Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru: COVID-19 a Chymunedau BAME – ymateb Llywodraeth Cymru Adroddiad Crynodeb Gwerthuso Rebecca Winslade-Rees Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru Tachwedd 2020
Cyflwyniad Lleolir Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae’n darparu ystod o gymorth i ymarferwyr ac ymchwilwyr ar draws pob sector sydd yn dylanwadu ar unrhyw agwedd ar iechyd y cyhoedd a gwella iechyd yng Nghymru. Mae cyfres o seminarau ymysg y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu, sydd yn ceisio hybu arfer gorau yn seiliedig ar dystiolaeth bresennol a thystiolaeth sydd yn dod i’r amlwg. Mae’r gyfres yn cynnwys ystod amrywiol o destunau ac mae enghreifftiau diweddar wedi cynnwys Maeth yn y Blynyddoedd Cynnar, Anableddau Dysgu a Digartrefedd. Cyflwynir datganiad o weledigaeth ar gyfer y gyfres o seminarau isod: Bydd Cyfres o Seminarau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymgysylltu rhanddeiliaid yn ymwneud â materion iechyd y cyhoedd cyfoes trwy ddarlithoedd a sgyrsiau, er mwyn gwella gwybodaeth a dealltwriaeth a chyfrannu at sgyrsiau iechyd y cyhoedd presennol ac yn y dyfodol. Nodau’r gyfres o seminarau yw:
Darparu cyfleoedd newydd ar gyfer dysgu ar ystod o faterion iechyd y cyhoedd cyfoes sydd yn effeithio ar Gymru; Datblygu gwybodaeth iechyd y cyhoedd ymysg cynulleidfa eang; Rhannu a gwella’r sail dystiolaeth ymhellach ar gyfer iechyd y cyhoedd.
Oherwydd COVID-19 a’r angen i ddilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol, rydym wedi gohirio ein cyfres o seminarau wyneb yn wyneb blynyddol. Fodd bynnag, roeddem yn teimlo ei fod yn bwysig parhau i rannu a dysgu yn ystod y cyfnod digynsail hwn. Felly dechreuwyd cyfres o weminarau yn ymwneud â COVID-19 ym mis Gorffennaf 2020. Gellir gweld pob gweminar flaenorol a’u hadroddiadau gwerthuso ar wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r adroddiad gwerthuso hwn ar gyfer y pumed gweminar a ddefnyddir i gynllunio a gwella profiad y defnyddwyr o weminarau yn y dyfodol.
COVID-19 a Chymunedau BAME – ymateb Llywodraeth Cymru Cynhaliwyd y weminar hon ar 12 Tachwedd 2020 gan ddefnyddio meddalwedd digwyddiadau byw Microsoft Teams. Hwyluswyd y weminar gan Shamala Govindasamy, Rheolwr Ymgysylltu’r Rhaglen, y Tîm Diogelu Cenedlaethol a Chyd-gadeirydd Rhwydwaith Staff Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME). Cyflwynwyd y weminar gan Dr Heather Payne, Uwch Swyddog Meddygol, Iechyd Mamau a Phlant, Llywodraeth Cymru. Disgrifiodd y sesiwn waith Grŵp Cynghori Prif Weinidog Cymru ar anghydraddoldebau iechyd oherwydd COVID-19 mewn cymunedau BAME ac ymateb Llywodraeth Cymru.
Mae’r cyflwyniad ar gael trwy gysylltu â publichealth.network@wales.nhs.uk neu gellir ei weld ar wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Gwerthusiad Cofrestrodd 147 o bobl ar gyfer COVID-19 a Chymunedau BAME – gweminar ymateb Llywodraeth Cymru a mynychodd 72 ar y diwrnod, 2 ohonynt heb gofrestru i fynychu. Mae’r tabl canlynol yn dangos pa sector yr oedd y cynadleddwyr yn ei gynrychioli ar y diwrnod: Sector Tîm Canolog Iechyd Cyhoeddus Cymru Tîm Lleol Iechyd Cyhoeddus Cymru Bwrdd Iechyd Trydydd Sector Awdurdod Lleol GIG Arall Academaidd Arall – Cymdeithas Dai Llywodraeth Cymru Heddlu Arall – Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Arall - Ymchwil Arall - CLlLC Arall
Nifer 21 11 11 7 5 4 3 3 2 1 1 1 1 1
Gofynnwyd i’r mynychwyr gwblhau arolwg gwerthuso ar-lein trwy Survey Monkey ar ôl y weminar. Y gyfradd ymateb i’r arolwg oedd 18% (N=13).
