PHNC July Bulletin Welsh PDF HQ

Page 1

June 2017

Gorffennaf 2017


Croeso i’r e-fwletin Croeso i rifyn mis Gorffennaf o’r e-fwletin sy’n canolbwyntio, y mis hwn ar Ymwybyddiaeth o’r Haul. Ymgyrch flynyddol Cymdeithas Dermatolegwyr Prydain yw Ymwybyddiaeth o’r Haul, er mwyn codi ymwybyddiaeth o ganser y croen. Cynhelir yr ymgyrch rhwng mis Ebrill a mis Medi bob blwyddyn ac mae’n cynnwys Wythnos Ymwybyddiaeth o’r Haul a gaiff ei chynnal ym mis Mai. Yn dilyn ychydig fisoedd o brysurdeb gyda digwyddiadau, rydym yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar agweddau eraill ar y Rhwydwaith, megis diweddaru’r wefan a datblygu podlediadau. Rydym hefyd yn y broses o werthuso’r Rhwydwaith er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i wella’r wefan a’r e-fwletinau a threfnu digwyddiadau sydd fwyaf defnyddiol i’r aelodau. Byddwn yn gofyn i bob aelod gwblhau arolwg byr, felly cofiwch gadw eich llygaid ar agor am hwn, a bydd gennych obaith o ennill £25 mewn talebau Amazon! Mae gennym nifer o ddigwyddiadau sydd wrthi’n cael eu trefnu, a chyn gynted ag yr ydym wedi cadarnhau’r manylion, byddwn yn anfon negeseuon e-bost gyda gwybodaeth bellach. Cofiwch gysylltu gydag unrhyw wybodaeth yr hoffech ei chynnwys ar y wefan neu’r e-fwletin drwy gysylltu â ni yn publichealth.network@wales. nhs.uk


@PHNetworkcymru

/publichealthnetworkcymru

www.publichealthnetwork.cymru


Ymwybyddiaeth o’r H


Haul – Y Pwnc Llosg Sylw I Ymwybyddiaeth o’r Haul

Mae’n ffaith: Gall treulio gormod o amser yn yr haul arwain at ganser y croen. Dod i gysylltiad â gormod o ymbelydredd uwchfioled (UV) o’r haul neu welyau haul yw prif achos canser y croen. Yn y DU, byddai’n bosibl osgoi mwy nag 8 o bob 10 o achosion o felanoma, y math mwyaf difrifol o ganser y croen, drwy fwynhau’r haul yn ddiogel ac osgoi llosg haul. (Ymchwil Canser y DU, 2017) Mae’r ymgyrch Ymwybyddiaeth o’r Haul a gaiff ei chynnal gan Gymdeithas Dermatolegwyr Prydain (BAD) yn ymgyrch ddeuol sy’n cyfuno cyngor ar atal a chyngor ar ganfod. Y nod cyntaf yw annog pobl i hunanarchwilio am ganser y croen yn rheolaidd. Yr ail yw addysgu pobl am beryglon llosg haul a chael gormod o liw haul, ac annog pobl i beidio â defnyddio gwelyau haul, oherwydd y risgiau cysylltiedig o ganser y croen. BAD, 2017


Canser y Croen yng Nghymru

Rachel Abbott: Ymgynghorydd Dermatoleg ac Arweinydd ar Ganser y Croen i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Llysgennad y Croen Mae nifer yr achosion o ganser y croen wedi mwy na dyblu dros yr ugain mlynedd diwethaf ac amcangyfrifir erbyn hyn ei fod yn fwy cyffredin na chanser ym mhob rhan arall o’r corff gyda’i gilydd.1 Dim ond data ar gyfer canser melanoma y croen a gaiff ei gyhoeddi gan Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru (WCISU) oherwydd pryderon am ddibynadwyedd y data ar gyfer canser y croen nad yw’n felanoma.2 Credir bod ymbelydredd uwchfioled (UVR) yn achosi tua 86% o achosion o felanoma yn y DU.3 Daw’r croen i gysylltiad â UVR yn bennaf o’r haul, ond hefyd o ddefnyddio gwely haul. Rhan o’r rheswm dros y cynnydd yn nifer yr achosion o ganser y croen yw oherwydd bod y boblogaeth yn mynd yn hŷn, ond credir hefyd ei fod oherwydd ein hymddygiad yn yr haul - gan fod lliw haul yn cael ei ystyried yn ddeniadol ac yn ddymunol gan ein poblogaeth pryd golau.

Sail dystiolaeth ar gyfer atal canser y croen/rhaglenni addysgu

Cafodd adolygiad Cochrane ar ddiogelwch rhag yr haul ar gyfer atal canserau cell waelodol y croen a chanser cell gennog y croen, ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2016.4 Roedd yr adolygiad hwn yn cynnwys un hap-dreial wedi’i rheoli (RCT) a oedd yn cymharu defnydd dyddiol o eli haul â defnydd dewisol o eli haul, a chanfu dim gwahaniaeth yn y nifer o ganserau keratinocyte y croen dros gyfnod dilynol y o 4.5 mlynedd ym mhob grŵp. Cyhoeddodd Sandhu et al. ddau adolygiad systematig cyfunol ar ymyriadau cymuned gyfan aml-gydrannol ac ymyriadau cyfryngau torfol a ddefnyddir ar eu pennau eu hunain i atal canser y croen.5 Dywedodd yr awduron mai ychydig o dystiolaeth oedd ar gyfer ymyriadau cyfryngau torfol yn unig ond bod ymyriadau cymuned gyfan aml-gydrannol (MCCW) yn effeithiol o ran hyrwyddo diogelwch rhag UVR ar lefel cymuned. Mae ymyriadau MCCW yn cyfuno ymgyrchoedd cyfryngau torfol, â strategaethau a gaiff eu cyfarwyddo’n unigol, gan gynnwys addysg ac amgylcheddol a newidiadau polisi. Roedd adolygiad systematig arall gan Finch et al. yn asesu pa un a ellir gwella atal canser y croen drwy ymyriadau technoleg symudol, gan gynnwys negeseuon testun, cymwysiadau ffonau symudol a negeseuon e-bost.6 Cafodd pump o hap-dreialon wedi’u rheoli, dau dreial clinigol wedi’u rheoli ac un astudiaeth cohort eu cynnwys. Adroddodd yr awduron bod yr holl astudiaethau wedi arwain at newid ymddygiad hunanadrodd mewn o leiaf un o’u mesurau canlyniad; ond nad oedd mesur gwrthrychol o newid ymddygiad yn unrhyw un o’r astudiaethau. Mae adolygiad Cochrane wrthi’n cael ei gynnal ar hyn o bryd (protocol wedi’i gyhoeddi) ar ‘Educational programmes for primary prevention of skin cancer’.7 Ac mae Dudley et al. wrthi’n gwerthuso effeithiolrwydd rhaglen ‘SunSmart Program’ yn ysgolion Awstralia ar hyn o bryd.8

