Tachwedd 2017
Croeso i’r e-fwletin Croeso i rifyn mis Tachwedd o e-fwletin Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Y pwyslais fis yma yw Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau. Mae’r un biliwn ar draws y byd yr amcangyfrifir eu bod yn byw gydag anableddau yn wynebu llawer o rwystrau o ran cynhwysiant mewn sawl agwedd allweddol ar gymdeithas. O ganlyniad, nid yw pobl ag anableddau yn cael eu cynnwys yn gyfartal mewn cymdeithas, sydd yn cynnwys trafnidiaeth, cyflogaeth ac addysg yn ogystal â chyfranogiad cymdeithasol a gwleidyddol. Mae’r hawl i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus yn hanfodol i greu democratiaeth sefydlog, dinasyddiaeth weithredol a lleihau anghydraddoldebau mewn cymdeithas. Ceir llawer o erthyglau diddorol yn y bwletin fis yma a llawer o adnoddau’n ymwneud â’n testun dewisol yng nghronfa ddata adnoddau’r Rhwydwaith. Fe wnaeth y pôl i ddiffinio Rhaglen Seminar y Rhwydwaith ar gyfer 2018 gau ar 6 Hydref 2017. Diolch i bawb a gymerodd ran. Y tri pennaf a enwebwyd gan ein haelodau yw: Meddylfryd Hirdymor: Rhagfynegi’r Dyfodol; Iechyd Meddwl yn y Gweithle; Maeth a’r Blynyddoedd Cynnar. Rydym ar hyn o bryd wrthi’n cynllunio Seminar Dementia, a gynhelir ar 14 Rhagfyr 2017. Mae manylion y digwyddiad hwn ar gael yn y bwletin a gallwch gofrestru ar-lein yn Eventbrite. Cysylltwch gydag unrhyw wybodaeth yr hoffech i ni ei chynnwys ar y wefan neu’r e-fwletin trwy gysylltu â ni yn publichealth.network@wales.nhs.uk
@PHNetworkcymru
/publichealthnetworkcymru
www.publichealthnetwork.cymru
Homelessness Anabledd - Gweld y tu hw
wnt i’r Label Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau dan Sylw Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol Pobl ab Anableddau ar 3 Rhagfyr bob blwyddyn, gyda’r nod o hybu grymuso, a helpu i greu cyfleoedd gwirioneddol ar gyfer pobl ag anableddau. Mae hyn yn gwella eu galluoedd eu hunain ac yn eu cefnogi i osod eu blaenoriaethau eu hunain. Mae grymuso yn golygu buddsoddi mewn pobl - mewn swyddi, iechyd, maeth, addysg a diogelu cymdeithasol. Pan fydd pobl wedi eu grymuso maent mewn sefyllfa well i fanteisio ar gyfleoedd, maent yn dod yn asiantau newid a gallant groesawu eu cyfrifoldebau dinesig yn well. http://www.un.org/en/events/ disabilitiesday/background.shtml
Staff Iechyd yng Ngogledd Cymru yn Hyrwyddo Cyfleoedd Chwaraeon Anabledd i Gleifion - Catherine Chin, Betsi Cadwaladr UHB Mae partneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chwaraeon Anabledd Cymru wedi arwain at dros 600 o bobl anabl yn cael eu hannog i fod yn egnïol yn gorfforol, yn cynnwys gwneud chwaraeon, diolch i gyllid Galw am Weithredu Chwaraeon Cymru. Mae’r prosiect, a ddechreuodd ym mis Rhagfyr 2013, hefyd wedi nodi chwe athletwr talentog sydd wedi cynrychioli Cymru ac a allai fod yn Baralympiaid yn y dyfodol. Mae’r prosiect wedi newid bywydau llawer o bobl anabl. Dywedodd Sara Millband: “Un o’r pethau yr oeddwn yn ei hoffi fwyaf yw bod pawb yn gyfartal. Unwaith y maent yn eistedd yn y gadair mae pawb yr un peth, p’un ag oes ganddynt anabledd neu beidio, mae’n rhoi’r un cyfle i bawb fwynhau chwaraeon.” Dywedodd Sue Maughan, Uwch Swyddog Chwaraeon Cymru: “Mae Chwaraeon Cymru wrth eu bodd gyda llwyddiant y Prosiect Galw am Weithredu yma, a bydd y buddion yn cael eu gweld am flynyddoedd i ddod. Mae wedi cael ffigurau hyfforddiant a chyfranogiad anhygoel, ond bydd hefyd o gymorth gydag ymagwedd y Bwrdd Iechyd i’r dyfodol, a bydd yn gyfle i ymestyn y prosiect hwn ar draws Cymru. Bydd gwerthuso’r prosiect Galw am Weithredu hwn yn helpu i lywio gwaith yn y dyfodol ac rydym yn falch ei fod yn cael ei sefydlu yng ngwasanaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac y bydd yn parhau i ysbrydoli eraill.” Yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae 1200 o weithwyr iechyd proffesiynol wedi cael eu hyfforddi i gefnogi pobl anabl i fod yn egnïol yn gorfforol, yn cynnwys gwneud chwaraeon. Maent yn gallu rhoi cyngor tra’n trafod cyfleoedd ac amlygu buddion iechyd a llesiant gweithgaredd corfforol, ac yna cyfeirio pobl at eu Swyddog Datblygu lleol yn Chwaraeon Anabledd Cymru. Y ffisiotherapydd Catherine Chin oedd yn arwain y prosiect: “Rydym yn falch iawn gyda chanlyniadau’r
prosiect, rydym nid yn unig wedi gweld gostyngiad yn yr angen am ymyriadau gofal iechyd ond rydym hefyd wedi cyfrifo, am bob £1 yr ydym wedi ei fuddsoddi mewn hyfforddiant, bod elw o £124 o ran gwerth cymdeithasol”. Bellach, mae o’u cymharu na’r gyfradd rhwydwaith o
7,531 o bobl anabl sydd yn byw yng Ngogledd Cymru yn egnïol yn gorfforol â 6,207 cyn i’r prosiect ddechrau. Mae hwn yn welliant ond mae’n dal yn is ymysg y boblogaeth nad ydynt yn anabl. Bydd y prosiect yn parhau ac mae arweinwyr iechyd chwaraeon anabl wedi cael eu penodi ar draws y Bwrdd Iechyd.
Ychwanegodd Gary Doherty, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Rwyf wedi fy mhlesio’n fawr gan y Bartneriaeth. P’un ai fel dechreuwr brwdfrydig neu’n athletwr elît yn cynrychioli Cymru, mae’r Bartneriaeth i bawb. Ar ôl gwylio rhai cyfranogwyr yn chwarae mewn clwb chwaraeon anabledd lleol, a siarad â’r chwaraewyr a’u teuluoedd, roedd yn amlwg bod buddion i’r Bartneriaeth o ran popeth o hunanhyder i waith ysgol.” Dywedodd Fiona Reid, Prif Swyddog Gweithredol i Chwaraeon Anabledd Cymru: “Mae DSW yn falch iawn o ganlyniadau’r bartneriaeth hon.
