Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I’w Ffiniau Mai 2016
Croeso Croeso i rifyn mis Mai o e-fwletin Ewropeaidd a rhyngwladol IHCC! Bydd rhifyn y mis yma’n rhoi gwybodaeth i chi am Ddiwrnod Dim Tybaco 2016, Cynulliad Iechyd y Byd, gweithgaredd Cymru o fewn a thu hwnt i ffiniau Cymru, yn ogystal â chyhoeddiadau a chyfleoedd newydd. Dilynwch IHCC ar Twitter i gael diweddariadau rheolaidd #IHCCWales ac ar Wefan IHCC.
Cynnwys In Focus - Ewrop
2
In Focus - Cymru
4
Cyfleoedd
6
Eleni, bydd Diwrnod Dim Tybaco y Byd ar 31 Mai yn canolbwyntio ar becynnu plaen – mesur a argymhellir gan Gonfensiwn Fframwaith Sefydliad Iechyd y Byd ar Reoli Tybaco. Mae pecynnu plaen yn gwneud cynnyrch tybaco yn llai deniadol, yn cyfyngu’r defnydd o becynnu tybaco fel ffordd o hysbysebu a hyrwyddo, yn cyfyngu pecynnu a labelu camarweiniol, ac yn cynyddu effeithiolrwydd rhybuddion iechyd. Smygu yw un o brif achosion marwolaeth cyn pryd y gellir ei osgoi yn y DU ac yng Nghymru. Mae 20% o oedolion yn dal i smygu yng Nghymru. Ar ôl enghraifft lwyddiannus Awstralia yn 2012, bydd y DU ymysg un o wledydd cyntaf y byd ynghyd ag Iwerddon a Ffrainc, i gyflwyno pecynnu plaen ym mis Mai 2016. Daw’r cyfreithiau hyn ynghyd â’r gyfarwyddeb Ewropeaidd sy’n llywodraethu cynhyrchu, cyflwyno (yn cynnwys pecynnu) a gwerthu tybaco a chynnyrch cysylltiedig. Er mwyn annog gweithredu Confensiwn Fframwaith Sefydliad Iechyd y Byd yn llawn ar y lefel Ewropeaidd - un o’r Rhanbarthau â’r nifer uchaf o smygwyr yn y byd, cyfarfu Aelod-wladwriaethau Rhanbarth Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd ar 28-29 Ebrill yn Ashgabat i drafod Map Ffordd 2015 o weithredoedd i gryfhau gweithredu Confensiwn Fframwaith Sefydliad Iechyd y Byd ar Reoli Tybaco yn Rhanbarth Ewropeaidd 2015-2025 Gallwch ganfod mwy am ymgyrch Diwrnod Dim Tybaco y Byd ar wefan Sefydliad Iechyd y Byd a darllen am becynnu plaen yn y DU ar wefan Gweithredu ar Smygu ac Iechyd. Mae adnoddau i helpu smygwyr i roi’r gorau iddi hefyd ar gael ar wefan Dim Smygu Cymru.
Cynulliad Iechyd y Byd 2016 O 23 i 28 Mai, bydd yr 194 o Aelod-wladwriaethau Sefydliad Iechyd y Byd yn cyfarfod yng Ngenefa am 69ain Cynulliad Iechyd y Byd. Ymysg yr eitemau i’w trafod ar yr agenda y mae Iechyd yn agenda Nodau Datblygu Cynaliadwy 2030, yr adroddiad newydd ar y Comisiwn Dileu Gordewdra mewn Plentyndod, rheoli tybaco, a pharatoi ar gyfer trydydd Cyfarfod Lefel Uchel 2018 Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar Atal a Rheoli Clefydau Anhrosglwyddadwy. Mae’r agenda a’r dogfennau sy’n ymwneud â phob eitem yn ogystal â’r gweddarllediadau byw a’r recordiadau o’r sesiynau ar gael ar wefan Sefydliad Iechyd y Byd.
