Amddifadiad chwarae (2003)

Page 1

Amddifadiad chwarae


Amddifadiad Chwarae – ffeithiau a dehongliadau Datblygwyd y daflen wybodaeth hon ar gyfer ymarferwyr gwaith chwarae, darparwyr ac arianwyr darpariaeth, aelodau etholedig, rhieni ac unrhyw un sydd â’i waith yn effeithio ar gyfleoedd plant i chwarae. Mae’n archwilio’r cwestiwn: Os yw chwarae yn bwysig i fodau dynol, beth sy’n digwydd os nad yw plant yn cael y cyfle i chwarae ac yn amddifad o chwarae?

Ydi chwarae yn bwysig i fodau dynol? Mae’r llenyddiaeth yn gynyddol gadarnhau fod chwarae1 yn hanfodol i ddatblygiad dynol ac i’n goroesiad fel rhywogaeth. Bu’n wybyddus ers amser maith fod gan chwarae rôl arwyddocaol wrth adeiladu sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol, gwerthfawrogiad esthetig, creadigrwydd a datrys problemau, ac mae ysgolheigion hefyd wedi pwysleisio ei rôl yn natblygiad yr ymddygiad hyblyg ac an-arbenigol sy’n angenrheidiol i oroesiad ei rhywogaeth fel mae amodau ecolegol ac amodau eraill yn newid.2 Fodd bynnag, mae astudiaethau3, hefyd yn cadarnhau fod chwarae yn ffactor arwyddocaol mewn datblygiad ymenyddol a datblygiad ffibr cyhyrol, wrth greu a datblygu ei hymwybyddiaeth a’n gallu i feddwl yn wrthrychol ac wrth greu ein trefniadaeth wybyddol. Mae’n hanfodol i ‘ddatblygiad empathi, anhunanoldeb cymdeithasol a’r meddiant o stôr o ymddygiadau cymdeithasol sy’n galluogi’r rhai sy’n chwarae i ymdrin â straen, yn arbennig bychanu ac analluogrwydd’, ac i allu ‘mynd gyda’r llif ergydion sy’n gysylltiedig â rhyngweithio cymdeithasol dyddiol.’ Mae rhai damcaniaethwyr4, yn dynodi fod chwarae o bosibl wedi esblygu i’r ffurf gymhleth y gwelwn ef heddiw er mwyn galluogi bodau dynol fel maent yn esblygu i allu mynd i’r afael ac addasu i amgylchiadau sy’n bygwth eu difodiant.

Beth yw amddifadiad chwarae? Amddifadiad chwarae yw’r enw a roddir i’r syniad fod peidio chwarae yn amddifadu plant o brofiadau sy’n cael eu hystyried yn hanfodol i

ddatblygiad a’r canlyniad yw fod y rhai a effeithir yn analluog yn fiolegol ac yn gymdeithasol.

Pa dystiolaeth sydd fod Amddifadiad Chwarae yn bodoli ac y gall fod yn niweidiol? Er bod data dynol ar effaith peidio chwarae yn brin, mae casgliadau’r astudiaethau sydd yn bodoli, yn achos pryder. Mae pump prif faes astudiaeth. Gellir eu dehongli fel a ganlyn: 1. Os yw profiadau chwarae normal yn absennol trwy gydol bywyd plentyn, mae’r plentyn hwnnw yn fwy tebygol o fod yn dra threisgar ac yn anghymdeithasol waeth beth fo’r ddemograffeg5. 2. Os cedwir plant i mewn heb eu gadael allan i chwarae, maent yn profi amddifadiad chwarae ac maent yn debygol o arddangos symptomau yn amrywio o ymddygiad ymosodol a sgiliau cymdeithasol ac emosiynau gorthrymedig, hyd at risg gynyddol o ordewdra6. 3. Pan fo plant yn ddirfawr amddifad o chwarae fel un agwedd o amddifadiad synhwyraidd parhaus maent yn dioddef symptomau yn amrywio o iselder ac enciliad i leihad graddol ym mhob gweithgaredd trydanol yn yr ymennydd7. Tra bo ffactorau eraill – diffyg cyswllt dynol a ffurfiau eraill o amddifadiad synhwyraidd – yn ddi-os wedi chwarae rhan fawr wrth greu’r cyflwr a ddioddefir gan y plant, a ddisgrifir uchod (3) byddai’r ffaith eu bod yn analluog i chwarae yn ystod yr hyn a adnabyddir fel y ‘cyfnod sensitif’ ar gyfer twf niwrolegol8 rhwng


