Design Examples - Magazines and Booklets

Page 1

Ysbrydoli : Creu : Mwynhau

Rhaglen ddigwyddiadau

Y gyntaf o bedair rhaglen ryfeddol mis Ionawr i fis Mawrth 2011

Noddwr y Rhaglen yw Trenau Wrecsam a Swydd Amwythig


Helo a chroeso, Mae eleni’n argoeli i fod yn un fythgofiadwy, gyda’r Eisteddfod Genedlaethol fel canolbwynt dros 300 o achlysuron fydd gyda’i gilydd yn ffurfio rhaglen gyffrous Blwyddyn Diwylliant Wrecsam 2011. Pa un ai ydych yn un o drigolion Wrecsam, yn gyfarwydd â’n atyniadau lleol amrywiol, neu’n ymweld am y tro cyntaf o rywle pell, rwy’n gobeithio y byddwch yn cael hyd i rywbeth o ddiddordeb yn nhudalennau rhan gyntaf hon ein rhaglen ac yn cael eich ysbrydoli i brofi ein diwylliant cyfoethog, celfyddyd amrywiol a’r dreftadaeth ysbrydoledig sydd gan yr ardal arbennig hon i gynnig.

Charlie Landsborough

Y Cynghorydd Jim Kelly, Maer Wrecsam

Mynychu achlysur Cyfrannwyd y digwyddiadau sy’n ffurfio’r rhaglen hon gan lawer o wahanol gyrff, pob un ohonynt wedi gwneud ei drefniadau ei hun ar gyfer cael tocynnau, lle bo angen hynny. Caiff manylion llawn eu cynnwys wrth ddisgrifiad pob achlysur.

Russell Kane

Y Djangonauts

Gwybodaeth I gael gwybodaeth gyffredinol am Flwyddyn Diwylliant Wrecsam, cysylltwch â’r Tîm ar 01978 667320. I gael gwybodaeth berthnasol i achlysur penodol, cysylltwch â threfnydd y digwyddiad (gwelwch uchod). Ymwadiad: roedd y wybodaeth sydd yn y rhaglen yn gywir ar adeg argraffu Hanesion Oes y Tywysogion

Cydnabyddiaeth Ein diolch i’r sefydliadau canlynol, y byddai wedi bod yn amhosibl cynnig y rhaglen hon o achlysuron i ddathlu Blwyddyn Diwylliant Wrecsam heb eu cymorth

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Noddwr y Rhaglen

Ar y cyd â

02

Rheilffordd Wrecsam a Swydd Amwythig – Trenau uniongyrchol i Lundain o £55 dwyffordd.


www.yearofculture.co.uk

IONAWR LOUISA THEUNISSEN, ARDDANGOSFA ‘ADLEISIAU ATGOF’ 5 – 15 Ionawr Oriel Wrecsam, Ffordd Rhosddu, Wrecsam Gan weithio’n bennaf mewn siarcol cywasgedig, mae Theunissen yn cynhyrchu lluniadau mawr o dai, ffatrïoedd, siopau a warysau anghyfannedd ar hyd a lled Cymru. Dydd Llun – Dydd Gwener 9.30am – 6.45pm, Dydd Sadwrn 9.30am – 4.00pm Mynediad am ddim EVA BARTUSSEK Tŷ Ceffylau, ffotograff, delwedd trwy garedigrwydd yr artist

LOUISA THEUNISSEN Of Apprehension, Siarcol

DOSBARTHIADAU RHEOLAIDD ORIEL WRECSAM Dosbarthiadau Lluniadu’r Byw Dydd Iau cyntaf pob mis 7pm - 9pm Dewch i ymarfer eich sgiliau lluniadu wrth ddefnyddio model byw. £4 / consesiynau £3 y sesiwn Arbrofi gyda Lliw Rhaglen dreigl o gyrsiau celfyddyd ymarferol sy’n rhoi cyfleoedd i weithio gydag amrywiaeth o wahanol gyfryngau. Dosbarth cyfeillgar ac anffurfiol ar gyfer oedolion sydd ar gael yn ystod y dydd. Dim angen profiad. Pob Dydd Mercher yn ystod y tymor 3pm - 5pm £5 / consesiynau £4 y sesiwn ynghyd â £1 y sesiwn am ddeunyddiau.

EVA BARTUSSEK, ARDDANGOSFA ‘TŶ CEFFYLAU’

‘THE GUT GIRLS’ GAN SARAH DANIELS

5 – 15 Ionawr Oriel Wrecsam, Ffordd Rhosddu, Wrecsam

19 a 20 Ionawr, 7.00pm – 9.00pm Theatr Iâl, Coleg Iâl, Ffordd Parc y Llwyni, Wrecsam LL12 7AB

Fel arddangosfa deithiol o Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe gyda chymorth grant Cyngor Celfyddydau Cymru, dyma arddangosfa solo sylweddol gyntaf Eva Bartussek, y ffotograffydd o Abertawe. Mae ‘Tŷ Ceffylau’ yn dogfennu plasty a ddefnyddiwyd ar yr un pryd fel cartref a stabl.

Wedi’i osod ar droad y ganrif ac yn seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn mae ‘The Gut Girls’ yn dweud hanes grŵp o ferched ifanc llawn bywyd yn gweithio yn lladd-dai erchyll Deptford yn Ne Llundain.

Dydd Llun – Dydd Gwener 9.30am – 6.45pm, Dydd Sadwrn 9.30am – 4.00pm Mynediad am ddim

£8 a £6, consesiwn i fyfyrwyr a phensiynwyr. Tocynnau o Swyddfa Docynnau Coleg Iâl 01978 311794, estyniad 2701

NOSWAITH GABARE EFO’R BALLET POD 15 Ionawr, 6.00pm – 8.00pm Neuadd y Plwyf, Y Waun

Dydd Llun Cyntaf Achlysuron blasu min nos ar gyfer oedolion sy’n gyfle i roi cynnig ar amrywiaeth o dechnegau creadigol / cyfryngau. Fel arfer, caiff y sesiynau hyn eu cynnal ar ddydd Llun cyntaf pob mis (heblaw Gwyliau Banc). Dim angen profiad celf. Mae archebu i’w argymell. Mae’r sesiwn cyntaf am ddim, yna mae tâl o £3 / consesiynau £2

Mae aelodau The Ballet Pod, cwmni arloesol o dri o ddawnswyr seiliedig yng Nghymru a’u cyfarwyddwr celfyddydol, Richard Slaughter, gynt yn ddawnsiwr yn y Bale Brenhinol, yn eich gwahodd i ymuno â hwy am noswaith o fwyd blasus a difyrrwch! Bydd y dawnswyr yn perfformio gala o weithiau dawns cynhyrfus yn rhedeg o ddyfyniadau o’r Rhian Gwsg ac Ulw-Ela, i ddarnau newydd a goreograffwyd gan Richard Slaughter. Gyda hotpot llysiau i godi calon, tartennau jam, caws a bisgedi, yn ogystal â gwydraid neu ddau o win poeth ar gynnig i’r gynulleidfa, dyma noswaith ddelfrydol i’r teulu i gyd! www.theballetpod.com

I gael manylion unrhyw un o’r sesiynau hyn, cysylltwch ag Oriel Wrecsam 01978 292093

£10 / plant £7. Tocynnau o: Yr Hen Ficerdy, Ffordd Trefor, Y Waun, Wrecsam LL14 5HD 01691 773016

CHRYSALIS SERIES’, FRANCOIS BALLET POD FIRE-DANCE

Rheilffordd Wrecsam a Swydd Amwythig – Trenau uniongyrchol i Lundain o £55 dwyffordd.

