Mawrth 2018
Croeso i’r e-fwletin Croeso i rifyn mis Mawrth o e-fwletin Iechyd Cyhoeddus Cymru. Dan sylw fis yma mae ‘Diwrnod Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith y Byd‘. Mae Diwrnod Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith y Byd yn ymgyrch rhyngwladol blynyddol i hybu gwaith diogel, iach a gweddus. Fe’i cynhelir ar 28 Ebrill ac mae wedi cael ei gynnal gan y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO) er 2003. Mae llawer o adnoddau’n ymwneud â’n testun dewisol ar Gronfa ddata adnoddau’r Rhwydwaith. Mae gennym bellach ‘Sail Wybodaeth Brexit Iach’ newydd ar gael ar ein gwefan. Trwy hwn, mae Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru’n edrych ar Brexit trwy lens penderfynydd cymdeithasol yn bennaf, gyda’r nod o hysbysu ymarferwyr ynghylch yr hyn y gallai Brexit ei olygu i iechyd y boblogaeth yn ei ystyr ehangach. Rydym wedi cael mis prysur gyda sawl digwyddiad yn cael ei gynnal yn ystod mis Mawrth. Mae gwybodaeth am yr holl ddigwyddiadau hyn ar gael ar y tudalennau Digwyddiadau’r Gorffennol ar wefan y Rhwydwaith. Cynhelir Sioe Deithiol y Rhwydwaith ar draws Cymru yn ystod Mai 2018. Mae mwy o fanylion ar gael ar y tudalennau ‘Grapevine’ yn yr e-fwletin. Rydym wedi gwneud penodiadau newydd i’r Grŵp Cynghori sy’n golygu bod swyddi gwag yn y Grŵp Cyfeirio. Os hoffech ddod yn aelod o Grŵp Cyfeirio’r Rhwydwaith, cysylltwch â ni ar yr e-bost isod. Cysylltwch â ni gydag unrhyw wybodaeth yr hoffech ei chynnwys ar y wefan neu’r e-fwletin trwy gysylltu â ni yn publichealth.network@wales.nhs.uk
@PHNetworkcymru
/publichealthnetworkcymru
www.publichealthnetwork.cymru
Diwrnod Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith y Byd Mae diwylliant iechyd a diogelwch galwedigaethol cenedlaethol yn un lle mae’r hawl i amgylchedd gwaith diogel ac iach yn cael ei barchu ar bob lefel, lle mae llywodraethau, cyflogwyr a gweithwyr yn cymryd rhan weithredol wrth sicrhau amgylchedd gwaith diogel ac iach trwy system o hawliau, cyfrifoldebau a ddiffiniwyd a dyletswyddau, a lle mae’r flaenoriaeth uchaf yn cael ei roi i’r egwyddor o atal. Eleni, mae Diwrnod y Byd ar gyfer Diogelwch ac Iechyd yn y Gwaith (SafeDay) a Diwrnod y Byd yn erbyn Llafur Plant (WDACL) yn dod at ei gilydd mewn ymgyrch ar y cyd i wella diogelwch ac iechyd gweithwyr ifanc a diweddu llafur plant. Nod yr ymgyrch yw cyflymu’r camau gweithredu i gyrraedd targed Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDG) 8.8 o amgylcheddau gweithio diogel ar gyfer pob gweithiwr erbyn 2030 a tharged y SDG 8.7 i orffen pob math o lafur plant erbyn 2025. Cyflawni’r nodau hyn er budd y nesaf mae genhedlaeth o’r gweithlu byd-eang yn gofyn am ymagwedd gydnaws ac integredig tuag at ddileu llafur plant a hybu diwylliant atal ar iechyd diogelwch galwedigaethol. International Labour Organization
‘Digwyddiadau Diweithdra Torfol (DDTau) – Atal ac Ymateb o Safbwynt Iechyd Cyhoeddus’ Yn ystod y flwyddyn yn dilyn colli swyddi o ganlyniad i ddigwyddiadau diweithdra torfol, gall gweithwyr brofi dwbl y risg o farwolaeth o drawiad ar y galon neu strôc, a chynnydd uwch eto o risg o glefydau cysylltiedig ag alcohol. Gall effeithiau andwyol ar iechyd bara am ddegawdau, gydag aelodau teuluoedd yn cael eu heffeithio bron cymaint â’r rhai sy’n wynebu colli eu swyddi. Gan weithio gydag arbenigwyr ar draws y byd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi arwain gwaith newydd ar ddulliau iechyd cyhoeddus ar gyfer atal a pharatoi ar gyfer Digwyddiadau Diweithdra Torfol, sy’n canolbwyntio’n benodol ar fynd i’r afael â’r effaith ar iechyd unigolion, teuluoedd a chymunedau. Dywedodd awdur yr adroddiad, Dr Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Datblygiad yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae cyflogaeth ac iechyd yn gydgysylltiedig – rydym yn gwybod bod cyflogaeth o ansawdd da sy’n ddiogel yn dda i iechyd. Yn anffodus mae colli swyddi ar raddfa fawr yn digwydd, a gall yr effaith fod yn ddistrywiol i’r rhai a gyflogir yn uniongyrchol, ac ymestyn i deuluoedd a chymunedau. Yn rhyngwladol, nid yw’r digwyddiadau hyn yn anghyffredin, ond mae llawer y gallwn ei wneud i atal, cyfyngu a pharatoi ar gyfer yr effaith ar iechyd pan fyddant yn digwydd. Mae’r adroddiad hwn yn amlygu pwysigrwydd sicrhau bod iechyd a llesiant wrth wraidd gweithredu ataliol ac ymatebol.” Mae’r adroddiad - ‘Digwyddiadau Diweithdra Torfol (DDTau) – Atal ac Ymateb o Safbwynt Iechyd