COVID-19: Gwyddor Ymddygiad Adroddiad Crynodeb Gwerthuso

Page 1

Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru: COVID-19: Gwyddor Ymddygiad

Adroddiad Crynodeb Gwerthuso Marie Griffiths Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru Tachwedd 2020


Cyflwyniad Mae Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ei leoli yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae’n darparu ystod o gymorth i ymarferwyr ac ymchwilwyr ar draws pob sector sydd yn dylanwadu ar unrhyw agwedd ar iechyd y cyhoedd a gwella iechyd yng Nghymru. Ymysg y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu mae cyfres o seminarau sydd yn ceisio hyrwyddo arfer gorau yn seiliedig ar dystiolaeth bresennol a thystiolaeth sydd yn dod i’r amlwg. Mae’r gyfres yn cynnwys ystod amrywiol o destunau ac mae enghreifftiau diweddar wedi cynnwys Maeth yn y Blynyddoedd Cynnar, Anableddau Dysgu a Digartrefedd. Cyflwynir datganiad o weledigaeth ar gyfer y gyfres o seminarau isod: Bydd Cyfres o Seminarau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymgysylltu rhanddeiliaid yn ymwneud â materion iechyd y cyhoedd cyfoes trwy ddarlithoedd a sgyrsiau, er mwyn gwella gwybodaeth a dealltwriaeth a chyfrannu at ddeialog iechyd y cyhoedd presennol ac yn y dyfodol. Mae nodau’r gyfres o seminarau fel a ganlyn: • • •

Darparu cyfleoedd newydd ar gyfer dysgu ar ystod o faterion iechyd y cyhoedd cyfoes sydd yn effeithio ar Gymru; Datblygu gwybodaeth iechyd y cyhoedd ymysg cynulleidfa eang; Rhannu a gwella’r sail dystiolaeth ar gyfer iechyd y cyhoedd ymhellach.

Oherwydd COVID-19 a’r angen i ddilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol, rydym wedi gohirio ein cyfres flynyddol o seminarau wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, roeddem yn teimlo ei fod yn bwysig parhau i rannu a dysgu yn ystod y cyfnod digynsail hwn. Felly dechreuwyd cyfres o weminarau yn ymwneud â COVID-19 ym mis Gorffennaf 2020. Gellir gweld yr holl weminarau blaenorol a’u hadroddiadau gwerthuso ar wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.


COVID-19 : Gwyddor Ymddygiad Cynhaliwyd y weminar hon ar 22 Hydref 2020 gan ddefnyddio meddalwedd digwyddiadau byw Microsoft Teams. Cafodd y weminar ei hwyluso gan Christian Heathcote-Elliott, Prif Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd, Uned Penderfynyddion Ehangach Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cyflwynwyd y weminar gan aelodau tîm yr Is-adran Gwella Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Trafododd y sesiwn gymhwyso gwyddor ymddygiad i weithgaredd ataliol presennol yng Nghymru a, thrwy ddefnyddio enghraifft o bobl ifanc a chadw pellter cymdeithasol, disgrifiwyd proses y gallai datblygwyr ymyrraeth, o bolisi i gyfathrebu, ei defnyddio i gynyddu eu heffaith ar ymddygiad diogel o ran COVID-19 gan y cyhoedd. Cyflwynodd y sesiwn hefyd offer a ddatblygwyd yn ddiweddar i ddefnyddio gwyddor ymddygiad mewn ymyriadau cyfathrebu i wella mabwysiadu a chydymffurfio ag ymddygiad diogel o ran COVID-19. Fe wnaethom hefyd ddysgu sut mae cyfranogwyr yn defnyddio gwyddor ymddygiad yn eu hymarfer a gallem wella’r hyn yr ydym ni’n ei gynnig i gefnogi’r ymdrechion hynny. Mae’r cyflwyniad ar gael trwy gysylltu â publichealth.network@wales.nhs.uk neu gellir cael mynediad ato ar wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Gwerthusiad Cofrestrodd 227 o bobl ar gyfer gweminar COVID-19: Gwyddor Ymddygiad a mynychodd 120 (yn cynnwys 2 oedd heb gofrestru) ar y diwrnod. Mae’r tabl canlynol yn dangos pa sector yr oedd y cynadleddwyr yn ei gynrychioli ar y diwrnod: Sector Tîm Canolog Iechyd Cyhoeddus Cymru Tîm Lleol Iechyd Cyhoeddus Cymru Bwrdd Iechyd GIG Arall Llywodraeth Cymru Awdurdod Lleol Trydydd Sector Academaidd Preifat Arall

