Croeso Fis yma mae’r e-fwletin yn canolbwyntio ar Ddiwrnod AIDS y Byd. Cynhelir Diwrnod AIDS y Byd ar 1 Rhagfyr bob blwyddyn. Mae’n gyfle i bobl ar draws y byd uno yn y frwydr yn erbyn HIV, i ddangos cefnogaeth i bobl sydd yn byw gyda HIV, ac i gofio’r rheiny sydd wedi marw o salwch yn ymwneud ag AIDS. Sefydlwyd Diwrnod AIDS y Byd ym 1988 a dyma’r diwrnod iechyd byd-eang cyntaf erioed. Cynhaliwyd digwyddiad Ein Digartrefedd: Gwrthdroi’r Trawma ar 20 Tachwedd yng Nghaerdydd ac roedd yn hynod lwyddiannus. Mae gwybodaeth o’r diwrnod ar gael ar dudalennau ‘Digwyddiadau Blaenorol’ ein gwefan. Mae mwy o ddigwyddiadau ar y gweill ar gyfer 2020 fel y pleidleisiwyd gennych chi felly cadwch lygaid allan am fwy o wybodaeth. Rydym bob amser yn chwilio am wybodaeth a digwyddiadau y gallwn eu cynnwys yn yr e-fwletin yn ogystal ag ar y wefan felly cofiwch gysylltu â ni yn publichealth.network@wales.nhs.uk
Cysylltu â Ni Gallwch gysylltu â Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn amrywiaeth o ffyrdd Drwy anfon e-bost publichealth.network@wales.nhs.uk Drwy ffonio 02920 104450 Drwy’r post Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llawr 5, Rhif 2 Capital Quarter, Tyndall Stryd, Caerdydd, CF10 4BZ Drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol twitter @PHNetworkCymru facebook Publichealthnetworkcymru
Cynnwys Diwrnod AIDS y Byd Dan Sylw RICC: Podlediad RICC: Press Play The Grapevine RICC: Headlines RICC: Calendar RICC: Topics Rhifyn Nesaf
Sylw ar...
Diwrnod AIDS y Byd Mae dros 101,600 o bobl yn byw gyda HIV yn y DU. Yn fyd-eang, amcangyfrifir bod gan 36.7 miliwn o bobl y feirws. Er gwaetha’r ffaith mai dim ond ym 1984 y canfuwyd y feirws, mae dros 35 miliwn o bobl wedi marw o HIV neu AIDS, sy’n golygu mai dyma un o’r clefydau pandemig mwyaf dinistriol mewn hanes. Heddiw, mae datblygiadau gwyddonol wedi cael eu gwneud mewn triniaeth HIV, mae cyfreithiau i ddiogelu pobl sydd yn byw gyda HIV ac rydym yn deall cymaint mwy am y cyflwr. Er gwaethaf hyn, bob blwyddyn yn y DU, mae dros 4,300 o bobl yn cael diagnosis o HIV, nid yw pobl yn gwybod y ffeithiau ynghylch sut i ddiogelu eu hunain ac eraill, ac mae stigma a gwahaniaethu yn dal yn realiti i lawer o bobl sydd yn byw gyda’r cyflwr. Mae Diwrnod AIDS y Byd yn bwysig am ei fod yn atgoffa’r cyhoedd a’r llywodraeth nad yw HIV wedi mynd i ffwrdd – mae angen hanfodol o hyd i godi arian, cynyddu ymwybyddiaeth, brwydro yn erbyn rhagfarn a gwella addysg. Mae Diwrnod AIDS y Byd yn gyfle i ddangos cadernid gyda’r miliynau o bobl sydd yn byw gyda HIV ar draws y byd. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwneud hyn trwy wisgo rhuban coch ymwybyddiaeth HIV ar y diwrnod. Gallwch archebu rhuban coch trwy Ymddiriedolaeth Genedlaethol AIDS siop ar-lein, neu ddewis un mewn unrhyw siop MAC Cosmetics, unrhyw gangen o RBS neu NatWest yng Nghymru a Lloegr, canghennau dethol o Morrisons , a changhennau dethol o HSBC UK. World AIDS Day 2019
Gwisgo’r Rhuban
