Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru

Page 1

Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru

www.chwaraecymru.org.uk

ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2012


Croeso

Chwarae Cymru yw’r mudiad cenedlaethol dros chwarae plant yng Nghymru; elusen annibynnol a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Ein nod yw gweithredu fel llysgennad dros chwarae plant; gan gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o bwysigrwydd allweddol chwarae i iechyd a lles plant. Mae’r adroddiad hwn yn arddangos cyfraniad Chwarae Cymru i chwarae plant yng Nghymru yn ystod 2011-2012.


Cynnwys

Nodau ac amcanion Adroddiad y Cadeirydd Adroddiad y Cyfarwyddwr Darpariaeth a datblygiad chwarae Gwybodaeth, arweiniad a rhwydweithio Datbygu’r gweithlu Adolygiad ariannol IPA 2011 Cymru - gwlad chwarae-gyfeillgar Cynlluniau ar gyfer y dyfodol Tîm Chwarae Cymru Manylion cyswllt

4 6 7 8 10 12 13 14 15 16 17 18


Nodau ac amcanion

• Ein amcanion yw darparu a chynorthwyo â’r ddarpariaeth ar gyfer cyfleusterau a gwasanaethau chwarae, adloniant, addysg a chyfleoedd amser hamdden eraill ar gyfer pob plentyn yng Nghymru. • Rydym yn gweithredu fel Hyrwyddwr dros chwarae plant; gan gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth trwy Gymru gyfan am bwysigrwydd allweddol chwarae i blant a’u lles. • I gynnal a sicrhau cynrychiolaeth ac ymgynghoriaeth priodol ar faterion sy’n effeithio ar chwarae plant yng Nghymru. • I gyfrannu at a chefnogi hyfforddiant addysg gwaith chwarae a datblygu’r gweithlu yng Nghymru er mwyn hybu diddordebau chwarae plant trwy eiriolaeth a darpariaeth gwasanaethau chwarae o safon. Wrth gyflawni’r amcanion hyn ein nod yw meithrin ymateb gweithredol mwy goddefol, deallus a doeth ymysg oedolion sydd mewn sefyllfa i ateb anghenion chwarae plant, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, a thrwy hynny wella lles a chyfranogaeth plant yn eu cymunedau eu hunain.

4

Ffocws ein gwaith Prif weithgaredd Chwarae Cymru yw dylanwadu ar bolisïau, cynllunio strategol ac arfer pob asiantaeth a mudiad sy’n gyfrifol am, ac sydd â diddordeb mewn, chwarae plant. Byddwn yn cyflawni hyn trwy ddarparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad technegol sy’n ymwneud â darpariaeth chwarae a datblygu’r gweithlu; gan helpu i ddynodi anghenion a chyfrannu at y gydnabyddiaeth gynyddol a geir i bwysigrwydd sylweddol chwarae fel elfen allweddol o ddatblygiad plant. Mae Chwarae Cymru’n darparu fforwm ar gyfer gwaith chwarae trwy Gymru, ac yn ymgymryd â rôl cynrychiadol cenedlaethol am waith chwarae. Fel y mudiad cenedlaethol dros chwarae plant yng Nghymru ein nodau strategol yn ystod y flwyddyn oedd i: • fod yn gyfaill beirniadol i Lywodraeth Cymru • hyrwyddo chwarae plant sy’n annibynnol ac a ddewisir o wirfodd • eiriol dros blant a’u anghenion chwarae • cynnal eu hawl i chwarae, ar ran pob plentyn yng Nghymru • cynyddu ymwybyddiaeth am anghenion chwarae ar bob lefel, o Lywodraeth Genedlaethol i gynlluniau chwarae lleol • cynrychioli darparwyr chwarae a gweithwyr chwarae gan gynnig cyngor arbenigol, arweiniad, cefnogaeth, cyfleoedd rhwydweithio a chynadleddau sy’n ymwneud â chwarae, polisi chwarae, darpariaeth chwarae a datblygu’r gweithlu.


Caiff y nodau strategol hyn eu cyflawni trwy’r prif weithgareddau isod: • Gwasanaethau Gwybodaeth • Hyfforddiant a Datblygu’r Gweithlu • Datblygu Darpariaeth Chwarae Pwy wnaeth ddefnyddio ac elwa o’n gwasanaethau? Mae ein nodau a’n amcanion yn ymwneud â bod o fudd i blant Cymru. Defnyddiwyd ein gwasanaethau gan: • rieni a gofalwyr • aelodau o’r cyhoedd sy’n ymgyrchu i warchod neu gyflwyno darpariaeth chwarae • mudiadau sy’n darparu neu’n cefnogi gwasanaethau plant – boed yn wirfoddol neu’n awdurdodau lleol • mudiadau sy’n darparu gwasanaethau chwarae i blant - boed yn wirfoddol neu’n awdurdodau lleol, yn ogystal â chynghorau cymuned • gweithwyr chwarae, gweithwyr datblygu chwarae a swyddogion datblygu chwarae • hyfforddwyr gwaith chwarae a rheolwyr gweithwyr chwarae • athrawon, penaethiaid a llywodraethwyr.

