chyfraniad Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd i Iechyd y Cyhoedd. Bydd y Prif Lefarwyr yn cynnwys: Linda Hindle (Prif AHP, Public Health England) Dr Gill Richardson (Iechyd Cyhoeddus Cymru) Judith John (Pwllgor Cynghori ar Therapïau Cymru)
Iechyd Rhywiol yng Nghymru ar gyfer y Genhedlaeth Bresennol a Chenedlaethau’r Dyfodol 22 Mawrth 2018 Nghanolfan yr Holl Genhedloedd, Caerdydd
Bydd Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal cynhadledd yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd, Caerdydd ar ddydd Iau 22 Mawrth 2018 yn ymwneud ag Iechyd Rhywiol yng Nghymru. Mae sesiynau llawn yn cynnwys yr Adolygiad diweddar i Iechyd Rhywiol yng Nghymru, cyflwyno Proffylacsis Cyn Cyswllt yng Nghymru ac addysg iechyd rhywiol. Bydd trafodaeth banel hefyd yn edrych ar iechyd rhywiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Un o brif ganfyddiadau’r Adolygiad i Iechyd Rhywiol yng Nghymru yw’r lefelau annhegwch sy’n gysylltiedig ag afiechyd rhywiol.
Cofrestrwch Yma
Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru Arddangos Cynaliadwyedd 2018 Mae Arddangos Cynaliadwyedd yn gyfres o ddigwyddiadau fydd yn digwydd ar hyd a lled Cymru ym mis Mai 2018. Eu nod yw darparu’r canlynol: • Y diweddaraf ar ddatblygiadau yn Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru, a hyb Iechyd a Chynaliadwyedd Iechyd Cyhoeddus Cymru • Gofod rhwydweithio a chyfle i brosiectau lleol arddangos eu gwaith • Cyfle i ymgysylltu â swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Os oes gennych brosiect chynaliadwyedd ac iechyd yr hoffech ei hyrwyddo, cysylltwch â ni yn: publichealth.network@wales.nhs.uk Gellir mynychu’r digwyddiadau am ddim a darperir cinio bys a bawd ym mhob lleoliad. Mae’r lleoedd yn gyfyngedig felly archebwch le yn gynnar. Cliciwch ar un o’r digwyddiadau canlynol i gofrestru trwy Eventbrite: 2 Mai - Canolfan Reoli Busnes, Bangor 3 Mai - Ramada Plaza, Wrecsam 8 Mai - Canolfan yr Holl Genhedloedd, Caerdydd 10 Mai - Canolfan Adnoddau’r Cyfryngau, Llandrindod 16 Mai - Canolfan Halliwell, Caerfyrddin 23 Mai - Canolfan St Michaels, Y Fenni
Sesiynau Adborth ar Fframwaith Newydd Adnabyddiaeth a Sgiliau ar gyfer Asesu’r Effaith ar Iechyd yng Nghymru.
Manylion Fel rhan o baratoadau ni ar gyfer gweithrediad Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, mae’r Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) wedi bod yn paratoi Fframwaith Adnabyddiaeth a Sgiliau newydd a Llwybr Datblygiad i Ymarferydd ar gyfer HIA yng Nghymru.
Rydym yn cynnal nifer o ddigwyddiadau byr yn ystod mis Chwefror a Mawrth i brofi ein fframwaith a teclyn arbrofi sgiliau i gael amrediad eang o adborth cyn i’r fframwaith cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth. Bydd y fframwaith yn effeithio’r ffordd byddwn yn darparu hyfforddiant yn y dyfodol.
Mae’r sesiynau yma yn berthnasol i unrhywun sydd gyda diddordeb yn gweithlu a datblygiad proffesiynol yn iechyd cyhoeddus, ansawdd ac effaith, asesu’r effaith ar iechyd (HIA), anghyfartaledd yn iechyd, a pholisi cyhoedd iachus.
Dyddiau, Llefydd ac Amseroedd Chwefror 26, Denbigh, Adeilad Caledfryn, Bore 10-12 Mawrth 5, CQ2, Caerdydd, Ysfafell Innovation, Bore 10-12 Mawrth 7, CQ2, Caerdydd, Ystafell Innovation, Bore 10-12 Mawrth 12, Tŷ Matrix, Abertawe, Bore 10-12 I gofrestru, cysylltwch gyda Nerys.S.Edmonds@wales.nhs.uk
Os ydych am ffindo mas mwy am y fframwaith ond yn methu dod i un o’r sesiynau uchod, cysylltwch gyda Nerys.S.Edmonds@wales.nhs.uk i drafod dros y ffon neu ebost.
