Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru: Cyfres Gweminarau COVID-19
Adroddiad Gwerthuso Cryno Rebecca Winslade-Rees Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru Awst 2020
Cyflwyniad Cynhelir Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru gan yr Uned Penderfynyddion Ehangach Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae’n darparu ystod o gymorth i ymarferwyr ar draws pob sector sydd yn dylanwadu ar unrhyw agwedd ar iechyd y cyhoedd a gwella iechyd yng Nghymru. Ymysg y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu y mae cyfres o seminarau sydd yn ceisio hybu arfer gorau yn seiliedig ar dystiolaeth bresennol a thystiolaeth sydd yn dod i’r amlwg. Mae’r gyfres hon yn cynnwys ystod amrywiol o destunau ac mae enghreifftiau diweddar wedi cynnwys Maeth yn y Blynyddoedd Cynnar, Anableddau Dysgu a Digartrefedd. Cyflwynir datganiad o weledigaeth ar gyfer y gyfres o seminarau isod:
Bydd Cyfres Seminarau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymgysylltu rhanddeiliaid yn ymwneud â materion iechyd y cyhoedd cyfoes trwy ddarlithoedd, trafodaethau a sgyrsiau, er mwyn gwella gwybodaeth a dealltwriaeth a chyfrannu at ddeialog iechyd y cyhoedd presennol ac yn y dyfodol. Nodau’r gyfres o seminarau yw: • • •
Darparu cyfleoedd newydd ar gyfer dysgu ar ystod o faterion iechyd y cyhoedd cyfoes sy’n effeithio ar Gymru; Datblygu gwybodaeth iechyd y cyhoedd ymysg cynulleidfa eang; Rhannu a gwella’r sail dystiolaeth ymhellach ar gyfer iechyd y cyhoedd.
Oherwydd COVID-19 a’r angen i ddilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol, rydym wedi atal ein cyfres flynyddol o seminarau wyneb yn wyneb dros dro. Fodd bynnag, roeddem yn teimlo ei fod yn bwysig parhau i rannu a dysgu yn ystod y cyfnod digynsail hwn. Felly fe wnaethom ddechrau cyfres o weminarau yn ymwneud â COVID-19 ym mis Gorffennaf 2020 a chynhelir gweminarau pellach yn ystod hydref a gaeaf 2020. Mae’r gwerthusiad hwn yn adrodd ar y ddwy weminar gyntaf a chânt eu defnyddio i gynllunio a gwella profiad defnyddwyr o weminarau yn y dyfodol.
COVID-19: Gweminar Yn Gryno Cynhaliwyd y weminar hon ar 22 Gorffennaf 2020 gan ddefnyddio meddalwedd digwyddiadau byw Microsoft Teams. Hwyluswyd y weminar gan Dr Ciarán Humphreys Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, Uned Penderfynyddion Ehangach Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys cyflwyniad gan Jan Williams, Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cyflwynodd Dr Chris J Williams, Epidemiolegydd Ymgynghorol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, y prif gyflwyniad a roddodd drosolwg o COVID-19 ar gyfer cynulleidfa anfeddygol. Yn ystod y weminar, amlinellodd Chris yr hyn yr ydym yn ei wybod am coronafeirws a COVID-19, y grwpiau poblogaeth sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf, sut rydym yn rheoli’r clefyd yng Nghymru, yr hyn a wyddom ac na wyddom am imiwnedd a’r cynnydd sydd yn cael ei wneud yn dod o hyd i frechlyn. Wrth i’r cyfnod clo gael ei lacio ar draws y DU, trafododd Chris hefyd pa fesurau ataliaeth sydd fwyaf effeithiol a’r tebygolrwydd o ail don o’r clefyd. Mae’r cyflwyniadau unigol ar gael trwy gysylltu â publichealth.network@wales.nhs.uk neu gellir cael mynediad iddynt ar wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Gweminar Gwerthuso COVID-19: Yn Gryno Cofrestrodd cant tri deg wyth o bobl ar gyfer gweminar COVID-19: Yn Gryno a mynychodd 72 ar y diwrnod. Mae’r tabl canlynol yn dangos pa sector yr oedd y mynychwyr yn ei gynrychioli ar y diwrnod: Sector Tîm Canolog Iechyd Cyhoeddus Cymru Tîm Lleol Iechyd Cyhoeddus Cymru Bwrdd Iechyd GIG Arall Awdurdod Lleol Trydydd Sector Academaidd Preifat Cymorth data i LlC a Llywodraeth Leol
Nifer 31 0 8 7 6 5 4 1 1
Gofynnwyd i’r mynychwyr gwblhau arolwg gwerthuso ar-lein yn ddienw trwy Survey Monkey ar ôl y weminar. Y gyfradd ymateb i’r arolwg oedd 44% (N=32).