Ymgyrch Diwrnod AIDS Y Byd NAT i ddileu ynysu ymysg y rheiny sydd yn byw gyda HIV Mae Diwrnod AIDS y Byd yn gyfle i gofio’r rheiny sydd wedi marw o salwch yn gysylltiedig ag AIDS a sefyll gyda’r rheiny sydd yn byw gyda HIV heddiw. Bob 1 Rhagfyr, mae pobl ar draws y byd yn mynychu digwyddiadau, yn codi arian ac yn gwisgo rhubanau coch i nodi’r diwrnod. Eleni, mae NAT (Ymddiriedolaeth Genedlaethol AIDS) yn galw ar bobl i Wisgo’r Rhuban Gyda’i Gilydd, i ddangos eu cefnogaeth i’r rheiny sydd yn byw gyda HIV. Mae hyn yn hanfodol gan fod 1 mewn 5 o bobl sydd yn byw gyda HIV yn y DU wedi nodi eu bod yn teimlo’n ynysig ac ar eu pen eu hunain o ganlyniad i’w statws. Mae hyn yn rhannol o ganlyniad i stigma sydd yn dal yn amgylchynu HIV. Mae triniaeth effeithiol yn golygu ei fod bellach yn bosibl byw bywyd hir ac iach gyda HIV. Mae hyn yn golygu y gall tyfu’n hŷn gynyddu teimladau ynysig. Mae Carl, sydd yn 63 oed, yn byw gyda HIV ac mae wedi pwysleisio’r dylanwad y gall hyn ei gael ar ei brofiadau, gan ddatgan “yr unig bobl yr wyf yn trafod hyn gyda nhw yw’r staff yn y clinig HIV. Fel claf hŷn, mae’r teimlad o fod wedi ei ynysu yn fwy.” Er mwyn dileu hyn, mae’n rhaid i wasanaethau cymorth cymheiriaid cynhwysfawr fod ar gael i bobl o bob oed sydd yn byw gyda HIV sy’n dymuno eu cael. Mae hyn yn galluogi pobl sydd yn byw gyda HIV i gael cymorth gan y rheiny sydd â phrofiadau tebyg. Mae cyllid ar gyfer gwasanaethau cymorth HIV wedi cael eu torri’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, gan arwain at dri chwarter y bobl yn nodi eu bod yn teimlo’n unig tra’n byw gyda HIV gan ddatgan nad ydynt wedi gallu dod o hyd i gymorth priodol. Byddai cyllid digonol ar gyfer gwasanaethau cymorth cymheiriaid yn lleihau’r gost gyffredinol i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol tra’n trawsnewid profiad y rheiny sydd yn byw gyda HIV. https://nationalaidstrust-my.sharepoint.com/:f:/g/personal/katie_clark_nat_org_uk/Epw_twR8OY5HlPSP_ KBQJYABhhbLDpUdrPI6TS5aIhl6Fg?e=CCsa29
Defnydd o Broffylacsis Cyn-gysylltiad (PrEP) yng Nghymru Zoe Couzens, Pennaeth Iechyd y Cyhoedd – Iechyd Cyhoeddus Cymru Mae Diwrnod AIDS y Byd, 1 Rhagfyr, yn amser i adlewyrchu: ar yr hyn yr ydym wedi ei gyflawni o ran yr ymateb cenedlaethol a byd-eang i HIV, a’r hyn y mae’n rhaid i ni ei gyflawni o hyd. Mae Diwrnod AIDS y Byd yn ddiwrnod wedi ei neilltuo i gofio’r rheiny sydd wedi ein gadael ac i godi ymwybyddiaeth am AIDS a lledaeniad byd-eang y feirws HIV. Cynhaliwyd Diwrnod AIDS y Byd cyntaf ym 1988 ar ôl i weinidogion iechyd ar draws y byd gyfarfod yn Llundain a chytuno i ddiwrnod o’r fath fel ffordd o bwysleisio anferthedd pandemig AIDS a chyfrifoldebau gwledydd i sicrhau triniaeth, gofal a chymorth cyffredinol i bobl sydd yn byw gyda HIV ac AIDS. Mae UNAIDS wedi cyhoeddi mai thema Diwrnod AIDS y Byd 2019 yw ‘Cymunedau sy’n gwneud y gwahaniaeth’. Heddiw, mae datblygiadau gwyddonol wedi cael eu gwneud mewn triniaeth HIV ac rydym yn deall cymaint mwy am y cyflwr. Mae profion HIV yn hanfodol ar gyfer ymestyn triniaeth a sicrhau bod pawb sydd yn byw gyda HIV yn gallu byw bywydau iach a chynhyrchiol. Mae hefyd yn hanfodol cyrraedd targedau UNAIDS 90-90-90 a grymuso pobl i wneud dewisiadau am atal HIV er mwyn iddynt allu diogelu eu hunain a’u hanwyliaid. Yn y ddwy flynedd diwethaf yng Nghymru, rydym