Economeg Iechyd ar gyfer Ymarfer ac Ymchwil Iechyd Cyhoeddus CWRS BYR 2 DDIWRNOD YM MHRIFYSGOL BANGOR 19fed—21fed Mawrth 2018
Cyfanswm cost: £775 Pris yn cynnwys:
Prydau bwyd a llety o 4pm ddydd Llun 19fed Mawrth tan 1.30pm Ddydd Mercher 21fed Mawrth yn y Ganolfan Rheolaeth, Bangor (https://www.bangor.ac.uk/management_centre/index.php.cy)
Cyfarwyddwr y cwrs: Yr Athro Rhiannon Tudor Edwards, ynghyd â siaradwyr gwadd. Cofrestru’n cau 28 Chwefror 2018* Unrhyw gwestiwn, cysylltwch â : Mrs Ann Lawton Canolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau Prifysgol Bangor Neuadd Ardudwy Bangor. LL57 2PZ Ffôn: 01248 382153 E-bost: cheme@bangor.ac.uk Am ragor o wybodaeth: http://cheme.bangor.ac.uk/health-economics-course-16.php.cy *Tâl canslo o 10% cyn 28fed Chwefror 2018, 50% ar ôl y dyddiad hwn.
Crynodeb o’r Newyddion Croeso i’r Crynodeb o’r Newyddion! Cliciwch ar benawdau’r eitemau newyddion i fynd at y stori newyddion Iawn ar Wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ffordd o Fyw Mae pobl Cymru am weld rhagor yn cael ei wneud i atal salwch a gwella eu hiechyd - hyd yn oed os yw’n golygu gwario llai ar ofal iechyd Mae 53 y cant o bobl yng Nghymru yn cytuno y dylai mwy o arian gael ei wario ar atal salwch a llai ar ei drin. Dim ond 15 y cant a anghytunodd.
Dementia Cynllun newydd i drawsnewid gofal dementia yng Nghymru
Heddiw, mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi lansio cynllun gweithredu arloesol newydd i sicrhau bod modd i bobl â dementia fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cymunedau.
Datblygu Cynaliadwy Bywyd Da i Bawb o Fewn Gallu’r Blaned
Mae astudiaeth o dan arweiniad Prifysgol Leeds wedi canfod nad oes unrhyw wlad yn bodloni anghenion sylfaenol ei dinasyddion ar hyn o bryd ar lefel gynaliadwy yn fyd-eang o ran y defnydd o adnoddau.
Digartrefedd Wallich yn nodi Cynnydd o 36% yn y Bobl sydd â ‘Ffordd o Fyw ar y Stryd’
Mae’r Wallich wedi cyhoeddi adroddiad manwl ar y ffordd y mae llawer o bobl yn treulio amser ar strydoedd De Cymru. Mae’r adroddiad yn ategu tueddiadau cyfrifiad Llywodraeth Cymru wythnos diwethaf o’r bobl sydd yn cysgu ar y stryd, gan ddangos tuedd barhaus ar i fyny. Fodd bynnag, mae ffigurau’r Wallich yn rhoi mwy o ddata ar y math o bobl sydd ar y stryd, gan nodi nodweddion fel oed a rhyw.
Cliciwch yma am fwy o newyddion ar y wefan Cysyllt Iechyd y Cyhoedd Cymru
Mawrth
0 0 1 1 2 2 2
5 7 2 3 0 3 8
Cyflwyniad i Hunan-niweidio a Hunanladdiad Caerdydd
Sesiynau Adborth ar Fframwaith Newydd Adnabyddiaeth a Sgiliau ar gyfer Asesu’r Effaith ar Iechyd yng Nghymru. Innovation Room, CQ2, Caerdydd Sesiynau Adborth ar Fframwaith Newydd Adnabyddiaeth a Sgiliau ar gyfer Asesu’r Effaith ar Iechyd yng Nghymru. Ty Matrix, Abertawe Bodloni Her Dementia: Lleihau’r Risg, Codi Ymwybyddiaeth a Chyflwyno Gofal Dementia o Ansawdd Uchel Canol Llundain Blaenoriaethau ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru Canol Caerdydd Achosion ac Effaith Gamblo sydd yn Broblem Holiday Inn, Stryd y Castell, Caerdydd 5ed Cynhadledd Ryngwladol Anhwylderau Bwyta Coleg Imperial Llundain
Cliciwch yma am fwy o ddigwyddiadau ar y wefan Cyswllt Iechyd y Cyhoedd Cymru
Cysylltu â Ni Rhif 2 Capitol Quarter Llawr 5 Tyndall Stryd Caerdydd CF10 4BZ www.publichealthnetwork.cymru Os oes gennych unrhyw newyddion neu ddigwyddiadau i’w cyfrannu i’r rhifyn nesaf afonwch nhw at publichealth.network@wales.nhs.uk Dyddiad olaf ar gyfer eu cyflwyno yw’r trydydd dydd Gwener o bob mis.
Rhifyn Nesaf:
Diogelwch ac Iechyd yn y Gwaith