Canlyniadau meintiol Gofynnwyd i ymatebwyr yr arolwg a oeddent yn aelodau o Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru neu beidio. Roedd y rhan fwyaf (56%) yn aelodau o’r Rhwydwaith. Yn yr wythnos yn dilyn y seminar, cafodd y Rhwydwaith 4 cofrestriad newydd, llawer ohonynt yn cael eu hystyried fel canlyniad uniongyrchol mynychwyr yn hyrwyddo’r Rhwydwaith yn eu hardaloedd nhw. Am mai dyma’r weminar fyw gyntaf y mae Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ei chynnal, roeddem yn teimlo bod angen gofyn i’r mynychwyr a gawsant unrhyw anawsterau technegol wrth gymryd rhan yn y weminar. Cafodd bedwar o’r ymatebwyr anawsterau yn amrywio o reoli sain, ffrydio byw yn rhewi a thrafferthion yn cwblhau arolwg y weminar. Roedd cwestiwn arall ar y ffurflen werthuso yn gofyn i’r mynychwyr raddio o 1 i 5, (gydag 1 ddim yn ddefnyddiol o gwbl a 5 yn ddefnyddiol iawn) ‘Pa mor ddefnyddiol oedd y weminar yn eich barn chi?’ Canfu’r rhan fwyaf o ymatebwyr yr arolwg (69%) fod y weminar yn ddefnyddiol iawn gyda’r gweddill (31%) yn ateb ei bod yn ddefnyddiol. Gofynnwyd i’r mynychwyr ddewis o gyfres o atebion a/neu ddarparu eu hymateb eu hunain i’r cwestiwn canlynol; ‘O ganlyniad i gymryd rhan yn y weminar, pa gamau fyddwch chi’n eu cymryd (dewiswch bob un sydd yn berthnasol)?’ Nododd saith deg y cant o ymatebwyr yr arolwg y byddent yn rhannu’r cyflwyniad gyda chydweithwyr, roedd 27% eisiau dod o hyd i wybodaeth bellach am y testun a nododd 51% o’r mynychwyr y byddent yn trafod cynnwys y weminar gyda chydweithwyr i lywio gweithredoedd. Nododd pedwar deg wyth y cant o’r mynychwyr y byddent yn argymell Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru i gydweithwyr. Nododd tri y cant y byddent yn “rhannu’r wybodaeth gyda’r trydydd sector”. Mae’n bwysig nodi y gallai’r mynychwyr ddewis atebion lluosog i’r cwestiwn hwn.
O ganlyniad i gymryd rhan yn y weminar, pa gamau ydych chi’n mynd i’w cymryd (dewiswch bob un sy’n berthnasol)?
Canlyniadau ansoddol Gofynnodd yr arolwg gwerthuso gwestiynau testun rhydd hefyd. Mae’r ymatebion i’r cwestiynau hyn wedi eu cofnodi yn yr adrannau nesaf.
