Awgrymiadau anhygoel: Datblygiad Proffesiynol Parhaus
Ar gyfer gweithwyr chwarae a gweithwyr proffesiynol eraill sydd ynghlwm â chwarae plant Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) yw sut y bydd unigolion yn gwella eu perfformiad yn eu gwaith trwy fynd ati i ddysgu trwy amrywiaeth eang o weithgareddau. Mae rhaglen ddysgu pawb yn bersonol iddyn nhw – fydd un rhaglen ddim yn gweddu i bawb. Gellir sicrhau DPP mewn nifer o ffyrdd. Dyma ein awgrymiadau anhygoel ar gyfer adnabod a chyfoethogi eich cyfleoedd ar gyfer DPP: Mynychu cyfarfodydd allweddol – Mae’n bosibl y bydd cyfleoedd inni ennill cefnogaeth ein cymheiriaid trwy rwydweithiau lleol a chenedlaethol o bobl sydd mewn rolau tebyg i ni, yn ogystal â chyfarfodydd y gallwn eu mynychu fydd yn cynyddu ein gwybodaeth am sectorau eraill. Mynychu seminarau a chynadleddau – Mae’n bwysig ymchwilio a dynodi’r digwyddiadau mwyaf perthnasol i ateb ein hanghenion er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r cyllid sydd ar gael. Gallwn hefyd wneud y gorau o’r dysgu trwy rwydweithio a myfyrio gydag eraill yn ystod yr egwyliau! Astudio a darllen preifat – Rydym yn gweithio mewn sector gaiff ei chefnogi gan ymchwil cyfoes, polisi cenedlaethol a dulliau damcaniaethol sy’n dal i ddatblygu. Mae neilltuo amser i ddarllen yn bwysig er mwyn eiriol dros chwarae a chynyddu ein gwybodaeth am y sector. Mentora – Gall mentor mwy profiadol rannu eu gwybodaeth gyda ni, helpu i roi arweiniad inni a chwestiynu ein harfer (yn garedig!). Ond, dylai mentoriaid gofio ei bod yr un mor ddefnyddiol i’w harfer hwythau gael ei gwestiynu gan aelod mwy newydd o staff!
Arsylwi – Gall pob un ohonom ddysgu llawer am chwarae trwy arsylwi plant yn chwarae a dylem neilltuo amser ar gyfer hyn, boed hynny trwy wylio ein plant ein hunain neu blant yn y ddarpariaeth gwaith chware. Bydd arsylwi aelodau eraill o staff yn rhoi cipolwg gwerthfawr inni ar eu hymarfer a bydd cyflwyno adborth adeiladol i’n gilydd yn rhoi cyfle inni gwestiynu a gwell arfer. Cwblhau cyrsiau byrion – Mae sefydliadau lleol a chenedlaethol yn cynnig gweithdai a chyrsiau byrion ac weithiau bydd y rhain ar gael am ddim neu am bris wedi ei noddi. Mae mannau defnyddiol y gellir chwilio am y rhain yn cynnwys: gwefan Chwarae Cymru, timau datblygu chwarae lleol, cynghorau gwirfoddol sirol (CVC’s) a sefydliadau rhanbarthol a chenedlaethol eraill sy’n cefnogi ein maes gwaith. Arfer myfyriol – Proses yw hon sy’n golygu meddwl am ein harfer, cwestiynu ein cymhellion a’n gweithredoedd a defnyddio ein casgliadau i sicrhau gwelliannau. Yn ddelfrydol dylid myfyrio gyda phobl eraill yn ogystal ag yn unigol. Ymwelwch â’n gwefan am fanylion digwyddiadau arfaethedig – cynadleddau, seminarau a chyrsiau – allai gefnogi DPP:
www.chwaraecymru.org.uk/cym/digwyddiadau
www.chwaraecymru.org.uk Elusen cofrestredig, rhif 1068926 Cwmni cyfyngedig drwy warant cofrestrwyd yng Nghymru, rhif 3507258.