Iechyd Yng Nghrymru A Thu Hwnt I'w Ffiniau - Medi 2016

Page 1

Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I’w Ffiniau Medi 2016

Diwrnod Dyngarol y Byd Mwy ar dudalen 3


Croeso Croeso i rifyn mis Medi o e-fwletin Ewropeaidd a rhyngwladol IHCC. Bydd rhifyn y mis yma yn rhoi gwybodaeth i chi am Ddiwrnod Dyngarol y Byd a gweithgaredd yng Nghymru a thu hwnt i’w ffiniau, yn ogystal â chyhoeddiadau a chyfleoedd newydd. Dilynwch IHCC ar Twitter am ddiweddariadau rheolaidd #IHCCWales ac ar wefan IHCC.

Cynnwys Mewn Ffocws – Y Tu Hwnt i Gymru

3

Mewn Ffocws – Yng Nghymru 5 Cyfleoedd 7 Cylchlythyrau a Sefydliadau Rhyngwladol

18


Mewn Ffocws Y Tu Hwnt i Gymru

Diwrnod Dyngarol y Byd: Un Ddynoliaeth Cynhelir Diwrnod Dyngarol y Byd (WHD) bob blwyddyn ar 19 Awst i alluogi pobl sydd angen cymorth dyngarol i gael mwy o gymorth ac i dalu teyrnged i’r gweithwyr cymorth sy’n darparu gwasanaethau dyngarol. Gyda 130 miliwn o bobl ar draws y byd yn dibynnu ar gymorth dyngarol i fyw, defnyddiodd asiantaethau’r CU, fel y Swyddfa Cydlynu Materion Dyngarol (OCHA) WHD 2016 eleni i lansio ymgyrch ‘Y Byd y Byddai’n Well Gennych’ i amlygu sefyllfa ffoaduriaid a phobl wedi eu dadleoli yn fewnol.


Yn WHO, roedd WHD yn gyfle i amlygu’r prif fentrau a pholisïau a ddatblygwyd gan Swyddfa Ranbarthol Ewrop (WHO EURO) i fynd i’r afael ag iechyd mudwyr a ffoaduriaid. Mae’r rhain yn cynnwys y strategaeth a’r cynllun gweithredu ar gyfer iechyd ffoaduriaid a mudwyr yn ogystal â phrosiect Agweddau Iechyd y Cyhoedd ar Fudo yn Ewrop (PHAME), sydd yn gweithio o fewn fframwaith polisi Iechyd 2020. I ganfod mwy, tanysgrifiwch i gylchlythyr PHAME. Ar lefel Ewropeaidd, mynegodd y Comisiwn Ewropeaidd ei bryderon ynghylch y sefyllfa yn Syria tra’n anrhydeddu gwaith gweithwyr dyngarol. Cyhoeddwyd y datganiad hwn gan fod ECHO wedi cyhoeddi ei gronfa ddata swyddi gwirfoddol cyntaf yn unol â rhaglen Gwirfoddolwyr Cymorth yr UE, gan roi cymorth ymarferol i brosiectau cymorth dyngarol a chyfrannu at gryfhau’r gallu a’r cadernid lleol mewn cymunedau sydd wedi eu heffeithio gan drychinebau. Ewch i wefan Full Fact i ddarllen mwy am geiswyr lloches yn y DU ac Ewrop a gwnewch gwis y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ‘Sut mae lefelau mudo yn eich ardal chi?’ cyn darllen adroddiad diweddaraf ONS ar gyfer y DU.


Mewn Ffocws Yng Nghymru

Mae’r adran hon yn amlygu enghreifftiau diweddar o weithgareddau gan Gymry y tu hwnt i’n ffiniau. Gallai hyn fod ar ffurf cydweithrediadau, digwyddiadau a gwaith arall sy’n ymwneud â gwella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau yng Nghymru. Os ydych yn weithiwr proffesiynol ym maes iechyd neu faes proffesiynol arall yng Nghymru sydd yn gwneud gwaith rhyngwladol ac eisiau rhannu eich gwaith, anfonwch e-bost international.health@wales.nhs.uk.