Mae’r llwybr yn amlygu gweledigaeth DSW i drawsnewid bywydau trwy chwaraeon. Mae bod yn egnïol yn gorfforol a chael mynediad i gyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon mor bwysig i bobl anabl ag ydyw i bobl nad ydynt yn anabl – mae cyfathrebu’r hyn sydd ar gael yn hanfodol, ac mae cydweithwyr ym maes Iechyd mewn sefyllfa berffaith i rannu gwybodaeth am y llwybrau hyn. Mae BIPBC wedi arwain y ffordd, mae angen i ni bellach sicrhau nad pobl anabl yng Ngogledd Cymru yn unig sydd yn elwa ar yr ymagwedd ragweithiol hon”. Ewch i www.wales.nhs.uk/dsw am ragor o wybodaeth
Taith Dywys Sain Awtistiaeth - Yr Athro Alka S Ahuja - Seiciatrydd Ymgynghorol Plant a Phobl Ifanc, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ABUHB) Mae symud i’r ysgol uwchradd yn ddigwyddiad o bwys ym mywyd pob person ifanc. Mae ysgol newydd yn golygu cynefin newydd, mwy o faint fel arfer, ac ynddo ofynion mwy cymhleth, ac yn drac sain i’r cyfan mae nifer fawr o seiniau anghyfarwydd a dryslyd, o bosib. Yn achos person ifanc ag awtistiaeth, gall y newid hwn fod yn arbennig o heriol. Gall cefnogaeth wrth baratoi at y newid hwyluso’r broses a gwella’r profiad. Bydd Taith Dywys Sain Awtistiaeth yn helpu pobl ifanc ag awtistiaeth yn ystod y cyfnod hwn o newid I’r ysgol uwchradd drwy eu galluogi i gyfarwyddo â’r seiniau newydd y gallant ddisgwyl eu clywed, a hynny cyn iddynt gyrraedd y lleoliad newydd.
Cafodd y map hwn ei gynllunio i’ch helpu chi i gyfarwyddo â’r gwahanol seiniau byddwch chi’n eu clywed yn yr ysgol. http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/misc/866/soundwalk/index_cy.htm Cliciwch ar y smotiau coch ar y map i glywed y seiniau sy’n berthnasol i’r rhan honno o’r ysgol. Defnyddiwch glustffonau i gael yr argraff fwyaf eglur o’r profiad o fod yn y mannau rheiny. Gall cynhalwyr ac athrawon ddefnyddio’r map sain yn ogystal â’r bobl ifanc eu hunain. Gellir ei chwarae mor aml ag sydd ei angen, a gall osod seiliau cadarn ar gyfer ymgynefino, paratoi a thrafod. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Alka.Ahuja@wales.nhs.uk
Lansio ap newydd i helpu plant a phobl ifanc ag awtistiaeth - Yr Athro Alka S Ahuja - Seiciatrydd Ymgynghorol Plant a Phobl Ifanc, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ABUHB) Mae ap electronig newydd ar gyfer ffonau symudol a theclynnau tabled wedi ei lansio i hwyluso rhannu gwybodaeth â phlant a phobl ifanc ag awtistiaeth a’u cefnogi. Cynlluniwyd ap ‘About Me’ mewn ymateb i adborth gan bobl ifanc ag awtistiaeth, a bydd yn ei gwneud hi’n haws iddynt gael gafael mewn gwybodaeth am eu cyflwr, ei chadw a’i rhannu â gweithwyr proffesiynol. Troswyd i ffurf electronig mewn ymateb i alw gan y bobl ifanc eu hunain. Nod yr ap yw gwneud y plentyn yn ganolbwynt ymarferion clinigol, a bydd yn darparu dull llai costus o rannu gwybodaeth. Amlygodd ymchwil a wnaed yn ardal y Bwrdd Iechyd fod angen gwelliant yn ystod ac ar ôl asesiad diagnostig o awtistiaeth, yn arbennig yn ymwneud â rhannu gwybodaeth oedd yn aml yn arwain at yr angen i ailadrodd hanes unigolyn o apwyntiadau. The Mae’r Pasbort Awtistiaeth yn enghraifft o gydgynhyrchiad llwyddiannus rhwng pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol. Cafodd ei ddatblygu o fewn y Bwrdd Iechyd gan ddefnyddio ffolder bapur, a phobl ifanc ag awtistiaeth fu’n dylunio’r ffolder ar y cyd â gweithwyr proffesiynol. Yn dilyn ceisiadau am fersiwn electronig, crëwyd fersiwn prototeip o Ap gan berson ifanc talentog ag Awtistiaeth, gyda chymorth gan gronfa Tech Iechyd Prifysgol Abertawe. Yn olaf, fe ariannodd Partneriaeth Gwyddoniaeth Academaidd De-ddwyrain Cymru bartneriaeth academaidd a masnachol ar y cyd â’r Gwasanaeth Iechyd rhwng tîm Canolfan Ymchwil Awtistiaeth (CARIAD) Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Prifysgol Abertawe a Smyl Connect, i hwyluso creu’r ap Android. Yn ystod y broses ddatblygu, holwyd barn gweithwyr proffesiynol ym meysydd y gwasanaethau cymdeithasol, y sector wirfoddol a darparwyr technoleg. Mae’r ap symudol newydd, sydd ar gael ar y platfform Android ar hyn o bryd, yn cynnwys gwybodaeth allweddol am unigolion ag awtistiaeth, gan gynnwys proffil o’u hanghenion a’u cryfderau, dyfais i fesur cynnydd y broses asesu a gwybodaeth am wasanaethau cefnogaeth sydd ar gael. Dywedodd yr Athro Alka Ahuja, Seiciatrydd Ymgynghorol Plant a Phobl Ifanc ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ac arweinydd y cynllun: “Mae ap ‘About Me’ yn hygyrch ac yn galluogi i bobl ifanc a’u teuluoedd rannu gwybodaeth allweddol
â gwasanaethau yn achos argyfwng. Bydd yr ap yn help i leddfu pryder a sicrhau priodoli’r math mwyaf addas o gefnogaeth. “Bydd yn ehangu pwyslais gwybodaeth o fod yn ymwneud ag asesiadau proffesiynol yn unig i fod yn nwylo unigolion, a bydd yn eu galluogi i’w defnyddio i wella eu hiechyd a’u gofal.” Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddus: “Mae Cymru wedi
arwain y ffordd ers rhai blynyddoedd bellach ym maes datblygu gwasanaethau a chefnogaeth arloesol i bobl ag awtistiaeth. Dyma’r cam nesaf ar lwybr cyflwyno’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol i bob oed, yn ogystal â fersiwn ddiweddaraf ein darpar Gynllun Gweithredu Strategol ar Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistiaeth. “Mae ap ‘About Me’ yn gyfraniad penigamp i’r gwasanaethau hyn. Drwy wrando ar bobl ag awtistiaeth a chydweithio â nhw, gallwn feithrin gwell ddealltwriaeth o’r hyn all wneud gwahaniaeth go iawn i’w bywydau nhw a’u teuluoedd, ac rwy’n argyhoeddedig y bydd yr ap yn gwneud hynny. Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi gweithio ar ei ddatblygiad.” Ariannwyd datblygiad yr ap symudol gan Her Technoleg Iechyd Cymru. Gellir ei lawrlwytho yn rhad ac am ddim o’r Google Play Store drwy chwilio ‘About Me (autism passport)’ neu drwy’r ddolen hon https://play.google.com/store/ apps/details?id=ua.com.doublekey.aboutm e&hl=en_GB Yn Saesneg yn unig y mae’r ap ar gael ar hyn o bryd.
