Awgrymiadau anhygoel – Dod o hyd i ddarparwr hyfforddiant gwaith chwarae

Page 1

Awgrymiadau anhygoel – Dod o hyd i ddarparwr hyfforddiant gwaith chwarae

Ar gyfer gweithwyr chwarae a gweithwyr proffesiynol eraill sydd ynghlwm â chwarae plant

Waeth os ydych chi’n chwilio am weithdy hyfforddiant neu gymhwyster, gall hyfforddiant gwaith chwarae amrywio’n fawr iawn o ran ansawdd. Mae’r pandemig Covid-19 wedi newid sut y byddwn yn cael mynediad at hyfforddiant a chymwysterau ond ’dyw hynny ddim yn golygu y dylech fodloni ar lai. Mae’r awgrymiadau anhygoel hyn wedi eu dylunio i’ch cefnogi i wneud y gorau o’ch amser a’ch cyllideb hyfforddiant trwy restru rhywfaint o bethau ichi eu hystyried i’ch helpu wrth ddethol eich darparwr hyfforddiant.

Yr Egwyddorion Gwaith Chwarae

Geirda

Dylai’r iaith a ddefnyddir mewn unrhyw gyhoeddusrwydd adlewyrchu iaith y sector a dylai pob hyfforddiant gwaith chwarae gyfeirio’n uniongyrchol at yr Egwyddorion Gwaith Chwarae fel ein fframwaith proffesiynol a moesegol.

Mae clywed gan bobl eraill yn ffordd wych o ddysgu am hyfforddiant o safon. Gofynnwch i weithwyr chwarae neu sefydliadau gwaith chwarae eraill pwy fydden nhw’n eu hargymell.

Cymhwysedd galwedigaethol Mae hyn yn golygu bod gan eich tiwtor gefndir gwaith chwarae a’u bod yn gymwys i fod yn dysgu gwaith chwarae i chi. Dylent feddu ar brofiad uniongyrchol o weithio mewn lleoliad gwaith chwarae. Tra gall profiad o weithio mewn ysgolion, y blynyddoedd cynnar neu fathau eraill o waith gyda phlant fod yn ddefnyddiol, dylai hyn fod yn ychwanegol i wybodaeth ac arbenigedd gwaith chwarae. Mae gennych rwydd hynt i holi am arbenigedd eich tiwtor – os ydyn nhw’n alwedigaethol gymwys dylent fod yn gwbl barod i ddarparu tystiolaeth ichi.

Hanes Edrychwch i mewn i gefndir eich darparwr hyfforddiant. Dylent fod â hanes o drosglwyddo hyfforddiant / cymwysterau gwaith chwarae ac, os ydyn nhw’n ddarparwr newydd, dylent o leiaf allu darparu tystlythyrau oddi wrth ddysgwyr diweddar.

Dysgu ar-lein Mae dysgu ar-lein wedi tyfu’n fwy cyffredin ers y pandemig. Os trosglwyddir cyrsiau ar-lein yn gyfan gwbl, cofiwch holi faint o gysylltiad uniongyrchol gewch chi gyda thiwtor profiadol a gofynnwch a gewch chi gyfle i weithio gyda dysgwyr eraill. Mae gwaith chwarae’n broffesiwn seiliedig ar arfer ac mae gallu dysgu a myfyrio gydag eraill yn allweddol.

Dysgu cyfunol Mae rhai darparwyr dysg yn cynnig cyfuniad o ddysgu ar-lein a dysgu yn yr ystafell ddosbarth ac mae hon yn ffordd dda o sicrhau cydbwysedd.

Amser gyda thiwtor neu asesydd Mae dysgu seiliedig ar waith yn opsiwn ar gyfer pobl sydd am ddysgu tra’n gweithio. Fodd bynnag, dylech wirio gyda’ch darparwr hyfforddiant faint o amser gewch chi hefyd yn dysgu yn yr ystafell ddosbarth neu’n uniongyrchol gyda thiwtor all ateb cwestiynau a thywys eich dysg fel ei fod yn perthyn yn uniongyrchol i’ch arfer.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.