Prif Weinidog Cymru yn croesawu ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru Croesawodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, nifer o deuluoedd o ffoaduriaid a cheiswyr lloches i’r Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni. Diben y daith, a drefnwyd gan Oxfam Cymru gyda chymorth yr Eisteddfod Genedlaethol, oedd croesawu’r teuluoedd i Gymru a rhoi cyfle iddynt ddysgu a phrofi agweddau gwahanol ar gelfyddyd a diwylliant Cymru. Gallwch ganfod mwy ar flog Oxfam Cymru.


Gwasanaethau Mudo yng Nghymru Nod y prosiect hwn, sy’n cael ei arwain gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru mewn partneriaeth â’r Ganolfan Mudo, Polisi a Chymdeithas (COMPAS) ac Arsyllfa Mudo ym Mhrifysgol Rhydychen, yw cynyddu mynediad rhanddeiliaid i wybodaeth am fudo yng Nghymru. Mae’n rhoi briffiau, dadansoddiadau o ddata meintiol ar fudo yng Nghymru, hyfforddiant, fframweithiau strategol lleol ar fudo a llinell e-bost ar gyfer holi am wybodaeth. Ewch i wefan Gwasanaethau Mudo yng Nghymru i ganfod mwy.


Cyfleoedd

Cyllid Horizon 2020 Ymchwil ac Arloesi DG y Comisiwn Ewropeaidd Geiriau allweddol: ymchwil, arloesi Dyddiadau cau: yn benodol i alwadau Ymweld â phorth cyfranogwyr ymchwil DG am fwy o wybodaeth.


Ysgoloriaethau CFHI: Rhaglen Ddwys Y Gaeaf Iechyd Plant a Theuluoedd Rhyngwladol Geiriau allweddol: iechyd byd-eang, addysg rhyngddiwylliannol, annhegwch,hyfforddiant, lleoliad Dyddiad cau: 19 Medi 2016 Gallwch ganfod mwy ar wefan Ryngwladol Iechyd Plant a Theuluoedd.

Cymrodoriaethau Teithio Ymddiriedolaeth Goffa Winston Churchill Geiriau allweddol: buddion, ymchwil, ymarfer, dinasyddion prydeinig, 2017 Dyddiad cau: 20 Medi 2016 Gallwch ganfod mwy ar wefan Ymddiriedolaeth Goffa Winston Churchill.

Cronfa Cynhwysiant Gweithredol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru Geiriau allweddol: Cronfeydd Strwythurol Ewrop, cyllid, diweithdra, ieuenctid, hyfforddiant, Cymru Dyddiad cau: 1 Hydref 2016 Gallwch ganfod mwy ar wefan CGGC.

Erasmus +: Ceisiadau Ieuenctid Comisiwn Ewropeaidd, Cyngor Prydeinig Geiriau allweddol: symudedd ieuenctid; partneriaethau ieuenctid; deialog wedi ei strwythuro; UE; hyfforddiant; gwirfoddoli Dyddiad cau: 4 Hydref 2016 Gallwch ganfod mwy ar wefan Erasmus + y DU.


Galwadau Agored Rhaglen Gydweithredu Cymru Iwerddon Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) Geiriau allweddol: arloesi, newid yn yr hinsawdd, cymorth diwylliannol a naturiol, a threftadaeth a thwristiaeth. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan WEFO.

Cronfeydd Strwythurol A Buddsoddi Ewropeaidd Polisi Cydlyniant Rhanbarthol yr Undeb Ewropeaidd Geiriau allweddol: ymchwil, arloesi, cyflogaeth gynaliadwy, ynni adnewyddadwy, datblygu trefol, sgiliau ar gyfer twf Ewch i wefan WEFO am fwy o wybodaeth.

Cronfeydd ECHO Adran Cymorth Dyngarol ac Amddiffyniad Sifil y Comisiwn Ewropeaidd (ECHO) Geiriau allweddol: grantiau, caffaeliad cyhoeddus, cymorth dyngarol, gwirfoddoli dramor, y trydydd sector, yr Undeb Ewropeaidd. Ewch i wefan ECHO am fwy o wybodaeth.