Penodi Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol Ewropeaidd Cynhaliodd y Pwyllgor Gwyddonol ar Ddiogelwch Defnyddwyr (SCCS) a’r Pwyllgor Gwyddonol ar Iechyd, Peryglon Amgylcheddol a Pheryglon sy’n dod i’r Amlwg (SCHEER), sydd newydd gael eu penodi, eu cyfarfod cyntaf yn Lwcsembwrg ar 28 Ebrill 2016. Penodir y pwyllgorau hyn am 5 mlynedd i roi cyngor gwyddonol annibynnol i’r Comisiwn Ewropeaidd ar faterion yn ymwneud â diogelwch defnyddwyr, iechyd y cyhoedd a’r amgylchedd. Gallwch ganfod mwy ar wefan SCCS a SCHEER
Datblygu Cynaliadwy a’r ‘Rhyfel ar Gyffuriau’ Ar 19-21 Ebrill 2016, ymgasglodd y Cenhedloedd Unedig Sesiwn Arbennig Cynulliad Cyffredinol y CU ar Gyffuriau (UNGASS). Roedd hwn yn gyfle allweddol i fynd i’r afael ag effeithiau polisi gwahardd cyffuriau ar dlodi, iechyd, trais, yr amgylchedd, llygredd a menywod. Fodd bynnag, ni chafodd unrhyw newidiadau chwyldroadol eu mabwysiadu. Gallwch ganfod mwy ar wefan UNGASS neu gallwch ddarllen y post ar wefan BOND.
Chernobyl: Ddeng Mlynedd ar Hugain yn Ddiweddarach Ar 26 Ebrill 2016, nododd y byd 30 mlynedd ers damwain gwaith niwclear Chernobyl yn y Wcráin - yr argyfwng a effeithiodd ar filiynau o bobl gydag effaith ar y ddynoliaeth gyfan trwy newid agweddau gwledydd tuag at ddiogelwch niwclear ar raddfa fyd-eang. Yng Nghymru, parhaodd dros 300 o ffermydd o dan gyfyngiadau am bron 26 o flynyddoedd ar ôl y digwyddiad er mwyn amddiffyn rhag anifeiliaid arbelydredig. Arweiniodd y ddamwain at ddiwygiad manwl o safonau diogelwch ymbelydredd rhyngwladol, strategaethau ar gyfer gwella diogelwch niwclear, dulliau o ymateb i argyfwng a lleddfu canlyniadau. Gallwch ganfod mwy ar wefan Sefydliad Iechyd y Byd.
Cymru
Yma hoffem rannu enghreifftiau diweddar o weithgareddau, cydweithredu, digwyddiadau a gwaith arall yng Nghymru sy’n ymwneud â diogelu, gwella a hybu iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau sy’n gysylltiedig ag Ewrop a’r byd. Os ydych yn weithiwr iechyd proffesiynol neu mewn proffesiwn cysylltiedig sy’n ymwneud â gwaith rhyngwladol o’r fath ac eisiau ei rannu gyda’ch cydweithwyr. Anfonwch e-bost i international.health@wales.nhs.uk Croesewir pob cyfraniad!
Aelod Newydd o Dîm IHCC – Strategaeth Iechyd Fyd-eang Ymunodd Jamie Mead-Jones â’r Tîm Datblygu Iechyd Rhyngwladol i weithio ar Strategaeth Iechyd Fyd-eang ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd datblygiad y strategaeth yn cynnwys ymgynghoriad ar hyd a lled Cymru, yn ymestyn i randdeiliaid rhyngwladol allanol, dywedodd Jamie: “Mae’n bleser gennyf ymuno â’r Tîm Rhyngwladol fel Rheolwr y Prosiect sy’n gyfrifol am roi Strategaeth Iechyd Fyd-eang Iechyd Cyhoeddus Cymru at ei gilydd. Mae fy nghefndir proffesiynol ym maes gwaith ieuenctid a chymunedol ac mae gennyf ddiddordeb mawr mewn Cysylltiadau Rhyngwladol. Hoffwn gynnig fy mhrofiad ‘llawr gwlad’ helaeth fel ymarferydd sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phobl a chymunedau a sefydliadau niferus ar draws Cymru ac yn rhyngwladol. Trwy gydol fy ngyrfa rwyf wedi rheoli ystod o brosiectau a strategaethau sydd yn cynnwys prosiectau rhyngwladol a phrosiectau iechyd fydd yn fy ngalluogi i gyflwyno safbwynt unigryw i waith y tîm”.