Nifer 29 23 14 3 8 16 6 15 4 2

Gofynnwyd i’r mynychwyr gwblhau arolwg gwerthuso ar-lein trwy Survey Monkey ar ôl y weminar. Y gyfradd ymateb i’r arwolg oedd 18% (N=22).


Canlyniadau Meintiol Gofynnwyd i’r cynadleddwyr a oeddent yn aelodau o Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Roedd pumtheg o’r mynychwyr (12.5%) yn aelodau o’r Rhwydwaith. Yn ystod yr wythnos yn dilyn y weminar roedd gan y Rhwydwaith 20 o gofrestriadau newydd, llawer ohonynt yn cael eu hystyried yn ganlyniad uniongyrchol i’r weminar, a/neu fynychwyr yn hyrwyddo’r Rhwydwaith yn eu hardaloedd. Gan fod Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru ond wedi cynnal rhai gweminarau, teimlwyd bod angen gofyn i’r mynychwyr a oeddent wedi cael unrhyw anawsterau technegol yn cymryd rhan yn y weminar. Roedd dau ymatebydd i’r arolwg wedi cael anawsterau ond roedd y rhain o ganlyniad i anawsterau gyda’u meddalwedd eu hunain. Mae cwestiwn arall ar y ffurflen werthuso yn gofyn i’r cynadleddwyr raddio o 1 i 5, (gydag 1 ddim yn ddefnyddiol o gwbl a 5 yn ddefnyddiol iawn) ‘Pa mor ddefnyddiol oedd y weminar yn eich barn chi?’ Rhoddodd pymtheg o’r mynychwyr 5 ar gyfer y cwestiwn hwn a rhoddodd 7 o’r mynychwyr ateb o 4. Gofynnwyd i’r mynychwyr ddewis o gyfres o atebion a/neu ddarparu eu hymateb eu hunain i’r cwestiwn canlynol; ‘O ganlyniad i gymryd rhan yn y weminar, pa gamau fyddwch chi’n eu cymryd (dewiswch bob un sydd yn berthnasol)?’ Nododd deg ymatebydd y byddent yn rhannu’r cyflwyniad gyda chydweithwyr ac roedd pymtheg eisiau mwy o wybodaeth am y testun. Dywedodd pedwar ar bymtheg y byddent yn trafod cynnwys y weminar gyda chydweithwyr i lywio’r gweithredu a nododd wyth y byddent yn argymell Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru i gydweithwyr. Atebodd pump ymatebydd ‘arall’ gyda thri yn datgan y byddent yn ‘ymuno â’r Rhwydwaith’ a dau yn datgan y byddent ‘yn ei gymhwyso i’w gwaith yn y dyfodol’. Mae’n bwysig nodi y gallai’r mynychwyr ddewis atebion lluosog i’r cwestiwn hwn.

Canlyniadau Ansoddol Gofynnodd yr arolwg gwerthuso gwestiynau testun rhydd hefyd. Mae’r ymatebion i’r cwestiynau hyn wedi eu cofnodi yn yr adrannau nesaf.

A oes gennych unrhyw awgrymiadau ar gyfer testunau gweminar yn y dyfodol? “Ymateb iechyd deintyddol cyhoeddus i COVID-19” “Unrhyw beth ar effeithiau ehangach COVID-19, newidiadau i ymddygiad iechyd neu ysgogwyr ar gyfer adferiad COVID-19” “Anghydraddoldeb iechyd a chynhwysiant” “Byddai mwy ar gymhwso gwyddor ymddygiad yn ddiddorol” “Mae’r testunau yr ydych yn eu cynnwys yn barod yn dda” “Effaith y pandemig ar gadernid y cyhoedd” “Byddai’n wych clywed am unrhyw waith y mae’r tîm BC yn ei wneud o ran hybu ymgymeriad brechlynnau a rheoli gordewdra, y ddau yn destunau mawr yn ymwneud â rheoli COVID-19” “Effaith y pandemig ar y teuluoedd mwyaf agored i niwed wrth i Weithwyr Iechyd Proffesiynol gael eu hailgyfeirio neu symud i ffordd newydd o weithio” “Ymagwedd gofal iechyd yn seiliedig ar werth ac iechyd y cyhoedd”