Cyhoeddus’ – hefyd yn darparu fframwaith wyth cam i gefnogi’r sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat gydag atal ac ymateb i ddigwyddiadau diweithdra torfol, a chynllunio ar eu cyfer. Mae’r fframwaith yn nodi’r prif flaenoriaethau lle y gall dulliau iechyd cyhoeddus helpu gyda nodi ardaloedd sydd mewn perygl yn gynnar a sicrhau bod ymatebion yn mynd i’r afael ag anghenion iechyd a llesiant pawb yr effeithir arnynt yn cynnwys teuluoedd, y gymuned ehangach a grwpiau penodol sy’n agored i niwed, fel y rhai sy’n ddi-waith yn y tymor hir. Darllenwch fwy yma https://www.publichealthnetwork.cymru/en/news/mass-unemployment-events-muesprevention-and-response-from-a-public-health-perspective/
Ymagwedd Iechyd y Cyhoedd Tuag at Ymateb i Ddiweithdra Torfol - Dr Alisha Davies, Lucia Homolova, Dr Charlotte Grey a’r Athro Mark Bellis – Cyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol Pam y gwnaethom wneud y prosiect ymchwil hwn? Gall Diweithdra Torfol (MUE) gael effaith niweidiol iawn ar iechyd, sefyllfa gymdeithasol ac ariannol unigolion a theuluoedd, a gall ddadsefydlogi cymunedau lleol. Mae buddion cymdeithasol, economaidd ac iechyd clir i ymateb i’r digwyddiadau hyn, ond yn aml mae’r ffocws yn bennaf ar hyfforddiant a chymorth galwedigaethol i sicrhau ailgyflogi’r rheiny a wnaed yn ddi-waith. Nid oes llawer o ystyriaeth i iechyd a chanlyniadau tymor hwy diweithdra torfol, os o gwbl, na’r effaith ar y rheiny sy’n cael eu heffeithio’n anuniongyrchol, fel teuluoedd a’r gymuned leol. Er bod cynlluniau iechyd y cyhoedd sylweddol i ymdrin ag effaith digwyddiadau aciwt eraill sy’n effeithio ar gymunedau, fel llifogydd, mae diffyg fframwaith i ymateb i MUE. Sut gwnaethom ni hyn? Cwblhaodd tîm y prosiect adolygiad cyflym o’r llenyddiaeth academaidd ac amgen, a llunio 12 astudiaeth achos o ymatebion i MUE. Fe wnaethant hefyd gyfweld â 23 o unigolion â phrofiad o ymateb i MUE ar draws wyth gwlad i gydgrynhoi’r hyn sy’n cael ei ddysgu wrth weithredu ymateb i MUE nad yw’n cael ei adlewyrchu mewn llenyddiaeth academaidd yn aml.
Beth wnaethom ei ganfod? Rhoddodd yr astudiaeth ddealltwriaeth gynhwysfawr o effaith iechyd a chymdeithasol diweithdra torfol ar weithwyr, teuluoedd a chymunedau. Roedd hyn yn cynnwys: • yr effaith niweidiol ar iechyd corfforol a meddyliol yn sgil (i) colli incwm yn uniongyrchol a thlodi, (ii) y digwyddiad llawn straen a gorbryder a cholli hunan-barch o ganlyniad i hynny, a (iii) chynnydd mewn ymddygiad hunanddinistriol, fel smygu, yfed alcohol a cheisio cyflawni hunanladdiad • y caledi ariannol yn y cartref ac i aelodau o’r teulu, yn ogystal â rheoli straen a sicrhau ailgyflogi, gydag effaith niweidiol ar ddeinameg teulu • yr effeithiau ehangach ar y gymuned leol trwy fwy o gystadleuaeth yn y marchnadoedd llafur, dadgysylltu â rhwydweithiau cymdeithasol, ac i ryw raddau, trawma emosiynol, sy’n effeithio ar iechyd a llesiant y boblogaeth leol Nododd yr astudiaeth yr angen am safbwynt ataliol tymor hwy trwy: • ragweld marchnadoedd llafur byd-eang a lleol yn economaidd er mwyn bodloni anghenion y dyfodol yn well a sicrhau datblygu cyflogaeth gynaliadwy • datblygu sgiliau yn y gweithlu fel sylfaen hanfodol ar gyfer datblygu adferiad economaidd, a sicrhau bod y rheiny heb sgiliau hefyd yn cael eu cefnogi i atal anghydraddoldebau cymdeithasol sy’n ehangu • buddsoddi mewn isadeiledd a phroses gynllunio gref gan yr holl randdeiliaid pwysig, er mwyn gosod y sylfeini ar gyfer adferiad economaidd • cyflogwyr mwy cyfrifol yn gymdeithasol o ran rheoli ailstrwythuro • datblygu cadernid seicolegol mewn unigolion a chymunedau i ymdopi ag effaith ysgytwadau economaidd Beth newidiodd o ganlyniad i’r gwaith ymchwil hwn? Cynhyrchwyd ymateb wedi ei lywio gan iechyd y cyhoedd, yn canolbwyntio ar bawb sydd wedi eu heffeithio trwy fynd i’r afael ag anghenion iechyd a seicogymdeithasol, ynghyd ag ailgyflogaeth a chymorth ariannol. Mae’r fframwaith hwn wedi ei seilio ar ddealltwriaeth o ddaearyddiaeth a lle, gan gydnabod y bydd llwyddiant ymateb lleol yn dibynnu ar y farchnad lafur, cysylltedd ac isadeiledd y lle. Mae’r fframwaith yn cael ei rannu’n helaeth ar draws iechyd y cyhoedd a rhanddeilliaid allweddol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i lywio ymarfer. Bydd hyn o gymorth i ddatblygu’r dystiolaeth i gryfhau ymagwedd ataliol i effaith MUE yn cynnwys y ffordd orau o adnabod a chefnogi’r meysydd hynny sydd mewn perygl o MUE.