genedigaeth a saith mlwydd oed wedi bod yn ffactor cyfrannol arwyddocaol. 4. Mae astudiaethau eraill9,10 wedi nodi fod chwarae yn hanfodol ar gyfer datblygiad yr ymennydd. Awgrymir y bydd amddifiadiad chwarae yn cael effaith niweidiol ar dwf ymennydd. Awgryma un astudiaeth fod chwarae nid yn unig yn weithredol yn ystod y cyfnod sensitif ar gyfer twf ymenyddol ond mai chwarae YW y cyfnod sensitif. Mewn geiriau eraill dim ond pan fo plant yn chwarae y bydd yr ymennydd yn tyfu. Neu mewn geiriau eraill, os na fydd plant yn chwarae ni fydd eu hymennydd yn tyfu. Er bod hyn yn ei hun yn ganlyniad catastroffig, mae’r un astudiaeth hefyd yn disgrifio chwarae fel addasydd strwythur ymenyddol. Yn ogystal â chael yr effaith o gynyddu maint ymennydd yn gyffredinol, mae’n golygu fod chwarae yn gweithredu i ddatblygu gwir strwythur rhannau penodol o’r ymennydd, er enghraifft y serebelwm. Y drafodaeth felly yw, os cânt eu heffeithio gan amddifiadiad chwarae bydd plant nid yn unig ag ymenyddau llai na’r cyffredin, ond bydd rhannau penodol o’r rheiny yn gamffurfedig. Adroddodd astudiaeth debyg o’r Unol Daleithiau yr effeithiau dinistriol hyn o ganlyniad amddifadiad chwarae ar blant amddifad Rwmanaidd, gan eu cysylltu â lleihad ym maint ymennydd y plant yr effeithiwyd arnynt.11 Mae astudiaethau amddifadiad chwarae ar rywogaethau eraill yn cadarnhau fod ei effeithiau yr un mor bwerus ar y rhai a effeithiwyd. 5. Pan gaiff rhywogaethau eraill eu hamddifadu o chwarae maent yn arddangos ymddygiad tra ymosodol ac od ac ymddengys eu bod yn colli cysylltiad yn llwyr gyda’r normau cymdeithasol a’r protocolau ymddygiad derbyniol gan y rhywogaeth honno12.

Pam fod amddifadiad chwarae mor niweidiol? Ni allwn ond damcaniaethu pam fod amddifadiad chwarae yn cael effaith mor

gatastroffig ar blant dynol. Fodd bynnag, mae’r llenyddiaeth yn dangos i ni fod plant dynol o’u genedigaeth i oddeutu saith neu wyth mlwydd oed yn mynd trwy ‘gyfnod sensitif’ ar gyfer twf a ffurfiant niwrolegol. Er bod ffactorau eraill, megis diet a safon y gofal yn cael effaith amlwg, y dylanwad cryfaf ar fywydau plant am lawer o’r cyfnod hwn yw sut a lle maent yn chwarae. Awgryma Edelman (1992) fod profiad yn creu mewn plant yr hyn mae’n ei alw’n fapiau cortigol yn ystod y cyfnod sensitif, sy’n eu galluogi i ddatblygu perthynas emosiynol gyda’r byd ac yn raddol yn creu realiti ymwybodol. Gwelodd Vygotsky chware fel yr ‘union broses lle câi ystyr ei greu’. Mae’n dilyn y bydd amddifadiad chwarae, os yw’n digwydd, hefyd yn digwydd yn ystod y cyfnod sensitif hwnnw pan fyddai plant yn arferol yn chwarae, ac oherwydd fod ei effaith yn ddiffyg dirfawr o’r rhyngweithiad synhwyraidd gyda’r byd sydd ei angen i greu profiadau, y canlyniad fydd twf ymenyddol ataliol (dilead synaps), a chyfrannu at gamffurfiad rhannau hanfodol o’r ymennydd ac achosi camweithiad y canolfannau sy’n rheoli lefelau niwrogemegol penodol. Disgrifir chwarae yn gynyddol fel y modd mae plant dynol yn canfod y byd y tu allan iddynt hwy eu hunain ac yn datblygu’r sgiliau i ddod o hyd i’r ffordd ac i ddeall y byd hwnnw. Canlyniad anallu i ymroi mewn chwarae yw ansefydlogrwydd, camweithrediad niwrolegol, anhapusrwydd a diffyg lles meddyliol mewn plant yr effeithiwyd arnynt.

