Rysait am Oes - Maeth yn Blynyddoedd Cynnar

Page 1

Rysรกit am Oes Maeth yn y Blynyddoedd Cynnar Adroddiad Cryno ar y Gwerthusiad Rebecca Winslade-Rees Cydlynydd Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru Mawrth 2019


Cyflwyniad Mae Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru, o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn darparu ystod o gymorth i ymarferwyr ac ymchwilwyr ar draws pob sector sydd yn dylanwadu ar unrhyw agwedd ar wella iechyd y cyhoedd ac iechyd yng Nghymru. Ymysg y gwasanaethau y maent yn eu darparu y mae cyfres o seminarau sydd yn ceisio hybu arfer gorau yn seiliedig ar dystiolaeth bresennol a thystiolaeth sydd yn dod i’r amlwg. Mae’r gyfres yn cynnwys ystod amrywiol o destunau ac mae’r enghreifftiau diweddar wedi cynnwys testunau fel Iechyd Meddwl yn y Gweithle: Defnyddio Arfer Gorau a Phobl Hyn ac Ynysu. Mae’r testunau yn cael eu pennu gan aelodau’r rhwydwaith sydd yn pleidleisio ar restr o ryw 12 testun sydd yn cael eu dosbarthu’n flynyddol a phleidleisiwyd dros Faeth yn y Blynyddoedd Cynnar gan yr aelodau. Cynhaliwyd y seminar ar Ddydd Mercher 6 Chwefror 2019 ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd a chafodd ei gadeirio gan Lucy O’Loughlin, Ymgynghorydd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Roedd y cyflwyniad cyntaf gan y cadeirydd, Lucy O’Loughlin, a gyflwynodd achlysur lansio ymgynghoriad diweddar gan Lywodraeth Cymru o Bwysau Iach: Cymru Iach sydd yn ceisio datblygu cynllun i atal a lleihau gordewdra yng Nghymru. Rhoddodd y cyflwyniad nesaf gan Judith John o’r Gangen Iach ac Egnïol yn Llywodraeth Cymru drosolwg o ‘Fwyd a Maeth mewn Lleoliadau Gofal Iechyd - Canllaw Arfer Gorau (2018)’ a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Rhoddodd Dr Helen Crawley, Cyfarwyddwr Elusen Ymddiriedolaeth Maeth y Camau Cyntaf gyflwyniad oedd yn procio’r meddwl, sef; ‘Maeth babanod a phlant ifanc: beth sydd angen ei newid?’ oedd yn edrych ar gyflwr presennol maeth babanod yn y DU ac aeth i’r afael â’r angen am newid diwylliannol sydd yn cynnwys canllawiau cadarn ar hybu newid cadarnhaol ar gyfer iechyd a llesiant plant yn yr hirdymor. Rhoddodd Sarah Andrew, Pennaeth Rhaglen – Lleoliadau Iach o Iechyd Cyhoeddus Cymru gyflwyniad ar y Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy ar gyfer Cymru. Roedd hyn hefyd yn cynnwys cyflwyniad gan Sarah Power, Swyddog Ysgolion/Cyn-ysgol Iach o Dîm Lleol Iechyd y Cyhoedd Powys yn arddangos enghraifft o raglen arfer gorau Bach ac Iach, sydd yn rhoi cymorth ymarferol ac adnoddau i gynyddu ymgymeriad sefydliadau cyn-ysgol â’r cynllun. Roedd cyflwyniad olaf y bore gan Andrea Basu, Arweinydd Rhwydwaith i Deieteg Iechyd y Cyhoedd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Rhoddodd y cyflwyniad enghraifft arall o arfer gorau; Boliau Bach. Nod y cynllun gwobrwyo hwn, a ddatblygwyd ac sy’n cael ei reoli gan Ddeietegwyr Iechyd y Cyhoedd, yw cydnabod a gwobrwyo lleoliadau gofal plant cynnar am gyflawni arfer gorau yn eu darpariaeth bwyd a diod ar gyfer plant 1-4 oed.