wedi cael y cyfle ychwanegol i atal haint HIV trwy ddefnyddio Proffylacsis Cyn-gysylltiad (PrEP). Mae hon yn strategaeth lle mae pobl sydd yn HIV negyddol yn defnyddio cyffuriau gwrth-retrofeirysol (ARV) HIV, cyffuriau a ddefnyddir fel arfer i drin haint HIV, i leihau eu perygl o gael eu heintio â HIV. Ni ddylid ystyried PrEP yn ynysig ond ei weld fel rhan o becyn cynhwysfawr o ataliaeth HIV sydd yn cynnwys PrEP ynghyd â PEP (Proffylacsis Ôl-gysylltiad) a TasP (Triniaeth fel Ataliaeth). Rhwng 1 Gorffennaf 2017 a 30 Mehefin 2019, dechreuodd 1158 o bobl gymryd PrEP yng Nghymru. Roedd 653 o bobl yn gymharol newydd i’r gwasanaeth (dim mwy na 2 fis), gyda 449 yn gwbl newydd i’r gwasanaeth, sy’n golygu nad oeddent cyn hyn wedi achub ar y cyfle i gael prawf HIV. Cafodd o leiaf 13 unigolyn ddiagnosis newydd o HIV pan gawsant eu gweld gyntaf, ar y prawf llinell sylfaen. Mae’r bobl hyn bellach ar y driniaeth felly byddant yn cynnal eu hiechyd ac ni fyddant mewn unrhyw berygl i’w partneriaid yn y dyfodol. Mae’r rheiny sydd wedi dechrau ar PrEP hyd yn hyn rhwng 16 a 77 oed, gydag oed canolrif o 32. Ni chafwyd unrhyw ddiagnosis o HIV ymysg pobl unwaith iddynt ddechrau cymryd PrEP. Am fwy o fanylion cysylltwch â Zoe Couzens: zoe.couzens@wales.nhs.uk
Mesur, Deall a Gwneud y Gorau o broffylacsis cyn-gysylltiad (PrEP) yng Nghymru Dr David Gillespie, Dirprwy Gyfarwyddwr Treialon Heintiau, Llid ac Imiwnedd – Prifysgol Caerdydd Adam Williams, Prifysgol Caerdydd Mae’r feirws imiwnoddiffygiant dynol (HIV) yn feirws sydd yn gwanhau ac yn niweidio’r system imiwnedd dynol, gan arwain at y rheiny sydd yn cael eu heintio yn methu ymladd heintiau yn naturiol. Yng Nghymru, mae dros 100 o bobl yn cael diagnosis bob blwyddyn, gyda chynnydd o 10% bob blwyddyn. Proffylacsis Cyn-gysylltiad, neu PrEP, yw’r defnydd o feddyginiaeth gwrth-retrofeirysol ymysg unigolion sydd yn byw heb HIV ond yr ystyrir eu bod â risg o’i gaffael yn y dyfodol. Mae treialon clinigol a thystiolaeth arall yn dangos, pan fydd PrEP yn cael ei gymryd fel y rhagnodir, mae bron yn 100% effeithiol yn atal HIV. Mae Cymru wedi cyflwyno PrEP yn ddiweddar trwy glinigau iechyd rhywiol integredig, lle caiff ei roi ar bresgripsiwn i’r rheiny yr ystyrir eu bod â mwy o risg o’i gaffael. Mae’r meini prawf risg ar gyfer PrEP yn canolbwyntio’n bennaf ar unigolion sydd yn cael rhyw heb gondom dro ar ôl tro a/neu sydd yn hysbys i glinigau oherwydd diagnosis o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STI) yn y gorffennol. Mae dau brosiect ymchwil ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar PrEP sydd yn cael eu gwneud gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r cyntaf yn Gymrodoriaeth wedi ei ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru o’r enw astudiaeth DO-PrEP o dan arweiniad Dr David Gillespie (https://www.cardiff.ac.uk/people/view/362454-gillespie-david, @ DaveGUK87). Mae mesur “ymlyniad” i PrEP (h.y. y graddau y caiff y feddyginiaeth ei chymryd fel y rhagnodir) yn heriol am fod angen deall trefn person o gymryd tabled o ddydd i ddydd yn ogystal â’u risg o gyswllt â HIV. Gall y ddau beth hyn amrywio dros amser, ac