Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I’w Ffiniau Ebrill 2016
Galwadau am gyllid Rhanbarthol yr UE ar gyfer 2016 ar agor nawr Mwy ar dudalen 6
Croeso Croeso i rifyn Ebrill o e-fwletin Ewropeaidd a Rhyngwladol IHCC! Bydd rhifyn y mis yma’n rhoi gwybodaeth am Ddiwrnod Iechyd y Byd 2016, Wythnos Imiwneiddio Ewrop, dangosyddion newydd ar Iechyd a Lles yng Nghymru a galwadau am gyllid Rhanbarthol Ewrop sydd yn agor ym mis Ebrill. Dilynwch yr IHCC ar Twitter i gael diweddariadau rheolaidd #IHCCWales ac ar Wefan IHCC.
Cynnwys Canolbwynt – Ewrop 2 Canolbwynt – Cymru 4 Cyfleoedd
6
Sefydliadau a Chylchlythyrau Rhyngwladol
16
Canolbwynt Ewrop
Diwrnod Iechyd y Byd 2016: Trechu diabetes Ar gyfer Diwrnod Iechyd y Byd eleni ar 7 Ebrill 2016, mae WHO yn canolbwyntio ar ddiabetes. Mae diabetes yn effeithio ar ryw 350 miliwn o bobl yn fyd-eang, mewn gwledydd incwm isel a chanolig yn bennaf. Er mwyn cefnogi gweithredoedd cenedlaethol i gynyddu y wybyddiaeth am ddiabetes a chychwyn set o weithredoedd i’watal a’i drin, mae’r WHO wedi paratoi porth ymgyrch er mwyn darparu deunydd, rhestr o ddigwyddiadau a phecynnau’r cyfryngau cymdeithasu wedi eu haddasu i gynulleidfaoedd gwahanol. Ar yr achlysur hwn, mae’r WHO hefyd yn lansio’r adroddiad Byd-eang cyntaf ar ddiabetes. Gallwch ganfod mwy am ymgyrch byd-eang eleni ar Wefan WHO a darllenwch beth sy’n digwydd yng Nghymru ar gyfer Diwrnod Iechyd y Byd ar E-fwletin Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru
Wythnos Imiwneiddio Ewrop Mae Wythnos Imiwneiddio Ewrop (EIW) yn cael ei dathlu ar draws Rhanbarth Ewrop o 24 i 30 Ebrill 2016. Ei nod yw codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd imiwneiddio ar gyfer iechyd a lles pobl. Bydd y gweithgareddau yn 2016 yn canolbwyntio ar y cynnydd a’r heriau o ran ymdrech y Rhanbarth i ddileu’r frech goch a rwbela. Ar yr achlysur hwn yng Nghymru, mae Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Trosglwyddadwy (VPDP) yn trefnu 13eg Cynhadledd Imiwneiddio Cymru 2016 ar gyfer Gweithwyr Iechyd Proffesiynol sy’n gysylltiedig ag imiwneiddio. Gallwch ganfod mwy am EIW ar wefan WHO a gwefan VPDP.
Cyd-gaffaeliad iechyd Ewropeaidd Cyntaf: Gwledydd Ewropeaidd yn ymuno i frwydro yn erbyn clefydau heintus Ar gyfer y defnydd cyntaf hwn o Gytundeb Cyd-gaffaeliad gwrthfesurau meddygol yr UE, mae pum gwlad Ewropeaidd wedi ymuno i brynu offer amddiffynnol personol ar y cyd ar gyfer trin clefydau heintus iawn. Mae’r Cytundeb Cyd-gaffaeliad yn galluogi gwledydd i gaffael brechlynnau pandemig a gwrthfesurau ac offer meddygol eraill fel grŵp, yn hytrach nag yn unigol – ac felly cael telerau gwell. Cyhoeddwyd yr alwad gyntaf hon ar 17 Mawrth a bydd yn weithredol hyd at 9 Mai 2016.