A oes gennych unrhyw sylwadau ychwanegol am y weminar? Roedd ymatebwyr yr arolwg yn gadarnhaol iawn am y weminar ac mae sylwadau nodedig wedi eu nodi isod.

“Roedd wedi ei chyflwyno’n dda ac yn sesiwn gyflym a gwych sydd yn gweithio’n dda ar-lein. Nid wyf wedi mynychu unrhyw weminarau sydd wedi eu trefnu gan Rwydweithiau Iechyd y Cyhoedd o’r blaen, ond byddaf yn sicr yn cadw llygad am rai eraill. Roeddwn yn meddwl ei fod yn gweithio’n dda iawn. Diolch.” “Llawn gwybodaeth, diolch” “Roedd yn wych, mae’n ddrwg gen i fy mod wedi gorfod gadael yn gynnar” “Cyflwyniad rhagorol gyda chyflwynwyr eithriadol o wybodus” “Craff ac ymgysylltiol iawn. Roedd yr aelodau o’r staff oedd yn gysylltiedig yn hawdd iawn i’w dilyn” “Diolch yn fawr, roedd yn ddefnyddiol ac yn llawn gwybodaeth” “Diddorol iawn ac wedi ei reoli’n dda - diolch” “Roedd yn rhagorol, da iawn bawb” “Diddorol a llawn gwybodaeth. Roedd yn werth mynychu” “Wedi ei gyflwyno’n glir iawn, siaradwyr gwybodus iawn, gweminar ragorol, yn llawn gwybodaeth” “Yn glir iawn a’r nod yn union gywir” “Roedd y cyflwynwyr yn siarad gyda lleisiau clir a chafodd ei chyflwyno ar gyflymder da. Roedd yn ddiddorol darllen safbwyntiau cydweithwyr eraill yn ystod y sesiwn holi ac ateb”

Sesiwn Holi ac Ateb Fyw Yn ystod y weminar cafodd y mynychwyr gyfle i ofyn cwestiynau i’r cyflwynydd. Cafodd y rhain eu rhoi i’r cyflwynydd yn ystod yr amser oedd yn weddill o’r digwyddiad. Gofynnodd y mynychwyr y cwestiynau canlynol:

“Fel gweithwyr cyfathrebu proffesiynol, rydym i gyd yn gwybod bod newyddion/deunydd sydd yn addas i’r newyddion bron bob amser yn golygu gwrthdaro. Dyna pam fod y darn ysgafn yn dod ar ddiwedd y newyddion a bod y straeon o wrthdaro’n cyrraedd y penawdau. Sut ydym yn datrys yr angen i greu cynnwys sydd yn addas ar gyfer y newyddion gyda’r angen i beidio atgyfnerthu/sôn am yr ymddygiad annymunol?” “Pa effaith ydych chi’n teimlo y mae ymddygiad llywodraeth ac arweinwyr gwleidyddol yn ei gael ar ymddygiad y boblogaeth yn gyffredinol? H.y. ddim yn dilyn cyngor, ond hefyd negeseuon, fel ‘Don’t kill Granny’ yn Preston” “A ofynnwyd i chi gefnogi lleoliadau gofal iechyd i edrych ar ymddygiad staff i leihau risg o HCAI ar gyfer COVID19? Rydym yn cael cyfres o achosion mewn ysbytai gyda chyfraddau marwolaeth uchel iawn” “Ynghlwm wrth hyn mae’r ffordd yr ydym yn cyfathrebu risg yn effeithiol sydd yn anodd iawn. Unrhyw waith yn digwydd ar hyn?” “Beth allwn ni ei wneud i wrthbwyso damcaniaethau o gynllwynio, a newyddion ffug sydd yn effeithio ar ein gallu i ddiogelu iechyd y cyhoedd” “Mae’r cyfryngau wedi bod yn ofnadwy. Fodd bynnag sut ydym yn sicrhau bod staff mewn swyddi cyhoeddus yn cydymffurfio gan fod y rhain yn cael dylanwad cryf, fel dim masgiau a dim cadw pellter cymdeithasol gan Andy Burnham a’i dîm yn ei gynhadledd newyddion o ystyried ffigurau Manceinion – mae hyn yn effeithio’r rheiny yng Nghymru hefyd.”


