Canllaw gweithiwr chwarae i risg
Mae’r daflen wybodaeth hon yn cynnwys gwybodaeth am ddarparu agwedd gytbwys tuag at reoli risg mewn lleoliadau chwarae trwy ddefnyddio’r agwedd asesu risgbudd, a gefnogir yn gyffredinol. Mae hefyd yn archwilio’r ddeddfwriaeth gyfredol a’r gefnogaeth sydd ar gael oddi wrth ystod eang o ffynonellau, yn ogystal ag edrych ar rywfaint o’r theori gwaith chwarae cyfoes sy’n cefnogi gweithwyr chwarae i weithio mor effeithlon ac y gallwn i ymestyn a chyfoethogi cyfleoedd plant i chwarae. Asesu risg-budd – diffiniad
Mae asesu risg-budd yn golygu y bydd y darparwr chwarae’n pwyso a mesur, gyda’r un ystyriaeth, y ddyletswydd i warchod plant rhag niwed difrifol y gellid ei osgoi a’r ddyletswydd i ddarparu cyfleoedd chwarae anturus, ysgogol ar eu cyfer er mwyn gadael i’r plant gymryd risgiau pan maent yn chwarae heb eu gosod mewn perygl gormodol o niwed difrifol.1
Bydd gweithwyr chwarae’n asesu risg mewn modd dynamig ble bynnag y maent yn gweithio gan gydbwyso’r risgiau posibl gyda’r buddiannau i’r plentyn sy’n chwarae, yn unol â’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae buddiannau sylweddol i gynnig amgylcheddau heriol, ysgogol i blant ar gyfer archwilio a datblygu eu doniau.
Pam fod angen inni ddarparu rhywfaint o risg a her? Adolygir casgliad sylweddol o ymchwil yn adroddiad Play for a Change Summary Report: Play, Policy and Practice: a review of contemporary perspectives2, Wendy Russell a Stuart Lester, sy’n dangos y rôl bwysig sydd gan chwarae wrth gefnogi datblygiad gwytnwch, creadigrwydd a hyblygrwydd bodau dynol a’u dawn i ymgyfaddasu. Bydd y rhinweddau defnyddiol hyn yn galluogi pob un ohonom, yn blant ac oedolion, i ddelio â’r heriau annisgwyl fydd, yn anochel, yn digwydd yn ystod ein bywydau mewn modd cadarnhaol. Mae plant angen chwilio am risg. Mae’n rhan naturiol o dyfu i fyny ac mae’n fodd iddynt ddysgu sut i oroesi a chanfod eu ffordd yn y byd.
Os na fyddwn ni’n cyflwyno neu’n cefnogi cyfleoedd i brofi rhywfaint o risg a her mewn lleoliad chwarae, mae plant yn fwy tebygol o geisio’r wefr a’r ymdeimlad o gyflawniad ddaw’n sgîl goresgyn ofnau mewn mannau sydd, o bosibl, yn llai priodol. Tra bo rhai plant yn dal i gael digon o gyfleoedd i chwarae’n rhydd ger eu cartrefi, fydd rhai ddim, a hynny am nifer o resymau. Yn aml, ofnau rhieni yw un o’r rhwystrau pennaf sy’n atal plant rhag chwarae allan gyda’u ffrindiau. Gall darpariaeth chwarae wedi ei staffio gynnig gofod chwarae cydadferol ble y gall plant brofi amgylchedd chwarae cyfoethog i’w archwilio, sy’n llawn her, tra hefyd yn helpu i leihau ofnau posibl rhieni allai, fel arall, fod wedi cyfyngu ar gyfleoedd plant i
Mae Rheoli Risg mewn Darpariaeth Chwarae: Canllaw Gweithredu yn pwysleisio angen plant i gymryd risg ac amcanion darpariaeth chwarae: ‘Mae plant angen ac eisiau cymryd risgiau pan fyddant yn chwarae. Mae darpariaeth chwarae’n anelu i ymateb i’r anghenion a’r dymuniadau hyn trwy gynnig amgylcheddau heriol, symbylol i blant ar gyfer archwilio a datblygu eu doniau. Wrth wneud hyn, bydd darpariaeth chwarae’n anelu i reoli’r lefel o risg fel nad yw plant yn wynebu risgiau annerbyniol marwolaeth neu anafiadau difrifol.’3 Mae Rheoli Risg mewn Darpariaeth Chwarae: Canllaw Gweithredu, a gymeradwywyd gan Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), yn darparu cefnogaeth ac arweiniad i’r sector chwarae i reoli risgiau mewn modd synhwyrol a chymesur.
