Arfer myfyriol

Page 1

Arfer myfyriol

beth ydi o a pham ei fod mor bwysig?


Mae hwyluso chwarae plant yn rôl gymhleth a dyrys. I’n helpu ni yn ein gwaith fel gweithwyr chwarae, gallwn dynnu ar ein hadnabyddiaeth o’r broses chwarae a gallwn gael ein harwain gan bolisïau a gweithdrefnau sy’n benodol i’n rôl a’n lleoliad. Fodd bynnag nid yw’r rhain, ar eu pen eu hunain, yn ddigon. Mae’r amrywiaeth aruthrol o ymddygiadau chwarae a welir ymhlith gwahanol blant sydd â gwahanol anghenion yn golygu na allwn ni fyth fabwysiadu dull ‘un maint i weddu i bawb’. Yn ogystal, fel gweithwyr chwarae unigol bydd pob un ohonom yn dod â’n profiadau a’n hagweddau ein hunain fydd yn dylanwadu ar ein harfer. Egwyddor Gwaith Chwarae 6 Caiff ymateb y gweithiwr chwarae i chwarae plant a phobl ifanc ei seilio ar wybodaeth gyfredol, gref o’r broses chwarae, ac arfer myfyriol. ‘Trwy dri dull gallwn ddysgu doethineb: yn gyntaf, trwy fyfyrio, sydd fwyaf aruchel; yn ail, trwy efelychu, sydd rwyddaf; ac yn drydydd trwy brofiad, sydd chwerwaf’. Confucius, Athronydd Tsieineaidd

Beth yw arfer myfyriol? Mae arfer myfyriol yn fath o feddwl beirniadol sy’n ystyried ein profiadau a’n credau. Mae hyn er mwyn cynyddu ein dealltwriaeth a gwella ein harfer. Pan fyddwn yn myfyrio byddwn yn fwy hunanymwybodol ynghylch natur ac effaith ein rôl. Mae’r ymwybyddiaeth yma’n creu cyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol. Pan fyddwn yn ceisio deall sefyllfa neu ddigwyddiad byddwn yn tynnu ar ein gwybodaeth a’n teimladau personol. Gallwn hefyd gynnwys syniadau o wahanol safbwyntiau a damcaniaethau. Trwy ddadansoddi, cymharu a chyfuno’r elfennau hyn gallwn daflu goleuni newydd ar y mater a gwella ein arfer synnwyr cyffredin.

Pryd fydd myfyrio’n troi’n arfer myfyriol? Mae myfyrio neu wneud pwynt o feddwl am ein harfer gweithio’n gyffredin i’r rhan fwyaf o bobl, felly beth sy’n arbennig am y dechneg arfer myfyriol?

Mae arfer myfyriol yn agwedd strwythuredig sydd, yn y termau plaenaf, yn golygu: 1. Dynodi’r broblem 2. Myfyrio ar neu ddadansoddi’r broblem 3. Llunio casgliadau a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

Pam fod arfer myfyriol mor bwysig i weithwyr chwarae? Mae arfer myfyriol yn hanfodol oherwydd: •

Mae chwarae’n gymhleth – caiff ymddygiad chwarae plant ei reoli gan eu greddfau naturiol ac effeithau’r amgylchedd dynol a chorfforol, byddai ymateb ‘un maint i weddu i bawb’ gennym ni yn gwbl amhriodol.

Mae ein dealltwriaeth o chwarae yn dal i fod yn brin ac mae gwaith chwarae’n broffesiwn newydd. Efallai mai bach iawn y bydd llyfr cyffredin ar ddatblygiad plant yn ei gynnwys am chwarae, ac mae nifer o gyrsiau gwaith chwarae, yn y gorffennol, wedi canolbwyntio ar agendâu y tu allan i’r prosesau chwarae sylfaenol. Mae’r diffyg gwybodaeth yma’n golygu ei bod hi’n gwbl hanfodol ein bod yn myfyrio ar ac yn dysgu oddi wrth yr hyn y byddwn ni (a’r plant) yn ei brofi.