felly i ddeall ymlyniad â PrEP, mae angen astudiaeth fanwl i’r defnydd o feddyginiaeth a chyswllt â risg dros amser. Yn ystod yr astudiaeth DO-PrEP (<https://www.cardiff.ac.uk/centre-for-trials-research/research/studies-andtrials/view/do-prep>, @prep_do), bydd 60 o ddefnyddwyr PrEP wedi eu recriwtio o glinigau iechyd rhywiol ar draws Cymru yn cael eu hastudio am hyd at naw mis. Bydd eu defnydd o PrEP yn cael ei astudio trwy gyfnewid caead eu poteli gyda chaead clyfar sydd yn recordio dyddiad ac amser cymryd pob tabled, a’u hymddygiad rhywiol trwy lenwi cwis rhyw wythnosol ar-lein (fydd yn cofnodi’r math o ryw y maent wedi ei gael yn yr wythnos flaenorol). Ynghyd â holiaduron yn ymwneud â’u credoau iechyd, gwybodaeth o nodiadau’r clinig iechyd rhywiol, a chyfweliadau un i un gydag is-set, bydd yr ymchwil yma’n arwain at fewnwelediad yn ymwneud â’r defnydd o PrEP, ymddygiad rhywiol, sut mae’r rhain yn esblygu dros amser, ac a yw newidiadau mewn patrymau’n cael eu rhagfynegi gan ymddygiad neu ddigwyddiadau penodol. Bydd y gwaith hwn yn arwain at ddatblygu offer cymorth i helpu unigolion sydd yn cymryd PrEP. Mae’r ail brosiect yn ysgoloriaeth ymchwil PhD wedi ei ariannu gan KESS2 o dan arweiniad Adam Williams (@ AdamDaleNewman1). Mae’r prif feini prawf risg ar gyfer darparu PrEP wedi arwain at bryderon damcaniaethol y gallai cyflwyno PrEP
arwain at gynnydd mewn STI trwy ostyngiad yn y defnydd o gondomau. Gan fod STI fel arfer yn cael eu trin gyda chyffuriau gwrthficrobaidd, mae pryderon y gallai hyn gyfrannu at y pryderon cynyddol yn ymwneud ag ymwrthedd gwrthficrobaidd (a ddiffinnir gan WHO fel “gallu micro-organeb i atal cyffur gwrthficrobaidd rhag gweithio yn ei erbyn.”) Mae AMR yn fygythiad byd-eang i iechyd y cyhoedd yr amcangyfrifir y bydd yn achosi 10 miliwn o farwolaethau erbyn 2050, ac mae llywodraethau ar draws y byd yn gweithio i fynd i’r afael â’r mater. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw dystiolaeth gadarn sydd naill ai’n gwrthbrofi nac yn cefnogi’r honiad uchod. Er bod rhywfaint o dystiolaeth bod STI ar gynnydd ymysg poblogaethau risg uchel, gellir esbonio hyn hefyd gan y cynnydd mewn profion y mae defnyddwyr PrEP yn eu cael tra’n derbyn PrEP. Gelwir hyn yn duedd gwyliadwriaeth. Mae tuedd dethol hefyd yn fater mewn ymchwil gan fod y rheiny sydd yn cael PrEP yn unigolion sydd yn cyfaddef nad ydynt yn defnyddio condomau yn aml cyn cael y cyffur. Felly, efallai nad yw eu cyfraddau o gael rhyw heb gondom a chyfraddau heintio yn cynyddu cymaint ond yn hytrach yn aros yn rheolaidd. Nod y prosiect hwn fydd deall y berthynas rhwng proffylacsis cyn gysylltiad, heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, ac ymwrthedd gwrth-ficrobaidd yng Nghymru. Bydd yn cydnabod y ffynonellau tuedd yn y data ac yn ceisio deall y darlun gwirioneddol gan ddefnyddio ymagwedd dulliau cymysg. Bwriad y prosiect hwn yw datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth yn ymwneud ag effaith PrEP a gwella ei ddefnydd. Gobeithio bydd ymwybyddiaeth ynghylch peryglon ymwrthedd gwrthficrobaidd yn gwella ac yn galluogi pobl i ymgymryd â gweithgaredd rhywiol mwy diogel.