Cyflwyno Beicio Grŵp yn y Gweithle – Beicio Cymru Os ydych eisiau gwella ffitrwydd, iechyd meddwl neu eisiau cael ychydig o awyr iach yn ystod yr awr ginio, mae cyflwyno cyfleoedd beicio ar gyfer staff neu gydweithwyr yn rhoi’r potensial i gael effaith gadarnhaol yn y gweithle. Yn Beicio Cymru, rydym wedi canolbwyntio ein hymdrechion ar helpu sefydliadau i greu grwpiau beicio yn y gweithle. Mae gennym ystod o gyrsiau hyfforddiant a gweithdai i’w cyflwyno i weithleoedd yng Nghymru, mewn rhai achosion, yr unig beth sydd ei angen arnom yw ychydig o wirfoddolwyr sydd yn gallu mynd ar gefn beic ac ychydig oriau o’u hamser. Yn ddiweddar, fe wnaethom helpu i sefydlu nifer o grwpiau beicio mewn sefydliadau a grwpiau cymunedol ar draws Cymru, gan helpu i roi cyfleoedd beicio diogel a hygyrch i’r cyhoedd a staff. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda nifer o bobl eraill i’w cynorthwyo i gael eu Gwobrau Safon Iechyd Corfforaethol Aur a Phlatinwm Gallai cyflwyno beicio grŵp i’r gweithle fod mor hawdd â rhoi galwad i ni neu anfon e-bost atom, gan gymryd eich bod yn gallu recriwtio llond llaw o wirfoddolwyr brwdfrydig, gallwn ni ddarparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Sam Richards (Swyddog Cyfranogiad) yn: Sam.richards@welshcycling.co.uk neu ffoniwch 07710024802.
Alcohol a’r Gweithle: Hybu Dewisiadau Iachach Yfed Doeth Heneiddio’n Dda
Yng Nghymru, yn ystod 2016, cafwyd 504 o farwolaethau’n gysylltiedig ag alcohol a 50,000 o dderbyniadau i’r ysbysy’n gysylltiedig ag alcohol. Mae stereoteipiau cyffredin yn ymwneud ag yfed yn aml yn amlygu pobl ddi-waith neu bobl iau sydd yn gor-yfed mewn pyliau. Fodd bynnag, yn ôl ymchwil a wnaed gan Brifysgol Keele a’r UCL, proffil rhywun sydd yn yfed alcohol amlaf yw rhywun sydd yn gweithio, yn y grŵp cyfoeth uchaf, wedi eu haddysgu mewn prifysgol a rhwng 50 a 60 oed. Mae’n bwysig felly deall y rôl sydd gan alcohol ym mywydau gweithwyr hŷn. Yn 2016, cyhoeddodd Yfed Doeth, Heneiddio’n Dda ei adroddiad blynyddol yn canolbwyntio ar alcohol a’r gweithle; ‘Easing the transition: older adults and the labour market’. Nododd yr adroddiad bod bron 30% o bobl dros 50 oed mewn galwedigaethau ‘proffesiynol’ yn yfed 5-7 diwrnod yr wythnos a dyma’r uchaf o’r holl grwpiau galwedigaethol. Cafodd ymddeoliad ei nodi hefyd fel un o gyfnodau pontio mwyaf arwyddocaol bywyd. Gall hyn fod yn brofiad cadarnhaol i rai; ond gall fod gan eraill broblem alcohol sydd wedi ei sefydlu neu gallant ddatblygu un o ganlyniad i’r newid bywyd hwn a phrofi effeithiau iechyd niweidiol. Mae’n hanfodol i gynhyrchiant y DU, iechyd economaidd, a llesiant personol unigolyn bod cyflogwyr yn gwneud mwy i atal problemau alcohol yn eu gweithlu hŷn, a rhoi cymorth os yw yfed yn mynd yn broblem.