Atal canser y croen yng Nghymru yn 2017

Nid oes unrhyw gyllid gan lywodraeth y DU ar gyfer atal canser y croen. Ond, mae mwy o bobl yn marw o achos melanoma yn y DU nag yn Awstralia. Ym mis Ebrill 2011, daeth gwaharddiad ar fusnesau rhag gadael i bobl ifanc o dan 18 oed ddefnyddio gwelyau haul ar eu heiddo i rym yng Nghymru a Lloegr pan gyflwynwyd ‘Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010’. Disgwylir i ymchwil ar effaith y Ddeddf hon gael ei gyhoeddi ddiwedd yr haf hwn. Mae’r Gweinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd yn bwriadu ymgynghori ynghylch a ddylid ychwanegu gwelyau haul at y rhestr o weithdrefnau arbennig sydd angen trwyddedu yn Neddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017. Mae’r Trydydd Sector, gan gynnwys Cymdeithas Dermatolegwyr Prydain (BAD), Macmillan Cymru, Skcin, Skin Care Cymru a Tenovus, yn cynnal ymgyrchoedd a chynlluniau achredu i hyrwyddo ymwybyddiaeth o ganser y croen a diogelwch yn yr haul. Mae BAD yn cynnal wythnos ymwybyddiaeth o’r haul bob blwyddyn (8 – 14 Mai yn 2017) ac yn darparu dermatolegwyr ar gyfer taith Macmillan i godi ymwybyddiaeth o’r haul mewn digwyddiadau ledled y DU.


Mae Skcin wedi datblygu cynlluniau achredu diogelwch yn yr haul am ddim i ysgolion cynradd, meithrinfeydd a mannau gwaith. Lansiodd Skin Care Cymru ymgyrch newydd ar y cyfryngau ym mis Ebrill 2017, #don’tbealobster, wedi’i anelu at leihau achosion o losg haul ymysg pobl sy’n mwynhau traethau Cymru. Mae Tenovus yn cynnal ymgyrch flynyddol dros fisoedd yr haf, ‘Here Comes the Sun’, i godi ymwybyddiaeth o symptomau canser y croen a phwysigrwydd defnyddio eli haul yn yr haul. Mae gan Tenovus fan eli haul wedi’i brandio y gellir ei harchebu i ymweld â digwyddiadau dros yr haf, gyda gwirfoddolwyr yn darparu cyngor ar ddiogelwch yn yr haul a samplau o eli haul.

Dyfodol atal canser y croen yng Nghymru

Yn gyntaf, dylem anelu at gofrestru holl ddata canser y croen yng Nghymru, gan gynnwys unrhyw ganser y creon nad yw’n felanoma. Byddai hyn yn caniatáu cynllunio mwy cywir ar gyfer darparu gwasanaethau yn ogystal â darparu data epidemiolegol. Cydnabyddir yn eang bod angen ymchwil pellach i brif ddulliau o atal canser y croen yn y DU. Mae poblogaeth Cymru yn bryd golau, gyda’r bras amcan uchaf o felanoma yn y DU ac asiantaeth iechyd gyhoeddus genedlaethol sy’n cymryd rhan weithgar mewn gwaith ymchwil ac felly mewn sefyllfa dda ar gyfer hyn. Byddai deddfwriaeth bellach i leihau’r defnydd o welyau haul yn cael ei chroesawu, ynghyd ag integreiddio’r cynllun achredu Ysgolion Diogelwch yr Haul Skcin gyda chynllun Rhwydwaith Ysgolion Iach Cymru. Yn olaf, byddai cydgysylltu gweithgarwch y trydydd sector, ynghyd â Byrddau Iechyd, o ran hyrwyddo diogelwch yn yr haul, ac ymwybyddiaeth o ganser y croen yn ffordd gost-effeithiol o sicrhau cyrhaeddiad ledled Cymru. Cyfeiriadau 1. Goon PKC, Greenberg DC et al. Predicted cases of UK skin squamous cell carcinoma and basal cell carcinoma in 2020 and 2025: horizon planning for National Health Service dermatology and dermatopathology. British Journal of Dermatology 2017;175:1351-3 2. http://www.udgcc.wales.nhs.uk/mynychder-canser-yng-nghymru-1 3. http://www.cancerresearchuk.org/health-professional/cancer-statistics/statistics-by-cancer-type/skin-cancer 4. Sanchez G, Nova J et al. Sun protection for preventing basal cell and squamous cell skin cancers. Cochrane Database of Systemic Reviews 2016. 5. Sandhu PK, Elder R et al. Community-wide Interventions to Prevent Skin Cancer : Two Community Guide Systematic Reviews. Am J Prev Med 2016;51(4):531–539. 6. Finch L, Janda M et al. Can skin cancer prevention be improved through mobile technology interventions? A systematic review. Preventive Medicine 90 (2016) 121–132. 7. Lanbecker D, Diaz A et al. Educational programmes for primary prevention of skin cancer (protocol). Cochrane Database of Systemic Reviews 2014. 8. Dudley DA, Winslade MJ et al. Rationale and study protocol to evaluate the SunSmart policy intervention: a cluster randomised controlled trial of a primary school-based health promotion program. BMC Public Health (2015) 15:42


