Cynigion - Motions

Page 1

Cynigion 1 Motions 1 Cofrestr Cynhyrchwyr Bwyd Lleol Noda'r Gynhadledd Bod gan Gymru draddodiad hir o gynhyrchu bwyd ac enw da am gynnyrch o safon uchel, gyda rhai bwydydd â statws PDO. Er bod cynnyrch Cymru wedi ennill bri dramor, yn aml dydyn ni'r Cymry ddim yn ymwybodol o'r cynnyrch Cymreig gwych sydd ar gael yn ein hymyl. Cred y Gynhadledd Y dylem i gyd chwarae rhan mewn cefnogi ein heconomi leol a'r cwmnïau bychain a chanolig eu maint sydd i raddau helaeth yn ei chynnal. Pe hysbysid tai bwyta ac awdurdodau lleol Cymru o'r cynhyrchwyr lleol, gallem gadw mwy o arian Cymru o fewn ein heconomi genedlaethol. Geilw'r Gynhadledd Ar awdurdodau lleol i greu rhestr o gynnyrch bwyd, rhestr gynhwysfawr o gynhyrchwyr bwyd o fewn ardal yr awdurdod lleol a fydd ar gael i'r cyhoedd a busnesau lleol gyda'r nod o hyrwyddo cynnydd yn y defnydd o gynnyrch lleol a chefnogi'r economi leol. Etholaeth y Rhondda

Local Food Produce Register Conference Notes Wales has a long history of food production, gaining a reputation for high quality products and some with PDO status. While some Welsh produce has achieved great success overseas, we as a nation are typically not aware of the great Welsh produce available on our doorsteps. Conference Believes We should all play a part in supporting our local economy and SME's who make up the majority of it. If eateries in Wales and local authorities were made aware of local producers, we could keep more of the Welsh pound in the Welsh economy. Conference calls On local authorities to create a food produce register; a comprehensive list of local food producers in the local authority area which will be made freely available to the public and local businesses with the aim of encouraging an increase in the consumption of local produce and supporting the local economy. Rhondda Constituency


Cynigion 2 Motions 2 Cod Ymddygiad Cyfryngau Cymdeithasol Noda'r Gynhadledd: · Fod oddeutu 17.7 miliwn o fenywod ar draws Cymru, yr Alban a Lloegr dros 16 oed yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol; · Fod un o bob pump o fenywod yn y DG wedi profi difenwi neu aflonyddu trwy'r cyfryngau cymdeithasol, gyda 27% wedi derbyn bygythiadau uniongyrchol neu anuniongyrchol o drais corfforol neu rywiol, a bod 36% wedi eu gadael yn teimlo bod eu diogelwch corfforol dan fygythiad; · Yr amcangyfrifwyd bod 65,900 o ferched 10-15 oed a 306,700 o fenywod dros 16 oed yng Nghymru a Lloegr wedi dioddef troseddau treisgar yn 2016-17; · Bod 1,235,000 o fenywod wedi dioddef trais yn y cartref yng Nghymru a Lloegr yn 2016-17. Cred y Gynhadledd: · Bod yn rhaid i roi terfyn ar drais yn erbyn merched a menywod fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth y DG; · Bod trais yn erbyn menywod, yn enwedig menywod sy'n weithgar yn wleidyddol, yn digwydd yn rheolaidd ar-lein ac ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol; · Y dylid newid y modd y mae cwmnïau cyfryngau cymdeithasol yn rhoi llwyfan i'r sawl sy'n camdrin; · Y dylid gorfodi cwmnïau cyfryngau cymdeithasol i gymryd cyfrifoldeb am y cynnwys maent yn gyhoeddi, a'u dal i gyfrif os gwrthodant weithredu yn erbyn y sawl sy'n cam-drin wrth weithredu ar eu llwyfannau. Penderfyna'r Gynhadledd: · Y dylai Llywodraeth y DG gyflwyno cod ymarfer statudol i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol er mwyn sicrhau bod modd mynd i'r afael yn gyflym ac effeithiol gyda chamdriniaeth ar-lein; · Y dylai cwmnïau cyfryngau cymdeithasol fod yn destun camau cyfreithiol os na fyddant yn ymdrin yn effeithiol â digwyddiadau o gamdriniaeth ar-lein; · Y dylai Llywodraeth y DG gydgyfnerthu'r holl statudau presennol sydd yn ymdrin â throsedd arlein yn un darn o ddeddfwriaeth gynhwysfawr sy'n cynnwys pob trosedd ac yn cau unrhyw dyllau dianc sy'n bodoli ar hyn o bryd; Penderfyna'r Gynhadledd ymhellach: · Y dylai Gwasanaeth Erlyn y Goron adolygu a chyfoesi Safonau Erlyn ar gyfer camdriniaeth ar-lein er mwyn gofalu bod y troseddau hyn yn cael eu cymryd o ddifrif a bod y dedfrydau yn adlewyrchiad cywir o ddifrifoldeb y drosedd; · Y dylai'r Coleg Plismona gyhoeddi Canllawiau Arfer Proffesiynol Cydnabyddedig i bob llu er mwyn sicrhau cysondeb mewn safonau a throthwyau ymchwilio. Merched Plaid

https://www.amnesty.org.uk/press-releases/more-quarter-uk-women-experiencing-online-abuse-andharassment-receive-threats ONS Population Estimates


Social Media Code of Conduct Conference notes that: · Approximately 17.7 million women across Wales, Scotland and England aged over 16 use social media; · One in five women in the UK have experienced abuse or harassment through social media, with 27% having received direct or indirect threats of physical or sexual violence and 36% left feeling that their physical safety had been threatened; · An estimated 65,900 girls aged 10-15 and 306,700 women aged over 16 in England and Wales were victims of violent crime in 2016-17; · There were 1,235,000 female victims of domestic violence in England and Wales in 2016-17. Conference believes that: · Ending violence against women and girls must be a priority of the UK Government; · Violence against women, particularly politically active women, regularly occurs online and on social media platforms; · Changes should be made to the way in which social media companies provide a platform for abusers; · Social media companies should be forced to take responsibility for the content they publish, and be held accountable if they refuse to take action against perpetrators of abuse operating on their platforms. Conference resolves that: · The UK Government should introduce a statutory code of practice for social media companies to ensure online abuse is tackled swiftly and effectively; · Social media companies should be subject to legal action if they fail to adequately tackle incidents of abuse online; · The UK Government should consolidate all existing statutes that cover online crime into a single piece of comprehensive legislation that covers all offences and closes existing loopholes; Conference further resolves that: · The Crown Prosecution Service should review and update Prosecution Standards for online abuse to ensure that these crimes are taken seriously and the sentencing accurately reflects the severity of the crime; · The College of Policing should issue Approved Professional Practice Guidelines to all forces to ensure consistency in investigative standards and thresholds. Merched Plaid

https://www.amnesty.org.uk/press-releases/more-quarter-uk-women-experiencing-online-abuse-andharassment-receive-threats ONS Population Estimates


