Haf 2019
Y Ddraig Goch Rŷn ni wedi creu hanes! Gan Jill Evans ASE
F
e wnaethon ni greu hanes yn etholiad Ewrop. Ledled y wlad fe wnaethom ennill cefnogaeth i achos clir a chadarnhaol Plaid Cymru dros i Gymru aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Fe wnaethom guro’r Blaid Lafur mewn etholiad dros Gymru gyfan am y tro cyntaf yn 94 mlynedd ein hanes. Mae gwleidyddiaeth yng Nghymru wedi newid. Gwn y bydd pob un ohonom yn gweithio’n galetach erioed i wneud yn siŵr ein bod yn troi’r fuddugoliaeth gyntaf hon yn gyfres o enillion. Cynyddodd pleidlais Plaid Cymru ac fe wnaethom brofi mai ni yw’r blaid flaenaf yng Nghymru sydd o blaid aros. Fe wnaeth pobl ymddiried ym Mhlaid Cymru oherwydd i ni fod yn onest, yn unedig, clir a chyson yn ein neges ei bod er budd Cymru i aros yn yr UE. Wnawn ni ddim ildio yn ein hymgyrch dros Bleidlais y Bobl. Mae San Steffan wedi gwneud tro gwael â Chymru. Rhaid i’r bobl gael y llais terfynol. Mae’n llwyddiant i’w briodoli i waith diflino fy nghyd-ymgeiswyr, staff y blaid a’r aelodau etholedig a’r aelodaeth. Rwy’n hynod ddiolchgar i chi oll. Rydym yn wastad wedi dweud, lle byddwn yn gweithio, byddwn yn ennill. Unwaith eto, rydym wedi profi hyn trwy gofnodi canlyniadau anhygoel o Wynedd i Gaerdydd, o Fro Morgannwg i Geredigion. Fe wnaethom weithio fel tîm effeithiol, gan ddefnyddio arbenigedd a sgiliau’r blaid ar bob lefel. Fel y gwyddom, nid diwedd ymgyrch yw canlyniad etholiad – megis dechrau ydyw. Rwyf wrth fy modd cael fy ail-ethol yn ASE drosoch
Draig Goch - Welsh Nation Haf 2019.indd 1
ac yr wyf yn addo gweithio’n ddiflino dros Gymru yn Ewrop, fel y gwneuthum ers blynyddoedd. Diolch i chi am ymddiried ynof i wneud hynny. Rydym yn haeddu dathlu ein canlyniad yn etholiad Ewrop. Pan fyddwn yn gwneud yn dda, fe ddylem gydnabod hynny. Yr ydym oll yn ymwybodol o’r peryglon i Gymru o gael ein llusgo allan o’r UE. Y mae dewis arall. Fe allwn gael dyfodol gwell. Mae’r gystadleuaeth am arweinyddiaeth y Torïaid yn gwneud y perygl yn fwy real a’r her yn llymach. Mae ar ein gwlad angen gweithredu sydyn a radical i droi’r llanw ar Brexit ac i droi’r pendil ymaith oddi wrth dlodi a thuag at ffyniant. Mae ein cenhadaeth fel plaid yn glir. Rydym yn Gwneud i Gymru Gyfrif. Dyna’r rheswm dros fodolaeth Plaid Cymru . Fe wnaethom hynny yn yr etholiadau hyn, a byddwn yn parhau i wneud hynny yn awr. Gwyddom fod ffordd i ni roi terfyn ar y difrod mae San Steffan yn parhau i’w achosi i’n cenedl. Mae gennym weledigaeth o Gymru fel cenedl annibynnol wrth galon Ewrop. Fe wnaethom gyflwyno ein syniadau ar gyfer
02/08/2019 12:42