Pwy sydd o dan y risg fwyaf o amddifadiad chwarae? Oherwydd y gall amrywiaeth o ffactorau gwahanol gydymffurfio i greu amodau sy’n angenrheidiol er mwyn i amddifadiad chwarae ddigwydd, yn cynnwys diet gwael, triniaeth rwystredig neu ddilornus a diffyg mynediad i ofod priodol ar gyfer chwarae, mae plant yn gyffredinol wynebu risg o amddifadiad chwarae. Nid yw unrhyw grŵp yn eithriedig. Fodd bynnag, mae’n rhesymol casglu fod y risg o amddifadiad chwarae lefelau isel neu ganolig, yn debygol o fod uchaf mewn plant sydd â’u rhieni/ gofalwyr yn gallu fforddio’r cludiant i’r ysgol, a’r


gweithgareddau ar ôl ysgol sy’n cadw eu plant draw o ffyrdd, rheibwyr a ‘pheryglon’ tybiedig eraill ac sydd, oherwydd eu dyheadau ar gyfer eu plant, am eu gweld yn gwneud rhywbeth ‘elwach’ pan na fyddant yn yr ysgol neu yn gwneud eu gwaith cartref. Gall ddigwydd hefyd pan fo rhieni/gofalwyr yn defnyddio’r teledu neu gemau cyfrifiadurol fel modd i lonyddu y rhai sydd yn eu gofal. O ganlyniad, tra gellir dadlau bod plant o gefndiroedd llai cefnog mewn mwy o berygl o’r ‘peryglon’, gallant fod yn llai tebygol o fod yn cael eu hamddifadu o’r rhyngweithio gyda phlant, rhywogaethau ac amgylcheddau eraill sy’n hanfodol ar gyfer profiadau chwarae o safon. Er hyn yn fwy cyffredinol, ein cred yw mai plant o unrhyw gefndir sy’n profi trais a bwlio parhaus, esgeulustod/camdriniaeth, carchariad yn y cartref, rhyfel, esgeulustod sefydliadol ac/neu tlodi materol/ diwylliannol sydd o dan y risg fwyaf o lefelau uchel o amddifadiad chwarae ac sydd felly yn fwy tebygol o fod yn dreisgar ar hap ac yn anghysylltiedig o normau cymdeithasol.

Beth ellir ei wneud i atal effeithiau amddifadiad chwarae? Yn ddelfrydol dylai plant allu chwarae a chael rhyddid mewn gofod sy’n rhydd o oedolion, yn gorfforol amrywiol ac yn heriol. Pan nad yw’r cyfleoedd hyn yn bodoli, darpariaeth chwarae ymyroddedig, mewn meysydd chwarae penodol wedi eu staffio13 yw’r ymateb mwyaf priodol yn yr hinsawdd sydd ohoni. Pam? Tra bod ffurfiau eraill o ofodau chwarae gwneuthuredig yn cynnig mynediad cyfyngedig yn unig i’r amrediad o brofiadau chwarae sy’n angenrheidiol i osgoi unrhyw amddifadiad chwarae, ystyrir yn eang o fewn y proffesiwn gwaith chwarae mai meysydd chwarae antur sy’n cynnig y profiadau chwarae mwyaf cynhwysfawr a dilys i’r plant sy’n eu defnyddio. Nid yn unig mae’r amgylchedd ei hun yn cael ei addasu’n gyson, caiff y plant hefyd eu harolygu gan oedolion cymwysedig a phrofiadol, sy’n deall rôl ddatblygiadol chwarae, ac sy’n sicrhau fod ymrwymiad hunan-gyfeiriedig y plant gyda’r her a’r amrywiaeth sydd ar gael yn cael ei hybu’n briodol.