03


Blwyddyn Diwylliant Wrecsam 2011

‘CYFRES CRYSALIS’, FRANCOIS NICOLAAS GROBLER Arddangosfa, Cynweliad a Sgwrs gan yr Artist 20 Ionawr, 6.00pm – 8.00pm, sgwrs am 6.30pm Oriel Wrecsam, Ffordd Rhosddu, Wrecsam Noswaith i gael cip ymlaen llaw ar arddangosfa o baentiadau Francois Nicolaas Grobler a chyfle i glywed yr artist yn sôn am ei waith ei hun. Mynediad am ddim, dim angen tocyn

CARNIFAL GOLEUNI GODIDOG ACHLYSUR LANSIO

‘CYFRES CRYSALIS’, FRANCOIS NICOLAAS GROBLER 21 Ionawr – 12 Mawrth, Oriel Wrecsam, Ffordd Rhosddu, Wrecsam Arddangosfa o waith artist eginol, Francois Nicolaas Grobler, yn dangos fel rhan o Gyfres Crysalis sy’n arddangos gwaith graddedigion diweddar o gwrs gradd Celfyddyd Gain Prifysgol Glyndŵr. Dydd Llun – Dydd Gwener 9.30am – 6.45pm, Dydd Sadwrn 9.30am – 4.00pm Mynediad am ddim

Y TRI THENOR CYMREIG 22 Ionawr, 7.30pm Theatr y Stiwt, Rhosllannerchrugog Aled Hall, Alun Rhys-Jenkins a Rhys Meirion yw’r ‘Tri Thenor Cymreig’. Mae eu lleisiau’n rhyfeddol o wahanol, eto maent yn ategu ei gilydd yn berffaith. Gyda rhaglen yn cynnwys clasuron byd opera, emynau, hen ganeuon Cymreig a chadwyni, mae ganddynt rywbeth i apelio at bob chwaeth ac i weddu i bob achlysur £10 / consesiynau £8. Tocynnau o: Swyddfa Docynnau Theatr y Stiwt, Stryt Lydan, Rhosllannerchrugog, LL14 1RB 01978 841300

21 Ionawr, 5.30pm – 7.15pm Canol Tref Wrecsam Dyma’r fan lle mae’r stori’n dechrau mewn gwirionedd. Dewch i ymuno â’r carnifal. Fe fydd ceir a lorïau carnifal yn ymlwybro trwy ganol y dref, pobl mewn gwisgoedd rhyfeddol, dawnsio, lliw, cerddoriaeth a gorymdaith ysblennydd gyda llusernau a cherddoriaeth fydd yn tanio fflam diwylliannol Wrecsam. Bydd y carnifal yn torri llwybr gweledol dros ben drwy ganol y dref i Neuadd y Dref ar gyfer areithiau agoriadol a pherfformiad byr gan y band bechgyn hynaf a gorau yn y byd (yn ein barn ni) – Côr Meibion Froncysyllte! Yna paratowch am arddangosiad tân gwyllt gwirioneddol syfrdanol. 5.30pm cychwyn, 6.30pm cyrraedd Neuadd y Dref, 7.00pm arddangosiad tân gwyllt. Amserau bras yw’r rhain a chânt eu cadarnhau’n nes at yr amser. YMUNWCH: I weld cynllun o’r llwybr, gwybodaeth am sut i wneud llusern ac ymuno â’r orymdaith, neu fanylion dosbarthiadau gwneud llusernau, gwelwch www.yearofculture.co.uk neu cysylltwch â: Tîm Blwyddyn Diwylliant ar 01978 667320 Achlysur am ddim, croeso i bawb

FRANCOIS NICOLAAS GROBLER Di-deitl, Olew ar Gynfas

HWYL AR Y DDÔL 22 Ionawr, 11.00am – 1.00pm Dôl Eryrod Dewch i ddathlu lansio Blwyddyn Diwylliant Wrecsam gyda rhai o gyflwynwyr cyfeillgar Calon FM, eich gorsaf radio cymunedol lleol. Byddent yn hoffi i chi ymuno â hwy yn Nôl Eryrod am lond gwlad o hwyl, gemau, cerddoriaeth, chwerthin a SYNDOD arbennig iawn! Beth yn y byd all o fod? Rhaid i chi ddod i weld!!! Achlysur am ddim. Croeso i bawb

Y TRI THENOR CYMREIG

‘FLYING FEATHERS’ GAN DEREK BENFIELD 20 – 22 Ionawr a 27 – 29 Ionawr, 7.30pm – 9.30pm Theatr Glan yr Afon, Wrecsam Cyrhaeddodd y Prif Gwnstabl Henry Potterton a’i chwaer, Sarah, yn annisgwyl yng nghartref eu diweddar annwyl frawd, Bernard, yn y wlad ac yn synnu wrth weld merched ifanc hanner noeth, yn bendant heb eu gwisgo ar gyfer gwaith fferm! Yn ystod absenoldeb Bernard dros dro ar Ynysoedd Erch, cyn ei farwolaeth, trodd ei ofalwr Tŷ, Nora, y lle’n ‘dŷ pechod’, ond nawr mae’n ceisio cuddio’r gwir rhag y Pottertons. www.wmts.co.uk £8 / consesiynau £6 (noson gyntaf yn unig). Wedi hynny £10 / £8. Tocynnau gan Gymdeithas Theatr Gerdd Wrecsam, 1 Ffordd Sir Amwythig, Wrecsam L13 7AF 01978 261148/356094

04

Rheilffordd Wrecsam a Swydd Amwythig – Trenau uniongyrchol i Lundain o £55 dwyffordd.


www.yearofculture.co.uk

ARDDANGOSFA DIWRNOD COFIO’R HOLOCOST 2011

CHWEFROR RUSSELL KANE – LLENNI MWG A CHESTYLL

24 – 28 Ionawr, 10.45am – 12 hanner dydd ac 1.30pm – 3.00pm Ysgol Uwchradd Darland, Ffordd Caer, Yr Orsedd Arddangosfa deimladol ym mhrif gyntedd Ysgol Darland, fydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd feddwl am bwysigrwydd Diwrnod Cofio’r Holocost. www.darlandschool.co.uk Achlysur am ddim. Wrth gyrraedd, dylai holl ymwelwyr gofrestru wrth brif ddesg groesawu’r ysgol.

DYDD DWYNWEN 25 Ionawr, 7.00pm – 10.00pm Theatr y Stiwt, Rhosllannerchrugog Noswaith ramantus o fwyd, gwin a diwylliant Cymreig i ddathlu Dydd Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru.

