Iechyd Meddwl yn y Gweithle: Defnyddio Arfer Gorau
Adroddiad Gwerthuso Cryno Marie Griffiths Cydlynydd Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru Gorffennaf 2018
Cyflwyniad Mae Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd wedi ei leoli yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn darparu ystod o gymorth i ymarferwyr ac ymchwilwyr ar draws pob sector sydd yn dylanwadu ar unrhyw agwedd ar iechyd y cyhoedd a gwella iechyd yng Nghymru. Mae cyfres o seminarau ymysg y gwasanaethau y maent yn eu darparu, sydd yn ceisio hybu arfer gorau yn seiliedig ar dystiolaeth bresennol a thystiolaeth sy’n dod i’r amlwg. Mae’r gyfres yn cynnwys ystod amrywiol o destunau ac mae’r enghreifftiau diweddar wedi cynnwys testunau fel Meddyliau Iach i Genedlaethau’r Dyfodol: Hybu Lleihau Risg Dementia a Chyfraniad Proffesiynau Perthynol i Iechyd i Iechyd y Cyhoedd. Caiff y testunau eu pennu gan aelodau’r rhwydwaith sy’n pleidleisio ar restr o ryw 12 o destunau sy’n cael eu dosbarthu’n flynyddol ac roedd Iechyd Meddwl yn y Gweithle yn y 4 pennaf y pleidleisiwyd amdanynt gan aelodau. Trefnodd y Rhwydiwath grŵp cynllunio i gynorthwyo’r gwaith o lunio a chyfraniad y seminar. Cynhaliwyd y seminar hwn ar 10 Gorffennaf 2018 yng Ngerddi Soffia, Caerdydd. Cadeiriwyd y seminar ar y cyd gan yr Athro Syr Mansel Aylward, Cadeirydd Hyb Gwyddorau Bywyd Cymru a Phill Chick, Cyfarwyddwr Cynorthwyol – Uned Gyflawni Iechyd Meddwl, GIG Cymru. Croesawodd yr Athro Aylward bawb i’r digwyddiad gan siarad am ei deimladau’n ymwneud ag iechyd meddwl, y ffordd y mae’n effeithio ar iechyd y boblogaeth a pha mor bwysig yw empathi, tosturi a chyfranogiad er mwyn goroesi. Siaradodd am bwysigrwydd iechyd meddwl yn y gweithle a rhoddodd gipolwg ar y ffordd y dechreuodd gymryd rhan ym maes iechyd meddwl. Gorffennodd ei gyflwyniad trwy amlygu’r angen i’r seminar hwn fynd i’r afael â’r sail dystiolaeth ac i’n hysbysu ynghylch arfer gwell.
Trosolwg o Gyflwyniadau Agorwyd y diwrnod gan Dr Adrian Neal, Seicolegydd Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Soniodd Adrian am ‘Yr hyn y mae ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth yn ei olygu mewn gwirionedd wrth feddwl am iechyd meddwl yn y gwaith.” Soniodd am y ffordd y mae ystyried iechyd meddwl yn diriogaeth anghyfarwydd yn aml ac os nad ydym yn deall ein hiechyd meddwl ein hunain sut gallwn ddechrau deall iechyd meddwl pobl eraill. Dilynwyd hyn gan ddau gyflwyniad, Jules Twells – Rheolwr Lles yn y Gweithle, Mind Cymru ac Adam Jones – Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd (Polisi), Iechyd Cyhoeddus Cymru. Soniodd Jules am