Pryderon rhieni Tra bydd llawer o rieni’n cofio chwarae mewn ffyrdd oedd yn cynnwys elfen o risg, mae’n naturiol y byddant hefyd yn pryderu am ddiogelwch eu plant. Mae’n bosibl y gallwn ganiatáu i’n hunain gael ein dylanwadu gan rieni neu ofalwyr sy’n ofni y gallai eu plentyn gael ei niweidio yn ein darpariaeth chwarae. Mae agen inni fyfyrio ar hyn, ac eiriol dros gyfleoedd chwarae o ansawdd da sy’n cynnwys elfen o greu neu gymryd risg, waeth pa mor fychan, er mwyn sicrhau ein bod yn trosglwyddo gwaith chwarae o safon. Mae angen i rieni dderbyn gwybodaeth briodol am natur ein darpariaeth chwarae. Pan fyddwn yn siarad am ddarparu cyfleoedd i blant gymryd risg, fyddwn ni ddim yn siarad am risg ar bob cyfrif ac mae angen i rieni wybod bod gennym bolisïau a gweithdrefnau pwrpasol yn eu lle i leihau’r perygl o niwed difrifol. Yn y pen draw, os ydyn nhw’n dal i fod yn anesmwyth, mae ganddynt hawl i beidio â gadael i’w plentyn fynychu. Dylem osgoi newid natur sylfaenol ein harfer gwaith chwarae mewn ymateb i gwynion unigol fel na fyddwn, o bosibl, yn amddifadu llawer mwy o blant o rywfaint o risg a her yn ein darpariaeth chwarae. Fodd bynnag, fe ddylem achub ar y cyfle, fel tîm, i fyfyrio ar bryderon rhieni a’u trafod gyda nhw er mwyn cynyddu eu hyder yn ein darpariaeth chwarae. Er enghraifft, gallwn rannu gwybodaeth sy’n cefnogi agwedd fwy cytbwys tuag at risg gyda rhieni.
Eiriol dros agwedd gytbwys tuag at reoli risg Ceir tystiolaeth a chefnogaeth gref, gan amrywiaeth o sefydliadau sy’n pledio achos defnyddio agwedd gytbwys tuag at reoli risg – o’r Cenhedloedd Unedig, i Lywodraeth y DU a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), i Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer eiriol dros agwedd gytbwys tuag at reoli risg gydag unigolion neu sefydliadau allai, yn hanesyddol, fod wedi bod yn or-wrthwynebus i risg ac allai, o ganlyniad ac yn ddiarwybod, fod wedi amddifadu
(i ryw raddau) y plant rhag derbyn cyfleoedd y gellid eu hystyried yn fuddiol i’w datblygiad. Mae enghreifftiau, allai fod yn ddefnyddiol ar gyfer eiriol dros agwedd gytbwys tuag at reoli risg, yn cynnwys:
Cymru Mae Llywodraeth Cymru yn ‘cydnabod arwyddocâd a gwerth chwarae yn natblygiad y plentyn a bod gan blant awydd cynhenid i chwilio am gyfleoedd i fentro mwy. … Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i sicrhau y caiff pob plentyn fynediad i amgylcheddau cyfoethog ac ysgogol, sy’n rhydd o risgiau anaddas, ond sy’n llawn her gan gynnig iddynt gyfleoedd i archwilio, trwy chwarae a ddewisir yn rhydd, eu hunain a’r byd.’4 Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, Llywodraeth Cymru, yn gosod dyletswydd ar bob awdurdod lleol i asesu a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol ar gyfer plant yn eu hardal. Fel rhan o’u Hasesiadau o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae gofynnir i awdurdodau lleol asesu i ba raddau y mae eu polisïau iechyd a diogelwch yn ‘croesawu egwyddor Asesiadau Risg-Budd, sydd i’w gweld yn Natganiad Lefel Uchel yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ar reoli risg wrth chwarae’. Caiff y Mesur ei ategu gan gyfarwyddyd statudol ar gyfer awdurdodau lleol, Cymru – gwlad lle mae cyfle i chwarae, sy’n nodi bod ‘plant angen teimlo bod ganddynt ryddid i brofi risg a her o’u gwirfodd a fyddan nhw ond yn gallu gwneud hyn os gwnawn ni ganiatáu i ryw lefel o ansicrwydd barhau’5.