2 Chwefror, 8.00pm Canolfan Catrin Finch, Prifysgol Glyndŵr, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam

FRIDAY BLUES YN CYFLWYNO NOSON O GANU’R FELAN 28 Ionawr, 7.30pm Central Station, Stryt yr Allt, Wrecsam Eisoes gwelwyd perfformiadau eithriadol yn Friday Blues, a lansiwyd yn Nhachwedd 2010, gan bobl fel Danny Bryant gyda’i Red Eye Band a Sandi Thom. Gallwch ddisgwyl sioeau o’r un safon pan fydd Friday Blues yn dychwelyd i Wrecsam yn 2011. Pris i’w gadarnhau. Tocynnau o Far Caffi Iâl, Seetickets.com, HMV Wrecsam, Swyddfa Docynnau Central Station 0870 4445556

Bydd Joy Cornock (soprano) a Bethan Semmens (telyn) yn eich serenadu gyda chaneuon traddodiadol a gwerin, cerdd dant a cherddoriaeth Eingl-Gymreig a phoblogaidd ysgafn.

TYFU TRWY ‘GYDWEITHIO’ AR GYFER BUSNESAU BACH 2 Chwefror, 8.00am - 12.00 hanner dydd Gwesty Rossett Hall, Ffordd Caer, Yr Orsedd

www.cmpcoaching.com

£25. Tocynnau o Swyddfa Docynnau Theatr y Stiwt, Stryt Lydan, Rhosllannerchrugog 01978 841300

DARLLEN DIFYR WRECSAM

Achlysur am ddim, ond mae’n hanfodol cadw lle. Cysylltwch â Daniel Prescott 01978 366366 neu ebostio daniel.prescott@wrexham.gov.uk

NOFELA – SIÂN MELANGELL DAFYDD

26 Ionawr, 7.00pm Llyfrgell Wrecsam, Ffordd Rhosddu, Wrecsam

3 Chwefror, 7.00pm Gwesty Belmont, Ffordd Belmont, Wrecsam

Cael gwybod pa lyfr a dewisodd pobl Wrecsam fel eu ffefryn! Darllenwyd a phleidleisiwyd yn ystod Ymgyrch ‘Darllen Difyr’ drwy gydol yr hydref 2010. Roedd deuddeg teitl ar y rhestr fer, 6 llyfr Cymraeg a 6 llyfr Saesneg, pob un o waith awdur adnabyddus o Gymru. Bydd enillwyr y llyfrau Cymraeg a Saesneg a ddewiswyd yn cael eu cyhoeddi yn yr achlysur hwn a bydd tlysau a gomisiynwyd yn arbennig yn cael eu cyflwyno ar y noswaith. Bydd hwn yn achlysur dwyieithog. Achlysur am ddim, dim angen tocyn

£10 Tocynnau o: www.glyndwr.ac.uk/events 01978 293293

Mae’r cyflwyniad hwn i gydweithio’n anelu at fusnesau gwledig bach ac eraill yn Wrecsam ac ardaloedd cyfagos yng Ngogledd Cymru sy’n ymwneud â’r diwydiannau creadigol.

Gall cyplau fwynhau swper ysgafn, coffi a siocledi Cymreig. Bydd cyfle hefyd i ennill diwrnod sba moethus i ddau yn Carden Park. Elw at elusen. www.stiwt.co.uk

DARLLEN DIFYR WRECSAM

Yn ei sioe newydd, mae cyd-westeiwr I’m A Celebrity Get Me Out Of Here NOW! ITV2 ac enwebai dair gwaith am Wobr Comedi Caeredin yn edrych arno’i hun, ei deulu a chanlyniadau ei dad yn prynu ei dŷ cyngor ei hun. Gwarantu hurtrwydd cymdeithasegol ac ystumiau llawn ynni. “Y fath ddigrifwr dawnus, neilltuol.” Chortle

Y tro yma, mae cyfarfod misol grŵp llenyddol Cymraeg lleol, Cymdeithas Owain Cyfeiliog, yn croesawu’r awdur Siân Melangell Dafydd fydd yn trafod ei gweithiau ei hun. Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig ac mae aelodau’r grŵp yn estyn croeso cynnes i ymwelwyr, gan gynnwys y rhai sy’n dysgu Cymraeg. Rhagor o wybodaeth oddi wrth AJ Emanuel 01978 359846 RUSSELL KANE

Am ddim – croeso i bawb

Rheilffordd Wrecsam a Swydd Amwythig – Trenau uniongyrchol i Lundain o £55 dwyffordd.

05


Blwyddyn Diwylliant Wrecsam 2011

GŴYL HANESION WRECSAM Dathlu Treftadaeth ein Cymuned ac Ewrop 4 Chwefror, 11.00am – 7.00pm 5 Chwefror, 10.00am - 4.00pm Neuadd William Aston, Prifysgol Glyndŵr, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam Mae’r ŵyl hon ar gyfer pawb sy’n hoff o’u pentref neu dref a bydd gweithgareddau ar gyfer pob oed, gan gynnwys arddangosfeydd cymdeithasau hanes cymunedol, troeon hanesyddol tywysedig, perfformwyr mewn gwisgoedd, grŵp ailgreu canoloesol, darlithoedd, grŵp archeolegwyr ifanc, ffilmiau, storïau digidol, hanes llafar, cysylltiadau â’r arddangosfa hanes cymunedol newydd yn Amgueddfa Wrecsam ar ei newydd wedd, cystadlaethau ysgolion a llawer mwy. Bydd yr ŵyl hefyd yn rhoi lle amlwg i dreftadaeth gymunedol ein partneriaid Ewropeaidd yng Ngwlad Belg, Awstria, Malta, Sbaen a Lithwania. Caiff ei hagor gan Julian Richards o Meet the Ancestors y BBC. www.wrexhamstory.co.uk Mynediad am ddim

DYDD LLUN CYNTAF, FRANCOIS NICOLAAS GROBLER

‘THE DAY AFTER THE FAIR’ GAN FRANK HARVEY

7 Chwefror, 5.00pm – 7.00pm Oriel Wrecsam, Ffordd Rhosddu, Wrecsam

10 – 19 Chwefror, 7.30pm Theatr Parc y Llwyni, Stryt yr Allt, Wrecsam

Gweithdy blasu lluniadu a phaentio ymarferol gyda Francois Nicolaas Grobler, yr artist arddangos. Yn agored i bawb, mae’r sesiwn hwn yn rhoi cyfle i rai ar bob lefel roi cynnig ar baentiadau a ysbrydolwyd gan arddangosfa Grobler.

Seiliedig ar stori fer gan Thomas Hardy, mae hon yn stori delynegol o gariad gwaharddedig a’i ganlyniadau dinistriol.