“Fforwm Anabledd Ceredigion – y daith hyd yn hyn ….” Chesca Ross - Rheolwr Ymgysylltu a Chydweithredu, CAVO Mae Fforwm Anabledd Ceredigion yn llwyfan i hybu dealltwriaeth well o’r heriau sy’n wynebu cymuned yng Ngheredigion, ac i archwilio’r ffordd y gall polisïau a phenderfyniadau Cyngor Sir Ceredigion helpu i ddatrys, yn hytrach na chreu, problemau i’r gymuned. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydym wedi cyflawni cryn dipyn gyda’n gilydd:• Cyhoeddiadau sain gwell ar y gwasanaethau bws. • Archwiliad o barcio hygyrch ym meysydd parcio’r Cyngor Sir. • Taflen wedi ei chyd-gynhyrchu gyda’r Cyngor Sir yn annog busnesau i gadw palmentydd yn glir rhag rhwystrau yng Ngheredigion. • Cyfathrebu electronig gwell gan y Cyngor Sir a’r Cyngor Gwirfoddol. • Mwy o ymwybyddiaeth yn yr awdurdod lleol ynghylch anghenion y gymuned anabl. • Atebwyd llawer o gwestiynau gan y Gymuned Anabl yn ymwneud â chodi sgaffaldiau a rhai’n ymwneud â rheoliadau cadeiriau olwyn ar fysiau ac ystyriaethau’n ymwneud â hygyrchedd fel rhan o ddatblygiadau newydd yng Ngheredigion. • Mae gan y fforwm fewnbwn i nifer o ymgynghoriadau ac mae wedi bod yn rhan o drafodaethau’n ymwneud â datblygiadau newydd fel y rhan yn Amgueddfa Ceredigion a’r ganolfan gyswllt newydd ar gyfer y Cyngor Sir. Y nod yw gwella darpariaeth gwasanaethau i bawb. Cynhelir Cyfarfodydd Agored bob chwarter a chant eu symud ar draws y sir er mwyn sicrhau cyfranogiad eang. Os byddwch yn ein hysbysu ymlaen llaw ynghylch unrhyw ofynion cyfathrebu, cymorth neu hygyrchedd byddwn yn ceisio bodloni’r rhain lle y bo’n bosibl er mwyn sicrhau bod cynlluniau a chyfarfodydd y fforwm yn gynhwysol. Ydych chi’n berson anabl sydd yn byw yng Ngheredigion, yn weithiwr cymorth, gofalwr neu’n gynrychiolydd sydd yn gweithio gyda phobl anabl yn y sir? Os felly, dewch i’r Fforwm Anabledd. Os na allwch ddod eich hun ond yn dymuno cyfrannu, anfonwch e-bost atom neu ffoniwch ni. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Chesca Ross 01570423232 neu yn Chesca.ross@cavo.org.uk Cyfarfodydd i ddod:Cyfarfod Agored – Dydd Mercher 14 Chwefror, 13.00 – 15.00 – Theatr Mwldan, Aberteifi (lleoliad a thestun i’w cadarnhau).
AMSEROEDD CYFFROUS YNG NGHANOLGAN ARWYDDO-GOLWGSAIN Roedd person ifanc o’r enw AMY o Ogledd Cymru ar raglen Countryfile ar y BBC. Mae Amy yn cael ei chefnogi gan prosiect Plant mewn Angen y Ganolfan Arwyddo-Golwg-Sain, a bu Amy a’i theulu yn cael eu ffilmio gan y BBC ynghyd â’r gweithiwr prosiect yn ystod yr wythnosau cyn y rhaglen. Nodwyd stori Amy mewn rhifyn arbennig o Countryfile ar y BBC a ddangoswyd gyda’r nôs ar Sul y 29ain o Hydref 2017 gyda ei ailadroddiad ar ddydd Sul 5ed o Dachwedd 2017. 17 oed yw Amy, ac fe’i ganwyd yn fyddar wedi i’w mam gael “toxoplasmosis” pan yn feichiog. Fe ymunodd Amy a’r gyflwynwraig Ellie Harrison ar grwydr arbennig Countryfile. Ar y rhaglen danghoswyd Amy a phlant a phobl ifanc eraill sy’n cael eu cefnogi gan CAGS yn mwynhau prynhawn allan ar y traeth yn cymeryd rhan mewn gemau, yna yn hwyrach yn yr wythnos fe aethant am Fannau Brycheiniog i gerdded llwybrau’r rhaeadr lle ymunodd y criw gyda theulu, ffrindiau a Lee Thomas o CAGS ar eu taith gerdded ar y diwrnod.
Helpwch i gefnogi CAGS ar www.easyfundraising.org.uk/causes/centreofsign-sight-sound/
Newid i Bobl Anabl ym Mhowys Rhagfyr y 3ydd, Diwrnod Rhyngwladol Personau ag Anableddau'r Cenhedloedd Unedig, yw’r dyddiad i godi ymwybyddiaeth o anghenion a dyheadau pobl anabl. Dros Brydain, ac yn wir y byd, mae pobl anabl yn dod ynghyd, gan nodi’r hyn sydd yn bwysig iddynt ac yn ymgyrchu dros wasanaethau gwell i wella eu bywydau. Ers ei sefydlu yn 2002, mae Anabledd Powys, wedi bod yn rhan o’r broses hon, mewn sawl ffordd. Mae hyn wedi cynnwys cefnogi grwpiau anabledd lleol a rhoi cyngor, gwybodaeth ac eiriolaeth i bobl yn ymwneud â budd-daliadau a gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, yn ogystal â bod yn llais i gymuned anabl Powys. Mae Sir Powys yn wledig iawn ac yn cwmpasu ardal o 5,179 km², gyda phoblogaeth o ryw 133,000. Mae’n cynnwys y tair sir flaenorol sef Brycheiniog, Maesyfed a Threfaldwyn. Mae’r tair ardal yma wedi bod yn sylfaen strwythur lle mae sefydliadau anabledd lleol wedi dod ynghyd. Fel llawer o sefydliadau pobl anabl, y syniad craidd y tu ôl i’w waith yw model cymdeithasol o anabledd. Mae hwn yn gysyniad sydd yn canolbwyntio ar y ffordd y mae cymdeithas yn ymateb i anghenion pobl anabl wrth iddynt fyw eu bywydau bob dydd. Mae hefyd yn ffordd y gall pobl anabl ddiffinio drostynt eu hunain beth yw eu hanghenion a’r ffordd orau o’u bodloni. Gyda hyn mewn golwg, mae gweithrediaeth pobl anabl Powys, hyd yma, wedi canolbwyntio ar grwpiau mynediad. Er bod y sefyllfa wedi amrywio dros y blynyddoedd, ar hyn o bryd mae grŵp mynediad cryf yn Sir Frycheiniog, tra bod y rhai yn Sir Faesyfed a Threfaldwyn yn wannach ond yn datblygu. P’un ai trwy fynediad gwell i adeiladau cyhoeddus neu iselhau a defnyddio peiriannau ATM cyffyrddol, gellir gweld dylanwad y Grwpiau Mynediad hyn ar draws y sir. Bwriad Anabledd Powys yw cefnogi’r gwaith o ddechrau grwpiau anabledd hunangymorth newydd, yn ogystal â gwella’r cysylltiadau gyda’r rheiny sydd eisoes yn bodoli. Y bwriad yw, trwy strwythur grwpiau lleol, y gall Anabledd Powys gyfleu safbwyntiau ac anghenion eu haelodau i Gyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Powys a darparwyr gwasanaethau eraill. Yn y ffordd hon, bydd llais pobl anabl yn cael ei glywed yn well. Un o brif gyflawniadau Anabledd Powys dros y 5 mlynedd diwethaf yw ei ran yn y prosiect Dewisiadau Gwybodus. Derbyniodd y prosiect 3,923 o ymholiadau dros gyfnod o bum mlynedd a chefnogodd 1,662 o gleientiaid i gael gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gwell, yn ogystal ag ymdrin â phroblemau ariannol. Fel parhad o Ddewisiadau Gwybodus, mae Anabledd Powys bellach yn gweithio gyda sefydliadau eraill i ddechrau menter Cenedlaethau Cysylltiedig. Nod hwn yw gwella bywydau pobl hŷn yn y gymuned. Mae Sefydliadau Pobl Anabl wedi bod yn datblygu ym Mhrydain a Chymru ers cyn y 1970au. Mae’n bwysig eu bod yn parhau i gynrychioli safbwyntiau a dyheadau pobl anabl a dod yn ffordd y gall gwneuthurwyr polisïau a darparwyr gwasanaethau fel ei gilydd glywed eu lleisiau. Ni ellir cyflawni’r gwaith o gynnwys pobl anabl oni bai bod y bobl hyn y gallu clywed a gwrando ar yr hyn sydd yn cael ei ddweud. Os hoffech wybod mwy am Anabledd Powys, ewch i’n gwefan disabilitypowys.org.uk neu cysylltwch â ni yn info@disabilitypowys.org.uk Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych.
