Iechyd Rhywiol yng Nghymru ar gyfer y Genhedlaeth Bresennol a Chenedlaethau'r Dyfodol

Page 1

o

o

s tr hu

ro d A

d a i dd

e w G

n y r C


Cyflwyniad Mae Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi ei leoli yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn darparu ystod o gymorth i ymarferwyr ac ymchwilwyr ar draws pob sector sydd yn dylanwadu ar unrhyw agwedd ar iechyd y cyhoedd a gwella iechyd yng Nghymru. Ymysg y gwasanaethau y maent yn eu darparu, ceir cynhadledd flynyddol lle mae’r aelodau’n dewis y thema. Roedd testun Iechyd Rhywiol yn ddewis amserol oherwydd yr Adolygiad Iechyd Rhywiol diweddar. Trefnodd y Rhwydwaith grŵp cynllunio i gynorthwyo’r gwaith o lunio a chyfraniad y gynhadledd. Cynhaliwyd y gynhadledd hon ar 22 Mawrth 2018 ac fe’i cynhaliwyd yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd, Caerdydd. Cadeiriwyd y gynhadledd gan Jan Williams, Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru. Croesawodd Jan bawb i’r digwyddiad a sôn cymaint yr ydym wedi datblygu dros y ganrif ddiwethaf i’r graddau bod gennym bellach adolygiad tystiolaeth cynhwysfawr o angen a darpariaeth iechyd rhywiol yng Nghymru. Esboniodd Jan y byddai’r diwrnod yn cynnwys trafodaethau’n ymwneud â’r hyn fyddai’n digwydd dros y 100 mlynedd nesaf, pa ddatblygiadau technolegol fyddai’n digwydd, pa fygythiadau byddai angen eu rheoli, cyfleoedd addysgol, goblygiadau cymdeithasol a sut mae’r gwasanaeth yn mynd i roi’r weledigaeth ar gyfer dyfodol Cymru.