Here Comes the Sun: A community intervention to raise awareness of skin cancer Maura Matthews: Health & Wellbeing Development Manager, Tenovus Cancer Care Mae’r haf yn gyfnod prysur i dîm Iechyd a Lles Gofal Canser Tenovus wrth i’r ymgyrch Here Comes the Sun gael ei chynnal drwy gydol misoedd Mehefin, Gorffennaf ac Awst. Dechreuodd chwe blynedd yn ôl i ymateb i’r cynnydd pryderus yn nifer yr achosion o ganser y croen. Mae malanoma, y math mwyaf peryglus o ganser y croen, wedi tyfu bedair gwaith ers y 1970au, gyda dros 15,000 o achosion newydd yn y DU bob blwyddyn. Mae cyfraddau canser y croen wedi codi yn uwch nag unrhyw fath arall o ganser cyffredin. Mae’n cael effaith anghymesur ar bobl ifanc ac mae’n un o’r canserau mwyaf cyffredin yn y grŵp oedran 15-34 oed. Nod ein hymgyrch yw codi ymwybyddiaeth o’r risgiau sy’n ymwneud â dod i gysylltiad ag UV ac annog mabwysiadu ymddygiad diogel yn yr haul. Rydym yn gwerthfawrogi bod y rhan fwyaf o bobl am fanteisio’n llawn ar yr haul pan mae’n ymddangos, ond nod ein hymgyrch yw addysgu’r bobl i drin pelydrau UV â pharch. Ar ôl blynyddoedd lawer o ofyn i bobl beth maent yn ei wneud i ddiogelu eu croen pan ddaw’r haul allan, rydym wedi canfod eu bod yn gwybod yn aml iawn beth y dylent ei wneud, ond nad ydynt yn ei wneud. Byddant yn aml yn diogelu croen eu plant ac anghofio amdanynt eu hunain. Dim ond tua 25-50% o’r eli haul y dylid ei ddefnyddio y mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei ddefnyddio wrth fynd allan i’r haul am y tro cyntaf, ac mae’n gyffredin iddynt anghofio rhoi rhagor bob dwy awr. Mae defnyddio gwely haul yn parhau i fod yn ddigwyddiad cyffredin, yn arbennig o ran oedolion iau, ac mae ymchwil yn awgrymu mai dyma’r prif reswm dros y cynnydd dramatig mewn achosion o melanoma yn yr oedran hwn. Mae camdybiaethau ynghylch risgiau defnyddio gwelyau haul hefyd yn gyffredin, yn arbennig y myth y bydd gwely haul yn paratoi neu’n diogelu eich croen cyn ei ddangos i’r haul. Mae’n bwysig ein bod yn chwalu’r chwedlau hyn drwy ledaenu’r gair y gall gwelyau haul roi 10-15 gwaith yn fwy o UVA na haul canol dydd a bod eu defnyddio cyn troi 35 oed yn cynyddu’r risg o melanoma gan o leiaf 60%. Mae angen i ni barhau i gyfleu’r neges am ddiogelwch yn yr haul os ydym am weld gostyngiad yn y cyfraddau canser y croen yn y dyfodol. Mae ein fan eli haul wedi teithio miloedd o filltiroedd i ddigwyddiadau awyr agored i ledaenu’r gair gyda’n cynghorwyr cymwys ar Ddiogelwch yn yr Haul ar y bws. Mae ein hymyrraeth yn cynnwys cael sgyrsiau byr ar ddiogelwch yn yr haul gyda’r cyhoedd gan ddefnyddio cwis/rhestr wirio i lywio’r sgwrs. Mae’r cwis yn canolbwyntio ar ddefnydd o eli haul, ac rydym yn gofyn i bobl gofnodi eu gwybodaeth cyn y sgwrs ac ar ôl y sgwrs. Os oes angen iddynt newid eu hymddygiad diogelwch yn yr haul, rydym yn gofyn iddynt gadarnhau eu newid ymddygiad ar y ffurflen ac yn cysylltu â hwy eto ychydig wythnosau yn ddiweddarach os ydynt wedi rhoi caniatâd i wneud hynny.


Pan nad yw’r cynghorwyr Diogelwch yn yr Haul allan gyda’r fan eli haul, efallai eu bod yn cyflwyno ein hadnodd diogelwch yn yr haul i ysgolion mewn ystafell ddosbarth neu’n cyflwyno seminarau yn y gweithle ar atal canser y croen ac ymwybyddiaeth o symptomau. Mae ein hadnodd diogelwch yn yr haul i ysgolion ar ein gwefan ac yn cael ei gwerthuso gan Brifysgol Aberystwyth ar hyn o bryd. Mae’r tîm Iechyd a Lles hefyd wedi bod yn cymryd rhan mewn diweddaru gweithwyr iechyd proffesiynol am ganser y croen. Canlyniad ein cydweithredu â radiograffyddion Bron Brawf Cymru, pan lwyddodd un ohonynt i adnabod man geni pryderus ar un o’r menywod a ddaeth i gael ei sgrinio. Cynghorodd hi i fynd i weld ei meddyg teulu, a chafodd y claf ddiagnosis o melanoma. Storïau fel hyn sy’n dangos pa mor bwysig yw codi ymwybyddiaeth o ganser y croen a diogelwch yn yr haul ymysg llawer o grwpiau gwahanol o bobl a pham rydym yn parhau i ddatblygu ein hymgyrch flynyddol Here Comes the Sun. Mae ein siopau Gofal Canser Tenovus wedi bod yn lleoliadau pwysig hefyd ar gyfer lledaenu negeseuon diogelwch yn yr haul. Mae staff a gwirfoddolwyr wedi treulio amser yn cael eu hyfforddi fel y gallant roi’r wybodaeth gyfredol yn hyderus i gwsmeriaid sydd â diddordeb, gyda chefnogaeth deunyddiau megis posteri, taflenni a phecynnau bach o eli haul. Mae’r ymgyrch Here Comes the Sun hefyd yn ffordd wych o sicrhau bod siopau’n cyrraedd eu cymunedau, gan roi rhywbeth yn ôl i’n cefnogwyr ac maent hefyd yn darparu data gwerthfawr ar gyfer y gwaith ymchwil rydym yn ei wneud yn Gofal Canser Tenovus. Llwyddodd y fenter hon ar y cyd rhwng iechyd a lles a’r tîm manwerthu wobr effaith gymunedol yng Ngwobrau Cymdeithas Manwerthu Elusennol Genedlaethol 2015. Mae ein hymgyrchoedd yn gwneud gwahaniaeth go iawn a gellir gweld rhai o’r ystadegau o ymgyrch y llynedd ar y tudalennau a ganlyn. Tenovus Cancer Care is keen to partner with any organisations interested in promoting skin cancer awareness. You can contact me via email at maura.matthews@tenovuscancercare.org.uk or telephone 02920768871.