Cynigion 3 Motions 3 Cynllunio Noda'r Gynhadledd: i. Fod rhai ardaloedd o Gymru yn dioddef o ddiffyg tai addas, fforddiadwy; ii. Fod rhai datblygiadau tai yn cael eu codi lle nad oes angen lleol a/neu lle nad oes seilwaith a chyfleusterau priodol ar eu cyfer. Mae hyn yn cael effaith andwyol ar hyfywdra ein cymunedau. iii. Bod Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Pedwerydd Cynulliad wedi dod i'r casgliad y gallai fod yn ymarferol caniatáu i awdurdodau lleol greu eu rhagolygon eu hunain ar gyfer poblogaeth ac aelwydydd, yn hytrach na dibynnu ar yr amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol wrth greu Cynlluniau Datblygu Lleol. iv. Bod Cynllun Datblygu Lleol arloesol ar y Cyd Gwynedd a Môn, a fabwysiadwyd yn 2017, yn cyflwyno polisi ynghylch “Tai Marchnad Leol”. v. Bod llythyr gan Gomisiynydd y Gymraeg at Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2016, yn dweud mai “un o'r diffygion mwyaf yn y broses gynllunio yng Nghymru ar hyn o bryd yw'r diffyg arweiniad a gynigir i awdurdodau cynllunio ar fethodoleg safonol a chyson ar gyfer cynnal asesiadau effaith cynllunio ar yr iaith Gymraeg”. vi. Bod prinder tystiolaeth i ddangos y berthynas rhwng y system gynllunio, datblygiadau tai, a newid ieithyddol mewn cymunedau. Cred y Gynhadledd: I. Dylai'r gyfundrefn gynllunio yng Nghymru adlewyrchu'r angen am dai addas yn y llefydd cywir yn unol ag angen lleol. ii. Dylai'r gyfundrefn gynllunio roi mwy o lais i gymunedau ynghylch datblygiadau yn eu hardaloedd. iii. Dylai'r gyfundrefn gynllunio alluogi cynllunio holistaidd ar y lefel priodol. Mae angen i Lywodraeth Cymru: i. Gydnabod fod gan y gyfundrefn gynllunio rôl i'w chwarae wrth gynnal a chreu cymunedau hyfyw fel ffordd o sicrhau iechyd a llesiant pobl Cymru. ii. Gynnwys datganiad clir ynghylch pwysigrwydd a pherthnasedd y Gymraeg wrth gynllunio sut i ddefnyddio tir yn ei Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, y Cynlluniau Datblygu Strategol a'i holl bolisïau cynllunio lefel uchel. iii. Ddiwygio Nodyn Cyngor Technegol 20 ar fyrder er mwyn rhoi mwy o eglurder am y Gymraeg. iv. Ddiwygio Nodyn Cyngor Technegol 1 sy'n ymdrin ag argaeledd bancio tir. v. Greu Arolygiaeth Gynllunio ar wahân i Gymru. Geilw'r Gynhadledd ar Blaid Cymru: i. I ddatblygu cynlluniau arloesol er mwyn helpu pobl leol i brynu neu godi eu tai eu hunain. ii. I ddatblygu polisïau i gyfyngu ar ail gartrefi/tai haf. Ar gynghorau sir sy'n cael eu harwain gan Blaid Cymru i ddod ynghyd i: i. Ymchwilio'r berthynas rhwng y farchnad dai, y gyfundrefn gynllunio, a dirywiad neu dwf y Gymraeg fel iaith gymunedol. ii. Ddatblygu methodoleg gadarn i gynnal asesiadau angen lleol am dai ac asesiadau o effaith ieithyddol datblygiadau tai. iii. Rannu'r arferion da, y fethodoleg a'r prosesau a ddefnyddiodd awdurdodau lleol Gwynedd a Môn i greu'r polisi Tai Marchnad Leol, gyda golwg ar ledaenu'r polisi hwn yn ehangach. Grŵp y Cynulliad Cenedlaethol Gwelliant 1 O dan “Cred y Gynhadledd”: ychwanegu at bwynt i., ar ȏl “angen lleol”: “gyda sylw arbennig i'r math o dai sydd eu hangen, e.e. ar gyfer yr henoed, yr anabl, fflatiau i'r ifanc, a thai fforddiadwy.” Ychwanegu at bwynt ii., ar ȏl “yn eu hardaloedd”: “a chaniatáu i awdurdodau cynllunio, wrth roi caniatȃd i ddatblygwyr, nodi pa fath o dai fydd yn y datblygiad, a graddfa'r datblygiad o ran amser”. O dan “Geilw'r Gynhadledd ar Blaid Cymru”, ychwanegu at bwynt i., ar ȏl “brynu”: “neu rentu” Etholaeth Arfon


Gwelliant 2 O dan “Geilw'r Gynhadledd”, ychwaneger pwynt newydd: “iii. i ystyried y gall datblygu cynlluniau lleol fod yn gyfrifoldeb Cynghorau Tref a Chynghorau Cymuned” Etholaeth Ceredigion

Planning Conference notes: I. That some areas of Wales suffer from a lack of suitable, affordable houses; ii. That some housing developments are erected where there is no local need and/or where there are no appropriate infrastructure and facilities. This has an adverse effect on the viability of our communities. iii. That the Fourth Assembly's Environment and Sustainability Committee has concluded that it might be practicable to allow local authorities to create their own population and household forecasts, rather than depending on national population projections when drawing up Local Development Plans. iv. That Gwynedd and Môn's innovative Joint Local Development Plan, adopted in 2017, introduces a policy on “Local Market Housing”. v. That a letter from the Welsh Language Commissioner to the Welsh Government in March 2016, states that “one of the major deficiencies of the planning process in Wales at present is the lack of guidance offered to planning authorities on a standard and consistent methodology for carrying out planning impact assessments on the Welsh language”. vi. That there is a lack of evidence to demonstrate the relationship between the planning system, housing developments, and linguistic change in communities. Conference believes: i. That the planning system in Wales must reflect the need for suitable housing in the right places in accordance with local need. ii. That the planning system must give communities more of a voice in developments in their areas. iii. That the planning system must permit holistic planning at the appropriate level. The Welsh Government needs to: I. Recognise that the planning system has a role to play in maintaining and creating viable communities as a means of ensuring the health and welfare of the people of Wales. ii. Include a clear statement on the importance and relevance of the Welsh language in land use planning in its National Development Framework, the Strategic Development Plans and all higher-level planning policies. iii. Revise Technical Advice Note 20 as a matter of urgency to provide more clarity regarding the Welsh language. iv. Revise Technical Advice Note 1 relating to the availability of land banking. v. Create a separate Planning Inspectorate for Wales. Conference calls on Plaid Cymru – the Party of Wales: i. To develop innovative plans to help local people to buy or build their own houses. ii. To develop policies limiting second/holiday homes. On Plaid Cymru-led councils to come together to: i. Research the relationship between the housing market, the planning system, and the decline or growth of Welsh as a community language. ii. Develop a robust methodology to carry out local housing needs assessments and assessments of the linguistic impact of housing developments. iii. Share the good practice, methodology and processes used by Gwynedd and Môn local authorities to create the Local Market Housing policy, with a view to wider dissemination of this policy. National Assembly Group Amendment 1 Under “Conference believes”: in point i., add after “local need”: “with particular attention to the type of housing needed, e.g. for the elderly, the disabled, flats for young people, and affordable housing.” In point ii., add after “in their areas”: “and allow planning authorities, when giving consent to developers, to specify the type of housing, and the time-scale of the development.”


Under “Conference calls on Plaid Cymru”, insert in point i., after “to buy”: “or to rent” Arfon Constituency Amendment 2 Under “Conference calls on Plaid Cymru – the Party of Wales”, add a new point at the end: “iii. To consider that local development plans may be the responsibility of Town and Community Councils.” Ceredigion Constituency


Cynigion 4 Motions 4 Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg Noda'r Gynhadledd: · Fod dyletswydd statudol ar bob Awdurdod Lleol yng Nghymru i ddatblygu a gweithredu Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGAau), yn amlinellu mesurau i wella cynllunio darpariaeth addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn eu hardaloedd · Fod yn rhaid i'r cynlluniau gynnwys amserlenni ynghylch pryd a lle y bydd eu cynigion Band B (Ysgolion yr 21ain Ganrif) yn digwydd · Fod yn rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo pob CSGA, yn ôl gofynion Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 · Nad yw pob CSGA wedi ei gymeradwyo hyd yma · Siom Plaid Cymru at y diffyg cynnydd o ran paratoi a chymeradwyo CSGAau, a gyda'r diffyg manylion ynglŷn ag amserlenni y cynlluniau a gymeradwywyd. Geilw'r Gynhadledd: · Ar Grŵp Cynulliad Plaid Cymru i baratoi gwybodaeth ddigonol ar gynnydd cymeradwyo y CSGA sydd yn weddill i ganiatáu i'n Haelodau Cynulliad fynnu cwblhau'r broses gymeradwyo yn llawn, gan sicrhau bod yr holl gynlluniau yn cynnwys amserlenni penodol o ran cyflawni'r ddarpariaeth · Ar Aelodau Cynulliad Plaid Cymru i bwyso am i Lywodraeth Cymru gosbi'r awdurdodau lleol hynny sy'n methu â darparu'r gweithgareddau a'r ddarpariaeth a amlinellir yn eu CSGA Cymdeithas Cynghorwyr Plaid Cymru Gwelliant Dileu “Geilw'r Gynhadledd” a'r ddau bwynt sy'n ei ddilyn a rhoi'r canlynol yn lle: Geilw'r gynhadledd am ddiwygio'r ddeddfwriaeth a chryfhau'r rheoliadau er mwyn sicrhau CSGAau llawer mwy cynhwysfawr, ystyrlon ac uchelgeisiol. Grŵp y Cynulliad Cenedlaethol

Welsh Education in Strategic Plans Conference notes: · That each Local Authority in Wales has a statutory duty to develop and implement Welsh in Education Strategic Plans (WESPs), outlining measures to improve the planning of the provision of education through the medium of Welsh in its area · That the plans must contain time scales as to where and when their Band B (21st Century Schools) proposals are to take place · That all WESPs must be approved by Welsh Government ministers, as required by the Schools standards and organisation (Wales) Act 2013 · That not all Welsh in Education Strategic Plans (WESPs) have been approved at this time · Plaid Cymru – the Party of Wales' disappointment with the lack of progress in preparing and approving WESPs, and with the lack of detail relating to timescales in approved plans Conference calls: · On the Plaid Cymru Assembly Group to prepare sufficient information on the progress of the approval of remaining WESPs to allow our Assembly Members to demand a full completion of the approval process, ensuring that all plans include specific timescales for the delivery of provision. · For Plaid Cymru – the Party of Wales Assembly Members to press for the implementation of penalties by Welsh Government to Local Authorities that fail to provide the activities and provision outlined in their WESPs Plaid Cymru Councillors' Association Amendment Delete “Conference calls” and the two bullet points that follow it. Replace with: Conference calls to amend the legislation and strengthen regulations to ensure that WESPs are much more comprehensive, meaningful and ambitious. National Assembly Group