Mynediad am ddim, dim angen tocyn

KNIGHTS OF THE ABYSS A THE WRETCHED 11 Chwefror, 7.00pm Central Station, Stryt yr Allt, Wrecsam

FRANCOIS NICOLAAS GROBLER Di-deitl, Olew ar Gynfas

CYFLEOEDD MEWN GWEITHDY ECO-DDYLUNIO 9 Chwefror,10.00am – 12.45pm Canolfan Catrin Finch, Prifysgol Glyndŵr, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam HANESION - JULIAN RICHARDS

HANESION OES Y TYWYSOGION

£8 / rhai dan 18 £4.50. Tocynnau o: Swyddfa Docynnau’r Theatr 01978 351091 neu ar-lein yn www.groveparktheatre.co.uk

Mae datgloi adnoddau llawn Ecoddylunio effeithiol yn anhepgor i holl wneuthurwyr sydd o ddifrif ynghylch eu dyfodol. Mae’r gweithdy’n anelu at bersonél uwch sy’n ymwneud â rheoli strategol, dylunio cynnyrch a datblygiad ar draws sbectrwm sectorau gweithgynhyrchu a pheirianneg. Bydd y gweithdy’n trafod defnyddio prosesau dylunio i leihau effeithiau amgylcheddol, dangos tueddiadau a chyfleoedd i gynhyrchion arloesol a’r datblygiadau diweddaraf mewn bio-ddeunyddiau ar gyfer cynhyrchion a deunydd pacio Achlysur am ddim ond mae’n hanfodol cofrestru eich diddordeb trwy ymweld â www.innovationevent.co.uk

Os wyt eisiau ‘brutal death metal’, math o fetel ‘taro yn dy wyneb efo gordd’, yna mae Knights of the Abyss a The Wretched i’r dim i ti. Daw Knights of The Abyss a The Wretched o’r Unol Daleithiau a buont yn coethi eu crefft ers 2005, yn diffeithio mannau cyfarfod a gwrandawyr ar eu ffordd. £7 (ymlaen llaw), £9 (wrth y drws). Tocynnau ymlaen llaw o Far Caffi Iâl, Seetickets.com, HMV Wrecsam, Swyddfa Docynnau Central Station 0870 4445556

DIWRNOD AGOR AMGUEDDFA AC ARCHIFDY BWRDEISTREF SIROL WRECSAM 14 Chwefror, 1.30pm – 5pm Amgueddfa ac Archifdy Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Stryt y Rhaglyw, Wrecsam Byddwch yn un o’r rhai cyntaf i ymweld ag Amgueddfa ac Archifdy Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar ei newydd wedd a gweld canlyniadau cyfnod cyntaf yr ailddatblygu. Gyda’r siop anrhegion newydd sbon, siop goffi ac arddangosfeydd teuluol, mae fel petai chwa o awyr iach wedi chwythu trwy’r adeilad hanesyddol ac adnabyddus hwn! www.wrecsam.gov.uk Mynediad am ddim, dim angen tocyn

CERDDED TRWY’R EIRLYSIAU 5/6, 12/13, a 19/27 Chwefror Castell y Waun, Y Waun Eisiau cael gwared ar felan y gaeaf? Yna beth am ddod i Gastell y Waun a mwynhau tro bach trwy’r gerddi gwobrwyol llawn eirlysiau. Mynediad am ddim i aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol neu £7.20 i oedolion, £3.60 i blant neu £18 i deuluoedd. 06

KNIGHTS OF THE ABYSS

‘THE AFTER THE FAIR’ BY A THE DAY WRETCHED

Rheilffordd Wrecsam a Swydd Amwythig – Trenau uniongyrchol i Lundain o £55 dwyffordd.


www.yearofculture.co.uk

CYNGERDD BAND MAWR BILL BASEY 14 Chwefror, 8.30pm – 10.30pm Y Clwb (BICC/Pirelli gynt), Stad Ddiwydiannol Wrecsam Galw holl ddilynwyr jazz a Bandiau Mawr, yn ogystal â dawnswyr jeif a swing. Ymunwch â Bill a’i fand am noswaith o jazz a swing Band Mawr. Croeso i ddawnswyr! www.billbasey.com £3 talu wrth y drws. Y Clwb, Ffordd y Dderwen, Stad Ddiwydiannol Wrecsam, LL13 9RG 01978 662266

FFASIYNAU SU SU’S 18 Chwefror, 7.30pm Gwesty Rossett Hall, Yr Orsedd, Wrecsam LL12 0DE Noson o glits a swyn gyda cherddoriaeth, adloniant a sioe redfa syfrdanol o dŷ ffasiynau diweddaraf Wrecsam, Su Su’s. Dewch â’ch ffrindiau ac ymuno â ni yn Rossett Hall yn y sioe ffasiynau fwyaf lliwgar yng Ngogledd Cymru! Yr holl elw at Hosbis Tŷ Gobaith. ‘SAFFARIS STRAEON’ YN Y PARCIAU

£10. Tocynnau o Su Su’s, Stryt Yorke, Wrecsam neu 01978 313217

CROCODILES 15 Chwefror, 7.30pm Central Station, Stryt yr Allt, Wrecsam Band pop o San Diego, CA, indie roc / sŵn yw Crocodiles a ffurfiodd yn 2008. Roedd aelodau’r band wedi chwarae o’r blaen mewn actau noisepunk Some Girls a The Plot to Blow Up the Eiffel Tower. O ran arddull mae modd clywed dylanwad The Jesus and Mary Chain, Echo & the Bunnymen a Spacemen 3 ar y band. Cyn rhyddhau eu halbwm cyntaf gyda’i gilydd, roedd Welchez a Rowell yn chwarae mewn ymgorfforiad cynnar o Dum Dum Girls. £6 (ymlaen llaw), £7 (wrth y drws). Tocynnau ymlaen llaw o Far Caffi Iâl, Seetickets.com, HMV Wrecsam, Swyddfa Docynnau Central Station 0870 4445556

BROTHER

ROBINSON CRUSOE 19 – 20 Chwefror, 2.15pm 21 – 25 Chwefror, 7.15pm Neuadd William Aston, Prifysgol Glyndŵr, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam Sioe flynyddol Cwmni Pantomeim Wrecsam a’r Cylch. Caiff yr holl elw ei roi i elusennau lleol; felly dewch i gefnogi achos da a chael tipyn o hwyl ar yr un pryd! £7 Oedolion / £6 Plant a Phensiynwyr / £22 teulu o 4 Tocynnau o: Swyddfa Docynnau, Y Farchnad Gig, Wrecsam (5 Chwefror ymlaen). Archebion bloc neu o flaen llaw (15 Ionawr ymlaen) Wendy Prince 07760 495614

16 Chwefror, 7.00pm Central Station, Stryt yr Allt, Wrecsam Yn ddiweddar cafodd Brother anrhydedd ‘Band yr Wythnos’ yng nghylchgrawn NME, ymhlith artistiaid eraill o’r siartiau fel Katy B, Flats, Funeral Party a llawer o rai eraill a enwyd yn ‘Fand yr Wythnos’ yn ddiweddar. Felly, wrth gwrs mae pawb yn disgwyl pethau mawr gan y rhain. Unwaith eto mae Central Station Wrecsam yn profi ei fod yn rheng flaen y sin gerdd, gan roi rhagflas i chi o fandiau fydd ymhen 12 mis allan o gyrraedd lleoliad 500 Wrecsam ac yn llenwi neuaddau 3 gwaith y maint os nad mwy!