5


Adroddiad y Cadeirydd

Yn anffodus, y flwyddyn nesaf fydd fy un olaf fel Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Chwarae Cymru, a minnau wedi bod yn y swydd yn barhaol ers sefydlu’r elusen ym 1998. Mae Chwarae Cymru wedi datblygu llawer yn ystod y 12 mlynedd diwethaf ac wedi cyflawni cymaint; yn cynnwys cyhoeddi Yr Hawl Cyntaf …, ac yna Yr Hawl Cyntaf – prosesau dymunol, gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r polisi chwarae cenedlaethol cyntaf yn y byd, datblygu cyrsiau a chymwysterau Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith (P3) a chefnogi rhaglen Chwarae Plant, a arianwyd gan y Loteri Fawr, ar draws Cymru.

a’r gefnogaeth y mae’n ei gynnig gyda’r asesiadau a’r dyletswydd digonolrwydd chwarae. Rydym yn edrych ymlaen i weld cychwyn y Dyletswydd fydd yn mynnu bod pob awdurdod lleol yn asesu ac yn darparu ar gyfer cyfleoedd chwarae digonol yn eu hardaloedd fel rhan o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Trwy gydol y flwyddyn mae’r Tîm Cyfathrebiadau wedi parhau i gynhyrchu gwybodaeth amserol o’r safon uchaf sy’n hygyrch yn ogystal â diddorol, yn ogystal â gweithio i ddatblygu gwefan newydd.

Trwy gydol y flwyddyn mae Chwarae Cymru wedi parhau yn ei rôl allweddol i ddarparu cefnogaeth arbenigol i grwpiau cymunedol, mudiadau, grwpiau gweinidogion a llywodraeth leol.

Mae Chwarae Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â’r YMCA, wedi parhau i drosglwyddo cymwysterau Lefel 2 Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith (P3). Er bod yr ariannu’n parhau i fod yn annigonol ar gyfer ateb anghenion y sector, mae Chwarae Cymru’n parhau i wneud popeth yn eu gallu i drosglwyddo’r cymhwyster gwaith chwarae gorau yng Nghymru.

Un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i’r mudiad – a’r sector chwarae yng Nghymru a’r DU – oedd cynhadledd fyd-eang yr IPA, a drefnwyd gan Chwarae Cymru, ac a gynhaliwyd yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ym mis Gorffennaf 2011. Roedd yn gynhadledd drefnus a chyffrous a fynychwyd gan weithwyr chwarae proffesiynol o bob cwr o’r byd. Llwyddodd Chwarae Cymru i drefnu a chynnal y gynhadledd gyda dim ond nifer cyfyngedig o staff ac adnoddau – roedd y tîm wedi ei haneru bron ers inni wneud cais i gynnal y gynhadledd yn ôl yn 2008. Mae perthynas Chwarae Cymru â Llywodraeth Cymru wedi ei atgyfnerthu’n sylweddol o ganlyniad i’r gweithio partneriaeth parhaus 6

Fu eleni ddim yn flwyddyn rhwydd i Chwarae Cymru; yn llawn uchafbwyntiau ac isafbwyntiau, gyda cholled drist Gill ein Rheolwraig Cyfathrebiadau. Hoffwn dalu teyrnged a chyfleu diolch Bwrdd yr Ymddiriedolwyr i’r staff neilltuol, ymroddedig a brwd am eu gwaith caled a’u hymroddiad parhaus i wella cyfleoedd chwarae yng Nghymru. Margaret Jervis MBE Cadeirydd


Dros y genhedlaeth diwethaf gwelwyd newid sylweddol yn ein dealltwriaeth o bwysigrwydd chwarae i blant; y gwahanol ffyrdd y gallwn ni, fel oedolion, wella’r amgylchedd (yn ogystal â diwylliant ein gwlad) er mwyn ei droi’n lle ble fo gan bob plentyn fynediad rhydd i ddetholiad o gyfleoedd chwarae o ansawdd yn eu cymuned. Dros y flwyddyn diwethaf mae Chwarae Cymru wedi parhau i weithio’n galed i gyfrannu at newidiadau yn yr amgylchedd ffisegol ac agweddau cymdeithasol. Rydym wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru, ein aelodau a’n cefnogwyr i baratoi’r ffordd ar gyfer Gorchymyn Cychwyn rhan cyntaf y dyletswydd newydd a osodwyd ar awdurdodau lleol gan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 i asesu digonolrwydd cyfleoedd chwarae ar gyfer plant. Arweiniodd y datblygiad hwn at newid parhaus ym mhwyslais gwaith Chwarae Cymru. Treuliodd Chwarae Cymru amser, tra’n parhau i eiriol ac ymgyrchu dros chwarae plant, yn edrych ar y modd gorau y gallem gyfrannu at amrywiol gamau’r broses o droi deddfwriaeth yn realiti ar lawr gwlad a’r modd gorau inni gefnogi awdurdodau lleol i fanteisio’n llawn ar y datblygiad hwn. I ryw raddau bu hyn yn llai heriol na’r disgwyl gyda swyddogion ar draws holl adrannau awdurdodau lleol yn cydweithio â ni â chryn ewyllys da gan gydnabod, er efallai nad cefnogi chwarae plant yw eu prif swyddogaeth, bod ganddynt gyfraniad i’w wneud wrth gyflawni’r amcanion a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.

