PHNC Sept Bulletin Welsh HQ

Page 1

June 2017

Medi 2017


Croeso i’r e-fwletin Croeso i rifyn mis Medi o e-fwletin Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Y thema fis yma yw Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn cydnabod Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ar 10 Hydref bob blwyddyn. Mae’r diwrnod yn gyfle i “bob rhanddeiliad sydd yn gweithio ar faterion iechyd meddwl siarad am eu gwaith, a beth arall sydd angen ei wneud i wneud gofal iechyd meddwl yn realaeth i bobl yn fyd-eang”. TThema eleni a bennwyd gan Ffederasiwn Iechyd Meddwl y Byd yw iechyd meddwl yn y gweithle. Daw’r cyfle i ennill £25 mewn Talebau Amazon i ben yn fuan!!! Rydym wrthi’n gwerthuso’r Rhwydwaith i sicrhau ein bod yn parhau i wella’r wefan ac e-fwletinau ac yn darparu digwyddiadau sydd fwyaf defnyddiol i aelodau. Rydym wedi cael nifer fawr o ymatebion hyd yn hyn ond os hoffech gymryd rhan yn y raffl fawr, cwblhewch ein harolwg byr drwy’r ddolen ganlynol https://www.research. net/r/G7YN75D Rydym hefyd wedi bod yn cynnal arolwg i ddiffinio Rhaglen Seminar y Rhwydwaith ar gyfer 2018. Mae hyn i fod i ben ar 6 Hydref 2017 am 12pm felly os hoffech weld seminar arbennig ar ein rhaglen ar gyfer y flwyddyn nesaf, yna mae angen i chi gael pleidleisio!!! https://www.research.net/r/ F66MNHX Rydym yn cynllunio mwy o ddigwyddiadau a gynhelir o fis Tachwedd ymlaen. Cyn gynted ag y byddwn wedi cadarnhau’r manylion, byddwn yn lledaenu’r wybodaeth i’n haelodau. Cysylltwch gydag unrhyw wybodaeth yr hoffech ei chynnwys ar y wefan neu e-fwletin trwy gysylltu â ni yn publichealth.network@wales.nhs.uk


@PHNetworkcymru

/publichealthnetworkcymru

www.publichealthnetwork.cymru


Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd - G


Gadewch i ni Gweithio Gyda’n Gilydd

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd Dan Sylw Mae 10 Hydref 2017 yn ddyddiad pwysig: Byddwn yn dod ynghyd i ddathlu Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd am y 25ain tro! Sefydlodd y Ffederasiwn Iechyd Meddwl y diwrnod ymwybyddiaeth ym 1992 ac ers hynny mae pobl ar draws y byd yn cynnal digwyddiadau, yn gwneud cyhoeddiadau ac yn dathlu #DiwrnodIechydMeddwlyByd. Mae materion iechyd meddwl yn cynyddu absenoldeb gweithwyr, yn lleihau cyfraddau cynhyrchiant ac yn cynyddu costau. Bydd pecyn eleni gan Ffederasiwn Iechyd Meddwl y Byd yn cyfrannu at dynnu iechyd meddwl allan o’r cysgodion yn y gweithle fel bod gan gwmnïau a phobl yr offer i helpu gweithwyr a gwella lles meddwl cyffredinol y gweithle. Gweler mwy yma https://www.wfmh.global/ wmhd-2017/


Adolygiad Cynnar o Goncordat Gofal mewn Argyfwng Iechyd Meddwl Cymru – Crynodeb o Ganfyddiadau’r Ymchwil Mae ffocws y Concordat Gofal mewn Argyfwng Iechyd Meddwl (MHCCC) ar wella ansawdd ac argaeledd gwasanaethau, gyda phwyslais ar bobl mewn argyfwng iechyd meddwl aciwt. Ei brif amcan yw atal troseddoli pobl sy’n cyflwyno problemau iechyd meddwl. Mae uwch arweinwyr o asiantaethau a gwasanaethau gwahanol, yn cynnwys pob Bwrdd Iechyd, Lluoedd Heddlu Cymru, Gwasanaethau Tân Cymru a’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ymysg eraill, wedi ardystio’r MHCCC fel arwyddo o ymrwymiad a rennir i roi cymorth mewn argyfwng iechyd meddwl. Cafodd Concordat Gofal mewn Argyfwng Iechyd Meddwl Cymru (MHCCC) ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2015. Mae Bwrdd Cenedlaethol Grŵp Gorchwyl a Gorffen (NTFG) wedi arwain datblygiad yr MHCCC a’r cynlluniau gweithredu lleol yng Nghymru. Bydd y cynlluniau hyn bellach yn cael eu gweithredu dros y misoedd i ddod. Archwiliwyd profiadau pobl oedd yn gysylltiedig â datblygu cynlluniau gweithredu’r Concordat Gofal mewn Argyfwng Iechyd Meddwl ar draws Cymru yn y gwerthusiad byr, cynnar hwn. Y nod oedd nodi cyfleoedd a bylchau sydd wedi dod i’r amlwg a darparu dysgu i lywio’r gwaith o gyflwyno’r MHCCC. Prif Ganfyddiadau • Roedd cyfleodd i symud oddi wrth feddylfryd seilo a cheisio darparu gwasanaeth sydd yn bwysig i bobl yn cael ei ystyried yn bwysig. • Mae’r heriau yn dwyn yr MHCCC ymlaen mewn ardaloedd lleol yn cynnwys cytuno ar flaenoriaethau, gweithio o fewn cyfyngiadau ariannol a chynnal momentwm. • Mae cynlluniau cyflenwi lleol yn cynnwys syniadau arloesol a meysydd arfer da • Mae angen cefnogi llwybrau gofal mewn argyfwng gyda threfniadau gwneud penderfyniadau clir a chyngor clinigol amser real lle y bo’n briodol. • Dylai gofal fod yn seiliedig ar egwyddorion adferiad a dylai drin pobl â thosturi ac urddas. • Mae cynnwys pobl sy’n defnyddio gwasanaethau a gofalwyr yn fuddiol iawn a gall sicrhau bod gwasanaethau a ddarperir yn bodloni anghenion pobl Mae’r Concordat Argyfwng yn amlygu’r angen am bartneriaethau, gan fod iechyd meddwl yn fater cynyddol i bob partner (…). Mae hefyd yn rhoi gofod i bartneriaid ddeall ymagweddau a gwaith ei gilydd yn well. (CC 10) Argymhellion • Parhau i ddatblygu a chryfhau sefydliadau cydweithio tra’n symud o ymagwedd sy’n canolbwyntio ar dasgau i feddylfryd systemau • Ystyried anghenion data cyffredinol er mwyn galluogi newid dogfennau a chymharu darpariaeth gwasanaeth ar draws Cymru • Parhau i alluogi cyfranogiad ystyrlon ar gyfer pobl sy’n defnyddio gwasanaethau a’u gofalwyr yn ystod pob cam gweithredu Mae achos dros optimistiaeth a chyffro wrth edrych ymlaen at weithredu’r MHCCC. Ond, megis dechrau y mae’r gwaith ac mae’r gwerthusiad byr hwn wedi nodi nifer o feysydd fydd yn bwysig i ddyfodol gofal mewn argyfwng. Anne Krayer a Catherine Robinson. Canolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Bangor. Am fwy o wybodaeth am y gwerthusiad, cysylltwch â: a.krayer@bangor.ac.uk Gallwchddodohydi’rMHCCCyma:http://gov.wales/topics/health/publications/health/reports/concordat/?lang=cy Ariannwyd y gwerthusiad hwn gan Lywodraeth Cymru Diolchwn i’r holl gyfranogwyr am rannu eu profiadau.


