Moslemiaid dros y Blaid Moslemiaid dros Gymru! Mae Moslemiaid dros Blaid Cymru yn cefnogi ymgeiswyr y Blaid ledled Cymru yn ystod yr etholiad cyffredinol hwn oherwydd credwn mai Plaid Cymru sy’n rhoi pobl Cymru yn gyntaf. Rydym hefyd yn cefnogi Plaid Cymru am nad ydy hi’n fewnblyg ond yn blaid sy’n mynegi tosturi a phryder dros bobl ledled y byd. Fel Moslemiaid yng Nghymru rydym wedi ein calonogi gan y safiad egwyddorol y cymerodd y blaid yn erbyn y rhyfeloedd yn Affganistan ac Irac, gyda’r cyn AS Plaid Cymru Adam Price yn ceisio uchelgyhuddo Tony Blair am droseddau rhyfel. Nid yw cwestiynau ar bolisi tramor Prydain wedi bod yn amlwg yn y dadleuon cyhoeddus yn ystod yr etholiad hwn, ond mae goblygiadau penderfyniadau trychinebus llywodraethau San Steffan yn amlwg iawn ar draws y Dwyrain Canol – Plaid oedd yn iawn! Credwn y dylid tynnu sylw’r cymunedau Moslemaidd at y cyfleoedd a gymerodd Plaid Cymru er mwyn hyrwyddo heddwch a chyfiawnder cymdeithasol dros y blynyddoedd diwethaf – yma ym Mhrydain ac ar y llwyfan rhyngwladol. • Mae pleidlais dros Blaid Cymru yn bleidlais dros Gymru decach • Mae pleidlais dros Blaid Cymru yn bleidlais dros fyd tecach. • Mae pleidlais dros Blaid Cymru yn bleidlais dros eich cydwybod. Hyrwyddwyd ac Argraffwyd gan Plaid Cymru, Ty Gwynfor, Llys Anson, Caerdydd, CF10 4AL