Dilynwyd y cyflwyniadau gan dri gweithdy: 1000 o Ddiwrnodau Cyntaf Bywyd: pwysigrwydd maeth da Roedd y gweithdy hwn yn amlygu bod 1000 o ddiwrnodau cyntaf bywyd yn dechrau gyda beichiogrwydd menyw hyd at ail ben-blwydd eu plentyn sydd yn gyfle unigryw i osod sylfeini ar gyfer y twf a’r iechyd gydol oes gorau. Yn ogystal, mae maeth yn y blynyddoedd cynnar yn chwarae rôl hanfodol mewn niwrodatblygiad; atal alergeddau; atal gordewdra a sefydlu arferion bwyta da am oes. Roedd y gweithdy hwn yn galluogi gwyddoniaeth a thystiolaeth i gael eu troi’n ffyrdd o gefnogi teuluoedd i fwyta’n dda. Cafodd mentrau maeth sydd wedi eu dylunio ac yn cael eu cyflwyno gan Ddeietegwyr Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru, a’r ffordd y gall y rhain gefnogi teuluoedd ac ymarferwyr ar lawr gwlad, eu trafod hefyd Cynyddu incwm Teuluoedd – cefnogi teuluoedd i gael mynediad at gynlluniau bwyd Rhoddodd y gweithdy hwn gefndir i waith Synnwyr Bwyd Cymru yn helpu i gynorthwyo mynediad teuluoedd at fwyd da. Roedd y gweithdy yn cynnwys cyd-destun eang yn ymwneud â mentrau fel Bwyd Caerdydd, Peas Please a Food Power yn ogystal ag archwilio rhai enghreifftiau penodol o’r buddion a chynlluniau nad oes llawer o ddefnydd yn cael eu gwneud ohonynt yn aml e.e. y cynllun Cychwyn Iach. Yn arbennig roedd y gweithdy hwn yn gofyn – “Beth yw eich rôl chi/eich sefydliad yn sicrhau bod teuluoedd yn cael mynediad at y cymorth sydd ar gael ar eu cyfer?” Rhaglen 10 Cam i Bwysau Iach: Beth yw pwysau iach? Archwiliodd y gweithdy hwn bwysau iach, yr anawsterau y mae rhai yn eu cael yn cydnabod pwysau afiach a syniadau i gynorthwyo rhieni i adnabod a mynd i’r afael â phwysau afiach. Amlygodd y gweithdy hwn hefyd yr ymgyrch Cydnabod newydd a rhai camau penodol yn y rhaglen. Mae cyflwyniadau unigol ar gael trwy gysylltu â publichealth.network@wales.nhs.uk neu gellir cael gafael arnynt ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.


Gwerthusiad Cofrestrodd 62 o bobl ar gyfer y seminar a mynychodd 54 ar y diwrnod. Cafodd y seminar ei ffrydio’n fyw hefyd ar Twitter, gyda 65 o bobl yn gwylio rhan o sesiwn y bore. Yn anffodus, oherwydd anawsterau technegol, daeth y ffrwd fyw i ben ganol y bore. Rhoddwyd ffurflen werthuso i’r holl gynadleddwyr ar ddiwedd y digwyddiad a dychwelwyd 22 o ffurflenni. Canlyniadau Meintiol Mae’r cwestiwn cyntaf yn gofyn i’r cynadleddwyr a ydynt yn aelod o Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Roedd y rhan fwyaf o’r bobl (63.3%) a fynychodd yn aelodau o’r Rhwydwaith. Nid oedd 31.8% o’r mynychwyr yn aelodau o’r Rhwydwaith ac ni wnaeth 4% ateb y cwestiwn. Yn yr wythnos ar ôl y seminar, cafodd y Rhwydwaith 21 o aelodau newydd y gellir ei ystyried yn ganlyniad uniongyrchol i’r rheiny a fynychodd yn hyrwyddo’r Rhwydwaith yn eu meysydd.

