Newyddion Chwarterol gan Uned Asesu Effaith ar Iechyd Cymru Trosolwg a Diweddariad WHIASU Hydref 2015 Yn ystod 2015, mae Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) wedi datblygu’r cynnydd a wnaed dros y blynyddoedd diwethaf yn eirioli, hyfforddi a chefnogi asesu’r effaith ar iechyd (HIA) yng Nghymru. Mae hyn wedi arwain at gynnydd yn nifer y sesiynau hyfforddiant ac Asesiadau Cyflym a gynhelir a nifer gynyddol o HIA yn cael eu cwblhau, llawer ohonynt yn cael eu cyhoeddi ar wefan WHIASU. Mae’r Uned bellach wedi ei hintegreiddio’n llawn yn Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW), fel rhan o’r Gyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol ond mae ganddi gysylltiadau academaidd â Phrifysgolion Caerdydd, Bangor a Glyndŵr o hyd. Ar lefel leol, mae’r Uned yn parhau i roi cyngor, arweiniad a chefnogaeth i awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd Lleol (BILlau) a grwpiau gwirfoddol a chymunedol sydd â diddordeb yn datblygu HIA ac offer integreiddio lleol. Mae rhai awdurdodau lleol eisoes yn sefydlu asesiadau effaith, yn cynnwys HIA, ym mhrosesau a systemau’r sefydliad. Mae cyflwyno Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (FGA) 2015 yn gyfle pellach i gyrff cyhoeddus ymgorffori HIA yn eu gwaith, sydd o gymorth iddynt gyflenwi gofynion y Ddeddf. Ar lefel genedlaethol, mae WHIASU yn parhau i gysylltu â’i phartneriaid strategol yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (Cyfarwyddiaeth Cymru), Chwaraeon Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru ac mae’n arwain datblygiad sawl adnodd Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi ymarferwyr a gwneuthurwyr polisïau yn ymarferol wrth gyflenwi HIA ac ‘Iechyd ym Mhob Polisi’ yng Nghymru, ac yn benodol i gefnogi cyflwyno’r FGA. Yn rhyngwladol, mae’r Uned yn uchel ei pharch ac mae wedi rhoi cyflwyniadau mewn sawl cynhadledd genedlaethol a rhyngwladol fel Cynhadledd Cymdeithas Ryngwladol Asesu Effaith (IAIA) ym mis Ebrill 2015 a Chynhadledd Tai Cymunedol Cymru ym mis Mai 2015. Gofynnwyd hefyd i Liz Green siarad yng Nghyfarfod Technegol ‘Iechyd mewn Asesiad Amgylcheddol’ Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn Bonn ym mis Medi 2015. Ceir mwy o wybodaeth am gyflawniadau a gwaith yr Uned isod.
Diweddariad Polisi a Chanllawiau Canllaw Seilwaith GIG Cymru Mae Llywodraeth Cymru a GIG Cymru yn ddiweddar wedi cyhoeddi Canllaw Buddsoddi yn Seilwaith GIG Cymru. Mae Adran 2.5 o’r Canllaw yn datgan bod: “Llywodraeth Cymru yn cefnogi defnyddio HIA fel rhan o’r dystiolaeth i gyfiawnhau cynigion buddsoddi mewn seilwaith”.