Theatr Hijinx Ar ddechrau 2016, aeth Clare Williams a Jon Kidd o theatr Hijinx i Lesotho ar ymweliad cwmpasu wedi ei ariannu gan HubCymru Affrica mewn partneriaeth â Dolen Cymru. Ar yr ymweliad hwn fe wnaethant seiclo heibio i dŷ oedd wedi ei baentio fel bwrdd du yn gwahodd pobl oedd yn mynd heibio i ychwanegu eu huchelgais. Fe wnaeth eu taro fel rhywbeth arwyddocaol mewn gwlad lle mae’r disgwyliadau ar gyfer a chan bobl ag anableddau mor isel a lle mae goroesi yn gyflawniad. Ers hynny, maent wedi bod yn codi ymwybyddiaeth ac arian i fynd â 4 actor proffesiynol â Syndrom Down i Lesotho. Ym mis Chwefror 2018, bydd 4 actor o Academi Hijinx yn ymuno â disgyblion o Goleg Rhyngwladol Machabeng ym Maseru a phobl ifanc o gartref plant amddifad Pheilisong i greu darn theatr o’r enw KE LABALABELA HO (Fy uchelgais yw). Byddant yn cyflwyno’r gwaith i blant ysgol, cymunedau anabledd a chanolfannau diwylliannol ar draws y wlad. Am fwy o wybodaeth gweler www.hijinx.org.uk
Anabledd yng Nghymru ac Affrica - Hybu Undod Bydeang Pobl Anabl
I’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru, bydd Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau'r Cenhedloedd Unedig (UNIDPD), ar 3 Rhagfyr, yn mynd heibio fel diwrnod arall yn y calendr. Bydd y syniad y gallai’r dyddiad fod yn gyfle i ddathlu’r hyn y mae pobl anabl wedi ei gyflawni, ac yn ei gyflawni, ym mhell o feddyliau pobl. Os ydym yn lwcus, efallai y byddwn yn cael cyfarfod gyda gwleidyddion a gwneuthurwyr polisïau, mewn ymgais i wasgu addewidion oddi wrthynt yn ymwneud â gwasanaethau cymorth gwell. Fodd bynnag, o ran y cyhoedd, p’un ai eu bod yn anabl neu beidio, 'bydd y diwrnod yn mynd rhagddo fel arfer'. Mae hyn yn wahanol iawn i’r gorymdeithiau a’r cyfarfodydd cyhoeddus fydd yn cael eu trefnu mewn sawl rhan o Affrica. I lawer o bobl anabl yn Affrica, ac yn wir, rhannau eraill o’r byd, dyma eu diwrnod nhw. Dyma’r diwrnod pan fyddant yn siarad dros ddynoliaeth ac yn gwneud ceisiadau cyhoeddus i’w lleisiau gael eu clywed. Bydd llawer yn dadlau na fydd llawer o bobl yn gwrando. Efallai fod rhywfaint o wirionedd yn hyn. Fodd bynnag, y gwahaniaeth sylfaenol rhwng y ddwy ymagwedd yw cyfranogiad y cyhoedd, yn ardaloedd fel Affrica, a’r balchder o fod yn fodau dynol. Ar ddiwedd y dydd, bydd cynnwys anabledd yn digwydd am fod safbwyntiau’r cyhoedd wedi newid nid rhai gwleidyddion yn unig. Mae’r diwrnod yn cael ei ystyried gan lawer ar draws y byd, fel canolbwynt i amlygu brwydr pobl anabl am gyfiawnder a chydraddoldeb. Y thema ar gyfer UNIDPD yn 2017 yw “Trawsnewid i gael cymdeithas gynaliadwy a chadarn i bawb”. Mae hyn yn hybu natur gyffredinol y profiad o anabledd. Mae’n ymwneud â’r ddynoliaeth gyfan ac mae’n llawer mwy na chasgliad o gyflyrau meddygol. Cynhaliwyd y diwrnod am y tro cyntaf ym 1992. Cafodd ei ddatblygu i adeiladu ar y momentwm a ddechreuwyd gan Flwyddyn Ryngwladol Pobl Anabl (1981) a ddatblygodd yn Ddegawd Pobl Anabl y CU o 1983 i 1992. Mae llawer iawn i’w wneud eto cyn y gall llawer o bobl anabl, yn arbennig mewn gwledydd incwm isel a chanolig, gael statws
fel aelodau llawn, gweithredol, cyfartal a chyfranogol yn eu cymuned. Fodd bynnag, mae’n werth cofio’r newidiadau a gyflawnwyd hyd yn hyn. Y gwirionedd yw, mewn sawl rhan o’r byd, byddai datblygiadau wedi digwydd o ran y gwasanaethau a’r dechnoleg sy’n cefnogi pobl anabl a’u teuluoedd. Fodd bynnag, a yw bobl anabl yn agosach at gydraddoldeb? P’un ai’n Nigeriaid â namau symudedd sy’n dweud nad ydynt yn gallu cael mynediad i flychau pleidleisio ac felly’n methu cymryd rhan yn ddemocrataidd, neu bobl fyddar yn Kenya sydd eisiau i’w hiaith arwyddion gael cydnabyddiaeth gyfansoddiadol (a gyflawnwyd yn 2010), neu hyd yn oed pobl anabl yng Nghymru sydd yn ceisio cael mynediad i adeiladau cyhoeddus, nid ymddengys bod unrhyw newid yn digwydd heb lais cryf pobl anabl. Mae deddfwriaeth atal gwahaniaethu mewn grym yn y DU a sawl rhan o Affrica, ond fel arfer mae angen i bobl anabl godi llais, er mwyn gorfodi’r ddeddfwriaeth. Mae hawliau ac anghenion pobl anabl wedi bod yn symud i fyny’r agenda ryngwladol dros y ddwy neu dair blynedd diwethaf. Mae hyn yn rhannol trwy greu Nodau Datblygu Cynaliadwy'r CU (2015), sydd yn ymgorffori llawer o anghenion pobl anabl o fewn eu Targedau a’u Dangosyddion. Roedd y rhain yn datblygu’r Confensiwn ar Hawliau Pobl ag Anableddau a fabwysiadwyd gan y Cenhedloedd Unedig yn 2006. Hyd yn hyn, mae’r Confensiwn wedi cael ei gadarnhau gan 175 o wledydd a’i lofnodi gan 160. Fel pobl anabl, rydym yn profi rhagfarn a gwahaniaethu a ddaw yn sgil anabledd yn ein diwylliannau a’n strwythurau cymdeithasol / economaidd perthnasol. Gall pobl anabl yng Nghymru ganolbwyntio’u sylw ar y toriadau i fudd-daliadau lles, tra bod ein cyfoedion yn Affrica yn debygol o fod yn chwilio am ffyrdd o greu incwm trwy ryw fath o fusnes neu fenter. Fodd bynnag, ar y lefel sylfaenol, mae’r profiad yr un peth. Yn y sefyllfaoedd hyn mae’n ymwneud â ble ddaw’r arian i alluogi’r unigolion perthnasol i fwydo eu hunain a’u teulu. Ar y lefel gyffredinol mae’n ymwneud ag allgáu o ddatblygiad cymdeithasol prif ffrwd. Mae Anabledd yng Nghymru ac Affrica (DWA) yn sefydliad sydd yn hybu undod byd-eang rhwng pobl anabl o Gymru ac Affrica. Rydym yn gweithredu trwy gyfres o gysylltiadau cymunedol a sefydliadol y cyfeirir atynt weithiau fel sector Cymru Affrica. Mae UNIDPD yn ddiwrnod pwysig i ni ddangos undod gyda’n cyfoedion anabl yn Affrica. Gyda’n gilydd gallwn hybu datblygiad sydd yn cynnwys anabledd