Dirprwyaeth Trieste yn Ymweld â Chymru Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (HDUHB) a Gwasanaethau Iechyd Meddwl Trieste wedi llofnodi Cytundeb Gefeillio Rhyngwladol Iechyd Meddwl ffurfiol cyntaf yng Nghymru. Fel rhan o gytundeb gefeillio Trieste, mae rhaglen cyfnewid staff wedi cael ei chytuno rhwng Trieste a HDUHB sydd wedi bod yn weithredol am dros flwyddyn bellach. Mae cynadleddwyr o Trieste wedi ymweld â Hywel Dda yn ddiweddar fel rhan o’r rhaglen gyfnewid, gan obeithio dysgu yn a bennig o Wasanaethau Arbenigol Plant ac Iechyd Meddwl sy’n cael eu cyflenwi yn HDUHB, a hefyd y gwasanaethau iechyd meddwl amrywiol a gomisiynwyd o’r 3ydd Sector. Mae’r cynadleddwyr sydd ar ymweliad yn bwriadu defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd yn ystod eu taith i ddatblygu a chryfhau'r gwasanaethau hyn yn Trieste. Darllenwch yr erthygl lawn ar wefan IHCC.
Amlygu Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghyfarfod Cymdeithas Ryngwladol Sefydliadau Iechyd y Cyhoedd Cenedlaethol Rhoddodd Dr Quentin Sandifer, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd/Cyfarwyddwr Meddygol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyflwyniad yng nghyfarfod Ewropeaidd IANPHI Ebrill 14 yn Bilthoven, yr Iseldiroedd ar Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol "Mae lles yn gynnyrch llawer o ffactorau cymhleth ac integredig ar lefelau amrywiol yn cynnwys rhai amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol, diwylliannol a phersonol." Nododd fod plant oedd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, fel cam-drin llafar, corfforol neu rywiol, oedd yn byw mewn cartrefi â heriau a allai fod wedi cynnwys rhieni’n gwahanu, trais domestig, cam-drin alcohol/cyffuriau, salwch meddwl a charcharu, â chanlyniadau economaidd, addysgol ac iechyd is. Dywedodd fod "Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol yn integreiddio, ar lefel leol, gwasanaethau disgyblaethau amrywiol mewn ffordd integredig a chydlynus”. Gallwch ganfod mwy ar wefan IANPHI.
GIG Cymru’n Rhannu Gwaith Gwella gyda Chynulleidfa Ryngwladol Cafodd gwaith sefydliadau GIG Cymru i gyflenwi gofal a chanlyniadau a phrofiadau gwell i gleifion ei rannu gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar draws y byd yn Fforwm Rhyngwladol ar Ansawdd a Diogelwch mewn Gofal Iechyd 2016 o 12-15 Ebrill. Mae’r Fforwm yn gyfle i ddysgu a rhannu arfer da gyda phobl sy’n gweithio ym maes gofal iechyd ar draws chwe chyfandir.
Cyfleoedd
Cyllid Gogledd Orllewin Ewrop – Trydedd Alwad am Gynigion Nod y Rhaglen Gydweithredu Diriogaethol Ranbarthol hon yw gwneud ardal Gogledd O llewin Ewrop yn gyfrannwr economaidd allweddol ac yn lle deniadol i fyw a gweithio, gyda lefelau uchel o arloesi, cynaladwyedd a chydlyniant. Cynhelir y drydedd alwad o 18 Ebrill – 27 Mai 2016 Y themâu sy’n cael eu cynnwys yw: Arloesi Carbon Isel Adnoddau ac effeithlonrwydd deunyddiau Gallwch ganfod mwy ar wefan Gogledd Orllewin Ewrop.