Cyfarfod cychwynnol Trydydd Cynllun Gweithredu ar y Cyd Asesiad Technoleg Iechyd (HTA) Cafodd trydydd Cynllun Gweithredu ar y Cyd ar gyfer cydweithredu cynaliadwy ar Asesu Technoleg Iechyd yn Ewrop (EUNetHTA 3, 2016-2019) ei lansio’n swyddogol ar 3 Mawrth 2016 yn Amsterdam. Gan ddatblygu cyflawniadau’r Gweithredoedd ar y Cyd blaenorol, bydd EUNetHTA 3 yn cynnwys 75 o bartneriaid o 27 o wledydd yr UE (Yn cynnwys y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol) a’i nod yw cryfhau cydweithredu rhwng cyrff HTA yn yr UE a chynyddu a gwella gwaith ar y cyd.
Canolbwynt Cymru
Yma hoffem rannu enghreifftiau diweddar o weithgareddau, cydweithredu, digwyddiadau a gwaith arall yng Nghymru sy’n ymwneud â diogelu, gwella a hybu iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau sy’n gysylltiedig ag Ewrop a’r byd. Os ydych yn weithiwr iechyd proffesiynol neu mewn proffesiwn cysylltiedig sy’n ymwneud â gwaith rhyngwladol o’r fath ac eisiau ei rannu gyda’ch cydweithwyr. Anfonwch e-bost i international.health@wales.nhs.uk Croesewir pob cyfraniad!
Catalog cyllid yr UE IHCC Mae’r Is-adran Datblygu Iechyd Rhyngwladol wedi creu catalog cyllid yn cysylltu cyfleoedd cyllid allweddol yr Undeb Ewropeaidd (UE) â blaenoriaethau iechyd a lles Cymru. Mae’r rhifyn cyntaf hwn yn cynnwys Horizon 2020 a’r Drydedd Raglen Iechyd. Bydd y rhai nesaf yn archwilio Cyllid Rhanbarthol Ewrop fel Cronfeydd Strwythurol (Cronfa Ddatblygu Gymdeithasol a Rhanbarthol Ewrop), Cronfeydd Cydweithredol Tiriogaethol (Interreg), ac eraill. Gallwch ganfod mwy ar wefan IHCC.
Olrhain cynnydd: cyhoeddi dangosyddion cenedlaethol a byd-eang newydd Mae’r 230 o ddangosyddion byd-eang newydd sy’n olrhain cynnydd tuag at gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig wedi cael eu cyhoeddi. Mae hyn yn cyd-fynd â mabwysiadu dangosyddion cenedlaethol i fesur cynnydd tuag at gyflawni nodau Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn ogystal â Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Cymru. Mae’r ddwy ddogfen wedi cael eu llywio gan a’u datblygu yn unol â dangosyddion y nodau byd-eang a dangosyddion strategaeth Iechyd Ewropeaidd 2020. Am fwy o wybodaeth am gyfleoedd cyhoeddus yn unol â’r WFGA a’r ffordd y mae’n cyd-fynd â pholisïau cenedlaethol a byd-eang, ewch i dudalen digwyddiadau Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru “Lles Cenedlaethau’r Dyfodol: Cyfleoedd Iechyd y Cyhoedd”.
Digwyddiad Blynyddol Horizon 2020 WEFO Cynhaliodd Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ei ddigwyddiad Horizon 2020 Blynyddol ar 17 Mawrth, yn cyflwyno gwybodaeth ddiweddaraf 2020, trafodaeth ddiddorol a chyfleoedd rhwydweithio. Mae 81 o sefydliadau Cymru ar hyn o bryd yn gysylltiedig â mwy na 77 o brosiectau Horizon 2020. Am wybodaeth am straeon llwyddiant Cymreig o dan Horizon 2020 ac adroddiad Blynyddol Horizon 2020, ewch i dudalen llywodraeth Cymru ar y we am Horizon 2020.
