Mae’r adroddiad effaith yn cynnig trosolwg o waith a chyflawniadau Chwarae Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf wrth eiriol dros chwarae plant. Mae’n cynnwys adrannau ar sut yr ydym wedi cefnogi blaenoriaethau cenedlaethol a sut yr ydym wedi ymgysylltu â’n cynulleidfa, darparu cyfleoedd a chynhyrchu cyhoeddiadau i sicrhau bod y gweithlu chwarae yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf, a sut yr ydym wedi cydweithio’n lleol ar draws Cymru.