Ardal yr Iwerydd – Galwad Gyntaf am Gynigion Mae’r rhaglen gydweithredu diriogaethol Ewropeaidd hon yn ariannu prosiectau cydweithredu trawsgenedlaethol ymysg rhanbarthau’r Iwerydd 5 gwlad Ewropeaidd, ym meysydd Arloesi a chystadlu; effeithlonrwydd adnoddau; rheoli peryglon tiriogaethol; bioamrywiaeth ac asedau naturiol a diwylliannol. Cynhelir cam cyntaf yr alwad hon o 26 Ebrill i 31 Mai Mae hon yn broses dau gyfnod. Y blaenoriaethau sy’n cael eu cynnwys yw: Ysgogi arloesi a chystadlu Meithrin effeithlonrwydd adnoddau Cryfhau cadernid y diriogaeth i beryglon tarddiad naturiol, hinsawdd a dynol Gwella bioamrywiaeth a’r asedau naturiol a diwylliannol Gallwch ganfod mwy ar wefan Ardal yr Iwerydd.
URBACT – Trydedd Alwad am Rwydweithiau Nod y rhaglen Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd hon yw meithrin datblygiad trefol integredig cynaliadwy mewn dinasoedd ar draws Ewrop. Mae cyfnewid trawsgenedlaethol a rhwydweithiau dysgu ar gyfer dinasoedd Ewropeaidd – a ariennir o dan yr alwad bresennol – yn un o haenau craidd gweithgareddau rhaglen URBACT. Cynhelir y drydedd Alwad o 22 Mawrth i 22 Mehefin 2016 Y mathau o rwydweithiau a ariennir yw: Rhwydweithiau Gweithredu: yn cefnogi dinasoedd bresennol / cynllun gweithredu Gallwch ganfod mwy ar wefan URBACT
i
gyflenwi
strategaeth
drefol
integredig
Rhaglen Gydweithredu Cymru Iwerddon Mae rhaglen Gydweithredu Cymru Iwerddon yn cefnogi busnesau a sefydliadau ar draws y ddwy wlad. Mae’r rhaglen hon yn gweithredu ar sail galwadau agored. Mae’r gronfa’n canolbwyntio ar arloesi, newid yn yr hinsawdd, atebolrwydd diwylliannol a naturiol, a threftadaeth a thwristiaeth. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan WEFO.
Cronfeydd ECHO Adran Cymorth Dyngarol ac Amddiffyn Sifil y Comisiwn Ewropeaidd (ECHO) yw adran y Comisiwn sydd yng ngofal cymorth lleddfu yr UE o fewn a thu hwnt i’r UE. Mae’n gweithredu trwy offer ariannol amrywiol, yn cynnwys grantiau prosiect, caffaeliad cyhoeddus a chymorth i wirfoddoli dramor. Ewch i wefan ECHO am fwy o wybodaeth.
Horizon 2020 Yn unol â’i brif raglen ariannu ymchwil Horizon 2020, mae Ymchwil ac Arloesi Cyfarwyddiaeth Gyffredinol y Comisiwn Ewropeaidd wedi cyhoeddi cyfres o alwadau a gwobrau yn unol â’r testun “heriau cymdeithasol”. Mae’r testunau a’r dyddiadau cau yn benodol i bob galwad. Ewch i borth cyfranogwyr Ymchwil y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol am fwy o wybodaeth.
Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd Mae’r cronfeydd hyn yn rhan o Bolisi Cydlyniant Rhanbarthol yr Undeb Ewropeaidd. Yn ystod 2014–2020, bydd Cymru’n elwa ar fuddsoddiad o £1.8bn o Gronfeydd Strwythurol Ewrop i ariannu prosiectau yn rhychwantu Dwyrain Cymru, Gorllewin Cymru a’r Cymoedd. Mae’r rhaglen hon yn gweithredu ar sail galwadau agored ac mae’n cynnwys y themâu canlynol: ymchwil ac arloesi, natur gystadleuol mentrau bach a chanolig eu maint, ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni, cysylltedd a datblygu trefol trechu tlodi trwy gyflogaeth gynaliadwy sgiliau ar gyfer twf cyflogaeth a chyrhaeddiad ieuenctid Ewch i wefan WEFO am fwy o wybodaeth.