Here comes the We spoke to 2,324 people about sun safety this summer. Our focus this year was to discuss the correct use of sun cream. We tested people’s knowledge of: when to apply sun cream how frequently to apply what star rating to choose when buying sun cream

Only a quarter (25%) of participants got all three questions correct.

We also asked about people’s behaviour in the sun.

857 people claimed to only apply sun cream sometimes, rarely or never.

871 participants reported applying sun cream less than every 2 hours.

Reg Charity No. 1054015


Results Following a conversation with an advisor, 69% of participants indicated a willingness to change their current behaviour. We followed up 116 people.

67% of these had changed their behaviour and are now safer in the sun because of the campaign.

10 9 8 7

We asked people to rate their knowledge out of ten, before and after their conversation. 9 - Average score after conversation

6 5

6.5 - Average score before conversation

4 3 2 1

Give hope. Help cope. tenovuscancercare.org.uk


10 myth am yr haul a’ch croen

Ymgynghorydd Dermatoleg ac Arweinydd ar Ganser y Croen i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Llysgennad y CroenAmbassador

1. Dim ond pobl â gwallt coch a brychni sy’n cael canser y croen

Os yw eich croen yn troi’n goch cyn troi’n frown, mae gennych risg uwch o gael canser y croen. Mae gan bobl â gwallt coch a brychni fwy o risg o gael canser y croen, ond mae’r bobl hyn yn dueddol o osgoi bod yn yr haul, felly nid ydynt yn dangos eu croen i gymaint o ymbelydredd uwchfioled (UVR) â phobl sy’n cael lliw haul. Gall pobl sydd â chroen tywyllach gael canser y croen hefyd, ond mae’r risg yn is o lawer.

2. Mae lliw haul yn iach

Nid oes y fath beth â lliw haul iach. Os yw melanin wedi cael ei gynhyrchu yn y croen, mae niwed DNA wedi cael ei achosi gan UVR. Dylem i gyd ddysgu caru lliw ein croen. Os ydych wedi anghofio beth ddylai’r lliw hwn fod, edrychwch ar eich pen-ôl. Dyma’r rhan o’n cyrff sydd wedi cael y lleiaf o niwed gan yr haul.

3. Rydych wedi eich geni â brychni

Arwydd yw brychni bod y croen wedi cael ei niweidio gan UVR yn y gorffennol, felly maent i’w gweld yn aml ar wynebau a breichiau.

4. Bydd defnyddio eli wyneb gydag eli haul yn diogelu eich croen:

Bydd yr eli haul wedi dirywio ar ôl 2 awr, felly os caiff ei daenu dros y corff rhwng 7 ac 8 yn y bore, ni fydd yn diogelu llawer ar y croen erbyn canol dydd pan fydd y mynegai UV ar ei uchaf.

5. Bydd rhoi eli haul ar ei ben ei hun yn ddigon i atal canser y croen:

Yn anffodus, nid ydym yn rhoi digon o eli haul yn y lle cyntaf, rydym yn methu ambell ran o’n croen ein hunain, rydym yn ei grafu i ffwrdd, rydym yn chwysu ac yna’n anghofio rhoi mwy. Byddai angen llond un cês o eli haul am un wythnos o wyliau i deulu o bedwar ger y traeth pe bai eil haul yn cael ei ddefnyddio’n iawn. Mae cysgod (yn arbennig rhwng 11 y bore a 3.00 y prynhawn), het â chantel llydan, a dillad â llewys hir yn llawer mwy effeithiol na dim ond eli haul.

6. Mae eli haul drud yn well:

Yr eli haul gorau yw’r un y gwnewch ei ddefnyddio, gydag SPF uchel SPF(>30) a diogelwch o 4**** UVA o leiaf. I blant, cynghorir defnyddio eli haul heb arogl er mwyn sicrhau nad ydynt yn cael mwy na’r hyn sydd angen o fod yn agored i alergenau.

7. Mae cap pêl-fâs yn diogelu eich pen rhag yr haul:

Nid yw capiau pêl-fâs yn diogelu’r clustiau, y gwddf nag ochr y wyneb, felly mae het cantel llydan bob amser yn well er mwyn diogelu’r pen a’r gwddf. Mae hyn yn bwysig o gofio bod mwyafrif yr achosion o ganser y croen yn dechrau ar y pen a’r gwddf.

8. Nid yw ymbelydredd UV yn mynd drwy ffenestr car:

Nid yw UVB, sy’n achosi llosg haul ac sydd hefyd yn cyfrannu at ganser y croen, yn mynd drwy’r ffenestri ochr ar geir, ond mae UVA, fodd bynnag, sy’n achosi canser y croen a heneiddio mewn lluniau, yn mynd drwy ffenestri ceir.