Chwarae: Iechyd a Lles Meddwl Mae chwarae yn ganolog i iechyd a lles corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol plant. Trwy chwarae, mae plant yn datblygu cadernid a hyblygrwydd, gan gyfrannu at les corfforol ac emosiynol ac mae chwarae wedi ei gysegru yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Derbynnir yn eang bod chwarae cynnar ar gyfer babanod a phobl ifanc yn hanfodol i ddatblygu eu dychymyg, eu gallu i gymryd risg, gweithredu gwybyddol, sgiliau corfforol a chydweithrediad cymdeithasol, a bod chwarae a ddewisir yn rhydd ymysg y glasoed yn ffurfio llwybrau eu hymennydd cymdeithasol. Trwy chwarae, mae plant yn datblygu cadernid a hyblygrwydd, gan gyfrannu at lesiant corfforol ac emosiynol. Ar gyfer plant eu hunain, chwarae yw un o agweddau pwysicaf eu bywydau; maent yn gwerthfawrogi amser, rhyddid a mannau o ansawdd i chwarae ynddynt. Mae ymgynghoriadau gyda phlant a phobl ifanc yn dangos bod yn well ganddynt chwarae yn yr awyr agored i ffwrdd o oruchwyliaeth oedolion. Yn y sefyllfa hon, mae plant yn tueddu i ymestyn eu hunain yn gorfforol ac yn emosiynol i raddau ehangach nag y byddent pe byddent yn cael eu goruchwylio. Mae gan blant awydd cynhenid i chwarae – mae ymchwil yn awgrymu bod chwarae yn cael effaith ar ddatblygiad corfforol a chemegol yr ymennydd – mae’n dylanwadu ar allu plant i addasu i, goroesi, ffynnu a ffurfio eu hamgylcheddau cymdeithasol a chorfforol. Mae chwarae’n cyfrannu at lesiant a chadernid bodau dynol - yn arbennig rhai ifanc. Mae cael mannau croesawgar, digon o amser a chwmni ar gyfer chwarae bob dydd, yn rhoi canlyniadau rhagorol i bob plentyn a pherson ifanc - fel oedolion, mae angen i ni feithrin amgylcheddau sy’n cefnogi hyn. Chwarae a llesiant emosiynol Mae chwarae yn caniatáu rhyngweithio rhwng cymheiriaid sydd yn gydrannau pwysig o lesiant cymdeithasol ac emosiynol. Wrth chwarae ar eu pen eu hunain, mae plant yn dechrau adnabod eu hemosiynau a’u teimladau eu hunain, yn ogystal â sut i’w rheoli. Mae plant hefyd yn dysgu teimlo’n gyfforddus gyda bod ar eu pen eu hunain a dysgu ffyrdd o reoli eu diflastod ar eu pen eu hunain. Trwy chwarae, gall plant brofi ystod o emosiynau yn cynnwys rhwystredigaeth, penderfynoldeb, cyflawniad, siom a hyder, a thrwy ymarfer, gallant ddysgu sut i reoli’r teimladau hyn.