Rhannu yn Gyfystyr â Gofalu? Pam mae’n Bwysig bod Cleifion yn Datgelu Cyflyrau Cronig Adam Jones, Uwch Swyddog Polisi, Iechyd Cyhoeddus Cymru Wrth gael diagnosis, bydd angen monitro cyflyrau cronig, fel HIV neu Hepatitis feirysol yn barhaus a chael triniaeth fel mater o drefn. Bydd cleifion yn cael eu monitro a’u trin am eu cyflwr gan arbenigwr. Fodd bynnag, cydnabyddir bod defnyddwyr y gwasanaethau hyn hefyd mewn perygl o heintiau cyffredinol a materion iechyd eraill e.e. y ffliw, llid yr ysgyfaint, clefyd cardiofasgwlaidd. Yn wir, mae defnyddwyr gwasanaethau â chyflwr cronig yn fwy tebygol o gael cymhlethdodau iechyd eraill oherwydd eu cyflwr cronig presennol. Os nad yw meddygon eraill yn ymwybodol o’r cyflwr presennol, mae perygl y gallai meddygon ragnodi meddyginiaeth a allai, yn ddiarwybod iddyn nhw, ryngweithio gyda’r feddyginiaeth y mae’r claf yn ei chymryd am eu cyflwr cronig. Os yw’r meddyg yn gwybod bod gan y claf gyflwr cronig hefyd, byddant yn gallu chwilio am driniaethau amgen. Nid sefyllfa ddamcaniaethol yw hon. Mae enghreifftiau gwirioneddol wedi bod, yma yng Nghymru, lle mae cleifion wedi bod mewn perygl o niwed anfwriadol am nad yw eu cyflwr cronig presennol wedi cael ei ddatgelu y tu hwnt i’w darparwr gofal arbenigol. Y prif nod ym mhob ymyrraeth gofal iechyd yw ‘gwneud dim niwed yn gyntaf’ – er mwyn cyflawni hyn mae angen i ni newid ymarfer yn ymwneud â rhannu gwybodaeth iechyd. Ym mis Tachwedd 2016, gofynnodd Llywodraeth Cymru i Iechyd Cyhoeddus Cymru ddechrau adolygiad o wasanaethau iechyd rhywiol yng Nghymru. Ymysg y tasgau a nodwyd yn yr Adolygiad Iechyd Rhywiol oedd angen i ystyried rhannu gwybodaeth cleifion yn unol â Rheoliadau y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Clefydau Gwenerol) 1974. Deilliodd yr angen i wneud hyn o bryderon a godwyd gyda Llywodraeth Cymru am ofal defnyddwyr y gwasanaeth oedd wedi cael diagnosis o gyflyrau cronig lle nad oedd darparwyr gwasanaethau
wedi cael eu hysbysu ynghylch cyflwr (cyflyrau) sylfaenol defnyddwyr y gwasanaeth. I fynd i’r afael â hyn, sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen i ystyried y dystiolaeth gan ddefnyddio enghreifftiau penodol lle’r oedd gofal cleifion wedi cael ei effeithio gan ddiffyg rhannu gwybodaeth. Edrychodd adroddiad terfynol [yn Saesneg yn unig] ar safbwyntiau yn ymwneud â chydbwyso cyfrinachedd â gofal cleifion, ac ystyried ffyrdd ymlaen mewn cyfres o dri opsiwn. Cyflwynwyd y gwaith hwn i Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2017. Y tri opsiwn a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru yn yr adroddiad oedd: 1. Cynnal y statws presennol 2. Diwygio/Diddymu rheoliadau presennol a’u disodli gyda rheoliadau newydd/wedi eu diweddaru 