ble bynnag y byddwn gan greu cymdeithasau a chymunedau lle mae pob dinesydd yn cael ei gynnwys fel aelod gweithredol, cyfartal. Er nad yw DWA yn trefnu digwyddiad ffisegol ar 3 Rhagfyr 2017, rydym yn bwriadu hyrwyddo rhywbeth trwy’r Cyfryngau Cymdeithasol. Byddem yn gwerthfawrogi eich cymorth yn cyfleu ein neges mor eang â phosibl - yn arbennig os ydych yn byw yng Nghymru neu yn Affrica. Neu, gallech ysgrifennu at y wasg leol neu genedlaethol yn eu hysbysu am yr hyn y mae pobl anabl yn ei wneud, wedi ei wneud, ac yn bwriadu ei wneud yn y dyfodol. Efallai yr hoffech gyfathrebu gyda gwleidyddion a phobl ddylanwadol eraill, ar lefel genedlaethol a lleol, i’w gwneud yn ymwybodol o’r hyn y mae’r diwrnod hwn yn ei olygu. Os hoffech wybod mwy am UNIDPD, ewch i’w gwefan Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau - 3 Rhagfyr
Pyncia Llosg Mae rhan hwn o’r e-fwletin wedi’i neilltuo i newyddion gan aelodau’r rhwydwaith. Cewch gyflwyno newyddion ynglyn a gwaith sy’n cael ei wneud yn eich ardal chi, ysgrifennwch erthygl ar ein cyfer, hyrwyddwch ddigwyddiad sydd i ddod neu broliwch am eich cyraeddiaddau! Os ydych chi’n dynuno cyflwyno erthygl ar gyfer yr adran Clecs anfonwch neges e-bost publichealth.network@wales.nhs.uk Ni ddylai’r erthygl gynnwys mwy na 500 o eiriau ac rydym yn croesawu lluniau bob amser!!
Drop-in at the Dock (Rhan o ‘Rwydwaith’ Prosiect Cymheiriaid John Stacey, International Mental Health Collaborating Network
Angen a nodwyd Sefydlwyd Drop-in at the Dock ym mis Medi 2015 ac mae wedi cael ei hwyluso gan Gymunedau yn Gyntaf. Mae Cymunedau yn Gyntaf a PAV wedi cefnogi’r grŵp i ddod yn grŵp cymunedol cyfansoddiadol sydd bellach yn gweithio tuag at fod yn Gwmni Buddiannau Cymunedol (CIC) gyda bwrdd cyfarwyddwyr wedi ymrwymo i weledigaeth a nodau’r sefydliad. Bydd Drop-in at the Dock yn ffurfio rhan o’r ‘Rhwydwaith’ (Teitl Gwaith) newydd. Mae’r Rhwydwaith mewn trafodaethau gyda sefydliadau lleol sydd yn gysylltiedig â datblygu a darparu gwasanaethau i gynnal iechyd a llesiant pobl, yn arbennig unigolion â phryderon iechyd meddwl. Nod y Rhwydwaith yw gweithio’n gydweithredol gyda sefydliadau statudol, trydydd sector/gwirfoddol a sefydliadau preifat. Nodwyd angen gwirioneddol yn ardal Doc Penfro ar gyfer pobl sydd yn gwella o broblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau. Mae pobl â materion iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau a darparwyr gwasanaethau yn yr ardal leol yn cytuno bod angen gwasanaeth adferiad wedi ei arwain gan gymheiriaid. Mae adborth gan bobl sy’n mynychu yn datgan bod Drop-in at the Dock yn llenwi bwlch mewn darpariaeth gwasanaethau. Nid oes unrhyw wasanaeth adferiad sy’n cael ei arwain gan gymheiriaid i gefnogi pobl ar eu taith i adferiad. Mae sefydliad Drop-in at the Dock a’r Rhwydwaith ehangach yn credu y gall pobl ddysgu i hwyluso eu hadferiad eu hunain, dod yn ddinasyddion llawn mewn cymdeithas mewn amgylchedd a system gred sydd yn atal stigma a goddefedd. Mae Drop-in at the Dock a’r Rhwydwaith ehangach yn cynnig opsiynau ategol ac amgen i leoliadau triniaeth presennol. Yn ôl cynllun llesiant Sir Benfro (Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus 2017) amcangyfrifir bod 1 mewn 4 o oedolion yn cael problemau neu salwch iechyd meddwl ar ryw adeg yn ystod eu bywydau. Mae asesu poblogaeth Gorllewin Cymru (Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru 2017) yn nodi bod pobl â materion iechyd meddwl mewn mwy o berygl o gael eu hallgáu yn gymdeithasol a dioddef tlodi ac mae’n gwneud argymhellion ar gyfer ymagwedd gydweithredol gyda’r trydydd sector/sector gwirfoddol i gefnogi datblygu cadernid cymunedol, yn ogystal â mynd i’r afael â’r stigma a’r rhagfarn y mae pobl â materion iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau’n eu hwynebu. Mae gwaith y Rhwydwaith yn ategu’r Gwasanaethau Trawsnewid Iechyd Meddwl (TMHSP) ac mae’n ceisio datblygu rhwydwaith o adnoddau cymunedol a all gefnogi’r person cyfan, ar hyd eu hoes o fewn System Gyfan
tra’n chwalu rhwystrau rhag cael mynediad i wasanaethau hefyd trwy weithredu polisi drws agored sydd yn cael ei arwain yn fwy gan ddefnyddwyr y gwasanaeth. Gellir cysylltu hyn yn uniongyrchol â’r gwaith y mae’r ‘Rhwydwaith’ adferiad yn ceisio ei gyflawni am ei fod yn gwneud y cyfranogwyr a’r gwirfoddolwyr yn ganolog ac yn rym sydd yn ysgogi dyluniad y prosiect. Diben y prosiect Nod y ‘Rhwydwaith’ yw darparu amgylchedd cefnogol, datblygiadol ar y ddwy ochr ar gyfer pobl sydd yn gwella o faterion iechyd meddwl a/neu gamddefnyddio sylweddau neu brofiadau y maen nhw ac eraill yn eu cael yn anodd i’w deall ac ymdopi â nhw. Mae’r grŵp yn rhoi cymorth i’r rheiny sy’n dymuno cymryd rhan a chyfrannu at gymorth gwerthfawr i gymheiriaid er mwyn lleihau ynysu cymdeithasol a datblygu cysylltiadau tra’n cyflawni twf personol, lles meddwl gwell, sydd yn adlewyrchu eu person cyfan a’u hanghenion bywyd cyfan. Disgrifiad o’r prosiect (Cyfeiriwch at y siart llif ychwanegol sydd ynghlwm) Mae ethos yr holl brosiectau yn y ‘Rhwydwaith’ yn cefnogi pobl yn eu hadferiad, gan greu cyfleoedd, datblygu sgiliau, gwneud hyfforddiant a chael cadernid ariannol trwy gyfleoedd gwaith posibl. Mae’r grŵp wedi bod yn gysylltiedig ag ystod o weithgareddau sydd yn cynnwys therapi cerddoriaeth, Qui gong, meddylgarwch/ myfyrio ac wedi symud adnoddau lleol eraill fel rhaglen REACH i ddarparu sesiynau celf a chrefft bob pythefnos tra’n cyflwyno cyrsiau blasu mewn ffotograffiaeth, ioga a sgiliau cwnsela.
