Iechyd Yng Nghrymru A Thu Hwnt I'w Ffiniau

Page 1

Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I’w Ffiniau Gorffennaf 2016

Ymweliad Astudio Cymru: “Ymagweddau Datblygu Cynaliadwy tuag at Iechyd a Thegwch” Mwy ar dudalen 4


Croeso Croeso i rifyn Gorffennaf o e-fwletin Ewropeaidd a rhyngwladol IHCC! Bydd y rhifyn yma’n rhoi gwybodaeth i chi am refferendwm yr UE, Ymweliad Astudio Cymru a gwaith rhyngwladol a wnaed gan ein Byrddau Iechyd a’n Hymddiriedolaethau, yn ogystal â chyhoeddiadau a chyfleoedd newydd. Dilynwch IHCC ar Twitter am ddiweddariadau rheolaidd #IHCCWales ac ar Wefan IHCC.

Cynnwys Mewn Ffocws – Ewrop 2 Mewn Ffocws – Cymru 4 Cyfleoedd 6 Cylchlythyrau a Sefydliadau Rhyngwladol

16


Mewn Ffocws Ewrop

Datganiad Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones ar Refferendwm yr UE Mynegodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones ei siom yng nghanlyniad y refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd a galwodd am undod. “Mae’r wlad wedi gwneud penderfyniad sylfaenol. Rwy’n hynod somedig gyda’r canlyniad.” “Dyma’r amser i Gymru uno a meddwl yn glir am ein dyfodol. Fy mlaenoriaeth frys i yw amddiffyn buddiannau Cymru.” Darllenwch y datganiad llawn ar wefan Llywodraeth Cymru.


Arweinwyr Ewropeaidd yn cyfarfod yn dilyn canlyniadau refferendwm y DU Yn dilyn canlyniad y refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd yn y DU, cyfarfu Penaethiaid 28 Aelod-wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel ar 29 Mehefin 2016. “Rydym ni, Penaethiaid Gwladwriaeth neu Lywodraeth 27 Aelod-wladwriaeth, yn siomedig iawn gyda chanlyniad y refferendwm yn y DU ond byddwn yn parchu’r dymuniad a fynegwyd gan fwyafrif pobl Prydain.” Dywedasant “Nes bod y DU yn gadael yr UE, mae cyfraith yr UE yn dal yn berthnasol i ac o fewn y DU, o ran hawliau a dyletswyddau.” Darllenwch y datganiad llawn ar wefan y Cyngor Ewropeaidd.

Diwrnod Ffoaduriaid y Byd – 20 Mehefin Ers 50 mlwyddiant Confensiwn 1951 yn ymwneud â Statws Ffoaduriaid ac yn dilyn penderfyniad 55/76, mae’r Cenhedloedd Unedig (CU) yn dathlu Diwrnod Ffoaduriaid y Byd ar 20 Mehefin, yr un diwrnod â Diwrnod Ffoaduriaid Affrica sy’n cael ei ddathlu gan Sefydliad Undod Affrica (OAU). Ar yr achlysur hwn, atgoffodd Ysgrifennydd Cyffredinol y CU, Ban Ki-moon, bod dros 65 miliwn o bobl yn fyd-eang wedi cael eu hadleoli trwy rym o’u cartrefi. Yn 2015, roedd 21.3 miliwn o ffoaduriaid, 3.2 miliwn o bobl yn y broses o geisio lloches, a 40.8 miliwn o bobl wedi eu hadleoli o fewn eu gwledydd eu hunain. Cynhaliwyd Diwrnod Ffoaduriaid y Byd 2016 fis ar ôl Uwchgynhadledd Ddyngarol gyntaf y Byd yn Nhwrci ar 23-24 Mai 2016.

Sefydliadau’r trydydd sector yn galw am Agenda Datblygu Cynaliadwy Ewropeaidd 2030 Mae SDG Watch Europe, cynghrair o 70 o sefydliadau yn cynnwys y Ganolfan Amgylcheddol Ewropeaidd (EEB) a Plan International, wedi ysgrifennu at Lywydd yr Undeb Ewropeaidd, Jean-Claude Juncker, yn galw arno i fabwysiadu strategaeth drosfwaol fel mater o frys i arwain y gwaith o weithredu Agenda Datblygu Cynaliadwy 2030. Gallwch ganfod mwy ar wefan Plan International.

EPHO EURO WHO bellach ar gael ar-lein Mae offeryn ar y we Rhanbarth Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd i werthuso gweithrediadau iechyd y cyhoedd hanfodol (EPHO) bellach ar gael ar-lein. Fel y fersiwn papur a ddatblygwyd yn 2014, mae’n holiadur cynhwysfawr â’r nod o gefnogi asesu 10 gwasanaeth hanfodol iechyd y cyhoedd mewn gwlad yn systematig. Gallwch ganfod mwy ar wefan Rhanbarth Ewropeaidd WHO.

Ail-lansio proffiliau gwlad WHO ar sefyllfa iechyd cenedlaethol Mae’r gyntaf mewn cyfres o gyhoeddiadau sy’n rhoi dadansoddiad manwl o’r sefyllfa iechyd mewn Aelod-wladwriaethau wedi cael ei lansio. Dros y blynyddoedd i ddod, gan gynnwys cymaint o wledydd â phosibl, bydd WHO/Ewrop yn creu proffiliau manwl o’r sefyllfa iechyd genedlaethol, yn seiliedig ar y data diweddaraf sydd ar gael. Gallwch ganfod mwy ar wefan Rhanbarth Ewropeaidd WHO.


