Troi Gair yn Weithred: Mentrau Cynaliadwyedd Iechyd a Llesiant Cymru

Page 1

Troi Gair yn Weithred: Mentrau Cynaliadwyedd Iechyd a Llesiant Cymru



The Clink

Mae The Clink yn gweithio mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Carchardai i redeg prosiectau sy’n hyfforddi a rhoi sgiliau ymarferol i garcharorion i gynorthwyo eu hadferiad. Mae bwyty The Clink yn galluogi carcharorion i ddysgu, ymgysylltu â’r cyhoedd a chymryd eu camau cyntaf tuag at fywyd newydd. Agorwyd yr ail fwyty yng Ngharchar Caerdydd - y bwyty cyntaf sydd wedi’i leoli y tu allan i furiau’r carchar. Mae’n gweithio ochr yn ochr â Charchar Prescoed i gynnig gwaith llawn amser i dros 30 o garcharorion categori D o Garchardai Prescoed a Chaerdydd yn y gegin, y bwyty ar gerddi. Mae’r carcharorion yng Ngerddi The Clink yn tyfu, yn meithrin ac yn casglu cnydau ac yn magu ieir am eu hwyau. Mae ffrwythau tymhorol, eu llysiau arbenigol ac eitemau salad wedyn yn cael eu trosglwyddo i fwytai The Clink yng ngharchardai High Down, Caerdydd a Brixton lle y byddant yn cael eu defnyddio i greu prydau ffres, tymhorol ac organig ar gyfer bwydlenni bwytai The Clink gan ein hyfforddeion yn y gegin. Er mwyn i Elusen The Clink barhau â’i gwaith, rydym yn ymgysylltu â chyflogwyr yn y diwydiant lletygarwch i roi interniaeth neu gyflogaeth llawn amser iddynt i gyn garcharorion. Mae Bwyty The Clink yng Nghaerdydd wedi ennill nifer o wobrau uchel eu bri, gan gynnwys Gwobr 3 Seren y Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy a Gwobr Cogyddion yr Urdd Crefftau am Ragoriaeth Addysgol. Mae hefyd yn cefnogi’r cyfoeth o gynnyrch ffres ac organig o safon sydd ar gael ledled Cymru. Rhagor o Fanylion:

http://theclinkcharity.org/the-clink-restaurants/cardiff-wales/


Down to Earth

Mae’r Prosiect Down to Earth yn sefydliad addysgol nid er elw sydd wedi ennill sawl gwbor ac sy’n arbenigo mewn gweithio gyda grwpiau ‘anodd eu cyrraedd’ ac ‘o dan anfantais’ yn yr awyr agored gyda datblygiad personol wrth ei wraidd. Rydym yn cefnogi unigolion a grwpiau drwy gynaliadwyedd ymarferol. Mae gan Down to Earth brofiad o dros 10 mlynedd o gynnig rhaglenni sy’n ennill gwobrau sydd wedi’u dylunio i fod yn gynhwysol ac atyniadol ar gyfer pob math o grwpiau. Gyda dull sy’n canolbwyntio ar ddysgwyr ac ar ddatblygu llesiant ac ystod amrywiol o gyfleoedd dysgu wedi’u hachredu, mae ein rhaglenni addysg yn cefnogi pobl ifanc ac oedolion o gefndiroedd gwahanol iawn. Mae Down to Earth yn defnyddio dulliau adeiladu traddodiadol a chynaliadwy i gynnig prosiectau adeiladu masnachol sy’n gwbl hygyrch a chynhwysol i grwpiau cymunedol amrywiol, yn enwedig y rheini o gefndiroedd ‘anodd eu cyrraedd’ ac o dan anfantais. Mae’r dull hynod hwn yn trawsnewid y cyfranogwyr a’r gymuned sy’n rhan o’r prosiect - ac ar yr un pryd yn creu adeiladau trawiadol, cynaliadwy. O wagleoedd hyfforddi masnachol mawr i ddosbarthiadau awyr agored llai, mae gan Down to Earth brofiad rhagorol mewn rhaglenni hyfforddiant hygyrch wedi’u hachredu sy’n arwain at adeiladau rhagorol. Rhagor o wybodaeth: http://www.downtoearthproject.org.uk/contact/

Time Banking Wales Mae Time Banking Wales yn talu teyrnged i draddodiadau cydymddibyniaeth a chydweithredu Cymoedd De Cymru a lansiodd y cymdeithasau cymorth meddygol, y cymdeithasau addysgol i weithwyr a’r sefydliadau llesiant i lowyr yn ystod y 19fed a 20fed ganrif. Taniodd y mentrau cymunedol hyn ddychymyg pawb ac fe’u sbardunwyd gan ymgysylltiad gweithredol ‘pobl mewn cymunedau’. Mae bancio amser yn offeryn cymdeithasol a ddyluniwyd i ddatblygu deialog mwy gweithredol rhwng sefydliadau cymunedol cyhoeddus a’r trydydd sector a ‘phobl mewn cymunedau’ – y bwriad yw newid yr agenda o bobl yn bod yn ‘fuddiolwyr goddefol gwasanaethau cymdeithasol’ i fod yn ‘ddinasyddion gweithredol dros newid’. Mae banciau amser Cymru yn gweithio ychydig yn wahanol i’r model bancio amser traddodiadol gan eu bod yn cael eu ‘cynnal’ o fewn asiantaethau cyhoeddus a chymunedol. Yna, gwahoddir aelodau cymunedau i ymgysylltu a chymryd perchnogaeth o wasanaethau cyhoeddus yn hytrach na bod yn dderbynwyr goddefol. Mae’r asiant sy’n ‘cynnal’ y gwasanaeth yn gweithredu fel y banc canolog ac yn cydnabod aelodau am eu hamser gyda chredydau. Gellir defnyddio’r credydau hyn i gael mynediad at weithgareddau cymdeithasol, diwylliannol ac addysgiadol ar sail quid pro quo fesul awr. Rhagor o wybodaeth: http://www.timebankingwales.org.uk/#!about_us/csgz


