Iechyd Yng Nghrymru A Thu Hwnt I'w Ffiniau - Awst 2016

Page 1

Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I’w Ffiniau Awst 2016

Rhifyn arbennig ar Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd a Chymru Mwy ar dudalen 4


Croeso Croeso i rifym Awst e-fwletin Ewropeaidd a rhyngwladol yr IHCC. Bydd rhifyn y mis hwn yn rhoi gwybodaeth ichi ar Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd (UE) a gweithgarwch Cymreig o fewn ac y tu hwnt i ffiniau Cymru, yn ychwanegol i gyhoeddiadau a chyfleoedd newydd. Dilynwch yr IHCC ar Twitter i weld diweddariadau rheolaidd #IHCCWales ac ar y wefan wefan IHCC.

Cynnwys Mewn Ffocws – Ewrop 2 Mewn Ffocws – Cymru 4 Cyfleoedd 6 Cylchlythyrau a Sefydliadau Rhyngwladol

16


Mewn Ffocws Ewrop

Y Refferendwm Ewropeaidd ac Iechyd Pleidleisiodd y DU i adael yr UE ar 23ain Mehefin 2016. Mae’r llywodraeth newydd ei ffurfio’n paratoi’r broses o negodi i adael yr UE, a fydd yn cychwyn ar ddiwedd 2016 yn ôl y Prif Weinidog May. Mae goblygiadau’r refferendwm yn dal yn ansicr gan eu bod yn dibynnu ar ganlyniad y trafodaethau i dynnu’n ôl gyda’r UE. Yn y tymor byr, ni ragwelir unrhyw newidiadau uniongyrchol i ddeddfwriaeth, cysylltiadau rhyngwladol na gwaith o ganlyniad i’r refferendwm hwn, gan fydd y DU, a Chymru yn ei thro, yn aros yn rhan o’r UE tan ddiwedd y trafodaethau i dynnu’n ôl.


Crynodeb o gyhoeddiadau a datganiadau allweddol: Cymru Refferendwm yr UE: Polisi a Briffio Rhyngwladol (Y Gyfarwyddiaeth Bolisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol, Iechyd y Cyhoedd Cymru) – rhagymchwiliad i’r effaith uniongyrchol (tymor byr) ar gyfer cysylltiadau Ewropeaidd a rhyngwladol a gwaith Cymru, gan dynnu ar bapurau briffio lefel uchel ym mesydd polisi ac iechyd. • • • • • •

Datganiad gan y Prif Weinidog Diweddariad gan Lywodraeth Cymru ar Gyllid yr UE Cyfarfod Llywodraeth Cymru Y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Wyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, Llywodraeth Cymru Cynulliad Cenedlaethol Cymru

UD • • • • •

Datganiadau Llywodraeth y DU Cyfres Tŷ’r Cyffredin Cyfadran Iechyd y Cyhoedd Datganiad Academi’r Gwyddorau Meddygol Sylwadau Y Gymdeithas Frenhinol

Ewrop • •

Datganiad Y Cyngor Ewropeaidd Cyd-ddatganiad gan Arlywyddion sefydliadau Ewropeaidd


Mewn Ffocws Cymru

Mae’r adran hon yn amlygu enghreifftiau diweddar o weithgarwch Cymreig y tu allan i’n ffiniau. Gallai hwn ymddangos ar ffurf cydweithrediadau, digwyddiadau a gwaith arall yn gysylltiedig â gwella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau yng Nghymru. Os ydych yn weithiwr proffesiynol neu weithiwr proffesiynol arall yng Nghymru sy’n ymwneud â gwaith rhyngwladol a’ch bod eisiau rhannu’ch gwaith, e-bostiwch international.health@wales.nhs.uk.