CGGC – Mae Ewrop yn Bwysig i Gymru: Trechu tlodi ac allgáu cymdeithasol Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, trefnodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) ddigwyddiad ar 17 Mawrth i siarad am waith trechu tlodi Cymru a chyfleoedd cyllid yr UE a allai gefnogi Cymru ymhellach wrth weithredu i drechu tlodi ac allgáu cymdeithasol. Mae trosolwg o’r diwrnod ar gael ar wefan CGGC
Staff Iechyd Cyhoeddus Cymru’n cael Cymrodoriaethau Teithio Churchill Mae dau aelod o Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cael Cymrodoriaethau Teithio Churchill gan Ymddiriedolaeth Goffa Winston Churchill eleni. Mae Mary Wilson, Hyfforddai Arbenigol yn y Tîm Iechyd Deintyddol Cyhoeddus a Nicola Meredith, Nyrs Arwain (y ffliw) yn y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy wedi cael y Gymrodoriaeth am eu gwaith perthnasol ym maes pydredd dannedd mewn plentyndod ac ymgymeriad brechlyn y ffliw gan weithwyr gofal iechyd.
Hyfforddiant PONT i frwydro yn erbyn epidemig colera yn Uganda Fis Chwefror diwethaf, lansiodd PONT apêl i helpu i atal lledaenu colera ym Mbale, Uganda. Diolch i ymateb cyflym ac effeithiol, mae’r epidemig o dan reolaeth. Diolch i’r rhoddion a dderbyniwyd, mae PONT wedi hyfforddi dros 80 o Arweinwyr Tîm Iechyd Pentref o Mbale a rhanbarth Manafwa ac mae’n cynllunio diwrnodau hyfforddiant pellach ar gyfer 50 o Arweinwyr Tîm Pellach. Gallwch ganfod mwy ar wefan PONT.
Cyfleoedd
Cyllid Interreg Ewrop – Ail alwad am gynigion Nod y rhaglen cyfnewid polisi rhyng-ranbarthol Ewropeaidd hon yw gwella’r ffordd y mae polisïau a rhaglenni ar gyfer datblygu rhanbarthol yn cael eu rhoi ar waith a hyrwyddo cyfnewid profiad a dysgu am bolisïau. Cynhelir yr ail alwad rhwng 5 Ebrill a 13 Mai 2016 Y themâu sydd wedi eu cynnwys o dan yr alwad hon yw: - Ymchwil ac Arloesi - Gallu BBaCh i Gystadlu - Economi Carbon Isel - Effeithlonrwydd yr Amgylchedd ac Adnoddau Gallwch ganfod mwy ar wefan Interreg Ewrop
Rhaglen Gydweithredu Cymru Iwerddon Mae rhaglen Gydweithredu Cymru Iwerddon yn cefnogi busnesau a sefydliadau ar draws y ddwy wlad. Mae’r rhaglen hon yn gweithredu ar sail galwadau agored. Mae’r gronfa’n canolbwyntio ar arloesi, newid yn yr hinsawdd, cymorth naturiol, a threftadaeth a thwristiaeth. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan WEFO.
Ardal yr Iwerydd – Galwad gyntaf am gynigion Mae’r rhaglen gydweithredu diriogaethol Ewropeaidd hon yn ariannu prosiectau cydweithredu trawswladol ymysg rhanbarthau Iwerydd 5 gwlad Ewropeaidd, ym meysydd Arloesi a chystadlu; effeithlonrwydd adnoddau; rheoli risgiau tiriogaethol; bioamrywiaeth ac asedau naturiol a diwylliannol. Cynhelir yr alwad gyntaf o 26 Ebrill i 27 Mai (amserlen i’w chadarnhau) Mae hon yn broses dwy gam. Mae’r blaenoriaethau yn cynnwys: - Ysgogi arloesi a chystadlu - Meithrin effeithlonrwydd adnoddau - Cryfhau cadernid y diriogaeth i beryglon o darddiad naturiol, hinsawdd a dynol - Gwella bioamrywiaeth a’r asedau naturiol a diwylliannol Gallwch ganfod mwy ar wefan Ardal yr Iwerydd.