Cynigion 5 Motions 5 Llygredd Aer Noda'r Gynhadledd: i. Fel rhan o Lywodraeth Cymru'n Un, fod Plaid Cymru wedi blaenoriaethu agwedd fwy integredig at drafnidiaeth gyhoeddus. ii. Fod llygredd aer yn cyfrannu at ryw 2,000 o farwolaethau y flwyddyn yng Nghymru a'i fod wedi ei ddisgrifio gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fel argyfwng iechyd cyhoeddus o bwys, yn ail yn unig i ysmygu. i. Mai Heol Hafodyrynys yn Crumlin, Caerffili, yw stryd fwyaf llygredig y DG y tu allan i Lundain. ii. Fethiant Llywodraeth Lafur Cymru i amddiffyn safonau amgylcheddol mewn cytundeb rhynglywodraethol dros Fesur Ymadael yr UE. Croesawa'r Gynhadledd: Yr wythnos weithredu gan Blaid Cymru ar lygredd aer eleni o Fehefin 18 i 22 Geilw'r Gynhadledd ar lywodraeth Plaid Cymru yn y dyfodol i gyflwyno Deddf Awyr Lân i Gymru er mwyn: i. sicrhau mai dim ond cerbydau allyriadau-isel iawn fydd ar werth wedi 2030 ii. creu parthau awyr lân mewn trefi a dinasoedd iii. rhoi'r hawl i gymunedau osod offer monitro llygredd y tu allan i ysgolion ac ysbytai iv. creu seilwaith i alluogi awdurdodau lleol i gyflwyno taliadau llygredd a thagfeydd; a v. gosod cynllun cenedlaethol a rhanbarthol i leihau llygredd aer yng Nghymru. Grŵp y Cynulliad Cenedlaethol Gwelliant 1 Creu pwynt ii newydd yn yr adran 'Geilw'r Gynhadledd' 'Sicrhau isadeiledd gwefru cenedlaethol cyflym i annog pobl i newid eu cerbydau i rai trydan. Ail rifo'r gweddill Etholaeth Ynys Môn Gwelliant 2 Ychwaneger paragraff newydd ar ddiwedd y cynnig: Geilw'r Gynhadledd hefyd ar ein holl aelodau etholedig i hyrwyddo'r mesurau hyn yn syth, gan godi'r materion hyn, a chyflwyno mesurau aelod preifat neu fesurau, neu bolisi Cyngor pryd bynnag y fo'n bosib. Etholaeth Mynwy


Air Pollution Conference notes: i. As part of the One Wales Government, Plaid Cymru prioritised a more integrated approach to public transport. ii. Air pollution contributes to around 2,000 deaths per year in Wales and has been described by Public Health Wales as an urgent public health crisis, second only to smoking. i. Hafodyrynys Road in Crumlin, Caerphilly is the UK's most polluted street outside London. ii. The failure of Labour Welsh Government to defend environmental standards in intergovernmental agreement over EU Withdrawal Bill Conference welcomes: The week of action by Plaid Cymru on air pollution this year 18 to 22 June Conference calls on a future Plaid Cymru Government to introduce a Clean Air Act for Wales to: i. ensure only very low-emission vehicles will be for sale after 2030 ii. create clean air zones in towns and cities iii. give communities the right to place pollution-monitoring equipment outside of schools and hospitals iv. create an infrastructure to enable local authorities to introduce pollution and congestion charges; and v. set a national and regional plan to reduce air pollution in Wales. National Assembly Group Amendment 1 Under the section 'Conference Calls' insert new point ii 'Ensure a fast charging point infrastructure to encourage people to change to electric vehicles'. Renumber the remainder. Ynys MĂ´n Constituency Amendment 2 Add a new paragraph at end of motion: Conference also calls on all our elected representatives to promote these measures immediately, raising these issues, and introducing private member's Bills or Measures, or Council policy whenever possible. Monmouth Constituency


Cynigion 6 Motions 6 Cyllido Llywodraeth Leol Mae'r Gynhadledd yn cydnabod y gwaith hanfodol a wna Cynghorau Sir i ddarparu gwasanaethau hanfodol i'r gymuned. O amddiffyn plant i ddatblygu economaidd, o gynnal priffyrdd i ddarparu addysg, Cynghorau Sir sy'n allweddol o ran cyflwyno amrywiaeth sylweddol o wasanaethau. Fodd bynnag, mae effaith toriadau cyllideb flwyddyn ar ôl blwyddyn gan Lywodraeth Cymru wedi effeithio'n ddifrifol ac yn andwyol ar allu Cynghorau Sir i gyllido llawer o wasanaethau yn ddigonol i'r safon ddisgwyliedig. Mae llawer o gynlluniau cyfalaf yn cael eu cyllido'n anuniongyrchol gan Lywodraeth Cymru a San Steffan. Ymysg enghreifftiau mae'r rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a chynlluniau Diogelwch Cymunedol. Rhaid i gynghorau gyflwyno bidiau cynhwysfawr er mwyn ennill yr arian. Mae cost gweinyddu grantiau o'r fath yn sylweddol o ran adnoddau swyddogion cynghorau ac amser gweision sifil. Gall cost bidiau o'r fath a'u gweinyddu wedyn fod cyn uched â 25% o'r holl arian sydd ar gael. Geilw'r Gynhadledd ar ACau ac ASau Plaid Cymru i wrthwynebu'r polisi o roi grantiau penodol, a chefnogi yn hytrach gyllido gwasanaethau cynghorau yn iawn gan roi i gynghorwyr etholedig yr awdurdod i bennu blaenoriaethau lleol. Cymdeithas Cynghorwyr Plaid Cymru

Local Government Funding Conference recognises the essential work that County Councils undertake to provide vital services to the community. From child protection to economic development, from the maintenance of highways to education, it is County Councils that are instrumental in delivering a significant range of services. However, the impact of year on year budget cuts from the Welsh Government has severely and adversely affected the capacity of County Councils to fund adequately the many services to the standard expected. Many capital schemes are funded indirectly by Welsh Government and Westminster. Examples include the 21st Century Schools programme and the Community Safety schemes. Councils have to submit comprehensive bids in order to win funding. The costs of administrating such grants is significant both in terms of council officer resources and civil servant time. The costs of such bids and their subsequent administration can be as high as 25% of the total funds available. Conference calls for Plaid Cymru AMs and MPs to resist the policy of specific grants, and instead support the proper funding of council services allowing elected councillors the authority to determine local priorities. Plaid Cymru Councillors' Association


Cynigion 7 Motions 7 Dadgriminaleiddio Noda'r Gynhadledd: · Y gwahaniaeth rhwng dadgriminaleiddio a rheoleiddio neu gyfreithloni. · Fod y rhan fwyaf o bobl sy'n defnyddio cyffuriau yn gwneud hynny fel dull o hamddena ac nad ydynt yn creu problemau. · Mai cyfran fechan o ddefnyddwyr cyffuriau sydd mewn gwirionedd yn camddefnyddio cyffuriau. · Fod Portiwgal wedi dadgriminaleiddio pob cyffur ers 2001, ac wedi cyfeirio'r sawl a gafwyd â chyffuriau yn eu meddiant tuag at iechyd ac addysg yn hytrach na chyfiawnder troseddol. · Fod y marwolaethau cysylltiedig â chyffuriau am bob miliwn o bobl ym Mhortiwgal oddeutu un rhan o ddeg o gyfradd y DG. · Y dylid defnyddio'r system cyfiawnder troseddol yn unig i gosbi'r sawl sy'n peri niwed i eraill. · Nad yw'r rhan fwyaf o'r sawl sy'n defnyddio cyffuriau at ddibenion hamdden yn peri unrhyw niwed i eraill ac na ddylent fod yn destun cosb gan y wladwriaeth. Cred y Gynhadledd: · Fod y rhyfel ar gyffuriau (fel y gwaharddiad ar alcohol o'i flaen) wedi bod yn fethiant truenus ac felly y mae hyd heddiw. · Fod i gamddefnyddio unrhyw sylwedd, cyfreithlon neu anghyfreithlon, botensial i greu niwed, ac nad ydym yn pledio defnyddio'r sylweddau hyn. · Er gwaethaf cynghorion ac addysg, y bydd niferoedd mawr yn parhau i arbrofi gyda sylweddau anghyfreithlon, ac na roddir terfyn ar gyflenwi troseddol tra bod yn galw'n cynyddu fwyfwy. · Na ddylid criminaleiddio unrhyw ddefnyddiwr na chamddefnyddiwr cyffuriau. · Y dylid rhoi cyngor a gwybodaeth i ddefnyddwyr amser hamdden. · Y dylid cynnig cyngor ar leihau niwed i'r rhai sy'n camddefnyddio cyffuriau ac yn creu problemau, a chynnig mesurau neu gefnogaeth o ran triniaeth. · Mai salwch, nid trosedd, yw bod yn gaeth i unrhyw sylwedd. · Na fydd criminaleiddio'r sawl sy'n gaeth i unrhyw sylwedd, cyfreithlon neu anghyfreithlon, yn gwneud dim i'w helpu i drawsnewid eu bywydau. · Nad yw dargyfeirio defnyddwyr cyffuriau problemus o raid yn gofyn am newid deddfwriaethol ac y gellir gwneud hyn trwy newid diwylliant. Penderfyna'r Gynhadledd: · Gefnogi dadgriminaleiddio pob cyffur. · Alw ar yr holl Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd i gyflwyno cynllun dargyfeirio I wyro'r sawl a ganfuwyd ym meddiant symiau bach o gyffuriau ymaith oddi wrth yr asiantaethau cyfiawnder troseddol ac at iechyd cyhoeddus (camddefnyddio) ac addysg (defnydd amser hamdden). · Alw ar y Swyddfa Gartref i glirio record droseddol y sawl a rybuddiwyd neu a gafwyd yn euog o fod ym meddiant cyffuriau a lle nad oes unrhyw ffactorau gwaethygu. (www.unlock.org.uk) · Gefnogi grwpiau ymgyrchu sy'n ceisio diwygio polisïau cyffuriau yn San Steffan ac yng Nghymru. Plaid Ifanc