Gwneud Gwahaniaeth Mae adroddiad newydd gan Iechyd y Cyhoedd Cymru’n amlygu 10 maes allweddol ar gyfer gweithredu y dylai Cymru eu blaenoriaethu er mwyn gwella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau. Mae’r adroddiad ‘Gwneud Gwahaniaeth: Buddsoddi mewn Iechyd a Lles Cynaliadwy i Bobl Cymru’, yn cynnig tystiolaeth ymchwil a barn arbenigol i gefnogi’r nod o atal afiechyd a lleihau anghydraddoldebau er mwyn cyflawni economi gynaliadwy, cymdeithas ffyniannus ac iechyd a lles optimwm ar gyfer cenedlaethol presennol a’r dyfodol yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn cynnwys tair rhan: Gwneud Gwahaniaeth: Buddsoddi mewn Iechyd a Lles Cynaliadwy i Bobl Cymru – Crynodeb Gweithredol Gwneud Gwahaniaeth: Buddsoddi mewn Iechyd a Lles Cynaliadwy i Bobl Cymru – Tystiolaeth Gefnogol Wyth ffeithlun yn Canolbwyntio ar Heriau Allweddol ym Maes Iechyd i Gymru ac Atebion Awgrymedig yn Seiliedig ar Dystiolaeth Amlygwyd yr adroddiad i gynulleidfaoedd rhyngwladol ac fe’i trosglwyddwyd gan bartneriaid Iechyd y Cyhoedd Cymru gan gynnwys EuroHealthNet a Rhwydwaith Rhanbarthau er Iechyd WHO. Gallwch ddysgu rhagor am yr adroddiad hwn ar wefan Iechyd y Cyhoedd Cymru.


Cyfraniad Cymru i Iechyd Byd-eang Digwyddodd Cynhadledd Iechyd Cymru Affrica eleni yng Nghaerdydd ar 6ed Gorffennaf 2016. Daeth â phobl at ei gilydd o bob rhan o Gymru a’r DU sy’n gweithio, neu sydd â diddordeb, mewn iechyd byd-eang. Mae llawer o’r gweithwyr proffesiynol ymrwymedig ac ymroddgar hyn yn helpu i gefnogi gwelliannau ym meysydd iechyd y cyhoedd a gofal iechyd ledled Affrica. Maent yn gweithio trwy amrywiaeth o grwpiau cymunedol ac elusennau Cymreig, yn cyfrannu meintiau sylweddol o amser gwirfoddol, arbenigedd ac ymdrechion i godi arian. Dysgwch ragor ar y wefan Hub Cymru Africa.

Hyfforddiant Dinasyddiaeth Fyd-eang yn GIG Cymru Cyhoeddwyd yr erthygl hon, a ysgrifennwyd gan y tîm IHCC, gan Going International ar y cyd â’r Young Forum Gastein. Mae’n cyflwyno trosolwg o’r gwaith sy’n digwydd yng Nghymru tuag at yr agenda Dinasyddiaeth Fyd-eang. Darllenwch yr erthygl lawn ar y wefan Going International.

Gweithio Ar Draws Ffiniau i Wella Gwasanaethau ar gyfer Dyfodiaid Newydd i Gymru. Mae gan Gymru draddodiad hir o groesawu pobl o bob rhan o’r Byd i fyw a ffynnu o fewn ein cymunedau. Fodd bynnag, ar gyfer pobl sydd newydd gyrraedd yng Nghymru, mae ein system ofal iechyd yn anghyfarwydd a gall fod yn anodd ei llywio. Gall llawer o ‘Ddyfodiaid Newydd’ sy’n cyrraedd trwy’r llwybrau ceiswyr lloches neu ffoaduriaid wynebu heriau penodol oherwydd yr amgylchiadau ynghylch gadael eu gwledydd cartref, megis datguddiad i drais, amddifadedd difrifol neu fyw mewn gwersylloedd i ffoaduriaid neu oherwydd effeithiau iechyd y fath amgylchiadau e.e. absenoldeb argaeledd imiwneiddio, anhwylder straen wedi trawma.Mae Iechyd y Cyhoedd Cymru ymysg y sefydliadau lluosog sydd wedi nodi’r angen i ddarparu gwybodaeth benodol i ddyfodiaid newydd ac i’r rhai hynny sy’n darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac wedi datblygu nifer o ddogfennau i ddarparu cyfarwyddyd a gwybodaeth ar gyfer darparwyr gofal sylfaenol, byrddau iechyd a chydweithwyr mewn awdurdodau lleol sy’n cynorthwyo ynghylch disgrifio’r ddarpariaeth sydd ar gael yng Nghymru. Mae Iechyd y Cyhoedd Cymru’n ymgysylltu’n llawn â’r broses o helpu i ddatblygu a gwella gwasanaethau ar gyfer poblogaethau o ddyfodiaid newydd ac rydym wedi bod yn rhannu ein gwaith â chydweithwyr o bob rhan o’r DU ac yn dysgu o’u profiadau a’u hymagweddau arloesol. Wedi’i gydgysylltu gan Public Health England, rydym yn edrych ymlaen at ddal i weithio gyda chydweithwyr o fewn maes iechyd y cyhoedd, byrddau iechyd, awdurdodau lleol a sefydliadau’r trydydd sector i gynorthwyo dyfodiaid newydd wrth iddynt symud i mewn i’w cartrefi newydd yng Nghymru. Mae copïau o sesiynau briffio ar gael ar gais yn international.health@wales.nhs.uk. Gellir gweld gwybodaeth gyffredinol ar gyfer Cymru yn: Rhwydwaith Iechyd y Cyhoedd Cymru