Mae’r adroddiad yn gwneud sawl argymhelliad i gefnogi hyn: • Dylai fod gan gyflogwyr bolisïau alcohol sydd yn mynd i’r afael ag yfed sydd yn peri problem yn yr un ffordd ag y byddent yn gwneud gydag unrhyw fater iechyd arall. • Dylai cyflogwyr fod yn ymwybodol y gallai cyflogeion fod yn amharod i gyfaddef bod yfed yn broblem oherwydd pryderon am golli eu pensiwn os cânt eu diswyddo. • Er mwyn annog cyflogeion hŷn i beidio cuddio problem alcohol, mae angen i gyflogwyr greu amgylchedd lle mae’n cael ei ystyried yn ddiogel i ddod ymlaen os ydynt yn poeni am eu hyfed. Gallai hyn fod ar ffurf gwasanaeth cwnsela cyflogeion sydd yn darparu ymyriadau alcohol; posteri mewn ardaloedd cymunedol neu addysgwyr cymheiriaid yn y gweithle. • Dylai pob cyflogwr gynnig sgwrs ffurfiol cyn ymddeol yn cwmpasu’r perygl i iechyd a’r heriau y mae ymddeol yn eu cyflwyno yn cynnwys alcohol a chanolbwyntio ar lesiant, trefn a chadw syniad o ddiben. Mae Yfed Doeth, Heneiddio’n Dda hefyd yn gweithio’n weithredol gyda chyflogwyr i hybu dewisiadau iachach yn ymwneud ag alcohol trwy’r rhaglen Byw’n Ddoeth, Heneiddio’n Dda. Mae hyn yn cynnwys sesiynau lluosog y gellir eu haddasu i’ch gweithle sydd yn ceisio cryfhau strategaethau ymdopi unigolyn a gwella llesiant, tra’n dathlu agweddau cadarnhaol heneiddio. Mae’r rhaglen yn cyflwyno technegau i’r cyfranogwyr sydd yn rhoi’r offer iddynt ymdopi’n well gyda newidiadau bywyd. Mae Yfed Doeth, Heneiddio’n Dda hefyd yn cynnig gweithdai ymwybyddiaeth alcohol untro i gyflogwyr a chynllun ‘addysgwr cymheiriaid’ i hybu dewisiadau iachach yn ymwneud ag alcohol. Os hoffech gael cefnogaeth gyfrinachol yn ymwneud â’ch arferion yfed chi neu rywun arall, ffoniwch ein llinell gymorth ar 0800 161 5780, ebost wales@drinkwiseagewell.org.uk neu ewch i www.drinkwiseagewell.org.uk Yn ogystal, os ydych yn gyflogwr neu’n gyflogai sydd â diddordeb yn hybu dewisiadau iachach yn ymwneud ag alcohol yn eich gweithle, gallwch lawrlwytho ‘Workplace guide to supporting over 50s workforce to make healthier choices about alcohol’ yn: https://drinkwiseagewell.org.uk/resources/workplace-guide-supporting50s-workforce-make-healthier-choices-alcohol/
DIOGELWCH A DIWYLLIANT: Stori Pawb, Unrhyw Un, Rhywun a Neb Erthygl a ysgrifennwyd gan Adebowale (Debo) Omole ac a gyhoeddwyd gyntaf ar LinkedIn ar 4 Awst 2015. Mae ganddo Radd baglor mewn rheolaeth ystadau, MBA o Brifysgol Abertawe ac mae’n aelod o’r Bwrdd Ymddiriedolwyr yn YMCA Abertawe. Mae’r stori am bedwar o bobl o’r enw Pawb, Rhywun, Unrhyw Un a Neb gan awdur di-enw yn mynd fel hyn: Roedd yna waith pwysig i’w wneud ac roedd Pawb yn siŵr y byddai Rhywun yn ei wneud. Gallai Unrhyw Un fod wedi ei wneud, ond cafodd ei wneud gan Neb. Aeth Rhywun yn flin am mai gwaith Pawb ydoedd. Roedd Pawb yn meddwl y gallai Unrhyw Un ei wneud, ond sylweddolodd Neb y byddai Pawb ddim yn ei wneud. Yn y diwedd, roedd Pawb yn rhoi’r bai ar Rywun pan wnaeth Neb y gwaith y gallai Unrhyw Un fod wedi ei wneud Allwch chi uniaethu â’r stori hon? Hoffwn alw’r gwaith pwysig hwn yn “gyfrifoldeb diogelwch”. Fel y mae’r stori’n dangos, pan fydd damweiniau’n digwydd mae pawb yn chwilio am rywun i’w feio am fethu gweithredu pan mae neb yn gwneud rhywbeth y gallai unrhyw un fod wedi ei wneud. Yn drist iawn, mae dwy ddamwain yn yr wythnos ddiweddaf ar risiau symudol mewn canolfannau siopa yn Tsieina wedi amlygu hyn. Arweiniodd y digwyddiad cyntaf lai nag wythnos yn ôl at farwolaeth plentyn (Gorffennaf 29, 2015). Collod fam y Plentyn ei bywyd. Mae adroddiad yn ôl CNN yn awgrymu bod cyflogeion y ganolfan wedi canfod problem lle digwyddodd y ddamwain bum munud cyn iddi ddigwydd ond methwyd ag atal y grisiau symudol i’w archwilio a’i drwsio. Mae’r ail ddigwyddiad a nodwyd gan (CNN hefyd) ychydig ddiwrnod yn ddiweddarach yn cynnwys glanhawr a wnaeth, yn anffodus, golli ei goes oherwydd damwain grisiau symudol (Awst 4, 2015). Mae ymchwiliadau’n parhau ond mae cyfryngau’r wlad yn awgrymu bod rheoliadau gweithredu wedi cael eu torri trwy beidio diffodd y grisiau symydol cyn eu glanhau. Yn fy marn i, gellid bod wedi osgoi’r ddwy ddamwain. Gallai Pawb, Unrhyw Un, Rhywun heblaw Neb fod wedi gwneud rhywbeth. Dylai diogelwch fod yn rhan o’n natur, ni ellir gorbwysleisio hyn ac yn hynny o beth dylem ei wneud yn rhan o’n DNA yn y gwaith, mewn hamdden neu