Decriminalisation Conference notes: · The difference between decriminalisation and regulation or legalisation. · That most people who use drugs do so recreationally and are not problematic. · That only a small proportion of drug users actually misuse drugs. · That Portugal has decriminalised all drugs since 2001, and has diverted those found in possession towards health and education rather than criminal justice. · That the drug related deaths rate per million people in Portugal is about one tenth of the UK rate. · That the criminal justice system should only be used to punish those that cause harm to others. · That most recreational drug users cause no harm to others and should not be subject to punitive sanctions by the state. Conference believes: · That the war on drugs (as alcohol prohibition before it) was and is an unmitigated failure. · That the abuse of any substance, legal or illegal, has the potential to cause harm, and that we do not advocate consuming these substances. · That, despite advice and education, vast numbers will continue to experiment with illegal substances, and criminal supply will not cease whilst demand is ever-increasing. · That no drug user or misuser should be criminalised. · That recreational users should be provided with information and advice. · That problematic drug misusers should be offered harm-reduction advice and measures or support in treatment. · That addiction is an illness and not a crime. · That criminalising those that have any addiction, legal or illegal, will do nothing to help them turn their lives around. · That effective diversion of problematic drug users does not necessarily require legislative change and can be achieved via a cultural shift. Conference resolves: · To support the decriminalisation of all drugs. · To call on all Police and Crime Commissioners to introduce a diversionary scheme to divert minor possession of drugs away from criminal justice agencies and into public health (misuse) and education (recreational use). · To call on the Home Office to cleanse the criminal records of those cautioned or convicted of possession of drugs and where there are no aggravating features.(www.unlock.org.uk). · To support campaign groups who seek to reform drug policy both in Westminster and in Wales. Plaid Ifanc


Cynigion 8 Motions 8 Strategaeth Fuddsoddi i Gymru Gyfan Noda'r Gynhadledd: i. Yr angen i sicrhau cydraddoldeb buddsoddi i bob rhan o Gymru er mwyn sicrhau bod ffyniant yn cael ei rannu ii. Gan resynu fod lefel gwariant cyfalaf Llywodraeth Lafur Cymru ar seilwaith yn y deddwyrain ddwywaith yr hyn ydyw y pen yn y gogledd a theirgwaith yr hyn ydyw yn y canolbarth a'r gorllewin Geilw'r Gynhadledd ar Lywodraeth nesaf Plaid Cymru i wneud y canlynol: i. Cyflwyno Bil Adnewyddu Rhanbarthol fyddai'n lledaenu ffyniant ar draws Cymru ac yn blaenoriaethu ardaloedd difreintiedig ar gyfer buddsoddi; ii. Buddsoddi mewn Rheilffordd Genedlaethol i'r gorllewin, o Gaerfyrddin i Fangor a Môn; iii. Creu nifer o Awdurdodau Datblygu Rhanbarthol, gan gynnwys un i'r Cymoedd ac un i'r gorllewin gwledig; iv. Blaenoriaethu lleoli swyddi newydd y sector cyhoeddus a sefydliadau cenedlaethol newydd yn yr ardaloedd hynny o Gymru sydd angen swyddi a buddsoddiad; v. Gwella cysylltedd digidol ar hyd a lled Cymru a blaenoriaethu buddsoddiad yn yr ardaloedd gyda'r cysylltedd gwaethaf trwy sefydlu cwmni telegyfathrebu digidol sydd mewn dwylo cyhoeddus. Grŵp y Cynulliad Cenedlaethol

All Wales Investment Strategy Conference notes: i. The need to ensure parity of investment for all parts of Wales to ensure that prosperity is shared ii. With regret that the level of the Labour Welsh Government's capital expenditure on infrastructure in south-east Wales is twice that per head in north Wales, and three times that of mid and west Wales Conference calls on the next Plaid Cymru Government to: i. Introduce a Regional Renewal Bill that would spread prosperity across Wales and prioritise deprived areas for investment; ii. Invest in a National Railway for the West, from Carmarthen to Bangor and Anglesey; iii. Create a number of Regional Development Agencies, including one for the Valleys and one for rural west Wales; iv. Prioritise the location of new public sector jobs and new national institutions in areas of Wales in need of investment and jobs; v. Improve digital connectivity across Wales and prioritise investment in areas with the worst connection by establishing a publicly owned digital telco. National Assembly Group


Cynigion 9 Motions 9 Cydsyniad cyn Ymyrraeth Filwrol Noda'r Gynhadledd · fod gan y wladwriaeth Brydeinig hanes hirfaith o anwybyddu prosesau priodol pan ddaw'n fater o wrthdaro rhyngwladol · y gwnaed y penderfyniad i gynnal cyrchoedd awyr ar Syria yn unochrog gan Weinidogion y DG cyn pleidlais ôl-weithredol yn y Senedd · mai Llywodraeth Cymru sydd yn gyfrifol am gyllido addysg ffurfiannol aelodau o'r lluoedd arfog ac am ddarparu cefnogaeth gan y gwasanaethau cyhoeddus wedi iddynt adael y lluoedd · fod yr wyth cyrch awyr ar Syria yn unig wedi costio dros £6 miliwn, a bod pob trethdalwr yng Nghymru wedi cyfrannu at hyn · hyd yn oed petai pob Aelod Seneddol o Gymru yn gwrthwynebu ymyrraeth filwrol, y byddai llais Cymru'n cael ei drechu Cred y Gynhadledd · na allwn ganiatáu i bwerau tramor mawr barhau i ddweud wrthym beth ddylai ein polisi tramor fod · ei bod yn annirnadwy i gynllunio am ryfel heb gynllunio am heddwch, a bod unrhyw weithredu milwrol angen ei drafod a chraffu arno'n gywir · y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael cyfle i drafod mater mor bwysig sydd yn uniongyrchol berthnasol i Gymru · na ddylai Llywodraeth y DG allu cyhoeddi rhyfel a pheryglu bywydau ein meibion a'n merched heb gadarnhad y Cynulliad Cenedlaethol · y byddai gwneud penderfyniadau ar y cyd ar draws y wladwriaeth Brydeinig yn tynnu jingoistiaeth Brydeinig allan o benderfyniadau gwleidyddol ac yn arwain at bolisi amddiffyn seiliedig ar sicrwydd a diogelwch yn hytrach na'r camau gwag ymosodol fu mor drychinebus o fethiannus yn y gorffennol. Geilw'r Gynhadledd · fod angen cydsyniad dau Dŷ'r Senedd a chadarnhad Cynulliad Cenedlaethol Cymru i unrhyw weithredu milwrol uniongyrchol gan y DG. Grŵp San Steffan


Consent before Military Intervention Conference notes · the British state has a long history of ignoring proper process when it comes to international conflict · the decision to drop airstrikes in Syria was made unilaterally by UK Ministers before a retrospective vote in Parliament · the Welsh Government is responsible for funding the formative education of service personnel and in providing public service support after active duty · the eight airstrikes in Syria alone cost over £6 million, to which every Welsh taxpayer will have contributed · even if all Welsh Members of Parliament opposed military intervention, Wales's voice would be over ruled Conference believes · we cannot allow foreign superpowers to continue to dictate to us our foreign policy · planning for war without planning for peace is inconceivable and that any military action requires proper debate and scrutiny · the National Assembly for Wales should have the opportunity to debate a matter of such magnitude which is of direct relevance to Wales · the UK Government should not be able to declare war and put our sons' and daughters' lives in danger without the endorsement of our National Assembly · collective decision making across the British State would remove British jingoism from political decisions and lead to a defence policy based on security instead of the aggressive misadventures that have failed so spectacularly in the past. Conference calls · for any direct UK military action to require the consent of both Houses of Parliament and the endorsement of the National Assembly for Wales. Westminster Group


Cynigion 10 Motions 10 Technolegau Iaith Noda'r Gynhadledd y potensial enfawr mae technolegau iaith yn eu darparu o ran datblygu ieithoedd lleiafrifol yn benodol. Mae cyfathrebu symudol, cyfryngau cymdeithasol a rhyngwynebau seiliedig ar leferydd yn trawsnewid y ffordd mae pobl yn ymwneud â'i gilydd yn y byd digidol. Mae gan ieithoedd lleiafrifol a llai eu defnydd y mwyaf i'w ennill o dechnolegau iaith, ac eto, mae'r arfau a'r adnoddau ar eu cyfer yn aml yn brin, ac y mae bwlch technoleg yn lledu rhwng ieithoedd mwy a rhai llai eu defnydd. Mae angen gweithredu cyson ar y cyd i oresgyn hyn. Noda'r Gynhadledd fod gwaith arloesol eisoes yn cael ei wneud mewn prifysgolion yng Nghymru. Geilw'r Gynhadledd am fuddsoddi fel mater o frys mewn ymchwil i ddatblygu'r technolegau perthnasol ac i godi ymwybyddiaeth o'r manteision i unigolion, mudiadau, cyrff cyhoeddus a chwmnïau o gael gwasanaethau, cynnwys a chynhyrchion ar-lein ar gael mewn nifer o ieithoedd. Grŵp Ewrop