A oes gennych unrhyw awgrymiadau ar gyfer testunau gweminar yn y dyfodol? “Effeithiau unigrwydd ac ynysu ar iechyd a lles pobl” “Effaith y cyfnod clo ar iechyd meddwl, problemau domestig ac ati” “Cynnal iechyd meddwl da yn ystod y cyfnod clo” “Rhywbeth yn ymwneud â gordewdra a COVID-19? Mae gordewdra yn fater pwysig o ran pethau fel Diabetes Math 2, ac mae’r bobl hyn yn gwneud yn waeth” “Ymchwil COVID BAME” “Mwy o’r un peth” “COVID-19 a chyfleoedd a heriau newid hinsawdd” “Diweddariadau ar COVID wrth i wybodaeth/canllawiau newydd ddod i’r amlwg” “Gweminar ar gwblhau dilyn ac olrhain COVID-19” “Petruster a diogelwch brechlyn” “Dealltwriaeth well o effeithiau economaidd-gymdeithasol COVID”
A oes gennych unrhyw sylwadau ychwanegol am y weminar? Roedd ymatebwyr yr arolwg yn gadarnhaol iawn am y weminar gyda sylwadau nodedig wedi eu nodi isod.
“Dyma un o’r gweminarau gorau yr wyf wedi eu mynychu ar y testun hwn. Llawn gwybodaeth, cryno a hygyrch.” “Cefais fy synnu pa mor dda yw Microsoft Teams. Trefniadaeth ragorol a chyflwyniad wedi ei gyflwyno’n dda. Diolch” “Roedd yn gweithio’n dda iawn – gall rhywun rannu cyngor ar ddefnyddio Teams ar gyfer cynnal cynadleddau rhithwir ac ati?” “Llawn gwybodaeth. Roedd y cyflwyniad yn enghraifft dda o ddefnyddio iaith anfeddygol oedd yn gwbl gynhwysol ac yn glir” “Roedd yn llawn gwybodaeth, wedi ei gynhyrchu mor dda ac yn ddiddorol iawn.” “Proffesiynol iawn” “Roedd yn ymgysylltu ac yn llawn gwybodaeth” “Roedd y cyflwynydd yn dda iawn” “Na – roedd wedi ei gyflwyno a’i reoli’n dda” “Roedd adegau pan oedd yn defnyddio termau cymhleth ac nid oedd yn gyfeillgar i’r cyhoedd yn gyffredinol” “Gweminar wych ac yn ffordd ragorol o gael cipolwg gwybodus ar Covid-19” “Roedd y cyflwynydd/cyflwynwyr yn dda iawn a chafodd y weminar gyfan ei chynnal/ei chymedroli’n dda iawn” “Rhagorol diolch – cyflymder da ac nid oedd yn rhy hir”
Sesiwn holi ac ateb fyw Yn ystod y weminar cafodd y mynychwyr gyfle i ofyn cwestiynau i’r cyflwynydd. Cafodd y rhain eu gofyn i’r cyflwynydd gan yr hwylusydd yn ystod yr amser oedd yn weddill o’r digwyddiad. Gofynnodd y mynychwyr y cwestiynau canlynol: •
“A oes marwolaethau y gellir eu priodoli i COVID nad oeddent efallai wedi cael eu hachosi’n uniongyrchol gan COVID?”
•
“A yw oedolion yn cadw pellter cymdeithasol efallai wedi cyfrannu at ostyngiad yng nghyfraddau trosglwyddo’r feirws ymysg plant ysgol?”
•
“Ydyn ni yn gwella o ran trin pobl sydd yn sâl nag oeddem ar y dechrau?”
•
“Ydych chi’n credu y byddwn yn cael ail don yn nes ymlaen yn y flwyddyn a pha mor wael y mae hyn yn debygol o fod?”
•
“A oes posibilrwydd y bydd brechlyn yn cael ei gynhyrchu eleni?”
•
“A allwn i fod wedi cael Coronafeirws ddiwedd Rhag, dechrau Ion yn y DU gan fy mod wedi cael y symptomau i gyd ond heb gael prawf felly nid wyf yn siŵr?”
•
“Sut mae’r pandemig wedi dangos gwahaniaethau mewn data a chasglu data mewn ardaloedd iechyd tebyg yng Nghymru a Lloegr?”