Mewn Ffocws Cymru

Yma hoffem rannu enghreifftiau diweddar o weithgareddau, cydweithredu, digwyddiadau a gwaith arall yng Nghymru sy’n ymwneud â diogelu, gwella a hybu iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau sy’n gysylltiedig ag Ewrop a’r byd. Os ydych yn weithiwr iechyd proffesiynol neu mewn proffesiwn cysylltiedig sy’n ymwneud â gwaith rhyngwladol o’r fath ac eisiau ei rannu gyda’ch cydweithwyr. Anfonwch e-bost i international.health@wales.nhs.uk Croesewir pob cyfraniad!

Ymweliad Astudio Cymru: “Ymagweddau Datblygu Cynaliadwy tuag at Iechyd a Thegwch” Ar 27-28 Mehefin, croesawodd Cymru gynrychiolwyr o sefydliadau Ewropeaidd gwahanol sydd yn gweithio ar iechyd am Ymweliad Astudio 2 ddiwrnod ar Ymagweddau Datblygu Cynaliadwy tuag at Iechyd a Thegwch. Daeth yr ymweliad Astudio hwn, a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac wedi ei drefnu mewn cydweithrediad ag EuroHealthNet a Rhwydwaith Rhanbarthau dros Iechyd WHO (gyda chymorth gan Raglen yr UE ar gyfer Cyflogaeth ac Arloesi Cymdeithasol ac EURO WHO), â 21 o gynadleddwyr ynghyd o 16 o wledydd gwahanol. Gwahoddwyd Caroline Costongs, Rheolwr-gyfarwyddwr EuroHealthNet, i ddweud mwy wrthym am yr Ymweliad Astudio hwn. Caroline Costongs yw Rheolwr-gyfarwyddwr EuroHealthNet ac mae ganddi gefndir ym maes iechyd y cyhoedd a hybu iechyd. Ynghyd â Bwrdd Gweithredol EuroHealthNet mae’n gosod cyfeiriad Partneriaeth EuroHealthNet, yn datblygu ac yn goruchwylio gweithredu’r cynllun busnes. Mae’n gyfrifol am berfformiad staff y swyddfa a gweithgareddau yn cynnwys datblygu’r rhwydwaith, rheoli prosiectau, codi arian, datblygu polisi, eiriolaeth a chyfathrebu o fewn galluoedd a chyllidebau presennol. Mae Caroline yn cynrychioli EuroHealthNet ar Grŵp Arbenigol yr UE ar Anghydraddoldebau Iechyd a Phenderfynyddion Cymdeithasol ac mae’n cefnogi APHE (achrediad iechyd y cyhoedd) fel aelod o’r Bwrdd. Mae EuroHealthNet yn bartneriaeth ddi-elw o sefydliadau, asiantaethau a chyrff statudol sy’n gweithio i gyfrannu at Ewrop iachach trwy hybu iechyd a thegwch iechyd rhwng ac o fewn gwledydd Ewropeaidd.


Beth oedd diben yr ymweliad astudio i EuroHealthNet? Ydych chi’n teimlo bod yr amcanion hyn wedi cael eu cyflawni “Roedd diben yr ymweliad astudio yn ddeublyg. I ddechrau, roeddem eisiau hwyluso cyfnewid defnyddiol o ran dulliau effeithiol o wella iechyd a lles tra’n cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy. Roedd amryw gynadleddwyr o awdurdodau iechyd cenedlaethol a rhanbarthol ar draws Ewrop wedi nodi bod ganddynt ddiddordeb mewn atebion ymarferol y gellid eu gweithredu. Roedd y cynrychiolwyr yn awyddus i ddeall sut y gellir cymhwyso SDG ac yn dymuno cael gwybodaeth am sefyllfaoedd oedd o fudd i’r ddwy ochr a’r rhwystrau oedd yn cael eu profi. Roedd y cyfranogwyr hefyd yn awyddus i ddysgu am y cyd-destun polisi, fel Deddf newydd Cymru ar Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Ein hail amcan oedd hysbysu’r cyfranogwyr am gyd-destun yr UE, gyda ffocws ar broses Tymor yr UE fel y prif offeryn gwleidyddol ar gyfer diwygiadau i bolisïau cenedlaethol. Cafodd Colofn yr UE ar Hawliau Dynol hefyd ei chyflwyno. Mae’n fwy anodd, fodd bynnag, i gysylltu polisi lefel macro â realaeth o ddydd i ddydd llawer o’r bobl sy’n bresennol a byddai angen mwy o amser ac ymdrech i wneud i bobl ddeall “hanfodion” gwneud polisiau’r UE ar gyfer cymdeithasau cynaliadwy. Ar y cyfan, fe wnaethom fodloni amcanion yr ymweliad astudio. Cafodd pob ymweliad a chyflwyniad ar y safle dderbyniad da a chymerodd bawb ran. Rydym yn dal i gasglu’r “Cofnodion Dysgu” er mwyn dadansoddi pa negeseuon a ddysgwyd a’r hyn y gallau effaith posibl yr ymweliad astudio fod.”

Beth oedd y negeseuon a’r gwersi pwysicaf a ddysgwyd o’r ymweliad hwn?