Drop-in at the Dock:
Mae ar hyn o bryd yn darparu grŵp adferiad mynediad agored wedi ei arwain gan gymheiriaid unwaith yr wythnos, gyda’r nod o roi cymorth 7 diwrnod yr wythnos. Bydd y sesiwn Galw Heibio yn bwynt cyswllt mynediad cyntaf i’r ‘Rhwydwaith’ gan ddarparu lleoliad hamddenol ac anffurfiol lle gall pobl gyfarfod cymheiriaid o’r un anian mewn adferiad tra’n cael y cyfle i gael mynediad i waith prosiect arall a all gefnogi eu hadferiad, yn arbennig os ydynt yn cael anhawster yn ymwneud ag aelwaeledd, ysfeydd neu reoli gorbryder. Mae rhai cyfranogwyr wedi siarad yn agored am y ffordd y mae’r sesiynau Galw Heibio wedi newid eu bywydau er gwell ac maent wedi ei ddisgrifio fel lle diogel lle gallant fynd i gael coffi a bod yn agored am eu problemau er mwyn cefnogi eu hadferiad.
Therapi Celf
Mae REACH wedi hwyluso sesiynau celf a chrefft rheolaidd
Prosiect Chloe
Prosiect garddio cymunedol a ddatblygwyd gan wirfoddolwr er cof am ei merch brydferth, Chloe. Mae’r prosiect ar hyn o bryd yn gweithio mewn partneriaeth â Greenlinks i greu gardd dawel, groesawgar er mwyn i bobl allu rhannu eu profiadau garddio, a datblygu sgiliau tyfu bwyd. Bydd y bwyd a dyfir yn yr ardd yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu caffis Cymunedol yn y dyfodol a gall gefnogi datblygiad menter gymdeithasol.
Teithiau cerdded/meddylgarwch mewn natur (RECONNECT) Mae’r gwirfoddolwyr yn awyddus i fod yn yr awyr agored a
iawn i fod chysylltu â
yn rhan o brosiect fydd yn eu galluogi natur er mwyn gwella eu lles meddwl.
Symud ymlaen gyda fy adferiad
Mae Symud Ymlaen gyda fy Adferiad yn rhaglen 12 sesiwn sy’n cael ei harwain gan waith grŵp o dan arweiniad cymheiriaid, wedi ei hanelu at y rheiny sydd yn camddefnyddio sylweddau ar yr un pryd â dioddef problemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol, sydd yn ystyried symud allan o wasanaethau triniaeth. Cyfraniad rhanddeiliaid Mae Reconnect yn rhan o’r ‘Rhwydwaith’ a gafodd fynediad i £30,000 o gyllid LEADER yn ddiweddar i gyflwyno cwrs meddwlgarwch mewn natur. Caiff y gwirfoddolwyr eu hyfforddi i gynnal y cwrs a byddant yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol. Mae Gweithredu dros Iechyd Meddwl Gorllewin Cymru (WWAMH) wedi bod yn gefnogol iawn yn datblygu’r prosiectau yn y ‘Rhwydwaith’ ac yn darparu mynediad i hyfforddiant iechyd meddwl ar gyfer y gwirfoddolwyr. Mae Greenlinks wedi galluogi prosiect Chloe, sydd hefyd yn rhan o’r ‘Rhwydwaith’ – i amaethu darn o dir a thyfu eu cnydau eu hunain.
Mae PAVS wedi cefnogi’r grŵp i fod yn grŵp cymunedol cyfansoddiadol ac maent bellach yn y broses o fod yn Gwmni Buddiannau Cymunedol (CIC) er mwyn cael mwy o gyllid. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) yn datblygu pecyn cymorth meddylgarwch ac mae’r cyfranogwyr yn Drop-in at the Dock yn 1 o 3 brosiect peilot yn Sir Benfro Mae DDAS wedi hwyluso hyfforddiant cyffuriau i wirfoddolwyr y ‘Rhwydwaith’ ac maent yn cyfeirio cleientiaid i’r sesiwn galw heibio. Mae Helpu grwpiau i dyfu wedi hwyluso’r hyfforddiant ‘Symud ymlaen gyda fy adferiad’ ar gyfer gwirfoddolwyr yn y sesiwn galw heibio ac mae’r grŵp ar hyn o bryd yn cynnal y rhaglen fel rhaglen dreigl er mwyn i bobl allu ymuno unrhyw bryd. Mae Parciau Cenedlaethol Arfordirol Sir Benfro (PCNPA) wedi cefnogi’r sesiwn galw heibio i gymryd rhan mewn teithiau cerdded bob pythefnos gyda Chymunedau yn Gyntaf a chwblhaodd pedwar o’r gwirfoddolwyr yr hyfforddiant arwain teithiau cerdded i hwyluso eu teithiau cerdded eu hunain. Mae rhaglen REACH (Coleg Sir Benfro) wedi hwyluso hyfforddiant ar gyfer gwirfoddolwyr ac yn cynnal sesiynau celf wythnosol gyda’r nos. Mae adran ystadau Cyngor Sir Penfro (PCC) wedi dyrannu coetir yn Sir Benfro i ganiatáu canolfan awyr agored ar gyfer datblygu gweithgareddau therapiwtig yn seiliedig ar natur yn y dyfodol. Mae PLANT DEWI yn cyfeirio gobeithio parhau i ddatblygu
cyfranogwyr i partneriaeth
Drop-in at gydweithredol
the yn
Dock y
ac yn dyfodol.
Mae Prosiect Green Apple yn aelod o’r Rhwydwaith sydd yn cynnig adnodd cymunedol mewn amgylchedd sydd yn gynaliadwy yn amgylcheddol. Adnodd Cymunedol Green Apple Mae Green Apple Cross yn amgylchedd tawel, iachusol, wedi ei ddatblygu yn seiliedig ar y gred o dderbyn, ymddiriedaeth a phwysigrwydd meithrin a chyfeillgarwch. Bydd pobl yn cael y cyfle i ddatblygu cydberthynas gefnogol, i ailgysylltu ag eraill, datblygu cyfeillgarwch a rhannu profiadau. Gall pobl gael amser a gofod i ganfod eu hunain a’u potensial. groesawu tawelwch, neu fynegi eu hunain, i gael teimlad o ryddid,
Bydd cyfle i siarad a
i bobl rhannu.