Y DU Yn ei adolygiad o sut y defnyddir deddfau iechyd a diogelwch a thwf y diwylliant iawndal yn y DU, nododd Yr Arglwydd Young o Graffham: ‘Mater arall sy’n destun pryder yw effaith iechyd a diogelwch ar ardaloedd chwarae plant. Ceir cred gyffredinol yn y sector chwarae bod camddehongli’r Ddeddf yn arwain at greu gofodau chwarae difflach sydd ddim yn galluogi plant i brofi risg. Mae chwarae o’r fath yn hanfodol ar gyfer datblygiad plant ac ni ddylid ei aberthu ar draul
asesiadau risg goreiddgar ac anghymesur. Yn fy marn i, wrth ystyried chwarae plant, dylem symud oddi wrth system o asesu risg at system o asesu risg-budd, ble caiff effeithiau cadarnhaol posibl eu pwyso a’u mesur yn erbyn risgiau posibl.’6 Mae datganiad lefel uchel yr HSE – Chwarae a Hamdden Plant – Hyrwyddo Agwedd Gytbwys7 yn egluro ei fod, fel rheolydd, yn cydnabod buddiannau caniatáu i blant o bob oed a gallu i gael cyfleoedd chwarae heriol. Mae’n cynnwys pedair neges allweddol: •
Mae chwarae’n bwysig ar gyfer lles a datblygiad plant
•
Wrth gynllunio a darparu cyfleoedd chwarae y nod fydd, nid dileu risg, ond pwyso a mesur y risgiau a’r buddiannau
•
Dylai’r rheini sy’n darparu cyfleoedd chwarae ganolbwyntio ar reoli’r risgiau gwirioneddol, tra’n diogelu neu’n cynyddu’r buddiannau – ac nid ar y gwaith papur
•
Bydd damweiniau a chamgymeriadau’n digwydd yn ystod chwarae – ond mae ofn ymgyfreitha a chael ein herlyn wedi derbyn gormod o sylw o lawer.
‘Mae iechyd a diogelwch synhwyrol yn ymwneud â rheoli risgiau, nid eu dileu i gyd. Nid yw’r HSE yn y busnes o ddileu pleserau syml ble bynnag y byddant yn ymddangos ac ar ba bynnag gost. Rydym yn cydnabod buddiannau chwarae i ddatblygiad plant sydd, o reidrwydd, yn cynnwys elfen o risg, ac na ddylid aberthu hyn ar drywydd nod annichon diogelwch absoliwt.’8 Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Rhyngwladol Mae Sylw Cyffredinol 17 Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ar Erthygl 31 o Gonfensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn yn nodi: ‘Mae angen taro cydbwysedd rhwng, ar yr un llaw, gymryd camau i leihau’r peryglon annerbyniol yn amgylchedd y plentyn … ac, ar y llaw arall,
hysbysu, ymbaratoi a galluogi plant i gymryd y rhagofalon angenrheidiol i gyfoethogi eu diogelwch personol.’9 Gall yr enghreifftiau hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer gweithwyr chwarae wrth eiriol dros agwedd gytbwys tuag at reoli risg fel rhan o’u gwaith fydd, yn y pen draw, yn arwain at gyfleoedd chwarae gwell ar gyfer plant. Amlinellir y cyfrifoldeb yma yn yr Egwyddorion Gwaith Chwarae – y fframwaith moesol ac egwyddorol ar gyfer gweithwyr chwarae. Egwyddor Gwaith Chwarae 4: I weithwyr chwarae, y broses chwarae fydd flaenaf a bydd gweithwyr chwarae’n gweithredu fel eiriolwyr dros chwarae pan yn ymwneud ag agenda gaiff eu harwain gan oedolion. Dylai unrhyw leoliad sy’n anelu i ddarparu ar gyfer anghenion chwarae plant fabwysiadu polisi chwarae er mwyn ei gwneud hi’n glir i staff, rheini a gweithwyr proffesiynol eraill sut y maent yn ymdrin â chwarae plant, gan gynnwys rheoli risg. Er mwyn helpu i sicrhau bod gan eich lleoliad bolisi addas, gellir mabwysiadu model o bolisi chwarae sydd ar gael ar-lein neu ei ddefnyddio fel man cychwyn. Er enghraifft, ceir templed o bolisi chwarae ysgol ar: www.chwaraecymru.org.uk/cym/ polisichwaraeysgol
Ofn cael ein herlyn Mae nifer o enghreifftiau o leoliadau chwarae, gofal plant ac ysgolion sy’n cyflenwi darpariaeth safon uchel yn rheolaidd ble mae’r staff yn mabwysiadu agwedd gwaith chwarae sy’n defnyddio agwedd mwy cytbwys tuag at reoli risg ac mae pob un ohonynt wedi eu hyswirio ar gyfer eu gweithgareddau. Yn Sir y Fflint, er enghraifft, mae 17 o ysgolion, hyd yma, wedi mabwysiadu agwedd gwaith chwarae’n ystod amser chwarae. Er mwyn cefnogi’r agwedd yma, maent i gyd wedi mabwysiadu polisi chwarae newydd sydd yn cydymffurfio â pholisi Llywodraeth Cymru yn ogystal â pholisi dilynol yr awdurdod lleol. Er mwyn cefnogi’n well y broses o reoli risgiau, maent hefyd wedi mabwysiadu dau asesiad risg-budd.
