Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru Mawrth 2017

Page 1

Mawrth 2017


Croeso i’r e-fwletin Croeso i rifyn mis Mawrth o efwletin Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae testun y mis yma’n canolbwyntio ar Ddiwrnod y Ddaear. Mae Diwrnod y Ddaear yn ddigwyddiad blynyddol, sy’n cael ei ddathlu ar 22 Ebrill, pan gynhelir digwyddiadau ar draws y byd i gefnogi diogelu’r amgylcheddol. Cafodd ei ddathlu am y tro cyntaf ym 1970, a chaiff ei gydlynu bellach gan Rwydwaith Diwrnod y Ddaear a’i ddathlu mewn dros 193 o wledydd bob blwyddyn. Yn y rhifyn hwn mae aelod o’r Grŵp Cynghori, Bronia Bendall, yn siarad â ni am eu meysydd arbenigedd fel Cynghorydd Iechyd a Lles i Gyfoeth Naturiol Cymru. Mae Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynnal sawl digwyddiad dros yr wythnosau diwethaf yn cynnwys Tecnhihealth, digwyddiad Arddangos Ymchwil yng Nghymru a Chynhadledd ACES yn fwy diweddar. Mae mwy o ddigwyddiadau i ddod fydd yn cynnwys Seminar Newid mewn Ymddygiad a gynhelir ym Mhrifysgol Bangor 4 Mai 2017 a’n digwyddiadau sioe deithiol flynyddol ledled Cymru a gynhelir trwy gydol mis Mai. Bydd mwy o fanylion ar gael ar ein gwefan maes o law a chânt eu lledaenu i holl aelodau’r Rhwydwaith. Yn olaf, os oes gennych unrhyw newyddion neu eitemau am ddigwyddiadau yr hoffech i ni eu cynnwys yn rhifyn mis nesaf, anfonwch e-bost publichealth.network@wales.nhs.uk


@PHNetworkcymru

/publichealthnetworkcymru

www.publichealthnetwork.cymru


Mae’


’r byd yn ein dwylo!

Diwrnod y Ddaear

Mae’r efwletin y mis yma’n canolbwyntio ar Ddiwrnod y Ddaear sydd yn ddigwyddiad blynyddol ar 22 Ebrill. Cynhelir y diwrnod i ddangos a hyrwyddo ymwybyddiaeth amgylcheddol ac i alw ar ein planed i gael ei hamddiffyn. Heddiw, mae Diwrnod y Ddaear yn cael ei dathlu mewn mwy na 193 o wledydd bob blwyddyn.


Diwrnod y Ddaear 2017 Yn draddodiadol, gwelir Diwrnod y Ddaear fel amser am ymdeimlad ac ymwybyddiaeth amgylcheddol. Caiff ei ddathlu fel arfer gyda pherfformiadau awyr agored, pan fydd unigolion neu grwpiau’n cyflawni gweithredoedd o wasanaeth i’r ddaear fel plannu coed, casglu sbwriel ar och y ffordd, cynnal rhaglenni ailgylchu a chadwraeth amrywiol gan ddefnyddio cynwysyddion wedi eu hailgylchu ar gyfer byrbrydau a chinio. Caiff rhai pobl eu hannog i lofnodi deisebau i lywodraethau, yn galw am wiethredu cryfach neu uniongyrchol i atal cynhesu byd-eang a gwrthdroi dinistrio amgylcheddol. Mae gorsafoedd teledu’n aml yn darlledu rhaglenni sy’n ymdrin â materion amgylcheddol. Ymgyrch Diwrnod y Ddaear 2017 yw Llythrennedd Amgylcheddol a Hinsawdd. Addysg yw syflaen cynnydd. Mae angen i ni ddatblygu dinasyddiaeth fyd-eang sydd yn rhugl yng nghysyniadau newid yn yr hinsawdd ac yn ymwybodol o’r bygythiad heb ei debyg i’n planed. Mae angen i ni rymuso pawb gyda’r wybodaeth i ysbrydoli gweithredu i amddiffyn diogelu amgylcheddol. Llythrennedd amgylcheddol a hinsawdd yw’r cyfrwng nid yn unig ar gyfer creu pleidleiswyr gwyrdd a datblygu cyfreithiau a pholisïau amgylcheddol a hinsoddol, ond hefyd i gynyddu technolegau a swyddi gwyrdd. Ar Ddiwrnod y Ddaear eleni, dewch ynghyd fel cymuned i ddysgu am Lythrennedd Amgylcheddol a Hinsoddol neu brosiect arall sy’n canolbwyntio ar addysg. Mae Rhwydwaith Diwrnod y Ddaear yn lansio pecynnau cymorth ac addysg Diwrnod y Ddaear fydd yn nodi’r camau ar gyfer cynnal digwyddiad llwyddiannus. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma http://www.earthday.org/earthday/

Troellau Hinsawdd Mae cyfathrebu’n effeithiol ynghylch newid yn yr hinsawdd yn heriol. Mae troellen hinsawdd wedi ei hanimeiddio yn ffordd wahanol o ddangos y newidiadau hanesyddol ac mae’n apelio at gynulleidfa fawr. Aeth y fersiwn gwreiddiol yn feirysol yn gyflym, gyda phobl yn gwylio miliynau o weithiau ar Facebook a Twitter. Defnyddiwyd fersiwn hyd yn oed yn y seremoni agoriadol yng Ngemau Olympaidd Rio! Mae mwy o wybodaeth ar gael yn https://www.climate-lab-book.ac.uk/spirals/

