Hydref 2017
Croeso i’r e-fwletin Croeso i rifyn mis Hydref o e-fwletin Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Y thema fis yma yw Digartrefedd. Digartrefedd yw cyflwr pobl heb anheddle, fel tŷ neu fflat. Mae pobl sydd yn ddigartref yn aml iawn yn methu caffael a chynnal tai rheolaidd, diogel, cadarn a digonol. Nid oes rhaid eich bod yn byw ar y stryd i fod yn ddigartref. Gallech fod yn cysgu ar soffa ffrind, yn aros mewn hostel, neu’n byw mewn llety gorlawn neu anaddas - Shelter Cymru, 2017. Mae llawer o erthyglau diddorol yn y bwletin fis yma ac mae llawer o adnoddau’n ymwneud â’n testun dewisol yng nghronfa ddata adnoddau y Rhwydwaith. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at Arolwg Gwerthuso Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru wnaeth gau ar 1 Hydref 2017. Cawsom nifer fawr o ymatebion. Mae’n bleser gennym gyhoeddi mai enillwyr y talebau £25 amazon yw Glenn Little o Dîm Iechyd y Cyhoedd Aneurin Bevan a Jason Celia yn Hafal. Rydym hefyd wedi bod yn cynnal pleidlais i ddiffinio Rhaglen Seminar y Rhwydwaith ar gyfer 2018. Fe wnaeth hwn gau ar 6 Hydref 2017. Byddwn yn cyhoeddi canlyniadau’r arolwg hwn yn fuan. Rydym ar hyn o bryd wrthi’n cynllunio Seminar Dementia a gynhelir ym mis Rhagfyr 2017. Mae manylion y digwyddiad hwn yn y bwletin a chânt eu lledaenu i holl aelodau’r Rhwydwaith. Cysylltwch gydag unrhyw wybodaeth yr hoffech i ni ei chynnwys ar y wefan neu’r e-fwletin trwy gysylltu â ni yn publichealth.network@wales.nhs.uk
@PHNetworkcymru
/publichealthnetworkcymru
www.publichealthnetwork.cymru
Homelessness
Digartrefedd Dan Sylw Mae pobl yn mynd yn ddigartref am nifer o resymau. Mae achosion cymdeithasol i ddigartrefedd, fel diffyg tai fforddiadwy, tlodi a diweithdra; a digwyddiadau bywyd sydd yn achosi unigolion i fod yn ddigartref. Gall pobl fynd yn ddigartref pan fyddant yn gadael y carchar, gofal neu’r fyddin heb unrhyw gartref i fynd iddo. Mae llawer o fenywod digartref wedi dianc o berthynas dreisgar. Mae llawer o bobl yn mynd yn ddigartref am nad ydynt bellach yn gallu fforddio’r rhent. Ac i lawer, gall digwyddiadau bywyd, fel tor-perthynas, colli swydd, problemau iechyd meddwl neu gorfforol, neu gamddefnyddio sylweddau achosi hyn. Gall bod yn ddigartref, yn ei dro, wneud llawer o’r problemau hyn yn fwy anodd byth i’w datrys. https://www.crisis. org.uk/ending-homelessness/abouthomelessness/
Pêl-droed Stryd Cymru a Chwpan y Byd y Digartref: Grym pêl-droed - Charlotte Pitt, Gwirfoddolwr yn Gibran AFC ac Ymchwilydd ym Mhrifysgol Abertawe a Gwasanaeth Prawf Cymru Yn 2003, tra’n gweithio i Big Issue Cymru, cafodd Keri Harris y dasg o gael tîm o bobl ddigartref i gynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd agoriadol y Digartref (HWC). Sylweddolodd Keri fod angen rhaglen ar Gymru oedd yn cynnig cynhwysiant cymdeithasol trwy chwaraeon. Yma, crewyd Pêl-droed Stryd Cymru (SFW): elusen sy’n defnyddio pêl-droed fel offeryn i ymgysylltu rhai o’r bobl fwyaf ddifreintiedig mewn cymdeithas. Ers hynny, mae SFW, a gynhellir bellach gan y grŵp POBL, wedi tyfu’n aruthrol. Maent yn parhau i gynnal cynghreiriau ledled De Cymru, gan gynnal diwrnodau gemau misol a hyfforddiant i’r rheiny sydd wedi wynebu allgau cymdeithasol yn cynnwys problemau iechyd meddwl, y rheiny sydd wedi bod trwy’r system cyfiawnder troseddol, gyda chyfran fawr wedi profi digartrefedd. Fel gwirfoddolwr i Gibran AFC, rwyf yn rheoli tîm sydd yn cystadlu yng nghynghrair SFW y De Orllewin ac rwyf wedi cael fy nharo gan ei effaith wirioneddol. Fel rhywun sydd wedi chwarae a gwylio pêl-droed prif ffrwd trwy gydol fy mywyd, mae wedi bod yn chwa o awyr iach i weld y parch y mae’r chwaraewyr hyn yn dangos at ei gilydd ac at ddyfarnwyr. Mae SFW yn cynnig hyblygrwydd ac yn rhoi cysondeb i lawer sydd wedi cael eu siomi gan y system. Trwy rwydwaith o berthynasau cadarnhaol, mae SFW wedi creu cymuned ac i lawer, ail deulu. Cymru yng Nghwpam y Byd y Digartref Trwy gydol y tymor, mae hyfforddwyr SFW yn chwilio am chwaraewyr ar gyfer yr HWC gyda phwyslais ar y rheiny sydd yn dangos ymroddiad a chwarae teg. Mae’r cyfle blaenllaw hwn yn cael effaith sylweddol ac mae wedi rhoi cyfle i unigolion gynrychioli nid yn unig eu gwlad ond hefyd pobl ddigartref ar draws y byd. Mae wedi eu galluogi i ddatblygu cadernid, gan rannu enillion a cholledion. I’r rheiny sydd erioed wedi bod dramor, erioed wedi cael y cyfle i arddangos eu doniau, mae’n gyfle unwaith mewn bywyd ac yn un y maent yn ei groesawu’n fawr! Cwpan y Byd y Digartref Oslo 2017: 15fed Rhifyn
‘72 o dimau, 54 o wledydd ag un tir cyffredin: Digartrefedd’ Dim ond ychydig fisoedd yn ôl, teithiodd 500+ o chwaraewyr i Oslo a chystadlu yn un o dwrnameintiau mwyaf HWC hyd yma. Cyflawnodd carfan Cymru yn wych gyda’r Dynion yn gorffen yn 3ydd yn eu grŵp a’r Menywod yn dod â Bowlen Cobana adref!