Mae cwestiwn arall ar y ffurflen werthuso yn gofyn i’r cynadleddwyr raddio o 1 i 5, (gydag 1 ddim yn ddefnyddiol o gwbl a 5 yn ddefnyddiol iawn) “pa mor ddefnyddiol oedd y seminar yn eich barn chi?”. Fel y gellir gweld, rhoddodd y rhan fwyaf o bobl (72.2%) 5 fel ateb i’r cwestiwn hwn gyda 18% (4 o bobl) yn rhoi 4 a 9% (2 berson) heb ateb y cwestiwn.


Canlyniadau Ansoddol Roedd cwestiynau pellach ar y ffurflen werthuso yn chwilio am ymateb ansoddol a nodir isod. Beth oedd eich prif ysgogiad am fynychu’r digwyddiad hwn? Mynychodd y rhan fwyaf o’r cynadleddwyr y seminar i ganfod mwy am y testun ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymchwil ac arfer gorau diweddar. Roedd rhwydweithio hefyd yn ffactor pwysig i nifer o’r cynadleddwyr. “Diweddariad am faeth babanod, pa bethau newydd sydd yn digwydd ar draws Cymru” “Fel myfyriwr maeth i gael rhywfaint o wybodaeth am fentrau yng Nghymru ac i rwydweithio a sgwrsio â phobl sydd yn gysylltiedig â Maeth Iechyd y Cyhoedd” “I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau’n ymwneud â maeth iach yn y blynyddoedd cyn-ysgol” “Ymchwil ac addysg newydd, diweddaru fy ngwybodaeth” A oedd unrhyw beth o ddiddordeb penodol? Soniodd llawer o’r cynadleddwyr am y cyflwyniadau ac yn arbennig y cyflwyniad gan Dr Helen Crawley, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Maeth Camau Cyntaf. “Roedd Helen Crawley yn rhagorol! Trueni na chafodd fwy o amser ar yr agenda” “Roedd clywed Helen Crawley yn siarad am bwysigrwydd newid diwylliannol o ran bwydo ar y fron a maeth y blynyddoedd cynnar yn ysbrydoli” “Rhoddodd yr holl destunau addysg newydd a chreu trafodaeth ddiddorol” Soniwyd am y gweithdai hefyd sawl gwaith ar y ffurflenni gwerthuso fel rhai diddorol a llawn gwybodaeth. “Roedd y gweithdy 1000 o Ddiwrnodau yn procio’r meddwl ac yn codi ymwybyddiaeth” “Roedd yn eithriadol o ddiddorol yn benodol y 2 weithdy” “Trafodaeth ynghylch bwyta llysiau a mentrau i gynyddu hyn” “Roedd y llefarwyr yn llawn gwybodaeth ac roedd y gweithdai yn wych” Sut ydych chi’n bwriadu defnyddio’r hyn a ddysgwyd yn y digwyddiad hwn? Dywedodd nifer o’r cynadleddwyr y byddent yn rhannu’r wybodaeth gyda chydweithwyr ac yn ymgorffori’r wybodaeth yn eu gwaith. “Parhau i hybu dealltwriaeth o bwysigrwydd maeth da yn y blynyddoedd cynnar a thystiolaeth barhaus yn seiliedig ar negeseuon maeth” “Sicrhau bod y pwyntiau gafodd eu cynnwys yn cael eu rhoi mewn cynllun lleol” “Ymgorffori gwybodaeth newydd mewn gwaith yn y dyfodol” “Newid fy ymagwedd wrth weithio gyda lleoliadau cyn-ysgol. Defnyddio gwybodaeth ffeithiol yn fwy aml” “Mynd â’r holl wybodaeth yn ôl at y tîm a sut gallwn ei defnyddio yn ein swyddi”