Digwyddiad Dathlu Iechyd Rhyngwladol Cwm Taf Ym mis Medi bydd cydweithwyr o bob rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn dod ynghyd i rannu’r gwaith iechyd rhyngwladol ardderchog maent wedi bod yn ei wneud. Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniadau ar y prosiectau diddorol iawn hyn, yn ogystal â rhoi cyfle i rwydweithio â chydweithwyr sy’n ymwneud â gwaith iechyd rhyngwladol. Darperir lluniaeth. I gael rhagor o wybodaeth ar y digwyddiad hwn, cysylltwch â Hannah Brunskill (BILl Cwm Taf - Datblygu Sefydliadol)


Cyfleoedd

Cyllid Horizon 2020 Ymchwil ac Arloesedd DG y Comisiwn Ewropeaidd Allweddeiriau: Ymchwil, arloesedd Terfynau Amser: galwad-benodol Ewch i borth cyfranogwyr Ymchwil DG i gael rhagor o wybodaeth.


Cymrodoriaethau Teithiol Ymddiriedolaeth Goffa Winston Churchill Allweddeiriau: buddion, ymchwil, ymarfer, dinasyddion Prydeinig, 2017 Terfyn Amser: 20fed Medi 2016 Gallwch ddysgu rhagor ar wefanYmddiriedolaeth Goffa Winston Churchill.

Galwadau Agored Rhaglen Gydweithredu Iwerddon Cymru Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru Allweddeiriau: arloesedd, newid hinsawdd, opsiynau diwylliannol a naturiol, a threftadaeth a thwristiaeth. I gael rhagor o wybodaeth, ewch at y wefan WEFO.

Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd Polisi Cydlyniant Rhanbarthol yr Undeb Ewropeaidd Allweddeiriau: ymchwil, arloesedd, cyflogaeth gynaliadwy, ynni adnewyddadwy, datbygu trefol, sgiliau er twf Ewch at y wefan WEFO i gael rhagor o wybodaeth.

Cronfeydd ECHO Adran Cymorth Dyngarol a Diogelwch Sifil y Comisiwn Ewropeaidd (ECHO) Allweddeiriau: grantiau, caffael cyhoeddus, cymorth dyngarol, gwirfoddoli tramor, trydydd sector, Undeb Ewropeaidd. Ewch at wefan ECHO i gael gwybodaeth bellach.


Cyhoeddiadau Refferendwm yr UE - Brexit a pholisi mewnfudo a lloches y DU: rhestr ddarllen (Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin) - 5 mater mawr ynghylch Brexit i’r GIG (Kings Fund) - Dadansoddiad o’r effaith ar gyllid GIG a achosir gan y ffaith bod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd (Sefydliad Iechyd) - Brexit: yr effaith ar wledydd sy’n datblygu (Sefydliad Datblygu Tramor)

Feirws Zika - Paratoi am Zika yn yr UE (Canolfan Atal a Rheoli Clefydau Ewrop) - Adroddiad Sefyllfa Zika (Sefydliad Iechyd y Byd) - Ymateb Fyd-eang i’r Achos o Feirws Zika (Sefydliad Iechyd y Byd)

Effeithiau Amgylcheddol TTIP gan Partneriaeth Masnach a Buddsoddi Trawsatlantig SIA Masnach: Adroddiad Technegol Interim Drafft ECORYS, Y Comisiwn Ewropeaidd Allweddeiriau: economaidd, cymdeithasol, hawliau dynol, amgylcheddol, effaith, TTIP Dysgwch ragor ar y wefan ECORYS.