Sut mae chwarae’n cyfrannu at les emosiynol plant: • Mae creu a dod ar draws cyfleoedd chwarae peryglus neu ansicr yn datblygu cadernid plant a’r gallu i addasu – a gall gyfrannu at eu hyder a’u hunan-barch. • Mae cymdeithasu gyda’u ffrindiau ar eu telerau eu hunain yn rhoi cyfleoedd i blant ddatblygu cadernid emosiynol, cael hwyl ac ymlacio. • Mae chwarae ffantasi yn caniatáu dychymyg a chreadigrwydd, ond gall hefyd fod yn ffordd i blant wneud synnwyr o agweddau anodd a thrallodus o’u bywydau a ‘gweithio drwyddynt’. Canfyddiad allweddol o’r dystiolaeth yw bod chwarae plant yn darparu ymddygiad sylfaenol ar gyfer datblygu cadernid, gan wneud cyfraniad sylweddol at lesiant plant. Mae’r dystiolaeth hon yn awgrymu bod chwarae’n cyfrannu at ddatblygu cadernid trwy nifer o systemau rhyng-gysylltiedig yn cynnwys: • Rheoleiddio emosiynol • Pleser a mwynhad yn hybu teimlad cadarnhaol • Y system ymateb i straen a’r gallu i ymateb i ansicrwydd • Creadigrwydd a’r gallu i wneud cysylltiadau newydd a gwahanol • Dysgu • Datrys problemau • Ymlyniad at bobl a lle (Masten ac Obradovic, 2006) Mae’r buddion cymdeithasol, corfforol a gwybyddol a dderbynnir yn gyffredinol trwy chwarae yn helpu i gyflwyno’r achos bod chwarae yn elfen bwysig i ddatblygu cadernid. Mae cael digon o amser, lle a chaniatâd i chwarae yn helpu plant i: • Ddatblygu teimlad o hunanddigonedd ac annibyniaeth • Teimlo bod ganddynt reolaeth yn eu byd • Teimlo’n gysylltiedig ag eraill a’u cymuned • Profi ystod o emosiynau yn cynnwys rhwystredigaeth, penderfynoldeb, cyflawniad, siom a hyder, a thrwy ymarfer, gallant ddysgu sut i reoli’r teimladau hyn • Datblygu dychymyg a chreadigrwydd • Gwneud synnwyr o agweddau anodd a thrallodus o’u bywydau a ‘gweithio drwyddynt’ • Cymdeithasu gyda’u ffrindiau a thrafod gydag eraill ar eu telerau eu hunain. Mae amgylcheddau sydd yn maethu ac yn gyfeillgar i chwarae – neu brinder ohonynt – yn effeithio ar ddatblygiad iach plant. Mae amgylchedd chwarae gwerthfawr yn hyblyg, yn gallu addasu, yn amrywiol ac yn ddiddorol. Mae’n cynyddu’r potensial ar gyfer cymdeithasu, creadigrwydd, dyfeisgarwch, her a dewis. Mae’n ofod dibynadwy lle gall plant deimlo’n rhydd i chwarae yn eu ffordd eu hunain, ar eu telerau eu hunain. Mae nodweddion mannau o ansawdd i blant yn cynnwys cyfleodd ar gyfer rhyfeddu, cyffro a’r annisgwyl, ond yn bennaf oll, cyfleodd lle nad oes gormod o drefn a rheolaeth gan oedolion. Mae’r mannau hyn yn hanfodol i ddiwylliant plant a’u syniad o le a pherthyn. Mae plant bob amser wedi bod angen sgiliau ymdopi effeithiol, ac er bod llawer o fanteision i’n byd, mae’r angen i ddarparu amser a gofod i chwarae mor bwysig ag erioed. Mae plentyndod i lawer wedi mynd yn llawn pwysau dwysach ac amserlenni prysur a fwriedir i gadw plant yn brysur ac yn ddiogel. Pan fydd amser plant yn cael ei drefnu’n sylweddol gan eraill, ni ellir ei ystyried fel eu hamser nhw. Mae chwarae sy’n cael ei ddewis yn rhydd, pan fydd plant eu hunain yn dewis pryd, sut a beth i’w chwarae, nid yn unig yn rhoi buddion sydd yn diogelu rhag straen a phwysau eraill, ond mae hefyd yn rhoi cyfleoedd i blant ddarganfod eu diddordebau a’u cymwyseddau eu hunain. Pan fydd plant yn cyfeirio eu chwarae yn bersonol, maent yn penderfynu’r rheolau a’r rolau sydd ganddynt yn eu chwarae ac yn creu’r bydoedd y gallant eu meistroli. Ni ddylid ystyried amser rhydd heb ei drefnu ar gyfer plant fel rhywbeth nad yw’n hanfodol. Mae’n hanfodol i blant er mwyn cael hwyl, ymlacio yn ogystal â bod o fudd i’w hiechyd a’u llesiant. Mae’n rhan o’u ‘cydbwysedd gwaith/bywyd’. Mae chwarae yn ddull allweddol o ddatblygu cadernid ac ymdrin â straen a gorbryder. Mae’n darparu strategaethau effeithiol ar gyfer ymdrin ag ansicrwydd ac mae’n cyfrannu at iechyd corfforol a meddyliol da. Gall plentyn sydd wedi datblygu eu cadernid ymateb ac addasu’n fwy effeithiol i amgylchiadau anodd. www.playwales.org.uk


“Dewch i Symud, Symud”: Buddion Ymarfer Corff i Iselder Clinigol - Rakesh Kumar, Clinical Specialist Physiotherapist, Mental Health Hergest Unit, Betsi Cadwaladr UHB

Mae effeithiolrwydd gweithgareddau corfforol mewn iechyd meddwl yn cael ei anwybyddu. Gall fod sawl rheswm pam y mae llawer o ymchwilwyr ac ymarferwyr meddygaeth, seicoleg, ac iechyd y cyhoedd yn dal naill ai’n anwybodus neu heb eu hargyhoeddi am botensial gweithgaredd corfforol yn hybu iechyd meddwl1. Mae llawer o astudiaethau wedi archwilio effeithiolrwydd ymarfer corff yn lleihau symptomau iselder; yn ogystal, mae’r mwyafrif helaeth o’r astudiaethau hyn wedi disgrifio budd cadarnhaol sydd yn gysylltiedig â gwneud ymarfer corff. Disgrifiodd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (RCP)2 “pan fyddwn yn meddwl am faterion iechyd meddwl rydym yn aml yn siarad am y meddwl a’r corff fel pe baent yn gwbl ar wahân – ond nid yw hyn yn wir. Ni all y meddwl weithredu oni bai bod eich corff yn gweithio’n iawn – ond mae’n gweithio y ffordd arall hefyd. Mae cyflwr eich meddwl yn effeithio ar eich corff”.

I raddau helaeth, pan fyddwn yn teimlo’n isel neu’n bryderus, rydym yn llai egnïol – sydd yn gallu gwneud i ni deimlo’n waeth. Dyma’r adeg pan fyddwn yn cael ein dal mewn cylch dieflig niweidiol. Soniodd RCP hefyd, er gwaethaf gwybod am effaith gadarnhaol gwneud ymarferion corfforol, mae pobl ag iselder yn aml yn disgrifio eu hunain fel a ganlyn • ‘Does gen i ddim amser’ • ‘Rwyf wedi blino gormod’ • ‘Does gen i ddim o’r dyfalbarhad’ • ‘Nid wyf yn hoffi gwneud ymarfer corff’ • ‘Mae’n waith caled’ • ‘Mae’r tywydd yn rhy wael ar gyfer gwneud ymarfer corff’ • ‘Rwyf wedi colli sesiwn. Ni fyddaf yn gallu dal i fyny’ Yn ôl Astudiaeth Baich Byd-eang Clefydau (GBD), a gyhoeddwyd yn y British Journal of Psychiatry yn 2000, iselder oedd pedwerydd prif achos clefydau bywydau wedi eu haddasu’n gyfan gwbl gan anabledd yn 2000; yn ogystal, dyma oedd yn gyfrifol am y gyfran fwyaf o faich nad yw’n angeuol3. Mae dwy astudiaeth ychwanegol sydd yn nodi mai iselder fydd ail achos anabledd yn fyd-eang4 erbyn 2030. Ers y 1900au cynnar, mae ymchwilwyr wedi ceisio canfod beth yw’r cydberthyniad rhwng ymarfer corff ac iselder. Mae astudiaethau wedi dangos y dylai ymarfer corff o ddwysedd cymedrol fod o fudd i iselder5,6. Mae tystiolaeth hefyd yn awgrymu bod amrywiaeth o weithgareddau corfforol nid yn unig yn ffordd rad ond yn ymyrraeth ffordd o fyw diogel ac effeithiol iawn, sydd yn gallu helpu i atal a thrin ystod eang o broblemau iechyd meddwl yn cynnwys iselder. Mae hyn hefyd yn helpu i wella ansawdd bywyd cyffredinol unrhyw berson1. Mae llawer o astudiaethau wedi archwilio effeithiolrwydd ymarfer corff yn lleihau symptomau iselder, ac mae’r mwyafrif helaeth o’r astudiaethau hyn wedi disgrifio budd cadarnhaol sydd yn gysylltiedig â chymryd rhan mewn ymarfer corff2. Mae ymchwilwyr yn awgrymu y dylai pobl sydd yn dioddef o iselder gymryd rhan mewn tair i bump o sesiynau ymarfer corff yr wythnos. Ar gyfer ymarfer aerobig, maent wedi awgrymu cyrraedd curiad calon sydd yn 50 i 85 y cant o uchafswm cyfradd calon yr unigolyn. Ar gyfer hyfforddiant ymwrthedd, maent yn argymell amrywiaeth o ymarferion i ran uchaf a rhan isaf y corff, tair set o ailadrodd wyth gwaith ar 80 y cant o’r uchafswm pwysau y gall person ei godi ar un tro7. Mae eu canfyddiadau yn awgrymu y gall pobl gael rhyddhad i iselder cyn lleied â phedair wythnos ar ôl dechrau gwneud ymarfer corff, er y dylid ei barhau am o leiaf 10 i 12 wythnos i gael yr effaith gwrth-iselder mwyaf. Parhewch i ddarllen yr erthygl hon yma