“Daeth y negeseuon a’r gwersi mwyaf defnyddiol o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Roedd y ddeddf hon yn rhoi ffordd newydd o weithio ar draws Cymru ac yn gwthio gwasanaethau cyhoeddus lleol i feddwl a gweithio’n fwy eang, hefyd fel rhan o fyrddau gwasanaeth cyhoeddus. Nododd un swyddog ei fod yn rhoi ‘mewnwelediad newydd iddi wrth fynd trwy’r Ddeddf’. Gwelwyd egwyddor cydgynhyrchu (h.y. gweithio gyda dinasyddion fel partneriaid cyfartal), sydd yn hynod bwysig ac yn ddefnyddiol i’w weld ar waith. Mae asesiadau angen ac asesiadau lles yn cael eu gwneud er mwyn nid yn unig adnabod problemau, ond hefyd i fapio asedau a chadernid pobl. Roedd yr enghreifftiau amrywiol (h.y. bwyty’r carchar, y system credydau amser, fferm ymddiriedolaeth Amelia ar gyfer pobl ifanc agored i niwed, prosiect down to earth) yn ysbrydoli ac yn egluro sut y gallwn feddwl yn ehangach a gwneud partneriaethau newydd er mwyn creu newid cadarnhaol i fywydau llawer o bobl.”

Pam y mae ymweliad o’r fath mor bwysig i Ewrop a Chymru? Yn dilyn yr ymweliad astudio hwn, beth yw’r camau nesaf ar gyfer EuroHealthNet a Chymru?

“Mae heriau mawr yn ymwneud â sicrhau newid trawsffurfiannol gwirioneddol, sydd ei angen y dyddiau hyn yn fwy nag erioed, er mwyn cael cymdeithasau cynaliadwy. Mae’n hanfodol ein bod yn rhwydweithio gyda’r sefydliadau a’r unigolion hynny sydd yn ceisio cyfrannu at drawsnewid o’r fath ar gyfer iechyd a lles yn ogystal ag ar gyfer cynaliadwyedd cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae’r ymweliad astudio hwn wedi cyfrannu at hynny, ac mae’n ychwanegu ystod o weithgareddau, fel ein cynhadledd ddiweddaraf ar Gymdeithasau Cynaliadwy ym Mrwsel, lle rhoddodd llywodraeth Cymru gyflwyniad ar eu Deddf newydd ac ar weithgareddau i ddod yr ydym ni’n cymryd rhan ynddynt fel prosiect INHERIT (INter-sectoral Health and Environment Research for InnovaTion). Bydd EuroHealthNet yn parhau i alw ar y Comisiwn Ewropeaidd i wneud dastganiadau clir ar weithredu bob un o’r 17 Nod Datblygu Cynaliadwy ac ar y ffordd y bydd eu hoffer economaidd yn eu hystyried yn llawn. Rydym yn aros am eu strategaeth, sydd i gael ei chyhoeddi ganol mis Hydref 2017. Rydym hefyd yn parhau â’n gwaith gydag aelod-asiantaethau EuroHealthNet a phartneriaid eraill ar draws Ewrop, yn cynnwys Iech yd Cyhoeddus Cymru, i annog cyfnewid pellach a gweithredu dulliau ar gyfer cyflawni iechyd i bawb, o fewn ffiniau planedol tra’n sicrhau cynaliadwyedd cymdeithasol ac economaidd.”


Astudiaeth Achos Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol Mae rhagen ILO yn gynnig rhagorol i staff Cymraeg gymryd rhan mewn lleoliadau yn Lesotho ac Uganda. Gallwch ganfod mwy am wneud cais i’r rhaglen ILO yn adran Cyfleoedd yr e-fwletin, ac yn y cyfamser, darllenwch am brofiad Nicola Mehegans yn Lesotho, a cheir darn o’i blogiau niferus isod. Darllenwch nhw i gyd ar wefan ILO. Hedfan drwy’r awyr! gan Nicola Mehegan Wow! Nid yw fy nhraed wedi cyffwrdd â’r ddaear ers i mi lanio yn Lesotho ddydd Mawrth diwethaf! Dechreiais fy ngwaith yn gynnar dydd Mercher, diwrnod llawn o gyfarfodydd gyda Gweinyddiaeth Lesotho – Gweinidog (Anrh) Busnesau Bach, Cydweithfeydd a Marchnata, y Comisiynydd Cydweithredol a’r tîm rheoli cysylltiedig. Fe wnaethant i gyd fynegi eu diolchgarwch am fy gwaith yn eu gwlad a diolchwyd i Lywodraeth Cymru (LlC) a Chanolfan gydweithredol Cymru am drefnu’r ymweliad. Esboniwyd y mater o lefelau diweithdra uchel ymysg ieuenctid Lesotho a’r problemau cymdeithasol cysylltiedig. (Rwyf wedi gofyn am fanylion canran diweithdra ymysg ieuenctid). Maent yn teimlo mai gan y cydweithfeydd y mae’r allwedd i fynd i’r afael â diweithdra ymysg ieuenctid, wedi dweud hynny, mae llawer o gydweithfeydd yn Lesotho yn colli aelodau neu’n “marw” fel y gwnaethant esbonio ymhellach. Maent yn gweld Cymru fel arweinydd o ran meddwl yn gydweithredol ac roeddent yn awyddus iawn i ddysgu am y gwaith gwych yr oedd cydweithfeydd yn ei wneud yng Nghymru ac yn arbennig y ffordd y mae cydweithfeydd yn adfywio cymunedau. Rhoddais sawl cyflwyniad i’r perwyl hwn.