GWEITHGAREDD HANNER TYMOR ‘SAFFARIS STRAEON’ YN Y PARCIAU 21 – 25 Chwefror Mannau amrywiol, gwelwch y manylion isod Ymunwch ag un o’n saffaris straeon cyffrous. Mae’r troeon, seiliedig ar lyfr newydd a ysgrifennwyd i annog gwrandawyr i gymryd rhan mewn straeon gweithgaredd ym mharciau gwledig Wrecsam, i gyd rhwng hanner milltir a milltir o hyd. Maent yn cymryd tuag awr, maent am ddim ac mae croeso i bawb MELIN Y NANT - STORI CYNFFONAU MOCH 21 Chwefror, cychwyn yn brydlon am 1.30pm. Ble mae’r tri mochyn bach? Cewch wybod yn ystod y daith gerdded stori hon ym Melin y Nant. (dewis dwyieithog) Cyfarfod yn y ganolfan ymwelwyr PARC GWAUNYTERFYN – ANTUR ACTON 22 Chwefror, cychwyn yn brydlon am 1.30pm. Clywed am Bethanella ac Aledin ar daith gerdded stori ym Mharc Gwaunyterfyn. Cyfarfod ar y llwyfan gwylio ger y llyn. Y PARCIAU – BELLEVUE BROWNIE 23 Chwefror, cychwyn yn brydlon am 11.00am. Cael gwybod beth yw Brownie ar y daith gerdded stori hon yn y Parciau. Cyfarfod wrth y bandstand. DYFROEDD ALUN – GWAWCHIO! 23 Chwefror, cychwyn yn brydlon am 1.30pm. Cael hyd i’r aderyn ar y daith gerdded hon ar ochr Llai y parc. Cyfarfod yn y maes parcio uchaf TŶ MAWR – POS RHIGYMAU 24 Chwefror, cychwyn yn brydlon am 1.30pm. Datrys y rhigymau ar y daith gerdded stori hon o gwmpas Tŷ Mawr. Cyfarfod yn y ganolfan ymwelwyr

£6 (ymlaen llaw), £8 (wrth y drws). Tocynnau ymlaen llaw o Far Caffi Iâl, Seetickets.com, HMV Wrecsam, Swyddfa Docynnau Central Station 0870 4445556

PARC Y PONCIAU – PONCIAU A FU 25 Chwefror, cychwyn yn brydlon am 1.30pm. Clywed am ‘Lloer’ y merlyn pwll glo ar daith gerdded stori o gwmpas Parc y Ponciau. (dewis dwyieithog) Cyfarfod yn y pafiliwn powliau

CROCODILES

FFASIYNAU Su Su’s

Achlysuron am ddim – dim angen tocyn. Rhaid i holl blant fod yng nghwmni oedolyn. I gael rhagor o wybodaeth 01978 752772 neu 01978 822780

Rheilffordd Wrecsam a Swydd Amwythig – Trenau uniongyrchol i Lundain o £55 dwyffordd.

07


Blwyddyn Diwylliant Wrecsam 2011

Y DJANGONAUTS 22 Chwefror, 8.30pm – 11.30pm Y Lleng Brydeinig Frenhinol, Llai, Wrecsam Anhepgor i holl garwyr jazz! Arddull a cherddoriaeth Django Reinhardt chwedlonol sy’n ysbrydoli’r pedwarawd jazz acwstig llawn swing newydd sbon o Sheffield, y Djangonauts, dan arweiniad gitarydd ifanc disglair Chris Walker gyda Piero Tucci (accordion), Phil Johnson (gitâr rhythm) a Kevin Walker (bas dwbl). Cymeradwy dros ben! www.northwalesjazz.org.uk £6 / consesiynau £5 / plant £3. Talu wrth y drws

NOSWAITH GOMEDI 24 Chwefror, 8.30pm – 10.30pm Undeb y Myfyrwyr, Prifysgol Glyndŵr, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam Rowan Campbell, yr Awstraliad doniol dros ben sy’n byw yn yr Alban, fydd yn dechrau adloniant y noswaith, gyda Joe Wilkinson, perfformiwr a therfynwr Gŵyl Gomedi Caeredin yng Nghystadleuaeth Digrifwr Albanaidd y Flwyddyn 2007 a 2009, yn y canol. I gloi’r noswaith daw Gavin Webster, enw wedi hen sefydlu ar y gylchdaith gomedi ac sydd wedi ategu Lee Evans, Jack Dee a Phill Jupitus ar daith. £5 / £3 consesiynau a myfyrwyr (dros 18 yn unig) Tocynnau o: Prifysgol Glyndŵr 01978 293293, www.glyndwr.ac.uk/events

CYNGERDD CERDDORFA SYMFFONI WRECSAM 26 Chwefror, 7.30pm – 9.30pm Prifysgol Glyndŵr, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam Gydag aelodaeth o drigain chwaraewr bron, bydd y Gerddorfa’n denu arweinwyr gwadd proffesiynol ac unawdwyr neilltuol yn rheolaidd. Mae’r rhaglen yn cynnwys: Mahler: Symffoni Rhif 6 “Trasig” Arweinydd: Kenneth Wood Dan nawdd COBALZ – Prosiect Symffonïau Mahler Cerddorfa Symffoni Wrecsam £10ac £8 / consesiynau £6. Tocynnau o www.glyndwr.ac.uk/events 01978 293293 neu Ganolfan Groeso Wrecsam 01978 292015 08

Y DJANGONAUTS

MARCHNAD DYDD GŴYL DEWI 26 Chwefror, 10.00am – 5.00pm Sgwâr y Frenhines, Wrecsam Hoff achlysur blynyddol yng nghanol tref Wrecsam, mae’r farchnad brysur hon yn tynnu’r cynhyrchwyr crefftau a bwyd lleol gorau ynghyd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

MAWRTH GORYMDAITH DYDD GŴYL DEWI 1 Mawrth, Cychwyn am 1.30pm Dôl Eryrod i Lwyn Isaf Yn cychwyn o Ddôl Eryrod, bydd Gorymdaith flynyddol Dydd Gŵyl Dewi yn ymlwybro i Lwyn Isaf ar hyd Ffordd Smithfield, Stryt Siarl, Stryt Fawr, Stryt yr Hôb, Stryt y Rhaglyw, Stryt Egerton, Stryt yr Arglwydd a Ffordd Rhosddu. Gallwch ymuno â’r orymdaith ar y dechrau, yn unrhyw fan ar hyd y llwybr, neu ddim ond ei gwylio a gweiddi hwrê wrth iddi fynd heibio. Bydd stondinau’n gwerthu bwyd a nwyddau Cymreig ar gae Llwyn Isaf o 10.00am tan 5.00pm a bydd adloniant cerddorol o ryw 2.30pm. Rhagor o wybodaeth gan y Tîm Digwyddiadau, 01978 292537 Achlysur am ddim, Croeso i bawb!