3. Cyhoeddi canllawiau newydd i egluro’r disgwyliadau O’r rhain, cytunodd yr holl randdeiliaid nad yw cynnal y statws presennol yn ymarferol. Mae gofal iechyd gormod o ddefnyddwyr gwasanaethau wedi cael ei effeithio gan y ffaith nad yw meddygon wedi cael eu hysbysu am gyflyrau cronig presennol defnyddwyr y gwasanaethau. Felly, beth sy’n digwydd nesaf? Yn lle newid deddfwriaethol posibl yn y dyfodol, fel mesur dros dro, mae’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn argymell trafodaeth well rhwng meddygon sy’n rhoi diagnosis a chleifion, gan bwysleisio pwysigrwydd y cleifion eu hunain yn datgelu eu cyflwr i weithwyr meddygol proffesiynol eraill, yn arbennig y rheiny sydd â chyfrifoldebau rhagnodi. Dylai’r clinigwyr i gyd sicrhau bod y claf: • Yn deall risg rhyngweithio rhwng y feddyginiaeth y maent yn ei chymryd ar gyfer eu cyflwr cronig a meddyginiaeth(au) eraill; • Yn deall pam mae rhannu manylion am eu cyflwr a’u triniaeth gyda meddygon eraill yn bwysig. I gadw pethau’n syml, dylai’r brif neges ym mhob achos fod fel a ganlyn: ‘Bob tro mae rhywun yn rhagnodi meddyginiaeth ar eich cyfer, neu os ydych yn prynu meddyginiaeth dros y cownter, cofiwch roi gwybod iddynt am eich cyflwr presennol.’ Os bydd Bwrdd Rhaglen Iechyd Rhywiol Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhelliad, rhagwelir y bydd mwy o wybodaeth yn cael ei dosbarthu i weithwyr iechyd proffesiynol perthnasol maes o law fel Cylchlythyr Iechyd Cymru.
#ZeroHIV
Podlediad Diweddaraf
Croeso i Dudalen Podlediad newydd PHNC o’r Efwletin. Yma gallwch wrando ar y Podlediadau sydd wedi cael eu rhyddhau. Os oes gennych ddiddordeb yn recordio podlediad gyda ni yn y dyfodol, cysylltwch â ni ar ebost: publichealth.network@wales.nhs.uk
Cliciwch i weld y Tudalennau Sain a Llun
Anableddau Dysgu: Aml-gamp Y Celfyddydau ac Iechyd: Sioe Deithiol Asesu’r Effaith ar Iechyd: WHIASU Iechyd y Galon: Sefydliad Prydeinig y Galon Maeth: Andrea Basu Iechyd Rhyngwladol: Iechyd Mudwyr Gofal Cymunedol: OP sydd yn Niwroamrywiol Dementia: Diwrnod Toiledau’r Byd Cynaliadwyedd: Sue Toner a Bronia Bendall Caru Gweithgaredd, Casau Ymarfer Corff Iechyd Rhywiol Alcohol: Yfed Doeth Heneiddio’n Dda Diogelwch yn yr Haul: Canser y Croen
Fideo Diweddaraf
Croeso i Press Play, yma gallwch gael fideos diweddaraf PHNC o youtube! Bob mis byddwn yn ychwanegu fideos newydd wrth iddynt gael eu lanlwytho. Mae gennym nifer o ddigwyddiadau wedi eu cynllunio dros y misoedd nesaf felly cadwch eich llygaid ar agor am y ffrydiau diweddaraf ar twitter neu dewch yn ôl at Gwasgu Chwarae ar ôl y digwyddiad! Mae ein fideo diweddaraf o’n Seminar Dysgu a Datblygu a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin yn gynharach eleni
Cliciwch i weld y Tudalennau Sain a Llun