Smoking and Mental Health Ash Wales Cymru

Mae anghydraddoldeb iechyd eang ond heb ei dargedu yn bodoli yma yng Nghymru, sydd yn rhoi’r rheiny â salwch meddwl mewn mwy o berygl o farw cyn pryd, hyd at 25 mlynedd yn gynt… smygu. Mae ymchwil wedi dangos bod smygwyr â salwch meddwl yr un mor debygol o fod eisiau rhoi’r gorau iddi â gweddill y boblogaeth – felly pam mae cyfraddau mynychder yn dal 14% yn uwch na’r boblogaeth yn gyffredinol? Mae angen dileu 2 fyth o’r cychwyn - mae smygu YN bryder i’r 33% o’r rheiny â salwch meddwl sydd yn smygu; mae’n ffaith ddirdynnol fod 50% o’r rheiny â sgitsoffrenia yn marw o salwch yn ymwneud â smygu. Yn ail, nid yw’n wir fod smygu’n lleddfu straen - mae llawer o’r teimladau hyn yn ymwneud â rhoi’r gorau i nicotin na fyddai’n bodoli pe na fyddai’r person yn smygu yn y lle cyntaf. Mae cyfraddau smygu uchel yn rhoi’r rheiny â salwch meddwl mewn llawer mwy o berygl o farw cyn pryd, salwch difrifol ac ansawdd bywyd gwaeth. Ni ddylid anwybyddu iechyd corfforol person wrth drin eu salwch meddwl, mae ymagwedd ‘person cyfan’ sydd wedi dod i’r amlwg yn gynyddol dros y blynyddoedd diwethaf yn hanfodol. Ond nid mater iechyd yn unig ydyw; mae diweithdra uchel a chost gynyddol tybaco yn rhoi baich ariannol mawr ar smygwyr - ar gyfartaledd, mae chwarter i draean cyfanswm incwm rhywun â salwch meddwl yn mynd ar dybaco. Ond beth ellir ei wneud i helpu’r rheiny sydd eisiau rhoi’r gorau i’r arfer hynod niweidiol hwn i lwyddo? Yn gynharach eleni, cynhaliodd ASH Cymru ddigwyddiad ‘Rhwydwaith Tybaco neu Iechyd Cymru’ ar destun smygu a salwch meddwl. Roedd yn gynhyrchiol iawn; daeth cydweithwyr o Lywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, BHF, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion a GIG Cymru ynghyd i drafod yr heriau’n ymwneud â rhoi’r gorau i smygu a salwch meddwl, ac atebion posibl i faterion sydd yn digwydd dro ar ôl tro. O’r trafodaethau manwl hyn, cynhyrchwyd briff gyda rhestr o argymhellion ar gyfer gweithwyr proffesiynol a phwyntiau allweddol ar gyfer sefydliadau. Cafodd cannoedd o syniadau ac awgrymiadau eu crynhoi mewn 4 pwynt allweddol: • Gosod targedau rhoi’r gorau i smygu yn unol â’r boblogaeth gyffredinol • Sefydlu gwasanaethau rhoi’r gorau i smygu neilltuol wedi eu datblygu gan ac ar gyfer y rheiny â salwch meddwl • Diwygio “Law yn Llaw at Iechyd Meddwl: Cynllun cyflenwi” Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â hyfforddi staff cymorth iechyd meddwl • Codi’r eithriad sydd yn caniatáu smygu mewn unedau iechyd meddwl preswyl Mae polisïau di-fwg mewn unedau iechyd meddwl yng Nghymru y tu ôl i Loegr, lle mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i unedau preswyl orfodi polisïau di-fwg ac maent wedi gwneud hynny er 2008. Yng Nghymru, mae ystafelloedd neilltuol mewn unedau iechyd meddwl wedi eu heithrio o’r gwaharddiad hwn. Yn ogystal, mae llawer o fyrddau iechyd yn Lloegr a’r Alban wedi dewis gwneud eu safleoedd GIG i gyd yn barthau di-fwg. Mae cefnogaeth sylweddol gan y cyhoedd am newid polisi yng Nghymru. Yn ôl arolwg gan YouGov yn 2015 a gomisiynwyd gan ASH Cymru, mae 61% o’r cyhoedd yng Nghymru’n cefnogi cyfraith debyg yn narpariaeth iechyd meddwl Cymu.