Just add spice

Mae Just Add Spice yn datblygu systemau ‘credyd amser’ sy’n gwerthfawrogi amser pawb, pwy bynnag y bônt. Mae credydau amser yn arwain at gyfleoedd newydd i geisio pethau newydd, i ddysgu, i fod yn iachach ac i gael hwyl. Rydym yn gweithio gyda chymunedau o bob math, ar draws nifer o sectorau. Rydym yn frwdfrydig ynghylch y pŵer o fewn cymunedau, ac rydym yn credu ein bod yn well am ddatrys problemau pan fyddwn yn cydweithio. Mae ein rhaglenni yn ymgorffori partneriaethau cyffrous rhwng unigolion a’r sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat. Seiliwyd ein gwaith ar y cysyniad o Fancio Amser: system sy’n defnyddio amser fel arian a ddamcaniaethwyd ac a wnaed yn boblogaidd gan y cyfreithiwr hawliau dynol Edgar Cahn ym 1986. Yn 2003, sefydlwyd Sefydliad o fewn Prifysgol Cymru, Casnewydd i archwilio’r defnydd o arian cymunedol i gefnogi adfywio cymdeithasol yng Nghymoedd De Cymru. Dechreuodd Sefydliad Arian Cymunedol Cymru ddatblygu arian ar sail amser y gellid ei ddefnyddio fel offeryn o fewn y sector cymunedol. Pan ddaeth prosiect y Sefydliad i ben ar ddiwedd 2008, sefydlwyd Spice i ddatblygu’r cysyniad o Gredydau Amser ymhellach. Rhagor o wybodaeth: http://www.justaddspice.org/

Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE)

Mae ACE (Gweithredu yng Nghaerau a Threlái) yn elusen sydd wedi’i lleoli yn Nhrelái a Chaerau, Caerdydd. Mae ACE yn ceisio dod â’r gymuned ynghyd, yn cefnogi grwpiau cymunedol, yn rheoli a datblygu prosiectau lleol, ac yn canfod ffyrdd o adfywio’r gymuned leol. Mae’r sefydliad wedi datblygu nifer o brosiectau gydag aelodau a phartneriaid cymunedol wedi’u hariannu gan ffynonellau eraill. Mae’r rhain yn cynnwys y prosiect Llysgenhadon Cymunedol, y Prosiect Treftadaeth CAER sydd wedi ennill gwobrau ac Amser ar Waith. Yn ddiweddar mae ACE wedi cael y defnydd o adeilad hanesyddol lleol gan Gyngor Caerdydd. Mae Ein Lle: Dusty Forge yn rhoi cyfle cyffrous i ddatblygu prosiectau a gweithgareddau newydd gyda phobl leol wrth eu gwraidd. Mae’n prysur ddod yn gartref i gasgliad amrywiol o grwpiau ac unigolion cymunedol sy’n dysgu i gydweithio a chydweithredu tuag at amcanion cyffredin. Mae ACE yn gweithredu ar ymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol fel aelod o Ddinasyddion Caerdydd a’r Fro (rhan o Gynghrair Dinasyddion y DU). Mae tua 100 o sefydliadau lleol, gan gynnwys eglwysi, prifysgolion, ysgolion, mosgiau, undebau a grwpiau cymunedol yn ymgyrchu ar amrywiaeth o faterion sy’n effeithio ar ein cymunedau. Mae ACE yn arwain yr ymdrechion i sicrhau swyddi ar gyflog byw yn Ne Cymru. Rhagor o wybodaeth: http://www.aceplace.org/


Tools for Self Reliance

Mae grwpiau TOOLS FOR SELF RELIANCE yn casglu offer llaw a pheiriannau gwnïo nad yw pobl eu heisiau o bob rhan o’r DU. Rydym yn eu glanhau a’u hogi, ac yn anfon pecynnau o offerynnau a pheiriannau gwnïo at grwpiau cymunedol ar lawr gwlad mewn nifer o wledydd yn Affrica. Ar hyn o bryd, mae TFSR Cymru yn canolbwyntio ar ei ymdrechion dros y môr yn Tanzania. Mae gan TFSR Cymru tua 70 o wirfoddolwyr ar hyn o bryd, yn ddynion a menywod rhwng 14 ac 85 oed. Rydym yn cwrdd mewn un o nifer o sesiynau pob wythnos yn ein gweithdy, lle byddwn yn trwsio ac adnewyddu miloedd o offer llaw. Mae’r offeryn yn cael eu rhoi gan unigolion neu’n cael eu casglu gan amrywiaeth eang o sefydliadau eraill ledled Cymru – Clybiau Rotari, Ysgolion, grwpiau Sefydliad y Merched, grwpiau eglwysi. Rydym hefyd yn ariannu ein Gweithdy Offerynnau SIDO Cymru ar y cyd ym Mwanza. Mae’r gweithdy hwn yn cyflogi 4 o bobl ac yn cynhyrchu mwy na 200 o becynnau y flwyddyn ar gyfer grwpiau lleol o grefftwyr. Rhagor o wybodaeth:

https://www.tfsrcymru.org.uk/

Amelia Trust Farm

Mae Ymddiriedolaeth Amelia yn fferm weithredol wedi’i lleoli ar 160 erw yng nghefn gwlad hyfryd Bro Morgannwg. Gwahoddir ymwelwyr i weld, clywed ac arogli fferm weithredol, sy’n darparu addysg amgen i bobl ifanc sy’n agored i niwed ac o dan anfantais gyda staff a gwirfoddolwyr â sgiliau. Mae’r nifer o bobl eraill sy’n rhan o’r gymuned ddyddiol ar y fferm yn cynnwys gwirfoddolwyr, oedolion ag anawsterau dysgu ac aelodau o’r cyhoedd sy’n mwynhau rhyfeddodau natur sy’n gallu cynnig amgylchedd therapiwtig i ymlacio ynddo. Mae’n gyfuniad gwych sy’n gwneud Fferm Ymddiriedolaeth Amelia yn lle anhygoel i fod ynddo. Mae’r Fferm yn cyflogi 16 aelod o staff (drwy gymysgedd o weithwyr llawn a rhan amser) ac mae ganddi gefnogaeth tua 100 o wirfoddolwyr rheolaidd. Mae’n cynhyrchu incwm drwy’r gwasanaethau mae’n eu darparu ond mae hefyd yn dibynnu ar gefnogaeth hael y rheini sy’n rhoi arian yn rheolaidd ar gyfer gwaith yr elusen hon. Mae Ymddiriedolaeth Amelia yn ymyriad addysgol sy’n cefnogi pobl ifanc sy’n cael y llwybr addysgol traddodiadol yn anodd. Mae’n brofiad synhwyraidd cyflawn o fewn amgylchedd ffermio. Gwneir atgyfeiriadau lleoliad gan ysgolion, unedau atgyfeirio disgyblion a gwasanaethau cymdeithasol ledled De Cymru. Wrth ymweld â’r fferm, gallwch weld sesiynau sy’n seiliedig ar weithgaredd achrededig yn cael eu darparu gan staff ein Fferm Gofal. Rhagor o wybodaeth: https://www.ameliatrust.org.uk/Pages/Category/who-we-are