Canlyniadau Meintiol Gofynnwyd i’r cynadleddwyr a oeddent yn aelod o Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru neu beidio. Roedd naw o’r mynychwyr (69%) yn aelodau o’r Rhwydwaith. Yn yr wythnos yn dilyn y weminar, cofrestrodd 8 aelod newydd ar y Rhwydwaith, y gellir eu hystyried yn ganlyniad uniongyrchol i’r weminar, a/neu fynychwyr yn hyrwyddo’r Rhwydwaith yn eu hardaloedd. Gofynnwyd i’r cynadleddwyr raddio o 1 i 5 (gydag 1 ddim yn ddefnyddiol o gwbl a 5 yn ddefnyddiol iawn) ‘Pa mor ddefnyddiol oedd y weminar yn eich barn chi?’ Rhoddodd saith o’r mynychwyr 4 ar gyfer y cwestiwn hwn gyda 2 yn rhoi 5 a 4 o’r mynychwyr yn rhoi 3 fel ateb. Gofynnwyd i’r mynychwyr ddewis o gyfres o atebion a/neu roi eu hymateb eu hunain i’r cwestiwn canlynol; ‘O ganlyniad i gymryd rhan yn y weminar pa gamau y byddwch chi’n eu cymryd (dewiswch bob un sydd yn berthnasol)?’ Nododd pedwar o’r ymatebwyr y byddent
yn rhannu’r cyflwyniad gyda chydweithwyr ac roedd naw eisiau mwy o wybodaeth am y testun. Dywedodd saith o’r ymatebwyr y byddent yn trafod cynnwys y weminar gyda chydweithwyr i lywio’r gweithredu a dywedodd tri y byddent yn argymell Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru i gydweithwyr. Atebodd un ymatebydd gydag ‘arall’ gan ddatgan y byddent yn ‘adlewyrchu ar fy ymarfer a gwaith yn y dyfodol a newid y ffordd yr wyf yn trafod anghydraddoldebau’. Mae’n bwysig nodi y gallai’r mynychwyr ddewis atebion lluosog i’r cwestiwn hwn. Canlyniadau Ansoddol Gofynnodd yr arolwg gwerthuso gwestiwn testun rhydd hefyd. Mae’r ymatebion i’r cwestiwn hwn wedi eu nodi isod.
A oes gennych unrhyw sylwadau ychwanegol am y weminar neu awgrymiadau ar gyfer testunau yn y dyfodol? “Pan ac wrth i dystiolaeth ddod i’r amlwg, byddai’n ddefnyddiol cael sesiwn am effaith COVID-19 or bob un o’r grwpiau nodweddion gwarchodedig, ac ystyried rhyngblethedd.” “Nodwyd mwy o wybodaeth yn ymwneud â marwolaeth George Floyd a marwolaethau BAME cynyddol”. “Wedi ei gynnal yn dda, proffesiynol iawn – ond collais y sgwrs – dwi ddim yn siŵr pam” “Roedd y weminar ar destun hynod o bwysig ond rwy’n teimlo iddo gael ei orwerthu. Roedd y data ar y mater yn wych ond roedd diffyg "beth ydym yn mynd i wneud yn ei gylch" difrifol. Nid yw offeryn asesu risg yn mynd i ddiogelu pobl yn y gweithle ar y rheng flaen. Rydym yn gwybod nawr bod y dystiolaeth yn gwyro tuag at y risg ychwanegol oherwydd cyswllt (yn cynnwys prinder PPE ar gyfer staff banc a staff cartrefi gofal lle’r oedd staff llawfeddygol uwch wedi eu diogelu’n llawn) ac am resymau strwythurol yn ymwneud ag amddifadedd ac iechyd cyffredinol. Ni chafodd y rhain eu trafod.” “Digartrefedd” “Wedi mwynhau yn fawr, trueni nad oedd mwy o ymgysylltu gyda’r panel.” “Llawn gwybodaeth ac roedd fformat y sesiwn yn gweithio’n dda” “Diolch Heather.” “Goruchwylio gwaith yn arbennig o dda. Byddai amseriad ychydig yn hwy ar gyfer trafodaeth/cwestiynau wedi bod yn wych” “Mor ddiddorol. Wedi ei drefnu’n dda. Byddwn wedi hoffi clywed mwy”