Rheilffordd Wrecsam a Swydd Amwythig – Trenau uniongyrchol i Lundain o £55 dwyffordd.


www.yearofculture.co.uk

CINIO LLENYDDOL 3 Mawrth, 11.30am Llyfrgell Rhosllannerchrugog, Wrecsam Cinio llenyddol gyda, Grace Roberts, enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2010. Mae hwn yn achlysur Cymraeg. £6 Tocynnau o: Llyfrgell y Rhos, Ffordd y Tywysog, Rhosllannerchrugog Wrecsam LL14 1AB 01978 840328 neu Oriel Wrecsam, 01978 292093

CERDDORFA SIAMBR CYMRU

OWAIN CYFEILIOG - CANON PATRICK THOMAS

CYNGERDD DYDD GŴYL DEWI ‘CYFEILLION Y STIWT’ GYDA CÔR MEIBION RHOS

3 Mawrth, 7.00pm Gwesty Belmont, Ffordd Belmont, Wrecsam

5 Mawrth, 7.00pm – 8.30pm Theatr y Stiwt, Rhosllannerchrugog

Cyfarfod misol grŵp llenyddol Cymraeg lleol, Cymdeithas Owain Cyfeiliog, y tro yma’n croesawu’r Canon Patrick Thomas, arbenigwr ar y bardd Owain Cyfeiliog. Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig ac mae’r aelodau’n croesawu ymwelwyr, gan gynnwys y rhai sy’n dysgu Cymraeg. Rhagor o wybodaeth oddi wrth AJ Emanuel 01978 359846

Côr Meibion byd enwog y Rhos sydd yn achlysur codi arian eleni ac, yn ymddangos ochr yn ochr â nhw am y tro cyntaf, bydd pedwar o bobl ifanc leol sy’n gobeithio cael gyrfaoedd ym myd cerddoriaeth: Harry Whiteley a Grace Thorne o Ysgol y Grango a Sioned Russell a Hannah Williams o Ysgol Morgan Llwyd. www.stiwt.co.uk

Am ddim – croeso i bawb

CYMRY GWYLLT WRECSAM 5 Mawrth, 10.00am – 6.00pm 6 Mawrth, 10.00am – 3.00pm Canol tref Wrecsam Dyma dystiolaeth bod Wrecsam yn gwybod sut i ddathlu ei ddiwylliant Cymreig gyda pharti mawr arall yng nghanol y dref! O godi glo a marchnadoedd i ddawnsio a chân, llond gwlad o fandiau pres, ynghyd ag artistiaid lleol, byddwn yn dathlu ein Hetifeddiaeth Gymreig, yng nghalon Wrecsam. Llaweroedd o stondinau’n gwerthu’r gorau o fwyd, diod a chrefftau Cymreig. Adloniant di-baid i’r teulu i gyd wrth i ni roi’r hwyl yn ôl yn Wrecsam! Achlysur am ddim – croeso i bawb!

CÔR MEIBION Y FRON

£10 / consesiynau £8. Tocynnau o swyddfa docynnau Theatr y Stiwt, 01978 841300 neu ar-lein: boxoffice@stiwt.co.uk

Dydd Mawrth 8 Mawrth, 6pm Eglwys San Silyn, Wrecsam Daw enw Dydd Mawrth Ynyd o ddefod Cyffesu y byddai Cristionogion yn arfer ei gwneud yn y gorffennol. Wrth gyffesu, bydd pobl yn cyfaddef eu pechodau ac yn derbyn maddeuant am eu pechodau. Dewch i Eglwys Blwyf San Silyn i ddysgu am wir ystyr Dydd Mawrth Ynyd. Bydd gwobrau hefyd i enillwyr y Rasys Crempog sy’n digwydd yn gynharach yn y diwrnod ar Sgwâr y Frenhines. Croeso i bawb

CERDDORFA SIAMBR CYMRU 11 Mawrth, 7.30pm Neuadd William Aston, Prifysgol Glyndŵr

CROESO’R CREMPOG! 8 Mawrth, 12 hanner dydd – 4.00pm Sgwâr y Frenhines, Wrecsam Mae myfyrwyr a staff o Goleg Iâl yn eich gwahodd i ymuno yn yr holl hwyl ar Sgwâr y Frenhines. Rhowch gynnig ar droi crempog a gweld sut mae rhedeg mewn ras grempog! Bydd ‘Ras Grempog mewn Gwisgoedd’ a chystadleuaeth ‘y Grempogen Orau’ ar gyfer plant a gall pawb nad ydynt yn ddigon dewr (neu wallgof efallai?) i ymuno ddysgu am yr hanes wrth wraidd yr ŵyl draddodiadol hon ac annog y timau sy’n cystadlu yn y ‘Ras Gyfnewid Crempog’. www.yale-wrexham.co.uk Achlysur am ddim – croeso i bawb

5 Mawrth, 7.30pm Neuadd William Aston, Prifysgol Glyndŵr Noswaith gerddorol gyda Chôr byd enwog y Fron a’u hunawdydd gwadd, Rhys Meirion. Bydd yr holl elw o’r cyngerdd hwn yn cael ei roi at Eisteddfod Genedlaethol Cymru, fydd yn dod i Wrecsam rhwng 31 Gorffennaf a 7 Awst 2011 £12 Tocynnau o Ganolfan Groeso Wrecsam 01978 292015

GWASANAETH CYFFESU DYDD MAWRTH YNYD

Anthony Hose (arweinydd) Jeremy Huw Williams (bariton) Bach, Cyfres Rhif 1 yn C BWV1066 Mahler, Kindertotenlieder Tchaikovsky, Andante Cantabile Mozart, Symffoni Rhif 29 yn A K201 £10 ac £8 Tocynnau o www.glyndwr.ac.uk/events 01978 293293

RADIOFAB!! Galw holl bobl ifanc 14-16 oed. Dyma eich cyfle i fod yn seren radio!! Ymunwch â’r sesiwn blasu hwn am awr, dan arweiniad cyflwynydd radio masnachol proffesiynol a dysgu am bob agwedd ar radio. Gan ddechrau efo hanes Radio yn y DU bydd y sesiwn yn symud ymlaen i gyflwyno a byddwch yn cael cyfle i fwynhau’r profiad ‘ymarferol’ o fod yn gyflwynydd radio ar Radio Coleg Iâl. 12 Mawrth, rhwng 10.00am a 3.00pm

CÔR MEIBION Y FRON

Stiwdio Radio Coleg Iâl Mynediad am ddim ond mae’n hanfodol cadw lle trwy e-bostio pl@yale-wrexham.ac.uk

Rheilffordd Wrecsam a Swydd Amwythig – Trenau uniongyrchol i Lundain o £55 dwyffordd.