greu gweithleoedd iach yn feddyliol. Soniodd mai’r nod yn Mind yw prif ffrydio iechyd meddwl da a’i wneud yn fusnes craidd i bob cyflogwr. Amlygodd hefyd y gwasanaethau lles yn y gweithle sydd ar gael i gyflogwyr i gefnogi iechyd meddwl yn y gweithle. Rhoddodd Adam gyflwyniad ar ei brofiadau personol o ‘Fyw gydag Iselder a Gweithio yn Iechyd Cyhoeddus Cymru’. Rhannodd Adam wybodaeth gyda chynadleddwyr am ddigwyddiadau oedd wedi digwydd o’i enedigaeth a thrwy gydol ei blentyndod sy’n debygol o fod wedi peri iddo ddioddef o iselder o 16 oed ymlaen. Mae cyflwyniadau unigol ar gael trwy gysylltu â publichealth.network@wales.nhs.uk neu gellir eu gweld ar wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Sesiynau Paralel Cynhaliwyd tri gweithdy yn ystod y digwyddiad a chawsant eu hailadrodd i roi cyfle i gynadleddwyr fynychu dau o’r tri oedd ar gael: • Gwneud ein Gweithleoedd yn Fwy Oed Gyfeillgar: Steve Huxton, Arweinydd Heneiddio’n Dda yng Nghymru, Comisiynydd Pobl Hyn Cymru. • Lles Meddwl yn y Gwaith: Jane Rees, Rheolwr Lles Cyflogeion, Iechyd Cyhoeddus Cymru; Hannah Dring, Ymarferydd Iechyd yn y Gweithle, Iechyd Cyhoeddus Cymru; Helen Walters, Ymarferydd Iechyd yn y Gweithle, Iechyd Cyhoeddus Cymru. • Mynd i’r afael â Stigma: Karen Roberts, Rheolwr Rhaglen, Amser i Newid Cymru
Ffurflen Werthuso Cofrestrodd 48 o bobl trwy Eventbrite ar gyfer y digwyddiad a mynychodd 52 ar y diwrnod sydd yn amlygu poblogrwydd y digwyddiad hwn gan fod ganddo hefyd rhestr aros o 50 o bobl. Cafodd y seminar ei ffrydio’n fyw hefyd trwy Twitter gyda 42 o bobl yn gwylio yn ystod y seminar a 26 arall yn gwylo’r ffrwd ar ôl y seminar. Rhoddwyd ffurflen werthuso i’r holl gynadleddwyr ar ddiwedd y digwyddiad a dychwelwyd 29 o ffurflenni.
Canlyniadau Meintiol Mae’r cwestiwn cyntaf yn gofyn i’r cynadleddwyr a oeddent yn aelod o Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru neu beidio. Mae’n ddiddorol nodi nad oedd y rhan fwyaf o’r cynadleddwyr yn aelodau o’r Rhwydwaith (76%). Gall hyn fod yn bennaf oherwydd bod taflen y digwyddiad wedi cael ei dosbarthu ymysg rhanddeiliaid a argymhellwyd gan grwp cynllunio’r seminar, ond cafodd y Rhwydwaith 7 aelod newydd yn ystod yr wythnos yn dilyn y seminar.
Mae cwestiwn arall ar y ffurflen werthuso yn gofyn i’r cynadleddwyr raddio o 1 i 5, (gydag 1 ddim yn ddefnyddiol o gwbl a 5 yn ddefnyddiol iawn) “pa mor ddefnyddiol oedd y seminar?”. Fel y gellir gweld, rhoddodd y rhan fwyaf o bobl 4 neu 5 (93.1%) ar gyfer y cwestiwn hwn gyda 6.9% (3 pherson) yn rhoi 3.
Canlyniadau Ansoddol Edrychodd cwestiynau pellach ar y ffurflen werthuso am ymateb ansoddol a nodir isod.