Gwisgo crys Cymru gyda balchder yn Oslo: Y Warriors a’r Dreigiau gyda staff, gwirfoddolwyr a chefnogwyr, yn cynnwys Noddwr SFW, Michael Sheen
“Ers cymryd rhan yn Gibran ac SFW mae fy hyder wedi cynyddu’n sylweddol. Rwy’n gwneud pethau nawr nad oeddwn yn credu y byddem. Mae cael fy ngalw i gynrychioli Cymru wedi bod yn un o eiliadau gorau ein bywydau. Mae wedi rhoi teimlad o falchder i mi” Dai - Gibran AFC a Dreigiau Cymru Mynd i’r afael â Digartrefedd Mae digartrefedd ar gynnydd yng Nghymru ac mae wedi cynyddu 57% ers y llynedd a bydd yn parhau i wneud, yn ôl ymchwil. Mae digartrefedd, wedi’r cyfan, yn adlewyrchiad o’r ffordd y mae cymdeithas yn gofalu am ei phobl mwyaf agored i niwed ac felly mae’n hanfodol ein bod i gyd yn gweithredu. Mae’r SFW a’r HWC yn cynnig ateb i gymhlethdodau digartrefedd. Mae llawer o’r bobl cysylltiedig wedi mynd trwy bywyd yn teimlo eu bod wedi eu gwrthod a’u bod yn ddi-werth. Mae’r defnydd o bêl-droed wedi troi hyn ar ei ben yn gyfan gwbl: gan feithrin hunan-werth a’u galluogi i weld bod unrhyw beth yn bosibl, ac nad oes unrhyw beth allan o’u cyrraedd. Mae’n llawer mwy na gêm yn unig; mae wedi bod yn angor i gannoedd o bobl.
“Mae pêl-droed wedi fy helpu i greu rhywfaint o sefydlogrwydd yn fy mywyd... Rwyf wedi trawsnewid fy mywyd. Nid wyf yn mynd i drwbl rhagor gyda chyffuriau neu alcohol. Rwyf bellach yn mynd adref yn lân at fy nhri o blant.” Dee - Solas Cymru, KSB a Warriors Cymru
Beth nesaf? Mae’r SFW yn gwneud cais i gynnal Cwpan y Byd y Digartref yn y dyfodol agos. Yn fuan, gallem weld chwaraewyr o fwy na 50 o wledydd yn teithio i Gaerdydd i gystadlu am y tlysau sydd ar gael - Cadwch lygaid amdanynt a chefnogwch Gymru! Manylion cyswllt: 01792 572950 www.streetfootballwales.com https://homelessworldcup.org/
Cysylltwch a rhannwch ar twitter! @sfootballwales @homelesswrldcup
Ymchwilio i Wasanaethau Cymorth ar gyfer Pobl sydd yn Gadael y Carchar yng Ngogledd Cymru Ar ddiwedd 2016, comisiynodd Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Cefnogi Pobl Gogledd Cymru (sydd yn cynnwys y 6 awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru), ddarn bach o ymchwil i edrych ar wasanaethau cymorth sydd ar gael ar gyfer pobl sydd yn gadael y carchar. Gwnaed yr ymchwil gan Caroline Humphreys a Tamsin Stirling. Fe’i gwnaed rhwng Ionawr ac Ebrill 2017 ac roedd yn cynnwys pedair prif elfen: • • • •
ymchwil i ddata a gyhoeddwyd a chynlluniau gan asiantaethau perthnasol cyfres o holiaduron a cheisiadau data i awdurdodau lleol a darparwyr cymorth gweithdai, trafodaethau a chyfweliadau, yn cynnwys 16 defnyddiwr y gwasanaeth chwiliad gwe ar gyfer enghreifftiau perthnasol o ymchwil ac ymarfer
Er bod yr ymchwil wedi ei chomisiynu gan RCC Cefnogi Pobl, oerwydd y testun, roedd rhyngwyneb clir gyda gwasanaethau digartrefedd/opsiynau tai yn yr awdurdodau lleol a sefydliadau’r trydydd sector sy’n darparu gwasanaethau i bobl sydd yn ddigartref neu wedi profi digartrefedd. Roedd y timau a’r sefydliadau hyn wedi eu cynnwys o fewn cwmpas yr ymchwil.