Y Drydedd Raglen Iechyd Cynllun Gwaith 2016 Y drydedd raglen iechyd yw’r prif offeryn y mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn ei ddefnyddio i weithredu strategaeth Iechyd yr UE. Mae’r alwad yn seiliedig ar y drydedd raglen ar gyfer camau’r Undeb ym maes iechyd (2014-2020) a Rhaglen Waith Flynyddol 2016. Mae cynllun gwaith 2016 yn nodi manylion y mecanweithiau ariannu a meysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu i roi’r rhaglen ar waith. Mae’r alwad bresennol yn weithredol hyd at 2 Mehefin 2016 Darllenwch fwy ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.
Rhaglen Grantiau Visegrad Diben y gronfa yw hwyluso a hyrwyddo datblygiad cydweithredu agosach ymysg dinasyddion a sefydliadau yn y rhanbarth a chyda gwledydd eraill, yn arbennig rhanbarthau Partneriaeth Gorllewin y Balcanau a’r Dwyrain. Mae’r gronfa’n gweithredu sawl rhaglen grant, ac mae hefyd yn rhoi ysgoloriaethau unigol a phreswyliadau artistiaid. Mae’r themâu yn cynnwys gwyddoniaeth ac ymchwil; addysg; cyfnewidiadau ieuenctid; trawsffiniau; cydweithredu; diwylliant; hybu twristiaeth Y dyddiad cau ar gyfer grantiau bach/safonol (EUR 0-6,000) yw 1 Mehefin 2016. Y dyddiad cau ar gyfer grantiau astudiaethau Prifysgol (EUR 10,000-40,000) yw 10 Tachwedd 2016. Gallwch ganfod mwy ar wefan Cronfa Visegrad.
Ysgoloriaethau a Chymrodoriaethau Rhyngwladol Iechyd Plant a Theuluoedd 2016 Mae Iechyd Rhyngwladol Plant a Theuluoedd (CFHI) yn cynnig cymrodoriaethau ac ysgoloriaethau i fyfyrwyr a graddedigion diweddar sydd â diddordeb mewn materion iechyd byd-eang a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau. Agorodd cylch gwneud cais am ysgoloriaeth ar gyfer tymor yr hydref 2016 ar 1 Mai 2016. Gallwch ganfod mwy ar wefan CFHI.
Cyhoeddiadau ac Offer Siarter Byd-eang ar gyfer Iechyd y Cyhoedd— system iechyd y cyhoedd: rôl, swyddogaethau, European Journal of Public Health (2016) Geiriau allweddol: iechyd y cyhoedd byd-eang, globaleiddio, cymdeithasol, penderfynyddion iechyd amgylcheddol ac ymddygiadol Gallwch ganfod mwy ar wefan EJPH.
Tueddiadau ym Mynegai Mas Corff Oedolion mewn 200 o Wledydd rhwng 1975 a 2014 NCD Risk Factor Collaboration (2016) Geiriau allweddol: gordewdra, epidemioleg, clefydau anhrosglwyddadwy Gallwch ganfod mwy ar wefan y Lancet
Tueddiadau Byd-eang mewn Diabetes er 1980 Cydweithrediad Ffactorau Risg NCD (2016) Geiriau allweddol: diabetes, epidemioleg, clefydau anhrosglwyddadwy Gallwch ganfod mwy ar wefan y Lancet.
Adroddiad Byd-eang ar Ddiabetes Sefydliad Iechyd y Byd (2016) Geiriau Allweddol: diabetes, epidemioleg, clefydau anhrosglwyddadwy, polisi, ataliaeth, gofal Gallwch ganfod mwy ar wefan Sefydliad Iechyd y Byd.
Gofal Iechyd yn Seiliedig ar Werth yn y DU Economist Intelligence Unit (2016) Geiriau allweddol: asesiad technoleg iechyd, gofal yn seiliedig ar werth, DU Gallwch ganfod mwy ar wefan yr Economist.
Strategaethau ar draws Ewrop i Asesu Ansawdd GrĹľp arbenigwyr Ewropeaidd ar asesu perfformiad systemau iechyd (HSPA) Geiriau allweddol: asesu technoleg iechyd, gofal yn seiliedig ar werth, astudiaeth gymharol, Ewrop Gallwch ganfod mwy ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.
Adroddiadau Ewropeaidd ar Safonau Ansawdd a Diogelwch ar gyfer Gwaed, Meinwe a Chelloedd Comisiwn Ewropeaidd (DG SANTE) Geiriau allweddol: Deddfwriaeth Ewropeaidd, rheoliad, gwaed, meinwe a chelloedd dynol, gweithredu, ansawdd, diogelwch Gallwch ganfod mwy ar wefan DG SANTE.