Isadeiledd Gwyrdd ar gyfer Dinasyddion Iachach

Archwiliodd gweithdy diweddar yn Jakarta, o dan arweiniad ymchwilwyr o’r Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy, yr Ysgol Ddaearyddiaeth a Chynllunio a’r Ysgol Feddygaeth, y berthynas rhwng iechyd a’r amgylchedd. Archwiliodd y gweithdy tri diwrnod, a gynhaliwyd o 16-18 Ionawr, y ffordd y mae amodau amgylcheddol wedi bod yn gadarnhaol (e.e., mannau gwyrdd fel rhandiroedd cyhoeddus, cynyddu llesiant a chadernid cymunedol) ac affeithiau negyddol (e.e. ansawdd aer gwael yn achosi salwch anadlol) ar iechyd dinasyddion, fel yr heintiau anadlol a gastroberfeddol anhydrin sydd yn effeithio’n barhaus ar boblogaethau trefol yn rhanbarth y brifddinas Indonesaidd. Ymwelodd y cyfranogwyr hefyd â chymunedau a phrosiectau lle mae cyrff anllywodraethol, staff


Universitas Indonesia, ac aelodau o’r gymuned yn cydweithio i ddarparu isadeiledd gwyrdd fel ffordd o hybu iechyd. Gan fabwysiadu ymagwedd o isadeiledd gwyrdd, mae’r mannau hyn yn gallu cyflawni swyddogaethau lluosog. Yn y cymunedau yr ymwelwyd â nhw roedd hyn yn cynnwys sefydlu ‘man diogel’ i’w defnyddio yn ystod llifogydd, a all hefyd fod yn fannau hamdden a chyfleustod, ac yn fan ar gyfer gweithgareddau corfforol. Mae’r gweithdy yn rhan o raglen waith ehangach ar iechyd a’r amgylchedd a arweinir gan yr Ysgol Ddaearyddiaeth a Chynllunio, y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy, ac Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd. Mae’r gwaith yn dod â chynllunwyr trefol, penseiri, gweithredwyr amgylcheddol, cynrychiolwyr cymunedol, ac ymchilwyr meddygol a’r gwyddorau cymdeithasol ynghyd, er mwyn deall sut mae ymddygiad dynol a’r amgylchedd naturiol ac adeiledig yn llunio iechyd dynol. Ariannwyd gweithdy Jakarta gan ESRC/IAA, a chafodd ei gynnal yn y Gyfadran Peirianneg ac Ysbyty Menywod a Phlant Harapan Kita yn y Gyfadran Feddygaeth, Universitas Indonesia. Roedd tîm Caerdydd yn cynnwys yr Athro Terry Marsden, Dr Andrew Flynn, Dr Andrea Frank, Dr David Tan a Dr Yi Gong.