unrhyw le arall. Diogelwch fel DNA Diwylliannol Gallai unrhyw gyfuniad o ddigwyddiadau fod wedi digwydd cyn y digwyddiad a gallai un weithred briodol fod wedi atal anffawd. Rydym yn canfod ein hunain yn gofyn: Pam na chafodd y grisiau symudol ei atal pan welwyd y broblem? Pam ceisiodd y glanhawr weithio pan oedd y grisiau symudol mewn gweithrediad? Pryd cafodd y grisiau symudol ei wasanaethu diwethaf? Pa mor aml y mae’r grisiau symudol yn cael ei archwilio? A oedd cyflogeion y ganolfan yn newydd a ddim yn gwybod â phwy i gysylltu? Efallai nad oeddent yn credu bod y broblem yn ddigon pwysig i hysbysu yn ei chylch? Efallai nad oeddent yn ymwybodol o’r gweithdrefnau brys? A oedd cyfnod sefydlu cywir ar gyfer gweithwyr a chyflogeion y ganolfan? A yw defnyddwyr y cyfleuster yn ymwybodol o weithdrefnau diogelwch neu ragofalon? Gallai cymaint o bethau fod wedi cael eu gwneud gan unrhyw un i atal colli bywyd. Mae diogelwch yn gyfrifoldeb i bawb a thrwy’r Rheolwr Cyfleusterau y rhan fwyaf o’r amser ceir cyfrifoldeb hybu mentrau Iechyd a Diogelwch, mae datblygiadau diweddar ar draws y byd yn awgrymu mor amlwg bod angen cynnwys diogelwch yn y ffordd yr ydym yn gwneud pethau. Mae angen cynnwys diogelwch yn ein diwylliant gwaith. Diffinio Diwylliant Ceir diffiniad poblogaidd iawn o ddiwylliant mewn cylchoedd academaidd gan yr awduron Terrence Deal ac Allan Kennedy (1982). Maent yn diffinio diwylliant fel a ganlyn “y ffordd yr ydym yn gwneud pethau fan hyn.” Dylai gweithwyr proffesiynol Rheoli Cyfleusterau, fel prif ysgogwr mentrau diogelwch, fod yn hyrwyddwyr a gwarchodwyr y diwylliant diogelwch yn eu sefydliadau perthnasol. Nhw ddylai ddiffinio “sut rydym yn aros yn ddiogel fan hyn.” Mae blog 2012 gan Rwydwaith FM yn gwneud Perchnogaeth yn brif flaenoriaeth i’r Rheolwr Cyfleusterau gyda Diogelwch yn ail ac rwy’n cytuno. Pan fydd gweithiwr proffesiynol FM yn cymryd cyfrifoldeb dros wneud cyfleusterau yn eu gofal nhw yn ddiogel i bob defnyddiwr, maent yn cymryd y cam cyntaf yn creu diwylliant sydd yn sicrhau bod y tebygolrwydd o ddamweiniau trasig yn cael ei ddileu. Creu a Hybu Diwylliant o Ddiogelwch Sut rydym yn creu diwylliant o ddiogelwch yn y gweithle? Sut rydym yn creu blas am risg y gellir ei ddioddef ac un na ellir ei ddioddef? Mae’n dechrau gyda’r hyrwyddwr diogelwch, neu’r Rheolwr Cyfleusterau. Mae’r gweithiwr proffesiynol FM yn cynorthwyo’r tîm rheoli i hwyluso asesu risg, cynnal hyfforddiant, nodi meysydd ar gyfer gwella yn y sefydliad a deall yn gyffredinol sut i helpu pob aelod o’r staff (yn cynnwys yr uwch dîm rheoli) a phobl sy’n defnyddio’r cyfleusterau i groesawu diwylliant o ddiogelwch. Dyma rai awgrymiadau i’w hystyried a’u datblygu: 1. Arwain trwy esiampl. Mae’n rhaid bod y Rheolwr Cyfleusterau ac yn wir, yr uwch dîm rheoli, yn ymrwymo’n llawn i ddiwylliant o Ddiogelwch. Bydd gweddill y tîm yn ei chael hi’n anodd dilyn os nad ydynt yn gallu gweld angerdd yr arweinydd yn datblygu amgylchedd diogel. Mae eich pobl yn gwylio’r hyn yr ydych yn ei wneud yn fwy na’r hyn yr ydych yn ei ddweud. 2. Ble rydych chi’n mynd? Bydd angen i chi fod yn glir ynghylch yr hyn y mae’r diwylliant diogelwch yn ei olygu ac am yr hyn yr ydych yn bwriadu ei gyflawni. Dylai fod gennych weledigaeth am ddiogelwch y mae eich tîm yn ei ddeall yn dda. Er enghraifft, rwy’n hoffi’r ymgyrch “Gweithio’n ddiogel Adref yn ddiogel” gan Mitie (cwmni darparu cyflenwyr allanol strategol). Mae’r ymgyrch hwn yn atgyfnerthu diwylliant o ddiogelwch yn y ffordd y mae pobl (staff a chleientiaid) yn byw ac yn gweithio. 3. Annog llif gwybodaeth da. Ni ddylid cyfyngu ar lif gwybodaeth i ymagwedd “O’r brig i’r gwaelod”. Mae’n helpu pan na fyddwch yn cyflwyno adroddiadau, adolygiadau a chyfarwyddiadau yn unig. Dylid rhoi pwysigrwydd i rannu gwybodaeth o’r “Gwaelod i’r brig” hefyd, gallwch gael adborth da ar yr hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio. 4. Dyrannu cyfrifoldebau. Gwnewch eich pobl yn gyfrifol yn bersonol am eu diogelwch a diogelwch pobl eraill. Mae eich tîm yn fwy tebygol o’i wneud yn “ddyletswydd i mi” ac nid dyletswydd rhywun arall i weithredu pan fydd ymarfer anniogel neu berygl yn cael ei ganfod. Cydweithiwch i ddatblygu eich prosesau mewnol. 5. Hyfforddiant. Buddsoddwch mewn hyfforddiant. Gall adnewyddu eich gwybodaeth yn ogystal â gwybodaeth eich tîm wneud byd o wahaniaeth yn ysgogi eich diwylliant o ddiogelwch. Mae datblygiadau newydd yn digwydd bob dydd ar draws y byd a gall eich sefydliad elwa ar straeon llwyddiant neu ddigwyddiadau anffodus fel ei gilydd. Y syniad cyffredinol yw peidio â gadael i drychineb ddigwydd i chi cyn gwella eich mecanweithiau diogelwch. Nid wyf yn credu y gellir gorbwysleisio diogelwch yn y gweithle. Dim ond un camgymeriad sydd ei angen i ddechrau ton o ddigwyddiadau trychinebus ac efallai na fydd unigolion neu sefydliadau byth yr un peth eto. Bydd cynnwys meddylfryd o ddiogelwch gyda “Phawb” yn ein bywyd bob dydd mwy na thebyg yn sicrhau na fydd Pawb yn canfod Rhywun i roi bai arnynt am fethu oherwydd byddai Unrhyw Un wedi gwneud y gwaith cyn y gall Neb.