Fydd yr un gweithiwr chwarae’n dechrau (nac yn gorffen) eu gyrfa’n ‘gwybod popeth’. Byddwn yn dysgu oddi wrth ein camgymeriadau a’n llwyddiannau’n barhaus ac yn cwestiynu ein rhagdybiaethau a’r arferion yn ein lleoliad.


Fel unigolion fe ddown â’n atgofion, ein profiadau, ein hoff bethau a’n agendâu ein hunain i’r amgylchedd chwarae. Os na fyddwn yn atal y rhain, gallant fod yn drech na’r plentyn yn chwarae fel nad yw â rheolaeth bellach dros ei chwarae ei hun. Yn aml, gellir asesu a chywiro effaith posibl hyn trwy fyfyrio ac archwilio ein harfer yn fanwl.

Pam fod myfyrio’n anodd weithiau?

Ofn – Weithiau bydd arfer myfyriol yn golygu bod rhaid inni edrych yn ddwfn y tu mewn i’n hunain a gofyn cwestiynau anodd. Mae’n bwysig inni gofio bod gwaith chwarae’n broses ble y caiff sgiliau a gwybodaeth eu datblygu a’u mireinio’n barhaus. Nid yw cyfaddef y gellir gwella ein harfer yn angenrheidiol yn ein gwneud yn weithwyr chwarae gwael. I’r gwrthwyneb, mae’n arwydd bod chwarae plant o bwys mawr inni a’n bod wedi ymrwymo i’w hwyluso hyd eithaf ein gallu.

Absenoldeb modelau addas – I lawer ohonom, efallai y bydd myfyrio ar ein profiadau gwaith a’r modd y byddwn yn gweithredu fel gweithwyr chwarae yn beth newydd allai fod yn gythryblus. Y newydd da yw bod arfer myfyriol yn tyfu’n haws trwy ymarfer, yn ddigon tebyg i ddysgu mynd ar gefn beic – efallai y cawn ambell i godwm cyn inni ddod yn hyddysg!

Cefnogaeth – Gall myfyrio heb gyfleoedd i newid a datblygu arwain at inni deimlo hunandosturi ac anobaith. Os yw arfer myfyriol i ehangu, bydd angen inni agor dialog â chydweithwyr er mwyn gwirio a chymharu ein harfer ac er mwyn derbyn cefnogaeth ac anogaeth.

O ystyried y buddiannau, pam na ddefnyddir arfer myfyriol yn amlach yn ein proffesiwn? Mae nifer o rwystrau all rwystro’r broses o gyflawni arfer myfyriol effeithiol: •

Amser – Bydd meddwl yn ddwys am ein harfer a dadansoddi pam ddigwyddodd digwyddiadau penodol yn cymryd amser ac ymdrech, ond bydd cymryd amser i fyfyrio cyn, yn ystod ac ar ôl sesiwn chwarae’n hanfodol os ydym i wella ein harfer. Gonestrwydd – Bydd arfer myfyriol yn cynnwys gofyn cwestiynau sylfaenol am ein hunain ac, o dro i dro, bod yn barod i gyfaddef bod angen gwella’r modd y byddwn yn gweithio. Gall hunanfeirniadaeth fod yn heriol yn emosiynol ac yn seicolegol.


Syniadau i hybu myfyrio

Pryd fyddwn ni’n myfyrio?

Cadw meddwl agored

Cwestiynu pam, beth a sut y byddwn yn gwneud pethau

Mae modelau myfyrio safonol2 yn pwysleisio myfyrio:

Edrych ar bethau o wahanol safbwyntiau

Gofyn cwestiynau ‘beth pe bai’ ac ystyried y canlyniadau

Archwilio damcaniaethau a’n credau craidd.

‘wrth weithredu’ neu fyfyrio am yr hyn yr ydym yn ei wneud tra ein bod yn ei wneud

‘ar weithredu’ neu fyfyrio gydag ôl-ddoethineb wedi digwyddiad.