Seminar LD: Simon Rose a Karen Warner Seminar LD: Sam Dredge Seminar LD: Ruth Northway Seminar LD: Karen Everleigh a Hazel Powell Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn Llunio ein Dyfodol: Cat Tully Llunio ein Dyfodol: Uchafbwyntiau Shaping our Future: Highlights Maeth y Blynyddoedd Cynnar: Uchafbwyntiau Maeth y Blynyddoedd Cynnar: Andrea Basu Maeth y Blynyddoedd Cynnar: Judith John Yn Hen ac yn Unig: Nid yw’n ddigwyddiad ynysig Heneiddio’n Dda yng Nghymru: Steve Huxton Presgripsiwn am unigrwydd: David Evans
Ar y Grawnwin Y Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru: Seremoni Ailymrwymo a Phecyn Cymorth Gweithredu’r Siarter Mae sefydliadau iechyd o bob rhan o Gymru wedi ailymrwymo i siarter bwysig gan hyrwyddo a chryfhau partneriaethau rhyngwladol. Cafodd seremoni ailymrwymo a dathlu pum mlynedd y Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru ei chynnal ar 17 Hydref 2019 fel rhan o Gynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru yng Nghasnewydd, Cymru. Yn ymuno â’r Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru roedd yr holl fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG, eu sefydliadau partner, ynghyd â’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething AC, y Prif Swyddog Meddygol Frank Atherton, a Phrif Weithredwr y GIG Dr Andrew Goodall. Rhoddodd y digwyddiad gyfle i sefydliadau’r GIG ailymrwymo eu haddewid i egwyddorion y Siarter a dathlu popeth roedd y Siarter wedi’i gyflawni. Rhoddodd gyfle hefyd i gyflwyno nifer o lofnodwyr newydd o’r GIG ehangach a’r trydydd sector, ynghyd â lansio Pecyn Cymorth Gweithredu’r Siarter. Cefndir Cafodd y Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru ei lansio’n wreiddiol ar 26 Tachwedd 2014. Cafodd ei datblygu gan y Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, ynghyd â’r byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG. Mae’r Siarter yn ymrwymiad unigryw ar gyfer y GIG cyfan, gan geisio sicrhau bod egwyddorion a gwerthoedd y GIG yn cael eu hadlewyrchu yn ein gweithgarwch iechyd rhyngwladol, gan gryfhau gwaith cyfatebol Cymru i adeiladu arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a datblygu partneriaethau cynaliadwy sy’n seiliedig ar degwch wrth fynd ar drywydd buddion cydfuddiannol, diriaethol a bywydau llewyrchus iach i bawb, o fewn a thu hwnt i ffiniau Cymru. Gwnaeth pob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru lofnodi’r Siarter yn 2014, gan addo dilyn arfer da, sicrhau llywodraethu cadarn a chyfrifoldeb sefydliadol, a datblygu partneriaethau rhyngwladol cyfatebol. Ers hynny mae llawer o gysylltiadau amrywiol a ffrwythlon wedi’u sefydlu rhwng sefydliadau GIG Cymru a’u partneriaid ledled y byd.