Sesiwn Holi ac Ateb Byw Parhad ... “Tipyn o wybodaeth i adlewyrchu arno. Yn bwysicach yw sut i gyfleu’r wybodaeth a’r ymwybyddiaeth er mwyn rheoli covid-19 gyda newid ymddygiad” “Ydych chi wedi gwneud unrhyw waith gyda staff gofal iechyd wrth i ni weld lledaeniad mewn ysbytai – blinder a chamddeall y defnydd o swigod yn ymddangos yn drawiadol?” “Tystiolaeth o drosglwyddo yn y gweithle – yn arbennig sefydliadau sydd yn cefnogi llawer o bobl; ac yn cynnwys staff gofal iechyd (yn y gwaith a thu allan!) – unrhyw gynlluniau i wneud gwaith o fewn lleoliadau a grwpiau o’r fath?” “A yw’r arweinwyr gwleidyddol yn creu rheolau fydd yn cynnwys nhw’n cael y brechlyn hefyd?” “Beth allwn ni ei wneud i wneud i weithwyr iechyd proffesiynol sydd yn gweithio ymlaen i gydymffurfio â chanllawiau amgylchedd oddi ar y ward?” Isod ceir sylwadau ychwanegol a fynegwyd gan fynychwyr yn syth ar ôl diwedd y weminar:

“Diolch yn fawr iawn. Roedd hon yn weminar yn llawn gwybodaeth” “Diolch – defnyddiol iawn a’r siaradwyr yn huawdl a’r cyflymder yn dda” “Diolch am y sesiwn. Llawer o wybodaeth ddiddorol i’w hystyried” “Gweminar ddefnyddiol iawn, diolch” “Diolch, sesiwn wych. Diddorol iawn” “Diolch am weminar gyda chymaint o wybodaeth. Diddorol iawn ac yn procio’r meddwl” “Yn mwynhau cyflymder y digwyddiad hwn yn fawr. Mae gan y siaradwyr osgo hyfryd a lleisiau clir iawn. Mae’r sleidiau mor glir. Diolch” “Rwy’n anghytuno mewn gwirionedd – mae cadw pellter cymdeithasol (lleihau nifer y cysylltiadau – i bobl yn eich cartref yn unig yn aml) yn anodd iawn! Rydym yn greaduriaid cymdeithasol!” “Mae’r newyddion a’r papurau newydd yn gyflym iawn i siarad am bobl nad ydynt yn ‘ymddwyn’ ac mae angen iddynt ddweud llawer mwy o straeon da am bobl sydd yn dilyn y rheolau’n llwyddiannus a’r effaith y mae hyn yn ei gael ar eu teulu a’r gymuned. Mae angen ei atgyfnerthu fel y norm” “Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gofyn i staff wneud hynny a gwneud fideo byr i ddweud eu bod yn cadw pellter cymdeithasol neu ar gyfer pwy y maent yn cadw pellter cymdeithasol. Gallai’r gogwydd cadarnhaol hwnnw apelio at bobl. Efallai y byddai ymgyrch cyhoeddus ehangach ar y trywydd hwnnw yn syniad da” “Ddim yn siŵr sut mae hyn yn cael ei gefnogi gan Mr Johnson yn annog pobl i siopa os yw eu cymdogion yn cael eu hystyried i fod yn camymddwyn” “Mae’r arbenigedd yn hyn o beth gyda’r sector preifat, fel y rheiny sydd yn ysgogi penderfynyddion masnachol iechyd. A yw’r Llywodraeth yn prynu i mewn i hyn? A ydynt yn defnyddio’r sector preifat i gyflwyno e.e. Profi/Olrhain, yn wael iawn heb gynnwys yr elfen hon?” “Mae canllawiau Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir iawn ac yn gyson. Yr hyn yr wyf i’n meddwl sydd yn peri dryswch yw’r cyfryngau a’r diffyg pwyslais ar wahaniaethu’r rheolau yng Nghymru a Lloegr. Rwy’n cyfeirio at y newyddion cenedlaethol a’u defnydd o’r ‘DU’ wrth roi sylw ar reolau/systemau sydd yn berthnasol i Loegr yn unig. Bydd y dryswch hwn yn achosi pobl i fynd yn rhwystredig ac ystyried rhwybeth sydd yn glir mewn gwirionedd yn ddryslyd a phenderfynu peidio trafferthu dilyn”