Gweithredu cadarnhaol ar newid hinsawdd - rôl sector cyhoeddus Cymru Gan Dr Clive Walmsley, Cyfoeth Naturiol Cymru Gall digwyddiadau fel Diwrnod y Ddaear sydd yn ceisio dangos a hybu ymwybyddiaeth amgylcheddol helpu i ysgogi gweithredu ar newid hinsawdd. Ond dim ond rhan fach y mae digwyddiadau blynyddol o’r fath yn ei chwarae, yn cynnwys digwyddiad Awr y Ddaear, pan fydd sefydliadau ac unigolion yn cael eu hannog i ddiffodd y golau am awr, o ran galluogi symud i economi a chymdeithas carbon isel. Oherwydd graddfa’r trawsnewid sydd ei angen i fodloni gostyngiad o 80% yn allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050 (nod bresennol Cymru, y DU ac yn rhyngwladol), mae gan bob rhan o gymdeithas yn cynnwys y llywodraeth, y trydydd sector, cymunedau ac unigolion ran bwysig i’w chwarae. Dangosodd arolwg mawr o amgyffrediad y choedd o newid hinsawdd yng Nghymru a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerdydd fel rhan o fenter Consortiwm Newid Hinsawdd Cymru yn 2013 fod dros dri chwarter y bobl yng Nghymru yn cydnabod bod newid hinsawdd yn peri pryder a bod angen gweithredu yn ei gylch. Popeth yn dda hyd yma. Ond, roedd amgyffrediad clir ymysg llawer y dylai eraill fod yn bennaf gyfrifol am fynd i’r afael ag ef, yn arbennig y llywodraeth Cydnabu Comisiwn Newid Hinsawdd Cymru, wrth ddatblygu Strategaeth Newid Hinsawdd Cymru yn ôl yn 2010, fod angen goresgyn y syniad o ‘fusnes fel arfer’ sydd yn rhwystr i weithredu. Cafodd galluogi newid mewn ymddygiad ar draws cymdeithas a gweithredu gan sector cyhoeddus Cymru fel esiampl ac ysgogi gweithredu eu nodi fel llwybrau allweddol i gyflawni cynnydd. Fel y corff mwyaf a noddir gan Lywodraeth Cymru, gyda’i gylch gorchwyl i amddiffyn yr amgylchedd, mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn amlwg rôl bwysig yn dangos sut y gall y sector cyhoeddus leihau ei ôl troed amgylcheddol. Er mwyn cyflawni hyn, mae NRW, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, wedi datblygu proisect Carbon Bositif sydd yn gwerthuso statws carbon net NRW, gan roi cyfrif nid yn unig am allyriadau nwyon tŷ gwydr ar draws ystâd gyfan NRW ond hefyd y carbon yn y 7% o dir Cymru y mae NRW y ei reoli. Mae rhan o’r prosiect hwn wedi amcangyfrif faint o garbon sydd yn cael ei storio mewn llystyfiant a phridd, a faint o garbon sydd yn cael ei gadw neu ei ollwng dros amser. Bydd hyn yn ein galluogi i ystyried yn well pa newidiadau o ran rheolaeth tir y dylem eu gwneud i leihau ein hôl troed carbon cyffredinol. Mae’r prosiect hefyd wedi nodi cyfleoedd i leihau ein hallyriadau carbon ar draws swyddfeydd, fflyd ac asedau’r sefydliad (fel gorsafoedd pwmpio ac amddiffynfeydd llifogydd). Rydym bellach wrthi’n dadansoddi’r costau, yr arbedion carbon a buddion ehangach y mesurau hyn i greu rhaglen waith wedi ei chostio a’i blaenoriaethu ar gyfer NRW. Er bod llawer o’r mesurau hynny sydd wedi cael eu nodi yn gymharol amlwg fel gwella effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau, creu ynni mwy adnewyddadwy neu symud i drafnidiaeth carbon isel, mae wedi datgelu pwysigrwydd meysydd eraill y tu hwnt i reoli ynni a charbon corfforaethol arferol. Mae wedi dangos yn glir bwysigrwydd adfer corsydd mawn sydd ar hyn o bryd yn colli carbon oherwydd eu cyflwr gwael a’r angen i ystyried sut y gellid caffael y nwyddau a’r gwasanaethau y mae NRW yn eu prynu mewn ffordd sydd yn ysgogi lleihau allyriadau hefyd. Trwy rannu’r hyn yr ydym yn ei ddysgu, ein hymagwedd a’n profiad, bydd Prosiect Carbon Bositif yn helpu i ledaenu arfer gorau wrth reoli carbon ar draws sector cyhoeddus Cymru, gyda’r nod o gyflymu datgarboneiddio yng Nghymru. Er bod y sector cyhoeddus yng Nghymru ei hun ond yn gyfrifol am un y cant o gyfanswm allyriadau Cymru, mae’n gysylltiedig â chaffael tua £4 biliwn o nwyddau a gwasanaethau yn flynyddol felly mae ganddo lawer mwy o botensial i ysgogi newid o ran nwyddau a gwasanaethau carbon, ac wrth gwrs, nid yw sector iechyd y cyhoedd yn eithriad. Mae’r GIG yn gyffredinol a llawer o Ymddiriedolaethau Iechyd yn ceisio lleihau eu hallyriadau trwy wella effeithlonrwydd ynni yn bennaf i arbed arian. Ond, yn y pen draw, bydd yr allyriadau hyn yn hanfodol i gynnal iechyd y cyhoedd hefyd. Mae’r bartneriaeth Byw gyda Newid Amgylcheddol wedi creu cerdyn adroddiad Iechyd ar gyfer y DU sydd yn nodi bod tywydd eithafol yn cynnwys gwres mawr a llifogydd yn effeithio ar iechyd corfforol a meddyliol unigolion yn ogystal ag effeithiolrwydd y system iechyd a gofal cymdeithasol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Yn ogystal, rhagwelir y bydd newid hinsawdd yn gwaethygu effaith ansawdd aer ar iechyd dynol, mynychder halogi a chlefydau bwyd yn ogystal â lledaenu clefydau a gludir gan fector. Dylai’r bygythiadau hyn i iechyd dynol roi mynd i’r afael ag achos sylfaenol newid hinsawdd ar agenda iechyd y cyhoedd. Er bod gan y sector cyhoeddus nifer o flaenoriaethau cystadleuol a therfynau cyllideb caeth, mae’n dal


yn wir y dylai helpu i leihau allyriadau er mwyn mynd i’r afael â newid hinswadd fod yn rhywbeth y dylai pob gwasanaeth a sefydliad cyhoeddus fod yn cyfrannu tuag ato, yn cynnwys sector iechyd y cyhoedd. Mae mwy o fanylion am brosiect Carbon Bositif NRW ar gael yn: https://naturalresources.wales/climate-change/carbon-positive-project/?lang=cy Mae cerdyn adroddiad Byw Gyda Newid Hinsawdd ar gael yn: http://www.nerc.ac.uk/research/partnerships/ride/lwec/report-cards/health/

Mae ein hamgylchedd yn newid, mae angen i ni gymryd sylw Mae Cymru wedi cyflwyno deddfwriaeth arloesol sydd yn gwneud datblygu cynaliadwy yn ganolog i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a gyflwynwyd yn 2015 yn nodi saith nod llesiant i greu Cymru y carem fyw ynddi, nawr ac yn y dyfodol. Mae’n gofyn bod cyrff cyhoeddus Cymru, waeth beth yw eu cyfrifoldebau penodol, yn cyflawni datblygu cynaliadwy (DC), ac mae’n galw am ffyrdd newydd o weithio er mwyn i sefydliadau allu dangos eu bod wedi cymhwyso’r egwyddor DC hon: mae’r rhain yn cynnwys cynllunio ar gyfer yr hirdymor ac mewn ffordd integredig, tra’n gweithredu’n ataliol, cydweithredu gydag eraill a chynnwys y bobl sy’n defnyddio ein gwasanethau a’r staff sy’n eu cyflenwi.