9. Caiff ymbelydredd UV ei rwystro gan gymylau

Mae cymylau yn cuddio golau gweladwy, ond mae UVR yn gwthio drwy gymylau. Mae hyn yn egluro pam mae rhai pobl yn dweud weithiau eu bod wedi llosgi yn y gwynt ar ddiwrnod cymylog pan maent, mewn gwirionedd, wedi cael llosg haul.

10. Mae’r haul yn ein galluogi i gynhyrchu Fitamin D drwy gydol y flwyddyn

Yn y DU, nid yw lefelau UVB yn ddigon uchel rhwng mis Hydref a mis Ebrill i’n galluogi i gynhyrchu Fitamin D. Dylai pawb ystyried cymryd atchwanegiad Fitamin D, er enghraifft olew afu penfras, yn ystod misoedd y gaeaf a dylai rhai grwpiau risg uchel, gan gynnwys plant, pobl nad ydynt yn dangos eu croen i’r haul, a phobl sydd o dan do yn bennaf, ystyried cymryd Fitamin D drwy’r flwyddyn.


Podlediad ar Ymwybyddiaeth o’r Haul

Gofynnwyd i ni am bodlediadau a dyma ni wedi gwrando arnoch! Mae Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gweithio gyda nifer o sefydliadau i gynhyrchu podlediadau y gellir eu llwytho a gwrando arnynt wrth wneud eich gweithgareddau bob dydd. Mae’r holl bodlediadau ar gael yn yr adran Cymerwch Ran o’r wefan ac yn y podlediad diwethaf, cawn sgwrs gyda Maura Matthews, sef Rheolwr Datblygu Iechyd a Lles a Gofal Canser Tenovus a Rachel Abbott, Ymgynghorydd Dermatoleg ac Arweinydd Canser y Croen Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae Maura a Rachel yn siarad am y gwaith maent yn rhan ohono o ran ymwybyddiaeth o’r haul. Mae’r podlediadau eraill sydd ar gael ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar Iechyd y Galon ac Iechyd Meddwl.


SUN SAFE SCHOOLS NATIONAL ACCREDITATION SCHEME

REGISTER AT: SUNSAFESCHOOLS.CO.UK

ES

SOURC

E FREE R

ASSISTING SCHOOLS IN THEIR DUTY OF CARE AND PREVENTING SKIN CANCER THROUGH EDUCATION Whilst some sun is good for us, over-exposure to UV is a serious health risk and the primary cause of the UK’s most common and fastest rising cancer. UV is a known carcinogen, damage is accumulative and irreparable and burning as a child can dramatically increase a persons risk of developing the disease in later life. With children spending almost half their childhood at school, where they are outdoors every day, during peak UV hours (11am - 3pm), it’s imperative that school’s ensure children are protected from UV damage and are educated on the importance of enjoying the sun safely. Developed by national skin cancer charity, Skcin, the Sun Safe Schools national accreditation scheme is the UK’s most comprehensive FREE resource to assist primary schools in; creating a suitable sun safety policy, communicating with parents to raise awareness and gain support from the wider school community and educating pupils on the importance of sun safety, to influence behaviour and ultimately, save lives.


To gain their Sun Safe Accreditation, schools must complete a 4 step process, providing feedback on-line following completion of each step. Extensive resources have been provided to help schools achieve each step effectively and efficiently, with maximum impact and confidence and with minimum strain on valuable time and resources.

4 STEPS TO GAINING YOUR SUN SAFE SCHOOLS ACCREDITATION

“Our experience with the scheme has been overwhelmingly positive. The children have learnt so much and can talk with confidence about keeping safe in the sun. The scheme has had a significant impact on our school. We are better for it. Thank you for the opportunity and the fabulous resources”.

STEP ONE: CREATE YOUR SUN SAFETY POLICY Our on-line policy maker makes it easy for schools to tailor and download their own Sun Safety policy. This process ensures schools have considered and covered all essential guidelines and recommendations and can be confident that they are implementing a suitable policy to protect their pupils and present to parents.

“We are very proud to have achieved the Sun Safe School award. A huge thanks to the team behind the project. The website was wonderful - full of useful activities and resources to support teachers. Thanks to all involved!”

STEP TWO: COMMUNICATING WITH PARENTS In accordance with a school’s tailored policy, a personalised letter is automatically generated to download and send home to parents along with their policy and Sun Safety information booklets provided free upon registration. This ensures schools are requesting the required level of support from parents, advising them correctly about Sun Safety and doing great work to increase vital knowledge about prevention and early detection within the wider school community.

“This has been an easy to use and follow guide to helping everyone be more aware of sun safety. The children have really engaged but more importantly so have the parents and carers. Thank you!”

STEP THREE: CONDUCT A WHOLE SCHOOL ASSEMBLY A range of resources including assembly plan, presentation slides, music and song are all available to download, helping schools to plan their assembly, engage children and reinforce the importance of Sun Safety. STEP FOUR: CONDUCT INDIVIDUAL CLASS LESSONS Extensive curriculum linked educational resources for key stage one and two pupils can be downloaded including; ‘George the Sun Safe Superstar’ book, worksheets, fun activities, games and lesson plans - all developed to help schools engage children, increase knowledge and influence behaviour for a positive sun safe future. Upon completion, schools are awarded their Sun Safe accreditation certificate The accreditation is valid for one year, with a renewal process in place to review their policy, reinforce support with the existing school community, advise newcomers and increase knowledge of sun safety through education.