I’r rhain gallwn ychwanegu myfyrio:

Modelau o arfer myfyriol Dysg dolen sengl a dolen ddwbl Pan fyddwn yn myfyrio ar sefyllfa neu ddigwyddiad penodol gallwn fabwysiadu dwy arddull wahanol. Gallwn ystyried y digwyddiad fel problem i’w datrys trwy feddwl am wahanol dechnegau. Yna, gallwn barhau i roi tro ar wahanol ddulliau tan inni gyflawni’r canlyniad yr ydym ei eisiau. Gelwir hyn yn ‘ddysg dolen sengl’1. Neu, gallwn ganolbwyntio ar yr achosion sydd wrth wraidd y sefyllfa a chwestiynu’r tybiaethau, y credau a’r gwerthoedd arweiniodd at y digwyddiad yn y lle cyntaf. Mae hon yn agwedd fwy beirniadol, agored a chreadigol. Gelwir hyn yn ‘ddysg dolen ddwbl’. Ym maes gwaith chwarae byddwn yn mabwysiadu’r agwedd ‘dolen ddwbl’ tuag at arfer myfyriol.

‘cyn gweithredu’

‘ar ddiffyg gweithredu’3.

O ystyried y rhain i gyd gyda’i gilydd gallwn fyfyrio cyn, yn ystod ac ar ôl digwyddiad ar yr hyn ddigwyddodd, yr hyn allai ddigwydd neu’r hyn wnaeth ddim digwydd. Efallai ei bod yn ymddangos yn rhyfedd i fyfyrio ar yr hyn wnaeth ddim digwydd ond dylem gofio, mewn rhai meysydd fel ymyrraeth gwaith chwarae, y gallwn ddewis i beidio â gweithredu mewn ffyrdd penodol am resymau penodol. Gall cwestiynu ein meddyliau a’n teimladau fod yn brofiad anghyfforddus. Mae’n codi’r posibilrwydd y gallai rhai o’n gweithredoedd a’n credau fod yn anghywir. Fodd bynnag, mae bod yn agored i fod yn anghywir yn rhan hanfodol o ddysg hyblyg, gan fod ‘sicrwydd yn lleihau wrth i ddysgu trwy brofiad gynyddu’4.


Bydd gormod o sicrwydd yn golygu y byddwn yn cymryd pethau’n ganiataol a thyfu’n amddiffynnol o’n hagwedd. Tra gall diffyg sicrwydd olygu y cawn ein parlysu gan ddiffyg penderfyniad a methu gweithredu ar unrhyw wybodaeth newydd. Gall arfer myfyriol ein helpu i gael hyn yn iawn a chanfod y tir canol rhwng trefn arferol ddi-gwestiwn ac anhrefn ansicr.

AGGMYMA Mae AGGMYMA yn fodel o fyfyrio ‘wrth weithredu’. Wrth wynebu penderfyniad os dylem ymyrryd, mae AGGMYMA yn fodel ar gyfer ystyried y prosesau meddwl sy’n digwydd yn union cyn ymyriad ond hefyd, sut y byddwn yn ymateb i ac yn dysgu oddi wrth, ein profiadau ‘ar weithredu’.

Arhoswch – Dylem wrthsefyll y demtasiwn

i neidio i mewn. Byddwn yn rhoi amser i’n hunain ystyried yr ymateb gorau.

Gwyliwch
– Beth sy’n mynd ymlaen? Byddwn yn casglu gwybodaeth.

Gwrandewch
– Beth sy’n digwydd?

Byddwn yn casglu gwybodaeth gan ddefnyddio ein synhwyrau i gyd.

M

yfyriwch – Byddwn yn ystyried os dylem ymyrryd ac os felly, sut? Beth fyddai effaith ein hymyriad, neu ein diffyg ymyriad? Beth mae’r theori’n ei ddweud wrthym? Beth mae ein greddf yn ei ddweud wrthym?