Sut mae datblygu ac yn atgyfnerthu diwylliant o ddiogelwch yn eich gweithle? Beth allwn ni ei ddysgu o’ch profiad chi? Rhowch sylwadau a gadewch i ni hybu diogelwch yn y ffordd yr ydym yn gweithio ac yn byw.
Diogelwch Galwedigaethol, Iechyd a Lles Meistr MSc / PgD / PgC
Trosolwg o'r Cwrs Nod MSc Diogelwch, Iechyd a Lles Galwedigaethol yw galluogi ymarferwyr i ddatblygu dulliau cyfannol o wella diogelwch ac iechyd y sefydliad trwy well ymgysylltiad a lles gweithwyr. Mae'r radd meistri wedi'i gynllunio i wella dealltwriaeth y myfyrwyr a chymhwyso rheolaeth iechyd a diogelwch galwedigaethol ar hyn o bryd trwy alluogi myfyrwyr i ddatblygu ymagwedd fwy cyfannol at ddylanwadu ar berfformiad gweithiwr a sefydliadol trwy gysyniadau cyfoes ymgysylltu â gweithwyr a lles. Cliciwch yma i lawrlwytho'r daflen MSc Diogelwch, Iechyd a Lles Galwedigaethol. I gael gafael ar wybodaeth ar-lein, ewch i http://www.cardiffmet.ac.uk/health/courses/Pages/OccupationalSafety-Health-and-Wellbeing---MSc.aspx
Podlediad
Fe wnaethoch ofyn i ni am bodlediadau ac fe wnaethom wrando! Mae Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gweithio gyda nifer o sefydliadau i greu podlediadau y gellir eu llwytho i lawr a gwrando arnynt wrth fynd. Mae’r holl bodlediadau ar gael yn adran ‘Cymryd Rhan’ y wefan.
Cael Ei Holi Fis yma mae Nikki Davies, Ymarferydd Iechyd yn y Gweithle, Iechyd Cyhoeddus Cymru, dan sylw.
Ble ydych chi’n gweithio ar hyn o bryd a beth yw eich maes arbenigedd?
Rwyf ar hyn o bryd yn gweithio yn nhîm Cymru Iach ar Waith (HWW) yn Is-adran Gwella Iechyd Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae fy arbenigedd ym maes iechyd yn y gweithle, yn cynnwys ystod o destunau fel; tybaco, gordewdra, rheoli straen, iechyd a diogelwch ac alcohol a mwy.
Mae’r e-fwletin fis yma’n pwysleisio Diwrnod Diogelwch ac Iechyd yn y Gwaith y Byd. Beth yn eich barn chi yw’r prif heriau yr ydym yn eu hwynebu wrth fynd i’r afael â materion yn ymwneud â hyn yng Nghymru?
Mae Iechyd a Diogelwch yn aml yn cael ei weld fel baich i fusnesau, gellir ei nodi fel tasg neu ‘gost’ ychwanegol i’r busnes. Mae mythau a jargon yn ymwneud ag iechyd a diogelwch sydd yn gallu bod yn ddryslyd iawn i weithleoedd, er enghraifft “ni allwch ddefnyddio ysgol bellach” (sydd yn anghywir). Mae diffyg gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael ar gyfer gweithleoedd yng Nghymru. Gall rhai sectorau, yn arbennig Mentrau Bach a Chanolig (BBaCh) fod yn heriol i’w cyrraedd heb sôn am eu hymgysylltu. A gall hybu’r cymorth sydd ar gael fod yn gyfyngedig iawn ac yn ddryslyd i fusnesau, yn cynnwys opsiynau cyllid a phwy yw’r awdurdod gorfodi ar gyfer eu math nhw o fusnes. Mae technoleg yn newid yn gyflym, gan roi pwysau ar weithleoedd eu hunain ac ar y rhaglen Cymru Iach ar Waith, gan fod angen i ni gael yr adnoddau i gefnogi sefydliadau sy’n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf a chadw i fyny â’r byd hwn sydd yn newid o hyd. Mae angen ystyried y gweithlu sy’n heneiddio mewn gweithleoedd; mae gweithwyr profiadol yn ased gwerthfawr i fusnesau. Mae materion iechyd cyflogeion, fel y menopos, canser y prostad a chyflyrau cyhyrysgerbydol yn cyflwyno heriau i fusnesau ond cyfleoedd hefyd i ymgysylltu a chefnogi gweithwyr i aros yn iach yn y gwaith.
Beth yw’r materion pwysicaf sy’n wynebu iechyd y cyhoedd yn ymwneud â’r testun hwn?