Nant Gwrtheyrn

Roedd Nant Gwrtheyrn yn bentref diffaith yn y 1970au yn dilyn cau’r chwareli. Roedd y tai, y swyddfeydd, y capel a’r siopau gwag a adeiladwyd pan oedd y chwarel yn ei hanterth rhwng 1860 ac 1920, pan oedd dros 2,000 o ddynion yn gweithio ar y gwenithfaen, wedi adfeilio’n llwyr. Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn, elusen gofrestredig, gan Dr Carl Clowes, y meddyg teulu lleol, ac eraill ac, yn y pen draw, fe wnaethant brynu’r pentref a dechrau adnewyddu’r hen adeiladau a datblygu canolfan ar gyfer dysgu Cymraeg i oedolion a ddenodd grwpiau eraill hefyd i fwynhau awyrgylch unigryw’r dyffryn tawel hwn. Rhwng 2007 a 2010, adnewyddwyd y pentref rhestredig yn Nant Gwrtheyrn drwy £5m o gymorth grant gan y Comisiwn Ewropeaidd, Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Loteri Treftadaeth. Mae’r cymorth grant hwn wedi cynorthwyo i sefydlu canolfan breswyl ac atyniad unigryw i ymwelwyr dyddiol yn Nant Gwrtheyrn. Rhagor o wybodaeth: http://www.nantgwrtheyrn.org/about-nant

Cydweithfeydd Bwyd Cymunedol

Mae’r Uned Adfywio Cefn Gwlad yn Fenter Gymdeithasol sydd wedi ennill gwobrau, a reolir gan fwrdd annibynnol. Rydym yn arbenigo mewn dylunio a chyflawni prosiectau cymdeithasol ac economaidd sy’n cynorthwyo i adfywio cymunedau. Mae hyrwyddo cysylltiadau cynaliadwy rhwng cymunedau gwledig a threfol yn un o’n hamcanion strategol allweddol sy’n golygu, yn ei hanfod, bod yr uned yn uned cynhwysiant cymdeithasol sy’n ymrwymedig i adfywio ar sail pobl o’r gwaelod i fyny. Mae’r Uned wedi ffurfio nifer o gydweithfeydd bwyd cymunedol ledled y DU ac rydym ar hyn o bryd yn goruchwylio dros 300 ohonynt ledled Cymru. Lle bo hynny’n bosibl, rydym yn cysylltu cydweithfeydd bwyd â thyfwyr neu gyflenwyr lleol, gan gefnogi’r economi leol a, thrwy hynny, leihau milltiroedd bwyd. Mae’r grwpiau cymunedol hyn wedi llunio’r sail ar gyfer darparu amrywiaeth eang o fentrau cynaliadwy yn y gymuned fel sesiynau ‘Coginio a Bwyta’, ymweliadau fferm, siopau bwyd mewn ysgolion a ‘Fuel for Sport’. Rhagor o wybodaeth: http://www.foodcoopswales.org.uk/


Artisans Collective

Ffurfiwyd Artisans Collective yn ystod 2012 gan grŵp o grefftwyr ac artistiaid lleol a oedd yn trefnu marchnadoedd crefftau wythnosol ar Stryd Fawr Prestatyn i godi ymwybyddiaeth o siopau lleol yn ystod agoriad parc siopa newydd yn y dref. Gwelodd y grŵp y cyfle i ddatblygu’r syniad ymhellach a ffurfioli eu strwythur drwy ddod yn fenter gymunedol, a daeth yn Gwmni Buddiannau Cymunedol. Y cysyniad gwreiddiol oedd defnyddio’r ganolfan fel man ar gyfer gwerthu cynnyrch crefftwyr lleol gyda phob cyfranogwr yn talu rhent wythnosol. Ond yn gyflym canfu, oherwydd y galw, bod angen gweithgareddau iechyd a llesiant, yn enwedig er mwyn galluogi dinasyddion i aros yn iach wrth heneiddio yn ein hardal leol. Rydym yn cyrraedd pob oedran a chefndir cymdeithasol a ni yw hyb cymunedol Gogledd Cymru Gerddi Kew drwy eu prosiect gwaith allanol Grow Wild. Rydym yn cymryd rhan yn Cymru yn ei Blodau, a’r holl ddigwyddiadau a gwyliau lleol. Rydym yn trawsnewid safle a oedd unwaith yn safle gwaredu ysbwriel ac a oedd wedi’i orchuddio â chlymog Siapan, gan ddenu ymddygiad gwrthgymdeithasol a thipio anghyfreithlon, yn ddôl blodau gwyllt/ardal chwarae. Rhagor o wybodaeth: https://artisans-collective.org.uk/

Pedal Power Mae Pedal Power yn elusen o Gaerdydd sy’n annog a galluogi plant ac oedolion o bob oedran a gallu i brofi manteision beicio. Rydym yn anelu at gael gwared ar y rhwystrau i feicio y mae nifer o bobl yn eu hwynebu ac yn gweithio ar sail cyfres allweddol o werthoedd. Er bod manteision cerdded a beicio i iechyd pobl yn dra hysbys, mae nifer ohonom yn methu â gwneud yr ymarfer corff a’r gweithgaredd corfforol rheolaidd sydd eu hangen arnom. Meddyliwch gymaint anoddach yw hi i ymarfer os ydych yn anabl a phan nad yw’r cyfarpar a’r adnoddau wedi’u haddasu ar gyfer eich anghenion. Dychmygwch pa mor ynysig y gallai fod i beidio â gallu gwneud ymarfer corff ochr yn ochr â’ch ffrindiau a’ch teulu. Yma yn Pedal Power, mae gennym amrywiaeth lawn o dreiciau a beiciau wedi’u dylunio ar gyfer plant ac oedolion ag anableddau. Yn ogystal, mae gennym feiciau rheolaidd y gall ffrindiau, teulu a gweithwyr gofal eu defnyddio, er mwyn gwneud beicio yn weithgaredd cymdeithasol hefyd. Rydym hefyd yn rhedeg caffi croesawgar fel y gall yr ymweliad â Pedal Power fod hyd yn oed yn fwy cymdeithasol a gwerthfawr. Mae Pedal Power yn gweithredu rhaglen adnewyddu ac ailwerthu beiciau sy’n garedig i’r amgylchedd gyda chymorth gwirfoddolwyr ymrwymedig. Rhagor o wybodaeth: https://www.cardiffpedalpower.org/about-us