09


Blwyddyn Diwylliant Wrecsam 2011

BATHODYNNAU BETHMA! Gweithdy hwyl i bob oed. Dewch â’ch tecstilau a delweddau eich hun a chreu eich bathodynnau proffesiynol yr olwg eich hun. 12 Mawrth, sesiynau galw heibio 10.00am – 12 hanner dydd a 1.00pm – 3.00pm Canolfan Thinc, Coleg Iâl Mynediad am ddim, ond tâl o 10c y bathodyn

CYNGERDD BAND MAWR BILL BASEY Dydd Llun 14 Mawrth, 8.30pm – 10.30pm Y Clwb (BICC/Pirelli gynt), Stad Ddiwydiannol Wrecsam Galw holl ddilynwyr jazz a Bandiau Mawr, yn ogystal â dawnswyr jeif a swing. Ymunwch â Bill a’i fand am noswaith o jazz a swing Band Mawr. Croeso i ddawnswyr! www.billbasey.com

PRINT-TASTIC

£3 talu wrth y drws. Y Clwb, Ffordd y Dderwen, Stad Ddiwydiannol Wrecsam, LL13 9RG 01978 662266

Achlysur argraffu hwyl i deuluoedd pryd y gall oedolion a phlant greu celfwaith rhyfeddol gan ddefnyddio dulliau argraffu syml. Addas i holl alluoedd. Bydd deunyddiau’n cael eu darparu ar y diwrnod.

DRAMA A DDYFEISIWYD GAN FYFYRWYR SAFON UWCH ASTUDIAETHAU DRAMA A’R THEATR

12 Mawrth, rhwng 10.00am a 3.00pm Y Ganolfan Argraffu Ranbarthol, Coleg Iâl, Wrecsam. £2 neu £5 y teulu (4). Oed isaf 6. Rhaid i holl blant fod yng nghwmni oedolyn Mae’n hanfodol cadw lle. Cysylltwch â’r Ganolfan Argraffu, Coleg Iâl, 01978 317329 estyniad 2291 neu e-bostio canolfanargraffu@yale-wrexham.ac.uk

FILM-TASTIC Y gweithdy hwn yw’r cyntaf mewn cyfres sy’n cwmpasu holl brosesau gwneud ffilm fer. 12 Mawrth, 10.00am – 12 ac 1.00pm – 3.00pm. I gadw lle, ebostiwch kmxb@yale-wrexham.ac.uk

15 Mawrth, 7.00pm a 16 Mawrth 1.30pm Theatr Iâl, Coleg Iâl, Wrecsam

TYMHORAU 16 Mawrth, 7.30pm Theatr y Stiwt, Rhosllannerchrugog Mae’r rhan fwyaf ohonom yn gwybod bod Vivaldi wedi cyfansoddi’r Pedwar Tymor, ond faint ohonom sy’n sylweddoli ei fod hefyd yn gyfrifol am ysgrifennu sonedau i fynd o flaen pob un o’r pedwar concerto ac iddo fod ar lwyfan yn eu perfformio? Yn y prosiect unigryw hwn, yn dwyn yr enw TYMHORAU, rydym wedi ceisio ail-greu syniad gwreiddiol Vivaldi. Bydd yr unig ferch Gadeiriog a Choronog yng Nghymru, y Dr Mererid Hopwood, yn perfformio gyda Cherddorfa Siambr yr Undeb Ewropeaidd, tra bydd Elin Manahan Thomas, y soprano o Abertawe, yn canu caneuon a drefnwyd gan Gareth Glyn o gylch o ganeuon y gyfansoddwraig Dilys Elwyn Edwards www.stiwt.co.uk £15 / consesiynau £14 / myfyrwyr £10. Tocynnau o Theatr y Stiwt 01978 841300/ www.stiwt.co.uk DS Mae hwn yn achlysur dwyieithog

Mae Myfyrwyr Safon Uwch Astudiaethau Drama a’r Theatr yn eich gwahodd i noswaith gymhellol a her ynddi o Ddrama a Ddyfeisiwyd. Mae gofyn i holl fyfyrwyr blwyddyn olaf Safon Uwch greu a pherfformio yn eu darnau gwreiddiol eu hunain o Ddrama a Ddyfeisiwyd ac yn aml cânt eu canmol am ansawdd uchel iawn eu gwaith. Bydd eu darnau’n ymchwilio i faterion cymdeithasol pwysig ac maent yn ddiffael yn ddifyr ac yn ysgogi meddwl. £8 Tocynnau o Swyddfa Docynnau Theatr Coleg Iâl, 01978 311794 estyniad 2701

VIVALDI

NOSWAITH Y MAER I DDATHLU DYDD GŴYL DEWI A DYDD SANT PATRICK 12 Mawrth, 7.30pm 7.30pm tan yn hwyr Y Neuadd Goffa, Stryt Caer, Wrecsam Eleni, bydd Achlysur elusen y Maer ar ffurf dathliad ar y cyd o Ddydd Gŵyl Dewi a Dydd Sant Patrick. Bydd perfformwyr Cymreig a Gwyddelig yn darparu’r adloniant a bydd y noswaith yn cynnwys bwffe poeth. Bydd yr holl elw’n mynd i Gronfa Elusen y Maer sy’n cefnogi Cymdeithas St Vincent de Paul ac Ymddiriedolaeth Pererindod Plant. Pris tocyn i’w gadarnhau. Tocynnau o’r Swyddfa Ddinesig, Neuadd y Dref, Wrecsam LL11 1AY 01978 292276/8/9 e-bost: mayoralty@wrexham.gov.uk 10

CERDDORFA GENEDLAETHOL GYMREIG Y BBC

Rheilffordd Wrecsam a Swydd Amwythig – Trenau uniongyrchol i Lundain o £55 dwyffordd.


www.yearofculture.co.uk

MR A MISS BLWYDDYN DIWYLLIANT WRECSAM 2011 – ROWNDIAU CYNTAF 18 Mawrth, 7.00pm – 11.00pm Gwesty Rossett Hall, Ffordd Caer, Yr Orsedd Rowndiau cyntaf cystadlaethau Mr a Miss Blwyddyn Diwylliant Wrecsam 2011. I gystadlu, cysylltwch â Su Su’s ar 01978 313217. Categorïau ar gyfer y ddau deitl yw 18-25 oed, 26-40 oed a 41 a hŷn. Bydd y rownd derfynol ar 15 Ebrill. £10 (yr holl elw at Hosbis Tŷ Gobaith). Tocynnau o Su Su’s, Stryt Yorke, Wrecsam 01978 313217.

CERDDORFA GENEDLAETHOL GYMREIG Y BBC 19 Mawrth, 7.30pm Neuadd William Aston Prifysgol Glyndŵr Arweinydd: Christophe Mangou Unawdydd: Jack Liebeck RHAGLEN: Gareth Glyn - Noswaith yn yr Opera Sibelius - Concerto i Ffidil Mendelssohn - Symffoni Rhif 3 (Albanaidd) £9 / £15 Tocynnau o Ganolfan Groeso Wrexham 01978 292015

NOSWAITH ENAID MOTOWN 19 Mawrth, 7.30pm – 12.30am Clwb RAFA, Ffordd Rhuthun, Wrecsam Ymunwch â ni yng Nghlwb RAFA Wrecsam am noswaith efo band enaid pennaf gogledd-orllewin Lloegr, Soul Patrol, a sesiwn gan DJ Denzil. Noson fawr allan wych i bawb sy’n caru Motown ac Enaid! £6.50 Tocynnau o Glwb RAFA, 01978 261221/07834 811525, Alun’s Film Nostalgia Store 01978 355577, 07870 223025, e-bost: djdonden@aol.com