Mae’r nod llesiant ar gyfer ‘Cymru lewyrchus’ yn cynnwys Cymru gyda chymdeithas carbon isel, ac sy’n gweithredu ar newid hinsawdd. Newid hinsawdd yw un o’r bygythiadau byd-eang mwyaf difrifol y mae’r byd yn ei wynebu; bydd cynnydd mewn tymheredd, lefelau’r môr yn codi a phatrymau glaw wedi eu haddasu yn newid y peryglon sy’n ymwneud â’r hinsawd i bobl a’n hamgylchedd adeiledig (gweler ffigur 1). Ffigur 1: Enghreifftiau o beryglon yn ymwneud â newid hinsawdd: • Mwy o lifogydd • Mwy o farwolaethau’n ymwneud â gwres • Mwy o ‘ddigwyddiadau’ tywydd eithafol • Cynnydd posibl mewn plâu, yn cynnwys trogod, morgrug a phryfed tŷ Amlygodd Crynodeb o Asesiad Risg Newid Hinsawdd y DU ar gyfer Cymru fod angen ymchwil ar frys i asesu’r angen am weithredu ar draws nifer o feysydd mewn ymateb i newid hinsawdd. Mae’r newidiadau hyn yn cynnwys gwres a llifogydd; peryglon i hyfywedd cymunedau arfordirol yn sgil cynnydd yn lefel y môr; perygl i adeiladau a threftadaeth ddiwylliannol yn sgil tywydd eithafol; a


pheryglon i iechyd yn sgil newid yn ansawdd aer a chlefydau cludwyr.

UK Climate 2017 Change Risk Assessment

How climate change affects people and communities The health and wellbeing of the UK population will be affected by climate change. Flooding and heat are the biggest risks, with an increase in pests and diseases also possible. Action is required to deal with these risks, and to seize the opportunities.

Committee on Climate Change

OUR WELLBEING INCLUDES…

ADAPT TO CLIMATE CHANGE AND IMPROVE WELLBEING BY…

ies

• using sustainable urban drainage (SuDS)

• making temperatures in homes comfortable in winter and summer

Bu ild g in

lt h c Hea cial so

iro nm ent

These all contribute to our wellbeing

s

Com m

• increasing urban green space

it un

a ar n d e

v l en Loca

INSTEAD OF… • limited green space • overloaded drainage • overheating homes

• cold and damp homes

KEY RISKS TO PEOPLE AND COMMUNITIES

Current

FLOODING

2050s

1.8 million people in the UK are living in areas at significant risk of flooding.

250%

OVERHEATING

PESTS AND DISEASES

The number of people at risk is projected to rise to 2.6 million in a 2ºC global warming scenario.

There are currently 2000 heat-related deaths per year in the UK.

Heat-related deaths could reach 5000 per year by the 2050s, and even more if population growth is taken into account.

People in the UK are already exposed to food and water-borne diseases such as campylobacter, and to diseases carried by some organisms, such as lyme disease.

The number of pests in the UK, such as ticks, ants and house flies, may increase due to climate change.

Existing diseases like lyme disease could increase, and new diseases could be transmitted to the UK.

www.theccc.org.uk/uk-climate-change-risk-assessment-2017

Ymrwymiad Cymru i fynd i’r afael â newid hinsawdd Mewn economi carbon isel sydd yn newid, mae Cymru wedi cryfhau ei fframwaith deddfwriaethol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, trwy Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae’r Ddeddf yn nodi targed cyfreithiol o leihau allyriadau o isafswm o 80% erbyn 2050. Er mwyn sicrhau bod cynnydd rheolaidd yn cael ei wneud tuag at y targed hirdymor hwn, mae angen system o gyllidebau carbon 5 mlynedd a thargedau interim. Mae Strategaeth Newid Hinsawdd Cymru Llywodraeth Cymru yn cydnabod y ffordd y bydd camau pobl, cymunedau a sefydliadau ledled Cymru yn helpu i gyrraedd y targed hwm.

Wales’ commitment to tackling climate change

2

Transitioning to a low carbon economy The Paris Agreement saw 195 countries agree to limit climate change to well below

2 °c

and aim to limit the change to

Carbon Budget

The Act sets a legal target of reducing emissions by a minimum of

Wales has strengthened its legislative framework to reduce greenhouse gas emissions through The Environment (Wales) Act 2016.

80%

by 2050

1.5 ° c

Interim emission targets will be set for 2020, 2030 and 2040 and will be introduced by the end of 2018.

Targets

#GweithreduHinsawddCymru #ClimateActionWales

2020

Interim target

2016–20

2021–25

The first carbon budget is 2016–20 and subsequent budgets will run until 2050.

The first two carbon budgets for 2016–20 and 2021–25 will be set before the end of 2018.

CO2

2030

2031–35

Interim target

2036–40

2041–46

The remaining budgets will be set at least 5 years before the start of their respective budget period.

2050

2040

Interim target

2026–30

The Act requires a system of 5 yearly carbon budgets and interim targets; these serve as stepping stones and ensure that regular progress is made towards this long-term target.

2046–50

Carbon budgets provide long term economic predictability to encourage investment and act as a stimulus for green growth. All sectors across Wales have roles to play in reducing emissions and transitioning to a low carbon economy. Transitioning to a low carbon society is vital to improve the social, economic, environmental and cultural well-being of Wales and meet international obligations.

80% emission reduction

A globally responsible Wales

A prosperous Wales

A Wales of vibrant culture and thriving Welsh Language

A resilient Wales

A Wales of cohesive communities

A healthier Wales A more equal Wales

Welsh Ministers are responsible for reporting progress against their portfolios.