Menter Môn

Sefydlwyd Menter Môn ym 1995 i ddarparu rhaglenni datblygu gwledig yr UE. Mae’n gwmni trydydd sector gyda bwrdd o gyfarwyddwyr sy’n cynnwys y sectorau preifat, gwirfoddol a chymunedol. Ei brif amcan yw hwyluso adfywiad economaidd gwledig ar Ynys Môn. Er mwyn cyflawni hyn, mae Menter Môn yn cydnabod pwysigrwydd diogelu a dathlu adnoddau unigryw a gwerthfawr yr ynys, o’r Gymraeg i’r wiwer goch, i’n harfordir trawiadol a phobl ifanc galluog. Mae Menter Môn wedi gweithio’n agos gyda threfi a phentrefi ledled Ynys Môn ers 1995. Gyda chyllid gan amryw o raglenni Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru, rydym wedi adfer asedau cymunedol, cefnogi digwyddiadau, sefydlu mentrau cymunedol a hyrwyddo treftadaeth leol. Mae’r gweithgareddau hyn wedi annog ymdeimlad o berchnogaeth gymunedol ac mae wedi rhoi bywyd newydd i bentrefi sydd wedi colli nifer o amwynderau allweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Rhagor o wybodaeth: https://www.mentermon.com

FareShare Cymru

Sefydlwyd FareShare Cymru yn 2010 a dechreuodd gyflenwi bwyd ym mis Gorffennaf 2011. Rydym wrth galon dau o’r materion mwyaf dybryd sy’n wynebu’r DU – tlodi bwyd a gwastraff bwyd. Ein gweledigaeth yw Cymru lle nad oes dim bwyd da yn mynd yn wastraff. Cymru lle mae gwastraff bwyd yn cael ei leihau a lle y defnyddir unrhyw fwyd dros ben er budd y rhai sydd ei angen fwyaf. Ein hamcan yw atgyfeirio’r bwyd bwytadwy sy’n cael ei drin fel gwastraff ar hyn o bryd gan gynhyrchwyr a dosbarthwyr bwyd a’i ddosbarthu i bobl ddifreintiedig ledled Cymru sy’n gallu cael budd o’i fwyta. Rydym yn troi problem amgylcheddol yn ateb cymdeithasol, gan helpu i fwydo miloedd o bobl bob wythnos. Rydym yn cymryd bwyd bwytadwy o’r diwydiant bwyd a diod (a fyddai’n cael ei wastraffu fel arall) a’i ailddosbarthu i sefydliadau yng Nghymru sy’n bwydo pobl mewn angen, gan droi problem amgylcheddol yn ateb cymdeithasol. Rhagor o wybodaeth: http://www.fareshare.cymru/


Ysgol Goedwig Cymru

Mae diddordeb mewn Deallusrwydd Emosiynol yn rhan hanfodol o ddull yr Ysgol Goedwig, ac mae’n golygu y bydd pob sesiwn yn caniatáu amser ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol, gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer gwaith tîm, adolygiadau unigol a grŵp a chwarae a chymdeithasu anffurfiol. Thema graidd arall yw cynyddu ymwybyddiaeth a gwybodaeth amgylcheddol gyda chysylltiadau amlwg â Chynaliadwyedd a Dinasyddiaeth Fyd-eang. Mae arweinwyr cymwysedig yr Ysgol Goedwig yn cynorthwyo i hwyluso’r broses o ddatblygu strategaethau ymdopi sydd, yn eu tro, yn arwain at newidiadau emosiynol ac ymyddygiadol cadarnhaol. Mae’r Ysgol Goedwig yn rhoi’r amser a’r lle i gyfranogwyr ddatblygu sgiliau, diddordebau a dealltwriaeth drwy brofiadau ymarferol. Mae dull yr Ysgol Goedwig yn canolbwyntio ar y broses o ddysgu yn hytrach na’r canlyniadau ac, wrth gwrs, yr hiraf y mae’r rhaglen yn cael ei rhedeg, y y mwyaf buddiol y bydd. Mae’n bosibl yr ystyrir bod o leiaf 10 sesiwn yn angenrheidiol ar gyfer prosiectau cychwynnol. Mae ysgolion yn edrych fwyfwy ar ddarparu darpariaeth drwy gydol y flwyddyn i’w disgyblion gyda buddiannau gwych. Mae’r amser yn caniatáu ailadrodd, datblygu hyder yn ogystal â chadarnhau a throsglwyddo sgiliau. Rhagor o wybodaeth: http://www.forestschoolwales.org.uk/

Green Shoots

Mae Green Shoots yn Gwmni Cymdeithasol a sefydlwyd i gynnig cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth i bobl ifanc sy’n wynebu anfanteision a rhwystrau i gyflogaeth. Fe’I sefydlwyd mewn ymateb i’r galw cynyddol, ac mae’n darparu gwasanaeth dosbarthu bwffes a brechdanau i fusnesau a sefydliadau ledled Caerdydd. Rydym yn credu mewn defnyddio cynnyrch masnach rydd a lleol, gyda nifer o’n llysiau’n cael eu darparu gan ein prosiect ardystiedig organig ym Mro Morgannwg (Field Days Organic). Rydym hefyd yn lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd drwy gyflenwi platiau a chyllyll a ffyrc y gellir eu hailddefnyddio i leihau’r gwastraff i safleoedd tirlenwi o’n busnes.


Antur Waunfawr

Cafodd Antur Waunfawr ei sefydlu ym 1984 yn sgil gweledigaeth R. Gwynn Davies, a’r gefnogaeth gref a gafodd gan bobl o ardal Waunfawr. Erbyn hyn, mae’n fenter gymdeithasol arweiniol sy’n darparu cyflogaeth a chyfleoedd hyfforddi i bobl ag anableddau dysgu yn eu cymunedau eu hunain. Mae Antur Waunfawr yn ymrwymedig i ddatblygu mewn ffordd gynaliadwy – sy’n golygu bod diogelu’r amgylchedd naturiol a datblygu busnesau gwyrdd yn rhan annatod o werthoedd y cwmni. Gweledigaeth Antur, fodd bynnag, yw cyfuno hyn â’r cysyniad o integreiddio pobl ag anableddau dysgu i bob agwedd ar ein gwaith. Mae’r prosiectau ailgylchu’n rhan allweddol o’r broses integreiddio hon, ac mae ein prosiectau Caergylchu, Warws Werdd a Beics Menai Bikes yn cynnig amrywiaeth o waith a chyfleoedd hyfforddi. Rhagor o wybodaeth: http://www.anturwaunfawr.org