Dywedodd Suzanne Cass, Prif Weithredwr ASH Cymru: “Gwyddom fod dros 60% o’r holl smygwyr, yn cynnwys y rheiny â salwch meddwl, eisiau rhoi’r gorau iddi, felly mae angen i ni sicrhau bod gan bob person gymaint o gefnogaeth â phosibl i’w helpu i roi’r gorau iddi. Mae angen gwasanaethau wedi eu teilwra, targedau heriol a hyfforddiant cadarn ar gyfer rhoi’r gorau iddi ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio gyda phobl â salwch meddwl. “Mae gwasanaethau ar gael sydd eisoes wedi eu profi, fel Mind Aberystwyth, sydd yn llwyddiannus yn cefnogi pobl i gamu i ffwrdd o dybaco marwol. Mae angen i ni uwchraddio eu gwaith anhygoel i gynnwys Cymru gyfan. Ni allwn barhau i osgoi cefnogi rhywun i roi’r gorau i smygu yn seiliedig ar y ffaith fod ganddynt hefyd salwch meddwl.” Mae briff ASH Cymru ar smygu ac iechyd meddwl ar gael yma: resources/topics/smoking-and-mental-health

http://ashwales.org.uk/en/information-

Estyn allan i leihau hunan-niwed a hunanladdiad Menter meithrin gallu ymchwil hunan-niwed De Asia

Mae’r deallusrwydd o ran ffactorau risg ar gyfer hunan-niwed a hunanladdiad bwriadol ymysg poblogaethau Ewropeaidd ac Americanaidd yn uchel, ond mae llawer llai yn hysbys am yr ymddygiad yma yn Ne Asia, lle mae cyfraddau yn uchel iawn. Bydd prosiect SASHI yn canolbwyntio ar India a Pacistan, gyda phwyslais cryf ar roi’r sgiliau sydd eu hangen ar ymchwilwyr lleol i ddatblygu rhaglenni hirdymor i leihau marwolaeth, anabledd a thrallod. Bydd y prosiect yn sefydlu cofrestrau hunan-niwed bwriadol; yn cynnal arolygon aelwydydd’ ac yn casglu gwybodaeth gan bobl y mae eu bywydau wedi cael eu heffeithio gan hunanladdiad a hunan-niwed bwriadol. Mae datblygu dulliau o wneud hyn mewn ffyrdd trwyadl, sensitif a diogel yn allweddol i’r prosiect hwn, gan greu llwyfan o ddulliau a sgiliau newydd sydd yn berthnasol i Dde Asia. Mi fydd wedyn yn bosibl mynd i’r afael ag ystod o gwestiynau pwysig am straen cymdeithasol, ceisio cymorth, ac ymyrraeth effeithiol. Gyda mwy o ddealltwriaeth, gobaith yr ymchwilwyr yw llywio cynlluniau iechyd y cyhoedd a datblygu gwasanaethau iechyd, gan sefydlu agenda ar gyfer ymchwil i’r dyfodol – a defnyddio’r canfyddiadau i helpu poblogaethau risg uchel yn y DU. Mae hunan-niwed a hunanladdiad bwriadol yn dal yn droseddau sy’n cael eu cosbi yn Pacistan … Bydd ein gwaith ni nid yn unig yn darparu tystiolaeth gadarn am eu mynychder ond hefyd am yr hyn sydd yn annog pobl i gael cymorth. Dr. Nasim Chaudhry, Pakistan Institute of Living and Learning, Pakistan


Caiff y prosiect hwn ei arwain gan yr Athro Catherine Robinson, Canolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas, Prifysgol Bangor. Mae’r partneriaid yn cynnwys: CSI Holdsworth Memorial a Mudiad Ieuenctid Swami Vivekananda yn India, Sefydliad Byw a Dysgu Pacistan, a Phrifysgol Manceinion a Rhydychen. Am fwy o wybodaeth ewch i http://sashi.bangor.ac.uk/

Podlediad

Fe wnaethoch ofyn i ni am bodlediadau ac fe wnaethom wrando! Mae Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gweithio gyda nifer o sefydliadau i greu podlediadau y gellir eu llwytho i lawr a gwrando arnynt wrth fynd. Mae’r holl bodlediadau ar gael yn yr adran ‘Cymryd Rhan’ o’r wefan. Mae’r podlediadau sydd ar gael ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar Iechyd Meddwl, Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, Iechyd Traws a Chamddefnyddio Sylweddau.


Ymarfer a Rennir

Prosiect y mis yw Cynllun Cenedlaethol Atgyfeirio Cleifion in Wneud Ymarfer Corff (NERS) Mae Cynllun Cenedlaethol Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) yn gynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd wedi bod yn cael ei ddatblygu er 2007 i safoni cyfleoedd i atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corf ar draws pob Awdurdod Lleol a Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru. Mae’r Cynllun yn targedu cleientiaid sydd â chlefydau cronig neu sydd mewn perygl o ddatblygu clefydau cronig. Mae’r Cynllun yn gweithredu ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol ac yn rhedeg am isafswm o 16 wythnos olynol ac yn cynnwys dwy sesiwn grŵp o dan oruchwyliaeth bob wythnos. Os hoffech ychwanegu eich prosiect eich hun i’r Cyfeiriadur Ymarfer a Rennir mae ffurflen ar-lein hawdd (sydd ond ar gael i aelodau) ac unwaith y caiff ei chymeradwyo gan un o’r cydlynwyr, bydd eich prosiect wedyn yn ymddangos ar y cyfeiriadur. Mae Pecyn Cymorth Hunanasesu hefyd y gellir ei argraffu neu ei lenwi ar-lein ac mae’n galluogi cydlynwyr i sicrhau ansawdd y datblygiad a darpariaeth prosiectau newydd a phresennol. Os oes angen cymorth arnoch yn cwblhau’r pecyn cymorth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu ag un o’r cydlynwyr yn publichealth.network@wales. nhs.uk


Cael Ei Holi Y mis yma mae Dafydd Thomas dan sylw. Dafydd yw Sylfeinydd y Cynllunydd Llesiant ac mae’n aelod o Grŵp Cynghori Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru ar hyn o bryd.

Ble ydych chi’n gweithio ar hyn o bryd a beth yw eich maes arbenigol?