Schools that register to take part receive: • A comprehensive welcome pack and accreditation guide designed as a back-up resource to our on-line facility, including hard copies of all printable resources. • A hard copy of the book ‘George the Sun Safe Superstar’ for your school library • Sun Safe Superstar stickers for all children • Sun Safety information booklets to share with your school community • Unlimited access to all on-line resources

For more information and to register visit: sunsafeschools.co.uk


SUN SAFE WORKPLACES

FREE, NATIONAL ACCREDITATION SCHEME FOR EMPLOYERS OF OUTDOOR WORKERS: Comprehensive free resources for employers and outdoor workers. Developed by national skin cancer charity ‘Skcin’ - dedicated to promoting sun safety in the workplace to prevent skin cancer and promote early detection.

HEALTH AND SUN SAFETY. A DUTY OF CARE… UV is a known carcinogen, damage is accumulative and irreparable and responsible for 86% of all skin cancer cases and 4 out of every 5 melanoma deaths. Yet skin cancer is almost entirely preventable. Workplaces are advised to recognise that sunlight exposure is an occupational hazard for people working outdoors and to implement a policy to meet their responsibilities under the Health and Safety Work Act. National skin cancer charity ‘Skcin’ are the UK lead in the prevention and early detection of skin cancer and recognise not only the importance of Sun Safety education the workplace, but the pressures faced by those tasked to implement an effective policy. To combat this need and fill the mammoth void that exists in this arena, Skcin developed the national Sun Safe Workplaces Accreditation Scheme to provide employers of outdoor workers with comprehensive free resources and guidance to help them fulfill their duty of care. Through education and awareness, we can combat the most common and fastest rising cancer in the UK and save lives.


REGISTER FOR FREE RESOURCES AND TO GAIN YOUR SUN SAFE ACCREDITATION Comprehensive Employers Guide • Sample Sun Safe Policy Document • Sample Risk Assessment Engaging Power Point Presentation for employees • Sun Safety Fact Sheet for employees Skin Check Fact Sheet for employees • Work Site Posters • Certification • And much more...

Sun Safe Workplaces Free Resources

SUNSAFEWORKPLACES.CO.UK Sun Safe Workplaces has been specifically developed to:

What makes Sun Safe Workplaces different to other campaigns?

• The scheme is FREE and provides employers • To provide employers of outdoor workers with comprehensive guidance on the implementation of outdoor workers with the most comprehensive range of free resources available on the subject of a suitable and successful sun safety policy • The on-line, step by step, interactive check list • To provide employers with all the materials requires feedback / evidence that each step has they need to educate their outdoor workers on been completed, prior to certification the importance of prevention & early detection • The scheme is an annual accreditation to ensure • To provide employees with vital information to the continuation of sun safe practices year on year raise awareness and potentially, save lives


Cael Ei Holi Yn ‘Cael ei Holi’ y mis hwn mae Maura Matthews, sy’n Rheolwr Datblygu Iechyd a Lles gyda Gofal Canser Tenovus

Ble rydych chi’n gweithio ar hyn o bryd, a beth yw eich arbenigedd? Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio fel y Rheolwr Iechyd a Lles i Gofal Canser Tenovus ac mae fy maes arbenigedd yn golygu datblygu rhaglenni atal canser, yn gweithio gyda chymunedau i leihau’r risg o ganser a hyrwyddo canfod yr afiechyd yn gynnar. Fy nghylch gwaith yw darparu rhaglen Cymru gyfan yn y gymuned gyda’r nod o leihau nifer yr achosion o ganser, cynyddu nifer y bobl sy’n dewis cael eu sgrinio, gwella ymwybyddiaeth o symptomau canser a hyrwyddo canfyddiad cynnar, gan ganolbwyntio’n bennaf ar ardaloedd o amddifadedd. Enghreifftiau o’r mathau o ymyriadau rwyf yn eu gweithredu yw Gwiriad Iechyd Gofal Canser Tenovus, sy’n cynnwys holiadur rhyngweithiol cyffwrddy-sgrin gyda chefnogaeth ymddygiad wedi’i darparu gan Gynghorydd Iechyd wedi’i hyfforddi. Caiff canlyniadau unigolion eu darparu fel system goleuadau traffig, yn nodi meysydd lle y gallai’r unigolyn ystyried cyfeiriad newydd neu newid. Ar hyn o bryd, mae Prifysgol Caerdydd, gydag arian gan Ymchwil Canser Swydd Efrog (Yorkshire Cancer Research) yn gwerthuso effeithiolrwydd ein Gwiriad Iechyd mewn cymunedau difreintiedig. Nod ein hymyriad “Quit with Us” yw codi ymwybyddiaeth o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o roi’r gorau i smygu gyda chysylltiadau Gofal Canser Tenovus drwy fferyllfeydd cymunedol, cysylltiadau cymunedol eraill a phartneriaid corfforaethol. Dros y pum mlynedd diwethaf, rwyf wedi hwyluso Ymgyrch Here Comes the Sun (HCTS) Gofal Canser Tenovus i godi ymwybyddiaeth o symptomau canser y croen a phwysigrwydd dilyn negeseuon diogelwch yn yr haul, gan gynnwys defnyddio eli neu orchudd i amddiffyn y croen er mwyn lleihau’r risg o gael canser y croen.

Mae’r e-fwletin y mis hwn yn tynnu sylw at Ymwybyddiaeth o’r Haul. Beth yw’r prif heriau sy’n ein hwynebu wrth fynd i’r afael â’r mater hwn yng Nghymru yn eich barn chi? Rwy’n credu bod diffyg ymwybyddiaeth o ganser y croen, yn arbennig y ffaith y gall beryglu bywyd. Yng Nghymru, mae tua 700 o achosion o felanoma malaen bob blwyddyn, sef y math mwyaf peryglus o ganser y croen, gyda bron i 150 o farwolaethau. Mae camdybiaeth y gellir torri canser y croen allan a’i ddatrys yn rhwydd. Ond mae angen codi’r canserau ar y croen nad ydynt yn felanoma, ac maent yn aml ar yr wyneb, felly gallant adael olion ofnadwy ar gleifion. Canser y croen yw’r canser mwyaf cyffredin yn y DU, ac mae trin canser yn rhoi pwysau anferth ar y GIG. Yn olaf, caiff y rhan fwyaf o ganser y croen eu hachosi drwy ddangos y croen i belydrau UV, a gellir eu hosgoi. Pe bai pobl yn ymddwyn yn ddiogel yn yr haul, efallai y gwelwn gyfraddau canser y croen yn dechrau mynd i lawr yn y dyfodol.