Holi ac Ateb Byw Yn ystod y weminar, cafodd y mynychwyr gyfle i ofyn cwestiynau i’r cyflwynydd. Gofynnwyd y rhain i’r cyflwynydd yn ystod yr amser oedd yn weddill yn y digwyddiad. Gofynnodd y mynychwyr y cwestiynau canlynol: “Dangoswyd bod Covid wedi effeithio ar gymunedau BAME yn fwy nag eraill, a oes set ddata yn dangos yr effeithiau hyn ar ethnigrwydd ar gyfer cyflyrau cronig eraill, fel diabetes, canser, COPD, ac ati lle gallai COVID-19 Hir gael ei ychwanegu yn y dyfodol?” “Sut gallwn gynyddu ymgysylltiad â chymunedau BAME a sicrhau eu bod yn cael mynediad at wasanaethau mewn ffordd deg?” “Pam mae anghydraddoldebau ethnig mewn iechyd yn cael llai o goel o’i gymharu â’r llif o ddiddordeb a phwyslais y llywodraeth ar leihau anghydraddoldebau economaiddgymdeithasol?” “Sut gall sefydliadau gwahanol helpu i wneud yn iawn am anghydraddoldebau sydd yn ymddangos fel pe baent yn ysgogi llawer o’r gwahaniaethau ethnig yn ymwneud â COVID19. Fy niddordeb arbennig felly yw sut mae gordewdra a bod dros bwysau yn cyfrannu at hyn?” “A yw pobl mewn grwpiau BAME yn cael eu gweld fel grŵp blaenoriaeth? Os felly a fyddant gyda’r cyntaf i gael y brechlyn? Neu a fyddant yn olaf am nad ydynt yn gallu ymdrin â’r system iechyd?” “A ellir dadansoddi’r data ar farwolaethau sydd wedi eu cofrestru mewn ysbytai ymhellach i gymharu grwpiau oedran / y rheiny â chyflyrau sylfaenol hefyd, ac ati?” “A oes unrhyw astudiaethau sydd yn edrych ar ethnigrwydd yn unig fel ffactor risg ar gyfer datblygu’r gwaith o reoli COVID-19 ar gyfer ffactorau a dibyniaethau eraill.” “Mae ethnigrwydd yn aml yn newidyn sydd yn cael ei gofnodi’n wael wrth gasglu data – sut ydych wedi ymdrin â’r anawsterau hyn wrth ddadansoddi? A oes unrhyw gynlluniau i wella’r gwaith o gasglu’r data hwn?” “Ydych chi’n bwriadu ailadrodd yr ymarfer gan edrych ar risg COVID-19 BAME nawr bod trosglwyddiad cymunedol eang? Mae’r ffaith yn parhau bod pobl o grwpiau BAME, yn gynharach yn ystod y pandemig, llawer mwy tebygol o gael cyswllt â COVID-19 na’r rheiny o gefndir Gwyn Prydeinig oherwydd cyswllt galwedigaethol (mae dros 25% o fenywod du Prydeinig yn gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol).” “Mae angen i weithwyr y sector cyhoeddus ddatblygu eu dealltwriaeth eu hunain o fynychder rhagfarn ac anfantais. Mae hon yn daith i’r rhan fwyaf o bobl ac yn dechrau gyda
pharodrwydd i ddeall. Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn ystyried eu hunain yn hiliol, ond ni ddylid cymysgu hynny â pharodrwydd i dderbyn y ffaith fod rhagfarn systemig sydd yn achosi anfantais. Felly mae angen parodrwydd ym mhobman i dderbyn bod rhagfarn a’i effeithiau ar anfantais. Fy nghwestiwn, sut ydym yn creu’r amgylchedd lle gall pobl ddeall a’u helpu gyda strategaeth i fynd i’r afael â rhagfarnau systemig?” “Ydych chi’n credu bod y mudiad BLM a’r gwrthryfel yn erbyn hiliaeth strwythurol yn 2020 wedi effeithio ar barodrwydd lleiafrifoedd