7fed Adroddiad ar yr Argyfwng Ymfudo Dau Dŷ’r Senedd Allweddeiriau: Ymfudo, ffoaduriaid, rheoli ffiniau’r UE Ewch at y wefan Seneddol i weld yr adroddiad llawn.


Datganiad Gwleidyddol y Cenhedloedd Unedig ar Roi United Nations Political Declaration on Ending AIDS 2016 Terfyn ar AIDS 2016 Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Cyd-raglen y Cenhedloedd Unedig ar HIV/AIDS (UNAIDS) Allweddeiriau: datganiad gwleidyddol, HIV, AIDS, iechyd y cyhoedd Ewch at y wefan UNAIDS i gael gwybod rhagor.

Strategaethau Sector Iechyd Byd-eang ar gyferWHO HIV, Hepatitis Feirws a Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol Sefydliad Iechyd y Byd Allweddeiriau: strategaeth, SDGs, iechyd y cyhoedd, iechyd y cyhoedd Dysgwch ragor ar y wefan WHO.

Canllawiau WHO ar Reoli Cymhlethdodau Iechyd o FGM Sefydliad Iechyd y Byd Allweddeiriau: canllawiau, FGM, polisi, protocolau Ewch at y wefan WHO i gael gwybod rhagor.

Offer ac Adnoddau Ffilmiau Iechyd Mam a Phlentyn mewn Ieithoedd Brorol Ffilmiau Cymorth Meddygol Allweddeiriau: Lleol, iaith, gweithwyr iechyd, Affrica Ewch at y wefan Ffilmiau Cymorth Meddygol i gael gwybod rhagor.

21ain Gynhadledd AIDS Rhyngwladol Ar-lein Cynhadledd AIDS Rhyngwladol Allweddeiriau: Uchafgwyntiau’r gynhadledd, dadansoddiad, HIV/AIDS Gallwch gael gwybod rhagor ar y wefan Cynhadledd AIDS Rhyngwladol 2016.


Cynadleddau a Digwyddiadau sydd Ar Ddod Symposiwm: Gwella Gofal Pobl â Chlefydau Anhrosglwyddadwy mewn Sefyllfaoedd Dyngarol MSF ac Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain ,Llundain, 2il Medi 2016 (mynychu neu weminar) Allweddeiriau: NCDs, bylchau tystiolaeth, rheoli, polisi, ymchwil Dysgwch ragor ar y wefan MSF.

Trafod Effaith Brexit: Cyllid Prifysgolion, Addysg Uwch ac Ymchwil Cyfnewidfa Polisi Cyhoeddus Llundain, 7fed Medi 2016 Allweddeiriau: Refferendwm yr UE, cyllid, ymchwil Dysgwch ragor ar y wefan Cyfnewidfa Polisi Cyhoeddus.

Cyfarfod Geinidogion Iechyd G7 G7,Kobe, Siapan, 12fed Medi 2016 Allweddeiriau: diogelu iechyd, atal, achosion, iechyd Dysgwch ragor ar y wefan G7.

Cynhadledd Flynyddol Public Health England Public Health England,Prifysgol Warwig, 13eg - 14eg Medi 2016 Allweddeiriau: Tystiolaeth yn troi’n Weithredu, ymchwil, gofal cymdeithasol, polisi, iechyd byd-eang Dysgwch ragor ar y wefan Public Health England.


Cwrdd â Bygythion a Heriau Yfory Heddiw Cyfnewidfa Polisi Cyhoeddus Llundain, 14eg Medi 2016 Allweddeiriau: diogelu iechyd, pandemigau, atal a rheoli haint Dysgwch ragor ar y wefan Public Policy Exchange website.

Sut mae Rhoi Cais Llwyddiannus am Gyllid At ei Gilydd Gwasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil, Prifysgol Caerdydd,Caerdydd, 27ain Medi 2016 Allweddeiriau: Cyllid, staff GIG, ymchwil, am ddim Dysgwch ragor ar y wefan Prifysgol Caerdydd.