WG29518 © Crown copyright 2016


Beth allwn ni ei wneud i helpu fel unigolion? Un o’r ffyrdd y gallwn weithio’n ymarferol i greu Cymru fwy cynaliadwy yw lleihau ein haffaith ni ar yr amgylchedd. Mae llygredd aer bellach yn cael ei gydnabod fel y perygl amgylcheddol unigol mwyaf i iechyd yn fyd-eang. Nid oes gan lawer o lygrwyr aer drothwy crynodiad ‘diogel’, a gellir lleihau’r cyswllt. Dau o’r prif lygrwyr y mae’n hysbys eu bod yn niweidio iechyd yw nitrogen deuocsid a mater gronynnol, gyda thraffig yn cyfrannu at gynnydd yn y ddau. Mae meddwl am y ffordd yr ydym yn teithio, yn cynnwys dewis cerdded a beicio, a’r ynni yr ydym yn ei ddefnyddio yn ein cartrefi yn elfen bwysig i leihau newid hinsawdd, er mwyn gwella llesiant amgylcheddol Cymru ar gyfer cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol. Am fwy o wybodaeth, ac i rannu eich syniadau am y ffordd y gallwn feddwl a gweithredu’n wahanol i amddiffyn a gwella ein hamgylchedd, anfonwch e-bost: publichealth.sustainability@wales.nhs.uk Darllen pellach: Pwllgor Newid Hinsawdd: Pobl a’r Amgylchedd Adeiledig, www.theccc.org.uk/uk-climate-changerisk-assessment-2017/ccra-chapters/people-and-the-built-environment/ Adroddiad Tystiolaeth Asesiad Risg Newid Hinsawdd y DU 2017: Crynodeb ar gyfer Cymru Mae’r crynodeb cenedlaethol hwn yn cyflwyno’r dystiolaeth sydd yn benodol i Gymru sydd wedi ei chynnwys yn Adroddiad Tystiolaeth Asesiad Risg Newid Hinsawdd y DU (CCRA2) www.theccc.org. uk/wp-content/uploads/2016/07/UK-CCRA-2017-Wales-National-Summary.pdf ‘Yr Handfodion’ - Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, http://gov.wales/topics/people-and-communities/people/future-generations-act Strategaeth Newid Hinsawdd i Gymru, http://gov.wales/topics/environmentcountryside/climatechange/emissions/climate-change-strategy-for-wales


On The Spot Fis yma, rydym yn holi Bronia Bendall sydd yn aelod o Grŵp Cynghori Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae Bronia yn Gynghorydd Iechyd a Llesiant i Gyfoeth Naturiol Cymru.

Beth yw eich maes arbenigol?

Rwyf wedi gweithio y maes hybu iechyd a llesiant ers bron 20 mlynedd. Dechreuais fel hyfforddwr ffitrwydd mewn Gwasanaethau Hamdden yn gweithio gyda phobl ar bob lefel gallu - gyda’r rheiny oedd yn cael eu hatgyfeirio i wneud ymarfer corff yn fhoi’r boddhad mwyaf - y cyfnod hwnnw yn gweithio gyda phobl ysbrydoledig yn newid eu galluoedd corfforol a gwella eu hiechyd meddwl trwy weithgaredd corfforol oedd un o gyfnodau mwyaf gwerthfawr fy ngyrfa ac mae wedi bod yn sylfaen i’m gwaith byth ers hynny. Gan fod fy ngyrfa wedi datblygu rwyf bellach yn arbenigo ym maes polisi cynllunio a gwella iechyd yn canolnbwyntio’n bennaf ar weithgaredd corfforol, gordewdra, iechyd meddwl a buddion lluosog ein hisadeiledd gwyrdd. Rwyf yn angerddol am yr awyr agored a phan ddaeth cyfle yn ystod haf 2015 i wneud cais am swydd Cynghorydd Iechyd a Llesiant Cyfoeth Naturiol Cymru, achubais ar y cyfle. Rwyf bellach yn gweithio gyda chydweithwyr mewnol i ddatblygu a hybu buddion lluosog ein hamgylchedd a’r cyfraniad y mae’n ei wneud i iechyd a llesiant.

Pam wnaethoch chi ymuno â Grŵp Cynghori PHNC?

Mae PHNC yn gyfle gwych i weithio ar draws sectorau; rhannu gwybodaeth a dysg; a datblygu ymagweddau cydgysylltiedig, cydweithredol gyda phartneriaid. Mae bod ar y Grŵp Cynghori yn gyfle pellach i helpu i arwain y Rhwydwaith fel ei fod yn ystyried y sectorau niferus sydd yn dylanwadu ar ein hiechyd a’n llesiant. Mae bod yn Gynhorydd Iechyd a Llesiant Cyfoeth Naturiol Cymru a bod yn rhan o’r Grŵp Cynghori hyn yn gyfle gwych i mi amlygu buddion lluosog ein hadnoddau naturiol i lesiant pobl.

Mae’r e-fwletin y mis yma yn pwysleisio Diwrnod y Ddaear sydd yn canolbwyntio ar Lythrennedd yr Amglychedd a’r Hinsawdd. Beth yn eich barn chi yw’r prif heriau yr ydym yn eu hwynebu yn mynd i’r afael â’r maes hwn?