ethnig i gydymffurfio â chyfyngiadau a osodwyd gan y llywodraeth yn ystod COVID-19?” “A oes gennym linell amser ar gyfer gweithredu’r safonau yng Nghymru?” “Rwy’n pendroni a oes unrhyw ddata cyfredol neu / ac ymchwil sydd wedi cael ei wneud ar destun bywyd aml-genhedlaeth a’r cysylltiad posibl â CV19?” “A oes cynlluniau i wella casglu ac adrodd ar ddata ethnigrwydd yng Nghymru?” “A ddylem ganolbwyntio ar hiliaeth fel Mater Iechyd y Cyhoedd?” “Hoffem hysbysu pawb am yr Alwad am Dystiolaeth ar gyfer ymchwiliad Covid-19 ar anghydraddoldebau iechyd ar draws y DU y Sefydliad Iechyd. https://www.health.org.uk/what-we-do/a-healthier-uk-population/mobilising-action-forhealthy-lives/covid-19-impact-inquiry/call-for-evidence Mae’n bwysig i dystiolaeth a straeon Cymru gael eu clywed y tu allan i Gymru felly rwyf yn annog pobl i gyfrannu gan fod angen tystiolaeth glir o’r rhyngwyneb rhwng polisi cymdeithasol datganoledig (iechyd, gofal cymdeithasol, tai ac ati). Sut mae PHW yn ymgysylltu ag astudiaethau cymharol tebyg ar draws y DU er mwyn i wersi allu cael eu dysgu?” “A allai LlC wneud y cwestiwn ethnigrwydd yn orfodol yn TTP, os gwelwch yn dda?” “Allech chi argymhell unrhyw ddeunydd darllen pellach ar anghydraddoldebau ethnig yn benodol mewn iechyd?”
Isod ceir sylwadau ychwanegol gan fynychwyr yn ystod ac yn syth ar ôl diwedd y weminar: “Helo, nid cwestiwn yw hwn, ond gwybodaeth ategol ar gyfer y cwestiwn sydd eisoes wedi cael ei ofyn. Mae gwefan Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys llawer o wybodaeth am iechyd y boblogaeth yng Nghymru. O ran cefndir, byddwn yn argymell edrych ar yr adroddiad Iechyd a’i Benderfynyddion o 2018 fel llinell sylfaen. Dyma’r ddolen: http://www.publichealthwalesobservatory.wales.nhs.uk/healthanddeterminants Diolch” “Mae’n siŵr, pan fydd y brechlyn ar gael, y bydd Rishi Sunak a Priti Patel yn arwain y fenter honno” “Yn sicr. Mae wedi ei wneud yn ganolbwynt y sylw ond nid yw hiliaeth erioed wedi mynd i ffwrdd. Mewn rhai ffyrdd, mae’n effaith gadarnhaol o COVID-19 bod gwahaniaethu ac
anghydraddoldeb o bob math yn amlwg yn fyw ac yn iach ac efallai y gellir gwneud rhywbeth am y peth.” “Cydnabod yn hytrach na derbyn” “Mae Prosiect Implicit Prifysgol Harvard yn agoriad llygad o ran y ffordd yr ydym wedi ein cyflyru i gysylltu drwg gyda chroen tywyll” “Mae COVID-19 a mudiad BLM wedi caniatáu i ni siarad am faterion penodol nad oeddem yn gallu eu trafod o’r blaen e.e. braint pobl wyn.” “Rhywbeth yr wyf wedi sylwi arno trwy waith yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yw bod pobl yn fwy o blaid yr iaith Gymraeg nag yn hiliol, sydd weithiau’n cael ei ddefnyddio fel mesur rhagfarn ddiarwybod oherwydd, fel arfer, yr honiad yw nad yw pobl BAME yn gallu siarad Cymraeg” “Mae gan ddigwyddiadau’r wasg Llywodraeth Cymru ddehonglwyr BSL ond nid yn Lloegr gwarth” “Mae angen mentora gwell arnom. Nid yw llawer o grwpiau yn gwybod sut i ddefnyddio systemau mewn