Adroddiad y Cyfarwyddwr

Mae datblygu a throsglwyddo cymwysterau gwaith chwarae wedi tyfu’n rhan o waith craidd Chwarae Cymru ac rydym wedi parhau i drosglwyddo cymwysterau Lefel 2, ar sail adennill costau’n llawn, mewn partneriaeth â Choleg Cymunedol YMCA. Yn ogystal, llwyddodd Chwarae Cymru i ennill cytundeb Rhaglen Y Gronfa Blaenoriaethau Sector, a arianwyd gan Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, gan SkillsActive i ddatblygu cymwysterau Lefel 3 P3 a’r deunyddiau dysgu ar gyfer y Wobr, sydd wedi ein galluogi i drosglwyddo cyfres o gymwysterau i ateb disgwyliadau’r gweithlu.

Uchafbwynt y flwyddyn oedd Cynhadledd Fyd-eang 50ed Pen-blwydd yr International Play Association a gynhaliwyd yng Nghaerdydd; a fynychwyd gan 450 o gyfranogwyr o 37 gwlad. Bu’n llwyddiant ysgubol; a hynny trwy ymroddiad, ymrwymiad ac egni aelodau presennol a chyn-aelodau o staff a ymunodd â ni yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ym mis Gorffennaf. Un o’r prif resymau dros lwyddiant y gynhadledd oedd ymroddiad ac egni Gill Evans wnaeth ragori yn ei rôl fel Rheolwraig y Gynhadledd. Yn anffodus, collodd Gill ei brwydr yn erbyn cancr yn fuan wedi’r gynhadledd. Gadawodd fwlch enfawr ar ei hôl yn ein mudiad, yr ydym bellach yn raddol ymdrechu i’w lanw. Rydym yn edrych ymlaen i’r flwyddyn nesaf ag ymdeimlad cryf o her wrth inni weithio i gefnogi cyflwyno’r Mesur.

Mike Greenaway Cyfarwyddwr 7


Darpariaeth a datblygiad chwarae

Er mwyn cynnal a sicrhau cynrychiolaeth ac ymgynghoriaeth briodol ar faterion sy’n effeithio chwarae plant. Bu Chwarae Cymru ynghlwm ag amrywiol bwyllgorau gwaith trwy Gymru gyfan, a ariannwyd yn bennaf gan Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod chwarae plant yn ennill ei statws haeddiannol:

• Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar y Cynllun Gweithgarwch Corfforol • Grŵp Cynllunio Ymchwil a Gwerthuso Creu Cymru Egnïol

Yn ogystal, ymatebodd Chwarae Cymru i ymgynghoriadau cenedlaethol perthnasol:

• Grŵp gorchwyl a gorffen datblygu ASG Creu Cymru Egnïol

• Mesur Lles Cenedlaethol Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (4/11)

• Gweithgor Erthygl 42 • Grŵp Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant

• Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar Reoli Tybaco (5/11)

• Fforwm Magu Plant

• Strategaeth Ymgysylltu AGGCC (12/11)

• Consortiwm Cyfranogaeth – Is-grŵp Cyfranogaeth plant 0 – 10 oed

• Cydamcanu – Cydymdrechu (3/12)

• Grŵp Llywio Archwiliad Mannau Agored RCT Homes • Cyfrannu at bennod chwarae, chwaraeon, hamdden a diwylliant Monitor Lles Plant a Phobl Ifanc Cymru 2011 Llywodraeth Cymru

8

• Cynigion Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r gofynion ar gyfer cofrestru’r gweithlu addysg yng Nghymru (3/12)


Mae Chwarae Cymru wedi cefnogi datblygiad agwedd strategol tuag at chwarae plant trwy:

Mae Chwarae Cymru wedi cefnogi chwarae plant a darpariaeth chwarae ar lefel leol trwy:

• gyfrannu at ddylunio a throsglwyddo’r Fforwm Gweithwyr Chwarae mewn partneriaeth â phrosiectau cymdeithasau chwarae rhanbarthol

• sicrhau bod grwpiau cymunedol lleol yn cael eu cyfeirio at, ac yn cael eu cefnogi’n ddigonol, gan rwydweithiau cefnogaeth lleol. Rydym yn amcangyfrif inni dderbyn ac ymateb i fwy na 1000 o ymholiadau dros y ffôn a thrwy ebost gan rieni, aelodau etholedig, ysgolion a mudiadau bychain yn ystod y flwyddyn diwethaf.