Gogledd Orllewin Ewrop – Trydedd alwad am gynigion Nod Rhaglen Gydweithredu Diriogaethol Ewrop yw gwneud ardal Gogledd Orllewin Ewrop yn aelod economaidd allweddol ac yn lle deniadol i weithio a byw, gyda lefelau uchel o arloesi, cynaliadwyedd a chydlyniant. Cynhelir y drydedd alwad o 18 Ebrill – 27 Mai 2016 Mae’r themâu yn cynnwys: - Arloesi - Carbon Isel - Effeithlonrwydd adnoddau a deunyddiau Gallwch ganfod mwy ar wefan Gogledd Orllewin Ewrop.
URBACT – Trydedd alwad am rwydweithiau Nod rhaglen Gydweithredu Diriogaethol Ewrop yw meithrin datblygiad trefol integredig mewn dinasoedd ledled Ewrop. Mae cyfnewid trawswladol a rhwydweithiau dysgu ar gyfer dinasoedd Ewropeaidd – wedi eu hariannu yn unol â’r alwad bresennol – yn un o haenau craidd gweithgareddau rhaglen URBACT. Cynhelir y drydedd Alwad o 22 Mawrth i 22 Mehefin 2016 Y mathau o rwydweithiau a ariennir yw: -Rhwydweithiau Gweithredu: yn cefnogi dinasoedd i gyflenwi strategaeth/cynllun gweithredu trefol integredig presennol Gallwch ganfod mwy ar wefan URBACT
Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd Mae’r cronfeydd hyn yn rhan o Bolisi Cydlyniant Rhanbarthol yr Undeb Ewropeaidd. Yn ystod 2014–2020, bydd Cymru’n elwa ar ryw £1.8bn o fuddsoddiad gan Gronfeydd Strwythurol Ewrop i ariannu prosiectau yn cynnwys Dwyrain Cymru, Gorllewin Cymru a’r Cymoedd. Mae’r rhaglen hon yn gweithredu ar sail galwadau agored ac yn cynnwys y themâu canlynol: - ymchwil ac arloesi, - gallu mentrau bach a chanolig eu maint i gystadlu, - ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni, - cysylltedd a datblygu trefol - trechu tlodi trwy gyflogaeth gynaliadwy - sgiliau ar gyfer twf - cyflogaeth a chyrhaeddiad ieuenctid Ewch i wefan WEFO am fwy o wybodaeth.
Cronfeydd ECHO Adran Cymorth Dyngarol ac Amddiffyn Sifil y Comisiwn Ewropeaidd (ECHO) yw adran y Comisiwn sydd yng ngofal cymorth rhyddhad yr UE o fewn a thu allan i’r UE. Mae’n gweithredu trwy offerynnau ariannol amrywiol, yn cynnwys grantiau prosiect, caffaeliad cyhoeddus a chymorth ar gyfer gwirfoddoli dramor. Ewch i wefan ECHO am fwy o wybodaeth.
Y Drydedd Raglen Iechyd – cynllun gwaith 2016 Y drydedd raglen iechyd yw’r prif offeryn y mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn ei ddefnyddio i weithredu strategaeth iechyd yr UE. Mae’r alwad hon yn seiliedig ar y drydedd raglen ar gyfer camau gweithredu’r Undeb ym maes iechyd (2014-2020) a Rhaglen Waith Flynyddol 2016. Mae cynllun gwaith 2016 yn nodi manylion y mecanweithiau ariannu a’r meysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu i roi’r rhaglen ar waith. Cynhelir yr alwad bresennol hyd at 2 Mehefin 2016 Gallwch ddarllen mwy ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.
Horizon 2020 Yn unol â’i brif rhaglen ariannu ymchwil Horizon 2020, mae Ymchwil ac Arloesi Cyfarwyddiaeth Gyffredinol y Comisiwn Ewropeaidd wedi cyhoeddi cyfres o alwadau a gwobrau o dan y testun “heriau cymdeithasol”. Mae’r testunau a’r dyddiadau cau yn benodol i bob galwad. Ewch i borth cyfranogwyr Ymchwil y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol am fwy o wybodaeth.