Language Technologies Conference notes the huge potential that language technologies provide for the development of minority languages in particular. Mobile communications, social media and speech based interfaces are transforming the way people interact in the digital world. Minority and lesser used languages have most to gain from language technologies, yet tools and resources for them are often scarce and there is an ever-widening technology gap between larger and lesser spoken languages. Joint and co-ordinated action is required at all levels to overcome this. Conference notes that groundbreaking work is being done already in Welsh universities. Conference calls for urgent investment in research to develop the relevant technologies and to raise awareness of the benefits for individuals, organisations, public bodies and companies of the availability of online services, content and products in multiple languages. Europe Group


Cynigion 11 Motions 11 Darpariaeth Iechyd Meddwl mewn Ardaloedd Gwledig Noda'r Gynhadledd: · Yr effaith negyddol iawn mae diffyg darpariaeth gofal iechyd meddwl ddigonol yn ei gael ar gleifion o bob oed, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. · Y nodwyd nifer o achosion dan arweiniad Llywodraeth Cymru o gleifion yn gorfod teithio pellteroedd mawr i dderbyn y lleiafswm eithaf o driniaeth ar gyfer unrhyw salwch meddwl, a bod hyn yn hollol annerbyniol, gyda llawer o gleifion yn cael eu gorfodi i fynd i Loegr am driniaeth. · Na ddylai cleifion iechyd meddwl yng Nghymru orfod teithio y tu allan i'w hardal leol i gael triniaeth gan eu tîm iechyd meddwl, fel sydd wedi digwydd lawer gwaith, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. · · ·

Geilw'r Gynhadledd: Ar i gleifion iechyd meddwl yng Nghymru allu cyrchu gweithiwr iechyd meddwl yn lleol a chael mynediad priodol at eu tîm iechyd meddwl pryd bynnag y bo angen. Ar i bob practis meddyg teulu gael o leiaf un ymarferwr iechyd meddwl yn y feddygfa/cyfleuster. Ar i lywodraeth Plaid Cymru sicrhau bod byrddau iechyd lleol yn cyflwyno hyn, a hefyd i ddal byrddau iechyd lleol i gyfrif yn erbyn eu targedau perfformiad cadarnach pan ddaw'n fater o ansawdd gwasanaethau iechyd meddwl a'u hygyrchedd.

Etholaeth Ynys Môn

Mental Health Provision in Rural areas Conference notes: · The very negative effect the lack of sufficient mental health care provision has on patients of all ages, particularly in rural areas. · That numerous cases have been noted under the Welsh Government's leadership of patients having to travel extreme distances in order to receive the bare minimum of treatment for any mental health illnesses, and that this is wholly unacceptable, with many patients being forced to go to England for treatment. · Mental health patients in Wales shouldn't have to travel outside their local area to be treated by their mental health team, as has been the case on many occasions, particularly in rural areas. Conference calls for: · Mental health patients in Wales to have local access to their mental health practitioner and have appropriate access to their mental health team whenever necessary. · Every GP practice to have at least one specialist mental health practitioner at their facility · For a Plaid Cymru government to ensure that local health boards deliver this, and additionally to hold local health boards to account against more robust performance targets when it comes to the quality of mental health services and their accessibility. Ynys Môn Constituency


Cynigion 12 Motions 12 Ystafelloedd Defnyddio Cyffuriau Noda'r Gynhadledd: · Mai lle yw ystafell defnyddio cyffuriau (YDC) lle gall unigolyn chwistrellu'r cyffuriau a brynodd mewn man dan oruchwyliaeth. · Fod dros 100 o YDC mewn 66 dinas ledled y byd ac na chafwyd unrhyw adroddiad am farwolaeth ynddynt. · Fod nifer y marwolaethau cysylltiedig â chyffuriau yng Nghymru yn cynyddu bob blwyddyn a'u bod ar eu huchaf erioed erbyn hyn. · Fod Cyngor Ymgynghorol y Swyddfa Gartref ar Gamddefnyddio Cyffuriau yn argymell cyflwyno YDG. · Fod Panel Ymgynghorol Llywodraeth Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau yn cefnogi cynlluniau peilot a gwerthuso YDC. · Yn yr Alban, fod Alison Thewliss AS Canol Glasgow wedi cyflwyno Mesur Aelod Preifat yn Nhŷ'r Cyffredin i ddeddfu am YDC a bod cefnogaeth drawsbleidiol yng Nghyngor Glasgow i YDC. Galwodd Llywodraeth yr Alban hefyd am ddatganoli'r cyfreithiau ar gyffuriau i'w senedd hwy er mwyn iddynt allu cael YDC. · Fod cefnogaeth wleidyddol eang i YDC, er nad oes yr un blaid yng Nghymru wedi datgan yn ffurfiol o'u plaid. · Fod YDC yn ffordd naturiol ymlaen ar y llwybr lleihau niwed o Gynlluniau Cyfnewid Nodwyddau. · Mai dyletswydd gyntaf llywodraeth yw amddiffyn ei dinasyddion. Cred y Gynhadledd: · Fod YDC yn atal marwolaethau cysylltiedig â gorddos o gyffuriau. · Fod YDC yn lleihau amlder rhannu nodwyddau. · Nad yw YDC yn cyd-fynd â'r defnydd o gyffuriau, ond eu bod wedi eu sefydlu i gadw pobl yn ddiogel. · Fod YDC yn lleihau achosion o glefydau feirol a gludir yn y gwaed megis HIV. · Fod YDC yn lleihau chwistrellu ar y stryd a thaflu nodwyddau o'r neilltu. · Fod YDC yn lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a mân droseddau dros ardaloedd helaeth lle'r arferid chwistrellu ar y stryd. · Fod YDC yn cael effaith gadarnhaol ar gymunedau trwy leihau ofn am droseddu a chynyddu hyder. Penderfyna'r Gynhadledd: · Ddylanwadu ar Gwnsler Cyffredinol Cymru i gyhoeddi llythyr cysur i ganiatáu cynnal cynllun peilot YDC yng Nghymru. · I gyfarwyddo Grŵp Cynulliad Plaid Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i weithredu YDC yng Nghymru. · I gyfarwyddo Grŵp Plaid Cymru yn San Steffan i weithio gyda'u cydweithwyr yn yr SNP i drafod gyda'r Swyddfa Gartref er mwyn cydnabod mai mater iechyd yw YDC ac oherwydd bod iechyd wedi ei ddatganoli, y dylai'r penderfyniad i roi Ystafelloedd Defnyddio Cyffuriau ar waith orwedd gyda Llywodraeth Cymru. Etholaeth Wrecsam


Drug Consumption Rooms Conference notes that: · A drug consumption room (DCR) is a place where a person can inject the drugs they have purchased in a supervised space. · There are over a 100 DCRs in 66 cities across the world and there have been no reported deaths. · The numbers of Drug Related Deaths in Wales are increasing year on year and are at an all time high. · The Home Office's Advisory Council on the Misuse of Drugs recommend the introduction of DCRs. · The Welsh Government's Advisory Panel on Substance Misuse are in support of pilots and evaluation of DCRs. · In Scotland, Alison Thewliss MP for Glasgow Central introduced a private members bill in the House of Commons to legislate for DCRs and that Glasgow Council has cross party support for a DCR. The Scottish Government has also called for a devolution of drug laws to their parliament in order that they can have DCRs. · There is widespread political support for DCRs, although in Wales no Party has come out formally in favour. · DCRs are a natural progression in the harm reduction pathway from Needle Exchange Schemes. · The first duty of government is to protect its citizens. Conference believes that: · DCRs prevent drug related overdose deaths. · DCRs reduce needle sharing. · DCRs do not condone drug use, but are established to keep people safe. · DCRs reduce incidences of blood borne viral diseases like HIV. · DCRs reduce street injecting and discarded syringes. · DCRs reduce anti social behaviour and petty crime over wide areas of previous street injecting. · DCRs have a positive impact on communities by reducing fear of crime and increasing confidence. Conference resolves to: · Influence the Counsel General of Wales to issue a letter of comfort to allow DCRs to be piloted in Wales. · Instruct the Plaid Cymru Assembly Group to introduce legislation to implement DCRs in Wales. · Instruct the Westminster Plaid Cymru Group to work with SNP colleagues to negotiate with the Home Office to recognise that DCRs are a health issue and as health is devolved the decision to implement Drug Consumption Rooms should rest with the Welsh Government. Wrecsam Constituency