Mae’r cydweithio hwn wedi arwain yn y pen draw at fwy o ymwybyddiaeth ddiwylliannol, undod ac amrywiaeth, mwy o arweinyddiaeth a sgiliau iechyd, hyrwyddo dysgu, rhwydweithio ac arloesi, ac wedi ehangu rôl ac effaith Cymru ar iechyd yn rhyngwladol ac yn fyd-eang. Pecyn Cymorth Gweithredu’r Siarter Mae’r Pecyn Cymorth Gweithredu’r Siarter wedi’i ddatblygu o wersi a ddysgwyd ar hyd y ffordd, gan gasglu enghreifftiau o arfer gorau a darparu fframwaith llywodraethu cadarn i gefnogi gweithgarwch iechyd rhyngwladol. Fe’i cynlluniwyd fel ‘dogfen fyw,’ a bydd y Pecyn Cymorth yn cael ei ddiweddaru’n barhaus i gynorthwyo llofnodwyr i weithredu egwyddorion y siarter. Meddai Gill Richardson, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru wedi bod yn gweithio’n llwyddiannus gyda phartneriaid tramor ers sawl blwyddyn bellach. Mae’r Siarter wedi bod yn hynod lwyddiannus wrth gryfhau partneriaethau iechyd rhyngwladol a hyrwyddo proffil Cymru ar lwyfan y byd. “Mae ailymrwymo i’r Siarter a chreu Pecyn Cymorth Gweithredu’r Siarter yn gamau pwysig o ran sicrhau bod gwaith da yn parhau.” Gellir gweld y Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru yma https://ihcc. publichealthnetwork.cymru/files/5914/8467/3051/IHCC_Charter_for_IHP_Interactive_E.pdf, a gellir gweld Pecyn Cymorth Gweithredu’r Siarter drwy’r ddolen ganlynol https://ihcc.publichealthnetwork.cymru/ files/1015/7122/9482/Charter_for_Int_Health_Toolkit_English_.pdf
Newyddion Diweddaraf Hwb ariannol o £4m i Barciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol Cymru Mae parciau cenedlaethol Cymru a thirweddau gwerthfawr eraill ar fin cael £4m o hwb ariannol gan Lywodraeth Cymru. Bydd yr arian ychwanegol hwn ar gyfer 2019/20, sydd ar ben y rhagor na £3m y gwnaeth Llywodraeth Cymru ei neilltuo i’n Parciau Cenedlaethol ac AHNE ym mis Mawrth 2019, yn talu am welliannau allweddol. Bydd llawer o’r cynigion yn cefnogi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys mesurau datgarboneiddio a gwyrddu, gwella seilwaith twristiaeth, cyfoethogi bioamrywiaeth a rhagor o gefnogaeth ar gyfer hygyrchedd a hamddena.
Cliciwch i weld y Tudalennau Newyddion
Caerdydd Yw’r Ardal Drefol Fawr Gyntaf Yn Y Du I Fod Yn ‘Ddinas Cyflog Byw Canllawiau newydd i herio bwlio yn ysgolion Cymru Plant yn llai egnïol ym mhob blwyddyn o’r ysgol gynradd Cyllid gwerth £14.5 miliwn ar gyfer 66 o brosiectau teithio llesol Allwch chi ddawnsio eich ffordd i iechyd a llesiant gwell? Pleidlais yn y Cynulliad yn cefnogi cyflwyno isafbris uned 50c am alcohol
2
3
4
Ansawdd Iechy Cymdeithasol y
9
10
11
LGBT and Child Development
16
17
18
23
24
25
30
31
Trawsnewidiadau: Cefnogi Plant a Phobl Ifanc Trawsryweddol
Ewch i www.publichealthnetwork.cymru a
yd a Gofal yng Nghymru
5
6
Y Cyfryngau ac Iechyd Meddwl
12
13
19
20
26
27
am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau
Pynciau Atal Damweiniau ac Anafiadau
Gordewdra
Alcohol
Iechyd y Geg
Y Celfyddydau ac Iechyd
Gweithgaredd Corfforol
Hyb Iechyd Brexit
Polisi
Gamblo
Iechyd Rhywiol
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cwsg ac Iechyd
Hawliau Dynol
Ysmygu
Iechyd Rhyngwladol
Camddefnyddio Sylweddau
Iechyd Meddwl
Ymwybyddiaeth oâ&#x20AC;&#x2122;r Haul
Clefydau Anhrosglwyddadwy
Trais a Chamdriniaeth
Maeth Cymunedau
Ffordd o Fyw
Addysg
Tlodi
Environment
Diweithdra
Chylch Cymdeithasol
Gwaith
Anghydraddoldebau Iechyd
Y Blynyddoedd Cynnar
Pobl Hŷn
Mamau a’r Newydd-Anedig
Plant a Phobl Ifanc
Oedolion o Oedran Gweithio
Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid
LGBT
Gofalwyr
Fudol
Grŵpiau Ethnig
Rhieni
Grwpiau Ffydd
Pobl ag Anableddau Dysgu
Rhyw Sipsiwn Digartrefedd
Carcharorion Cyn-filwyr
Rhifyn Nesaf
D
Digartrefedd