Rwyf yn hunangyflogedig fel Cynllunydd Lles ac mae fy arbenigedd ym maes gweithio gyda phobl. Trwy hynny rwy’n golygu fy mod yn mwynhau helpu unigolion a grwpiau o bobl i gydweithredu er mwyn iddynt allu cyfleu’n glir yr heriau y maent yn eu hwynebu.Rwyf yn aml yn hwyluso proses o ganfod sydd yn cyfleu mewnwelediad unrhyw gleient a’u rhanddeiliaid, yr wyf wedyn yn ei ddefnyddio i’w helpu i gynllunio ffordd ymlaen. Trwy ddefnyddio’r camau hyn mewn proses ddatblygu barhaus, rwyf yn gallu gweithio gyda fy nghleientiaid ar gylch rinweddol o newid sydd yn arwain at benderfyniadau gwell, gwasanaethau gwell, pobl hapusach a llesiant gwell. Disgrifiodd un o fy nghleientiaid ef fel Dylunio Arbrofol ar gyfer Llesiant Gwell. Rwy’n credu bod hynny’n llond ceg, ond mae’n ddisgrifiad eithaf da. Mae gennyf dros 20 mlynedd o brofiad yn y sector gwirfoddol a chyhoeddus yng Nghymru yn gweithio gyda chymunedau a thimau ar faterion sydd wedi amrywio o ddatblygu cymunedol i lesiant; a chadwraeth amgylcheddol i weithgaredd corfforol. Cyn mynd yn hunangyflogedig, gweithiais gyda grŵp bach o bobl i sefydlu Lles Cymru Wellbeing Wales, elusen a wnaed yng Nghymru gyda’r nod penodol o ymgorffori egwyddorion lles mewn polisi a deddfwriaeth yng Nghymru. Rwy’n cael pleser mawr yn gweld llesiant yn cael ei drafod mewn ffyrdd nad oeddem wedi eu dychmygu ddeng mlynedd yn ôl – ac er nad wyf bob amser yn cytuno gyda rhai o’r trafodaethau, rwyf yn falch iawn bod mwy o frwdfrydedd a chyfranogiad gan sefydliadau ac unigolion tuag at y testun. Rwyf hefyd yn gynghorydd i Ganolfan What Works For Wellbeing yn y DU.

Mae’r e-fwletin y mis yma’n rhoi sylw i Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd ar thema Iechyd Meddwl yn y Gweithle. Beth yn eich barn chi yw’r prif heriau yr ydym yn eu hwynebu yn mynd i’r afael â’r mater hwn yng Nghymru? Yn ôl Gwefan Amser i Newid1 roedd 4 cyflogai mewn 10 yn ofn datgelu problemau iechyd meddwl i’w cyflogwr. Nid wyf yn teimlo bod hyn yn iawn mewn llawer o ffyrdd ac mae’n dangos yn syml rhai o’r heriau sylfaenol yr ydym yn eu hwynebu yng Nghymru.

I ddechrau, mae’n siom mawr na all pobl fod yn fwy agored am salwch meddwl yn y gweithle – ond nid yw’n syndod mawr. Mae fel petai gan bobl ofn rhannu eu problemau, am eu bod yn poeni y gallai eu cydweithwyr golli golwg ar eu cryfderau.


Sydd yn dod â mi at fy ail bwynt. Pam mae unigolion a sefydliadau yn dal i ganolbwyntio ar y problemau sydd gennym, yn hytrach na’r sgiliau a’r asedau y gallent eu cyflwyno i sefyllfa? Gall datblygu cryfderau pobl a dathlu ystod amrywiol o ddoniau yn fy meddwl i, greu gweithlu hapusach a mwy cynhyrchiol. Yr her olaf yw bod llawer o ffactorau’n cyfrannu at iechyd meddwl rhywun. Mae atal iechyd meddwl gwael yn golygu mynd i’r afael ag ystod o faterion gartref ac yn y gwaith a phopeth yn y canol. Mae gweithio gyda’r ffactorau cyfranogol gwahanol hyn yn her sylweddol, ond yn rhywbeth fydd o gymorth i gyfrannu at iechyd meddwl gwell yn y gweithle. 1 http://www.timetochangewales.org.uk/en/mental-health-stigma/stigma-statistics/

Beth yw’r neges bwysicaf y dylid ei chyfleu i weithwyr proffesiynol a’r cyhoedd yn ymwneud ag iechyd meddwl?

Ar wahân i gysylltu â mi am ymgynghoriad am ddim, y camau sydd eu hangen yn fy marn i yw: • Canfod beth yw’r materion er mwyn gwybod o ble rydych yn cychwyn; • Gweithio gyda phobl er mwyn iddynt ddod yn rhan o’r ateb; a • Pharhau i fesur y newid er mwyn i chi wybod beth sy’n gweithio a dysgu o’r pethau sydd ddim yn gweithio.

Beth gallai Cymru fod yn ei wneud yn eich barn chi i hybu neu gymryd rhan yn Niwrnod Iechyd Meddwl y Byd?

Gallaf weld bod cael digwyddiad blynyddol yn wych i godi ymwybyddiaeth, ond beth sy’n digwydd am weddill y flwyddyn? Rwy’n siŵr nad yw hyn yn wir, ond mae’r mater pwysig hwn yn rhwybeth sydd angen ffocws bob dydd. Mae salwch meddwl yn costio £7.2 biliwn y flwyddyn i Gymru – ac mae’n haeddu sylw pawb o ganlyniad.

Pe byddech yn cael 3 dymuniad beth fyddent? (Gwaith neu bersonol) 1. Deialog gwell a chydweithredu rhwng unigolion, sefydliadau a mudiadau; 2. Mwy o amser; a 3. Beic newydd?! (Onid yw hynny ar restr pawb?)

Beth yw eich diddordebau/hobïau personol?

Mae treulio amser gyda’r teulu yn bwysig iawn i mi. Rwyf yn teimlo mwy o lesiant trwy gyfuno fy niddordebau personol gyda gweithgareddau teuluol. Gall hyn amrywio o hyfforddi tîm pêl-droed fy merch i goginio cyri gyda fy mab. Fel hyn, rydym yn treulio amser gyda’n gilydd ac yn rhannu diddordebau cyffredin. Pan wyf yn gallu, rwyf wrth fy modd yn canu gyda Chôr Meibion Taf ac rwyf wedi treulio’r ychydig flynyddoedd diwethaf yn ceisio canu’r banjo pum tant. Rwy’n cyfaddef fy mod wedi cael mwy o lwyddiant gyda’r côr, ond rwy’n hapus i ddyfalbarhau.


Pyncia Llosg Mae rhan hwn o’r e-fwletin wedi’i neilltuo i newyddion gan aelodau’r rhwydwaith. Cewch gyflwyno newyddion ynglyn a gwaith sy’n cael ei wneud yn eich ardal chi, ysgrifennwch erthygl ar ein cyfer, hyrwyddwch ddigwyddiad sydd i ddod neu broliwch am eich cyraeddiaddau! Os ydych chi’n dynuno cyflwyno erthygl ar gyfer yr adran Clecs anfonwch neges e-bost publichealth.network@wales.nhs.uk Ni ddylai’r erthygl gynnwys mwy na 500 o eiriau ac rydym yn croesawu lluniau bob amser!!