Pa destunau seminar / cynhadledd yr hoffech eu gweld yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol? Roedd llawer o’r testunau y dywedodd y cynadleddwyr yr hoffent eu gweld yn cael eu cynnwys mewn digwyddiadau yn y dyfodol yn agos gysylltiedig â thestun y seminar hwn ac yn benodol maeth ar draws cyfnodau eraill bywyd. “Mwy am y ffordd i mae maeth yn cyd-fynd â’r agenda iechyd y cyhoedd ehangach. beichiogrwydd – arddegau – blaenoriaethau maeth”

Pob oed/cyfnod

“Maeth trwy agweddau eraill ar gwrs bywyd” “Cymorth rheoli pwysau plant” “Dylanwad marchnata cynhyrchwyr/cwmnïau bwyd” “Gordewdra – plentyndod/MECC” Sylwadau eraill Cafodd y cynadleddwyr gyfle i roi unrhyw sylwadau pellach yr oedd ganddynt am y digwyddiad ac roedd y rhan fwyaf yn gadarnhaol iawn. Roedd un sylw negyddol mewn perthynas â sleidiau’r cyflwyniad, nad oeddent yn ddwyieithog ar wahân i un. Bydd y Rhwydwaith yn mynd i’r afael â hyn ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol. Cafodd y cynadleddwyr hefyd anawsterau yn parcio yn y lleoliad. Cydnabu’r Rhwydwaith y rhain a rhoi adborth i’r lleoliad ar gyfer gwelliannau yn y dyfodol. “Lleoliad a hwyluso rhagorol, ond mae’r trefniadau parcio yn rhwystr mawr” “Wedi mwynhau’r holl destunau a drafodwyd yn fawr a rhwydwaith da i gyfarfod â gweithwyr proffesiynol eraill fel ymwelydd iechyd newydd gymhwyso” “Diolch am ddarparu digwyddiad am ddim, mae’n amhosibl cael cyllid am absenoldeb astudio trwy’r bwrdd iechyd” “Grŵp dymunol iawn o bobl, roedd safbwyntiau pawb yn werthfawr” “Wedi mwynhau’r holl destunau a drafodwyd yn fawr a rhwydwaith da i gyfarfod â gweithwyr proffesiynol eraill fel ymwelydd iechyd newydd gymhwyso” “Wedi ei drefnu’n dda iawn, lleoliad gwych” Un gair Gofynnwyd i’r cyfranogwyr roi un gair i grynhoi eu teimladau am y digwyddiad. Mae’r geiriau hyn wedi cael eu rhoi i mewn i Wordle (www.wordle.net). Mae Wordle yn creu diagramau geiriau sydd yn rhoi mwy o amlygrwydd i eiriau sy’n ymddangos yn amlach yn y testun. O hyn, gallwch weld yn glir mai ‘excellent’ a ‘informed’ a nodwyd amlaf.


Mentimeter Mae Mentimeter yn offeryn cyflwyno hawdd ei ddefnyddio ar y we. Mae’n llwyfan diogel y gellir ei ddefnyddio gyda chynulleidfaoedd o feintiau gwahanol i wneud cyflwyniadau’n fwy rhyngweithiol. Achubwyd ar y cyfle i ddefnyddio Mentimeter i ryngweithio gyda chynadleddwyr i gael eu barn am y sefyllfa bresennol. Roedd y cyfranogiad yn dda iawn gan y cynadleddwyr a chymerodd cyfanswm o 26 cynadleddwr ran. Mae’r canlyniadau fel a ganlyn: :



On a scale of 1 to 5 how much positive influence do you feel childcare settings can have on children’s eating habits?

Mwy o wybodaeth Mae mwy o wybodaeth a fideo byr o’r diwrnod ar gael ar wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru neu trwy gysylltu â publichealth.network@wales.nhs.uk


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.