Ychwanegu Gwerth i’r GIG trwy Ymgysylltu â’r UE Swyddfa Ewropeaidd Conffederasiwn y GIG (2016) Geiriau allweddol: ychwanegu gwerth, materion yr UE Gallwch ganfod mwy ar wefan Conffederasiwn y GIG.
Arsyllwr Iechyd Ewropeaidd – rôl newidiol nyrsio Arsyllfa Ewropeaidd ar Systemau a Pholisïau Iechyd (2016) Geiriau Allweddol: addysg nyrsio, Undeb Ewropeaidd, ymfudiad nyrsys, cytuniad yr UE, fframwaith yr UE Gallwch ganfod mwy ar wefan Sefydliad Iechyd y Byd.
Tegwch i Blant: Tabl Cynghrair o Annhegwch Lles UNICEF (2016) Geiriau allweddol: Cerdyn adrodd ar ymchwil, anghydraddoldeb pegwn gwaelod, lles Gallwch ganfod mwy ar wefan UNICEF.
Cynadleddau a Digwyddiadau i Ddod Diwrnodau Gwyddonol MSF MSF y DU Llundain, 20-21 Mai 2016 Geiriau allweddol: gwaith dyngarol, ymchwi feddygol, arloesi, ymchwil weithredol Gallwch ganfod mwy ar wefan MSF y DU
Cymdeithasau Cynaliadwy Iechyd a Buddsoddiad Cymdeithasol yn yr UE EuroHealthNet Brwsel, 7 Mehefin 2016 Geiriau Allweddol: datblygu cynaliadwy, iechyd, Ewrop Gallwch ganfod mwy ar wefan EuroHealthNet
Diwrnodau Datblygu Ewropeaidd Agenda 2030 ar gyfer Datblygu Cynaliadwy Comisiwn Ewropeaidd Brwsel, 15 - 16 Mehefin, 2016 Geiriau allweddol: cydweithredu, datblygu cynaliadwy Gallwch ganfod mwy ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd
6ed Cynhadledd Ewropeaidd ar Iechyd Mudwyr EUPHA Oslo, 23 - 25 Mehefin 2016 Geiriau allweddol: Iechyd Mudwyr a Lleiafrifoedd Ethnig, tegwch, polisi Gallwch ganfod mwy ar wefan EUPHA
Ysgol Haf Iechyd a Chymdeithas UCL: Penderfynyddion Cymdeithasol Iechyd Coleg Prifysgol Llundain Llundain, 4-8 Gorffennaf 2016 Geiriau allweddol: iechyd y cyhoedd, Penderfynyddion Cymdeithasol Iechyd, epidemioleg, anghydraddoldebau iechyd, polisïau iechyd, llywodraethu Gallwch ganfod mwy ar wefan UCL.
Cynhadledd Iechyd Cymru Affrica Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru o Blaid Affrica Caerdydd, 6 Gorffennaf 2016-05-04 Geiriau allweddol: Iechyd, Affrica, Nodau Datblygu Cynaliadwy Gallwch ganfod mwy ar eventbrite.
Cynadledda lefel uchel ar gydweithio dros iechyd a lles gwell Sefydliad Iechyd y Byd Ewrop Paris, 11-12 Gorffennaf Geiriau allweddol: cydraddoldeb, canlyniadau cymdeithasol, plant, y glasoed Gallwch ganfod mwy ar wefan Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd.
Ysgol Haf Erasmus l Sefydliad Gwyddorau Iechyd MC Erasmus yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd, 10-28 Awst 2016 Geiriau allweddol: gwyddonol, ymchwil, iechyd, gwybodaeth Gallwch ganfod mwy ar wefan Erasmus.
4ydd cynhadledd ryngwladol a rhyngddisgyblaethol ar Iechyd, Diwylliant a’r Corff Dynol Universitat Bremen Bremen, Yr Almaen 08-09 Medi 2016 Geiriau allweddol: mudo, iechyd, trafodaeth ar y cyd Gallwch ganfod mwy ar wefan Leibniz-Institut.