•
“Dywedasoch fod y dystiolaeth am fasgiau wyneb yn esblygu – beth yw’r dystiolaeth o effeithlonrwydd masgiau wyneb ar hyn o bryd a sut mae wedi newid?”
Roedd y sylwadau ychwanegol a gafwyd gan fynychwyr yn syth ar ôl diwedd y weminar fel a ganlyn.
“Diolch yn fawr iawn – fe wnes i fwynhau” “Diddorol iawn – diolch am weminar yn llawn gwybodaeth” “Cyflwyniad da iawn Chris” “Ymgais da a gonest gan Chris i ateb yr holl gwestiynau. Dylai’r gwleidyddion ddilyn ei esiampl!”
Gweminar COVID-19: Asesu Effaith ar Iechyd y ‘Polisi Aros Gartref a Chadw Pellter Cymdeithasol’ yng Nghymru
Cynhaliwyd y weminar hon ar 29 Gorffennaf 2020 gan ddefnyddio meddalwedd digwyddiadau byw Microsoft Teams. Hwyluswyd y weminar gan Christian Heathcote-Elliott, Prif Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd, Uned Penderfynyddion Ehangach Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cynnwys cyflwyniad gan Chris Jones, Cadeirydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Rhoddodd Liz Green, Cyfarwyddwr Rhaglen Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Iechyd Cyhoeddus Cymru a Laura Morgan, Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd, eu dwy o Ganolfan Gydweithredu WHO ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant, y prif gyflwyniad. Trafododd Liz a Laura ganfyddiadau’r adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar ‘Asesu Effaith ar Iechyd y Polisi Aros Gartref a Chadw Pellter Cymdeithasol yng Nghymru mewn ymateb i bandemig COVID-19’. Mae’r adroddiad yn amlygu effeithiau cadarnhaol a negyddol y polisi Aros Gartref a Chadw Pellter Cymdeithasol ar boblogaeth Cymru a’r hyn a ddysgwyd o dystiolaeth ryngwladol, y data a’r wybodaeth ddiweddaraf yn ogystal â safbwyntiau rhanddeiliaid arbenigol. Mae’r cyflwyniadau unigol ar gael trwy gysylltu â publichealth.network@wales.nhs.uk neu gellir cael gafael arnynt ar wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Gweminar Gwerthuso COVID-19: Asesu Effaith ar Iechyd y ‘Polisi Aros Gartref a Chadw Pellter Cymdeithasol’ yng Nghymru Cofrestrodd cant pum deg tri o bobl ar gyfer gweminar COVID-19: Asesu Effaith ar Iechyd y ‘Polisi Aros Gartref a Chadw Pellter Cymdeithasol’ yng Nghymru a mynychodd 158 ar y diwrnod. Nodir bod anghysondeb rhwng ein cofrestrwyr a’r mynychwyr sydd yn faes y mae angen mynd i’r afael ag ef ar ôl gweminarau er mwyn sicrhau cywirdeb data yn y gwerthusiad.
Mae’r tabl canlynol yn dangos pa sector yr oedd y 153 o gynadleddwyr cofrestredig yn ei gynrychioli ar y diwrnod: Sector Tîm Canolog Iechyd Cyhoeddus Cymru Anhysbys Trydydd Sector Tîm Lleol Iechyd Cyhoeddus Cymru Bwrdd Iechyd Academaidd GIG arall Awdurdod Lleol Preifat Llywodraeth Cymru Awdurdod Lleol Arall Arall – Cyfoeth Naturiol Cymru Preifat / Academaidd Arall - Iechyd Arall – Corff a noddir gan Lywodraeth Cymru Arall – Gofal Iechyd, Cartref Nyrsio Arall – Sector Cyhoeddus Arall - WGSB Arall - Tai Arall – Asiantaeth a noddir gan LlC Arall – Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd Locwm Arall – Gofal Iechyd
Nifer 42 36 24 23 17 10 10 9 4 3 3 2 1 1 1 1 1 1 1 1 1 1 1
Gofynnwyd i’r mynychwyr gwblhau arolwg gwerthuso ar-lein trwy Survey Monkey ar ôl y weminar. Cyfradd ymateb yr arolwg oedd 19% (N=30).