Canlyniadau prosiect Mae Drop-in at the Dock wedi cadw cofnod mynychu gan mai dyma yw pwynt cyswllt cyntaf cyfranogwyr newydd. Dros y 6 mis diwethaf, mae 50 o gyfranogwyr newydd wedi ymuno â Drop-in at the Dock a nifer y cyfranogwyr newydd a fynychodd y sesiwn galw heibio rhwng 2016 a 2017 oedd 85. Mae gan y grŵp dudalen Facebook gyda 338 o aelodau ac mae’n postio diweddariadau yn ddyddiol er mwyn cynnwys pawb yn y gweithgareddau. Cynhaliwyd gwerthusiadau ansoddol ar gyfer y cyfnod 2015-16. Am Fwy o Wybodaeth, cysylltwch â Natalie Lang natalie.lang@coop.co.uk neu Gavin Wainwright gavinwainwright@hotmail.co.uk
Meddyliau Iach i Genedlaethau’r Dyfodol: Hybu Lleihau Risg Dementia
14 Rhagfyr 2017 10.00 – 15.20 Canolfan yr Holl Genhedloedd, Cardiff Bydd y seminar hon yn edrych ar y cyfraniadau corfforol, meddyliol a chymdeithasol i gynnal a chadw iechyd yr ymennydd a lleihau risg dementia.
Cofrestrwch yma
Economeg Iechyd ar gyfer Ymarfer ac Ymchwil Iechyd Cyhoeddus CWRS BYR 2 DDIWRNOD YM MHRIFYSGOL BANGOR 19fed—21fed Mawrth 2018
Cyfanswm cost: £775 Pris yn cynnwys:
Prydau bwyd a llety o 4pm ddydd Llun 19fed Mawrth tan 1.30pm Ddydd Mercher 21fed Mawrth yn y Ganolfan Rheolaeth, Bangor (https://www.bangor.ac.uk/management_centre/index.php.cy)
Cyfarwyddwr y cwrs: Yr Athro Rhiannon Tudor Edwards, ynghyd â siaradwyr gwadd. Cofrestru’n cau 28 Chwefror 2018* Unrhyw gwestiwn, cysylltwch â : Mrs Ann Lawton Canolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau Prifysgol Bangor Neuadd Ardudwy Bangor. LL57 2PZ Ffôn: 01248 382153 E-bost: cheme@bangor.ac.uk Am ragor o wybodaeth: http://cheme.bangor.ac.uk/health-economics-course-16.php.cy *Tâl canslo o 10% cyn 28fed Chwefror 2018, 50% ar ôl y dyddiad hwn.
Canfod Cysylltiadau MHM Wales
I bobl 16 oed a hyn gan MHM Wales a KPC
Mae MHM Wales yn hwyluso ei raglen Canfod Cysylltiadau o KPC Youth & Community i unrhyw un 16 oed a hŷn Dysgwch sut rydym yn meddwl a’r hyn rydym yn ei wneud, ac archwiliwch sgiliau ymdopi gwahanol, strategaethau ac arfau i’ch helpu i ymdrin â bywyd yn well.
Cynhelir y sesiynau ar brynhawn Mercher, 1pm - 4pm yn KPC Youth & Community, oddi ar Heol Tafarn y Pîl, y Pîl CF33 6AB Rhaglen 1: 15, 22, 29 Tachwedd Rhaglen 2: 17, 24, 31 Ionawr Yn dilyn y sesiynau, byddwn yn cynnal sesiynau cymorth/gwybodaeth/ hamddenol fel y gallwch barhau i gael cymorth lleol.
Mae’r sesiynau’n gynhwysol, yn rhyngweithiol, yn gefnogol ac yn gyfrinachol ac yn agored i unrhyw un y mae ganddo straen a gorbryder, iselder, problemau iechyd meddwl neu bryderon Bydd gwasanaeth cwnsela un i un hefyd am eu lles cyffredinol. ar gael.
Mae’r sesiynau’n gyfyngedig i 12 y rhaglen, felly cadwch leoedd er mwyn sicrhau bod eich lle’n cael ei gadarnhau. 8Os gallech chi neu rywun rydych yn ei adnabod gael budd o’r sesiynau hyn, cysylltwch: KPC Youth &Community, oddi ar Heol Tafarn y Pîl, y Pîl, Pen-y-bont ar Ogwr CF33 6AB Ffôn: 01656 749219/745399
E-bost: kpcyouth@hotmail.com
MHM Wales: 01656 651450
Adnodd Cymunedol Green Apple
John Stacey - Rhwydwaith Cydweithio Iechyd Meddwl Rhyngwladol Mae Green Apple Cross yn amgylchedd iachaol, heddychlon yn seiliedig ar y gred o dderbyn, ymddiriedaeth a phwysigrwydd meithrin a chyfeillgarwch. Bydd pobl yn cael y cyfle i ddatblygu cydberthynas gefnogol, i gysylltu â’i gilydd ac eraill, datblygu cyfeillgarwch a rhannu profiadau. Gall pobl gael amser a lle i ddarganfod eu hunain a’u potensial. Bydd cyfle i bobl groesawu tawelwch, neu fynegi eu hunain, er mwyn teimlo rhyddid i siarad ac i rannu. Gwerthoedd Arweiniol Un o sylfeini Green Apple yw’r gred bod rhywbeth arbennig ym mhawb a bod gwerth unigryw i bob bod dynol. Mae iechyd a lles yn naturiol yn dilyn o gysylltu’n gynaliadwy â’r tir. Cyflwyniad Mae Green Apple Cross yn safle pedair erw a hanner wedi ei leoli y tu allan i bentref Cosheston. Yr egwyddorion a arweiniodd y datblygiad yw cynaliadwyedd amgylcheddol a ffordd o fyw. Mae’r safle presennol yn cynnwys amrywiaeth o ofod garddwriaethol sy’n rhoi cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau ystyrlon yn seiliedig ar sgiliau. Gellir defnyddio’r coetir a’r mannau agored eraill ar gyfer ystod eang o brofiadau unigol a gweithgareddau grŵp. Mae gan yr adeiladau amgylcheddol gynaliadwy le hefyd ar gyfer amrywiaeth o brofiadau a gweithgareddau therapiwtig, gwellhad a sgiliau bywyd. Mae’r lleoliad heddychlon yn rhoi cyfle i bobl brofi a mwynhau’r pleser syml o ymdoddi i amgylchedd heddychlon sy’n tawelu’n naturiol. Elfen bwysig o’r hyn y mae Green Apple Cross yn ei ddarparu yw’r cyfle i gymryd rhan a gweithio ar y cyd â’r amgylchedd. Bydd pobl yn cael cyfle i wella a chefnogi grymoedd naturiol a bioamrywiaeth tra’n datblygu’r safle. Bydd hyn yn gwella’r profiad i bobl o gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd bioamrywiol cyfoethog. Rhai o lwyddiannau’r safle yw sefydlu Cennin Pedr Dinbych y Pysgod a Briallu yn naturiol, cynyddu nifer y Draenogod ar y safle a phlanhigion a rhywogaethau eraill. Mae buddiolwyr Green Apple yn cynnwys pobl sydd yn aml ar ymylon ein cymunedau a’n cymdeithas: • Pobl â materion Lles Emosiynol neu Iechyd Meddwl. • Pobl ifanc sy’n cael anhawster yn cael mynediad i neu barhau i fynychu addysg prif ffrwd. • Pobl sydd wedi eu hynysu, wedi eu hallgáu o’u cymunedau, yn teimlo nad oes gobaith iddynt o gyflawni dinasyddiaeth a diben ystyrlon. • Pobl ifanc ac oedolion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. • Pobl sydd yn cael adferiad ac yn datblygu ar ôl materion iechyd meddwl/emosiynol a neu iechyd corfforol. • Pobl sydd angen datblygu eu rhwydweithiau a’u sgiliau cymdeithasol. • Gwirfoddolwyr neu brofiadau gwaith. Mae Green Apple yn aelod o ‘Brosiect Cymheiriaid’ wedi ei leoli yn Noc Penfro Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: John Stacey info@johnstace.co.uk