Roedd rhai o’r prif ganfyddiadau fel a ganlyn: • mae darparu tai a chymorth yn rhan bwysig o leihau aildroseddu (yn ogystal ag atal digartrefedd). Mae angen i’r tai a’r cymorth fod yn briodol ac mae angen darparu tai/cymorth ynghyd â gwasanaethau eraill er mwyn bodloni anghenion unigolion sydd yn gadael y carchar • ceir ystod o lety a chymorth ar draws y chwe awdurdod y gellir eu defnyddio i gartrefu pobl sydd yn gadael y carchar, yn cynnwys rhai wedi eu hanelu’n bennaf at bobl sydd yn gadael y carchar/troseddwyr. Er gwaethaf hyn, y math o lety a ddefnyddir yn fwyaf cyffredin ar gyfer pobl sydd yn gadael y carchar yw gwely a brecwast • yn gyffredinol, mae’r defnydd o dai â chymorth a thai cymdeithasol gyda chymorth symudol yn is na’r disgwyl o ystyried argaeledd y llety a chymorth a nodwyd yn ystod y gwaith ymchwil hwn • mae gadael y carchar yn bwynt tyngedfennol ac mae gan y mewnbwn cywir a chasglu effeithiol o’r glwyd y potensial i gyfrannu’n sylweddol at atal canlyniadau anfoddhaol yn cynnwys digartrefedd • wrth ganolbwyntio ar yr atebion o ran tai a chymorth sydd eu hangen ar gyfer yr ystod o anghenion a gyflwynir gan bobl sydd yn gadael y carchar, bydd gwaith partneriaeth yn ganolog i sicrhau bod y rhain yn effeithiol; mae ymgysylltu a mewnbwn iechyd (iechyd meddwl) , cyfiawnder troseddol a thai strategol yn hanfodol Mae’r adroddiad ymchwil yn nodi awgrym o ffordd ymlaen ar gyfer y 6 awdurdod gydag agendâu tymor byr a thymor hwy wedi eu gwahaniaethu. Mae argymhellion wedi eu nodi mewn dau brif faes. I ddechrau, gwella’r broses pan fydd pobl yn gadael y carchar ac yn ail, cael y llety a’r cymorth yn iawn, gydag argymhellion am gyflenwad, paru unigolion â’r hyn sydd ar gael a materion amseru. Nid yw’n syndod bod gweithio mewn partneriaeth yn thema arwyddocaol yn yr argymhellion. I ddyfynnu’r adroddiad:
‘Mae tystiolaeth amlwg nad yw tai yn unig yn ddigonol i fynd i’r afael ag anghenion y mwyafrif helaeth o bobl sydd yn gadael y carchar. Er mwyn ymateb i ddyfnder a chwmpas yr her, bydd yn hanfodol bod yr holl asiantaethau perthnasol yn mabwysiadu ymagwedd gofleidiol, sydd, i’r person sydd yn gadael y carchar, yn teimlo bod cymuned o wasanaethau ar gael iddynt sydd yn glir, yn amlwg ac yn hawdd cael mynediad iddi. Bydd hyn yn galw am waith partneriaeth barhaus a di-ball rhwng yr holl asiantaethau perthnasol.’
Mae dogfen ategol i adroddiad yr ymchwil yn cynnwys nodiadau o gyfweliadau gan ddefnyddwyr y gwasanaeth a’r enghreifftiau ymarfer o’r chwiliad ar y we. Mae adroddiad yr ymchwil a’r ddogfen ategol ar gael ar-lein http://www.conwy.gov.uk/en/Resident/Housing/Advice-and-Support/Supporting-People/North-WalesRegional-Collaborative-Committee.aspx
ACE a Digartrefedd? Dywedwch rywbeth newydd
Charlotte Waite - Arweinydd Perthynas Tai ac Ymgysylltu, Profiadau Plentyndod Anffafriol,
(ACE) Cyfarwyddwr Cefnogaeth Hub, Cymru Well Wales Wrth i’r wybodaeth am ACE daro pobl yn eu calonnau a’u meddyliau, mae pobl a sefydliadau yn meddwl ac yn bod yn greadigol ynghylch beth i’w wneud am y peth. Y cwestiwn nesaf fel arfer yw beth felly? Beth mae’n ei olygu i fod yn wybodus am ACE? Onid ydym ni’n gwneud hyn beth bynnag? Mewn llawer o hosteli’r Digartref yn y DU ac yng Nghymru, mae Amgylcheddau Gwybodus yn Seicolegol (PIE) wedi bod yn datblygu ers blynyddoedd. I mi, mae gan y model hwn lawer i’w gynnig i’r agenda ACE a chan fod y ffordd hon o feddwl eisoes wedi cael ei gwerthuso, gall gynnig fframwaith ar wneud gwahaniaeth …. Felly beth ydyw? Wel, ar ei fwyaf sylfaenol, mae’n ymwneud â chydberthynas, sut mae pobl, oherwydd eu profiadau’n ymwneud â’i gilydd a’u byd. Mae’n golygu bod amgylcheddau’n cael eu hysbysu gan ddamcaniaethau a fframweithiau seicolegol. Gallai hyn fod ar unrhyw lefel, o’r ffordd y mae aelodau o staff yn meddwl am y problemau y mae defnyddwyr eu gwasanaeth yn eu hwynebu, neu sut mae protocolau a pholisïau risg yn cael eu hysgrifennu. Hyd at y ffordd y mae adeilad yn cael ei adeiladu a’i gyflunio. Gall damcaniaethau seicolegol helpu staff i ddeall sut maent yn teimlo ac yn meddwl am y ffordd y mae person yn ymddwyn, a all eu galluogi i fod yn fwy ystyriol yn eu hadwaith. Mae’n ddefnyddiol deall sut y gall trawma,