Canlyniadau meintiol Gofynnwyd i ymatebwyr yr arolwg a oeddent yn aelodau o Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru neu beidio. Roedd y rhan fwyaf (57%) yn aelodau o’r Rhwydwaith. Yn ystod yr wythnos yn dilyn y seminar, cafodd y Rhwydwaith 7 aelod newydd, llawer ohonynt yn cael eu hystyried yn ganlyniad uniongyrchol i fynychwyr yn hyrwyddo’r Rhwydwaith yn eu hardaloedd. Gofynnwyd i ymatebwyr yr arolwg a gawsant unrhyw anawsterau technegol yn cymryd rhan yn y weminar. Profodd bedwar o’r mynychwyr broblemau yn amrywio o anawsterau yn llwytho Microsoft Teams, colli cysylltiad am amser byr a sain gwael ar ddechrau’r weminar. Soniodd pedwar o’r mynychwyr yn sympathetig am yr anawsterau technegol a gafodd y cyflwynwyr am gyfnod byr yn ystod y weminar. Mae cwestiwn arall ar y ffurflen werthuso yn gofyn i’r mynychwyr raddio o 1 i 5, (gydag 1 ddim yn ddefnyddiol o gwbl a 5 yn ddefnyddiol iawn) ‘Pa mor ddefnyddiol oedd y weminar yn eich barn chi?’ Atebodd y rhan fwyaf o ymatebwyr yr arolwg (60%) 4 i’r cwestiwn hwn gyda 27% o’r ymatebwyr yn rhoi 5.
Ar raddfa o 1 (ddim yn ddefnyddiol o gwbl) i 5 (defnyddiol iawn), pa mor ddefnyddiol oedd y weminar yn eich barn chi?
Gofynnwyd i’r mynychwyr ddewis o gyfres o atebion a/neu roi eu hymateb eu hunain i’r cwestiwn canlynol; ‘O ganlyniad i gymryd rhan yn y weminar, pa gamau y byddwch chi’n eu cymryd (dewiswch bob un sydd yn berthnasol)?’ Nododd pedwar deg saith o’r cyfranogwyr y byddent yn rhannu cyflwyniad gyda chydweithwyr. Roedd tri deg tri y cant o’r mynychwyr eisiau canfod mwy o wybodaeth am y testun a nododd 77% o’r mynychwyr y byddent yn trafod cynnwys y weminar gyda chydweithwyr i lywio’r gweithredu. Nododd tri deg saith y cant o’r mynychwyr y byddent yn argymell Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru i gydweithwyr. Yn ogystal, nododd 17% o’r mynychwyr y byddent:
“Yn ei ddefnyddio i gefnogi tystiolaeth o angen mewn ceisiadau am gyllid” “Yn ei ledaenu i sefydliadau trydydd sector yn Powys” “Yn defnyddio’r HIA yma ynghyd â thystiolaeth newydd a thystiolaeth arall sydd yn dod i’r amlwg i helpu i lywio ein hamcanion cydraddoldeb a’n gweithredoedd i gefnogi’r digartref a grwpiau eraill sydd yn agored i niwed” “Yn rhannu gyda myfyrwyr” “Yn cysylltu â’r siaradwyr i gael mwy o wybodaeth”
Mae’n bwysig nodi y gallai’r mynychwyr ddewis atebion lluosog i’r cwestiwn hwn.
O ganlyniad i gymryd rhan yn y weminar, pa gamau y byddwch chi’n eu cymryd (dewiswch bob un sydd yn berthnasol)?
Canlyniadau ansoddol Gofynnodd yr arolwg gwerthuso gwestiynau testun rhydd hefyd. Mae’r atebion i’r cwestiynau hyn wedi eu nodi yn yr adrannau nesaf.