Casgliad Mae’n amlwg fod chwarae’n aruthrol o bwysig i blant dynol, yn enwedig yn ystod y cyfnod sensitif o enedigaeth hyd at saith mlwyd oed. Nid oes amheuaeth fod plant gaiff eu hamddifadu o chwarae yn dioddef canlyniadau corfforol a seicolegol sylweddol, canlyniadau all fod yn ddinistriol tu hwnt i’r rhai gaiff eu heffeithio. Bydd plant yn addasu trwy eu chwarae i nifer o newidiadau mewn amgylchiadau, megis y cynnydd mewn teganau cyfrifiadurol, ac medrant esblygu sgiliau newydd o ganlyniad. Fodd bynnag, nid yw amddifadiad chwarae yn ymwneud â newid ond yn hytrach yn ymwneud ag absenoldeb y mewnbynnau synhwyraidd rheiny sy’n hanfodol ar gyfer cynnal dynoldeb. Gall amddifadiad cronig o chwarae gael yr effaith o ddadddyneiddio y plant mae’n effeithio arnynt yn raddol, ac o ganlyniad yn colli eu gallu i ofalu, i empatheiddio ac ymarfer tosturi, neu rannu’r un realiti â phlant eraill. Mae’r dystiolaeth sydd ar gael yn awgrymu fod plant sy’n amddifad o chwarae yn oedolion trwblus, ymosodol a threisgar. Mae astudiaethau ar rywogaethau eraill yn casglu bod mynediad cyson at brofiad chwarae o safon yn dileu effeithiau amddifadiad chwarae14.

Notes 1. ‘Mae chwarae yn cwmpasu ymddygiad plant a gaiff ei ddewis yn rhydd, yn cael ei gyfeirio’n bersonol ac wedi ei ysgogi’n gynhenid. Ni chaiff ei wneud ar gyfer unrhyw wobr neu amcan, ac mae yn y bôn yn rhan annatod o ddatblygiad iach – nid yn unig i blant unigol, ond hefyd i’r gymdeithas maent yn byw ynddi’ Polisi Chwarae Llywodraeth Cynulliad Cymru Hydref 2002 2. Pennod ddefnyddiol er hen ar hyn yw: Sylva, K. (1977) 3. Damasio 1994, Byres and Walker 1995, Byres 1998, Siviy 1998, Brown 1998 4. Gweler Hughes 2003a, 2003b


5. Mae’r wybodaeth gynharaf, (Brown a Lomax, 1969, yn Brown 1998) yn gwneud cysylltiad rhwng amddifadiad chwarae ac ymddygiad treisgar anghymdeithasol. Ynddo mae Brown mewn astudiaeth o 26 o lofruddion ifanc yn nodi fod, ‘ymddygiad chwarae normal yn absennol bron trwy gydol bywydau y dynion tra threisgar ac anghymdeithasol hyn waeth beth fo’r ddemograffeg’. Canfu hefyd fod ‘amddifadiad chwarae yn cael effaith ddinistriol ar ferched’ (t. 249). Comisiynwyd yr ymchwil lle gwnaed y casgliadau hyn ym 1969 gan Hogg Foundation yn dilyn llofruddiaeth luosog ar gampws Prifysgol Texas yn Austin. Casglodd Brown yn ddiweddarach, ‘ ... mae plant sydd wedi eu hamddifadu o chwarae yn rhagflaenwyr truenus chwalfa gymdeithasol a phersonol’ (t. 251). 6. Huttenmoser et al, (1995), er enghraifft, wrth gyfeirio at yr hyn a elwir yn ‘blant batri’, mae’n priodoli symptomau amddifadiad chwarae i effeithiau carchariad oherwydd ofnau rhieni o draffig ac oedolion anrheithgar. Roedd plant batri ‘yn aml yn ymosodol ac yn swnian llawer. Erbyn pum mlwydd oed maent yn rhwystredig yn emosiynol ac yn gymdeithasol, yn ei chael hi’n anodd i gymysgu, ar ei hôl hi gyda gwaith ysgol ac mae llawer mwy o risg o ordewdra’. 7. Tobin, (1997) yn dyfynnu adroddiad fod plant amddifad Rwmanaidd oedd heb chwarae ac yn amddifad o symbyliad yn dioddef ‘anawsterau dysgu dwys, ymddygiad anwadal, anawsterau wrth ffurfio perthynas’. Roedd eraill yn ‘methu ymdopi, yn dioddef iselder ac yn enciliedig gan ymdebygu i blant awtistig neu’n orfywiog ac allan o reolaeth, fel plant gydag ADD’. Gan ddyfynnu Chugani ychwanegodd fod, ‘rhanbarthau o ymennydd plant yn llwyr amddifad o weithgaredd trydanol’. 8. Gweler Huttenlocher, 1990, 1992. 9. Er enghraifft, mae Byres (1998) yn nodi, ‘Mae cyfnod sensitif mewn datblygiad ymddygiadol yn cyfeirio at agoriad mewn datblygiad yn ystod y bydd mathau penodol