Cyhoeddiadau ac Offer Cyhoeddi Adroddiad Terfynol Llysgenhadon Cyllid UE Cymru (Mawrth 2016) Geiriau Allweddol: Llysgenhadon Cyllid UE Cymru, adroddiad terfynol, cyllid, Cymru, Undeb Ewropeaidd, polisi Gallwch ganfod mwy ar wefan Llywodraeth Cymru.
Partneriaethau Iechyd: Ymateb Effeithiol i’r Agenda Iechyd Fyd-eang Cyfres Partneriaethau Iechyd THET (2015-2016) Geiriau Allweddol: cryfhau systemau iechyd, hyfforddiant, perthynas gefeillio, adlewyrchu beirniadol Gallwch ganfod mwy ar wefan BioMed Central.
Gofal sy’n canolbwyntio ar y person yn Ewrop: Cymhariaeth ar Draws y Wlad o Berfformiad Systemau, Strategaethau a Strwythurau Iechyd Sefydliad Picker, Chwefror 2016 Geiriau Allweddol: polisi, ymarfer, gofal sy’n canolbwyntio ar y person, dewis y claf, cyfranogiad y claf Gallwch ganfod mwy ar wefan Conffederasiwn y GIG.
O Arloesi i Weithredu – e-Iechyd yn Rhanbarth Ewropeaidd WHO WHO EURO (2016) Geiriau Allweddol: cymhwyso e-iechyd, tueddiadau sy’n dod i’r amlwg, iechyd y cyhoedd, cyflenwi gwasanaeth iechyd Gallwch ganfod mwy ar wefan WHO.
Tyfu i Fyny’n Anghyfartal: Gwahaniaethau Economaidd-gymdeithasol a Rhwng y Rhywiau yn ymwneud ag Iechyd a Lles Pobl Ifanc. Astudiaeth Ymddygiad Iechyd Plant Oed Ysgol (HBSC): Adroddiad Rhyngwladol o Arolwg 2013/2014 WHO EURO (2016) Geiriau Allweddol: pobl ifanc, iechyd, yr amgylchedd cymdeithasol, lles, canlyniadau iechyd, ymddygiad risg, ymfudo, seibrfwlio Gallwch ganfod mwy ar wefan WHO.
Model Veneto – Dull Rhanbarthol o Fynd i’r Afael â Heriau Iechyd Byd-eang ac Ewropeaidd WHO EURO (2016) Geiriau Allweddol: WHO, Yr Eidal, partneriaeth ranbarthol, polisïau iechyd Ewropeaidd, partneriaethau cyfranogwyr lluosog, modelu ymyrraeth, Gallwch ganfod mwy ar wefan WHO.
Adolygiadau OECD o Ansawdd Gofal Iechyd: Y Deyrnas Unedig 2016, Codi Safonau OECD (2016) Geiriau Allweddol: arfer gorau, asesiadau wedi eu targedu, meincnodau rhyngwladol Gallwch ganfod mwy ar wefan OECD
Rheoli Beichiogrwydd WHO yng Nghyd-destun Feirws Zika, Canllawiau Interim WHO (2016) Geiriau Allweddol: Beichiogrwydd, feirws Zika, rheoli risg, tystiolaeth ymchwil, canllawiau rhyngwladol Gallwch ganfod mwy ar wefan WHO.
Cynadleddau a Digwyddiadau i Ddod 13eg Cynhadledd Imiwneiddio Cymru 2016 Rhaglen Frechu yn Erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru Wrecsam, Cymru, 19 Ebrill 2016 Geiriau Allweddol: gweithwyr iechyd proffesiynol, imiwneiddio, polisi Cymru, iechyd y cyhoedd Gallwch ganfod mwy ar wefan VPDP.
Cynhadledd: Ataliaeth a Rheolaeth Well yn ymwneud â Chlefydau Cronig Comisiwn Ewropeaidd Brwsel, 21 Ebrill 2016 Geiriau Allweddol: clefydau cronig, polisi, ataliaeth, gofal iechyd Gallwch ganfod mwy ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.