Swyddog Prosiect - Addysg Iechyd Rhyw a Pherthnasoedd Pobl Ifanc (Prosiect JIWSI)
Oriau: Rhan-amser, 21 awr y wythnos Contract: Contract tymor penodol tan fis Medi 2018 (yn y lle cyntaf) Lleoliad: Conwy a Sir Ddinbych Graddfa gyflog: £22,000-£27,000 pro rata am 21 awr Rydym yn chwilio am Swyddog Prosiect rhan-amser i gwmpasu Conwy a Sir Ddinbych. Ydych chi’n gyfarwydd â materion yn ymwneud ag iechyd rhyw sy’n effeithio ar bobl ifanc? Hoffech chi ddarparu addysg iechyd rhyw wedi’i thargedu i grwpiau o bobl ifanc agored i niwed mewn lleoliadau addysg ac yn y gymuned ynghyd â hyfforddiant i bobl broffesiynol? Os oes gennych chi brofiad o weithio ym meysydd addysg neu iechyd neu mewn gwasanaethau ieuenctid ac o leiaf ddwy flynedd o brofiad o ddarparu addysg a hyfforddiant, byddem yn croesawu cais gennych chi. Mae Jiwsi yn brosiect addysg cymunedol yng Ngogledd Cymru sy’n gweithio gyda phobl ifanc agored i niwed o dan 25 oed. FPA yw elusen iechyd rhyw sefydledig y DU a chaiff Prosiect Jiwsi ei gyflawni a’i reoli gan FPA yng Ngogledd Cymru ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Dyddiad cau: Dydd Llun 4 Rhagfyr, 10am Dyddiadau’r cyfweliad: 11, 12, 13 Rhagfyr 2017 Sut i wneud cais: Llenwch y ffurflen gais isod a’i hanfon at sylw Mel Gadd recruitment@fpa.org.uk I gael rhagor o wybodaeth am y swydd hon anfonwch e-bost melanieg@fpa.org.uk Dogfennau ategol Disgrifiad sywdd Swyddog Prosiect JIWSI (PDF) Ffurflen gais (Word) Nodiadau cyfarwyddyd ffurflen gais (PDF)
Chwaraeon a Fi_Y Sgwrs
Byddem yn hoffi gweld cymaint o bobl a sefydliadau â phosib yn cymryd rhan mewn sgwrs gyffrous i ddatblygu gweledigaeth newydd ar gyfer chwaraeon yng Nghymru. Cofiwch leisio eich barn ac ymuno yn y sgwrs Mae chwaraeon yn hwyl ac yn ein helpu ni i fod yn egnïol ac yn iach. Hefyd mae gan chwaraeon bŵer i uno ein cenedl ni gyda'i gilydd a gwella bywydau pobl a ffyniant Cymru.
Mae tua hanner y boblogaeth yn egnïol yn rheolaidd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae mwy a mwy o bobl wedi dewis bod yn egnïol - sy'n grêt. Ond hefyd mae'n rhaid i ni roi sylw i'r rhwystrau - gan gynnwys diffyg arian, amser a hyder - sy'n atal rhai pobl rhag bod yn egnïol drwy chwaraeon. Drwy gydweithio, byddwn yn canfod atebion newydd i rymuso pob cymuned i gymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd, yn unol â'r amcanion polisi sydd wedi'u hamlinellu yn Ffyniant i Bawb. Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth ac ystadegau fel rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru. Dyma pam rydyn ni'n dechrau sgwrs am ddyfodol chwaraeon yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth ac ystadegau ar gael yma http://www.sport.wales/amdanom-ni/am-chwaraeoncymru/chwaraeon-a-fi_y-sgwrs.aspx?lang=cy&
Crynodeb o’r Newyddion Croeso i’r Crynodeb o’r Newyddion! Cliciwch ar benawdau’r eitemau newyddion i fynd at y stori newyddion Iawn ar Wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Yr Amgylchedd Galwad agored ynghylch cyllid a chymorth CNC 2017/18
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wrthi’n sicrhau y bydd £3miliwn ar gael i brosiectau i wella’r amgylchedd ledled Cymru.
Alcohol Dewis o Ddiod yn ‘Pennu Hwyliau Gwahanol’
Mae mathau gwahanol o ddiodydd alcoholig yn newid ac yn ffurfio eich hwyliau mewn ffyrdd gwahanol, yn ôl astudiaeth i yfed ac emosiynau.
Iechyd Meddwl Dementia a phêl-droed: astudiaeth o anafiadau i’r ymennydd i ddechrau ym mis Ionawr
Bydd astudiaeth hirddisgwyliedig i’r cysylltiadau rhwng penio pêl-droed a niwed i’r ymennydd yn dechrau ym mis Ionawr, mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi cyhoeddi.
Clefydau Anrhosglwyddadwy Gall fod ‘buddion iechyd’ i dair paned o goffi’r dydd
Mae yfed coffi’n gymedrol yn ddiogel, a gallai fod rhai buddion iechyd i dair neu bedair paned y dydd, yn ôl adolygiad mawr o astudiaethau, yn y BMJ.
Cliciwch yma am fwy o newyddion ar y wefan Cysyllt Iechyd y Cyhoedd Cymru
Rhagfyr
0 0 0 0 0 1 1
4 5 6 7 7 2 4
Gweithdai gofal a chymorth gyda'i gilydd YHA Caerdydd
Cyflwyniad i Hunan-niweidio a Hunanladdiad Caerdydd
Cynhadledd Blynyddoedd Cynnar 2017 – Creadigrwydd, Gwydnwch a Llesiant yn y Blynyddoedd Cynnar Caerdydd Cefnogi Rhieni i siarad â’u Plant am Ddod i oed, Perthnasoedd a Rhyw Caerdydd Gweithio’n Gadarnhaol gyda Phlant Awtistig yn y Blynyddoedd Cynnar Caerdydd Camau nesaf ar gyfer polisi ar lawer o fraster, siwgr a halen mewn bwyd – rheoleiddio, arloesi a marchnata Llundain Meddyliau Iach i Genedlaethau'r Dyfodol: Hybu Lleihau Risg Dementia Caerdydd
Cliciwch yma am fwy o ddigwyddiadau ar y wefan Cyswllt Iechyd y Cyhoedd Cymru
Cysylltu â Ni Rhif 2 Capitol Quarter Llawr 5 Tyndall Stryd Caerdydd CF10 4BZ www.publichealthnetwork.cymru Os oes gennych unrhyw newyddion neu ddigwyddiadau i’w cyfrannu i’r rhifyn nesaf afonwch nhw at publichealth.network@wales.nhs.uk Dyddiad olaf ar gyfer eu cyflwyno yw’r trydydd dydd Gwener o bob mis.
Rhifyn Nesaf: Cadwch yn
dda y gaeaf hwn