Trosolwg o Gyflwyniadau’r Bore Agorwyd y diwrnod gan Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol, Llywodraeth Cymru. Siaradodd Dr Atherton am ei brofiadau yn y gorffennol a roddodd cipolwg ar yr heriau’n ymwneud ag iechyd rhywiol ac atgenhedlol a mawr oedd ei glod am y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud ar hyd a lled Cymru ar hyn o bryd. Cynigiodd Dr Atherton ymweld â gwasanaethau iechyd rhywiol sydd ar waith ar draws Cymru hefyd. Soniodd Dr Atherton am yr heriau yr ydym yn eu hwynebu ar draws Cymru a’r ffordd y mae gwasanaethau o dan bwysau gyda’r galw cynyddol. Mae ataliaeth yn bwysig iawn ac mae meddwl sut yr ydym yn cefnogi poblogaethau i atal STI, beichiogi yn yr arddegau, diagnosis cynnar i gael pobl i mewn am driniaeth yn gynt, yn allweddol ac mae gwasanaethau gofal sylfaenol a gofal cymunedol yn eithriadol o bwysig i bobl ag anghenion iechyd rhywiol. Mae cyfathrebu’n allweddol ac mae angen i ni feddwl sut y gallwn gyfathrebu’n well gyda’r cyhoedd er mwyn osgoi stigma’n ymwneud â chlefydau. Daeth Dr Atherton â’i gyflwyniad i ben gan ddatgan nad oes angen i bopeth fod yn ‘negyddol’. Rydym wedi dod yn bell, er enghraifft mae gwrthfeirysau bellach yn gweithio, mae HIV yn cael ei ystyried yn glefyd cronig yn hytrach na chlefyd angheuol ac mae mynediad i wasanaethau yn llawer gwell. Mae heriau o’n blaen o hyd ond mae angen i ni ddatblygu ein llwyddiannau. Dilynwyd hyn gan ddau gyflwyniad, Dr Giri Shankar, Ymgynghorydd Arwain ar gyfer Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru; a chyflwyniad ar y cyd gan Adam Jones, Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd (Polisi), Iechyd Cyhoeddus Cymru a Dr Rachel Drayton, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Cyflwynodd Dr Shankar wybodaeth yn ymwneud â’r Adolygiad Iechyd Rhywiol diweddar yn cynnwys yr amcanion, y fethodoleg a ddefnyddiwyd, canfyddiadau allweddol a’r camau nesaf yn dilyn hyn. Diolchodd Dr Shankar i Lywodraeth Cymru am fynd at Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynnal yr Adolygiad Iechyd Rhywiol yng Nghymru. Yng nghyd-destun yr Adolygiad, archwiliwyd nifer o wasanaethau sy’n darparu gwasanaethau iechyd rhywiol ar draws sawl sbectrwm gofal. Cynghorodd Dr Shankar bod adroddiad cryno terfynol wedi cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a’i fod yn debygol o gael ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2018. Yn ogystal â’r adroddiad, mae sawl dogfen y dylid eu darllen ar y cyd â’r adroddiad terfynol. Rhoddodd Adam Jones gyflwyniad ar adolygiad Atal Clefydau Cyn Cyswllt (PrEP) yng nghyd-destun Cymru a gyflwynwyd ym mis Gorffennaf 2017. Esboniodd Adam y broses a ddilynwyd ar gyfer yr adolygiad hwn a sut olwg oedd arnynt yn ystod y 6 blynedd adrodd diwethaf (2010-2015) yng Nghymru i roi diagnosis cyfartalog o HIV yng Nghymru. Siaradodd Adam am y trefniadau Llywodraethu yng Nghymru ar gyfer goruchwylio PrEP yng Nghymru a sut y mae Rhaglen Allgymorth yn cael ei datblygu ar hyn o bryd gydag Ymddiriedolaeth Terrence Higgins Cymru a chydweithwyr. Dilynodd Dr Rachel Drayton gyda safbwynt clinigol ar PrEP. Agorodd Dr Drayton ei chyflwyniad gydag astudiaeth achos o unigolyn i amlygu ble’r oeddwn cyn PrEP. Yn dilyn hyn, rhoddodd Dr Drayton y wybodaeth ddiweddaraf i’r cynadleddwyr am y ffordd y cafodd Clinig PrEP arbenigol ei sefydlu yng Nghaerdydd lle cafodd Meddyg a Nyrs Arbenigol eu nodi i gynnal 2 glinig yr wythnos fyddai’n derbyn cleifion trwy broses atgyfeirio i drafod a gweinyddu PrEP i’r cleifion addas. Byddai adolygiadau yn dilyn eu penodiad cychwynnol. Daeth i’r amlwg bod y broses yn gweithio’n dda ond nad oedd unrhyw allu i wneud apwyntiadau olrhain am eu bod i gyd yn cael eu llenwi gyda chleifion newydd. Cafodd pethau eu diwygio a chafodd rhestr aros ei chreu ar gyfer cleifion newydd i ganiatau ar gyfer yr apwyntiadau olrhain. Siaradodd Dr Drayton am yr heriau yr ydym yn eu hwynebu gyda PrEP a beth i’w ystyried wrth symud ymlaen.


Sesiynau Paralel • Profion Swab Sych Chlamydia / Gonorea yn y Gymuned Zoe Couzens, Pennaeth Iechyd y Cyhoedd - Diogelu Iechyd • Arferion Ysgol yn Bwysig ar gyfer Iechyd Rhywiol Myfyrwyr: Dadansoddiad o Arolwg Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion yng Nghymru Dr Honor Young, Darlithydd mewn Dulliau Ymchwil Meintiol, Rhwydwaith Ymchwil Gwella Iechyd y Cyhoedd (PHIRN) DECIPHer ac Aelod o’r Panel Cydberthynas Iach • Cyflwyno rhaglenni addysg iechyd rhywiol i bobl ifanc agored i niwed mewn lleoliadau addysg a chymunedol: FPA Jiwsi, Sandra Peters, Swyddog Prosiect, FPA a Corrina Williams, Swyddog Prosiect, FPA • Rhyw, Rhianta a Phobl ag Anabledd Dysgu Samatha Williams, Cydlynydd Polisi a Rhwydwaith, Anabledd Dysgu Cymru