• drosglwyddo dwy seminar ‘Cwtogi Costau Archwilio Ardaloedd Chwarae’ • gynnal a chefnogi Rhwydwaith Chwarae Strategol Cymru Gyfan • ymchwilio i Gyflwr Chwarae – arolwg cenedlaethol ar faterion lleol sy’n effeithio ar ddarpariaeth chwarae i blant Bu Chwarae Cymru’n rhan o amrywiol grwpiau polisi trwy’r DU, er mwyn sicrhau bod cynlluniau trwy’r DU yn adlewyrchu datblygiadau ac arfer gorau yng Nghymru: • Grŵp Ymgynghorol Gwasanaeth Gwybodaeth Chwarae Plant • Fforwm Diogelwch Chwarae • Fforwm Polisi Chwarae Plant • Play England • Grŵp Llywio Cenedlaethol Diwrnod Chwarae • Bwrdd Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yr International Play Association (IPA EWNI) • International Play Association (IPA) World • Ymgyrch Plant Awyr Iach Sustrans

• darparu cefnogaeth datblygiad proffesiynol an-rheolaethol i Swyddogion Datblygu Chwarae trwy Gymru. • darparu cefnogaeth benodol i brosiectau chwarae sector gwirfoddol yn cynnwys: • 3 Counties Play Association • Chwarae Plant • Dewis Chwarae • Re-create (Cymdeithas Gwasanaethau Chwarae Caerdydd a Bro Morgannwg) • Tri-County Play Association • darparu arbenigedd a chefnogaeth dros dro i fudiadau lleol a chenedlaethol eraill trwy secondiadau/cytunedebau tymor byr i staff y Tîm Prosiectau; Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy, rhaglen Cyfran Deg ar Ynys Môn, Prosiect Blaenau’r Cymoedd trwy’r Tri-County Play Association, trosglwyddo rhaglen mentora ar gyfer goruchwylwyr amser cinio mewn partneriaeth â Children’s Scrapstore (Bryste), Adolygiad o Strategaeth Chwarae Powys. • cyflwyniadau i grwpiau strategaethau chwarae lleol. 9


Gwybodaeth, arweiniad a rhwydweithio Mae Tîm Cyfathrebiadau Chwarae Cymru wedi cynhyrchu a rhaeadru amrywiaeth eang o wybodaeth a gwasanaethau dwyieithog yn ystod y flwyddyn diwethaf, yn cynnwys:

• Darpariaeth, cynnal a chadw a datblygiad parhaus gwefan gaiff ei diweddaru’n rheolaidd gydag eitemau o ddiddordeb i aelodau ac i bobl sydd â diddordeb mewn chwarae plant, gwaith chwarae a darpariaeth chwarae. Mae nifer y tudalennau gwybodaeth ar y wefan wedi cynyddu fel y mae nifer yr ymwelwyr sy’n lawrlwytho gwybodaeth. Dylunio a datblygu gwefan newydd i’w lansio yn ystod Haf 2012. • Cyhoeddi Chwarae dros Gymru, ein cylchgrawn dwyieithog, deirgwaith y flwyddyn - dosbarthwyd, yn rhad ac am ddim, ar ffurf argraffedig ac electronig i oddeutu 3,350 o bobl all hybu buddiannau chwarae plant yng Nghymru.

• Adolygu a chyhoeddi gwe-ddalennau ar amrywiol destunau gan gynnwys ystod o ddeunyddiau ar eiriol dros a chynaladwyedd darpariaeth chwarae ar gyfer darparwyr chwarae - i’w cynorthwyo i ateb anghenion chwarae plant a llywio eu ffordd trwy ddatblygiadau newydd. • Ehangu llyfrgell Chwarae Cymru, sef y ffynhonnell mwyaf cynhwysfawr o ddeunyddiau chwarae a gwaith chwarae yng Nghymru. Mae’r llyfrgell yn agored i ymwelwyr trwy drefniad ac yn bennaf mae’n cynorthwyo ein tîm, yn ogystal â gweithwyr chwarae proffesiynol a myfyrwyr sy’n astudio chwarae a gwaith chwarae. • Golygu, cywiro proflenni, rheoli dylunio a chynorthwyo gyda datblygu deunyddiau hyfforddiant gwaith chwarae dwyieithog newydd - gan gyfrannu at hyfforddiant safonol ar gyfer gweithwyr chwarae all weithio i ateb anghenion chwarae plant.

10

• Hyrwyddo chwarae trwy’r cyfryngau. Cynrychiolaeth mewn digwyddiadau cenedlaethol, fel y Diwrnod Chwarae Cenedlaethol - a thrwy hynny gynyddu ymwybyddiaeth ynghylch y rhwystrau sy’n atal plant rhag cael cyfleoedd chwarae o safon a phwysleisio pwysigrwydd chwarae plant.


• Cyfrannu at grŵp llywio a Phecyn Gwybodaeth Diwrnod Chwarae Cenedlaethol y DU - a thrwy hynny gefnogi gwasanaethau chwarae wrth ddarparu digwyddiadau Diwrnod Chwarae ar gyfer plant, ac yn ogystal darparu Cynrychiolaeth Cymreig a chefnogaeth i grŵp ymgyrchu trwy’r DU sy’n amlygu rhwystrau i brofiadau chwarae o safon ac argymell camau gweithredu.