e.e. yn ystod plentyndod neu mewn bywyd bob dydd, effeithio ar y ffordd y mae pobl yn ymdopi â sefyllfaoedd anodd, fel bod staff yn llai tebygol o ffurfio barn am ymddygiad sydd yn anodd neu’n heriol. Gellir hefyd defnyddio fframweithiau seicolegol i helpu defnyddwyr y gwasanaeth i ddeall, pam y gallai fod ganddynt emosiynau cryf mewn ymateb i ymddygiad pobl eraill, wedyn o bosibl yn ymddwyn mewn ffordd nad yw o gymorth iddyn nhw. Mae helpu pobl i ddeall y berthynas rhwng amgyffrediad ac emosiynau, a’r ffordd yr ydym yn ymdopi gyda’r rheiny, yn hanfodol er mwyn helpu pobl i drawsnewid bywydau. Mae deall y ffordd yr ydym yn rhyngweithio â’n hamgylchedd yr un mor allweddol i wella bywydau pobl. Gellir ystyried y systemau sy’n llywodraethu’r ffordd y mae sefydliad yn cael ei redeg, ac felly’r ffordd yr ydym yn ymddwyn, o safbwynt seicolegol. Er enghraifft, sut mae polisi dadfeddiannu’n gweithio? Sut mae preswylydd yn deall bygythiadau o ddadfeddiannu? Sut gallant ryngweithio gyda disgwyliadau negyddol unigolyn o’r ffordd y bydd y byd yn eu trin? Gall deall y ffordd y gall defnyddwyr gwasanaeth amgyffred gweithredu systemau lunio’r gweithrediad hwnnw. Mae’r holl faterion hyn yn cyflwyno cwestiynau, y gellir eu hateb trwy werthuso. Gallwn fesur effeithiolrwydd unrhyw ymyriadau yr ydym yn rhoi cynnig arnynt, trwy fod yn glir am yr hyn yr ydym yn gobeithio neu’n disgwyl ei newid o ganlyniad i’r hyn a wnawn. Dros amser gallai’r data hwn fod yn ddefnyddiol yn dangos a ddylem barhau neu atal ymyrraeth benodol. A yw’n gweithio? Mae Solas Cymru wedi bod yn cynnal PIE yn eu hostel ar George St ar gyfer pobl ifanc sydd yn gadael gofal ers 3 blynedd. Yr Effaith ar Bobl Ifanc: • Mae anghenion seicolegol ac emosiynol yn cael eu deall yn well gan staff • Llai o rybuddion yn cael eu rhoi • Llai o bobl ifanc yn cael eu cofnodi fel pobl coll • Gostyngiad yng nghyfraddau dadfeddiannu ac ymadawiadau nas cynlluniwyd (Dim eleni!) • Cynnydd mewn canlyniadau cadarnhaol ac ymgysylltu ag EET Staff: • Mwy hyderus yn rheoli pobl ifanc ag anghenion cymhleth • Llai o salwch staff, llesiant gwell a bodlonrwydd mewn swydd Sefydliad: • Canlyniadau gwell ar gyfer pobl ifanc â risg/anghenion uwch • Gwaith tîm a chyfathrebu gwell rhwng staff • Cyfraddau cadw staff gwell a llai o drosiant
Dianc i Gefn Gwlad! Fis Mehefin eleni, aeth ein trigolion dewr allan i’r awyr agored i ddysgu sut i goginio ar dân agored a gwneud crefftau coetir. Mae’r Prosiect Coed Actif wedi ei leoli ym Merthyr Tudful a’i nod yw cynnwys pobl yn eu coetir lleol i hybu buddion mannau gwyrdd agored Cymru gyda’r gobaith y bydd hyn yn gwella eu hiechyd a’u lles. Roedd y diwrnod yn llwyddiant ysgubol gydag adborth cadarnhaol gan y cleientiaid a’r trefnwyr. Dywedodd ein cleient Hope wrthym “Roedd gallu cael diwrnod allan gyda fy ffrindiau rhywle gwahanol yn wych” a dywedodd Nathan “Roedd y bobl yn hyfryd ac roedd y prosiect yn greadigol tu hwnt. Cymerodd bawb ran ac nid oedd angen unrhyw anogaeth i gwblhau’r tasgau. Dysgais sut i wneud toesenni a gallaf ddangos i eraill sut i wneud nawr! ”Fe wnaeth ein cleientiaid fwynhau eu profiad a dywedasant ei fod yn wych mynd i ffwrdd o’r dre i gefn gwlad. Roedd Beck Fawcett, gwirfoddolwr Coed Actif eisiau i ni roi adborth i’r grŵp ei fod wedi bod yn amser hir ers i ni weithio gyda thîm mor barchus a brwdfrydig. Roeddent yn parchu’r amgylchedd, yr oedolion a’i gilydd. Roeddwn wrth fy modd gyda’r ffordd y gwnaethant gymryd rhan a’u hystyriaeth yn gwneud paneidiau o de, cario offer a chanmol ymdrech ei gilydd. Roedd gweithio gyda’r grŵp hwn yn bleser.” Ychwanegodd Anna Stickland sydd yn rheoli’r prosiect fod “y grŵp yn bleser i weithio gyda nhw. Cefais ddiwrnod hyfryd ac rwy’n gobeithio y cawsant hwy hefyd. Roddent i gyd yn gwrtais ac yn ymgysylltu ac nid oedd gennyf unrhyw bryderon gyda nhw’n defnyddio’r offer, bod o amgylch y tân na defnyddio’r tegell. Roedd ychydig o rwystredigaeth tra’n dysgu sut i ddefnyddio’r ceffyl naddu ond fe wnaethant ymdrin â hyn yn dda yn bennaf ac roeddent yn dda yn annog ei gilydd. Roedd y staff yn ymddangos fel pe baent yn gweld buddion cael y grŵp allan ac roeddent yn gefnogol iawn.” Byddwn yn gweithio mewn partneriath â Choed Actif Cymru yn y dyfodol er budd ein cleientiaid. Byddwn yn annog unrhyw un â diddordeb yn y prosiect hwn i gymryd rhan. Mae’n brosiect cynhwysol gwych ac mae’n lleol ac am ddim. Mae’r lleoedd yn gyfyngedig felly os hoffech fwy o wybodaeth neu i archebu lleoedd cysylltwch ag Anna Stickland yn actifwoodsmerthyr@smallwoods.org.uk neu ffoniwch 07765 213514.