Codi proffil gwaith iechyd rhyngwladol yng Nghwm Taf Dechreuodd rhaglen Rheoli Hyfforddiant i Raddedigion mewnol cynaf erioed Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf (CTUHB) ym mis Chwefror 2016. Fel rhan o’r rhaglen, cafodd y chwe hyfforddai y dasg o asesu’r graddau yr oedd Cwm Taf yn cydymffurfio â’r Siarter Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol a chodi proffil gwaith iechyd rhyngwladol yn CTUHB. Hyd yn hyn mae’r hyfforddeion wedi: • Cyfarfod â chysylltiadau perthnasol, yn cynnwys staff sydd wedi teithio dramor neu wedi bod yn gysylltiedig â chodi arian, i ddysgu am brosiectau a gweithgaredd iechyd rhyngwladol. • Edrych ar weithdrefnau/polisïau yn ymwneud â gwaith rhyngwladol ac a oes fframwaith cyffredinol yn bodoli ar hyn o bryd i lywio prosiectau rhyngwladol yn CTUHB. • Defnyddio eu canfyddiadau i gwblhau Asesiad Cydymffurfio â’r Siarter drafft (gan ddefnyddio graddfa Coch/Ambr/Gwyrdd i gategoreiddio pob elfen o’r Siarter yn hawdd). Mae hyn yn cynnwys cynlluniau i fynd i’r afael ag unrhyw fylchau a symud ymlaen gyda’r cydymffurfio. • Cyflwyno diweddariad o gynnydd presennol i fforwm IHL mewnol Cwm Taf ac mae trafodaethau ar y gweill ar ddatblygu dogfen ganllaw ar gyfer prosiectau IHL yn y sefydliad, fyddai’n mynd i’r afael â chydymffurfio â’r Siarter. • Trefnu cyfarfodydd deuwythnosol i ddwyn y prosiect ymlaen fel grŵp. • Dylunio tudalen ar y we i godi ymwybyddiaeth o Waith Iechyd Rhyngwladol presennol ac i ennyn diddordeb yn cymryd rhan am y tro cyntaf. Dywedodd un Hyfforddai “Rydym wedi mwynhau ein cyfranogiad yn y gwaith Iechyd Rhyngwladol hyd yn hyn. Mae’n brosiect cyffrous gyda buddion clir i Gymru, gwledydd partner a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf. Edrychwn ymlaen i barhau i ddatblygu tudalennau gwe Cwm Taf a gweithio gyda’r Gweithlu ac OD i ddiweddaru polisïau i gyd-fynd â’r Siarter. Mae gennym gynlluniau hyd yn oed i drefnu Digwyddiad Dathlu’r Siarter yn yr Hydref!” Cadwch lygad am y diweddaraf am gynnydd yr Hyfforddai mewn rhifynnau o e-fwletin IHCC yn y dyfodol!


Cyfleoedd

Cyllid

Gallwch ganfod mwy am gyfleoedd am gyllid Ewropeaidd yn ein Catalog cyllid.

Rhaglen Gydweithredol Cymru Iwerddon Mae rhaglen Gydweithredol Cymru Iwerddon yn cefnogi busnesau a sefydliadau ar draws y ddwy wlad. Mae’r rhaglen hon yn gweithredu ar sail galwad agored. Mae’r gronfa’n canolbwyntio ar arloesi, newid yn yr hinsawdd, cymorth diwylliannol a naturiol, a threftadaeth a thwristiaeth. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan WEFO.

Cronfeydd ECHO Adran Cymorth Dyngarol a Diogelwch Sifil yr Undeb Ewropeaidd (ECHO) yw adran y Comisiwn sy’n gyfrifol am gymorth yr UE o fewn a thu allan i’r UE. Mae’n gweithredu trwy offer ariannol amrywiol, yn cynnwys grantiau prosiect, caffaeliad cyhoeddus a chymorth ar gyfer gwirfoddoli dramor. Ewch i wefan ECHO am fwy o wybodaeth.


Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd Mae’r cronfeydd hyn yn rhan o Bolisi Cydlyniant Rhanbarthol yr Undeb Ewropeaidd. Yn ystod 2014–2020, bydd Cymru’n elwa ar ryw £1.8bn o fuddsoddiad Cronfeydd Strwythurol Ewrop i ariannu prosiectau sy’n cwmpasu Dwyrain Cymru, Gorllewin Cymru a’r Cymoedd. Mae’r rhaglen hon yn gweithredu ar sail galwad agored ac yn cynnwys y themâu canlynol: - ymchwil ac arloesi, - natur gystadleuol mentrau bach a chanolig eu maint, - ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni, - cysylltedd a datblygu trefol - trechu tlodi trwy gyflogaeth gynaliadwy - sgiliau ar gyfer twf - cyflogaeth a chyrhaeddiad ieuenctid Ewch i wefan WEFO am fwy o wybodaeth.

Horizon 2020 O dan ei brif raglen ariannu ymchwil, Horizon 2020, mae Ymchwil ac Arloesi DG y Comisiwn Ewropeaidd wedi cyhoeddi cyfres o alwadau a gwobrau o dan y testun “heriau cymdeithasol”. Mae’r testunau a’r dyddiadau cau yn benodol i bob galwad. Ewch i borth cyfranogwr Ymchwil DG am fwy o wybodaeth.

Grant Uwch y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd Mae Grantiau Uwch y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd wedi eu dylunio i gefnogi Prif Ymchwilwyr sydd eisoes yn arweinwyr ymchwil sydd wedi eu sefydlu gydag enw da o gyflawni ym maes ymchwil. Mae’r alwad yn berthnasol i dri pharth ymchwil: y gwyddorau ffisegol a pheirianneg, Gwyddorau Bywyd, a’r Gwyddorau Cymdeithasol a’r Dyniaethau. Cyfanswm y gyllideb ar gyfer yr alwad hon yw €540m. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 1 Medi 2016. Ewch i borth cyfranogwyr Ymchwil DG am fwy o wybodaeth.