Wrth ystyried iechyd a diogelwch yn benodol, gall polisïau iechyd a systemau gwael yn y gweithle effeithio ar iechyd corfforol a lles meddwl pobl. Cost salwch yn ymwneud â’r gweithlu yn 16/17 oedd tua £12bn i lywodraeth a chyflogwyr y DU, y gallai llawer ohono fod wedi cael ei osgoi pe byddai systemau iechyd, diogelwch a systemau llesiant wedi eu sefydlu. Wrth i weithwyr hŷn ddechrau rhoi cyfrif am gyfran uwch o’r gweithlu, bydd helpu pobl i aros yn y gwaith tra’n byw gyda chyflyrau iechyd cronig neu gynnal cyfrifoldebau gofalu am bobl eraill, ac i oed ymddeol hŷn, i gyd yn bryderon Iechyd y Cyhoedd. Nod y rhaglen Cymru Iach ar Waith fydd cefnogi gweithwyr a chyflogwyr i’r perwyl hwn, yn ogystal â hybu dewisiadau ffordd o fyw iachach ar gyfer pob oedolyn oed gweithio. Mae hefyd yn bwysig cofio bod gwaith da yn dda i iechyd ac felly mater mawr ein hoes yn ymwneud ag Iechyd y Cyhoedd yw sut y gallwn annog gwaith o ansawdd da ac ymarfer busnes cyfrifol i wella iechyd y boblogaeth.
Ydych chi’n credu y gallai Cymru fod yn gwneud mwy i wella ymwybyddiaeth o iechyd yn y gweithle?
Ydw, rwy’n credu yng Nghymru y gallem wneud mwy i hybu’r gwasanaethau rhagorol sydd ar gael i gefnogi pobl, yn cynnwys y rhaglen Cymru Iach ar Waith. Yng Nghymru, mae pobl yn treulio 40 awr yr wythnos ar gyfartaledd mewn cyflogaeth amser llawn sy’n golygu bod creu gweithle iach yn eithriadol o bwysig, yn cynnwys staff sydd yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Nod Iechyd Cyhoeddus Cymru trwy raglen Cymru Iach ar Waith yw defnyddio cyfleoedd yr amser hwn sy’n cael ei dreulio yn y gweithle i hybu ffordd o fyw iach. Rydym yn annog cyflogwyr i hybu ymwybyddiaeth ymysg eu staff o destunau fel y defnydd o dybaco, alcohol a chyffuriau, gweithgaredd corfforol a maeth ynghyd â llawer o bethau eraill y maent yn eu cael yn briodol ar gyfer eu gweithle a’u gweithwyr. Ein nod yw peidio gorfodi pobl i wneud newidiadau ond yn hytrach annog newid ymddygiad er mwyn cael ffordd o fyw iach am oes.
Pe byddech yn cael 3 dymuniad, beth fyddent? 1. Noson lawn o gwsg – (mae fy mab yn 18 mis oed) 2. Parhau gyda fy MSc Iechyd y Cyhoedd 3. Ennill y loteri!
Pan nad ydych yn gweithio beth ydych chi’n hoffi ei wneud? 1. Treulio amser gyda fy nheulu 2. Cerdded 3. Crefftio
Pyncia Llosg Mae rhan hwn o’r e-fwletin wedi’i neilltuo i newyddion gan aelodau’r rhwydwaith. Cewch gyflwyno newyddion ynglyn a gwaith sy’n cael ei wneud yn eich ardal chi, ysgrifennwch erthygl ar ein cyfer, hyrwyddwch ddigwyddiad sydd i ddod neu broliwch am eich cyraeddiaddau! Os ydych chi’n dynuno cyflwyno erthygl ar gyfer yr adran Clecs anfonwch neges e-bost publichealth.network@wales.nhs.uk Ni ddylai’r erthygl gynnwys mwy na 500 o eiriau ac rydym yn croesawu lluniau bob amser!!
Digwyddiad Arddangos Ymchwil yng Nghymru: Ymchwil gydag Effaith
Mynychodd dros 400 o gynadleddwyr ddigwyddiad ‘Ymchwil yng Nghymru’ Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ddydd Iau 8 Mawrth yng Nghaerdydd neu ddilyn ffrwd fyw ar y diwrnod. Cynhaliwyd y digwyddiad hwn i arddangos ymchwil gydag effaith gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a sefydliadau addysg uwch Cymru, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector. Roedd elfen gref o rwydweithio i’r digwyddiad, a gadeiriwyd gan y Prif Weithredwr Tracey Cooper gyda thros 30 o stondinau a phosteri gan sefydliadau partner yn codi ymwybyddiaeth o feysydd gwaith gwahanol a chyfleoedd i gydweithredu. Rhoddodd Stephan McMillan, Pennaeth Symud Gwybodaeth a Chysylltu yn Llywodraeth Cymru anerchiad agoriadol ysgogol. Pwysleisiodd bwysigrwydd effaith ymchwil, yr angen am ymchwilwyr i weithredu’n agos at eu rhanddeiliaid targed a phwysigrwydd arweinyddiaeth i oresgyn rhwystrau i symud gwybodaeth. Roedd cynulleidfa cyfryngau cymdeithasol y digwyddiad yn rhannu eu barn am y diwrnod, gyda llawer yn trydar gan ddefnyddio hashnod Twitter y digwyddiad #RIW2018. Agorodd Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, Jan Williams, sesiwn y prynhawn oedd yn cynnwys ymchwil sy’n cael ei hariannu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac ymchwil Iechyd Cyhoeddus Cymru ei hun. Dangosodd Dr Ross-Houle a Dr Porcellato o Brifysgol John Moores Lerpwl fod angen addysg bellach ymysg plant oed cynradd i fynd i’r afael â’u hamgyffrediad am sigaréts electronig. Dangosodd eu hymchwil fod rhai plant o’r farn bod e- sigaréts yn “cŵl neu’n ffasiynol” gyda chamargraff bod “e- sigaréts yn iachach (o’u
cymharu â smygu) am fod ffrwythau ynddynt ". Crynhodd Mark Griffiths, un o drefnwyr y digwyddiad, y digwyddiad trwy ddweud ‘mae’n gyffrous gweld cymaint o bobl yma heddiw neu’n gwylio ffrwd fyw o’r digwyddiad, yn cynrychioli cymaint o sefydliadau gwahanol. Mae’n amlygu sut mae ymchwil iechyd y cyhoedd yn elwa ar weithio mewn partneriaeth er mwyn cael yr effaith orau posibl.’ Cynhaliwyd pôl piniwn ar-lein trwy gydol y dydd a gofynnwyd i’r gynulleidfa am destunau iechyd y cyhoedd yr oedd angen mwy o ymchwil arnynt a’r ffordd y mae ymchwil iechyd y cyhoedd yn dangos ei effaith. Dymuna’r tîm ymchwil annog staff ar draws y sefydliad sydd â diddordeb mewn ymchwil i rannu ac archwilio syniadau trwy fynd i wefan y Gymuned YaD lle gellir dod o hyd i’r cyflwyniadau, canlyniadau’r bleidlais a lluniau o’r diwrnod.
Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru Arddangos Cynaliadwyedd 2018 Mae Arddangos Cynaliadwyedd yn gyfres o ddigwyddiadau fydd yn digwydd ar hyd a lled Cymru ym mis Mai 2018. Eu nod yw darparu’r canlynol: • Y diweddaraf ar ddatblygiadau yn Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru, a hyb Iechyd a Chynaliadwyedd Iechyd Cyhoeddus Cymru • Gofod rhwydweithio a chyfle i brosiectau lleol arddangos eu gwaith • Cyfle i ymgysylltu â swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Os oes gennych brosiect chynaliadwyedd ac iechyd yr hoffech ei hyrwyddo, cysylltwch â ni yn: publichealth.network@wales.nhs.uk Gellir mynychu’r digwyddiadau am ddim a darperir cinio bys a bawd ym mhob lleoliad. Mae’r lleoedd yn gyfyngedig felly archebwch le yn gynnar. Cliciwch ar un o’r digwyddiadau canlynol i gofrestru trwy Eventbrite: 2 Mai - Canolfan Reoli Busnes, Bangor 3 Mai - Ramada Plaza, Wrecsam 8 Mai - Canolfan yr Holl Genhedloedd, Caerdydd 10 Mai - Canolfan Adnoddau’r Cyfryngau, Llandrindod 16 Mai - Canolfan Halliwell, Caerfyrddin 23 Mai - Canolfan St Michaels, Y Fenni
Crynodeb o’r Newyddion Croeso i’r Crynodeb o’r Newyddion! Cliciwch ar benawdau’r eitemau newyddion i fynd at y stori newyddion Iawn ar Wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Gordewdra Astudiaeth o Bron 300,000 o Bobl yn Herio’r ‘Paradocs Gordewdra Mae’r syniad y gallai fod yn bosibl bod dros bwysau neu’n ordew ond heb fod mewn mwy o berygl o glefyd y galon, a elwir hefyd yn “baradocs gordewdra”, wedi cael ei herio gan astudiaeth o bron 300,000 o bobl a’i gyhoeddi yn yr European Heart Journal.
Iechyd Meddwl Dull newydd o drin anhwylder straen wedi trawma (PTSD)
Cyn bo hir, gallai dull newydd wneud cyfraniad mawr wrth helpu cyn-filwyr lluoedd arfog Prydain i drechu anhwylder straen wedi trawma (PTSD) o ganlyniad i brosiect ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd.
Gweithgarwch Corfforol Beicio neu sgwtera rownd y byd mewn 10 diwrnod
Big Pedal Sustrans yw’r her feicio a sgwtera fwyaf rhwng ysgolion yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n ysbrydoli disgyblion, staff a rhieni i ddewis dwy olwyn ar gyfer eu taith i’r ysgol.
Amgylchedd Naturiol Swyddi Gwag Coed Lleol
Mae Coed Lleol yn falch o gyhoeddi bod gennym y ddwy swydd wag isod, yn Machynlleth, y gellir eu gwneud yn unigol fel rolau ar wahân ar wahân neu gyda’i gilydd (dim ond un cais sy’n ofynnol).
Cliciwch yma am fwy o newyddion ar y wefan Cysyllt Iechyd y Cyhoedd Cymru
Ebrill
1 1 2 2 2 2 2
0 2 3 4 4 5 5
Trawsnewid Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed: Hybu, Diogelu a Gwella Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc Canol Llundain Dementia: Cynhadledd Ansawdd Gofal Neuadd Bridgewater, Manceinon
Sustrans Big Pedal 2018
Camau Nesaf ar gyfer Ymchwil ac Arloesi yng Nghymru Canol Caerdydd Ymwybyddiaeth o Dlodi Plant Caerfyrddin New Pathways SURE for Mental Health Interactive Conference 2018 Catrin Finch, Wrecsam Ecsbloetio Llinellau Sirol – Gangiau, Cyffuriau a Chymru Caerdydd
Cliciwch yma am fwy o ddigwyddiadau ar y wefan Cyswllt Iechyd y Cyhoedd Cymru
Cysylltu â Ni Rhif 2 Capitol Quarter Llawr 5 Tyndall Stryd Caerdydd CF10 4BZ www.publichealthnetwork.cymru Os oes gennych unrhyw newyddion neu ddigwyddiadau i’w cyfrannu i’r rhifyn nesaf afonwch nhw at publichealth.network@wales.nhs.uk Dyddiad olaf ar gyfer eu cyflwyno yw’r trydydd dydd Gwener o bob mis.
Rhifyn Nesaf:
Diwrnod Dim Tybaco’r Byd