Cyhoeddiadau Cost Y Bwlch Rhwng Y Rhywiau Yn Affrica Is-Sahara Rhaglen Ddatblygu’r Cenhedloedd Unedig Geiriau allweddol: cydraddoldeb rhwng y rhywiau, Affrica, datblygiad dynol Gallwch ganfod mwy ar wefan UNDP.

Iechyd, Mudo Ac Agenda 2030 Ar Gyfer Datblygu Sefydliad Datblygiad Tramor Geiriau allweddol: mudo, iechyd, datblygu cynaliadwy Gallwch ganfod mwy ar wefan ODI.

Buddsoddi Mewn Llythrennedd Iechyd Arsyllfa Ewropeaidd Systemau a Pholisïau Iechyd Geiriau allweddol: cyllid cyhoeddus, llythrennedd iechyd, Ewrop, addysg Gallwch ganfod mwy ar wefan Arsyllfa Ewropeaidd Systemau a Pholisïau Iechyd.


United Nations Political Declaration on Ending AIDS 2016 Arbenigwyr meddygol yn mudo yn costio

biliynau i

Cyllid Datblygol Geiriau allweddol: mudo, gweithwyr iechyd proffesiynol, Affrica, economeg Gallwch ganfod mwy ar wefan Cyllid Datblygol.

Argyfwng ffoaduriaid a mudwyr: yr ymateb Y Lancet Geiriau allweddol: mudo, ffoaduriaid, iechyd, polisi Gallwch ganfod mwy ar wefan y Lancet.

Rhoi Cychwyn Ar y Nodau Datblygu Cynaliadwy mewn Dinasoedd Rhwydwaith Atebion Datblygu Cynaliadwy; Llywodraeth yr Almaen Geiriau allweddol: nodau datblygu cynaliadwy, dinas, cynllunio, polisi Gallwch ganfod mwy ar wefan Canllaw Dinasoedd Nodau Datblygu Cynaliadwy.


Offer ac Adnoddau Podlediad Darlithoedd Boyer 2016 ABC Radio National Geiriau allweddol: Michael Marmot, penderfynyddion cymdeithasol iechyd Ewch i wefan ABC Radio National i ganfod mwy.

Cyfleoedd Cyllid Amgen Ar Gyfer Yr Ystorfa Partneriaethau Iechyd Ymddiriedolaeth Iechyd ac Addysg Drofannol Geiriau allweddol: cyllid, iechyd, partneriaeth, dyngarol, datblygiad Gallwch ganfod mwy ar wefan THET.

Cydraddoldeb Rhwng Y Rhywiau Trwy Chwaraeon Endid y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Cydraddoldeb rhwng y rhywiau a Grymuso Menywod (UN-WOMEN) Geiriau allweddol: cydraddoldeb rhwng y rhywiau, chwaraeon, ymgyrch, cwis, adnoddau, gemau olympaidd 2016 Gallwch ganfod mwy ar wefan UN-WOMEN.

Adroddiadau Synthesis Rhwydwaith Tystiolaeth Iechyd Ar-Lein Sefydliad Iechyd y Byd Euro (WHO EURO) Geiriau allweddol: tystiolaeth, adolygiad, polisi, gwneud penderfyniadau Gallwch ganfod mwy ar wefan WHO EURO.


Cynadleddau a Digwyddiadau sydd Ar Ddod 4ydd Cyfarfod Byd-Eang O Ganolbwyntiau Iechyd Ar Gyfer Atal Trais Ac Anafiadau Sefydliad Iechyd y Byd Tampere, Y Ffindir, 17 – 18 Medi 2016 Geiriau allweddol: trais, anafiadau, ataliaeth Gallwch ganfod mwy ar wefan WHO.

Uwchgynhadledd Ar Gyfer Ffoaduriaid A Mudwyr Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig Darlledwyd ar-lein, 19 Medi 2016 Geiriau allweddol: mudwyr, ffoaduriaid, cydweithredu rhyngwladol, nodau datblygu cynaliadwy, polisi Gallwch ganfod mwy ar wefan y Cenhedloedd Unedig.