Trosolwg o Gyflwyniadau’r Prynhawn Roedd y cyntaf o gyflwyniadau’r prynhawn am ‘Gydberthynas Iach yng Nghwricwlwm Cymru’ a chafodd ei gyflwyno gan Dr. Honor Young, Darlithydd mewn Dulliau Ymchwil Meintiol yn Rhwydwaith Ymchwil Gwella Iechyd y Cyhoedd (PHIRN) DECIPHer ac Aelod o Banel Cydberthynas Iach. Siaradodd Dr. Young am nod a chylch gorchwyl y panel arbenigol, y statws presennol a darpariaeth yng Nghymru yn ymwneud ag Addysg Rhyw a Chydberthynas, dyfodol Addysg Rhyw a Chydberthynas yng Nghymru gan ganolbwyntio’n benodol ar yr argymhellion gan y panel arbenigol ac i gloi, siaradodd am y ffordd ymlaen. Esboniodd Dr. Young y cefndir i’r panel arbenigol a’r ffordd y cawsant eu sefydlu gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ym Mawrth 2017. Mae’n ofynnol ar y panel roi argymhellion i Ysgrifennydd y Cabinet ar y ffordd y gellir gwella ymarfer Addysg Rhyw a Chydberthynas ar hyn o bryd. Mae’n ofynnol arnynt hefyd roi argymhellion i Ysgrifennydd y Cabinet ac ysgolion arloesi ar ddyfodol Addysg Rhyw a Chydberthynas yng Nghymru fel rhan o Faes Dysgu Iechyd a Lles (AoLE). Cyflwyniad terfynol y diwrnod oedd Dr. Laetitia Zeeman o Brifysgol Brighton. Cyflwynodd Dr. Zeeman y canfyddiadau o ymchwil Health4LGBTI a gomisiynwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd. Astudiaeth beilot oedd hon a wnaeth barhau am 2 flynedd a dod i ben ym mis Mawrth 2018. Y nod yw lleihau anghydraddoldebau iechyd ymysg pobl LGBTI. Rhoddodd Dr. Zeeman rywfaint o gefndir i’r prosiect a’r ffordd y mae pobl LGBTI yn profi anghydraddoldebau iechyd sylweddol sydd yn cael effaith ar ganlyniadau iechyd. Mae stigma a gwahaniaethu wedi ei gyfuno ag ynysu cymdeithasol a dealltwriaeth gyfyngedig o’u bywydau gan eraill, yn arwain at rwystrau sylweddol o ran cael mynediad i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Rhoddodd hefyd y canfyddiadau o’r adolygiad gwyddonol ac o adolygiad cwmpasu cynhwysfawr. Mae cyflwyniadau unigol ar gael trwy gysylltu â publichealth.network@wales.nhs.uk neu gellir eu gweld ar wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.


Ffurflen Werthuso Cofrestrodd 103 o bobl trwy Eventbrite ar gyfer y digwyddiad a mynychodd 86 ar y diwrnod. Cafodd y seminar hefyd ei ffrydio’n fyw ar Twitter a gwyliodd cyfanswm o 103 o bobl y seminar. Rhoddwyd ffurflen werthuso i’r holl gynadleddwyr ar ddiwedd y digwyddiad a dychwelwyd 35 o ffurflenni. Anfonwyd e-bost at yr holl gynadleddwyr ar ôl y digwyddiad yn gofyn i ffurflenni gwerthuso gael eu cwblhau ond ni ddychwelwyd un.

Canlyniadau Meintiol Mae’r cwestiwn cyntaf yn gofyn i gynadleddwyr a ydynt yn aelodau o Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru neu beidio. Roedd y rhan fwyaf o’r cynadleddwyr yn aelodau o’r Rhwydwaith (60%) fodd bynnag, roedd cynadleddwyr yn y digwyddiad nad oedd yn aelodau presennol (40%). Yn dilyn y digwyddiad hwn, cofrestrodd 5 aelod newydd yr wythnos ganlynol Mae’r cwestiwn nesaf ar y ffurflen werthuso yn gofyn i’r cynadleddwyr raddio o un i bump, (gydag un ddim yn ddefnyddiol o gwbl a phump yn ddefnyddiol iawn) pa mor ddefnyddiol oedd y seminar i chi. Fel y gellir gweld, rhoddodd y rhan fwyaf o bobl 4 neu 5 (97.1%) ar gyfer y cwestiwn hwn gyda 2.9% (1 person) yn rhoi 3. Ar ôl edrych yn agosach ar y ffurflenni gwerthuso, nid oedd unrhyw beth i ddangos pam y rhoddodd y person hwn yr ateb a roddwyd.

