Maniffesto Ffermio Plaid Cymru

Page 1

PLAID CYMRU

MANIFFESTO FFERMIO Y fferm deuluol yw conglfaen amaethyddiaeth Gymreig. Yr ydym eisiau creu diwydiant ffyniannus, ac fe fyddwn yn gweithio gyda ffermwyr i roi’r gefnogaeth a’r adnoddau sydd eu hangen i adeiladu busnesau fferm cynaliadwy a chryf. Mae diwygio’r PAC a marchnadoedd ansefydlog yn gwneud amodau busnes yn anodd. Yr ydym yn deall fod ar fusnesau angen sefydlogrwydd, a bod yn rhaid i ffermwyr gael cymaint o hyblygrwydd ag sydd modd er mwyn ymaddasu i’r heriau newydd maent yn wynebu. Dyna pam y gwrthwynebodd Plaid Cymru drosglwyddo 15% o Biler 1 PAC, a gymerodd dros chwarter biliwn o bunnoedd allan o bocedi ffermwyr Cymru. Dyna hefyd pam ein bod yn credu bod angen gwneud mwy i leihau biwrocratiaeth ddiangen. Mae Cymru yn ymfalchïo yn safon uchel ein cynhyrchu bwyd, ac y mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i dyfu ein sector bwyd a diod yng Nghymru. Yr ydym hefyd wedi ymrwymo o sicrhau bod y gymdeithas yn ehangach yn deall ac yn sylweddoli’r cyfraniad allweddol mae ffermio yn wneud i ffyniant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.

Amaethyddiaeth • Bydd Plaid Cymru yn gweithio er mwyn gwneud yn siŵr fod y Polisi Amaethyddol Cyffredin yn gweithio i ffermwyr Cymru ac fe wnawn yn siŵr fod pob ffermwr yn derbyn eu Taliadau Sylfaenol erbyn Rhagfyr 1 2015. • Fe wnawn yn sicr fod cyllid y Rhaglen Datblygu Gwledig yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol, yn arbennig trwy dargedu buddsoddiadau ar ffermydd er mwyn gwella sgiliau a chryfhau seilwaith. • Byddwn yn sicrhau fod cyrff cyhoeddus sy’n prynu bwyd a diod yn cael mwy o’u cynnyrch yn lleol, gan gefnogi ffermwyr Cymru a swyddi Cymreig


• Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i leihau biwrocratiaeth yn y diwydiant amaethyddol. Fe fyddwn yn ymdrechu’n galetach i gael gwared â biwrocratiaeth i ffermwyr gan gychwyn trwy ddileu’r rheol aros 6 diwrnod cyn symud. • Fe wnawn amddiffyn ffermwyr llaeth Cymru trwy ehangu swyddogaeth Dyfarnwr y Cod Bwydydd i gynnwys ffermwyr llaeth a chryfhau’r Cod Llaeth sy’n rhoi gwell gwarchodaeth i ffermwyr llaeth yn eu perthynas gontractaidd gyda phroseswyr llaeth. • Mae Plaid Cymru yn pryderu am y cwymp yn nifer y lladd-dai sy’n gweithredu yng Nghymru a buasem yn gweithio gyda lladd-dai dros y ffin i’w hannog i agor canolfannau yng Nghymru ac ar yr un pryd yn annog a hwyluso mentrau lleol sy’n chwilio am gyfalaf menter neu berchenogaeth gydweithredol i ail-agor lladd-dai ar hyd a lled y wlad. • Yr ydym yn deall pwysigrwydd cynllunio olyniaeth busnesau fferm. Bydd Plaid Cymru yn adolygu’r cymhellion ariannol allai helpu i hwyluso cyflwyno’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr i’r diwydiant. Byddwn hefyd yn cefnogi mentrau sydd yn annog mwy o bobl ifanc i fewn i amaeth. Mae’r rhain yn cynnwys y Cynllun Cefnogi Newydd-Ddyfodiaid a thechnegau rheoli tir mwy arloesol megis ffermio trwy rannu. • Mae cenedl amaethyddol fel Cymru mewn sefyllfa dda i arwain y byd mewn mentrau newydd ym maes iechyd a lles anifeiliaid. Mae Plaid Cymru yn cefnogi creu canolfan ymchwil arbenigol ar gyfer y sector hwn, a fydd yn gysylltiedig yn y pen draw â sefydlu ysgol filfeddygol i Gymru. • Buasem yn adolygu’r rheolau cynllunio er mwyn caniatáu mwy o ddatblygiad ar ffermydd fel y gall teuluoedd barhau i fyw a gweithio ar yr un fferm pan fydd y plant yn prifio ac yn magu eu teuluoedd eu hunain.