Podlediad
Fe wnaethoch ofyn i ni am boblediadau ac fe wnaethom wrando! Mae Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gweithio gyda nifer o sefydliadau i greu podlediadau y gellir eu llwytho i lawr a gwrando arnynt wrth fynd. Mae’r holl bodlediadau ar gael yn yr adran ‘Cymrud Rhan’ o’r wefan. Mae’r podlediadau sydd ar gael ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar Iechydsection of the website. Podlediadau sydd ar gael i’w cymeradwyo yw Mynd i’r Ysbyty gydag Anabledd Dysgu, Iechyd Rhywiol a Diod, Gwybod yn Hŷn yn Oedolyn felly cadwch ‘glust’ am ychwanegiadau hyn.
Ymarfer a Rennir
Prosiect y mis yw The Place2Be Caerdydd
Wedi ei leoli mewn chwe ysgol gynradd yng Nghaerdydd, mae’r prosiect yn cefnogi tua 2000 o blant yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig y ddinas. Er mwyn gwneud hyn mae’n darparu gwasanaeth iechyd meddwl integredig, ymatebol, hyblyg, ysgol gyfan; yn cynnwys cwnsela un i un a gwasanaeth hunangyfeirio ar gyfer plant yn ogystal â chefnogaeth i staff addysgu a staff nad ydynt yn addysgu yn yr ysgol, rhieni a gofalwyr.
Mae’r prosiect yn cynnig ystod eang o ymyriadau, yn cynnwys gwaith cyffredinol, gwaith wedi ei dargedu, gwaith unigol a grwp, i fodloni anghenion plant a theuluoedd. Mae’n ymgysylltu ystod o randdeiliaid (rhieni, staff ysgol, a staff gwasanaethau plant eraill) gan weithio tuag at amcan a rennir sef gwella iechyd meddwl plant a rhoi cefnogaeth i rieni a gofalwyr a chaiff ei sefydlu yn system yr ysgol a’i integreiddio i fywyd yr ysgol, ei staff a’i disgyblion o ddydd i ddydd. Os hoffech ychwanegu eich prosiect eich hun i’r Cyfeiriadur Ymarfer a Rennir mae ffurflen arlein hawdd (sydd ond ar gael i aelodau) ac unwaith y caiff ei chymeradwyo gan un o’r cydlynwyr, bydd eich prosiect wedyn yn ymddangos ar y cyfeiriadur. Mae Pecyn Cymorth Hunanasesu hefyd y gellir ei argraffu neu ei lenwi ar-lein ac mae’n galluogi cydlynwyr i sicrhau ansawdd y datblygiad a darpariaeth prosiectau newydd a phresennol. Os oes angen cymorth arnoch yn cwblhau’r pecyn cymorth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu ag un o’r cydlynwyr yn publichealth.network@wales.nhs.uk
Cael Ei Holi Fis yma mae Charlotte Waite dan sylw. Charlotte yw Arweinydd Tai a Digartrefedd yn Hyb ACE Cymru Well Wales yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ble ydych chi’n gweithio ar hyn o bryd a beth yw eich maes arbenigedd?
Rwyf ar hyn o bryd ar secondiad yn Hyb ACE Cymru Well Wales fel arweinydd Tai a Digartrefedd. Sefydlwyd yr hyb i helpu sefydliadau a chymunedau ledled Cymru i ddeall mwy am ACE a’u heffeithiau yn ogystal â pha gamau y gallant eu cymryd i fod yn fwy gwybodus am ACE.
Mae’r e-fwletin fis yma’n rhoi sylw i Ddigartrefedd. Beth yn eich barn chi yw’r prif heriau sy’n ein hwynebu yn mynd i’r afael â’r mater hwn yng Nghymru?
Diwygio lles yw’r her mwyaf o bell ffordd. Newidiadau polisi yw’r rhain o San Steffan sydd y tu hwnt i reolaeth Cymru ac sy’n effeithio’n uniongyrchol ar y cynnydd sylweddol mewn pobl sydd yn cysgu ar y stryd, y cynnydd yn nifer y teuluoedd (â phlant) mewn llety dros dro a’r cynnydd mewn digartrefedd hirdymor. Mae gallu awdurdodau lleol i ymateb i gynnydd mewn digartrefedd wedi ei gyfyngu gan yr opsiynau cyfyngedig sydd ganddynt i roi cartrefi i deuluoedd digartref gan fod gostyngiad sylweddol wedi bod mewn tai cymdeithasol dros y degawdau diwethaf. Nid yw’r sector rhentu preifat wedi lleddfu’r galw chwaith; mae parodrwydd landlordiaid preifat i ymateb i’r galw cynyddol wedi cael ei rwystro gan gapiau ar Fudd-dâl Tai a Chredyd Cynhwysol, sy’n golygu bod rhent naill ai’n anfforddiadwy neu fod y tenant mewn ôl-ddyledion rhent cyn bod eu credyd cynhwysol yn cael ei roi. Torfaen oedd un o’r siroedd cyntaf yn y DU i gyflwyno Credyd Cynhwysol a nododd Bron Afon, (landlord cymdeithasol mawr), fod pobl, ar gyfartaledd, yn aros 9-12 wythnos i’w harian i ddod, nid yw’n syndod felly fod 95% ag ôl-ddyledion rhent.
Beth yw’r neges bwysicaf y dylid ei chyfleu i weithwyr proffesiynol a’r cyhoedd ynghylch digartrefedd?