o brofiad yn newid cwrs yr ymennydd yn barhaol neu systemau eraill sy’n cefnogi ymddygiad. Nid yw’r datblygiad sy’n ddibynnol ar brofiad yn bosibl mewn oedrannau cyn neu ar ôl yr agoriad.’ Aiff ymlaen, ‘... mae’n rhesymol rhagdybio fod chwarae gyda’i amrediad oedran mynegiant arwahanol, yn enghraifft arall o ddatblygiad sy’n ddibynnol ar berfformiad. Rhaid i chwarae gynrychioli cyfnod sensitif.’ 10. Gan gysylltu chwarae a datblygiad niwrol ymhellach, mae Byres yn nodi, ‘... caiff chwarae ei droi ymlaen pan geir cyfle ar gyfer addasiad sy’n ddibynnol ar brofiad i’r serebelwm a chaiff ei droi i ffwrdd wedi i bensaernïaeth y serebelwm fod yn gyflawn.’ 11. Mae Brown et al (2001) yn nodi, ‘I blant ifanc, chwarae ac nid cyfarwyddyd uniongyrchol ... sy’n effeithio’n bositif ar ddatblygiad ymenyddiol. Mae sganiadau ymenyddiol o blant amddifad Rwmanaidd yn dangos yn glir fod amddifadiad chwarae yn arwain at atgwymp biolegol datblygiad ymenyddiol.’ Adroddodd Coleg Meddygaeth Baylor yn 1997 fod plant nad ydynt yn chwarae yn datblygu ymennydd sydd 2030% yn llai na’r hyn sy’n normal i’w hoedran. 12. ‘Cyfleuster mynediad agored wedi ei staffio yw maes chwarae antur lle caiff plant y cyfle i gynllunio ac adeiladu eu cyfarpar chwarae eu hunain, i lunio eu hamgylchedd eu hunain i’w pwrpas eu hunain, ac i ymroi mewn amrediad eang o weithgaredd yn cynnwys chwarae gyda’r ddaear, awyr, tân a dŵr. Gallant ddewis wynebu a dysgu rheoli risg mewn amgylchedd wedi ei hybu gan weithwyr chwarae hyfforddedig, Yn gyffredinol cafodd meysydd chwarae antur eu datblygu mewn ardaloedd trefol i wneud iawn am absenoldeb gwagle agored naturiol gyda choed, caeau, nentydd ac ati lle byddai plant wedi chwarae’n annibynnol yn y gorffennol.’ Chwarae Cymru 13. Gweler, er enghraifft, Suomi, S.J. A Harlow. H.F. (1971) a van den Berg et al, (2001) 14. Gweler Einin et al 1978 a Thompson 1996


Cyfeirlyfrau a Llyfryddiaeth Bekoff, M. ac Allen, C. (1998) ‘Intentional communication and social play; how and why animals negotiate and agree to play’, yn Beckoff, M., ac Byers, J.A. (gol) Animal Play: Evolutionary, Comparative and Ecological Perspectives. Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Caergrawnt Bennett, E.L., Diamond, M.C., Krech, D., a Rosenzweig, M.R. (1964) ‘Chemical and anatomical plasticity of brain’. Science, Hydref Cyfrol. 146, 610-619 Brown, P.S., Sutherby, J.A., Therrell, J.A., a Thornton, C.D. (2001) ‘Play is essential for brain development’. International Play Equipment Manufacturers Association News: Austin, Texas Brown, S. L. (1998) ‘Play as an organising principle:clinical evidence and personal observations’, yn Marc Bekoff a John A. Byers (Gol) Animal Play. Evolutionary, Comparative and Ethological Perspectives. Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Caergrawnt Byres a Walker (1995) Chugani, H.T. (1995) ‘Infantile Spasms’. Curr. Opin. Neurol. (2): 139-44 Chugani, H.T. (1996) ‘Conti J.R. Etiologic classification of infantile spasms in 140 cases: role of positron emission tomography. J. Child Neurol. 11 (1): 44-8 Chugani, H.T., Da Silva, E. and Chugani, D.C. (1996) ‘Infantile spasms : III. Prognostic implications of bitemporal hypometabolism on positron emission tomography. Ann. Neurol. 39 (5): 643-9 Chugani, H.T., Muller, R.A. a Chugani, D.C. (1996) ‘Functional brain reorganisation in children. Brain Dev. 18 (5): 347-56 Chugani, H.T. (1996), yn Tobin, J. (1997) ‘A second chance for Christian’ The Detroit News, 9 Chwefror. Damasio, A.R. (1994) Desartes’ Error. Efrog Newydd:Quill