Pa mor ddefnyddiol oedd y digwyddiad i chi?

4

60%

5 (Very Useful)

37% 3

3%


Canlyniadau Ansoddol Beth oedd eich prif gymhelliant dros fynychu’r digwyddiad hwn? Mynychodd y rhan fwyaf o’r cynadleddwyr y digwyddiad am fod ganddynt ddiddordeb mewn iechyd rhywiol yn eu rôl broffesiynol. Fodd bynnag, roedd amrywiaeth helaeth o ymatebion yn ogystal â hynny. Hyrwyddo gwasanaeth a chael gwybodaeth am yr adolygiad iechyd rhywiol. Bob amser yn ddigwyddiad rhwydweithio da hefyd:) I ddeall / canfod mwy am gyflwr presennol darpariaeth iechyd rhywiol yng Nghymru a beth sydd ar y gweill. I ddeall blaenoriaethau iechyd y cyhoedd ar gyfer Cymru Cynnwys y cyflwyniadau a sesiynau paralel A oedd unrhyw beth o ddiddordeb nodedig? Soniodd nifer o bobl am gyflwyniad Dr Honor Young ar gydberthynas iach yn y cwricwlwm Cymreig fel un o uchafbwyntiau’r diwrnod. Soniwyd hefyd bod siaradwyr eraill yn agwedd ddiddorol ar y diwrnod. Fe wnaeth cyflwyniad PrEP a sesiwn baralel Swab Sych ennyn llawer o ddiddordeb hefyd. Roedd cyflwyniad Dr H. Young a Dr L. Zeeman yn hynod ddiddorol. Cyflwyniad 1 a Chyflwyniad 3 oedd fwyaf buddiol a defnyddiol i mi. Roedd yr holl beth yn eich ymgysylltu – cafodd yr holl destunau a drafodwyd eu cyflwyno’n rhagorol. Sut ydych chi’n bwriadu defnyddio’r hyn a ddysgwyd yn y digwyddiad hwn? Fel sydd yn aml yn wir ar ffurflenni gwerthuso, dywedodd llawer o’r cynadleddwyr y byddent yn rhannu’r wybodaeth a ddysgwyd yn y digwyddiad gyda chydweithwyr ac y byddent yn defnyddio’r wybodaeth yn eu hymarfer bob dydd. I fynd yn ôl i’m gweithle a’i lledaenu i gydweithwyr Mynychais y sesiwn profion swab sych a byddaf yn rhan o’r treial. Trosglwyddo gwybodaeth i’m cydweithwyr oedd yn absennol o’r gynhadledd. Gwneud mwy o ymchwil a chael mwy o wybodaeth ynghylch sut i gyflwyno gwybodaeth Iechyd Rhywiol i bobl ag anableddau dysgu Edrych ar y ffordd y gall dîm lleol iechyd y cyhoedd weithio i leihau STI