Neptune’s Army of Rubbish Cleaners Mae gan Sir Benfro rai o’r golygfeydd arfordirol mwyaf trawiadol yn y DU sy’n darparu’r cynefin ar gyfer ystod amrywiol o anifeiliaid a phlanhigion. Mae’r cynefin hwn a’r bywyd gwyllt y mae’n ei gefnogi wedi dod o dan bwysau cynyddol yn ddiweddar. Mae Gofal Arfordirol yn anelu at gynnwys pobl yn y broses o ofalu am eu hamgylchedd arfordirol lleol lle y gall gwirfoddolwyr fabwysiadu traeth neu ddarn o’r arfordir a chynnal gweithgareddau fel casglu ysbwriel, cynnal a chadw twyni a digwyddiadau addysgol amgylcheddol. Mae Neptune’s Army of Rubbish Cleaners (N.A.R.C.) yn efelychu’r ymgyrchoedd casglu sbwriel ar y traethau a gynhelir gan grwpiau Gofal Arfordirol, ond yr unig wahaniaeth yw eu bod yn cael eu cynnal o dan y dŵr! Mae’r sefydliad yn cynnwys deifwyr gwirfoddol sy’n frwdfrydig ynghylch cadw amgylchedd o dan y dŵr Sir Benfro mor lân ag y dylai fod. Mae’r deifwyr yn deifio mewn parau ac yn cario sisyrnau, bagiau, hambyrddau, bagiau codi ac meant yn credu’n gryf yn yr hyn y maent yn ei wneud. Gall deifiau bara bron i awr ac yn ystod yr amser hwnnw bydd ysbwriel yn cael ei gasglu, ei roi mewn bagiau a’i anfon i’r wyneb i’w gasglu gan gwch cymorth. Mae amrywiaeth y sbwriel a gesglir ar y deifiau’n anhygoel, gan gynnwys ffonau symudol, trolïau siopa, beiciau, cadeiriau swyddfa, byrddau sgrialu, batris a phob math o bethau eraill! Mae’r rhan fwyaf o’r sbwriel yn dod o bysgota hamdden gyda phwysau, gwialenni pysgota, bachau a symiau diddiwedd o leiniau yn cael eu codi o bob rhan o’r sir. Ar ôl eu casglu, mae’r eitemau’n cael eu glanhau, eu didoli, eu cofnodi a’u hailgylchu lle bo hynny’n bosibl. Rhagor o wybodaeth: http://www.narc-cc.org.uk/about-us/


Actif Woods Wales NOd Coed Actif Cymru yw gwella llesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol y bobl sydd o dan yr anfantais fwyaf drwy weithgareddau yn yr awyr agored mewn coedwigoedd, sy’n hyrwyddo iechyd a llesiant. Datblygwyd model effaith, sy’n creu partneriaeth rhwng sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol ac arweinwyr coedwigoedd, gan ddarparu hyfforddiant a chymorth i ddatblygu sgiliau a gwasanaethau ar draws sectorau ar gyfer pobl gydag amrywiaeth eang o gyflyrau iechyd. Ers 2010, rydym wedi bod yn cynnal gweithgareddau iechyd a llesiant llwyddiannus drwy ein rhaglen Coed Actif Cymru. Heddiw, mae’r rhaglen hon wedi tyfu o nerth i nerth gyda grwpiau mewn naw ardal yng Nghymru. Rhagor o wybodaeth: https://www.coedlleol.org.uk/

Awel Aman Tawe

Pbrosiect ynni cymunedol sy’n gweithio i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ar frig Cwm Tawe ac Aman yw Prosiect Aman Tawe. Mae’n anelu at ddod â thrydan glân, swyddi ac adfywiad i’r pentrefi ger Mynydd y Gwrhyd. Mae ganddo ganiatâd cynllunio i adeiladu fferm wynt gymunedol â dau dyrbin yn uchel ar y Gwrhyd, ased gwerth £6 miliwn a fydd yn dod â chytundebau ynni carbon isel ac adeiladu i’r ardal, yn ogystal â ffrwd incwm blynyddol o werthu’r trydan sy’n werth tua £200,000 a fydd yn cynorthwyo i ariannu prosiectau lleol. Mae AAT wedi’I wreiddio yn y gymuned, mae ei nifer fechan o staff a’i grŵp o wirfoddolwyr gweithredol yn byw yn yr ardal, ac mae wedi ymrwymo i warchod amgylchedd naturiol eithriadol y gymdogaeth. Mae’n gweithio i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ynni glân yn y frwydr yn erbyn bygythiad newid yn yr hinsawdd drwy raglen barhaus o wybodaeth, cyfathrebu ac ymgynghori ac, yn fwy diweddar, drwy amrywiaeth arloesol o weithgareddau celfyddydol sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd sy’n aml yn cysylltu â phobl ar lefel ddyfnach. Mae ansawdd ei waith wedi’i gydnabod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol gan nifer gynyddol o wobrwyon mawr eu bri. Rhagor o wybodaeth: http://www.awelamantawe.org.uk/


Partneriaeth Rhostir Powys

Mae Partneriaeth Rhostir Powys yn brosiect ar y cyd - wedi’i ariannu gan gynllun Rheoli Cynaliadwy sy’n profi dulliau rheoli tir newydd ar draws 20,000 erw mewn tair gwahanol ardal ym Mhowys. Mae wedi’i anelu’n bennaf at adnewyddu’r grug bregus, a chyflwynwyd y prosiect hwn gan berchnogion/ rheolwyr y rhostir eu hunain sydd â hawliau saethu - nas defnyddiwyd ers blynyddoedd - ac sydd yn hanesyddol yng Nghymru yn sbarun economaidd allweddol ar gyfer cynnal a chadw cynefinoedd grug heb gost i’r pwrs cyhoeddus. Rhagor o wybodaeth: http://powysmoorlands.cymru/