• Ar ran yr holl bobl sy’n gweithio i wneud Cymru’n wlad chwaraegyfeillgar cyflwynodd Chwarae Cymru gais am Wobr Hawl i Chwarae’r International Play Association – Cymru yw’r wlad gyntaf i dderbyn y Wobr. Lansiwyd ymgyrch Cymru – Gwlad Chwaraegyfeillgar er mwyn helpu i ffurfio rhwydwaith o gefnogaeth i chwarae ar draws Cymru.

• Sefydlu ffrydiau cyfryngau cymdeithasol dwyieithog Chwarae Cymru a’u diweddaru’n rheolaidd. Mae 93 yn ‘hoffi’ ein dalennau Facebook ac mae 292 yn ein dilyn ar Twitter.

• Dosbarthu cyhoeddiadau, 141 copi o Yr Hawl Cyntaf ac 63 copi o Yr Hawl Cyntaf - Prosesau Dymunol - er mwyn hwyluso darpariaeth gwasanaethau chwarae o safon i blant.

• Cyswllt rheolaidd ag Aelodau Seneddol ac Aelodau’r Cynulliad trwy gylchgronau, digwyddiadau, cyfarfodydd a thaflenni gwybodaeth - a thrwy hynny gynyddu ymwybyddiaeth ynghylch pwysigrwydd chwarae i blant a’r angen i hybu penderfyniadau chwarae-gyfeillgar ymysg cynllunwyr a phobl sy’n llunio penderfyniadau.

• Golygu, cywiro proflenni, rheoli’r gwaith dylunio a chyfieithu a chynorthwyo gyda datblygu taflenni gwybodaeth newydd: Chwarae: iechyd a lles a Mannau chwarae: cwynion cyffredin ac atebion syml.

• Cyfrannu i gynadleddau a digwyddiadau yng Nghymru a thrwy’r DU gan hyrwyddo gwaith Chwarae Cymru, sef hybu darpariaeth chwarae o safon ar gyfer plant. • Cydlynu trefniadau cynhadledd 2011 yr International Play Association – gan hyrwyddo gwaith Chwarae Cymru ar lefel rhyngwladol a hyrwyddo darpariaeth chwarae o safon ar gyfer plant – gyda 450 o gyfranogwyr o 37 gwlad yn bresennol. Marchnata’r digwyddiad hwn yng Nghymru ac yn rhyngwladol; cynnal gwefan y gynhadledd, creu system archebu ar-lein, creu a diweddaru ffrydiau cyfryngau cymdeithasol; croesawu gwirfoddolwyr UNA Exchange; gweithio gyda dau gwmni dylunio i ddatblygu a chynhyrchu deunyddiau’r gynhadledd.

• Golygu, cywiro proflenni, rheoli’r gwaith dylunio a chyfieithu a chynorthwyo gyda datblygu a chyhoeddi’r pecyn cymorth cymunedol Datblygu a Rheoli Mannau Chwarae. • Gan ystyried etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol (Mai 2011) cyhoeddodd Chwarae Cymru Agenda ar gyfer Chwarae Plant yng Nghymru. Amcanion ar gyfer polisi yw’r rhain i’r Llywodraeth newydd – i helpu i atgoffa llunwyr polisïau am bwysigrwydd chwarae a darpariaeth chwarae i blant a’u teuluoedd. • Darparu seminarau a chynadleddau i hwyluso darpariaeth gwasanaethau chwarae o safon i blant.

11


Datblygu’r gweithlu

Mae tîm Datblygu’r Gweithlu, Chwarae Cymru, wedi parhau i gefnogi a chyfrannu tuag at hyfforddiant addysg gwaith chwarae a datblygu’r gweithlu yng Nghymru.

Dros y 12 mis diwethaf bu Chwarae Cymru’n weithredol mewn amrywiol weithgareddau sy’n ymwneud â hyfforddiant a datblygu’r gweithlu er mwyn hybu buddiannau chwarae plant yng Nghymru, gan gynnwys: • Cefnogaeth sylweddol parhaus i SkillsActive, y cyngor sgiliau sector ar gyfer gwaith chwarae, gan gynnwys trosglwyddo strategaeth y DU, Hyfforddiant o Safon, Chwarae o Safon a datblygu’r strategaeth olynol sef Strategaeth Addysg a Sgiliau Chwarae a Gwaith Chwarae y DU 2011 - 2016, a’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Cymru. • Trosglwyddo pedwar cyfarfod Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru ar ran SkillsActive. • Cynorthwyo i ddatblygu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol – bellach mae gan waith chwarae godau Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol. • Trosglwyddo prosiect Rhaglen y Gronfa Blaenoriaethau Sector (SPFP), Cronfa Gymdeithasol Ewrop – achredu cymwysterau newydd Gwobr, Tystysgrif a Diploma Lefel 3 P3 Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith, ac ysgrifennu deunyddiau newydd ar gyfer y Wobr. • Cynhyrchu deunyddiau hyfforddiant i gefnogi trosglwyddo Gwobr P3 Lefel 3. 12