Ymatebwch
– Wedi ystyried ein hymateb, byddwn yn ymateb i’r sefyllfa allai olygu gwneud dim.

M

yfyriwch
– Pa effaith ydym wedi ei gael ar y broses chwarae? A yw ein hymyriad wedi helpu neu lesteirio’r broses chwarae?

Arfer – Byddwn yn parhau i fyfyrio a

datblygu ein harfer. Bydd mabwysiadu arddull ymyrryd lwyddiannus yn gyson yn galw am ymarfer a datblygiad parhaus.

GCPT (IMEE) Ar y pwynt ‘Myfyrio’ yn y broses AGGMYMA efallai y byddai’n ddefnyddiol ymarfer defnyddio GCPT (IMEE)5. Mae hwn yn ddull sy’n ein galluogi i fod yn fwy dadansoddol yn ein myfyrdodau. Mae’n gofyn inni ystyried sefyllfa a’r potensial ar gyfer ymyrryd, nid yn unig wrth i bethau godi ar y pryd, ond hefyd yng nghyd-destun ein:

Greddf ynghylch yr hyn y dylai

amgylchedd, ennyd neu ymyriad chwarae da fod.

Cof o’n hamgylcheddau neu enydau o

chwarae da yn ystod ein plentyndod.

Profiad o amgylcheddau, enydau

neu ymyriadau chwarae da yn ein harfer proffesiynol.

Tystiolaeth o’r hyn y mae’r llenyddiaeth

yn ei awgrymu sy’n berthnasol i amgylcheddau chwarae, ymddygiad chwarae ac ymyriadau da.
 Trwy ymarfer hyn yn rheolaidd bydd ein gwybodaeth ynghylch pryd a sut i ymyrryd yn graddol dyfu’n fwy deallus. Byddwn yn dysgu oddi wrthym ein hunain, ein cydweithwyr a’n ymyriadau, y plant a’u chwarae, yn ogystal ag oddi wrth arbenigwyr ar chwarae a gwaith chwarae.

Gwerthuso yn erbyn myfyrio Gall y gwahaniaeth rhwng arfer myfyriol a gwerthuso beri penbleth gan eu bod yn rhannu nifer o nodweddion. Mae’r ddau’n asesiad beirniadol o sefyllfa gyda’r bwriad o ennill gwybodaeth ac, yn y pen draw, wella arfer. Mae’r ddau’n cynnwys dadansoddi tystiolaeth a gweithredu ar y casgliadau. Gallant ddigwydd cyn, yn ystod ac ar ôl digwyddiad. Fodd bynnag, mae nifer o wahaniaethau allweddol rhyngddynt. Mae gwerthuso’n dechneg wrthrychol a ffeithiol sy’n cymharu’r hyn a gynlluniwyd yn erbyn yr hyn ddigwyddodd. Mae’n pennu gwerth rhywbeth o’i gymharu yn erbyn cyfres o griteria sy’n bodoli eisoes. Mae gwerthusiadau’n anelu i fod yn


ddiduedd, yn rhydd o ragfarn ac osgoi gwrthdaro buddiannau. Bydd gwerthuso’n defnyddio dulliau meintiol (fel ‘Sawl un?’, ‘Faint?’, a ‘Pha mor aml?’) yn ogystal â dulliau ansoddol (fel ‘Pa mor dda?’, ‘Sut wyt ti’n teimlo?’ a ‘Beth gafodd ei ddysgu?’). Mae gwerthuso’n ymwneud ac un ai profi bod rhywbeth yn gweithio neu’n angenrheidiol, neu wella arfer neu brosiect6.

Gallai ddweud wrthym ymhle, pa mor aml a gan bwy. Yn ogystal, gallai myfyrdod helpu i egluro pam fod y mathau hynny’n digwydd, trwy archwilio ein hagweddau tuag at y chwarae neu’r plant a’r gweithwyr chwarae penodol dan sylw. Fel gweithwyr chwarae byddwn yn defnyddio gwerthuso yn ogystal â myfyrio yn ôl ein hanghenion ac anghenion yr amgylchiadau.