Ministry of Furniture

Mae Ministry of Furniture yn arbenigwyr ym maes dodrefn. Rydym yn recriwtio a gweithio gyda phobl sy’n deall gofynion y sector dodrefn. Rydym yn hoffi gweithio gyda’r rheini mewn addysg a sectorau eraill bob dydd; drwy hynny, gallwn fod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau. Mae ein proffil cyflogaeth yn arbennig iawn hefyd. Mae mwy na 50 y cant o’n gweithlu yn bobl ag anableddau, yn ein swyddfa fusnes ac o fewn ein cadwyn gweithgynhyrchu a chyflenwi nwyddau. Dros nifer o flynyddoedd, rydym wedi dod yn arbenigwyr ar ddatblygu pobl ac rydym wedi gweld yr effaith gadarnhaol y gall hyn ei gael ar gymdeithas, bywydau ac economïau lleol. Ym Ministry of Furniture, rydym yn falch ein bod yn cadw un llygad ar y dyfodol. Sefydlwyd rhaglen brentisiaeth i hyfforddi, datblygu a chadw talent newydd. Rydym yn annog y dull hwn gan ein partneriaid sy’n rhannu amcanion cymdeithasol tebyg. Ers flynyddoedd, mae ein tîm wedi bod yn datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau i weithio gyda phobl sydd bellaf oddi wrth y farchnad swyddi, ac rydym yn arbenigwyr ar reoli rhaglenni a llwybrau yn ôl i’r gwaith ar gyfer y bobl hynny. Rydym yn anelu at ddefnyddio cynifer o gwmnïau gydag ethos tebyg fel rhan o’n cadwyn gyflenwi ag y gallwn. Ansawdd a thawelwch meddwl gydag effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd. Rydym yn cynnig amrywiaeth o gynnyrch wedi’i ailweithgynhyrchu gyda gwarant o hyd at 5 mlynedd. Rhagor o wybodaeth: https://www.ministryoffurniture.com/


Canolfan Iechyd Bae Colwyn Mae Canolfan Gofal Iechyd a Llesiant Bae Colwyn yn bartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac Undeb Rygbi Cymru. Mae’n anelu at wella iechyd pobl sy’n byw yng Nghonwy drwy weithgaredd corfforol yn y gymuned. Gall hyn fod er mwyn atal salwch, rheoli salwch cronig, neu lunio rhan o raglenni adfer. Datblygwyd y fenter mewn ymateb i nifer o faterion gan gynnwys lleihau cyllidebau, galw cynyddol am wasanaethau ffisiotherapi, diffyg lle yn yr ysbyty i’r tîm gofal canolradd weithio ynddo, a chydnabyddiaeth gynyddol o’r cyfraniad y gall gweithgaredd corfforol ei wneud i amrywiaeth o gyflyrau iechyd. Yn ystod y gwaith o adnewyddu Canolfan Hamdden Conwy, gweithiodd Pennaeth Gwasanaethau Therapi y Bwrdd a Phennaeth Bywydau Gweithgar a Chreadigol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gyda’i gilydd i greu lle ar gyfer y Tîm Gofal Canolradd. Rhoddodd y man pwrpasol o fewn y ganolfan hamdden fwy o le i’r tîm a mynediad i amrywiaeth o gyfleusterau ffitrwydd. Gwelodd y tîm hefyd y potensial i’r trefniant hwn ddarparu model ar gyfer mentrau gwasanaethau iechyd a chymdeithasol yn y dyfodol. Mae’r cysyniad o ganolfan iechyd wedi creu lleoliad lle y gall gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol gydweithio i ddarparu atebion priodol ar gyfer pobl leol. Rhagor o wybodaeth: john.hardy@conwy.gov.uk

Cynon Valley Organic Adventures

Mae Cynon Valley Organic Adventures yn fenter gymdeithasol sy’n cynnig nifer o weithgareddau a gwasanaethau i ddod â budd i’n cymunedau lleol. Mae croeso i bawb ac mae rhywun wastad ar gael am baned a sgwrs os oes angen un arnoch. Rydym yn croesawu cysylltiad cymunedol felly os ydych yn dymuno cymryd rhan yn ein gardd mewn unrhyw ffordd, siaradwch ag aelod o staff. Rydym yn cynnig nifer o weithgareddau a gwasanaethau ar gyfer pob math o grwpiau ac anghenion ac mae gennym siop ar-lein hefyd lle gallwch brynu adnoddau dysgu, cerrig a mwynau, sebonau naturiol a llawer mwy. Mae ein gardd yn cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr a defnyddir ein helw i ddatblygu ein gardd gymunedol ac i ailfuddsoddi mewn mentrau cymunedol lleol. Mae plant yn ganolog i’n hachos ac rydym yn croesawu cysylltiad ysgolion a chlybiau lleol. Rhagor o wybodaeth: https://www.cynonvalleyorganicadventures.co.uk/


The Outdoor Partnership

Sefydlwyd y Bartneriaeth Awyr Agored yn 2005, ac mae’n Elusen gofrestredig sy’n ysbrydoli pobl leol i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored fel diddordeb gydol oes. Datblygwyd ein prosiectau i greu parhad o weithgareddau ar lawr gwlad i’r podiwm a llwybrau gyrfa. Mae ein prosiectau cyfranogi, addysg, hyfforddiant, gwirfoddoli a chyflogaeth gynaliadwy yn gwella iechyd a llesiant economaidd a chymdeithasol preswylwyr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae ein prosiectau wedi darparu dros 100,000 o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored er iechyd a llesiant; wedi hyfforddi dros 4000 o wirfoddolwyr am Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad o £10 miliwn; wedi cynorthwyo dros 500 o bobl ddi-waith i fynd yn ôl i’r gwaith am Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad o £7 miliwn; wedi sefydlu dros 80 o glybiau a grwpiau cymunedol awyr agored gyda dros 7000 o aelodau yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn amrywiaeth o weithgareddau; wedi darparu cyfleoedd cynaliadwy ar gyfer dros 1000 o bobl anabl drwy grwpiau a chlybiau sefydledig; o ganlyniad, wedi cynyddu nifer yr hyfforddwyr brodorol sy’n siarad Cymraeg yn y rhanbarth o 4% i 25% (Ymchwil Prifysgol Bangor 2003 & 2013) dros y 12 mlynedd diwethaf. Rhagor o wybodaeth: https://partneriaeth-awyr-agored.co.uk/home

Ein Berllan – Our Orchard

Bydd Ein Perllan - Our Orchard yn dod â gweledigaeth o berllan gymunedol yn fyw yn y caeau o amgylch safle’r ysbyty. Mae’r Bwrdd Iechyd yn gweithio gyda phartneriaid i sefydlu’r prosiect arloesol hwn, sef y cyntaf o’i fath ar safle ysbyty yn y DU. Ein hamcan yw sefydlu parc iechyd cymuned ecolegol a fydd yn dod â budd i’r bywyd gwyllt, planhigion a phobl drwy ymgysylltiad amgylcheddol dynol cadarnhaol. Rhagor o wybodaeth: http://www.cardiffandvaleuhb.wales.nhs.uk/ein-berllan-our-orchard