Pa destunau seminar / cynhadledd yr hoffech chi eu gweld yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol? Roedd y meysydd testun y dywedodd y cynadleddwyr y byddent yn hoffi eu gweld yn cael eu cynnwys mewn digwyddiadau yn y dyfodol yn amrywiol. Ni fyddai’r Rhwydwaith yn gallu darparu digwyddiadau ar rai o’r meysydd testun a nodwyd am eu bod yn rhy benodol ond byddent yn gallu cyfeirio’r cynadleddwyr at sefydliadau mwy perthnasol: • Rhywbeth sy’n cael ei arwain gan bobl ifanc am brofiadau Addysg Rhyw a Chydberthynas mewn ysgolion • Problemau y mae Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches yn eu hwynebu wrth gael mynediad i Wasanaethau Iechyd Rhywiol • Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant • Llygredd Aer • Effaith y rhyngrwyd ar bobl ifanc dros y 2 ddegawd diwethaf • Mwy o iechyd rhywiol!! Sylwadau eraill Cafodd y gynadleddwyr gyfle i roi unrhyw sylwadau pellach oedd ganddynt am y digwyddiad. Dim ond 2 sylw negyddol a gafwyd am y diwrnod ac roedd y rhain mewn perthynas ag ystod siomedig o gyflwyniadau poster a oedd, yn anffodus, oherwydd diffyg ymgymeriad gan gynadleddwyr a chynnal dau weithdy mewn un ystafell am fod yr adleisio’n ei wneud yn anodd canolbwyntio. Diolch i chi am ddiwrnod mor dda! Yn werth teithio o Ogledd Cymru! Rhaglen ragorol. Yn wych clywed am gyfeiriad y daith ac yn edmygu blaenoriaethau iechyd y cyhoedd Diwrnod diddorol, llawn gwybodaeth, cyflwyniadau rhagorol, lleoliad cyfleus a bwyd/cinio blasus! Un gair Gofynnwyd i’r cyfranogwyr roi un gair i grynhoi’r ffordd yr oeddent yn teimlo am y digwyddiad. Mae’r geiriau hyn wedi eu cynnwys mewn Wordle (www.wordle.net). Mae Wordle yn creu diagramau geiriau sy’n rhoi mwy o amlygrwydd i eiriau sy’n ymddangos yn fwy cyson yn y testun. Gallwch weld yn glir mai informative, Excellent a Motivating a nodwyd amlaf.


Mwy o wybodaeth Mae’r holl gyflwyniadau ar gael ar wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru Mae mwy o wybodaeth a fideo byr o’r diwrnod hefyd ar gael ar wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru neu trwy gysylltu â publichealth.network@wales.nhs.uk

Mentimeter Mae Mentimeter yn offeryn cyflwyno hawdd i’w ddefnyddio ar y we. Mae’n llwyfan diogel y gellir ei ddefnyddio gyda chynulleidfaoedd o feintiau gwahanol i wneud cyflwyniadau’n fwy rhyngweithiol. Achubwyd ar y cyfle i ddefnyddio Mentimeter i ryngweithio gyda chynadleddwyr a chanfod eu safbwyntiau ar y sefyllfa bresennol Yn anffodus, roedd cyfranogiad y cynadleddwyr yn isel a dim ond 30 o’r 86 o gynadleddwyr a gymerodd ran. Mae’r canlyniadau fel a ganlyn:

Ar hyn o bryd, beth yw eich tair prif flaenoriaeth ar gyfer iechyd rhywiol yng Nghymru?


Beth yn eich barn chi yw’r un newid mwyaf effeithiol y gallem ei wneud i wasanaethau iechyd rhywiol yng Nghymru?


Pa un newid bydd yn rhoi gwerth am arian a gofal iechyd darbodus mewn cyd-destun iechyd rhywiol?


Beth yn eich barn chi yw’r annhegwch mwyaf ym maes iechyd rhywiol yng Nghymru heddiw?


Trwy ddyrannu pwyntiau, yn y pum mlynedd nesaf, pa rai o’r canlynol fydd yn arwain at yr effaith fwyaf i wella cyflwyno gwasanaeth iechyd rhywiol?


Beth yw’r ffordd o fynd i’r afael ag ymddygiad peryglus o ran iechyd rhywiol?


Gan feddwl ymlaen 20 mlynedd, ble yn eich barn chi fydd Iechyd Rhywiol yng Nghymru mewn perthynas â’r canlynol:


Pa oed dylid trafod y canlynol fel rhan o addysg cydberthynas?

Beth yn eich barn chi yw buddion ehangach darparu addysg cydberthynas cynnar i iechyd y boblogaeth?


Pleidleisiwch dros boster y dydd Gofynnwyd i’r cynadleddwyr bleidleisio dros eu hoff boster o’r detholiad a gyflwynwyd yn y gynhadledd.


Gwerthusiad y dydd


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.