Ar y llaw arall, mae myfyrio’n oddrychol ac yn ymwneud â theimladau a chredau. Mae’n caniatáu inni archwilio ein hunain a datgelu meddyliau ac agweddau cymhleth. Gall myfyrio gynnwys gwerthuso fel rhan o’r broses ond mae’n mynd yn llawer dyfnach, yn cymryd gwahanol safbwyntiau ac yn edrych ar resymau gwaelodol. Mae myfyrio’n defnyddio dulliau ansoddol sy’n gweddu’n well i archwilio prosesau cynnil, gan ddatgelu achosion a ‘sbardunau’ personol, ac archwilio gwahanol gyd-destunau. Pan fyddwn yn myfyrio byddwn yn dadansoddi a beirniadu ein gweithredoedd personol er mwyn gwella ein harfer.

Er enghraifft, gallem ddefnyddio gwerthuso:

Bydd myfyrio’n caniatáu inni fynd ymhellach na chasglu mewnbynnau ac allbynnau’n unig a chanfod pam fod rhywbeth wedi digwydd. Er enghraifft, gallai gwerthusiad ddweud wrthym am y gwahanol fathau o chwarae sy’n digwydd yn ein lleoliad chwarae.

fel rhan o asesiad sicrhau ansawdd

fel rhan o archwiliad

mewn cais am grant fel tystiolaeth o angen

i weld os ydym wedi cyflawni targedau neu nodau penodol.

Byddwn yn defnyddio myfyrio fel rhan arferol o’n harfer proffesiynol yn ogystal â phan fyddwn yn wynebu digwyddiadau ac ymddygiadau mwy cymhleth neu ansicr fydd yn gofyn inni ‘dyrchu’n ddyfnach’ i ddatgelu esboniadau ac, o bosibl, ddatrysiadau sydd ddim yn amlwg. Fel gweithwyr chwarae, byddwn bob amser yn arsylwi ac yn gwrando ar farn y plant ac mae ein harfer myfyriol yn elfen anhepgor o’n dawn i gysylltu ein harfer gyda’r Egwyddorion Gwaith Chwarae ac agwedd foesegol gwaith chwarae7.


Awgrymiadau anhygoel ar gyfer arfer myfyriol Ar gyfer gweithwyr chwarae a gweithwyr proffesiynol eraill sydd ynghlwm â chwarae plant

Mae myfyrio’n derm y bydd gweithwyr chwarae’n ei ddefnyddio i ddisgrifio meddwl yn ddwys am yr hyn y byddwn yn ei wneud i wella ein harfer proffesiynol. Mae’n rhan hanfodol o’n dysg beunyddiol a dylid ei ystyried fel datblygiad proffesiynol parhaus. Mae arfer myfyriol yn agwedd strwythuredig sydd, yn y termau symlaf, yn golygu: dynodi’r broblem,
myfyrio ar neu ddadansoddi’r broblem, yna llunio casgliadau a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Amser myfyrio Bydd rhai ohonom yn myfyrio wrth wneud tasg arall fel gyrru gartref, ymarfer corff neu ymlacio yn y bath, tra bydd eraill yn elwa o ysgrifennu neu siarad gyda phobl eraill. Bydd deall pryd y mae myfyrio’n dod yn naturiol yn ddefnyddiol i’n helpu i wybod pryd a sut i weithio pethau allan.