Rhaglen ‘Gwella Iechyd Byd-eang trwy Ddatblygu Arweinyddiaeth’: Noson Gyflwyno Academi Arweinyddiaeth Thames Valley a Wessex Caer-wynt, 28 Ebrill 2016, 6.15pm RSVP erbyn 22 Ebrill 2016 yn igh@tvwleadershipacademy.nhs.uk Geiriau Allweddol: lleoliad dramor, cyfleoedd gwirfoddoli, gofal iechyd, DU, byd-eang Gallwch ganfod mwy yn Academi Arweinyddiaeth Themes Valley a Wessex.
Canolbwyntio ar: Iechyd yn Affrica Hub Cymru Africa Y Rhyl, Cymru, 11 Ebrill 2016 Geiriau Allweddol: cysylltiadau iechyd Cymru-Affrica, gwirfoddoli, argyfwng Ebola, HIV/AIDS, rhannu profiadau Gallwch ganfod mwy ar wefan eventbrite.
Cynhadledd Ryngwladol Gyntaf Dinasoedd Deallus mewn Rhanbarthau Deallus 2016 Prifysgol Gwyddoniaeth Gymhwysol Lahti Lahti (Ffindir), 10-12 Mai Geiriau Allweddol: datblygu rhanbarthol, cynaliadwyedd trefol, diwydiant, arloesi Gallwch ganfod mwy ar wefan Prifysgol Lahti.
Cynhadledd Flynyddol ac Arddangosfa Iechyd y Cyhoedd Cyfadran Iechyd y Cyhoedd 2016 Iechyd y cyhoedd mewn hinsawdd oer: dadmer calonnau a meddyliau gyda thystiolaeth Cyfadran Iechyd y Cyhoedd, Coleg Nyrsio Brenhinol Brighton, 14-15 Mehefin 2016 (Cofrestru erbyn 3 Mai 2016) Geiriau Allweddol: iechyd y cyhoedd, polisi, gwasanaethau iechyd, iechyd meddwl, awdurdod lleol, ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth Gallwch ganfod mwy ar wefan FPH.
Cynhadledd Ewropeaidd Iechyd y Cyhoedd: Pawb dros Iechyd, Iechyd i Bawb EUPHA Vienna (Awstria), 9-12 Tachwedd Geiriau Allweddol: hybu iechyd, iechyd y cyhoedd, gofal iechyd, E-iechyd, cadernid Cofrestru: ar agor o 1 Mawrth 2016 Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Crynodeb 1 Mai 2016
Arall Cyfleoedd arbenigol Ymgynghoriad Galwad am Syniadau ar gyfer Cyngor Arloesi Ewropeaidd Comisiwn Ewropeaidd Geiriau Allweddol: UE, arloesi, gwyddorau, ymgynghoriad Ymgynghoriad agored: Galwad am Syniadau ar gyfer Cyngor Arloesi Ewropeaidd i gefnogi arloeswyr mwyaf addawol Ewrop. Dyddiad cau: 29 Ebrill 2016 Mae mwy o wybodaeth ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd
Ymgynghoriadau rhanddeiliaid ar gyfer Rhaglen Waith 2020 Horizon 2018-2020 Comisiwn Ewropeaidd, Ymchwil y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol Geiriau Allweddol: ymchwil, arloesi, cyllid, polisi, gwyddorau Ymgynghoriadau agored: - Technolegau y Dyfodol a rhai sy’n Dod i’r Amlwg Rhagweithiol - Technolegau y Dyfodol a rhai sy’n Dod i’r Amlwg Blaenllaw (hyd at 30 Ebrill 2016) - Mathemateg ar gyfer Rhagoriaeth mewn Gwyddoniaeth yn Horizon 2020 Dyddiad Cau: 30 Ebrill 2016 Mae mwy o wybodaeth ac ymgynghoriadau i ddod ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd
Ymgynghoriad cyhoeddus ar y Safbwynt Rhagarweiniol ar effeithiau Biolegol ymbelydredd uwchfioled sy’n berthnasol i iechyd gan gyfeirio’n benodol at welyau haul at ddibenion cosmetig Comisiwn Ewropeaidd Geiriau Allweddol: arbenigedd gwyddonol, ymbelydredd uwchfioled, canser, ymgynghoriad Dyddiad cau: Cyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar y safbwynt rhagarweiniol erbyn 27 Ebrill 2016 Mae mwy o wybodaeth ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd
Gwobr 10fed Gwobr Iechyd Ewrop Fforwm Iechyd Ewropeaidd Gastein Geiriau Allweddol: iechyd y cyhoedd, gofal iechyd, Ewrop, demograffeg, amrywiaeth Dyddiad Cau: Cyflwyniadau erbyn 27 Mai 2016; Cyhoeddi’r canlyniadau ym mis Medi 2016 Gwobr: €10,000 Mae mwy o wybodaeth ar wefan Fforwm Gastein
Hyfforddiant Ysgol Haf Arsyllfa Venice 2016: “Gofal iechyd sylfaenol: arloesi ar gyfer gofal integredig, mwy effeithiol” Arsyllfa Ewropeaidd ar Systemau a Pholisïau Iechyd Geiriau Allweddol: gofal iechyd sylfaneol, arloesi, poblogaethau agored i niwed, astudiaethau cymharol Dyddiad cau: 31 Mai 2016 Mae mwy o wybodaeth ar wefan yr Arsyllfa
Rhaglen Haf Erasmus Rhaglen Erasmus Geiriau Allweddol: iechyd byd-eang, epidemioleg, ymchwil, methodoleg ymchwil Dyddiad cau: Cofrestru yn Ebrill 2016, Cyrsiau ym mis Awst 2016 Gallwch ganfod mwy ar wefan Rhaglen Haf Erasmus 2016
Hyfforddiant Gwell ar gyfer Bwyd mwy Diogel Comisiwn Ewropeaidd Geiriau Allweddol: awdurdodau sy’n rheoleiddio, deddfwriaeth yr UE, bwyd, porthiant, iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion, diogelu defnyddwyr Dyddiad cau: penodol i bob hyfforddiant, cysylltwch â phwynt cyswllt cenedlaethol y DU am fanylion a cheisiadau. Mae mwy o wybodaeth ar wefan yr Asiantaeth Weithredol Defnyddwyr, Iechyd, Amaethyddiaeth a Bwyd.
Galwad am bapurau Panorama Iechyd y Cyhoedd yn galw am bapurau ar “Gryfhau’r defnydd o dystiolaeth, gwybodaeth ac ymchwil ar gyfer gwneud penderfyniadau” WHO EURO Geiriau Allweddol: tystiolaeth, gwneud penderfyniadau, polisi’n seiliedig ar dystiolaeth, gwybodaeth iechyd genedlaethol, systemau ymchwil iechyd y cyhoedd Dyddiad cau: 30 Ebrill 2016 Mae mwy o wybodaeth ar wefan WHO EURO
Arbenigedd Galwad am arbenigwyr ar asesu risg ad hoc cyflym o fygythiadau cemegol Comisiwn Ewropeaidd Geiriau Allweddol: asesu risg cyflym, bygythiad cemegol, cronfa o arbenigwyr, Comisiwn Ewropeaidd Dyddiad cau: 22 Ebrill 2016 Mae mwy o wybodaeth ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd
Galwad am ddiddordeb yn Rhwydweithiau Cyfeirio Ewropeaidd (ERN) ar gyfer clefydau Prin a chymhleth Comisiwn Ewropeaidd, Bwrdd ERN o Aelod-wladwriaethau Geiriau Allweddol: clefydau prin, arfer gorau, cydweithredu Ewropeaidd, gofal iechyd Dyddiad cau: 21 Mehefin 2016 Diwrnod gwybodaeth: 7 Ebrill 2016 Adnoddau defnyddiol: Gwefan Rhaglen Iechyd yr UE, Llawlyfr ar gyfer ERN, Bwrdd ERN o Aelod-wladwriaethau, Llawlyfr ar gyfer ERN Mae mwy o wybodaeth ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd
Sefydliadau Rhyngwladol a Chylchlythyrau WHO Ewrop Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am newyddion iechyd y cyhoedd ar draws Rhanbarth Ewropeaidd WHO trwy ddarllen e-fwletin Mawrth WHO Ewrop a Chylchlythyr Agweddau Iechyd y Cyhoedd ar Ymfudo yn Ewrop.