Gŵyl Ffilmiau Iechyd Byd-eang Menter Ffilmiau Iechyd Byd-eang (GHFi),Llundain, 11eg -12fed Tachwedd 2016 Allweddeiriau: gweithdai, ffilmiau, iechyd byd-eang Terfyn amser ar gyfer cyflwyno: 15fed Awst 2016 Dysgwch ragor ar y wefan Film Freeway.


Cyfleoedd arbenigedd Ymgynghori Trafodaeth thematig Grŵp Poilisi ac Ymarfer a Hysbysir gan Dystiolaeth HIFA ar Ymchwil i Weithredu Gwybodaeth ynghylch Gofal Iechyd i Bawb Allweddeiriau: gwledydd incwm isel a chanolig, gwasanaethau iechyd, cyflenwi, rhwystrau, ansawdd, gweithredu Terfyn Amser: 18fed Medi 2016 I ymuno â’r drafodaeth ewch at y wefan HIFA.

Barn Ragarweiniol ar Ychwanegion a Ddefnyddir mewn Cynhyrchion Tybaco (Ychwanegion Tybaco II) Y Comisiwn Ewropeaidd Allweddeiriau: ychwanegion, tybaco, methodoleg Terfyn Amser: 22ain Medi 2016 Dysgwch ragor ar y wefan Comisiwn Ewropeaidd.

Hyfforddiant Bond – Digwyddiadau NGO Lluosog - Asesiad effaith: pa wahaniaeth wnaethom? Llundain, 20fed-21ain, Medi 2016 - Gwneud cais am a rheoli cronfeydd DFID, Llundain, 28ain Medi 2016 - Cynllunio ac ymarfer wrth fonitro, gwerthuso a dysgu, Llundain, 11eg – 12fed Hydref 2016 - Rhoi gwerth am arian mewn ymarfer, Llundain, 16eg Tachwedd 2016 - Hanfodion cyllidebu’r prosiect, Llundain, 2il Rhagfyr 2016


Arbenigedd APPG ar Ffoaduriaid - Ymchwiliad Croeso i Ffoaduriaid Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Ffoaduriaid Allweddeiriau: profiadau, lloches, adsefydlu, tystiolaeth, ymchwiliad Dysgwch ragor ar y wefan Ffoaduriaid APPG.

E-drafodaeth Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod Y Gymanwlad Allweddeiriau: FGM, gwybodaeth, tystiolaeth, dysgu ar y cyd Terfyn Amser: 19eg Awst 2016 Dysgwch ragor ar wefan Y Gymanwlad.

Gwobr 13eg Wobr Arfer Dda Gweithleoedd Iach Yr Asiantaeth Ewropeaidd er Diogelwch ac Iechyd yn y Gwaith (OSHA) Allweddeiriau: Cystadleuwyr, cynaliadwyedd, gweithlu brwdfrydig, iechyd Terfyn Amser: 7fed Hydref 2016 Dysgwch ragor ar y wefan Gweithleoedd Iach.


Cyfleoedd agored Hyfforddiant Penderfynyddion Cymdeithasol Iechyd: Beth yw eich rôl? Dysgu’r Dyfodol Allweddeiriau: Am ddim, amgylchedd, economaidd, tegwch iechyd Dysgwch ragor ar y wefan Future Learn.

Lleoli Cynllun Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol (ILO) AcademiWales Allweddeiriau: Lesotho, Wganda, arweinyddiaeth, datblygu sgiliau Terfyn Amser: Lluosog Dysgwch ragor ar y wefan AcademiWales.

Cyfnewidfa gwybodaeth Ystorfa Partneriaeth Arloesi Ewrop ar Heneiddio Egnïol ac Iach Y Comisiwn Ewropeaidd Allweddeiriau: arloesedd, atebion, gweithredu, atebion, gwybodaeth Dysgwch ragor ar y wefan Comisiwn Ewropeaidd.


Sefydliadau a Chylchlythyrau Rhyngwladol Connect Cymru Dysgwch ragor am gyfleoedd Gwaith Ieuenctid Rhyngwladol ar wefan newydd Connect Cymru.

Cynnal Cymru Cewch yr wybodaeth ddiweddaraf ar ddigwyddiadau, hyfforddiant ac ymgynghoriaeth gan Gynnal Cymru trwy ddarllen eu cylchlythyr.