Hyrwyddo ein Cynnyrch • Bydd Plaid Cymru yn parhau i hybu bwyd a diod Cymru gartref a thramor trwy statws yr Enw Tarddiad Gwarchodedig Ewropeaidd (PDO) a’r Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI). Yr ydym eisiau hybu cynhyrchion ffermydd Cymru yn well trwy agor marchnadoedd rhyngwladol newydd i’n cynnyrch safonol. • Byddwn yn dwysau ymdrechion i ychwanegu gwerth at gynnyrch Cymreig trwy gynyddu prosesu lleol – gan gadw’r gwerth ychwanegol a swyddi ychwanegol yn economi Cymru. • Mae Plaid Cymru yn gryf o blaid lleoleiddio’r gadwyn fwyd. Bydd hyn yn lleihau ‘milltiroedd bwyd’, yn cefnogi ffermydd lleol, cyfleusterau prosesu a marchnadoedd ffermwyr. • Bydd Plaid Cymru yn diwygio rheolau’r Lefi Cig Coch er mwyn sicrhau bod y lefi a godir ar dda byw Cymreig yn mynd tuag at hybu cynnyrch Cymru. Mae’r rheoliadau presennol yn golygu fod Hybu Cig Cymru ar eu colled o £1 miliwn y flwyddyn sydd yn hanfodol er mwyn agor marchnadoedd newydd. • Byddwn yn parhau i wrthweithio ‘twyll bwyd’ trwy weithio’n agos rhwng llywodraethau yn Ynysoedd Prydain ac ar lefel Ewropeaidd er mwyn sicrhau na thorrir safonau ansawdd bwyd, gan gynnwys gwrthwynebu gostwng trothwyon ansawdd fel rhan o drafodaethau masnach rhwng yr UE-UDA. • Mae Plaid Cymru yn cefnogi labelu bwyd clir a diamwys, yn enwedig o ran gwlad tarddiad. • Mae Plaid Cymru yn cefnogi Cymru rydd o GM, ac fe fyddwn yn ceisio gwarantau am effaith croesbeillio os bydd Llywodraeth y DG yn bwrw ymlaen gyda chynlluniau i gyflwyno cnydau GMO yn Lloegr. • Mae Plaid Cymru yn cefnogi’r strategaeth Twf Glas i gryfhau economi’r môr, gan gysylltu ag economi’r tir i gynhyrchu gwerth ychwanegol trwy farchnadoedd lleol a chynhyrchion newydd ac arloesol.


Ein Bywyd Gwledig • Yr ydym wedi ymrwymo i gyflwyno band eang cyflym iawn i 100% o Gymru er mwyn sicrhau bod pawb wedi’u cysylltu ac y gall pawb gynnal busnes o’u cartrefi. • Mae’n hanfodol hefyd cadw pobl mewn cysylltiad y tu allan i’r cartref, a byddai Plaid Cymru yn sicrhau mynediad ehangach at ddata symudol 3G a 4G mewn ardaloedd gwledig a gorfodi rhwydweithiau i ganiatáu crwydro data yng Nghymru er mwyn gofalu fod pob rhan o’r wlad wedi eu cysylltu. • Bydd Plaid Cymru yn ymladd i wneud yn sicr y dygir Cymru wledig i mewn i gynllun Ad-daliad Tanwydd Gwledig yr UE fydd yn golygu gostyngiad o 5c ym mhris tanwydd i ardaloedd gwledig.

• Byddwn yn amddiffyn yr Oblygiad Gwasanaeth Cyffredinol i wasanaethau post fel bod llythyrau a pharseli yn costio’r un faint ble bynnag y cânt eu hanfon. • Bydd Plaid Cymru yn sicrhau mynediad rhwydd at ofal iechyd mewn ardaloedd gwledig, gan sicrhau bod digon o feddygon teulu yn cael eu recriwtio. • Yr ydym wedi ymrwymo i sicrhau y bydd yn hawdd cyrchu ysbytai cyffredinol ar hyd a lled Cymru.

PLEIDLEISIWCH PLAID CYMRU AR GYFER Y FARGEN ORAU I GYMRU AR MAI 7fed 2015 Argreffwyd gan Plaid Cymru, Marine Chambers, Atlantic Wharf, Caerdydd, CF10 4AL Hyrwyddwyd gan


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.