Cynhadledd Flynyddol Anabledd Dysgu Cymru Caru eich Iechyd: Am fod iechyd pawb yn bwysig Dydd Mercher 25 - Dydd Iau 26 Hydref 2017 Casnewydd, De Cymru (Lleoliad hygyrch) Bydd Anabledd Dysgu Cymru yn cynnal eu cynhadledd flynyddol fydd, eleni, yn canolbwyntio ar thema iechyd a materion iechyd y mae plant, pobl ifanc ac oedolion ag anabledd dysgu’n eu hwynebu. Bydd cymysgedd bywiog o weithdai rhyngweithiol, llawn gwybodaeth, siaradwyr a drama ynghyd â llawer o arddangoswyr rhagorol yn edrych ar destunau fel: • Mynediad i wasanaethau iechyd • Ffordd o fyw • Iechyd meddwl • Heneiddio a gofal diwedd oes • Gofal deintyddol • Gofal y llygaid a cholli/nam ar y clyw • Llesiant


Kith & Kin - Mind Casnewydd

Mae Kith & Kin yn gwrs hunan-reoli gyfochrog ar gyfer pobl ifanc (11-17 oed) gyda phrofiadau o broblemau iechyd meddwl, a’u rhiant/gofalwyr. Bob wythnos bydd y grŵp pobl ifanc ifanc a’r grŵp rhieni/gofalwr yn dysgu cynnwys tebyg yn y sesiynau (ond mewn ystafelloedd ar wahân) yn ymwneud â datblygu cadernid a strategaethau datblygu yn ymwneud ag ymdopi ag iechyd meddwl. Mae’r cwrs yn 2 awr bob nos Fercher am 8 wythnos. Ni fydd y grŵp yn fwy na 12 o bobl, darperir lluniaeth a byrbrydau ysgafn yn ystod yr egwyl o 15 munud. Mae’r cwrs yn gyfle i gwrdd â rhieni/gofalwyr neu bobl ifanc eraill a allai fod yn cael profiadau tebyg, ac mae’n gyfle i gyfranogwyr ddysgu sgiliau newydd a chael ychydig amser iddyn nhw eu hunain. Cynhelir ein carfan nesaf: • 11 Hyd - 6 Rhag 2017 (bob dydd Mercher) Noder: Mae hyn yn cynnwys saib o wythnos yn ystod hanner tymor yr ysgol (1af o Dachwedd) Os hoffech fwy o wybodaeth am ddyddiadau’r carfannau a gynhelir yn fuan, os ydych eisiau atgyfeirio neu os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ofynion pellach, mae croeso i chi gysylltu â: Rhian Adams Gweithiwr Llesiant a Chadernid Teuluol y-Gorllewin Ffôn: 07764 760613 E-bost: rhian.adams@newportmind.org


Hoffech chi wybod mwy am wasanaethau yn y gymuned sy’n cefnogi pobl hŷn? Os felly, dewch draw i gwrdd â mudiadau gwirfoddol a chymunedol yn digwyddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ‘Cadw mewn Cysylltiad’. Dydd Mawrth, 3 Hydref yn Ystafell y Bwrdd, Ysbyty Llandochau. Galwch heibio unrhyw bryd rhwng 10am a 2pm.

Dewch draw! Bydd Maria Battle, Cadeirydd y Bwrdd Iechyd, yn agor y digwyddiad am 10am. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â GVS, ebost: enquiries@gvs.wales


Llysgenhadon Gwych Cynllun gan swyddfa’r Comisiynydd Plant yw Llysgenhadon Gwych sy’n hyrwyddo hawliau plant a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn mewn Ysgolion Cynradd. Gallwch cofrestru i’r cynllun Llysgenhadon Gwych yma. Dysgwch mwy am y digwyddiadau di-dâl ry’n ni’n rhedeg ym mis Hydref 2017. Y Cynllun Mae ysgolion yn ethol dau Llysgennad Gwych ar ddechrau pob blwyddyn. Swyddi’r llysgenhadon yw: • Dweud wrth bawb yn yr ysgol am y Comisiynydd a’i phwerau • Gwneud yn siwr bod disgyblion eraill yn gwybod am hawliau plant a CCUHP • Cwblhau tasgau arbennig i’r Comisiynydd yn eu hysgol i fwydo’n uniongyrchol i waith ein swyddfa. 5 rheswm i ymuno • Mae’r gwybodaeth ry’n ni’n casglu trwy’r cynllun yn bwydo’n uniongyrchol i’n gwaith; mae gan ein Llysgenhadon effaith go iawn ar hawliau plant yng Nghymru • Mae’r cynllun Llysgenhadon yn darparu modd bywiog a rhyngweithiol i blant yn eich ysgol ddysgu am eu hawliau, yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, sy’n tanategu gweledigaeth addysg Llywodraeth Cymru. • Mae’r cynllun yn cefnogi Pedwar Pwrpas cwricwlwm newydd Cymru, ac yn cynnig cyfleoedd i ddisgyblion datblygu fel unigolion iach a hyderus sy’n medru cyfrannu at eu cymunedau ysgol, a’u cymuned cenedlaethol fel dinasyddion moesegol a deallus • Mae’r cynllun yn cefnogi ysgolion i ddatblygu y ffyrdd mae nhw’n ymdrin â Lles, a Gofal, Cefnogaeth ac Arweiniad, sy’n ffurfio elfennau Fframwaith Arolygu Cyffredinol Estyn 2017. • Does dim cost! Darllenwch ein rhestr o gwestiynau cyffredin am fwy o wybodaeth. Ymunwch - Os hoffech chi gofrestru i’r cynllun, defnyddiwch ein ffurflen cofrestru.