Cynhadledd Flynyddol Public Health England 2016 Public Health England Warwick, 13-14 Medi 2016 Geiriau allweddol: Iechyd y Cyhoedd, Lloegr, ymchwil, gwyddoniaeth, ymyriadau iechyd Gallwch ganfod mwy ar wefan Public Health England.
Cynhadledd Iechyd y Cyhoedd Ewropeaidd: Pawb dros Iechyd – Iechyd i Bawb EUPHA Awstria, 9-12 Tachwedd Geiriau allweddol: iechyd y cyhoedd, ymchwil, hyfforddiant, addysg Gallwch ganfod mwy ar wefan EUPHA.
Arall Cyfleoedd arbenigol Seminarau
Cyfres o seminarau Economeg Iechyd LSHTM LSHTM Geiriau allweddol: economeg iechyd, hyfforddiant, gofal iechyd, methodoleg Gallwch ganfod mwy ar wefan LSHTM THETA.
Ymgynghoriad Llwyfan Polisi Iechyd yr UE Comisiwn Ewropeaidd Geiriau allweddol: polisi, Undeb Ewropeaidd, iechyd, cyfranogiad rhanddeiliaid Gallwch ganfod mwy ar wefan llwyfan Polisi Iechyd yr UE.
EU Horizon 2020 Rhaglen Waith ‘Gwyddoniaeth gyda ac ar gyfer Cymdeithas’ 2018-2020 Comisiwn Ewropeaidd Geiriau allweddol: polisi, cyllid, ymchwil, blaenoriaethau, Ewrop Dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau: 4 Gorffennaf 2016 Gallwch ganfod mwy ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd
Mynegiant o ddiddordeb Siaradwyr ifanc yng Nghynhadledd Iechyd y Cyhoedd Ewropeaidd EUPHA Geiriau allweddol: iechyd y cyhoedd, cynhadledd, pobl ifanc, cyflwyniad Dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau:15 Mai 2016 Am fwy o wybodaeth, cysylltwch 창 Monica Aberg-Yngwe yn EuroHealthNet.
Arbenigedd Galwad am ddiddordeb ar gyfer Rhwydweithiau Cyfeirio Ewropeaidd (ERN) ar gyfer clefydau Prin a chymhleth Comisiwn Ewropeaidd, Bwrdd ERN o Aelod-wladwriaethau Geiriau allweddol: clefydau prin, arferion gorau, cydweithredu Ewropeaidd, gofal iechyd Dyddiad cau: 21 Mehefin 2016 Adnoddau defnyddiol: gwefan rhaglen Iechyd yr UE, Llawlyfr ar gyfer ERN, Bwrdd ERN o Aelod -wladwriaethau Mae mwy o wybodaeth ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd
Gwesteiwr Cais i gynnal 16eg Cyngres Iechyd y Cyhoedd y Byd (2020) Ffederasiwn y Byd o Gymdeithasau Iechyd y Cyhoedd (WFPHA) Geiriau allweddol: digwyddiad, cynhadledd, iechyd y cyhoedd, rhyngwladol, cynnal, cais, cymdeithasau iechyd y cyhoedd cenedlaethol Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau: 31 Hydref 2016 Gallwch ganfod mwy trwy gysylltu â swyddfa WFPHA yn Genefa.
Gwobr 10fed Gwobr Iechyd Ewropeaidd Fforwm Iechyd Ewropeaidd Gastein Geiriau allweddol: iechyd y cyhoedd, gofal iechyd, Ewrop, demograffeg, amrywiaeth Dyddiad cau: Cyflwyniad erbyn 27 Mai 2016; Cyhoeddir y canlyniadau ym mis Medi 2016 Gwobr: €10,000 Mae mwy o wybodaeth ar wefan Fforwm Gastein
Sefydliadau Rhyngwladol a Chylchlythyrau Cynnal Cymru/Sustain Wales Gallwch gael y diweddaraf am ddigwyddiadau, hyfforddiant ac ymgynghoriaeth gan Cynnal Cymru trwy ddarllen eu cylchlythyr.