Crynodeb Cyffredinol Ar y cyfan, mae’r data gwerthuso gan fynychwyr a gwblhaodd yr arolwg a’r sylwadau a fynegwyd yn ystod ac ar ôl y weminar yn dangos ei fod yn llwyddiannus iawn ac wedi cael ymateb cadarnhaol. Mae nodau’r gweminarau wedi cael eu bodloni yn y ffyrdd canlynol:

Darparu cyfleoedd newydd ar gyfer dysgu ar ystod o faterion iechyd y cyhoedd cyfoes sydd yn effeithio ar Gymru Roedd y weminar yn gyfle i gynadleddwyr gynyddu eu gwybodaeth am gymhwyso gwyddor ymddygiad i weithgaredd ataliol presennol yng Nghymru, a, thrwy ddefnyddio enghraifft o bobl ifanc a chadw pellter cymdeithasol, disgrifiodd broses y gall ddatblygwyr ymyrraeth, o bolisi i gyfathrebu, ei defnyddio i gynyddu eu heffaith ar ymddygiad sy’n ddiogel o ran COVID-19.

Datblygu gwybodaeth iechyd y cyhoedd ymysg cynulleidfa eang Mae’r gweminarau wedi eu hanelu at bobl nid yn unig yn gweithio yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r GIG ond o ystod o sectorau. Er gwaetha’r ffaith fod y rhan fwyaf o’r mynychwyr yn gydweithwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru, timau canolog a lleol, roedd yn galonogol gweld ystod eang o sectorau’n mynychu’r weminar yn cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Awdurdod Lleol, sefydliadau Academaidd a’r Trydydd Sector. Dywedodd nifer o gynadleddwyr y byddent yn lledaenu’r hyn a ddysgwyd o’r digwyddiadau hyn i gydweithwyr er mwyn llywio gweithredu. Yn ogystal, mae’r gweminarau yn caniatáu cynulleidfaoedd llawer mwy nag y gallai ein seminarau wyneb yn wyneb ddarparu ar eu cyfer. Mae hyn, ynghyd â recordiad o’r weminar a’r cyflwyniadau ar gael i’w gweld trwy’r wefan ar ôl y digwyddiad, yn galluogi’r wybodaeth o’r diwrnod i gael ei lledaenu i gynulleidfa llawer ehangach o ystod o sectorau.

Rhannu a gwella’r sail dystiolaeth ar gyfer iechyd y cyhoedd ymhellach Amlygodd y cyflwyniad o’r weminar y sefyllfa bresennol a rhai offer a ddatblygwyd yn ddiweddar ar gyfer y maes testun hwn i wella cydymffurfio ag ymddygiad sydd yn ddiogel o ran COVID-19. Addysgodd y cyflwynwyr hefyd am y ffordd yr oeddent yn defnyddio gwyddor ymddygiad a sut gallem wella’r hyn yr ydym yn ei gynnig i gefnogi’r ymdrechion hynny. Y gobaith yw y bydd partneriaethau’n cael eu datblygu i wella rhywfaint o’r dystiolaeth ddiweddar a thystiolaeth sydd yn dod i’r amlwg ymhellach er mwyn llywio ymarfer i’r dyfodol.

Mwy o wybodaeth Mae mwy o wybodaeth a recordiad o’r gweminarau ar gael ar wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru neu trwy gysylltu â publichealth.network@wales.nhs.uk


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.