Cynigion 13 Motions 13 Democratiaeth Economaidd Noda'r Gynhadledd: I. Fod ffyniant economaidd, cyfiawnder cymdeithasol ac iechyd yr amgylchedd naturiol, seiliedig ar sosialaeth ddatganoledig, yn sylfaen i amcanion Plaid Cymru fel y'u hamlinellir yng nghyfansoddiad y blaid ii. Mai elfen allweddol o ddatganoli grym yw rhoi mwy o bŵer i unigolion a chymunedau dros eu hadnoddau naturiol, asedau a gwasanaethau lleol iii. Ar hyd a lled Cymru, fod miloedd o bobl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau, prosiectau a mentrau sydd yn rhoi gwir fanteision economaidd i'w cymunedau iv. Trwy harneisio gweithredu ar lawr gwlad a defnyddio asedau lleol er lles lleol, y gall mentrau cymdeithasol a chydweithredol gynnig atebion i broblemau lleol, a gweithredu ar gyfleoedd i fod o les i'w cymuned leol Geilw'r Gynhadledd am rymuso unigolion a chymunedau trwy ddemocratiaeth economaidd trwy gyflwyno mesurau i wneud y canlynol: i. Ei gwneud yn hawdd i weithlu brynu eu cwmni a'i redeg fel menter gydweithredol os yw mewn perygl o gau ii. I grwpiau cymunedol gymryd rheolaeth dros asedau lleol i'w defnyddio er budd lleol ac am fwy o gefnogaeth trwy gyrchu cyllid, gan gynnwys darparu benthyciadau di-log neu ar log isel a hyfforddiant, yn enwedig yng nghyswllt ynni gwyrdd. Grŵp y Cynulliad Cenedlaethol

Economic Democracy Conference notes: i. That economic prosperity, social justice and the health of the natural environment, based on decentralist socialism, underpin the aims of Plaid Cymru – the Party of Wales as outlined in the party's constitution ii. That a key element of decentralising power is giving individuals and communities a greater stake in their own natural resources, assets and services iii. That across Wales, thousands of people are engaged in activities, projects and initiatives delivering real social benefits for their communities iv. That by harnessing grassroots action and using local assets for local benefit, social enterprises and co-operatives offer solutions to local problems, and act on opportunities to benefit their local community Conference calls for the empowerment of individuals and communities through economic democracy by introducing measures to: i. Make it easy for a workforce to buy their company and run it as a co-operative if it is at risk of closing ii. For community groups to take charge of local assets to be used for local benefit and for greater support through access to finance, including the provision of low or no-interest loans and training, particularly in relation to green energy. National Assembly Group


Cynigion 14 Motions 14 Polisi Cyfansoddiadol Mae'r Gynhadledd: · yn cadarnhau ymrwymiad Plaid Cymru i sicrhau hunan-lywodraeth gynyddol i Gymru yn rhan o broses ehangach o godi'r genedl, gan ennill annibyniaeth maes o law · yn mynnu bod yr angen am hyn yn daerach yn wyneb ymadawiad tebygol y Deyrnas Gyfunol o'r Undeb Ewropeaidd · yn cydnabod serch hynny y bydd yr angen am gydweithio agos rhwng cenhedloedd Prydain yn parhau, beth bynnag fo union statws cyfansoddiadol Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr · yn nodi bod ein chwaer-blaid, Plaid Genedlaethol yr Alban, wedi pwysleisio'r cyfryw gydweithrediad wrth ymgyrchu dros annibyniaeth Mae'r Gynhadledd felly yn galw ar arweinyddiaeth Plaid Cymru i baratoi erbyn Cynhadledd 2019 awgrymiadau ac argymhellion ar gyfer fframwaith cyfansoddiadol newydd i Brydain yn seiliedig ar berthynas gyfartal ei gwahanol genhedloedd. Etholaeth Ceredigion

Constitutional Policy Conference · confirms Plaid Cymru's commitment to ensure increasing self-government for Wales as part of the wider nation-building process, and to gain independence in due course · asserts that the need for this is urgent in light of the United Kingdom's probable departure from the European Union · acknowledges nevertheless that the need for close collaboration among the nations of Britain will continue, notwithstanding the precise constitutional status of Wales, Scotland, Northern Ireland and England · notes that our sister-party, the Scottish National Party, emphasised such collaboration when campaigning for independence. Conference therefore calls upon the Plaid Cymru leadership to prepare for the 2019 Conference suggestions and recommendations for a new constitutional framework for Britain based on the equal status of its several nations. Ceredigion Constituency


Cynigion 15 Motions 15 Comisiwn Cyllidol Noda'r Gynhadledd fod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach reolaeth dros Dreth Trafodion Tir, Treth Gwaredu i Dirlenwi, Ardrethi Busnes a Threth Cyngor. Noda'r Gynhadledd ymhellach y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb am amrywio treth incwm o hyd at ddeg ceiniog ym mhob band ac y bydd ei allu benthyca yn dyblu i £1 biliwn. Mae'r Gynhadledd yn ail-ddatgan galwadau Plaid Cymru am ddatganoli cyllidol llawn i Gymru yn ôl argymhelliad Comisiynau Richard a Silk. Geilw'r Gynhadledd am sefydlu Comisiwn Cyllidol Plaid Cymru dan arweiniad Ysgrifennydd Cabinet cysgodol y blaid dros Gyllid a'r Ysgrifennydd cysgodol dros yr Economi, i argymell y polisïau trethu a gwario penodol a weithredir gan lywodraeth nesaf Plaid Cymru yn 2021. Grŵp y Cynulliad Cenedlaethol

Fiscal Commission Conference notes that the National Assembly for Wales now has control over Land Transaction Tax, Landfill Disposals Tax, Business Rates and Council Tax. Conference further notes that the National Assembly for Wales will assume responsibility for varying income tax by up to ten pence in each band and will see its borrowing capacity double to £1 billion. Conference reiterates Plaid Cymru's calls for full fiscal devolution to Wales along the recommendations of the Richard and Silk commissions. Conference calls for the establishment of a Plaid Cymru Fiscal Commission to be led by the party's Shadow Cabinet Secretary for Finance and Shadow Secretary for the Economy, to recommend specific tax and spend policies to be implemented by the next Plaid Cymru government in 2021. National Assembly Group


Cynigion 16 Motions 16 Y Gymraeg Cred Plaid Cymru: Fod datblygu cyfleon am addysg gyfrwng Cymraeg ar draws Cymru tra'n diogelu a datblygu cynaladwyedd y cymunedau lle mae'r mwyafrif yn siarad Cymraeg yn allweddol i dwf y Gymraeg. Fod cynnal cyfundrefn sy'n gwarantu cyfiawnder a chydraddoldeb sifig i'r sawl sy'n siarad Cymraeg ac yn dymuno defnyddio'r iaith mewn peuoedd swyddogol yn holl bwysig i ddatblygiad yr iaith. Nad oes angen diwygio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ar hyn o bryd gan nad yw llawer o'r safonau wedi eu gosod hyd yma, ac y byddai cyflwyno deddfwriaeth newydd yn tynnu sylw oddi ar y gwaith o weithredu strategaeth Cymraeg 2050. Mae Plaid Cymru yn croesawu: Y cydweithio traws sirol sydd wedi cychwyn yn y gorllewin sy'n cael ei arwain gan Plaid Cymru Byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn: · Creu cyfundrefn addysg yng Nghymru lle bydd pob plentyn yn gadael yr ysgol yn siarad Cymraeg a Saesneg. · Gweithio gydag Awdurdodau Lleol i gynhyrchu cynlluniau Strategol Addysg Gymraeg uchelgeisiol a chadarn ar gyfer pob rhan o Gymru a sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu a'u rheoleiddio yn effeithiol. · Gweithredu a rheoleiddio'r Siarter Addysg Iaith Gymraeg yn effeithiol drwy Gymru. · Gweithredu Cynllun Economaidd i Gymru sydd yn cydnabod fod datblygu economi siroedd y gorllewin (fel un o ranbarthau tlotaf Ewrop) yn hanfodol i ffyniant economi Gymru gyfan ac yn hanfodol hefyd i ffyniant y Gymraeg. · Datblygu y cydweithio sirol sydd wedi cychwyn yn y gorllewin dan arweiniad Plaid Cymru ymhellach - fel sail i greu rhanbarth economaidd penodol i oresgyn heriau cyffredin a chreu'r amodau cywir ar gyfer datblygiad y Gymraeg. · Cadw swydd Comisiynydd yr Iaith Gymraeg gan sicrhau fod y Comisiynydd yn canolbwyntio yn bennaf ar weithgaredd yn ymwneud â gosod a rheoleiddio'r Safonau. Byddai yn cyflwyno safonau yn y maes cymdeithasau tai, dŵr, cwmnïau post, bysiau/trenau/rheilffyrdd, nwy/trydan, telathrebu ar fyrder. Byddai hefyd yn cyflwyno safonau newydd, cadarn yn y maes iechyd fyddai'n sicrhau yr hawl i wasanaethau wyneb yn wyneb drwy'r Gymraeg · Sefydlu corff newydd neu adran benodol yn y llywodraeth i ysgwyddo'r cyfrifoldeb o gynllunio ieithyddol ac i hybu a hwyluso'r defnydd cyffredinol a chymunedol o'r iaith. Etholaeth Arfon Gwelliant 1 Yn y darn “Byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn”, newid geiriad pwynt un o: “Creu cyfundrefn addysg yng Nghymru lle bydd pob plentyn yn gadael yr ysgol yn siarad Cymraeg a Saesneg” i “Creu cyfundrefn addysg yng Nghymru lle bydd pob plentyn yn gadael yr ysgol gyda hyfedredd cyfartal yn y Gymraeg a'r Saesneg.” Etholaeth De Clwyd Gwelliant 2 Yn “Cred Plaid Cymru”, ar ddiwedd yr ail frawddeg, ychwaneger “ac y dylid amddiffyn siaradwyr Cymraeg rhag casineb.” Ychwanegu dau bwynt bwled ar ddiwedd y cynnig: · “Galw ar i reoleiddiwr y wasg, IPSO, ymrwymo i adolygu'i ganllawiau ac yn cynnwys grwpiau lleiafrifol cydnabyddiedig sy'n agored i niwed yn y DU, gan gynnwys siaradwyr ieithoedd cydnabyddiedig sy'n agored i niwed ymhlith y grwpiau hyn · Galw ar i heddluoedd Cymru gydweithio i sefydlu uned i gwffio troseddau casineb, a bod ieithoedd cydnabyddiedig sy'n agored i gasineb, gan gynnwys y Gymraeg, yn cael eu trin fel nodweddion a amddiffynnir mewn perthynas â throseddau casineb ledled Cymru.” Grŵp San Steffan