Prosiect Iechyd Gwyllt

Gyda’r Prosiect Iechyd Gwyllt, mae Ymddiriedolaeth Natur Gwent yn ymgysylltu ag anghenion iechyd a llesiant cymunedau lleol drwy gynnal diwrnodau gwaith a gweithgareddau hamdden rheolaidd ar warchodfeydd natur. Maent wedi’u targedu tuag at welliannau mewn iechyd a llesiant, a byddant yn amlygu hyn. Anogir meddygon teulu, ysbytai a Darparwyr Gofal Iechyd eraill i wneud atgyfeiriadau uniongyrchol i’r prosiect, gyda chyfranogwyr posibl hefyd yn atgyfeirio eu hunain. Mae cyfranogwyr cofrestredig yn cael eu gwahodd i roi cynnig ar amrywiaeth o weithgareddau hamdden a rheoli cynefinoedd. Yn ogystal â rhoi budd amgylcheddol a therapiwtig, mae’r prosiect hefyd yn cefnogi materion eraill y mae pobl yn mynd i’r afael â nhw fel hyder, hunan-barch, unigrwydd cymdeithasol a chyflogadwyedd. Rhagor o wybodaeth: https://www.gwentwildlife.org/wildhealthproject

Men’s Sheds Cymru

Grwpiau neu fentrau cymdeithasol wedi’u sefydlu mewn cymunedau lleol er budd dynion yw Siediau Dynion. Maent yn rheoli eu hunain, yn cefnogi eu hunain ac yn hunangynhaliol gyda phwyllgor bychan; mae ganddynt eu cyfansoddiadau unigol, eu hincwm eu hunain ac, yn y pen draw, eu heiddo eu hunain. Mae sut mae pob sied unigol yn edrych a’r gweithgareddau a gynhelir ynddynt yn dibynnu’n llwyr ar sgiliau a diddordebau’r grŵp. Byddech yn cael maddeuant am feddwl bod siediau dynion yn ymwneud yn llwyr â gwneud pethau allan o bren. Er bod nifer ohonynt yn grwpiau gwaith coed, mae amrywiaeth anferth o weithgareddau eraill yn cael eu cynnig. Mae’r siedwyr yn artistiaid, casglwyr, storïwyr, yn bobl sy’n frwdfrydig ynghylch radio amatur, yn wylwyr trenau, yn wneuthurwyr modelau….Mae croeso i bawb a rhoddir ystyriaeth gyfartal i unrhyw ddiddordeb, sgil neu brosiect - yn enwedig os gallai ddenu aelodau newydd neu ddod ag incwm gwerthfawr i gefnogi datblygiad y grŵp cyfan. Rhagor o wybodaeth: http://www.mensshedscymru.co.uk/


Fferm Ofal Clynfyw

Mae’r Fferm Ofal ar gyfer pobl sy’n aros yn y bythynnod ac hefyd ar gyfer pobl leol sy’n dod yno bob dydd. Rydym yn tyfu ffrwythau a llysiau mewn dau dwnel polythen, cawell ffrwythau, pum gwely uchel ac erw o dir. Mae gennym grochendy a thaith gerfluniau drwy’r goedwig i bobl eu mwynhau a chynorthwyo i’w datblygu. Mae ‘Wheelie Good Idea’, prosiect ailwampio i gynorthwyo byw’n annibynnol, yn brosiect arall yr ydym yn falch iawn ohono! Yn y prosiect hwn, rydym yn canfod ac yn trwsio hen gadeiriau olwyn nad ydynt yn cael eu defnyddio a darnau o gyfarpar symudedd, ac rydym wedyn yn eu hallforio i’r byd sy’n datblygu lle mae’r angen yn enfawr a gall cadair olwyn newid bywyd rhywun. Rydym mewn canolfan hyfforddiant achrededig gydag Agored Cymru, yn rhedeg cyrsiau mewn ystod eang iawn o feysydd o arddwriaeth a’r celfyddydau creadigol, i sefydlu eich busnes eich hun, adnewyddu cadeiriau olwyn a hunan-rymuso. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen ar y Ganolfan Ddysgu. Rhagor o wybodaeth: http://www.clynfyw.co.uk/hort.htm

Caffi Trwsio Llandrindod

Mae’r caffis trwsio sy’n cael eu rhedeg gan Trawsnewid Llandrindod yn ddigwyddiadau cymdeithasol hwyliog lle y gallwch ddod â phethau sydd wedi torri a bydd gwirfoddolwr â sgiliau yn dangos i chi sut i’w trwsio. Mae Caffis Trwsio yn lleoedd cyfarfod am ddim ac maent yn ymwneud yn llwyr â thrwsio pethau (ynghyd). Ble bynnag y bydd y Caffi Trwsio’n cael ei leoli, gallwch ganfod offerynnau a deunyddiau i’ch helpu i drwsio unrhyw beth, gan gynnwys dillad, dodrefn, cyfarpar trydanol, beiciau, llestri, peiriannau, tegannau ac ati. Byddwch hefyd yn canfod gwirfoddolwyr arbenigol, gyda sgiliau trwsio mewn pob math o feysydd. Mae ymwelwyr yn dod ag eitemau wedi torri o’u cartrefi. Gyda’r arbenigwyr, maent yn dechrau gwneud y gwaith trwsio yn y Caffi Trwsio. Mae’n broses ddysgu barhaus. Os nad oes gennych unrhyw beth i’w drwsio, gallwch fwynhau paned o de neu goffi. Neu gallwch helpu gyda’r gwaith o drwsio rhywbeth sydd gan rywun arall. Gallwch hefyd gael eich hysbrydoli wrth y bwrdd darllen – drwy fynd drwy’r llyfrau ar drwsio a DIY. Rhagor o wybodaeth: https://www.facebook.com/LlandrindodRepairCafe/


Coedwig Gymunedol Long Wood Menter gymdeithasol yng Ngorllewin Cymru yw Coedwig Gymunedol Long Wood. Fe’i sefydlwyd yn 2003 ac mae’n cael ei rheoli ar gyfer gwerthu coed ac fel cyfleuster hamdden ar sail nid er elw gan sicrhau datblygiad cynaliadwy y goedwig gan ganolbwyntio ar y gymuned fel ased masnachol, addysgol a hamdden sy’n berchen i’r gymuned. Rhagor o wybodaeth: http://www.longwood-lampeter.org.uk/cy/

Tir Coed

Elusen a menter gymdeithasol yw Tir Coed sy’n ymgysylltu pobl â choedwigoedd drwy weithgareddau gwirfoddoli a hyfforddi a gweithgareddau wedi’u teilwra sy’n gwella llesiant, datblygu sgiliau a gwella’r coedwigoedd er budd pawb. Ein gweledigaeth yw datgloi potensial coedwigoedd i ddarparu adnodd cymunedol, gweithgareddau addysgol ac iechyd, a chreu cyfleoedd swyddi i unigolion o dan anfantais yng nghefn gwlad Cymru, gyda’r nod o wneud newid cadarnhaol parhaol. Rhagor o wybodaeth: http://tircoed.org.uk/