Beth oedd eich prif ysgogiad dros fynychu’r digwyddiad hwn? Mynychodd y rhan fwyaf o’r cynadleddwyr y digwyddiad i ddysgu mwy am iechyd meddwl yn y gweithle a beth arall y gallan nhw ei wneud fel sefydliad. I ganfod ffyrdd o gefnogi staff trwy adegau anodd sydd o’u blaen ac i hybu syniadau ar gyfer y sefydliad yn y dyfodol Chwilio am ffyrdd o gyflwyno mwy o gefnogaeth i iechyd a lles meddwl yn y swyddfa I weld / siarad am y darlun presennol o weithleoedd yng Nghymru yn ymwneud ag iechyd meddwl ac i weld lle gallai datblygu’r celfyddydau gynorthwyo/gweithio gyda chwmnïau i wella lles
A oedd unrhyw beth o ddiddordeb penodol? Soniodd nifer o bobl am gyflwyniad Dr Adrian Neal am ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth fel un o uchafbwyntiau’r dydd. Agweddau eraill y soniwyd amdanynt oedd stori Lisa yn y sesiwn ‘Mynd i’r Afael â Stigma’ a hefyd y sesiwn ‘Lles Meddwl yn y Gwaith’. Roedd araith Dr Adrian yn ddiddorol iawn ac roedd y cyflwyniad gan Lisa yn y gweithdy stigma yn arbennig o bwerus Siaradwyr gwâdd - Dr Adrian Neal – diffyg tystiolaeth yn ymwneud ag ymyriadau – diddorol iawn
Sut ydych chi’n bwriadu defnyddio’r hyn a ddysgwyd yn y digwyddiad hwn? Dywedodd llawer o’r cynadleddwyr y byddent yn rhannu’r wybodaeth a gafwyd yn y digwyddiad gyda chydweithwyr ac y byddent yn gwneud mwy o ymdrech i ddatblygu proses yn eu sefydliadau. Edrych ar y cymorth sydd eisoes wedi ei sefydlu ar gyfer gweithlu sy’n heneiddio a ble y gallwn ei wella Rwyf wedi creu cysylltiadau lle gallai partneriaethau a gwaith cydweithredol fodoli yn y dyfodol. Hefyd, ystyried lles yn fy ngweithle Ystyried safon iechyd corfforaethol. Ystyried addo “Amser i Newid
Pa seminar / cynhadledd yr hoffech chi eu gweld yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol? Mae’r meysydd testun y dywedodd y cynadleddwyr yr hoffent eu gweld yn cael eu cynnwys mewn digwyddiadau yn y dyfodol yn amrywiol. Ni fyddai’r Rhwydwaith yn gallu darparu digwyddiadau ar rai o’r meysydd testun a nodwyd, oedd yn rhy benodol, ond byddent yn gallu cyfeirio cynadleddwyr at sefydliadau eraill, mwy perthnasol: • • • •
Ymagweddau Iechyd y Cyhoedd tuag at Atal Hunanladdiad Ymgysylltu staff mewn gweithgareddau Iechyd a Lles Mwy am bobl hyn, gwaith integreiddio, mentora Straen – Ymdrin ag ef!
Mae’n werth nodi bod “Pobl Hyn” wedi cael ei awgrymu ac mae hwn yn seminar y mae’r Rhwydwaith wrthi’n ei gynllunio. Cafodd “Maeth” ei awgrymu hefyd ac mae hyn eto’n faes y mae’r Rhwydwaith eisoes yn ymchwilio iddo ar gyfer seminar i’r dyfodol.
Sylwadau eraill Cafodd y cynadleddwyr gyfle i roi mwy o sylwadau oedd ganddynt am y digwyddiad. Dim ond 2 sylw negyddol a roddwyd am y diwrnod ac roedd y rhain mewn perthynas â materion yn ymwneud â thechnoleg. Diwrnod rhagorol – Diolch am eich holl ymdrechion. Diolch am seminar wedi ei gynnal yn dda a’r lluniaeth hyfryd a’r siaradwyr treiddgar. Diolch. Lisa, fe wnaethoch y testun hwn yn real ac yn haws uniaethu ag ef.
Un gair Gofynnwyd i’r cyfranogwyr roi un gair i grynhoi’r ffordd yr oeddent yn teimlo am y digwyddiad. Mae’r geiriau hyn wedi cael eu rhoi i mewn i Wordle (www.wordle.net). Mae Wordle yn creu diagramau geiriau sydd yn rhoi mwy o amlygrwydd i eiriau sy’n ymddangos yn fwy aml yn y testun. O hyn, gallwch weld yn glir mai informative, interesting ac excellent a nodwyd amlaf.
Mwy o wybodaeth Mae mwy o wybodaeth a fideo byr o’r diwrnod ar gael ar wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru neu trwy gysylltu â publichealth.network@wales.nhs.uk
Mentimeter Mae Mentimeter yn offeryn cyflwyno hawdd ei ddefnyddio ar y we. Mae’n llwyfan diogel y gellir ei ddefnyddio gyda chynulleidfaoedd o bob maint i wneud cyflwyniadau’n fwy rhyngweithiol. Achubwyd ar y cyfle i ddefnyddio Mentimeter i ryngweithio gyda chynadleddwyr ac i ganfod eu safbwyntiau am y sefyllfa bresennol. Roedd y cyfranogiad yn dda iawn gan gynadleddwyr a chymerodd cyfanswm o 41 o gynadleddwyr ran. Mae’r canlyniadau fel a ganlyn