• Gweithio i ddatblygu cais SPFP CGE i gynorthwyo gyda datblygu deunyddiau ar gyfer Tystysgrif a Diploma Lefel 3 P3, a mecanwaith trosglwyddo ar-lein, yn Gymraeg a Saesneg, ar draws cymwysterau Lefel 2 a 3. • Trosglwyddo a chefnogi Lefel 2 Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith – 22 carfan. • Carfan beilot gyntaf Lefel 3 P3 wedi ei sefydlu ac yn gyrru ymlaen yn llwyddiannus. • Parhau i wella ansawdd ein darpariaeth Canolfannau Scottish Qualifications Authority (SQA) er mwyn sicrhau’r lefel uchaf a ddyfernir gan Ddilyswyr Allanol. • Cynllunio trosglwyddo cwrs P3 Hyfforddi’r Hyfforddwr. Ennill ariannu ar gyfer dysgwyr yn ardal Caerdydd. • Datblygu partneriaeth/is-gytundeb gyda Coleg Cymunedol YMCA Cymru er mwyn sicrhau ariannu ar gyfer trosglwyddo cymwysterau mewn gwaith chwarae, hyfforddi ac asesu. • Dechrau’r rôl o brif-ffrydio cymwysterau gwaith chwarae trwy Gymru gyfan a gweithio gyda nifer o golegau newydd i sefydlu canolfannau SQA.


Adolygiad ariannol Prif ffynonellau ariannu

Yn ystod y flwyddyn derbyniodd Chwarae Cymru ei incwm yn bennaf gan Lywodraeth Cymru, cynhadledd yr International Play Association (a gymrodd le y gynhadledd Ysbryd flynyddol am y flwyddyn hon), seminar, ymgynghoriaeth a chyngor, secondiad, rhaglen Ymddiriedolaeth Cyfran Deg Cronfa Loteri Fawr, cytunedeb SkillsActive a thâl aelodaeth (daeth i rym 1 Ionawr 2012). Mae’r cyllid craidd gan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ffynhonnell ariannu o bwys sylweddol, wnaeth sicrhau gweithrediad y rhaglen waith trwy gyflogi staff a’r costau gweithredol cysylltiedig.

Datganiad arian wrth gefn

Mae Chwarae Cymru’n bwriadu cadw lefel arian wrth gefn o o leiaf tri mis o’r gwariant blynyddol, sydd ar hyn o bryd oddeutu £132 o filoedd. Caiff yr arian wrth gefn ei roi o’r neilltu er mwyn sicrhau sefydlogrwydd ariannol ar gyfer y staff a’r aelodau ac er mwyn sicrhau y byddai’r gweithgareddau presennol yn cael eu cynnal pe digwydd cwtogiad sylweddol mewn ariannu. Ceir cyllid cyfyngedig o -£1,288, ar 31 Mawrth 2012, o ganlyniad i wariant oedd yn fwy na’r incwm trwy grant, a chaiff hyn ei ddileu gan incwm yn ystod y flwyddyn ganlynol. Ar ddiwedd y flwyddyn mae gan yr elusen ddiffyg cronedig anghyfyngedig o -£101,892 (2011: arian dros ben o £5,961). O’r gweddill hwn mae £11,010 ynghlwm mewn asedau sefydlog, mae £105,000 wedi eu neilltuo mewn cronfa gyflog benodedig fel cyfrif cadw cyflogres. Fodd bynnag, mae’r gweddill digyfyngiad wedi ei nodi ar ôl didynnu atebolrwydd pensiwn o £470,000 nad oes gofyn iddo gael ei setlo ar unwaith. Y cyllid digyfyngiad oedd ar gael i’r elusen (ac eithrio asedau sefydlog, y gronfa benodedig a’r atebolrwydd pensiwn) oedd £252,098 (2011: £221,999).

Polisi buddsoddi

Mae’r ymddiriedolwyr yn adolygu’r swm y mae’r mudiad ei angen er mwyn sicrhau ei fod yn ddigonol iddo gyflawni ei ddyletswyddau parhaus yn rheolaidd. Ar hyn o bryd mae’r elusen yn mabwysiadu agwedd ofalus tuag at fuddsoddi, gan ddefnyddio polisi risg isel, tymor byr, cyfrif cadw 14 diwrnod sy’n dwyn llog sy’n derbyn tua 0.38 y cant o elw.