Gall neb osgoi gweld blancedi wrth ddrysau ac efallai cerdyn esbonio, ‘perthynas wedi chwalu’, gan y rheiny sy’n gobeithio cael eu gweld fel bodau dynol nid problemau cymdeithasol diwyneb. Byddai’n llawer mwy anodd rhoi’r canlynol ar gerdyn: trais a cham-drin domestic; methu parhau i fyw gyda theulu; dim llety ar ôl cael fy rhyddhau o’r carchar; dadfeddiannu o dai cymdeithasol a methu cael mynediad i dai cymdeithasol oherwydd torri rheolau tenantiaeth blaenorol; dadfeddiannaeth o hostel argyfwng; ôl-ddyledion rent, incwm isel a materion budd-daliadau. Neu hyd yn oed, fel y dywed pob adroddiad bron ar ddigartrefedd awdurdod lleol: problem iechyd meddwl neu hyd yn oed: profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Dyma’r rhesymau pam y mae pobl yng Nghymru’n mynd yn ddigartref. Nid yw’n wir ein bod i gyd ddau gyflog misol i ffwrdd o’r strydoedd ein hunain. Mae gan y rhan fwyaf ohonom y cadernid, yr adnoddau a’r rhwydweithiau i ymdopi mewn cyfnod heriol, ond os nad yw hyn yn wir, mae’r system yn eich herbyn. A dyna lle mae’r broblem. ….Felly mae angen i ni WNEUD rhywbeth, helpu mewn rhyw ffordd, rhoi arian, rhoi bwyd, rhoi hatiau, rhoi pebyll …Mae’r rhain yn weithredoedd tosturiol wedi eu bwriadu i leddfu dioddefaint a’n hanesmwythdra ein
hunain. Ond os ydym yn parhau i ganolbwyntio ar argyfwng, byddwn bob amser yn cael argyfwng. Nid yw lleddfu argyfwng yn mynd i’r afael â’r rhesymau pam y mae pobl yn mynd yn ddigartref ac yn fy meddwl i, dyna’r ateb….mae angen i ni weithio’n ‘uwch i fyny’ a bod yn greadigol am ataliaeth.
Ydych chi’n credu y gallai Cymru wneud mwy i wella digartrefedd?
Mae Cymru eisoes yn arwain y byd yn ei hymateb deddfwriaethol i ddigartrefedd. Yn unol â Deddf Tai Cymru (2014), mae’n ofynnol ar bob awdurdod lleol yng Nghymru bellach i weithio gydag unrhyw un sydd yn wynebu digartrefedd, p’un ai oherwydd teulu’n chwalu, ôl-ddyledion rhent neu forgais neu ddadfeddiannu, ac i helpu pawb sydd yn mynd yn ddigartref mewn gwirionedd, yn hytrach na’r rheiny sydd yn cyrraedd trothwyon penodol o flaenoriaeth o ran angen. Mae hyn yn cael ei gydnabod fel deddfwriaeth fraenaru, mae cynghorau Cymru wedi trawsnewid y ffordd y maent yn gweithio trwy ymyrryd yn gynt ac yn fwy creadigol i atal digartrefedd. Ymddengys fod effaith y ddeddfwriaeth yn gadarnhaol gyda mwy o bobl yn cael eu hatal rhag mynd yn ddigartref nag o’r blaen er bod y cynnydd yn y bobl sy’n agored i ddigartrefedd oherwydd diwygio lles yn cuddio’r effaith. Ond er gwaethaf heriau strwythurol enfawr, mae sylfeinydd y Big Issue yn eu disgrifio fel “ffensys ar ben y clogwyn ac nid yr ambiwlansau ar y gwaelod”. Wrth gwrs mae mwy i’w wneud, er bod y Ddeddf yn gam i’r cyfeiriad cywir gallem roi mwy o gymorth i staff ac arweinwyr Tai a Digartrefedd i ddatblygu cadernid a chydberthynas ar gyfer y rheiny sydd mewn perygl neu eisoes yn ddigartref ond hefyd ar gyfer ei gilydd. Gall gweithio gyda phobl mewn angen dirfawr, gyda phroblemau cymhleth, fod yn anodd ac os nad ydym yn rhoi’r sgiliau a gofal i[‘n staff wneud hyn yn dda, yna gall y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu fod mewn perygl, beth bynnag y dywed y Ddeddf. Er mwyn datblygu cadernid a chydberthynas mae angen i ni hefyd feddwl am amseru; mae’r bygythiad o ddigartrefedd yn ynysu, yn frawychus, yn fychanol ac yn peri straen, yn ddiddiwedd ac mae hefyd yn flinderus. Yn y cyd-destun meddyliol hwn gallwn ddisgwyl i ddatrys problemau ddechrau, i adnoddau gael eu canfod, ffurflenni i’w llenwi, llwybrau i’w dilyn, contractau a chyllidebau i gael eu cadw … “There is nothing in the prospect of a sharp, unceasing battle for the bare necessities of life, to encourage looking ahead, everything to discourage the effort” (Jacob Ribs, How the Other Half Lives)
Pe byddech yn cael tri dymuniad beth fyddent?
1. 1. Gwneud ffyrdd o weithio sy’n wybodus yn Seicolegol yn flaenoriaeth. 2. 2. Gwireddu Tai yn Gyntaf yng Nghymru (ymagwedd sydd yn cynnig tai parhaol, fforddiadwy mor gyflym â phosibl i unigolion a theuluoedd sydd yn ddigartref, ac yna’n darparu gwasanaethau cefnogol a chysylltiadau i’r cymorth cymunedol y mae pobl ei angen i gadw eu tai ac osgoi dychwelyd i ddigartrefedd). 3. Ennill Strictly gydag Alijaz
Beth yw eich diddordebau/hobïau personol?