Beth yw’r neges bwysicaf y dylid ei chyfleu i weithwyr proffesiynol a’r cyhoedd ynghylch ymwybyddiaeth o’r haul? Y neges bwysicaf yw bod nifer yr achosion o ganser y croen yn codi’n ddychrynllyd o gyflym ac nad oes unrhyw arwydd bod y tueddiad yn arafu. Mae angen i weithwyr proffesiynol a’r cyhoedd wybod y gellir atal canser y croen, ar y cyfan ac y gallwch leihau eich risg o ganser y croen drwy fabwysiadu ymddygiad diogel yn yr haul, megis osgoi’r haul rhwng 11.00 a 3.00, defnyddio dillad i orchuddio’r corff a defnyddio eli haul gydag o leiaf ffactor SPF30 â phedair neu fwy o sêr bob dwy awr. Mae peidio â defnyddio gwelyau haul yn neges allweddol hefyd, sydd angen ei hyrwyddo.

Pe baech yn cael tri dymuniad, beth fyddai’r tri? I gadw at y thema atal, mae fy nau ddymuniad cyntaf yn ymwneud â diogelwch yn yr haul ac yn cynnwys: • Sicrhau bod ysgolion yn cymryd cyfrifoldeb dros ddiogelwch yn yr haul a rhoi’r gorau i anfon plant allan i chwarae yn yr haul yn aml pan nad oes ganddynt unrhyw fath o ddiogelwch yng nghanol haul poeth canol dydd. Hefyd, gwneud addysg diogelwch yr haul yn bwnc gorfodol a gaiff ei gyflwyno drwy’r cwricwlwm ABCh. • Gwahardd gwelyau haul masnachol ac eli haul “unwaith y dydd” fel sydd wedi digwydd yn Awstralia. • Cais cyffredinol am fuddsoddi mwy mewn ymyriadau atal canser sy’n seiliedig ar dystiolaeth yng Nghymru. Dywed gwaith ymchwil wrthym y gallai o leiaf 4 allan o 10 fod wedi gallu eu hatal pe bai ffyrdd iachach o fyw wedi cael eu mabwysiadu.

Beth yw eich diddordebau personol? Dechreuais fy ngyrfa ym maes nyrsio a gweithiais am flynyddoedd fel Swyddog Iechyd yr Amgylchedd, gan fy arwain i chwilio am gymhwyster ôl-raddedig mewn iechyd cyhoeddus. Felly mae gennyf ddiddordeb brwd mewn atal canser ac ymyrraeth ar sail tystiolaeth yn ymwneud â newid ymddygiad a ffordd o fyw. Rwy’n fam sy’n gweithio felly gall fod yn anodd cael cyfle i ddilyn diddordebau. Ond, pan mae gennyf amser, rwyf wrth fy modd yn coginio a diddanu ffrindiau a theulu. Pan allaf ddod o hyd i rywun i warchod, mae’r sinema’n rhywbeth arbennig ac rwyf yn mwynhau darllen.


Pyncia Llosg Mae rhan hwn o’r e-fwletin wedi’i neilltuo i newyddion gan aelodau’r rhwydwaith. Cewch gyflwyno newyddion ynglyn a gwaith sy’n cael ei wneud yn eich ardal chi, ysgrifennwch erthygl ar ein cyfer, hyrwyddwch ddigwyddiad sydd i ddod neu broliwch am eich cyraeddiaddau! Os ydych chi’n dynuno cyflwyno erthygl ar gyfer yr adran Clecs anfonwch neges e-bost at publichealth.network@wales.nhs.uk. Ni ddylai’r erthygl gynnwys mwy na 500 o eiriau ac rydym yn croesawu lluniau bob amser!!

Rhaglen Gofal Cymalau Cymunedol Cwm Taf Programme Mae’r Rhaglen Gofal Cymalau Cymunedol am ddim yn rhaglen 12 wythnos yn y gymuned, wedi’i thargedu tuag at gleifion sydd â phoen cronig yn y pen-glin a/neu’r glun oherwydd yr hyn y credir sy’n osteoarthritis a BMI o 30kg/m2 neu uwch. Mae angen i weithiwr proffesiynol atgyfeirio’r claf i’r rhaglen. Mae’r Rhaglen Gofal Cymalau Cymunedol ar gael ar hyn o bryd yng Nghanolfannau Hamdden y Rhondda, Aberdâr, Llantrisant a’r Ddraenen Wen. Mae’r rhaglen yn cynnwys sesiynau maeth a sesiynau ymarfer corff sylfaenol a choginio.


Mae’r rhaglen wedi cael ei dyfeisio i roi gwybodaeth a chymorth i gleifion a fydd yn eu helpu i golli pwysau, codi lefel eu gweithgarwch a gwella eu hiechyd yn gyffredinol a’u hiechyd cyhyrysgerbydol yn benodol. Mae cleifion wedi nodi: “Ers dechrau’r rhaglen hon rwy’n teimlo’n llawer mwy hyderus yn defnyddio’r ganolfan hamdden. Rwyf bellach yn mynd i ddosbarth acwa-erobeg rhwng 4 a 5 gwaith yr wythnos!!! Fuaswn i byth wedi gwneud hynny cyn y rhaglen.” “Caiff y rhaglen ei rhedeg yn dda, ‘does neb yn pregethu wrthoch chi, roedd yn braf bod mewn grŵp bach. Cafodd yr ymarfer corff ei ychwanegu’n raddol.” Manylion Cyswllt ar gyfer Atgyfeirio a/neu ymholiadau: Sam Belcher – Cydgysylltydd Atgyfeirio Ymarfer Corff Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff Rhondda Cynon Taf Rhaglen Gofal Cymalau Canolfan Chwaraeon, Parc Abercynon, Abercynon, CF45 4UY Ffôn: 07825675743 E-bost: Sam.Belcher@rctcbc.gov.uk