A oes gennych unrhyw awgrymiadau ar gyfer testunau gweminar yn y dyfodol? “Methiant y galon, AF, CKD” “Archwilio data rhanbarthol Cymru ar achosion o COVID” “COVID ac agweddau gwahanol/diweddariadau/astudiaethau achos o effaith” “Na – parhewch â’r gwaith da!” “Mwy o weminarau sy’n benodol i COVID” “Gwersi a ddysgwyd o bandemig” “Na, rydych bod amser yn cyflwyno testunau rhagorol” “Byddai rhywbeth am y system profi/olrhain yn ddefnyddiol” “Efallai canolbwyntio ar rai o’r materion penodol y mae pobl mwy agored i niwed a grwpiau risg yn eu hwynebu a nodwyd yn y weminar” “Byddwn yn croesawu rhywbeth am y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol fydd yn dod i rym 31.3.21” “Lles emosiynol wrth i bobl adael cartref, llawer o bryder gan ofalwyr, pobl ag anableddau dysgu ac ati. Mae angen negeseuon cadarnhaol, mae’r negeseuon gordewdra presennol o Loegr yn ysgogi anhwylderau bwyta.” “Lles staff”
“HIA perthnasol eraill, e.e. tai a digartrefedd” “Buddsoddi yn iechyd y cyhoedd ar ôl pandemig: meysydd blaenoriaeth ar gyfer buddsoddiad mewn iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru” “Rhoi mwy o amser ar gyfer cwestiynau” “Llythrennedd iechyd C&YP a darparu adnoddau ar gyfer Nyrs Ysgol SCPHN mewn perthynas â TG a llythrennedd digidol” “Defnydd o wyddor ymddygiadol yn ystod COVID-19”
A oes gennych unrhyw sylwadau ychwanegol am y weminar? Roedd ymatebion y mynychwyr yn gadarnhaol ar y cyfan gyda rhai sylwadau nodedig i lywio gweminarau yn y dyfodol.
“Da iawn – roedd yn wych.” “Llawn gwybodaeth diolch”” “Da iawn ar wahân i anawsterau technegol” “Roedd yn ddiddorol – diolch. Mae’n dda gweld ymchwil ar waith” “Trwyadl iawn ac yn llawn gwybodaeth, mae’n rhoi digon o ddeunydd i gnoi cil arno wrth symud ymlaen a syniadau ynghylch beth i’w wneud i gefnogi pobl wrth i ni ddechrau’r broses o ddatblygu’n well” “Gweminar ddiddorol iawn oedd yn procio’r meddwl. Diolch i bawb” “Diddorol ac yn dda clywed elfennau cadarnhaol yn ogystal â rhai negyddol” “Darn diddorol o waith. Gobeithio bydd yn llywio gweithredoedd yn y dyfodol yng Nghymru” “Gwaith diddorol iawn – byddai’n dda ei weld yn cael ei ddiweddaru wrth i fwy o effeithiau ddod i’r amlwg (ac wrth i fwy o ymchwil gael ei chyhoeddi, gobeithio).” “Roedd yn anodd ymgysylltu pan nad oedd unrhyw elfen o gyflwyno – nid oedd y sleidiau’n ymddangos am gyfnod ac roedd gan y cyflwynydd ei phen i lawr, er ei bod ar gamera, yn darllen ei nodiadau ac nid oedd hyn yn ymgysylltu’r gwrandäwyr.” “Roedd llawer o wybodaeth ond nid oedd y cyflwyniad yn ddidactig iawn ac nid oedd yn ymgysylltu”
Sesiwn holi ac ateb fyw Yn ystod y weminar, cafodd y mynychwyr gyfle i ofyn cwestiynau i’r cyflwynwyr. Cafodd rhai o’r rhain eu crynhoi a’u cyflwyno i’r cyflwynwyr gan yr hwylusydd yn ystod yr amser oedd yn weddill yn y digwyddiad. Fodd bynnag, oherwydd y cyfyngiadau amser, hysbyswyd y mynychwyr y byddai atebion heb eu hateb yn cael eu hanfon at y cyflwynwyr ar ôl y digwyddiad. Gofynnodd y mynychwyr y cwestiynau canlynol: •
“Beth wnaeth yr HIA ei ganfod am effeithiau’r polisi ar iechyd meddwl a pha grwpiau gafodd eu heffeithio fwyaf?”