13


IPA 2011

Wales Cymru

2011

Chwarae i’r Dyfodol - goroesi a ffynnu Gweithiodd y mudiad gyda phartneriaid a chydweithwyr i sicrhau ei fod yn ddigwyddiad cofiadwy, diddorol, bywiog a chyffrous. Roedd yn gyfle gwych i ddod â darparwyr chwarae, ymarferwyr, damcaniaethwyr ac ymchwilwyr ynghyd ac i roi llwyfan i’r polisïau a’r gwaith ymarferol sy’n cael ei wneud yn y DU. Llwyddom i ddarparu cynhadledd fywiog ac ysgogol dros bedwar diwrnod a arddangosodd y gorau y gall Cymru (a’r DU) ei gynnig i blant sy’n chwarae. Yn ystod y flwyddyn paratowyd tuag at a chynhaliwyd 18ed Cynhadledd Fyd-eang yr IPA •

• • •

• • • •

Marchnata’r gynhadledd trwy Gymru, y DU ac yn rhyngwladol ar ffurf postio gwybodaeth a thrwy ddulliau electronig arweiniodd at ddenu 450 o gyfranogwyr o 37 o wledydd dros y pedwar diwrnod Croesawu siaradwyr gwadd o’r DU, yr Almaen, India ac UDA. Cyfranogodd 285 trwy gyflwyno gweithdai a phapurau yn y gynhadledd Gŵyl Clochdar dros Chwarae – darparodd cynrychiolwyr o 20 mudiad a chymdeithas chwarae rhanbarthol o bob cwr o Gymru a’r DU amrywiaeth o gyfleoedd chwarae ar gyfer 525 o blant ysgol (100 o staff a gwirfoddolwyr o fudiadau chwarae o bob cwr o Gymru a’r DU) Recriwtio a chroesawu naw o fyfyrwyr UNA Exchange ar y Prosiect Gwirfoddolwyr Rhyngwladol Marchnata a gwerthu gofod arddangos a phecynnau noddi i 20 o fudiadau a chwmnïau Parhau i godi arian a rheoli grant o £10,000 gan y Waterloo Foundation Rheoli’r system archebu ar-lein; datblygu a diweddaru gwefan y

14

• •

• • • •

gynhadledd yn barhaus, gafodd ei droi’n adroddiad ôl-gynhadledd wedi’r digwyddiad oedd yn cynnwys clipiau fideo o’r siaradwyr gwadd Croesawu Bwrdd IPA World a chyfarfod Cyngor IPA World Gweithio gyda chwmni dylunio lleol i gynhyrchu deunyddiau’r gynhadledd; chwilio am ffynonellau ar gyfer bagiau’r gynhadledd a deunyddiau hyrwyddol Trafod â lleoliad y gynhadledd a gweithio gyda chwmni Paul Williams Events Trafod â mudiadau yng Nghaerdydd i drefnu ymweliadau i gyfranogwyr yn ystod y gynhadledd Marchnata teithiau cyn ac ar ôl y gynhadledd a drefnwyd gan fudiadau eraill Trafod â Phrifysgol Glyndŵr i drefnu a chynnal y Gwersyll Gwaith Chwarae Rhyngwladol (1 – 3 Gorffennaf 2011) – a fynychwyd gan 50 o gyfranogwyr Ar ran yr holl bobl sy’n gweithio i wneud Cymru’n wlad chwaraegyfeillgar cyflwynodd Chwarae Cymru gais - ‘Cymru - Gwlad Chwarae Gyfeillgar’ am Wobr Hawl i Chwarae’r International Play Association.


Cymru - gwlad chwarae-gyfeillgar

Mae ‘Cymru - Gwlad Chwarae-Gyfeillgar’ yn ymgyrch gan Chwarae Cymru y gall cymunedau eu defnyddio i sefydlu ymgyrchoedd lleol ar gyfer chwarae plant a bod yn rhan o fudiad cenedlaethol ar yr un pryd. Chwarae Cymru gyflwynodd y cais am Wobr Hawl i Chwarae - ‘Cymru - Gwlad ChwaraeGyfeillgar’ ar ran pawb sy’n gweithio i wneud Cymru yn wlad chwarae-gyfeillgar. Derbyniodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones AC, y Wobr Hawl i Chwarae yr International Play Association (IPA) pan agorodd 18ed cynhadledd yr IPA yng Nghaerdydd ar 4 Gorffennaf 2011. Wrth dderbyn y Wobr dywedodd y Prif Weinidog: ‘Mae’r ffaith mai dyma’r tro cyntaf i’r wobr ryngwladol arobryn yma gael ei chyflwyno i wlad gyfan yn anrhydedd aruthrol. Hoffwn ddiolch i’r holl fudiadau a’r holl bobl y mae eu hegni a’u hymroddiad wedi cyfrannu at weld Cymru’n ennill y wobr hon.’ Mae Chwarae Cymru wedi creu tudalen Facebook ar gyfer ‘Cymru – Gwlad Chwarae-Gyfeillgar’ er mwyn helpu i ffurfio rhwydwaith o gefnogaeth ar gyfer chwarae ar draws Cymru. Gallwch ei ddefnyddio i leisio eich barn, i gyhoeddi eich lluniau ac i hysbysebu gweithgareddau lleol, ac i chwilio am ysbrydoliaeth. Cofiwch roi gwybod inni am yr hyn sy’n digwydd yn eich hardal chi sydd unai’n gwarchod neu’n atal hawl plant a phobl ifainc i chwarae http://on.fb.me/gwladchwaraegyfeillgar

ht

15


Bydd Chwarae Cymru wastad yn gweithio i hyrwyddo chwarae plant ar bob lefel, yn gweithredu fel eiriolwr dros blant a’u anghenion chwarae ac yn sicrhau y ceir ffocws cenedlaethol strategol ar chwarae ar draws ffiniau. Mae gweithgareddau a gwasanaethau o bwys fydd yn cyfrannu tuag at gyflawni’r amcanion penodedig yn cynnwys:

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol Datblygu cais BIG Innovations

Parhau i gyflwyno ceisiadau am gytundebau bychain ar gyfer datblygu’r gweithlu

Gweithio gydag ariannu prif ffrwd ar gyfer trosglwyddo cymwysterau gwaith chwarae a chefnogi datblygiad mwy o ganolfannau SQA o amgylch Cymru.