The Welsh Language Plaid Cymru believes: That developing opportunities for Welsh-medium education across Wales while safeguarding and developing the sustainability of communities where the majority are Welsh speakers is key to the growth of the Welsh language. That the maintenance of a system guaranteeing justice and civic equality for those who speak Welsh and wish to use the language in official contexts is essential to the development of the language. That the Welsh Language (Wales) Measure 2011 does not currently need to be revised since many of the standards are not yet in place, and that introducing new legislation would divert attention from the work of implementing the Cymraeg 2050 strategy. Plaid Cymru welcomes: The Plaid Cymru-led cross-county collaboration which has begun in the west A Plaid Cymru Government would: · Create an education system in Wales where each child would leave school able to speak Welsh and English. · Work with Local Authorities to produce ambitious and robust Welsh-Medium Education Strategies for every part of Wales and ensure they are effectively implemented and regulated. · Implement and regulate the Welsh Language Education Charter effectively throughout Wales. · Implement an Economic Plan for Wales which recognises that developing the economy of the western counties (as one of Europe's poorest regions) is essential for the prosperity of the whole Welsh economy and essential also for the prosperity of the Welsh language. · Further develop the Plaid Cymru-led cross-county collaboration which has begun in the west, as a basis for the creation of a specific economic region to overcome common challenges and create the correct conditions for the development of the Welsh language. · Retain the post of Welsh Language Commissioner, ensuring that the Commissioner focuses chiefly on activities relating to setting and regulating the Standards. The Commissioner would introduce standards in the areas of housing associations, water, post, buses/trains/rail, gas/electricity and telecommunications as a matter of urgency. New, robust standards would also be introduced in the area of health which would secure the right to receive face-to-face services through the medium of Welsh. · Establish a new organisation or specific government department to be responsible for linguistic planning and to promote and facilitate general and community use of the language. Arfon Constituency Amendment 1 In the Section “A Plaid Cymru Government would”, change the wording in point one from: “Create an education system in Wales where each child would leave school able to speak Welsh and English” to “Create an education system in Wales where each child would leave school with an equal grasp of both Welsh and English.” De Clwyd Constituency Amendment 2 In “Conference believes”, at the end of the second sentence, add “and, that Welsh speakers should be protected from hate speech” Add two new bullet points at the end of the motion: · “Call on the press regulator, IPSO, to commit to review its guidelines to include protection of identified vulnerable groups in the UK, and to include speakers of identified vulnerable languages among those groups. · Call on Wales's police forces to work together to establish a unit to combat hate crime, and that identified vulnerable languages, including Welsh, are treated as protected characteristics in relation to hate crime throughout Wales.” Westminster Group


Cynigion 17 Motions 17 Trafnidiaeth yng Nghymru – Metro De Cymru Noda'r Gynhadledd Fod effaith economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol cymudo yn gost sylweddol i deuluoedd ac unigolion, gyda llawer heb ddewis ond ei dalu. Strategaeth bresennol Llywodraeth Cymru yw datblygu canol Caerdydd, a gwella'r cysylltiadau rheilffordd ati trwy fuddsoddi yn y Metro. Bwriada hefyd godi gorsafoedd newydd. Mae'r Metro ynghudd mewn niwl, gyda llen o gyfrinachedd masnachol o amgylch ail-drefnu masnachfraint Cymru a'r Gororau. Ymddengys bod y dasg gymhleth hon wedi ei chymhlethu fwyfwy trwy ymgorffori'r Metro a chynigion eraill am dram-trên a/neu reilffordd ysgafn fel rhan o'r cyfan. Mae deiliad presennol y fasnachfraint, Trenau Arriva Cymru, wedi gwrthod cymryd rhan yn y tendro, gan adael dau gwmni tramor yn unig i gystadlu. Heb lawer o arbenigedd mewnol, gorfodwyd Llywodraeth Cymru i ddibynnu ar gyrff allanol, gan gynnwys Network Rail ac ymgynghorwyr o'r sector preifat. Nid oes gan yr un ohonynt ddiddordeb mewn arbed arian i drethdalwyr Cymru. Prin yw'r manylion cyhoeddus, ac y mae'r pwyslais ar gysylltiadau cyhoeddus a delweddau lliwgar. Ni chafwyd unrhyw syniad o'r gost debygol i Lywodraeth Cymru a threthdalwyr. Ni chafwyd unrhyw graffu annibynnol ar y cynigion. Mae'n debyg, pan ddaw'r cynllun i'r fei, y caiff ei gyflwyno fel fait accompli heb unrhyw gyfle i'w newid na'i wella. Cred y Gynhadledd O ystyried y gost a'r arwyddocâd tebygol, fod diffyg datgelu manylion yn gyhoeddus am y Metro a'r cynigion cysylltiedig yn arwydd o lywodraethiant wael ar ran Llywodraeth Cymru. Fod yr ymateb gan Lywodraeth Cymru i geisiadau gan Blaid Cymru ac ACau y gwrthbleidiau eraill am wybodaeth wedi bod yn sarhaus a dirmygus, ac yn groes i ysbryd colegol y Cynulliad. Y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol fynnu bod y cynigion yn destun craffu trylwyr gan Bwyllgor o ACau, gyda chymorth ymgynghorwyr annibynnol. Geilw'r Gynhadledd Ar i ACau'r Blaid ddefnyddio pob dull o fewn eu gallu, a cheisio cymorth gan bleidiau eraill a gynrychiolir yn y Cynulliad sydd yn rhannu'r pryderon hyn, i fynnu craffu'n llawn ar gynigion am y Metro a chynigion trafnidiaeth a defnydd tir eraill gan y Cynulliad Cenedlaethol. Etholaeth Pontypridd Gwelliant 1. Yn y penawd dileer 'Metro De' ac ychwaneger 'Rheilffyrdd'. 2. Ym mharagraff 1 o dan Noda'r Gynhadledd ar ol 'metro' ychwaneger ' ac anwybyddu'r angen dirfawr am welliannau sylweddol i'r cysylltiadau rheilffyrdd rhwng De Cymru a Gogledd Cymru 3. Ym mharagraff 1 o dan Cred y Gynhadledd dileer 'metro' ac yn ei le ychwaneger 'fasnachfraint gyfan'. Etholaeth Ynys Môn


Transport in Wales - The South Wales Metro Conference Notes that The economic, environmental and social impact of commuting is a substantial cost to families and individuals that many have no choice but to pay. The present strategy of the Welsh Government is to develop the centre of Cardiff, and to enhance the rail links to it by investing in the Metro. It also proposes building new stations. The Metro is shrouded in mystery, hidden by the commercial confidentiality that surrounds the renegotiation of the Wales and Border franchise. It appears that this complex task has been made even more complex by incorporating the Metro and other proposals for tram-train and/or light rail within it. The incumbent franchisee, Arriva Trains Wales, have declined to participate in the bidding, leaving only two foreign-owned companies in the running. Lacking much specific expertise in-house, the Welsh Government has been forced to rely on outside parties, including Network Rail and private sector consultants. Neither have a vested interest in saving money for Welsh taxpayers. The details made public are scant, with an emphasis on public relations and glossy images. There has been no indication of the likely costs to the Welsh Government and taxpayers. There has been no independent scrutiny of the proposals. It is likely that when the plan emerges, it will be presented as a fait accompli and beyond change or improvement. Conference believes that Given their likely cost and significance, the lack of public disclosure of details of the Metro and related proposals illustrates poor governance by the Welsh Government. The response by the Welsh Government to requests from Plaid Cymru and other Opposition AMs for information has been high-handed and arrogant, and against the collegial spirit of the Assembly. The National Assembly should demand that the proposals be subject to full scrutiny by a Committee of AMs, assisted by independent consultants. Conference calls For Plaid AMs to use all means at their disposal, and to seek assistance from other Parties represented in the Assembly which have similar concerns, to demand full scrutiny of the Metro and related transport and land use proposals by the National Assembly. Pontypridd Constituency Amendment 1. In the heading delete 'The South Wales Metro' and replace with 'Wales's Railways; 2. In paragraph 1 under Conference Notes after the word 'metro' insert 'and ignoring the dire need for substantial improvements to the rail links between the south of Wales and the north of Wales; 3. In paragraph 1 under Conference believes, delete the word 'Metro' and replace with 'whole franchise' Ynys Môn Constituency