•
“A oes cynllun i fonitro effeithiau tymor hwy, e.e. a yw pethau’n cael eu colli wrth ddefnyddio asesu digidol, a yw’r newidiadau tymor byr yn gynaliadwy?”
•
“Sut penderfynwyd ar y cwestiynau ar gyfer yr arolwg iechyd? Mae’n ffynhonnell ddata ddefnyddiol ond nid oedd yn cynnwys materion iechyd ehangach fel smygu. Gyda’r cynllun rheoli tybaco presennol yng Nghymru i fod dod i ben y flwyddyn nesaf, mae’n ymddangos yn syniad da defnyddio’r arolwg hwn i ganfod beth mae covid a’r cyfnod clo wedi ei olygu i lefelau smygu.”
•
“A oes unrhyw ystadegau neu ffigurau sydd yn cyfeirio at drais yn erbyn dynion?”
•
“O ran VAWDASV, a ofynnwyd unrhyw beth am stelcian ac a oedd y cyfnod clo wedi cael unrhyw effeithiau cadarnhaol?”
•
“A wnaethoch chi ddod o hyd i unrhyw ystyriaeth/lenyddiaeth parthed: rhethreg y ‘gweithiwr allweddol’ fel cleddyf deufin, mewn geiriau eraill y rheiny nad oeddent yn cael eu hystyried yn weithwyr allweddol yn cael adwaith/safbwynt negyddol i’w gwaith/galwedigaeth? (Yr hyn yr wyf yn ei ystyried yw y gallai fod effeithiau iechyd meddwl ar gyfer y rheiny nad oeddent yn cael eu hystyried yn ‘allweddol’)”
•
“A oedd yr arolwg iechyd yn cynnwys monitro cydraddoldeb, er mwyn gwybod bod rhai o’r grwpiau mwyaf agored i niwed ac wedi eu diogelu yn ymateb? Gyda gwasanaethau’n cael eu cyflwyno arlein/o bell, cafodd lawer o bobl ag anghenion cyfathrebu ychwanegol anhawster yn cael mynediad fel y rheiny sydd yn defnyddio BSL neu’n siarad iaith ar wahân i Gymraeg neu Saesneg.”
•
“Mae allgáu digidol wedi dod i fyny gan lawer o randdeiliaid, gydag effeithiau ar ynysu cymdeithasol ond hefyd ar fynediad i wybodaeth a chanllawiau iechyd hanfodol. Unwaith eto, pan fydd annhegwch yn ffactor mewn cymunedau tlotach, cymunedau mudol ac yn y blaen, mae’r problemau hyn yn gwaethygu. Sut ydym yn brwydro yn erbyn hyn wrth gyflawni a’i sefydlu yn ein hymagwedd?”
•
Er bod awdurdodau lleol wedi darparu llety dros dro i gefnogi’r rheiny y mae’n hysbys eu bod yn ddigartref, nid oedd llawer o’r rhain yn gallu aros yn y llety yn yr hirdymor oherwydd amrywiaeth o faterion ymddygiadol ac nid oedd system cymorth ymddygiadol wedi cael ei sefydlu. I ba raddau y mae sylw wedi cael ei dynnu at hyn, neu a fydd hyn yn faes ffocws yn y dyfodol?”
•
“Mae gennyf ddiddordeb mawr yn clywed am yr asesiad iechyd cyflym ar gyfer tai a digartrefedd, a yw hyn yn debygol o gyffwrdd ar wasanaethau rhyng-gysylltiedig, fel Gofal Sylfaenol a Chamddefnyddio Sylweddau?”
•
“I ba raddau ydych chi’n teimlo y gall polisi a thystiolaeth bresennol lywio ein gweithredoedd uniongyrchol, neu a oes unrhyw fylchau brys mewn tystiolaeth yn y tymor byr?”