Sefydlu is-ganolfannau rhyngwladol SQA, wedi eu hariannu’n annibynnol, ar gyfer trosglwyddo Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith (P3)

Parhau i gefnogi SkillsActive â’i waith yng Nghymru a darparu cynrychiolaeth ar lefel y DU.

Cefnogi gwaith Llywodraeth Cymru ar ofynion y Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 sy’n ymwneud â chwarae plant yng nghyddestun datblygu’r gweithlu ar draws y sectorau.

Parhau â gwaith polisi er mwyn sicrhau bod Mentrau/Mesurau eraill y Llywodraeth, sy’n effeithio ar fynediad i fannau i chwarae (megis y Bil Trafnidiaeth, Diogelwch Cymunedol, Cynlluniau Gweithredu Gweithgarwch Corfforol) yn ymgorffori dealltwriaeth o hawliau plant i chwarae.

Parhau i weithio â’r HSE, trwy’r Play Safety Forum, er mwyn lleihau canlyniadau cam-ddefnyddio Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 Parhau i hyrwyddo Managing Risk in Play Provision: an Implementation Guide.

Adolygiad o strategaethau pum mlynedd a 10 mlynedd Chwarae Cymru

Datblygiad a throsglwyddiad parhaus deunyddiau hyfforddi a chymwysterau chwarae o safon

Datblygiad cais am Ariannu Ewropeaidd

Datblygiad parhaus y wefan a datblygu Gwasanaethau Gwybodaeth

Cylchgrawn a gyhoeddir dair gwaith y flwyddyn

Trosglwyddo rhaglen o gynadleddau, gweithdai, digwyddiadau a seminarau

Cynnal aelodaeth awdurdodau lleol Cymru a’r Trydydd Sector a hwyluso gweithio partneriaeth

Cyfrannu tuag at a chefnogi gweithredu Chwarae yng Nghymru

Cyfrannu tuag at weithredu Strategaeth Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae’r DU

Datblygu aelodaeth Chwarae Cymru a chynyddu nifer yr aelodau newydd 20 y cant

Datblygu presenoldeb cyfryngau cymdeithasu Chwarae Cymru cynyddu dilynwyr 20 y cant

Cefnogaeth i rwydweithiau proffesiynol

Cyfrannu at a chefnogi gweithredu Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, sy’n gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu’n ddigonol ar gyfer chwarae plant

16


Tîm Chwarae Cymru Michelle Craig - Cynorthwywraig Swyddfa

Strwythur trefniadol

Gill Evans - Rheolwraig Cyfathrebiadau

Caiff yr elusen ei gweinyddu gan Y Bwrdd Ymddiriedolwyr. Mae’r Cyfarwyddwr yn atebol i’r Bwrdd Ymddiriedolwyr am reoli’r mudiad o ddydd i ddydd.

Mike Greenaway - Cyfarwyddwr Jacky Jenkins - Rheolwraig Cyllid Marianne Mannello - Cyfarwyddwraig Gynorthwyol Martin King-Sheard - Swyddog Prosiect Tillie Mobbs - Cyfarwyddwraig Gynorthwyol Kathy Muse - Rheolwraig Swyddfa Sarah Southern - Swyddog Prosiect Richard Trew - Swyddog Datblygu Cymwysterau Maria Worley - cydlynydd cymwysterau Angharad Wyn Jones - Swyddog Cyfathrebiadau

Aelodaeth Mae Chwarae Cymru’n fudiad aelodaeth. Mae aelodaeth yn agored i sefydliadau ac unigolion o sectorau gwirfoddol, statudol ac annibynnol. Y tâl aelodaeth ar gyfer 2012 yw: Unigol: £10 Sefydliadau – un aelod llawn amser o staff neu lai: £25 Rhyngwladol: £25 Sefydliadau – mwy nag un aelod llawn amser o staff: £50 Masnachol / preifat: £75 Awdurdod Lleol: £100 I gofrestru i ddod yn aelod, ymwelwch â: www.chwaraecymru.org.uk/cym/aelodaeth

17


Cysylltwch â ni ...

Chwarae Cymru Tŷ Baltig Sgwâr Mount Stuart Caerdydd CF10 5FH

Rhif ffôn: (029) 2048 6050 Ebost: post@chwaraecymru.org.uk

www.chwaraecymru.org.uk Elusen cofrestredig, rhif. 1068926. Cwmni cyfyngedig drwy warant cofrestrwyd yng Nghymru, rhif. 3507258


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.