Mae’n bosibl bod heriau lluosog yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd ar y gorwel yn sgil effeithiau newid hinsawdd, e.e. gwres a gwres mawr; gaeafau mwynach; llifogydd; effeithiau digwyddiadau eithafol ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol; ansawdd aer awyr agored; paill ac alergenau eraill; clefydau a gludir mewn bwyd a halogiad bwyd; heintiau sy’n dod i’r amlwg. Dylai’r bygythiadau hyn i iechyd dynol arwain at bawb yn rhoi mynd i’r afael ag achos craidd newid hinsawdd ar yr agenda.


Er bod tri chwarter y bobl yng Nghymru yn cydnabod newid hinsawdd fel mater sy’n peri pryder, mae llawer yn credu mai cyfrifoldeb rhywun arall ydyw, yn arbennig, y llywodraeth. Fodd bynnag, er mwyn bodloni gostyngiad o 80% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050, mae’n rhaid i bob rhan o gymdeithas chwarae eu rhan - mae angen newid pellach mewn ymddygiad ar draws cymdeithas ynghyd â gweithredu gan sector cyhoeddus Cymru er mwyn gweithredu fel esiampl. Mae’n rhaid i ni gyd leihau allyriadau, p’un ai yn y gweithle, yn y cartref ac yn ein dewisiadau ni yn ymwneud â ffordd o fyw.

Pa awgrymiadau y byddech chi’n eu rhoi i’n haelodau i hybu neu gymryd rhan yn Niwrnod y Ddaear?

Mae Newid Hinsawdd yn mynd y tu hwnt i Ddiwrnod y Ddaear, felly fy awgrymiadau i yw hybu a gwneud y newidiadau hyn o ddydd i ddydd gymaint â phosibl. Synnwyr cyffredin yw llawer ohonynt, ond weithiau rydym yn anghofio eu gweithredu mor aml ag y gallwn: Lleihau eich allyriadau wrth yrru, e.e.: Cerdded neu feicio lle y bo’n bosibl, neu rannu car neu drafnidiaeth gyhoeddus; gyrru cerbyd carbon isel fel hybrid; cyfuno negeseuon er mwyn gwneud llai o deithiau; ystyried defyddio Skype ar gyfer cyfarfodydd gwaith yn hytrach na theithio pellterau. Lleihau teithiau awyren, e.e.: Osgoi hedfan yn gyson a hedfan gyda thocyn economi (mae hyn fel rhannu car am fod yr allyriadau’n cael eu lledaenu ar draws mwy o bobl) Lleihau defnydd o ynni yn y cartref, e.e.: Insiwleiddio eich cartref i leihau’r ynni sy’n cael ei golli, prynu offer ynni effeithlon, diffodd y golau a defnyddio bylbiau ynni effeithlon, peidio gosod y thermostat yn rhy uchel, archwilio’r defnydd o baneli solar. Lleihau eich ôl troed carbon o’r bwyd yr ydych yn ei fwyta, e.e.: Bwyta bwydydd tymhorol, wedi eu cynhyrchu’n lleol (mae cludo bwyd yn creu allyriadau enfawr), lleihau faint o gig a chynnyrch llaeth yr ydych yn eu bwyta - unwaith eto, prynwch mor lleol â phosibl. Mwy o ffyrdd o leihau eich ôl troed carbon, e.e.: • Dylanwadu ar eich gweithle i ystyried cynlluniau Carbon Cadarnhaol i leihau eu hôl troed carbon; • Gwneud deisiadau effeithlon o ran dŵr wrth brynu tapiau, toiledu, peiriannau golchi ac ati. • Lleihau’r defnydd o ddŵr yn y cartref a’r ardd - peidio gadael y tap i redeg wrth lanhau dannedd, prynu planhigionsy’n briodol i’r hinsawdd, dyfrïo planhigion gyda’r nos pan fo angen, casglu dŵr glaw yn hytrach na defnyddio’r cyflenwad dŵr, ac ati. • Lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu! • Cefnogi ffynonellau ynni glân - eirioli dewisiadau amgen, glân i danwydd ffosil, fel ynni gwynt, solar, geothermol, a phrosiectau ynni hydrodrydanol a biomas.

Pe byddech yn cael 3 dymuniad beth fydden nhw?

Wel, am fod hyn yn ymwneud a gwaith, byddent fel a ganlyn: 1. Cynyddu isadeiledd gwyrdd yn ein dinasoedd - mae 80% o’n poblogaeth yn byw mewn ardaloedd trefol ac mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn cynyddu isadeiledd gwyrdd (nid ychwanegu at lwyd) a chael y buddion lluosog sydd iddynt - newid hinsaedd, iechyd economi, cymuned, creu lleoedd, ac ati. 2. Newid ar raddfa fawr yn ymwneud â chyfraniad pawb at yr agenda newid hinsawdd - mae gennym i gyd ran i’w chwarae - y llywodraeth, y sector cyhoeddus, busnes, gweithleoedd, cartrefi, dewisiadau unigol ac ati. 3. Yn olaf....I bawb fwynhau’r awyr agored bob dydd - yn eu parc lleol, coetir, ein dyfrffyrdd, llynnoedd a’r arfordir, y bryniau neu’r mynyddoedd ac ati. Ewch am dro, ar eich beic neu i redeg, mwynhewch ein natur a’n bioamrywiaeth, neu eisteddwch ac ylaciwch - mae ein hadnoddau naturiol yn hardd ac me angen i ni eu mwynhau a’u diogel

Beth yw eich diddordebau personol? Ychydig o gerdded, ychydig o redeg, ychydig o arddio....a llawer o’r awyr agored! Mae gennyf dri chi ac rwyf wrth fy modd yn mynd allan i gerdded neu redeg gyda nhw.