Ymarfer a Rennir

Prosiect y mis yw Yfed yn Gall, Heneiddio’n Dda. Mae Yfed yn Gall, Heneiddio’n Dda yn wasanaeth ar gyfer oedolion hŷn sy’n gweithredu o fewn rhanbarth Bwrdd iechyd Cwm Taf o Dde Cymru. Diffiniad Yfed yn Gall, Heneiddio’n Dda o oedolyn hŷn yw 50 oed neu’n hŷn. Ein nod a’n hamcan yw cyflwyno negeseuon alcohol ac iechyd allweddol i boblogaeth dros 50 oed Cwm Taf er mwyn iddynt allu gwneud dewisiadau iachach am alcohol wrth iddynt heneiddio. Trwy gyflwyno cyrsiau ymwybyddiaeth ac ymyriadau byr ar alcohol i wasanaethau lleol sydd yn dod i gysylltiad â phobl dros 50 oed, gallwn alluogi ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol i ledaenu ein negeseuon yn eang i’r grŵp oedran hwn. Os hoffech ychwanegu eich prosiect eich hun i’r Cyfeiriadur Ymarfer a Rennir mae ffurflen ar-lein hawdd (sydd ond ar gael i aelodau) ac unwaith y caiff ei chymeradwyo gan un o’r cydlynwyr, bydd eich prosiect wedyn yn ymddangos ar y cyfeiriadur. Mae Pecyn Cymorth Hunanasesu hefyd y gellir ei argraffu neu ei lenwi ar-lein ac mae’n galluogi cydlynwyr i sicrhau ansawdd y datblygiad a darpariaeth prosiectau newydd a phresennol. Os oes angen cymorth arnoch yn cwblhau’r pecyn cymorth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu ag un o’r cydlynwyr yn publichealth.network@wales.nhs.uk


Crynodeb o’r Newyddion Croeso i’r Crynodeb o’r Newyddion! Cliciwch ar benawdau’r eitemau newyddion i fynd at y stori newyddion lawn ar Wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Plant a Phobl Ifanc O’r Drws i’r Ddesg: Helpu mwy o blant i gerdded neu feicio i’r ysgol Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi canllaw gweledol newydd hawdd i’w defnyddio er mwyn helpu sefydliadau i chwarae mwy o ran wrth annog plant i gerdded neu feicio i’r ysgol.

Gwaith ‘Digwyddiadau Diweithdra Torfol (DDTau) – Atal ac Ymateb o Safbwynt Iechyd Cyhoeddus’ Adroddiad newydd yn archwilio effaith digwyddiadau diweithdra torfol ar iechyd, a’r camau y gellir eu cymryd i leihau’r effaith honno.

Polisi Bil Iechyd y Cyhoedd yn cael Cydsyniad Brenhinol Eang y ddeddfwriaeth a fydd yn helpu pobl i fyw bywydau iachach a’u hamddiffyn rhag niwed, Gydsyniad Brenhinol.

Gweithgaredd Corfforol Canolfan Gydweithredu WHO ar gyfer Gweithgaredd Corfforol ac Iechyd Mae Prifysgol Zurich (y Swistir) wedi cael ei dynodi fel Canolfan Gydweithredu newydd WHO ar gyfer Gweithgaredd Corfforol ac Iechyd.


Clefydau Anhrosglwyddadwy Ymwybyddiaeth o symptomau canser yr ofari yn ‘frawychus o isel’ ymysg menywod yng Nghymru Mae Target Ovarian Cancer wedi lansio Cynllun Braenaru Cymru, eu hail adroddiad Braenaru sy’n benodol i wlad.Maent wedi canfod bod gan fenywod yng Nghymru ymwybyddiaeth frawychus o isel o symptomau canser yr ofari.

Iechyd Mamau a’r Newydd-Anedig Prif Swyddogion Meddygol y DU yn cyhoeddi cyngor i weithwyr iechyd proffesiynol ar ymarfer corff yn ystod beichiogrwydd Mae Prif Swyddogion Meddygol y DU wedi rhyddhau cyngor newydd ar y cyd ar ymarfer corff i fenywod beichiog, a chredir mai dyma’r cyntaf o’i fath yn y byd.

Cliciwch yma am fwy o newyddion ar y wefan Cyswllt Iechyd y Cyhoedd Cymru


Awst ac Medi

0 0 1 2 2 2

2 3 1 6 7 8

(Awst) Diwrnod Chwarae Digwyddiad Cenedlaethol Gŵyl Chwaraeon Stryd Aml-gamp Caerdydd

(Medi) Wythnos Iechyd Rhywiol Digwyddiad Cenedlaethol Bwrw’r bar: Sut gallwn ni hybu yfed iach ym myd chwaraeon? Caerdydd

Iechyd Meddwl: Gwireddu’r Blaengynlluniau Llundain

Y Darlun Ehangach - Gweithio gyda Phlant a Theuluoedd yng Nghymru Caerdydd

Cliciwch yma am mwy o ddigwyddiadau ar y wefan Cyswllt Iechyd y Cyhoedd Cymru


Cysylltu â Ni Rhif 2 Capitol Quarter Llawr 5 Tyndall Stryd Caerdydd CF10 4BZ www.publichealthnetwork.cymru Os oes gennych unrhyw newyddion neu ddigwyddiadau i’w cyfrannu i’r rhifyn nesaf afonwch nhw at publichealth.network@wales.nhs.uk Dyddiad olaf ar gyfer eu cyflwyno yw’r trydydd dydd Gwener o bob mis.



Rhifyn Nesaf: Iechyd Rhywiol


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.