Symudedd Credyd Rhyngwladol Erasmus+ Mae Erasmus+ bellach yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr astudio ac i staff addysgu neu hyfforddi mewn sefydliadau addysg bellach (HEI) y tu hwnt i Ewrop. Mae hefyd yn darparu’r un cyfleoedd i staff a myfyrwyr o wledydd y tu hwnt i Ewrop gymryd rhan mewn HEI yn Ewrop. Gelwir hyn yn Symudedd Credyd Rhyngwladol ac mae’n weithgaredd o dan Symudedd Gweithred Allweddol 1. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 15 Medi 2016 - 11am GMT. Gallwch ddarllen mwy ar wefan Erasmus+


Ymddiriedolaeth Goffa Winston Churchill Mae’r broses o ymgeisio ar gyfer Cymrodoriaethau Teithio 2017 bellach ar agor. Mae’r Ymddiriedolaeth yn ariannu dinasyddion Prydain i ymchwilio i ymarfer arloesol mewn gwledydd eraill a dychwelyd gyda syniadau arloesol er budd pobl yn y DU. Y categorïau sy’n cael eu cynnwys yw: - - - - - -

Ymarfer Meddygol ac Addysg Nyrsio a Phroffesiynau sy’n Gysylltiedig ag Iechyd Iechyd Meddwl – Dulliau Cymunedol Mudo – Byw’n Dda Gyda’n Gilydd Ymagweddau Gwell tuag at Dai Cymdeithasol a Fforddiadwy Gwyddoniaeth, Technoleg ac Arloesi

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 20 Medi 2016 Gallwch ganfod mwy ar wefan Ymddiriedolaeth Goffa Winston Churchill.

Cronfa Ddyngarol y BMA Mae’r Gronfa wedi ei dylunio i gefnogi ac annog datblygu mentrau newydd, i helpu timau sydd yn cynnal prosiectau dyngarol. Mae’n rhaid i brosiectau roi buddion iechyd clir i’r boblogaeth leol, mae’n rhaid iddynt gynnwys o leiaf un cyflogai cyfredol y GIG a dylent gael effaith gynaliadwy. Bydd y grantiau yn cynnwys costau teithio a llety (nid offer na chyffuriau). Cyfanswm y cyllid sydd ar gael eleni yw £30,000 gydag uchafswm grant o £3,000 ar gael i bob cais. Gellir anfon unrhyw gwestiynau yn ymwneud â cheisiadau at BMA rhyngwladol. Gallwch ganfod mwy ar wefan BMA.

‘Esiamplau Technoleg Iechyd Bevan: Galwad am Geisiadau’ Mae Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â rhaglen Esiamplau Bevan Comisiwn Bevan, yn cyhoeddi galwad i staff GIG Cymru wneud cais i fod yn Esiamplau Technoleg Iechyd. Bydd y rhaglen Esiamplau Technoleg Iechyd yn darparu cyllid a chymorth i staff GIG Cymru weithio mewn partneriaeth â diwydiant i roi technoleg iechyd arloesol (nid cyffuriau) ar waith yn eu maes clinigol, gyda’r nod o wella ffyrdd GIG Cymru o weithio, datrys problemau iechyd a gwella canlyniadau iechyd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus GIG Cymru yn cael hyd at £7500 o gyllid galluogi gan Lywodraeth Cymru trwy’r gronfa Effeithlonrwydd trwy Dechnoleg ac aelodaeth o raglen Arloeswyr Bevan: Esiamplau Bevan. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 22 Awst 2016. Gallwch ganfod mwy ar wefan Hyb Gwyddorau Bywyd.


Cyhoeddiadau ac Offer Ystyron Brexit: Beth gall cymunedau meddygol a gwyddonol ei wneud i feithrin cadernid? Y Lancet (2016) Gair allweddol: Brexit, Ewrop, gweithwyr iechyd proffesiynol, gwleidyddiaeth Gallwch ganfod mwy ar wefan y Lancet.

Cyfleoedd yr Alban ar gyfer beichiogrwydd gwell, rhieni iachach a babanod sy’n ffynnu GIG Glasgow Fwyaf a Clyde (Iechyd y Cyhoedd) (2016) Geiriau allweddol: beichiogrwydd, y blynyddoedd cynnar, cynllunio teulu, yr Alban Gallwch ganfod mwy ar wefan GIG Glasgow Fwyaf a Clyde.

Briff anghydraddoldeb: Lle a chymunedau GIG Iechyd yr Alban (3 Mehefin 2016) Geiriau allweddol: anghydraddoldeb, yr amgylchedd, cymunedau polisi Gallwch ganfod mwy ar wefan GIG Iechyd yr Alban.

Pecyn Cymorth Asesu Tegwch Iechyd Sefydliad Iechyd y Byd (2016) Geiriau allweddol: anghydraddoldebau iechyd, ystadegau iechyd, meincnodi Gallwch ganfod mwy ar wefan Sefydliad Iechyd y Byd.

Dyfodiad 2015: degawd o olrhain cynnydd goroesi ymysg mamau, babanod newydd-anedig a phlant Lancet (14 Mai 2016) Geiriau allweddol: Nodau datblygu cynaliadwy, iechyd plant, iechyd mamau, monitro Gallwch ganfod mwy ar wefan y Lancet.

Iechyd yn Agenda 2030 ar gyfer Datblygu Cynaliadwy - Adroddiad gan yr Ysgrifenyddiaeth Cynulliad Iechyd y Byd (8 Ebrill 2016) Geiriau allweddol: Iechyd, Nodau datblygu cynaliadwy, Cynulliad iechyd y Byd, adroddiad Gallwch ganfod mwy ar wefan Sefydliad Iechyd y Byd.

Ystadegau Iechyd y Byd 2016: Monitro iechyd ar gyfer yr SDG Sefydliad Iechyd y Byd (2016) Geiriau allweddol: ystadegau iechyd, Nodau Datblygu Cynaliadwy, monitro, iechyd byd-eang Gallwch ganfod mwy ar wefan Sefydliad Iechyd y Byd.