Pyncia Llosg Mae rhan hwn o’r e-fwletin wedi’i neilltuo i newyddion gan aelodau’r rhwydwaith. Cewch gyflwyno newyddion ynglyn a gwaith sy’n cael ei wneud yn eich ardal chi, ysgifennwch erthygl ar ein cyfer, hyrwyddwch ddigwyddiad sydd i ddod neu broliwch am eich cyraeddiaddau! Os ydych chi’n dynuno cyflwyno erthygl ar gyfer yr adran Clecs anfonwch neges e-bost at publichealth.network@wales.nhs.uk Ni ddylai’r erthygl gynnwys mwy na 500 o eiriau ac rydym yn croesawu lluniau bob amser!!

Digwyddiad YaD a lansio gwefan Cymuned YaD Mynychodd dros 140 o gynadleddwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru a’n sefydliadau partner ddigwyddiad ‘Ymchwil yng Nghymru’ Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ddydd 2 Mawrth yng Nghaerdydd neu wylio ffrwd fyw o’r diwrnod. Cynhaliwyd y digwyddiad i arddangos cydweithrediadau ymchwil rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a sefydliadau addysg uwch Cymru, y sector cyhoeddus, y trydydd sector a diwydiant. Roedd gan y digwyddiad, a agorwyd gan Tracey Cooper, elfen gref o rwydweithio gyda thros 30 o stondinau a phosteri gan sefydliadau partner er mwyn codi ymwybyddiaeth o feysydd gwiath a chyfleoedd cydweithredu gwahanol. Lansiodd yr Athro Simon Smail y wefan Cymuned YaD newydd. Mae’r wefan yn rhoi amgylchedd agored i bawb â diddordeb mewn ymchwil iechyd y cyhoedd trwy gyfnewid gwybodaeth a syniadau. Rhoddodd yr Athro Marcus Longley, Cyfarwyddwr Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru ym Mhrifysgol De Cymru y cyflwyniad agoriadol ‘Diben ymchwil yw newid y byd, nid ei ddeall yn unig’. Cyflwynodd yr achos dros sicrhau bod ymchwil amserol, o ansawdd uchelyn yn creu newid y gellir ei weld. Cafodd pwysigrwydd effaith ymchwil ei bwysleisio, yn arbennig yr angen am ymchwilwyr i weithredu yn agosach i’w rhanddeiliaid arfaethedig. Roedd cynulleidfa cyfryngau cymdeithasol y digwyddiad yn sicr yn cytuno, gyda chryn drydar gan ddefynddio hashnod Twitter y digwyddiad #RIW2017, lle gellir gweld lluniau a chofnod o’r diwrnod o hyd. Dilynodd Shaun Kelly o’r NSPCC a’r Prif Arolygydd John Wainwright gan gyflwyno prosiect amlasiantaeth rhwng Heddlu De Cymru, yr NSPCC, Barnardos, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, er mwyn deall ymateb yr Heddlu i fregusrwydd. Ar ôl cinio, trafododd Prof Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, ymchwil iechyd yng Nghymru a’r angen i flaenoriaethau polisi ac ymchwil gyd-fynd. Gorffennodd staff Iechyd Cyhoeddus Cymru, Angela Jones a Noel Craine, ddiwrnod llawn gwybodaeth trwy rannu eu profiad o’r ffordd y mae ymchwil yn llunio ymarfer er mwyn gwella iechyd mamau a lleihau cyfraddau genedigaeth isel, ac ymyriadau seicogymdeithasol i leihau’r perygl o peirysau a gludir yn y gwaed, yn y drefn honno.


Thema allweddol o’r diwrnod oedd nad yw ymchwil yn digwydd yn ynsig. Cydnabu Dr. Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Datblygu yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ‘nad yw ymchwil yn digwydd trwy weyllys da yn unig. Mae angen amser, ymdrech ac adnoddau i’w gwneud yn llwyddiant’. Crynhodd Mark Griffiths, un o’r prif drefnwyr, y digwyddiad trwy ddweud ‘mae’n wych gweld cymaint o bobl yma heddiw, yn cynrychioli cymaint o sefydliadau gwahanol. Mae’n amlygu bod ymchwil iechyd y cyhoedd yn amlddisgyblaethol ac mae achlysuron fel hyn ond yn cryfhau gwaith partneriaeth.’ Dymuna’r tîm ymchwil annog staff ar draws y sefydliad sydd â diddordeb mewn ymchwil i rannu ac archwilio syniadau trwy fynd i’r wefan cymuned YaD newydd lle mae cyflwyniadau a chrynodebau llefarwyr y diwrnod hefyd ar gael.