iechyd, addysg a gweithleoedd. Mae rhwydweithio yn allweddol a rhannu gwybodaeth sydd ymhlyg mewn gweithgareddau eraill sydd ond yn hysbys yn ‘y grŵp'.” “Rwy’n darllen hwn ar hyn o bryd. Mae’n ddiddorol iawn. Black and British A Forgotten History David Olusoga.” “Mae All Screwed Up gan Mike Nsonwu yn llyfr gwych gan ddyn Nigeriaidd/Albanaidd o dras cymysg gafodd ei fagu yn Nigeria a symud i’r DU fel oedolyn ifanc yn y 1980au a gweithio fel swyddog carchar yn Llundain. Mae ei brofiadau a’i safbwyntiau am hiliaith systemig o’r ddau safbwynt yn graff.” “Yr awgrym a wnaed yn ddiweddar yw bod ffurflenni monitro Cydraddoldeb yn llawn rhagfarn hiliol ar hyn o bryd.” “Sesiwn wych” “Sesiwn wych diolch i bawb” “Diolch i bawb a Heather.” “Diolch”
Crynodeb Cyffredinol Yn gyffredinol, mae’r data gwerthuso gan y mynychwyr a gwblhaodd yr arolwg a’r sylwadau a roddwyd yn ystod ac ar ôl y weminar yn dangos ei bod wedi bod yn llwyddiant ac wedi cael ymateb cadarnhaol. Mae nodau’r weminar wedi cael eu bodloni yn y ffyrdd canlynol:
Darparu cyfleoedd newydd ar gyfer dysgu ar ystod o faterion iechyd y cyhoedd cyfoes sydd yn effeithio ar Gymru Rhoddodd y weminar gyfle i’r cynadleddwyr wella eu gwybodaeth am waith Grŵp Cynghori Prif Weinidog Cymru ar anghydraddoldebau iechyd oherwydd COVID-19 mewn cymunedau BAME ac ymateb Llywodraeth Cymru. Datblygu gwybodaeth iechyd y cyhoedd ymysg cynulleidfa eang Mae’r gweminarau wedi eu hanelu at bobl sydd, nid yn unig yn gweithio yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r GIG ond o ystod o sectorau. Er gwaetha’r ffaith mai cydweithwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru, o dimau canolog a lleol, oedd y rhan fwyaf o’r mynychwyr, roedd yn galonogol gweld ystod eang o sectorau yn mynychu’r weminar yn cynnwys cynrychiolaeth gan Fyrddau Iechyd, Awdurdodau Lleol a sefydliadau’r Trydydd Sector. Dywedodd nifer o gynadleddwyr y byddent yn lledaenu’r hyn a ddysgwyd o’r digwyddiadau hyn i gydweithwyr er mwyn llywio’r gweithredu. Yn ogystal, mae’r gweminarau yn galluogi cynulleidfaoedd llawer mwy nag y gallai ein seminarau wyneb yn wynebu eu caniatáu. Mae hyn, ynghyd â’r recordiadau a’r cyflwyniadau sydd ar gael i’w gweld ar y wefan ar ôl y digwyddiad, yn galluogi’r wybodaeth o’r diwrnod i gael ei lledaenu i gynulleidfa llawer ehangach o ystod o sectorau. Rhannu a gwella’r sail dystiolaeth ymhellach ar gyfer iechyd y cyhoedd Pwysleisiodd y cyflwyniad o’r weminar y sefyllfa bresennol a data a ddatblygwyd yn ddiweddar yn amlygu anghydraddoldebau iechyd oherwydd COVID-19 mewn cymunedau BAME. Roedd y cyflwynydd yn awyddus i waith partneriaeth ar draws sectorau barhau er mwyn datblygu a gwella’r dystiolaeth ddiweddar a thystiolaeth sydd yn dod i’r amlwg er mwyn llywio ymarfer yn y dyfodol.
Mwy o wybodaeth Mae mwy o wybodaeth a recordiadau o’r gweminarau ar gael ar wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru neu trwy gysylltu â publichealth.network@wales.nhs.uk