Cylchlythyr Iechyd Wessex Global I gadw mewn cysylltiad â Rhwydwaith Iechyd Wessex Global a chael diweddariadau rheolaidd, darllenwch y rhifyn diweddaraf o’u cylchlythyr neu ymunwch ar eu gwefan.
Sefydliad Iechyd y Byd Ewrop Gallwch gael y newyddion diweddaraf am iechyd y cyhoedd ar draws Rhanbarth Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd trwy ddarllen e-fwletin diweddaraf Sefydliad Iechyd y Byd Ewrop.
Rhanbarthau Sefydliad Iechyd y Byd gyfer Rhwydwaith Iechyd Mae’r bwletin hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a ddatblygwyd gan rwydwaith RHN Sefydliad Iechyd y Byd, y rhifyn diweddaraf yn cynnwys Ymweliad Astudio Cymru a chyfarfodydd perthnasol eraill.
Panorama Sefydliad Iechyd y Byd Mae Panorama Iechyd y Cyhoedd yn rhoi llwyfan i wyddonwyr ac ymarferwyr iechyd y cyhoedd gyhoeddi’r gwersi a ddysgwyd o’r maes, yn ogystal â gwaith ymchwil gwreiddiol, i hwyluso’r defnydd o dystiolaeth ac arfer da ar gyfer gweithredu ym maes iechyd y cyhoedd.
EuroHealthNet Trwy gyhoeddi ei gylchgrawn, nod EuroHealthNet yw esbonio ei brosiectau, ei amcanion a’i ffyrdd o weithio. Ewch i wefan cylchgrawn EuroHealthNet i ganfod mwy.
Awdurdodau Iechyd Rhanbarthol a Lleol Ewrop (EUREGHA) Mae EUREGHA yn rhwydwaith o 14 Awdurdod Iechyd Rhanbarthol a Lleol Ewropeaidd sy’n canolbwyntio ar iechyd y cyhoedd a gofal iechyd. Darllenwch y newyddion diweddaraf ar wefan EUREGHA.
Cymdeithas Ewropeaidd Iechyd y Cyhoedd (EUPHA) Mae’r rhifyn diweddaraf o gylchlythyr EUPHA, sydd ar gael ar eu gwefan, yn rhoi’r diweddaraf ym maes Iechyd y Cyhoedd, yn cynnwys Cynhadledd Ewropeaidd Iechyd y Cyhoedd i ddod yn 2016 a’r 6 ed Cynhadledd Ewropeaidd ar Iechyd Mudwyr a Lleiafrifoedd MEMH 2016.
Comisiwn Ewropeaidd: SANTE Health-EU Gallwch weld cylchlythyr SANTE Health EU ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd am wybodaeth ar, Newyddion o’r UE, Datganiadau i’r Wasg UE, Gwobr Iechyd yr UE ar gyfer Cyrff Anllywodraethol, Digwyddiadau i ddod, Cyhoeddiadau newydd ac Adrodd ar draws Ewrop.
Partneriaeth Arloesi Ewropeaidd ar Heneiddio’n Egnïol ac yn Iach Darllenwch y cylchlythyr diweddaraf ar Heneiddio’n Egnïol ac yn Iach ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.
Conffederasiwn y GIG Mae Conffederasiwn y GIG yn cynnig amrywiaeth o gylchlythyrau y gellir tanysgrifio iddynt trwy gofrestru ar eu gwefan.
Conffederasiwn GIG Ewrop Mae e-fwletin Swyddfa Ewropeaidd Conffederasiwn y GIG yn rhoi gwybod i chi am bolisi, cyllid a rhannu gwybodaeth.
WEFO Horizon 2020 E-newyddion Horizon 2020 yng Nghymru (yn dod yn fuan): Diweddariad rheolaidd yn canolbwyntio ar y newyddion diweddaraf a’r testunau sy’n berthnasol i sefydliadau Cymru sy’n ceisio Horizon 2020. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan WEFO.
Contact Us
E-bost International.health@wales.nhs.uk Ff么n 02921 841938 Swydd International Health Coordination Centre c/o Public Health Wales Hadyn Ellis Building Maindy Road Cardiff CF24 4HQ Gwefan www.internationalhealth.nhs.uk Twitter @IHCCWales