DWY DDRAMA UN ACT 24 Mawrth – 2 Ebrill, 7.30pm Theatr Parc y Llwyni, Stryt yr Allt, Wrecsam ‘The Extraordinary Revelations of Orca the Goldfish’ gan David Tristram, dan gyfarwyddyd Brian Gilbert: Hanes hynod pâr priod Henry ac Alice, y mae eu perthynas ar y ffordd i drychineb, a dystiwyd yn unig gan eu pysgodyn aur Orca. ‘Lunch Hour’ gan John Mortimer, dan gyfarwyddyd Frieda Leech: Stori glasurol gan feistr o storïwr, John Mortimer, ynghylch carwriaeth amser cinio anfoesol sydd â chanlyniadau annisgwyl... £8 / £4.50 rhai dan 18. Tocynnau o Swyddfa Docynnau’r Theatr, 01978 351091 neu ar-lein yn www.groveparktheatre.co.uk

NOSWAITH GOMEDI 24 Mawrth, 8.30pm – 10.30pm Undeb y Myfyrwyr, Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam

NOSWAITH EFO CHARLIE LANDSBOROUGH 24 Mawrth, 7.00pm – 10.00pm Neuadd William Aston, Prifysgol Glyndŵr, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam Fel rhan o’i Daith Gwanwyn 2011, mae Charlie Landsborough, y canwr / cyfansoddwr caneuon dawnus unigryw a phoblogaidd dros ben, yn gwneud ei ymweliad cyntaf â Wrecsam. Bydd Charlie a’i fand pum darn bob amser yn cyfareddu cyngherddwyr. Efo’i hanesion deniadol a dogn da o ddigrifwch yn ei chanol hi, mae mor ddifyr ag y mae’n soniarus. Mae cerddoriaeth Charlie’n rhedeg o ysbrydoledig i ganu gwlad, o faled i anthem, ac mae’n taro’r hoelen ar ei phen bob tro. £16.50 / £18.50. Tocynnau o Prifysgol Glyndŵr ac o Alun Hughes Film Music & Nostalgia, Marchnad y Bobl, Wrecsam

Yn gyntaf fydd Joe Rowntree, sydd wedi cynnal digrifwyr fel Rhod Gilbert a Stephen K Amos. Yn ei ddilyn bydd Danny Ward ac yna daw adloniant y noswaith i uchafbwynt efo Gary Delaney, rheolaidd ar y gylchdaith gomedi, sydd newydd ddychwelyd o lwyddiant ysgubol yng Ngŵyl Caeredin. £5 / £3 consesiynau a myfyrwyr. Dros 18 yn unig. Tocynnau o Brifysgol Glyndŵr 01978 293293 www.glyndwr.ac.uk/events

CHARLIE LANDSBOROUGH

Rheilffordd Wrecsam a Swydd Amwythig – Trenau uniongyrchol i Lundain o £55 dwyffordd.

11


Blwyddyn Diwylliant Wrecsam 2011

NOSON O LEISIAU A PHRES 26 Mawrth, 7.30pm Neuadd William Aston, Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam Eleni mae cyngerdd codi arian Clwb Rotari Wrecsam yn cyflwyno Cantorion Colin Jones – un o’r Corau Meibion gorau yng Ngogledd Cymru. Yn ymuno â hwy, ac yn ôl ar ôl mawr alw yn dilyn eu perfformiad rhagorol yn y Cyngerdd Elusen diwethaf, mae Pres Glyndŵr. Bydd yr holl elw o’r cyngerdd yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng Hosbis Tŷ’r Eos ac Ysgol Sant Christopher. £10 Tocynnau o Swyddfa Docynnau Prifysgol Glyndŵr 01978 293306 neu oddi wrth aelodau Rotari, y côr neu’r band.

PRES GLYNDŴR ADEILAD DIWYDIANNAU CREADIGOL PRIFYSGOL GLYNDŴR

AGORIAD SWYDDOGOL ADEILAD DIWYDIANNAU CREADIGOL PRIFYSGOL GLYNDŴR

CANTORION COLIN JONES

CYNHADLEDD DATHLU ADDYSG GREFYDDOL Arloesi a Chynyddu Cyraeddiadau TGAU Dydd Mawrth 30 Mawrth, 9.30am – 3.00pm Eglwys San Silyn, Wrecsam Fel rhan o Fis Cenedlaethol Dathlu Addysg Grefyddol, lluniwyd y gynhadledd hon, a drefnwyd ar y cyd â Phrifysgol Hope Lerpwl a CBAC, ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 9 i 11 sy’n astudio Astudiaethau Crefyddol TGAU Manyleb B CBAC. Bydd y gynhadledd yn cynnwys prif anerchiad gan Gee Walker o Sefydliad Anthony Walker, cyfle i holi panel o Gristionogion o wahanol enwadau a chyfres o weithdai. Achlysur am ddim, ond mae tâl archebu ad-daladwy o £10. Tocynnau o Liverpool Community Spirit 0151 709 3171 e-bost: matthew.dolan@community-spirit.org.uk 12

Dydd Iau 31 Mawrth Adeilad y Diwydiannau Creadigol, Prifysgol Glyndŵr, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam Bydd agor Adeilad Diwydiannau Creadigol Prifysgol Glyndŵr yn darparu cyfleuster newydd cyffrous i fyfyrwyr a busnesau sy’n gweithio yn y sector creadigol. Ymysg pethau eraill, bydd yr adeilad yn cynnwys stiwdio deledu, ystafell ôlgynhyrchu, gweithdy digidol 3D, a chyfleuster hyfforddiant yn y cyfryngau i gyd o’r diweddaraf. Bydd yn tynnu at ei gilydd y myrdd gwyddorau cysylltiedig â’r diwydiannau creadigol a bydd yn gyfleuster pwysig wrth ddatblygu cysylltiadau agosach rhwng ochrau academaidd a phroffesiynol y sector. Mae agor yr adeilad yn hyrwyddo ymroddiad y Brifysgol i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Adran Farchnata, Prifysgol Glyndŵr 01978 293931

Adrannau Datblygiad Economaidd a Hamdden, Llyfrgelloedd a Diwylliant Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’u partneriaid yn dod â Blwyddyn Diwylliant Wrecsam 2011 i chi

Os ydych yn trefnu achlysur yn 2011 ac eisiau cael ystyried ei gynnwys yn un o’r tair rhaglen chwarterol sydd i ddod, cysylltwch â chydgysylltydd y rhaglen ar 01978 667320 neu e-bostio wrexhamyearofculture@wrexham.gov.uk DYLUNWYR Y RHAGLEN:

Dave Simkiss - dave.simkiss@nwn.co.uk John Gaulton - john.gaulton@nwn.co.uk

CYHOEDDI:

Argraffwyd a dosbarthwyd gan NWN Media. www.nwnmedia.co.uk Busnes yr Wyddgrug, Yr Wyddgrug CH7 1XYR

Rheilffordd Wrecsam a Swydd Amwythig – Trenau uniongyrchol i Lundain o £55 dwyffordd.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.