5ed Cynhadledd Ryngwladol Iechyd Dinesig Iechyd Dinesig Rhyngwladol Llundain, 19 Medi 2016 Geiriau allweddol: cynllunio trefol, dinas, iechyd, polisi Gallwch ganfod mwy ar wefan Iechyd Dinesig Rhyngwladol.


Fforwm Iechyd Ewropeaidd Gastein Fforwm Rhyngwladol Gastein Gastein, Awstria 28 – 30 Medi 2016 Geiriau allweddol: polisi Iechyd ewropeaidd, cynhadledd, iechyd y cyhoedd, gofal iechyd Gallwch ganfod mwy ar wefan Fforwm Iechyd Ewropeaidd Gastein.

Diwrnod Ewropeaidd Chwaraeon Ysgol Comisiwn Ewropeaidd Lleoliadau lluosog, 30 Medi 2016 Geiriau allweddol: gweithgaredd corfforol, ysgol, Ewrop Gallwch ganfod mwy ar wefan ESSD.

Uwchgynhadledd Iechyd Y Byd Sefydliad Uwchgynhadledd Iechyd y Byd GmbH Berlin, yr Almaen 9 –11 Hydref 2016 Geiriau allweddol: mudwyr; arloesi technolegol; iechyd menywod; clefydau heintus; ymchwil drosiadol; oncoleg; nodau datblygu’r mileniwm Gallwch ganfod mwy ar wefan WHS.


Cyfleoedd arbenigedd Dysgu A Rennir Gweithredu Menter Prifysgol Sy’n Hybu Iechyd Prifysgol Louvain Geiriau allweddol: prifysgolion sy’n hybu Iechyd, hybu iechyd, prifysgol, gweithredu, profiad Gallwch ganfod mwy am Fenter Prifysgolion sy’n Hybu Iechyd ar wefan WHO a llenwi’r holiadur ar wefan UCL.

Hyfforddiant Gwneud Cais Am Gronfeydd DFID A’u Rheoli BOND Geiriau allweddol: cyllid, cais, hyfforddiant, DFID, corff anllywodraethol Gallwch ganfod mwy ar wefan BOND.

Webinar: Cyflwyniad I Gronfeydd Strwythurol A Buddsoddi Ewrop CGGC Geiriau allweddol: cyllid, UE, trydydd sector, hyfforddiant 27 Medi 2016, cofrestru erbyn 23 Medi I gofrestru, dychwelwch y ffurflen hon i dîm hyfforddiant CGGC.


Crynodeb Hawliau Dynol Ym Maes Llywodraethu Iechyd Byd-eang Llywodraethu Iechyd Byd-eang Geiriau allweddol: iechyd byd-eang, hawliau dynol, sefydliadau rhyngwladol, cyfraith ryngwladol Dyddiad cau: 1 Tachwedd 2016 Gallwch ganfod mwy ar wefan Llywodraethu Iechyd Byd-eang.

Cyfnewid gwybodaeth Partneriaeth Arloesi Ewropeaidd Ar Ystorfa Heneiddio’n Egnïol Ac Yn Iach Comisiwn Ewropeaidd Geiriau allweddol: arloesi, atebion, gweithredu, atebion, gwybodaeth Gallwch ganfod mwy ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

Bwrdd Galwad Medsin-UK Am Ymddiriedolwr Medsin-UK Geiriau allweddol: myfyriwr, tegwch iechyd, eiriolaeth, addysg, gwaith cymunedol Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 23 Medi 2016 Gallwch ganfod mwy ar wefan Medsin-UK.


Sefydliadau a Chylchlythyrau Rhyngwladol Connect Cymru Gallwch gael mwy o wybodaeth am gyfleoedd Gwaith Ieuenctid Rhyngwladol ar wefan Newydd Connect Cymru.

Cynnal Cymru Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau, hyfforddiant ac ymgynghoriaeth gan Cynnal Cymru trwy ddarllen eu cylchlythyr.