Asesiadau “O’r Pen i’r Traed” Gwasanaeth Ffisiotherapydd Estynedig Scope Ward Sant Non Mae ward Sant Non yn ward asesu Seiciatrig ar gyfer Oedolion Hŷn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Rydym bellach yn cynnal asesiad ffisiotherapi o’r Pen i’r Traed ar bob claf sy’n cael eu derbyn er mwyn sicrhau, beth bynnag yw’r rheswm dros eu derbyn, bod unrhyw gyd-forbidrwydd sydd ganddynt yn cael ei asesu ai drin wrth iddynt gael eu derbyn. Mae hyn yn cynnwys asesu holl brif aelodau’r corff, cerdded, cyflwr poen, asesiadau’r frest a’r golwg. Caiff cleifion eu derbyn gydag amrywiaeth o gyflyrau, yn cynnwys nam ar ysgwyddau, poen OA yn eu pengliniau, gollwng y droed yn ymwneud â niwropatheg ymylol, poen ar waelod y cefn, hemianopia, ac ati. Mae gan y cleifion hyn nam gwybyddol yn aml i’r graddau nad ydynt yn gallu cyfleu hyn heb y gydran asesu corfforol y mae’r Ffisiotherapydd yn ei wneud. O ganlyniad i gydymffurfio â’r mewnbwn, waeth beth yw cyflwr gwybyddol ac ymddygiadol cleifion, mae hyn yn arwain at symudedd gwell, llai o boen, rheoli poen yn well, llai o fferylliaeth amrywiol lle y bo’n briodol, mater orthoses, gweithredu ac annibyniaeth gwell. Gan weithio ar y cyd â’r Adran Therapi Galwedigaethol, sydd yn cynnig ymarfer rhwymo/golchi, tasgau ystyrlon ac ati, gall mynediad cleifion i’r ward am reswm gwybyddol/ymddygiadol arwain at ystod o ffactorau eraill yn gwella yn ystod eu cyfnod yno. Mae hyn yn ei dro yn helpu i leihau amserau derbyn a dod o hyd i leoliad yn haws, yn ogystal â lleihau anghenion i gael mynediad i wasanaethau ar ôl rhyddhau, ond yn bwysicach, mae’n sicrhau bod y claf yn cael y gofal gorau sydd ar gael. Am fwyr o wybodaeth, cysylltwch â’r Adran Ffisiotherapi ar 01437 773162



Crynodeb o’r Newyddion Croeso i’r Crynodeb o’r Newyddion! Cliciwch ar benawdau’r eitemau newyddion i fynd at y stori newyddion Iawn ar Wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cyrmu.

Ysmygu Llywodraeth Cymru yn lansio cynllun newydd i gael gwared ar smygu

Heddiw, lansiodd Llywodraeth Cymru gynllun newydd i ostwng nifer y bobl sy’n smygu i 16% erbyn 2020 er mwyn i Gymru ddod yn genedl iachach a di-fwg.

Iechyd y Geg Creu 10,000 o leoedd newydd ym mhractisau deintyddol y GIG yng Nghymru

Heddiw, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething y byddai Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £1.3m i greu 10,000 o leoedd newydd ym mhractisau deintyddol y gwasanaeth iechyd yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Gweithgaredd Corfforol App cerdded newydd i frwydro yn erbyn anweithgarwch mewn canol oed Yn ddiweddar, cyhoeddodd Public Health England ap Active 10 er mwyn annog oedolion i gerdded yn gyflym am 10 munud y dydd o leiaf, er mwyn cael buddion iechyd a gweithio tuag at yr argymhellion gweithgaredd corfforol.

Anghydraddoldebau Iechyd Sefydliad Iechyd y Byd yn cyhoeddi adroddiad newydd ‘Buddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant’ mewn cydweithrediad ag Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae Rhwydwaith Tystiolaeth Iechyd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO HEN)1 a Swyddfa Ewropeaidd Buddsoddi ar gyfer Iechyd a Datblygiad2 wedi cyhoeddi adroddiad newydd ar ‘Fuddsoddi ar gyfer iechyd a llesiant’ mewn cydweithrediad ag Iechyd Cyhoeddus Cymru.3

Cliciwch yma am fwy o newyddion ar y wefan Cysyllt Iechyd y Cyhoedd Cymru


Tachwedd

07 08 11

Mynd i’r Afael â Thrais yn erbyn Menywod a Merched: Adolygu Polisi’r Llywodraeth a rhoi Cymorth Gwell i Ddioddefwyr Canol Lludain Cefnogi Gofalwyr Ifanc: Pwy sy’n Gofalu am y Gofalwyr Aberystwyth

Ymlyniad a Thrawma yn yr Ystafell Ddosbarth Birmingham


1 2 2 2

5 2 4 7

13eg cyfarfod blynyddol ac 8fed cynhadledd HEPA Ewrop Croatia Digwyddiad Llesiant Disgyblion Neuadd Goffa, Y Barri

Cyflwyniad i Gofrestru Proffesiynol ar gyfer Ymarferwyr Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru Conwy Business Centre, Llandudno Junction Cyflwyniad i Gofrestru Proffesiynol ar gyfer Ymarferwyr Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru Rhif 2 Capital Quarter, Caerdydd

Cliciwch yma am mwy o ddigwyddiadau ar y wefan Cyswllt Iechyd y Cyhoedd Cymru


Y Bwrlwn Iechyd

Parchu eich Hun Gallwch gynyddu eich hyder a’ch syniad o hunan-barch. Gallwch gael cefnogaeth ac arweiniad ar gyfer yr heriau sy’n cael eu taflu atoch mewn bywyd. Gallwch gael rheolaeth dros eich lles meddwl, a dewis arferion meddyliol gwell. Gall yr ap Parchwch eich Hun eich helpu i wneud hyn i gyd er mwyn cyrraedd eich nodau, trwy eich helpu i wneud synnwyr o’ch emosiynau a’ch helpu i ddatblygu i fod y person yr ydych eisiau bod.

Elefriends

(Am ddim i’w ddefnyddio. Ar gyfer pobl dros 17 oed yn unig) Mae Elefriends yn gymuned gefnogol ar-lein gan yr elusen iechyd meddwl Mind. Mae bywyd yn frwydr i bob un ohonom ar adegau, ond nawr mae lle diogel i wrando, rhannu a chael llais. P’un ai’ch bod yn teimlo’n dda ar hyn o bryd, neu’n isel iawn, mae’n lle i rannu profiadau a gwrando ar eraill.

Hunangymorth i Reoli Gorbryder Mae’r ap Hunangymorth i Reoli Gorbryder yn ap cyfeillgar sydd yn cynnig ystod o ddulliau hunangymorth ar gyfer pobl sydd o ddifrif am ddysgu i reoli eu gorbryder.


Cysylltu â Ni Rhif 2 Capitol Quarter Llawr 5 Tyndall Stryd Caerdydd CF10 4BZ www.publichealthnetwork.cymru Os oes gennych unrhyw newyddion neu ddigwyddiadau i’w cyfrannu i’r rhifyn nesaf afonwch nhw at publichealth.network@wales.nhs.uk Dyddiad olaf ar gyfer eu cyflwyno yw’r trydydd dydd Gwener o bob mis.



Rhifyn Nesaf: Digartrefedd


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.