Dim gweithlu iechyd, dim diogelwch iechyd byd-eang Lancet (21 Mai 2016) Geiriau allweddol: diogelwch iechyd byd-eang, gweithlu iechyd, Nodau datblygu cynaliadwy Gallwch ganfod mwy ar wefan y Lancet.


Dileu FGM: beth gall gweithwyr iechyd proffesiynol ei wneud? Y Lancet (28 Mai 2016) Geiriau allweddol: Anffurfio organau cenhedlu menywod, canllawiau, gweithwyr iechyd proffesiynol Gallwch ganfod mwy ar wefan y Lancet.

Gwerthusiad ar ôl y digywddiad o 2il Raglen Iechyd 20082013 Y Comisiwn Ewropeaidd (10 Mai 2016) Geiriau allweddol: Cyllid, Ewrop, gwerthuso, Rhaglen Iechyd Gallwch ganfod mwy ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

Safonau ansawdd a diogelwch ar gyfer gwaed, meinweoedd a chelloedd dynol Y Comisiwn Ewropeaidd (26 Ebrill 2016) Geiriau allweddol: Ewrop, safon ansawdd, safon diogelwch, rhoi gwaed, rhoi meinweoedd dynol Gallwch ganfod mwy ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

Adroddiad yr UE ar y peryglon posibl i iechyd y cyhoedd wrth ddefnyddio sigaréts electronig y gellir eu hail-lenwi Y Comisiwn Ewropeaidd (26 Ebrill 2016) Geiriau allweddol: Ewrop, iechyd y cyhoedd, e-sigarét, ataliaeth Gallwch ganfod mwy ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

Safbwynt ar Fynediad i Wasanaethau Iechyd yn yr Undeb Ewropeaidd Y Comisiwn Ewropeaidd (2016) Geiriau allweddol: panel arbenigol, mynediad i wasanaethau iechyd, Ewrop, tegwch Gallwch ganfod mwy ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

Safbwynt ar Deipoleg dywygiadau polisi iechyd a fframwaith ar gyfer gwerthuso effeithiau diwygio Y Comisiwn Ewropeaidd (2016) Geiriau allweddol: panel arbenigol, gwerthuso, polisi iechyd, diwygio, Ewrop Gallwch ganfod mwy ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

Safbwynt ar gomisiynu gan ddarparwyr preifat yn y sector iechyd Y Comisiwn Ewropeaidd (2016) Geiriau allweddol: panel arbenigol, polisi iechyd, y sector preifat, Ewrop Gallwch ganfod mwy ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.


Adlewyrchu ar ddiwygio ysbytai yn yr UE Y Comisiwn Ewropeaidd (2016) Geiriau allweddol: polisi iechyd, diwygio, ysbyty, Ewrop Gallwch ganfod mwy ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

Cronfa o arferion arloesol Partneriaeth Arloesi Ewropeaidd ar Heneiddio’n Egnïol ac yn Iach Y Comisiwn Ewropeaidd (2016) Gair allweddol: rhannu arfer da, heneiddio, polisi, Ewrop Gallwch ganfod mwy ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

Llyfrgell yr UE Swyddfa Ewropeaidd y GIG (2016) Geiriau Allweddol: Cyhoeddiadau Ewropeaidd, polisi, newyddion, ymchwil Gallwch ganfod mwy ar wefan Swyddfa Ewropeaidd y GIG.

Effaith deiet Canoldirol uchel mewn braster ar bwysau’r corff a chylchedd y canol Y Lancet (2016) Geiriau allweddol: Gordewdra, maeth, deiet Gallwch ganfod mwy ar wefan y Lancet.

Baich byd-eang strôc a ffactorau risg mewn 188 o wledydd, yn ystod 1990–2013 Y Lancet (9 Mehefin 2016) Geiriau allweddol: baich byd-eang clefydau, ffactorau risg, strôc, tuedd, fyd-eang Gallwch ganfod mwy ar wefan y Lancet.

Effeithiau cymdeithasol ac iechyd defnydd anfeddygol o ganabis Sefydliad Iechyd y Byd (2016) Geiriau allweddol: defnydd anfeddygol o ganabis, cam-drin sylweddau, polisi cyffuriau rhyngwladol, iechyd y cyhoedd Gallwch ganfod mwy ar wefan WHO.

Cwmpas Cyffredinol Iechyd: marchnadoedd, elw, a lles y cyhoedd Y Lancet (26 Mehefin 2016) Geiriau allweddol: cwmpas cyffredinol iechyd, sector preifat, gwledydd incwm isel ac incwm canolig Gallwch ganfod mwy ar wefan y Lancet.


Cynadleddau a Digwyddiadau i Ddod Dyfodol Llywodraethu: Gwneud penderfyniadau effeithiol ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol Arfer Da Cymru 14 Gorffennaf 2016, Llanrwst Geiriau allweddol: gwneud penderfyniadau, arferion da, Cymru, sgiliau, datblygu proffesiynol, gwasanaethau cyhoeddus Gallwch ganfod mwy ar wefan Arfer Da Cymru.

Cyfres Cyflwyniadau HPS – Iechyd meddwl Ymddiriedolaeth Iechyd ac Addysg Drofannol (THET) 15 Gorffennaf 2016, Webinar Ar-lein Geiriau allweddol: partneriaethau iechyd, Asia, Affrica, iechyd meddwl Gallwch ganfod mwy ar wefan THET.