Breuddwydio (nid yn ystod oriau gwaith wrth reswm), ceisio cadw’n heini, wrth fy modd yn cerdded, mynd i’r theatr ac ychydig o ysgrifennu, cael hwyl gyda’r plant gyda nosweithiau ‘cariadus’ lle maent yn cael dewis yn gyfan gwbl yr hyn yr ydym yn ei wneud ac yn ei fwyta, felly rwyf wedi mwynhau (!) sawl noson yn chwarae monopoly, yn gwneud sleim ac yn bwyta siwgr yn bennaf.
Pyncia Llosg Mae rhan hwn o’r e-fwletin wedi’i neilltuo i newyddion gan aelodau’r rhwydwaith. Cewch gyflwyno newyddion ynglyn a gwaith sy’n cael ei wneud yn eich ardal chi, ysgrifennwch erthygl ar ein cyfer, hyrwyddwch ddigwyddiad sydd i ddod neu broliwch am eich cyraeddiaddau! Os ydych chi’n dynuno cyflwyno erthygl ar gyfer yr adran Clecs anfonwch neges e-bost publichealth.network@wales.nhs.uk Ni ddylai’r erthygl gynnwys mwy na 500 o eiriau ac rydym yn croesawu lluniau bob amser!!
O’r Drws i’r Ddesg – Annog partneriaid i gydweithio i helpu mwy o blant i gerdded neu feicio i’r ysgol
Mae angen i bob plentyn fod yn egnïol bob dydd. Fodd bynnag, dim ond 36 y cant o blant a phobl ifanc yng Nghymru sydd yn cyflawni’r 60 munud o weithgaredd corfforol a argymhellir bob dydd. Mae tystiolaeth yn dangos bod cerdded a beicio i’r ysgol yn ffordd effeithiol o ddatblygu mwy o weithgaredd corfforol i fywyd plentyn. Fodd bynnag, mae ffigurau o Arolwg Cenedlaethol Cymru yn dangos bod 49 y cant o blant oed ysgol gynradd yn cerdded i’r ysgol yn rheolaidd; a dim ond 2 y cant sydd yn beicio i’r ysgol yn rheolaidd. Gwyddom hefyd, hyd yn oed ar gyfer teithiau o lai na hanner milltir i’r ysgol y bydd 30 y cant o blant yn mynd yn y car. Hoffem weld plant yn teimlo’n hyderus ac yn cael eu cefnogi i wneud cerdded a beicio yn ddewis cyntaf ar gyfer mynd o gwmpas.
Dyna pam y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi sefydlu grŵp rhanddeiliaid cenedlaethol gyda chynrychiolwyr o ystod eang o sefydliadau. Mae’r grŵp yn cydweithio ar raglen weithredu ar y cyd i gynyddu lefelau cerdded a beicio i’r ysgol yng Nghymru. Cydweithredodd rhanddeilliaid i greu’r adnodd gweledol a’r animeiddiad O’r Drws i’r Ddesg. Gellir defnyddio’r rhain i annog partneriaid, asiantaethau lleol a chenedlaethol, i gydweithio i wneud gwelliannau bach, fydd yn cael effaith fawr ledled Cymru. Mae rhieni a phlant yn cael eu dylanwadu gan lawer o ffactorau pan fyddant yn penderfynu sut maent yn mynd i gyrraedd yr ysgol, yn cynnwys nodweddion ffisegol ble maent yn byw a sut mae’n teimlo i deithio drwy eu cymuned. Gall gweithwyr proffesiynol o sectorau amrywiol, yn cynnwys; cynllunio, tai, trafnidiaeth, yr heddlu a’r amgylchedd, gyda’i gilydd gyfrannu at greu gofod gwell sydd yn gwneud cerdded neu feicio i’r ysgol yn ddewis haws. Gallai teithio egnïol i’r ysgol chwarae rhan arwyddocaol yn datblygu Cymru iachach, hapusach a thecach, yn ogystal â chyfrannu at gymdeithas carbon is, a chymunedau gydgysylltiedig, mwy diogel. Sut gallwch chi gyfrannu at wneud cerdded a beicio i’r ysgol yn ddewis haws? Ymunwch â’r sgwrs yn #DoorstepToDesk
WE CAN HELP YOU WITH:
Eligibility You must be:
Training Opportunities 1:1 Support
Living in one of the counties listed below:
Conwy
Denbighshire
Anglesey or
Gwynedd
Volunteering
CV Writing
Your Confidence/
Interview Skills
The OPUS Team can support you on your journey to work, volunteering and training.
Over 25
Self esteem
Not in work, education or training.
Job Searching
Contact our OPUS Team today opus@gwynedd.llyw.cymru
01286 682730
Gall y Tîm OPUS eich cefnogi ar eich siwrnai i’r gwaith, gwirfoddoli a hyfforddi. SGILIAU
HYFFORDDIANT
Cyfleoedd hyfforddiant
Chwilio am waith
Gwirfoddoli
Cefnogaeth1:1
GWIRFODDOLI
GWAITH
Llunio CV/ Sgiliau cyfweliad
Eich hyder /
Dros 25 oed Byw yn un o’r siroedd a restrwyd isod: - Conwy - Sir Ddinbych - Ynys Môn neu - Gwynedd Di-waith am dros 12 mis Dim yn edrych am waith, nac mewn addysg na hyfforddiant.