Ymarfer a Rennir Prosiect y mis yw Switched On. Mae Switched On yn wasanaeth camddefnyddio sylweddau ar gyfer Caerdydd a’r Fro. Mae’n wasanaeth aml-asiantaeth arloesol, blaenllaw sydd yn cynnwys gwasanaethau sydd eisoes yn bodoli sydd wedi cael eu dwyn ynghyd i roi darpariaeth holistaidd ar gyfer pobl ifanc a’r rheiny sy’n cefnogi pobl ifanc. Mae Switched On yn wasanaeth addysg a chyngor Haen 1. Maent yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn Haen 2, 3 a gwasanaethau oedolion ac yn hwyluso atgyfeiriadau i wasanaethau arbenigol lle bo angen. Maent yn cynnig sesiynau hyfforddiant pwrpasol wedi eu neilltuo i ystod o ymarferwyr fel athrawon, nyrsys, gweithwyr ieuenctid, gofalwyr maeth a llawer mwy. Darperir addysg uniongyrchol i grwpiau bach o bobl ifanc mewn amrywiaeth o leoliadau o ysgolion i ganolfannau ieuenctid. Os hoffech ychwanegu eich prosiect eich hun i’r Cyfeiriadur Ymarfer a Rennir mae ffurflen ar-lein hawdd (sydd ond ar gael i aelodau) ac unwaith y caiff ei chymeradwyo gan un o’r cydlynwyr, bydd eigh prosiect wedyn yn ymddangos ar y cyfeiriadur. Mae Pecyn Cymorth Hunanasesu hefyd y gellir ei argraffu neu ei lenwi ar-lein ac mae’n galluogi cydlynwyr i sicrhau ansawdd y datblygiad a darpariaeth prosiectau newydd a phresennol. Os oes angen cymorth arnoch yn cwblhau’r pecyn cymoth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu ag un o’r cydlynwyr yn publichealth.network@wales.nhs.uk


Crynodeb o’r Newyddion

Croeso i’r Crynodeb o’r Newyddion Cliciwch ar benawdau’r eitemau newyddion i fynd at y stori newyddion lawn ar Wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Iechyd Rhywiol Grwp Arbenigol HIV yn cyhoeddi canfyddiadau Adolygiad Atal Clefydau Cyn Cyswllt (PrEP) Mae’r Grŵp Arbenigol HIV a sefydwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cwblhau ei adolygiad o’r dystiolaeth sydd ar gael o effeithiolrwydd PrEP (atal clefydau cyn cyswllt) ym maes atal HIV ymysg unigolion risg uchel.

Iechyd Mamau a’r Newydd-Anedig Mae cyfraddau beichiogi yn yr arddegau yng Nghymoedd De Cyrmu wedi gostwng bron hanner mewn saith mlynedd Mae cyfraddau beichiogi yn yr arddegau yng Nghymoedd De Cymru wedi gostwng bron hanner mewn saith mlynedd.

Plant a Phobl Ifanc Childline yn lansio ap cwnsela Mae Childline wedi lansio’r ap cyntaf sydd yn cwnsela plant ifanc sydd angen cymorth trwy eu dyfeisiadau symudol.

Clic


Pobl Hyn Gweithdy ymwybyddiaeth carbon monocsid am ddim

Mae’r Elusen Gas Safe yn cynnal cyfres o weithdai hanner diwrnod ar draws y DU ar gyfer UNRHYW sefydliad sy’n darparu gwasanaethau yng nghartrefi pobl agored i niwed.

Plant a Phobl Ifanc Y Llywodraeth yn Lansio Ymgyrch Newydd ar Ddiogelwch y Rhyngrwyd Mae’r Llywodraeth wedi dechrau gwaith ar Strategaeth Diogelwch y Rhyngrwyd newydd gyda’r nod o atal plant a phobl ifanc rhag cael niwed a gwneud y rhyngrwyd yn lle mwy diogel. Disgwylir papur gwyrdd ar y fenter drawslywodraethol hon yr haf hwn.

ciwch yma am mwy o ddigwyddiadau ar y wefan Cyswllt Iechyd y Cyhoedd Cymru


Ebrill

03 04 04

05

Economeg Iechyd ar Gyfer Ymarfer ac Ymchwil Iechyd Cyhoeddus Prifysgol Bangor Darpariaeth iechyd meddwl yng Nghymru: mynediad, ansaedd a’r camau nesaf ar gyfer polisi Canol Caerdydd Deall sut i Ddiogelu Lles Plant a Phobl Ifanc - Cwrs Achrededig Lefel 3 trwy Agored Cymru Caerdydd

Polisi Gweithgaredd Corfforol yn Ystod Cwrs Bywyd Prifysgol Loughborough

C ar y w


05 07 12 19 26 26 26 27 27

Cynhadledd Genedlaethol Gemay Stryd Prifysgol Warwick, Coventry Ymchwil ac Ymarfer Clinigol ym Maes Cwympiadau a Dementia Pencadalys Sgowtiaid a Geidiau Abertawe

Cynhadledd Llythrennedd Corfforol Rhyngwladol Ontario

Gordewdra: Troi Clorian y Genedl yn Ôl Manceinion

Pan fydd pentyn yn marw - cefnogi rhieni ac aelodau o’r teulu Child Bereavement UK, Buckinghamshire

Gwerthuso prosiectau a rhaglenni iechy y cyhoedd: cyflwyniad Manceinion

Camu Ymlaen: Cael maeth da yn iawn o’r cychwyn Llundain

Cynhadledd Cynnal Cymru 2017 Stadiwm Principality, Caerdydd

Gweithredu Polisi Lleihau Siwgr - Ailffurfio, Dewisiadau Defnyddwyr a Rheoleiddio Canol Llundain

Cliciwch yma am mwy o ddigwyddiadau wefan Cyswllt Iechyd y Cyhoedd Cymru


Cysylltu â Ni Publichealth.network@wales.nhs.uk Rhif 2 Capitol Quarter Llawr 5 Tyndall Stryd Caerdydd CF10 4BZ www.publichealthnetwork.cymru Os oes gennych unrhyw newyddion neu ddigwyddiadau i’w cyfrannu i’r rhifyn nesaf anfonwch nhw at publichealth.network@wales.nhs.uk Dyddiad olaf ar gyfer eu cyflwyno yw’r trydydd dydd Gwener o bob mis.


Rhifyn nesaf: Ymwybyddiaeth o Fyddardod


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.