11eg Cynhadledd Deuflynyddol Rhwydwaith Canolfannau Cydweithredol WHO ar gyfer Nyrsio a Bydwreigiaeth Rhanbarth Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd 27–29 Gorffennaf 2016, Glasgow, yr Alban Geiriau allweddol: nyrsio; bydwreigiaeth; Agenda 2030, arloesi, ymchwil, arferion, addysg, ymagweddau rhyngwladol Gallwch ganfod mwy ar wefan EURO WHO.

Ysgol Haf: Epidemioleg Gofodol, yr Hinsawdd ac Iechyd Mynd yn Rhyngwladol 26 - 30 Medi 2016, Bielefeld, yr Almaen Geiriau allweddol: newid yn yr hinsawdd, ystadegau, dulliau modelu, rhagolygon poblogaeth, dadansoddi Gallwch ganfod mwy ar wefan Mynd yn Rhyngwladol.


Ysgol Haf Erasmus Sefydliad Erasmus MC yr Iseldiroedd ar gyfer Gwyddorau Iechyd Yr Iseldiroedd, 10-28 Awst 2016 Geiriau allweddol: gwyddonol, ymchwil, iechyd, gwybodaeth Gallwch ganfod mwy ar wefan Erasmus.

4edd gynhadledd ryngwladol a rhyngddisgyblaethol ar Iechyd, Diwylliant a’r Corff Dynol Universitat Bremen Bremen, yr Almaen 08-09 Medi 2016 Geiriau allweddol: mudo, iechyd, trafodaeth ar y cyd Gallwch ganfod mwy ar wefan Leibniz-Institut.

Cynhadledd Flynyddol Public Health England 2016 Public Health England Warwick, 13-14 Medi 2016 Geiriau allweddol: Iechyd y Cyhoedd, Lloegr, ymchwil, gwyddoniaeth, ymyriadau iechyd Gallwch ganfod mwy ar wefan Public Health England.


Arall Ymgynghoriad Papur Cysyniad Therapïau Uwch Menter Meddyginiaethau Arloesol (IMI) Geiriau allweddol: Ewrop, cenedlaethol, mentrau, ymchwil, datblygu, Menter Meddyginiaethau Arloesol (IMI), cyllid, fferylliaeth Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau: 25 Gorffennaf 2016 Gallwch ganfod mwy ar wefan IMI.

Gwerthusiad tymor canolig o Gronfa Addasu Globaleiddio Ewropeaidd Y Comisiwn Ewropeaidd Geiriau Allweddol: gwerthuso, Ewrop, Cronfa Addasu Globaleiddio Ewropeaidd, polisi, Cyflogaeth, Materion Cymdeithasol, Ieuenctid Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno: 18 Awst 2016 Gallwch ganfod mwy ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

Adroddiad y Grŵp Cynghori ar raglen Horizon 2020 yr UE ar gyfer Iechyd, Newid Demograffig a Lles Y Comisiwn Ewropeaidd Geiriau allweddol: Horizon2020, cyllid, ymchwil, Ewrop, iechyd, popblogaeth Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno: 11 Gorffennaf 2016 Gallwch ganfod mwy ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

Hyfforddiant BOND - Cynllunio ac ymarfer mewn monitro, gwerthuso a dysgu Llundain, 11-12 Hydref 2016 Geiriau allweddol: hyfforddiant, Monitro a gwerthuso, dulliau Cofrestru yn seiliedig ar argaeledd Gallwch ganfod mwy ar wefan BOND.


Dyfarniad Dyfarniad Iechyd yr UD ar gyfer Cyrff Anllywodraethol Y Comisiwn Ewropeaidd Geiriau allweddol: Corff Anllywodraethol, Ewrop, Ymwrthedd Gwrthficrobaidd, cyllid Dyfarniad: £10,000 i 20,000 Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais: 31 Gorffennaf 2016 Gallwch ganfod mwy ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

Gwobr Cymdeithas Sifil 2016 ar Fudo Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop Geiriau allweddol: mudo, cymdeithas sifil, ymateb brys, Ewrop Dyfarniad: € 50, 000 Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais: 9 Medi 2016 Gallwch ganfod mwy ar wefan Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop.

Gwobr diwrnod genedigaeth Gwobrau Horizon Ymchwil ac Arloesi y Comisiwn Ewropeaidd Geiriau allweddol: marwolaethau mamau/ babanod newydd-anedig, newydd, diogel a dringadwy Dyfarniad: € 1 miliwn, € 500,000 Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno: 6 Medi 2017 Gallwch ganfod mwy ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

Gwobr Horizon – Defnydd gwell o Wrthfiotigau Ymchwil ac Arloesi y Comisiwn Ewropeaidd Geiriau allweddol: profion cyflym, gwrthfiotigau, ymwrthedd Dyfarniad: € 1 miliwn Dyddiad cau: 17 Awst 2016 Gallwch ganfod mwy ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

Dyfarniadau Datblygu Rhyngwladol Bond BOND Geiriau allweddol: dyngarol, datblygu, ymgyrch, cydweithredu, arloesi, tryloywder, trydydd sector Dyddiad cau: 9 Medi 2016 Gallwch ganfod mwy ar wefan BOND.

Arfer Da Gweithleoedd Iach Asiantaeth Diogelwch ac Iechyd yn y Gwaith Ewrop (OSHA) Geiriau allweddol: iechyd galwedigaethol, diogelwch, arfer da Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno: 31 Hydref 2016 Gallwch ganfod mwy ar wefan Ymgyrch Gweithleoedd Iach.


Ymgyrch #ProudOfAid BOND Geiriau allweddol: Polisi cymorth dramor y DU, twitter, datblygu rhyngwladol Gallwch ganfod mwy ar wefan BOND.