Hunan barch
opus@gwynedd.llyw.cymru
Wedi ei drefnu gan Place2Be, elusen iechyd meddwl plant blaengar y DG. Yn Addas ar gyfer: pobl sydd â
diddordeb mewn cwnsela neu weithio gyda phlant a phobl ifanc
Mae Gwobr Lefel 2 Place2Be yn weithgar,
Pryd: Un dydd yr wythnos (Dydd Gwener)
ymarferol ac wedi ei ganoli ar y plentyn
am wyth wythnos Ble: Hyb Ystum Taf a Gabalfa, Gabalfa Avenue, Caerdydd, CF14 2HU.
Yr hyn fyddwch chi’n ei ennill: •
Medrau a Theori Cwnsela
•
Technegau i wella cyfathrebu gyda phlant
•
Hunan Ymwybyddiaeth
•
Dealltwriaeth o Ddamcaniaeth Ymlyniad
Pris: £450 Y Camau nesaf: Cyn gwneud cais am
Wobr Lefel 2 Place2Be, bydd angen i chi archebu eich lle ar ein Diwrnod Blasu er mwyn gweld os yw’r cwrs yn addas ar eich cyfer.
Diwrnodau Blasu: Hydref 6, Hydref 20, Tachwedd 20 2017
Mae’r Cymhwyster Lefel 2 hefyd yn cynnig llwybr dilyniant tuag at hyfforddiant cwnsela
Gwobr Lefel 2 Award: Rhagfyr 1 2017– Chwefror 9 2018
pellach. Os hoffech fwy o wybodaeth neu i archebu eich lle ar ein Diwrnod Blasu , byddwch cystal ag ymweld â’n gwefan www.place2be.org.uk/qualify neu dewch i gyswllt â ni ar: qualify@place2be.org.uk | 0207 923 5558
Crynodeb o’r Newyddion Croeso i’r Crynodeb o’r Newyddion! Cliciwch ar benawdau’r eitemau newyddion i fynd at y stori newyddion Iawn ar Wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ysmygu Ffigyrau newydd yn amcangyfrif marwolaethau a achosir gan smygu
Mae amcangyfrifon newydd a gyhoeddwyd gan Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru’n awgrymu bod dros 5,000 o farwolaethau bob blwyddyn yng Nghymru wedi eu priodoli i smygu, sef tua un ym mhob chwech o’r holl farwolaethau ymysg pobl 35 oed ac yn hŷn.
Pobl Hŷn Mae dweud wrth yr henoed i’w chymryd hi yn araf deg yn ‘gamgymeriad sy’n costio biliynau i’r DU’
Mae annog pobl hŷn i’w chymryd hi yn araf deg yn niweidio eu hiechyd ac yn costio biliynau i’r Deyrnas Unedig mewn gofal cymdeithasol, yn ôl arbenigwyr mewn heneiddio.
Iechyd Meddwl Cwsg a Hwyliau gydag Anhwylder Deubegynol
Mae tystiolaeth yn awgrymu y gall colli cwsg, yn ogystal â bod yn symptom craidd ac yn arwydd cynnar o gyfnodau diffyg hwyl ymysg pobl ag anhwylder deubegynol, hefyd achosi ailwaeledd, gorffwylledd yn arbennig.
Plant a Phobl Ifanc Cynnydd o 15% mewn Sesiynau Cwnsela Childline Ynghylch Hunanladdiad
Y llynedd, cynhaliodd Childline gyfartaledd o 62 o sesiynau cwnsela ynghylch hunanladdiad bob dydd.
Cliciwch yma am fwy o newyddion ar y wefan Cysyllt Iechyd y Cyhoedd Cymru
Tachwedd
0 0 1 1 2 2 2
7 8 4 6 2 4 8
Sut y gall deall Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod helpu i ddarparu gwasanaethau mewn ffordd integredig Weminar Dyfodol Chwaraeon 2017: O'r Blynyddoedd Cynnar i Gyflogaeth Llundain
Allai rheoliadau diwygio tir Albanaidd gael eu cyflwyno yng Nghymru? Prifysgol Glyndwr Pobl Ifanc, Rhywioldeb a’r Byd Digidol (cwrs FPA newydd yng Nghymru) Hen Golwyn Llesiant a iechyd meddwl ymhlith plant a phobl ifanc Caerdydd Cyflwyniad i Gofrestru Proffesiynol ar gyfer Ymarferwyr Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru Conwy Business Centre, Llandudno Junction Cyflwyniad i Hunan-niweidio a Hunanladdiad Conwy
Cliciwch yma am fwy o ddigwyddiadau ar y wefan Cyswllt Iechyd y Cyhoedd Cymru
Y Bwrlwn Iechyd
Street Link Rydym yn wasanaeth sy’n galluogi i’r cyhoedd dynnu sylw awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr at bobl sy’n cysgu allan yn eu hardal. Rydym yn cael ein hariannu gan y Llywodraeth fel rhan o’i ymrwymiad i roi terfyn ar gysgu allan. Rydym yn ceisio rhoi cyfle i’r cyhoedd weithredu wrth weld rhywun yn cysgu allan, a chynnig y cam cyntaf y gall rhywun ei gymryd i sicrhau bod pobl sy’n cysgu allan yn dod i gysylltiad â’r gefnogaeth a’r gwasanaethau lleol sydd ar gael iddynt.
Cysylltu â Ni Rhif 2 Capitol Quarter Llawr 5 Tyndall Stryd Caerdydd CF10 4BZ www.publichealthnetwork.cymru Os oes gennych unrhyw newyddion neu ddigwyddiadau i’w cyfrannu i’r rhifyn nesaf afonwch nhw at publichealth.network@wales.nhs.uk Dyddiad olaf ar gyfer eu cyflwyno yw’r trydydd dydd Gwener o bob mis.
Rhifyn Nesaf: Diwrnod R
Rhyngwladol Pobl ag Anabledd