Peidiwch â gwthio’r mater Rydym yn dueddol o hoffi myfyrio trwy un ai siarad, ysgrifennu, tynnu llun neu fynegi, felly bydd defnyddio ein hoff ddulliau’n ein helpu i fyfyrio’n haws. Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd rhaid i weithiwr chwarae y mae’n well ganddynt siarad trwy bethau ysgrifennu rhywbeth i lawr yn y pen draw, ond mae’n bosibl mai cofnodi canlyniadau’r arfer myfyriol fydd hynny yn hytrach na’r broses fyfyrio ei hun. Gweithio fel tîm Dylai arfer myfyriol gael ei feithrin yn ein timau, felly bydd angen inni sicrhau bod cyfleoedd ar gyfer myfyrio un-i-un ac fel grŵp. Gallai hyn fod trwy gyfarfodydd tîm, sesiynau goruchwylio cefnogol neu’n anffurfiol trwy gydol yr wythnos waith. Bod yn ffrind beirniadol Y nod yw helpu eraill i gwestiynu eu harfer, eu penderfyniadau a’u gweithredoedd yn feirniadol, tra’n bod yn gefnogol ac yn llawn dealltwriaeth. Gofyn cwestiynau ‘beth pe bae’ a ‘pham’ Bydd y mathau hyn o gwestiynau agored yn ein helpu i ymchwilio i agweddau gwahanol posibl.

Cadw meddwl agored Er mwyn dadansoddi ein llwyddiannau a’n methiannau’n feirniadol bydd angen inni fod yn agored i syniadau newydd neu ffyrdd gwahanol o ystyried pethau. Bydd meithrin diwylliant yn llawn ymddiriedaeth o fewn ein tîm yn cefnogi hyn.

Gweithredol neu oddefol? ‘Myfyrio gweithredol’ yw pan fyddwn yn neilltuo amser er mwyn meddwl o ddifrif am broblem trwy fynd ati’n weithredol i fwydo’r broses feddwl. Mae ‘myfyrio goddefol’ yn cyfeirio at pan fyddwn yn myfyrio heb wir ystyried y peth a phan fydd meddyliau ac atebion yn ymddangos o unman. Yn ymarferol, mae’r ddau fath yma o fyfyrio’n ddefnyddiol felly, weithiau, mae’n bosibl y bydd angen inni neilltuo amser i feddwl o ddifrif am broblem, tra i eraill efallai y bydd yn fwy effeithiol i ganiatáu i feddyliau lifo’n rhydd mewn ffordd sy’n fwy synfyfyriol. Archwilio damcaniaethau a’n credau craidd Bydd y rhain yn dylanwadu ar sut y byddwn yn ymddwyn, felly mae’n hanfodol inni eu hystyried yn ein myfyrdodau. ARFER myfyriol ydi o Heb ganlyniad pendant ’dyw’n ddim mwy na meddwl am y broblem. Dylai ein harfer myfyriol wastad arwain at ganlyniad – er enghraifft gwneud nodyn meddyliol i wneud pethau’n wahanol o hyn ymlaen, mynychu hyfforddiant i’n helpu gyda’n rolau, ychwanegu mater i agenda cyfarfod o’r tîm, diweddaru asesiad risg-budd neu drafod datrysiadau seiliedig ar arfer gyda’n tîm.


Yr hyn fyddwn ni’n ei wneud â’n myfyrdodau Byddwn yn myfyrio am reswm – i wella ein harfer. Os na fydd ein harfer fyth yn newid, fyddwn ni ddim yn ymateb i’r plant sy’n defnyddio’r lleoliad chwarae a fyddwn ni ddim yn ymateb i’r cyd-destun diwylliannol a chorfforol newidiol parhaus yr ydym yn gweithio ynddo. Yn fyr, os ydym yn myfyrio ac yn gwella ein harfer, rydym yn weithwyr chwarae. Felly, mae’n rhaid defnyddio’r hyn y byddwn yn ei ddysgu o’n myfyrdodau. Dyma enghraifft o arfer myfyriol gan weithiwr chwarae: ‘Fe sylwais, pryd bynnag yr oedd plant yn dringo’n uchel (neu’n gwneud unrhyw beth oedd yn cynnwys ychydig o risg) y byddwn un ai’n ceisio newid cyfeiriad y chwarae’n slei bach, neu y byddwn yn galw rhybuddion iddynt “fod yn ofalus!” Fe ofynnais i fy hun pa bwrpas oedd i hyn a sylweddolais nad oedd yn gwneud y plant yn fwy diogel na’n fwy gofalus – y cyfan yr oedd yn ei wneud oedd gwneud i mi deimlo ychydig yn well. Roedd fel rhyw swynbeth. Pe na fyddwn yn ei ddweud a bod damwain yn digwydd, fe fyddwn i’n teimlo’n euog nad oeddwn wedi ceisio eu rhybuddio. Pan rwy’n meddwl yn ôl, rwy’n cofio cwympo oddi ar goeden a chrafu’r croen oddi ar fy ysgwyddau’n wael.