Cylchlythyr Iechyd Byd-eang Wessex I gadw mewn cysylltiad â Rhwydwaith Iechyd Byd-eang Wessex ac i gael diweddariadau rheoliad, darllenwch eu diweddariad wythnosol neu trefnwch i dderbyn eu cylchlythyr ar eu gwefan.

WHO Ewrop Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am newyddion iechyd y cyhoedd yn Rhanbarth Ewropeaidd WHO trwy danysgrifio i e-fwletin WHO Ewrop.

Rhwydwaith Rhanbarthau er Iechyd WHO Mae’r bwletin hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a ddatblygwyd gan rwydwaith Rhanbarthau Iechyd WHO, darllenwch y rhifyn diweddaraf ar wefan RHN.

Panorama WHO Mae Panorama Iechyd y Cyhoedd yn llwyfan i wyddonwyr ac ymarferwyr iechyd y cyhoedd gyhoeddi’r gwersi a ddysgwyd o’r maes hwn, yn ogystal â gwaith ymchwil gwreiddiol, i hwyluso’r defnydd o dystiolaeth ac arfer da ar gyfer gweithredu ym maes iechyd y cyhoedd.


EuroHealthNet Trwy gyhoeddi ei gylchgrawn, nod EuroHealthNet yw esbonio ei brosiectau, ei amcanion a’i ffyrdd o weithio. Ewch i wefan cylchgrawn EuroHealthNet i ganfod mwy.

Awdurdodau Iechyd Rhanbarthol a Lleol Ewropeaidd (EUREGHA) Mae EUREGHA yn rhwydwaith o 14 o Awdurdodau Iechyd Rhanbarthol a Lleol Ewrop sydd yn canolbwyntio ar iechyd y cyhoedd a gofal iechyd. Darllenwch y newyddion diweddaraf ar wefan EUREGHA.

Y Comisiwn Ewropeaidd: Iechyd SANTE’r UE Gallwch weld cylchlythyr SANTE Health EU ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd am wybodaeth am Newyddion o’r UE, Datganiadau i’r Wasg yr UE, Gwobrau Iechyd yr UE ar gyfer Cyrff Anllywodraethol, Digwyddiadau i ddod, Cyhoeddiadau newydd ac Adrodd ar draws Ewrop.

Cymdeithas Iechyd y Cyhoedd Ewrop (EUPHA) Mae rhifyn diweddaraf cylchlythyr EUPHA, sydd ar gael ar eu gwefan, yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ym maes Iechyd y Cyhoedd, yn cynnwys digwyddiadau i ddod, cyfleoedd a newyddion gan ei Aelodau.

Partneriaeth Arloesi Ewrop ar Heneiddio Egnïol ac Iach Darllenwch y cylchlythyr diweddaraf ar Heneiddio’n Egnïol ac yn Iach ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.


Cydffederasiwn y GIG Mae Conffederasiwn y GIG yn cynnig amrywiaeth o gylchlythyrau y gellir tanysgrifio iddynt trwy gofrestru ar eu gwefan.

Cydffederasiwn y GIG Ewrop Mae e-fwletin Swyddfa Ewropeaidd Conffederasiwn y GIG yn eich hysbysu am bolisi, cyllid a rhannu gwybodaeth.

Horizon 2020 WEFO Mae e-Newyddion Horizon 2020, sy’n cael ei lunio ar eich cyfer chi gan Uned Horizon 2020 Llywodraeth Cymru, yn grynhoad rheolaidd o wybodaeth ddefnyddiol ar gyfer cymuned Horizon 2020 yng Nghymru. I danysgrifio, anfonwch e-bost i flwch postio Horizon 2020. Neu i gael mwy o wybodaeth ewch i wefan WEFO Horizon 2020.


Cysylltu â Ni

E-bost International.health@wales.nhs.uk Ffôn 02921 841938 Swydd Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd Iechyd Cyhoeddus Cymru, Adeilad Hadyn Ellis, Heol Maindy, Caerdydd, CF24 4HQ Gwefan www.internationalhealth.nhs.uk _

Twitter @IHCCWales


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.