Cae Tan CSA

Prosiect Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned sydd wedi’i leoli ym Mhenrhyn Gŵyr yn Ne Cymru yw Cae Tân. Rydym yn tyfu a chyflenwi cynnyrch ffres, tymhorol, biodynamig i’n haelodau yn wythnosol drwy gydol y flwyddyn. Rydym yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli a dysgu i amrywiaeth o grwpiau ac unigolion, fel ysgolion lleol, i godi ymwybyddiaeth o ffermio cynaliadwy ac i ailgysylltu plant a phobl ifanc â’r tir a’u bwyd. Rhagor o wybodaeth: http://caetancsa.org/cy/csa-cae-tan-hafan/


Field Days Organic Mae’r prosiect hwn mewn lleoliad delfrydol gydag amrywiaeth o gyfleoedd am brofiad gwaith, ac mae ganddo hanes o gefnogi pobl sy’n agored i niwed yn llwyddiannus i ddatblygu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd, a meddwl am y cam nesaf o’u datblygiad mewn amgylchedd cyfeillgar a therapiwtig. Mae’r prosiect yn cynhyrchu amrywiaeth o lysiau a phlanhigion, sy’n faes yr ydym yn ei ddatblygu er mwyn meithrin cynaliadwyedd y prosiect. Mae cynaliadwyedd amgylcheddol wrth galon y prosiect, ac mae’n defnyddio gwrtaith sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd, compostio ac mae ganddo dyrbin gwynt i gynhyrchu trydan. Enillodd Wobr Gymunedol BIFFA yn 2003 am ei waith yn y maes hwn. Rhagor o wybodaeth: https://www.innovate-trust.org.uk/field-days-organic/department

Gerddi Mencap Stackpole

Rheolir yr Ardd gan ymddiriedolwyr Mencap Sir Benfro Cyf (elusen gofrestredig rhif 1128982) a byddwch yn gallu mwynhau’r gerddi eang a gweld drosoch chi eich hun y gwaith trawiadol a wneir gan oedolion Sir Benfro sydd ag anableddau dysgu, sy’n cynhyrchu amrywiaeth mawr o blanhigion, ffrwythau ffres a llysiau y gallwch eu prynu yn siop yr Ardd. Ein hamcanion • Rhoi profiad gwaith a hyfforddiant garddwriaethol i oedolion a phobl ifanc gydag anableddau dysgu • Datblygu sgiliau cymdeithasol y cyfranogwyr mewn amgylchedd cyfeillgar a gofalgar • Annog datblygiad hunan-werth ac ymdeimlad o gyflawniad drwy gyfranogi mewn cymhwyster a gydnabyddir • Annog cynwysoldeb • Darparu ffrwythau a llysiau ffres o ansawdd da i breswylwyr ac ymwelwyr lleol Rhagor o wybodaeth: https://www.stackpole-walledgardens.co.uk/


WRAP Cymru Mae WRAP Cymru yn darparu cymorth sy’n benodol i Gymru ar ran Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys ei Rhaglen Newid Gydweithredol ar gyfer awdurdodau lleol, ac yn cefnogi sector rheoli adnoddau Cymru a’r ymgyrch Ailgylchu dros Gymru. Mae ei waith hefyd yn cynnwys rhaglenni ledled y DU fel yr Ymrwymiad Courtauld ar gyfer y sector bwyd, ac ymgyrchoedd newid ymddygiad defnyddwyr fel Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff. Mae’r gwaith yn cynorthwyo busnesau, cynghorau a pherchnogion tai i atal gwastraff, i ailgylchu mwy ac i arbed arian. Rhagor o wybodaeth: http://www.wrapcymru.org.uk/

Mach Maethlon Sefydliad cymunedol wedi’i leoli yn Nyffryn Dyfi yw Mach Maethlon, sy’n rhoi mynediad i’r gymuned i dir ar gyfer tyfu, gan greu mannau cyhoeddus bwytadwy gyda gwirfoddolwyr a darparu cynllun bagiau llysiau tymhorol. • Credwn fod gan bawb yr hawl i gynhyrchu a bwyta bwyd iach. Dyma pam rydym yn rhedeg cynllun rhannu tir, yn creu mannau cyhoeddus bwytadwy ac yn darparu bagiau llysiau lleol fforddiadwy. • Nid dim ond rhannu bwyd mae Mach Maethlon yn ei wneud; rydym am i bawb wybod sut i dyfu bwyd eu hunain. Rydym yn cynnal gweithdai addysgol mewn sgiliau garddio, cynaeafu a choginio ar gyfer gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol a phlant ysgol. Rydym yn credu ym mhwysigrwydd darparu addysg a datblygiad sgiliau i bawb. • Mae bwyd a thyfu yn lefelwyr gwych, ac rydym yn eu defnyddio i gysylltu â chymaint o bobl â phosibl yn Nyffryn Dyfi. Rydym yn cefnogi rhwydwaith o arddwyr marchnad cynaliadwy drwy ein cynllun bocsys llysiau, ac yn cefnogi aelodau’r gymuned i rannu eu hadnoddau yn fwy cyfartal drwy fannau bwyd cyhoeddus a chytundebau rhannu tir. Rydym yn anelu at gysylltu ein cymuned drwy ddatblygu cysylltiadau cryf gyda rhwydweithiau a sefydliadau yn ein hardal. • Mae ein tyfwyr yn annog a galluogi mwy o fioamrywiaeth drwy ddulliau cynhyrchu sy’n garedig i fywyd gwyllt, sy’n rhydd o gemegau ac sydd â lefelau isel o danwydd ffosil. Rydym yn defnyddio addysg a chyfranogi i drosglwyddo’r negeseuon hyn i bobl eraill yn ein cymuned drwy rannu sgiliau a chysylltu â chwsmeriaid y bagiau llysiau. • Rydym am roi’r cyfle i gynifer o bobl â phosibl gymryd rhan, i gydweithio a chael ymdeimlad o werth. Rydym yn anelu at gefnogi datblygiad sgiliau i helpu pobl yn ôl i’r gwaith, helpu plant i gael eu profiad cyntaf o arddio, a rhoi’r cyfle i bobl hŷn rannu eu profiad. • Rydym yn gwmni cydweithredol cofrestredig a chredwn fod gwerthoedd ac egwyddorion cydweithredu yn hwyluso cynhwysiant a democratiaeth mewn materion cymunedol allweddol. Rhagor o wybodaeth: http://www.machmaethlon.org/



Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.