Rwy’n cofio hefyd y byddai fy mam-gu (yr oedden ni’n byw gyda hi) byth a beunydd yn adrodd rhybuddion digalon am drallod a difrod pe bydden “ni ferched” fyth yn tyfu’n rhy annibynnol yn ein chwarae. Felly pan wnes i anafu fy hun, ’roedd fel pe bae’r broffwydoliaeth wedi dod yn wir. Fe ddechreuais sylweddoli fy mod yn ofni pob math o bethau. Rwyf wedi darllen a dysgu amrywiol bethau ynghylch pwysigrwydd galluogi plant i dderbyn heriau er mwyn iddynt ddysgu i asesu risg drostynt eu hunain. Felly fe heriais fy hun i wneud rhywbeth. Beth i’w wneud? Yn ddigon tebyg i’r cyfnod pan roddais y gorau i ysmygu, roeddwn angen cymorth fy nghydweithwyr. Fe wnaethon ni drafod holl fusnes risg (roedd yn ddiddorol clywed eu barn hwy ar y mater). Fe wnaethon ni gwblhau gwahanol asesiadau risg a thrafod pwyso a mesur risg a budd. Fe gytunon ni y byddai pob un ohonom yn ceisio cefnogi ein gilydd yn ein hymgais i fod yn llai ofnus ac i ymddiried mwy yn y plant. Bydd fy nghydweithwyr yn cael gair â mi os clywan nhw fi’n dweud “Bydd yn ofalus” a byddwn yn trafod sut mae pethau’n mynd yn rheolaidd. Rwy’n ei chael yn anodd, ond rydw i yn gwella. ’Dyw chwarae’r plant heb newid, ond mae’r neges y byddaf i’n ei rhoi iddyn nhw wedi.’

Cyfeiriadau Argyris, C. a Schön, D. (1974) Theory in practice: Increasing professional effectiveness. San Francisco: Jossey-Bass.

1

Theory in practice: Increasing professional effectiveness

2

Kilvington, J. a Wood, A. (2010) Reflective Playwork: for all who work with children. Llundain: Continuum.

Hughes, B. (1996) Play Environments: a question of quality. Llundain: PLAYLINK.

5

Smith, M. K. (2001, 2006) Evaluation for education, learning and change – theory and practice. http://infed.org/mobi/evaluation-theoryand-practice/ [Cyrchwyd 29 Mai 2018].

6

3

Bolton, G. (2010) Reflective Practice: Writing and Professional Development, 3ydd argraffiad. Llundain: Sage. 4

Palmer, S. (2003) Playwork as Reflective Practice. Yn: Brown, F. (gol.) Playwork: Theory and Practice. Buckingham: Gwasg y Brifysgol Agored.

7


Mehefin 2018 © Chwarae Cymru

www.chwaraecymru.org.uk

Chwarae Cymru yw’r mudiad cenedlaethol dros chwarae plant, elusen annibynnol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu hawl plant i chwarae ac i gynnig cyngor ac arweiniad ar faterion sy’n ymwneud â chwarae. Elusen cofrestredig, rhif 1068926 Cwmni cyfyngedig drwy warant, rhif 3507258 Cofrestrwyd yng Nghymru


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.