Cylchlythyr Iechyd Byd-eang Wessex I ddal i gysylltu â Wessex Global Health Network a de diweddariadau rheolaidd, darllenwch rifyn diweddaraf eu cylchlythyr neu ymgofrestru ar eu gwefan.

WHO Ewrop Cadwch yn gyfredol â newyddion iechyd y cyhoedd o bob rhan o Ranbarth Ewropeaidd WHO trwy ddarllen e-fwletin diweddaraf WHO Ewrop.

Rhwydwaith Rhanbarthau er Iechyd WHO Mae’r bwletin hwn yn darparu gwybodaeth gyfredol ar y gwaith a ddatblygir gan rwydwaith RHN WHO, darllenwch y rhifyn diweddaraf ar y wefan RHN.


Panorama WHO Mae Panorama Iechyd y Cyhoedd yn darparu llwyfan i wyddonwyr ac ymarferwyr iechyd y cyhoedd i gyhoeddi gwersi a ddysgwyd o’r maes, yn ogystal â gwaith ymchwil gwreiddiol, er mwyn hwyluso’r defnydd o dystiolaeth ac arfer dda ar gyfer gweithredu ym maes iechyd y cyhoedd.

EuroHealthNet Trwy gyhoeddi ei gylchgrawn, mae EuroHealthNet yn anelu at esbonio ei brosiectau, ei amcanion a’i ddulliau gweithio. Ewch at y wefan gylchgrawn EuroHealthNet i gael gwybod rhagor.

Awdurdodau Iechyd Rhanbarthol a Lleol Ewropeaidd (EUREGHA) Mae EUREGHA yn rhwydwaith o 14 o Awdurdodau Iechyd Rhanbarthol a Lleol Ewropeaidd sy’n canolbwyntio ar iechyd y cyhoedd a gofal iechyd. Darllenwch y newyddion diweddaraf ar y wefan EUREGHA.

Y Comisiwn Ewropeaidd: Iechyd SANTE’r UE Gwelwch y cylchlythyr Iechyd SANTE’r UE ar wefan y Comisiwn Ewropeaiddam wybodaeth ar: Newyddion o’r UE, Datganiadau i’r Wasg o’r UE, Gowbr Iechyd yr UE ar gyfer NGOs, Digwyddiadau sydd Ar Ddod, Cyhoeddiadau newydd ac Adrodd o bob rhan o Ewrop.


Cymdeithas Iechyd y Cyhoedd Ewrop (EUPHA) Mae’r rhifyn diweddaraf o gylchlythyr EUPHA, ar gael ar eu gwefan, yn darparu’r diweddariadau diweddaraf ym maes Iechyd y Cyhoedd, gan ynnwys digwyddiadau sydd ar ddod, cyfleoedd a newyddion oddi wrth ei Aelodau.

Partneriaeth Arloesi Ewrop ar Heneiddio Egnïol ac Iach Darllenwch y cylchlythyr diweddaraf ar Heneiddio Egnïol ac Iach ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

Cydffederasiwn y GIG Mae cydffederasiwn y GIG yn cynnig amrywiaeth o gylchlythyrau y gellir tanysgrifo iddynt trwy gofrestru ar eu gwefan.

Cydffederasiwn y GIG Ewrop Mae e-fweltin Swyddfa Cydffederasiwn y GIG Ewrop yn rhoi gwybod ichi am bolisi, cyllid a rhannu gwybodaeth.

Horizon 2020 WEFO Wedi’i roi at ei gilydd ichi gan uned Horizon 2020 Llywodraeth Cymru, mae e-Newyddion Horizon 2020 yn grynodeb rheolaidd o wybodaeth ddefnyddiol ar gyfer y gymuned Horizon 2020 yng Nghymru; i danysgrifo e-bostiwch yblwch post Horizon 2020. Neu i gael rhagor o wybodaeth ewch at y wefan Horizon 2020 WEFO.


Cysylltu â Ni

E-bost International.health@wales.nhs.uk Ffôn 02921 841938 Swydd Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd Iechyd Cyhoeddus Cymru, Adeilad Hadyn Ellis, Heol Maindy, Caerdydd, CF24 4HQ Gwefan www.internationalhealth.nhs.uk _

Twitter @IHCCWales


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.