Edelman, G. (1992) Bright Air, Brilliant Fire. Llundain: Penguin Books Einon, D.F., Morgan, M.J., a Kibbler, C.C. (1978) ‘Brief Period of Socialisation and Later Behaviour in the Rat’. Developmental Psychobiology, 11, 3 Harlow H.F., a Suomi, S.J. (1971) ‘Social Recovery by Isolation-Reared Monkeys’. Proc. Nat. Acad. Sci. USA, Cyfrol. 68, Rhif. 7, pp 1534-1538 Hughes, B. (1990) ‘Built Environmental Effects on Instinctive and Intuitive Play Outcomes Some Ideas’, yn Proceedings of the 11th IPA World Conference, Tokyo, Japan. Tokyo: IPA Hughes, B. (2003) Insights and Understandings: Developments in Playwork Theory. Cornwall: PLAY- ADD Hughes, B. (2003) Reflective Analytic Thinking in Playwork. Newcastle: Proceedings of the Reflecting on Playwork Conference Huttenlocher, P.R. (1990) ‘Morphometric Study of Human Cerebral Cortex Development’. Neuropsychologia, Cyfrol. 28, Rhif. 6 Huttenlocher, P.R. (1992) ‘Neural Plasticity’, yn Asbury, McKhann ac McDonald, (gol), Diseases of the Nervous System 1: 63-71 Huttenmoser, M., a Degan-Zimmermann, D. (1995) Lebenstraume fur Kinder. Zurich: Swiss Science Foundation Tobin, J. (1997) ‘A second chance for Christian’ The Detroit News, 9 Chwefror Perry, B.D., Pollard, R.A., Blakley, T.L., Baker, W.L., a Vigilante, D. (1995) ‘Childhood Trauma. The Neurobiology of Adaptation and UseDependent Development of the Brain. How States Become Traits’. Infant Mental Health Journal, Cyfrol. 16, Rhif. 4 Suomi, S.J. a Harlow, H.F. (1971) ‘Monkeys without Play’, yn Bruner, J.S., Jolly, A., a Sylva, K. (Eds.) Play: Its Role in Development and Evolution. (1976) Efrog Newydd: Penguin


Sylva, K. (1977) ‘Play and Learning’, yn Tizard, B., and Harvey, D. (gol), Biology of Play. London: Heinemann Thompson, K.V. (1996) ‘Behavioural Development and Play’ yn Kleinman, Allen, Thompson a Lumpkin (gol) Wild Mammals in Captivity. Chicago: Gwasg Prifysgol Chicago

Zuckerman, M. (1969) ‘Theoretical Formulations: 1’, yn J.P. Zubek (gol), Sensory Deprivation: Fifteen Years of Research. Efrog Newydd: Appleton-Century-Crofts Zuckerman, M. (1984) ‘Sensation Seeking: A Comparative Approach to a Human Trait’. The Behaviour and Brain Sciences, 7

van den Berg, C., van Ree, J., a Spruijt, B. (2001) ‘Play deprivation decreases adult social behaviour’. www.noldus.com/applications/ neuroscie.../vandenberg.htm

2003 © Play Education

www.chwaraecymru.org.uk

Chwarae Cymru yw’r mudiad cenedlaethol dros chwarae plant, elusen annibynnol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu hawl plant i chwarae ac i gynnig cyngor ac arweiniad ar faterion sy’n ymwneud â chwarae. Elusen cofrestredig, rhif 1068926 Cwmni cyfyngedig drwy warant, rhif 3507258 Cofrestrwyd yng Nghymru


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.