Cynigion 18 Motions 18 Carchar Noda'r Gynhadledd: · Fod Llywodraeth y DG yn ceisio datrys y llanast yng ngharchardai Lloegr trwy osod 'uwchgarchar' arall yng Nghymru; · Er bod cynlluniau Llywodraeth y DG am 'uwch-garchar' ym Maglan, Port Talbot, wedi eu rhwystro, nad ydynt wedi rhoi'r gorau i'r syniad o ganfod lleoliadau eraill yng Nghymru ar gyfer carchar newydd; · Unwaith y bydd yn gweithredu'n llawn, y gall CEM Berwyn yn Wrecsam ddal dros 2,100 o ddynion, sy'n golygu y bydd 800 yn fwy o lefydd nac o garcharorion yn stad carchardai Cymru; · Nad oes fawr ddim tystiolaeth i ddangos fod 'uwch-garchardai' yn creu'r amodau ar gyfer adsefydlu troseddwyr – yn syml, maent yn rhatach i'w rhedeg. Cred y Gynhadledd: · Fod angen mwy o archwilio a chraffu ar gynlluniau am garchardai newydd, sefyllfa bresennol carchardai, a pholisi cyfiawnder troseddol ehangach yng Nghymru; · Fod yn rhaid datganoli pwerau dros garchardai a chyfiawnder troseddol i Gymru fel y maent yn yr Alban a Gogledd Iwerddon; · Y dylid ystyried carchardai fel rhan o system gyfiawnder Gymreig ac nid yn unig fel erfyn datblygu economaidd; · Y dylai fod gan Gymru system cyfiawnder troseddol a stad carchardai sy'n addas i anghenion ein cenedl, ac nad yw'n annog mewnforio carcharorion. Penderfyna'r Gynhadledd: · Na ddylid codi 'uwch-garchardai' yng Nghymru, ac y dylid canolbwyntio gymaint ag sydd modd ar adsefydlu troseddwyr a datblygu cyfleusterau sy'n cynnal hyn; · Y dylid rhoi'r grym i Gymru wyro oddi wrth y polisïau cyfiawnder troseddol annynol a methedig sy'n cael eu pennu ar hyn o bryd yn Llundain; · Y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru fod â'r grym dros gyfiawnder troseddol a'r stad carchardai er mwyn creu system sy'n atebol i Gymru ac yn addas ar ei chyfer Grŵp San Steffan Gwelliant Ychwaneger pwynt newydd yn Noda'r Gynhadledd: Bod gorlenwi, a hen adeiladau nad ydynt yn ddiogel yn parhau i fethu carchardai yng Nghymru. Mae'r cyflyrau y mae carcharorion Cymreig yn cael eu dal ynddynt yn lleihau'r cyfleoedd am adferiad, yn rhwystro cyfleoedd addysgiadol ac yn peri risg i iechyd a lles carcharorion. Etholaeth Arfon


Prison Conference notes that: · The UK Government is seeking to resolve the chaos in English prisons by imposing another new 'super prison' in Wales; · Although the UK Government's plans for a 'super prison' in Baglan, Port Talbot, have been blocked, it has not ruled out finding other locations in Wales for a new prison; · Once fully operational, HMP Berwyn in Wrexham will have the capacity to hold in excess of 2,100 male prisoners, meaning there will be 800 more spaces than inmates in the Welsh prison estate; · There is little evidence to show that 'super prisons' create the conditions for the rehabilitation of offenders – they are simply cheaper to run. Conference believes that: · There is a need for greater examination and scrutiny of plans for new prisons, the current situation in prisons, and of wider criminal justice policy in Wales; · Powers over prisons and criminal justice must be devolved to Wales as they are in Scotland and Northern Ireland; · Prisons should be considered part of a Welsh justice system and not simply a tool for economic development; · Wales should have a criminal justice system and prison estate to fits our nation's needs, which does not encourage the importation of prisoners. Conference resolves that: · Super prisons should not be built in Wales, and with the greatest possible focus should be placed on the rehabilitation of offenders and the development of facilities that support this; · Wales should be empowered to diverge from the inhumane and failing criminal justice policies that are currently set in London; · The National Assembly for Wales should have power of criminal justice and the Welsh prison estate in order to create a system accountable to and appropriate for Wales. Westminster Group Amendment Add a new point in Conference Notes: That overcrowding, outdated and unsafe buildings continue to blight Welsh prisons. The condition in which Welsh prisoners are being held reduce the chances of rehabilitation, limit educational opportunities and present a risk to the health and well-being of the prisoners. Arfon Constituency


Cynigion 19 Motions 19 Cychwyn Newydd, Cychwyn Cryf Noda'r Gynhadledd: i. Fod llawer o gymunedau ledled Cymru yn profi allfudo sylweddol o bobl ifanc i rannau eraill o Gymru, y DG a thu hwnt ii. Gyfraniad pobl ifanc i wytnwch a chynaliadwyedd cymunedau Cymru iii. Ei bod yn gresynu at y tanfuddsoddi hanesyddol yn seilwaith Cymru iv. Fethiant Llywodraeth bresennol Cymru i greu cyfleoedd i bobl ifanc ddewis byw a gweithio yn eu cymunedau Penderfyna'r Gynhadledd: Fel rhan o'n rhaglen 2030 fod Llywodraeth nesaf Plaid Cymru wedi ymrwymo i wrthdroi ffawd economaidd ein gwlad. Credwn y bydd doniau, sgiliau a gwybodaeth ein pobl ifanc yn ganolog i'r strategaeth hon. O'r herwydd, yr ydym yn ymrwymo i flaenoriaethu buddsoddi yn ein pobl ifanc fel prif gonglfaen ein polisi economaidd newydd. Byddwn yn creu cyfres o bolisïau a fydd yn creu cychwyn newydd i'n cenedl, y cychwyn disgleiriaf i'r genhedlaeth nesaf, gan wneud Cymru y lle gorau yn Ewrop i fod yn ifanc. Fel rhan o hyn, geilw'r Gynhadledd ar Lywodraeth nesaf Plaid Cymru i gyflwyno'r canlynol: i. Rhaglen fuddsoddi gwerth biliynau o bunnoedd yn seilwaith ffisegol a digidol ein hysgolion a'n colegau ii. Incwm Ieuenctid Sylfaenol fydd yn gwarantu sicrwydd ariannol i bawb 18-24 oed sydd yn astudio, gweithio, cychwyn busnes neu wirfoddoli trwy Wasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol newydd iii. Premiwm Cenedlaethol i Athrawon, sy'n gwneud dysgu yn alwedigaeth broffesiynol ar lefel Meistr sydd â gwir werth iddo iv. Cau'r bwlch cyllido i'n hysgolion, colegau a'n prifysgolion v. Ymrwymiad cenedlaethol y bydd pob plentyn yn gadael addysg o leiaf yn ddwyieithog erbyn 2030 Grŵp y Cynulliad Cenedlaethol Gwelliant Yn y darn " geilw'r Gynhadledd ar Lywodraeth nesaf Plaid Cymru i gyflwyno'r canlynol” dileer pwynt ii a rhoi'r canlynol yn lle: ii. Incwm Ieuenctid Sylfaenol fydd yn gwarantu sicrwydd ariannol i bob person 18-24 oed.” Plaid Ifanc


New Start, Bright Start Conference notes: i. That many communities across Wales experience significant outward migration of young people to other parts of Wales, the UK and beyond ii. And recognises the contribution of young people to the resilience and sustainability of Welsh communities iii. And regrets the historic under-investment in Wales's infrastructure iv. The current Welsh Government's failure to create opportunities for young people to choose to live and work in their communities Conference resolves: As part of our 2030 programme the next Plaid Cymru Government is committed to turning round the economic fortunes of our country. We believe that the talent, skills and knowledge of our young people will be central to this strategy. As such we commit to prioritise investment in our young people as the main plank of our new economic policy. We will create a raft of policies that will create a new start for our nation, the brightest start for the next generation, making Wales the best place in Europe to be young. As part of this, conference calls on the next Plaid Cymru Government to introduce: i. A multi-billion pound Investment programme in the physical and digital infrastructure of our schools and colleges ii. A Youth Basic Income guaranteeing financial security for all 18-24 year olds who are studying, working, starting a business or volunteering through a new National Citizen Service iii. A National Teachers Premium, making teaching a highly valued Masters-level professional vocation iv. Closing the funding gap for our schools, colleges and universities v. A national commitment that every child will leave education at least bilingual by 2030 National Assembly Group Amendment Under the section "conference calls on the next Plaid Cymru Government to introduce:" delete point ii and replace with: ii. A universal Youth Basic Income guaranteeing financial security for all 18-24 year olds. Plaid Ifanc


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.