•
“Unrhyw syniadau ynghylch sut dylem flaenoriaethu ein hymdrechion ar yr ystod eang o effeithiau?”
•
“I ba raddau gafodd gweithlu’r sector preifat eu cynnwys yn hyn ac os cawsant eu cynnwys, i ba raddau ydych chi’n credu y gallai hyn effeithio ar y ffordd yr ydym yn dehongli’r canlyniadau?”
Roedd y sylwadau ychwanegol gan y mynychwyr yn syth ar ôl diwedd y weminar fel a ganlyn:
“Diolch, gweminar ddiddorol” “Dilch am y sesiwn llawn gwybodaeth. A da iawn Liz, Laura a’r tîm am y gwaith a’r adroddiad.” “Diolch yn fawr iawn, sesiwn ragorol.” “Diolch, sesiwn wych”
Crynodeb cyffredinol Ar y cyfan, mae’r data gwerthuso gan y mynychwyr a lenwodd yr arolwg a’r sylwadau a gafwyd yn ystod y weminar yn awgrymu bod y gweminarau yn llwyddiant a’u bod wedi cael ymateb cadarnhaol. Mae nodau’r gweminarau wedi cael eu bodloni yn y ffyrdd canlynol:
Rhoi cyfleoedd newydd ar gyfer dysgu yn ymwneud ag ystod o faterion iechyd y cyhoedd cyfoes sydd yn effeithio ar Gymru Roed y gweminarau yn gyfle i gynadleddwyr wella eu gwybodaeth am COVID-19 trwy gyflwyniadau am agweddau polisi, ymchwil ac ymarfer diweddaraf y testun. Roedd y gweminarau hefyd yn rhoi cyfle i bobl ganfod sut mae ymateb COVID-19 yn datblygu ar draws Cymru.
Datblygu gwybodaeth am iechyd y cyhoedd ymysg cynulleidfa eang Mae’r gweminarau wedi eu hanelu at bobl sydd nid yn unig yn gweithio yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r GIG, ond o ystod eang o sectorau. Er mai cydweithwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru oedd y rhan fwyaf o’r mynychwyr, roedd yn galonogol gweld ystod eang o sectorau yn mynychu’r gweminarau yn cynnwys cynrychiolaeth o Awdurdodau Lleol a sefydliadau’r Trydydd Sector. Cafwyd cynrychiolaeth hefyd o’r Sector Iechyd, Llywodraeth Cymru ac Academia. Dywedodd nifer o gynadleddwyr y byddent yn lledaenu’r hyn a ddysgwyd o’r digwyddiadau hyn i gydweithwyr er mwyn helpu i lywio’r gweithredu. Yn ogystal, mae’r gweminarau yn caniatáu cynulleidfaoedd llawer mwy na’n seminarau wyneb yn wyneb. Mae hyn, ynghyd â’r ffaith fod recordiadau o’r gweminarau a’r cyflwyniadau ar gael i’w gweld ar y wefan ar ôl y digwyddiad, yn galluogi’r wybodaeth i gael ei lledaenu i gynulleidfa llawer ehangach o ystod o sectorau.
Rhannu a gwella’r sail dystiolaeth ar gyfer iechyd y cyhoedd ymhellach Amlygodd cyflwyniadau’r gweminarau y sefyllfa bresennol a sail dystiolaeth sydd yn dod i’r amlwg ar gyfer y maes testun hwn yn ogystal â rhoi mwy o fanylion am rywfaint o’r ymchwil ddiweddar. Y gobaith yw y bydd partneriaethau yn cael eu datblygu i wella rhywfaint o’r dystiolaeth ddiweddar a thystiolaeth sydd yn dod i’r amlwg i lywio ymarfer yn y dyfodol.
Mwy o wybodaeth Mae mwy o wybodaeth a recordiadau o’r gweminarau ar gael ar wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru neu trwy gysylltu â publichealth.network@wales.nhs.uk