Rhanbarthau WHO ar gyfer y Rhwydwaith Mae’r bwletin hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a ddatblygir gan rwydwaith RHN WHO, gyda’r rhifyn diweddaraf yn cynnwys ail gyfarfod ar hugain blynyddol y Rhwydwaith Rhanbarthau er iechyd a newyddion perthnasol arall.
Panorama WHO Mae Panorama Iechyd y Cyhoedd yn darparu llwyfan i wyddonwyr ac ymarferwyr iechyd y cyhoedd ar gyfer cyhoeddi’r gwersi a ddysgwyd o’r maes, yn ogystal â gwaith ymchwil gwreiddiol, er mwyn hwyluso’r defnydd o dystiolaeth ac arfer da ar gyfer gweithredu ym maes iechyd y cyhoedd.
EuroHealthNet Trwy gyhoeddi ei gylchgrawn, nod EuroHealthNet yw esbonio ei brosiectau a’i ffyrdd o weithio. Ewch i wefan cylchgrawn EuroHealthNet i ganfod mwy.
Awdurdodau Iechyd Ewropeaidd Rhanbarthol a Lleol (EUREGHA) Mae EUREGHA yn rhwydwaith o 14 Awdurdod Iechyd Ewropeaidd Rhanbarthol a Lleol sy’n canolbwyntio ar iechyd y cyhoedd a gofal iechyd. Darllenwch y newyddion diweddaraf ar wefan EUREGHA.
WHO Europe Comisiwn Ewropeaidd: SANTE Health-EU Edrychwch ar gylchlythyr SANTE Health EU ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd am wybodaeth am, Newyddion o’r UE, Datganiadau i’r wasg yr UE, Gwobrau Iechyd yr UE ar gyfer Cyrff Anllywodraethol, Digwyddiadau i ddod, Cyhoeddiadau newydd ac Adrodd ar draws Ewrop.
Cymdeithas iechyd y Cyhoedd Ewrop WHO Europe (EUPHA) Mae rhifyn diweddaraf cylchlythyr EUPHA, ar gael ar eu gwefan, yn rhoi’r newyddion diweddaraf ym maes Iechyd y Cyhoedd, yn cynnwys Cynhadledd Iechyd y Cyhoedd Ewrop yn 2016 a’r 6ed Cynhadledd Ewropeaidd ar Iechyd Mudwyr a Lleiafrifoedd MEMH 2016.
Conffederasiwn y GIG Mae conffederasiwn y GIG yn cynnig amrywiaeth o gylchlythyrau y gellir rhagnodi ar eu cyfer trwy gofrestru ar eu gwefan.
Conffederasiwn GIG Ewrop Mae e-fwletin Swyddfa Ewropeaidd Conffederasiwn y GIG yn eich hysbysu am bolisi, cyllid a rhannu gwybodaeth.
Cylchlythyr Interburns Y cylchlythyr cyntaf gan, yn cynnwys gwaith yn 2015 a’r cynlluniau ar gyfer 2016. Darllenwch Gylchlythyr Interburns ar-lein.
WEFO Horizon 2020 E-newyddion Horizon 2020 yng Nghymru (yn fuan): Diweddariad rheolaidd ar y newyddion diweddaraf a’r testunau sy’n berthnasol i sefydliadau Cymru sydd eisiau Horizon 2020. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan WEFO.
Contact Us E-bost International.health@wales.nhs.uk ff么n 02921 841938 swydd International Health Coordination Centre c/o Public Health Wales Hadyn Ellis Building Maindy Road Cardiff CF24 4HQ gwefan www.internationalhealth.nhs.uk Twitter @IHCCWales