Arbenigedd Galwad am bapurau, Panorama Iechyd y Cyhoedd – Rhifyn Mehefin 2017 Sefydliad Iechyd y Byd Geiriau allweddol: yr amgylchedd, polisi, peryglon, annhegwch iechyd, cynaliadwyedd Dyddiad cau: 31 Rhagfyr 2016 Gallwch ganfod mwy ar wefan WHO Ewrop.

Lleihau anghydraddoldebau iechyd a brofir gan bobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol Traws, Rhyngrywiol (LGBTI) EuroHealthNet Geiriau allweddol: LGBT, iechyd, anghydraddoldebau, rhannu gwybodaeth/ deallusrwydd Cysylltwch â Clotilde Cattaneo ac anfonwch y manylion cyswllt perthnasol ati.


Sefydliadau a Chylchlythyrau Rhyngwladol Connect Cymru Gallwch gael gwybodaeth am gyfleoedd Gwaith Ieuenctid Rhyngwladol ar wefan newydd Connect Cymru.

Cynnal Cymru Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau, hyfforddiant ac ymgynghoriaeth gan Cynnal Cymru trwy ddarllen eu cylchlythyr.

Cylchlythyr Iechyd Byd-eang Wessex I gadw mewn cysylltiad â Rhwydwaith Iechyd Byd-eang Wessex ac i gael diweddariada rheolaidd, darllenwch y rhifyn diweddaraf o’u cylchlythyr neu ymunwch ar eu gwefan.

WHO Ewrop Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am newyddion iechyd y cyhoedd ar draws Rhanbarth Ewropeaidd WHO trwy ddarllen e-fwletin diweddaraf WHO Ewrop.

Rhwydwaith Rhanbarthau Iechyd WHO Mae’r bwletin hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy’n cael ei ddatblygu gan rwydwaith Rhanbarthau Iechyd WHO, gyda’r rhifyn diweddaraf yn cynnwys Ymweliad Astudio Cymru a chyfarfodydd perthnasol eraill.

Panorama WHO Mae Panorama Iechyd y Cyhoedd yn rhoi llwyfan i wyddonwyr ac ymarferwyr iechyd y cyhoedd ar gyfer y gwersi a ddysgwyd yn y maes hwn, yn ogystal â gwaith ymchwil gwreiddiol, i hwyluso’r defnydd o dystiolaeth ac arfer da ar gyfer gweithredu ym maes iechyd y cyhoedd.

EuroHealthNet Trwy gyhoeddi ei gylchgrawn, nod EuroHealthNet yw esbonio ei brosiectau, ei amcanion a’i ffyrdd o feddwl. Ewch i wefan cylchgrawn EuroHealthNet i ganfod mwy.

Awdurdodau Iechyd Rhanbarthol a Lleol Ewropeaidd (EUREGHA) Mae EUREGHA yn rhwydwaith o 14 o Awdurdodau Iechyd Rhanbarthol a Lleol Ewropeaidd sydd yn canolbwyntio ar iechyd y cyhoedd a gofal iechyd. Darllenwch y newyddion diweddaraf ar wefan EUREGHA.

Y Comisiwn Ewropeaidd: SANTE Health-EU Edrychwch ar gylchlythyr SANTE Health EU ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd i gael gwybodaeth am, Newyddion o’r UE, Datganiadau i’r Wasg yr UE, Dyfarniad Iechyd ar gyfer Cyrff Anllywodraethol, Digwyddiadau i ddod, cyhoeddiadau newydd ac Adrodd ar draws Ewrop.


Y Comisiwn Ewropeaidd: Asiantaeth Weithredol Defnyddwyr, Iechyd, Amaethyddiaeth a Bwyd (CHAFEA). Mae Cylchlythyr BTSF yn cael ei baratoi gan Asiantaeth Weithredol Defnyddwyr, Iechyd, Amaethyddiaeth a Bwyd (Chafea) a’i gyhoeddi chwe gwaith y flwyddyn. Gallwch ganfod mwy yma wefan CHAFEA.

Cymdeithas Ewropeaidd Iechyd y Cyhoedd Mae rhifyn diweddaraf cylchlythyr EUPHA, sydd ar gael ar eu gwefan, yn rhoi’r diweddaraf ym maes Iechyd y Cyhoedd, yn cynnwys Cynhadledd Ewropeaidd Iechyd y Cyhoedd i ddod yn 2016 a’r 6ed Gynhadledd Ewropeaidd ar Iechyd Mydwyr a Lleiafrifoedd MEMH 2016.

Partneriaeth Arloesi Ewropeaidd ar Heneiddio’n Egnïol ac yn Iach Darllenwch y cylchlythyr diweddaraf ar Heneiddio’n Egnïol ac yn Iach ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

Conffederasiwn y GIG Mae conffederasiwn y GIG yn cynnig amrywiaeth o gylchlythyrau y gellir tanysgrifio iddynt trwy gofrestru ar eu gwefan.

Conffederasiwn GIG Ewrop Mae e-fwletin Swyddfa Ewropeaidd Conffederasiwn y GIG yn rhoi gwybod i chi am bolisi, cyllid a rhannu gwybodaeth

Horizon 2020 WEFO E-Newyddion Horizon 2020 yng Nghymru (yn dod yn fuan): Diweddariad rheolaidd â ffocws ar y newyddion diweddaraf a’r testunau sy’n berthnasol i sefydliadau Cymru sydd yn gwneud cais am Horizon 2020. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan WEFO.


Cysylltu â Ni

E-bost International.health@wales.nhs.uk Ffôn 02921 841938 Swydd International Health Coordination Centre c/o Public Health Wales Hadyn Ellis Building Maindy Road Cardiff CF24 4HQ Gwefan www.internationalhealth.nhs.uk Twitter @IHCCWales


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.