Mae’r agwedd hon (trwy brosiect ‘Playful Futures, Playful Playtimes’) wedi tystio buddiannau sylweddol i’r plant, o ran canfyddiadau’r plant eu hunain o amserau chwarae a gwerth chwarae’r amgylcheddau sydd ar gael ar gyfer chwarae. Mae pob ysgol wedi ei hyswirio ar gyfer ei gweithgareddau trwy’r awdurdod lleol. Ceir mwy a mwy o dystiolaeth ystadegol hefyd am ostyngiad mewn damweiniau o ganlyniad i fabwysiadu’r agwedd yma. Yn yr un modd, mae fframwaith Asesu Ansawdd a phecyn cymorth y Cynllun Cyfoethogi Chwarae wedi eu mabwysiadu yng Nghonwy a Wrecsam er mwyn asesu ansawdd darpariaeth gofal plant wrth gyflawni anghenion chwarae plant. Mae’r agwedd yma’n eiriol dros fabwysiadu agwedd gwaith chwarae ac, o ganlyniad, agwedd risg-budd tuag at reoli risg. Mae un o’r dangosyddion sy’n rhan o’r fframwaith asesu’n sicrhau bod darparwyr wedi cytuno i’r agwedd yma gyda’u hyswirwyr: ‘Mae gennym bolisi sy’n egluro ein hagwedd gytbwys tuag at reoli risg ac mae hwn wedi ei gytuno gyda’n hyswirwyr’10. Mae rhaid i bob darpariaeth chwarae sy’n cyflogi gweithwyr chwarae gael ei yswirio yn erbyn hawliadau am iawndal o ganlyniad i anafiadau.
Os oes asesiad risg-budd wedi ei gyflawni ac y gallwn brofi ein bod wedi cymryd gofal rhesymol, fyddwn ni ddim yn atebol yn bersonol a mater i’r cwmni yswiriant fydd setlo’r achos fel y mynno. Os cewch drafferth wrth sicrhau yswiriant, mae broceriaid arbenigol ar gael all eich helpu i ddynodi yswiriwr addas sydd â dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o rinweddau agwedd gwaith chwarae.
Barn gyfreithiol gan fargyfreithiwr ‘Rwyf o’r farn ei bod yn gwbl deg ... i bwysleisio ... yr angen i gydbwyso yn erbyn y risg o anaf, y buddiannau i blant a phobl ifanc o gymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae o fewn lefel derbyniol o risg. Fodd bynnag, yn ganolog i sicrhau’r cytbwysedd yma mae cwblhau asesiad risg gofalus. Ble cwblhawyd asesiad risg gofalus a arweiniodd at y casgliad y gellir caniatáu i chwarae gynnwys risg o anaf, o ganlyniad i’r buddiannau cysylltiedig, rwy’n hyderus y byddai’r Llysoedd yn cydymdeimlo â Diffynnydd mewn achos ble roedd damwain wedi arwain at achos llys.’11
Beth gaiff ei gynnwys mewn asesiad risg-budd cyffredin? Bydd asesiad risg-budd cyffredin yn cynnwys adrannau sy’n archwilio’r buddiannau, y risgiau (barn gan arbenigwr), ffactorau lleol, cynseiliau a chymariaethau, a phenderfyniadau megis: cynyddu’r risg, gwneud dim, monitro’r sefyllfa, lleddfu neu reoli’r risg, dileu’r risg. Bydd hefyd yn nodi manylion camau gweithredu a sut y delir â’r broses o reoli’r risg wrth fynd ymlaen. Gellir lawrlwytho esiamplau o dempled asesiad risg-budd gwag yn ogystal ag enghraifft wedi ei chwblhau (yn seiliedig ar siglen ar goeden), ar: www.chwaraecymru.org.uk/cym/ymchwilrisg
Beth mae taro cydbwysedd rhwng risg a buddiannau datblygiadol a lles yn ei olygu’n ymarferol? Yr Egwyddorion Gwaith Chwarae yw’r fframwaith moesol ac egwyddorol sy’n sail ar gyfer y proffesiwn gwaith chwarae. Dywed Egwyddor Gwaith Chwarae 8: Bydd gweithwyr chwarae’n dewis arddull ymyrryd sy’n galluogi plant a phobl ifanc i ymestyn eu chwarae. Dylai ymyrraeth gweithwyr chwarae bob amser daro cydbwysedd rhwng y risg â’r budd datblygiadol a lles plant. Gallem ei ystyried fel a ganlyn: ‘I ymyrryd neu i beidio ag ymyrryd? Dyna’r cwestiwn’. Dyma’r cwestiwn pwysicaf, i ryw raddau, i weithwyr chwarae gweithredol wrth inni asesu risgiau posibl yn ddynamig yn y gofod chwarae. Fel arfer, bydd nifer o wahanol ymddygiadau chwarae’n digwydd ar unrhyw adeg benodol a bydd gweithwyr chwarae’n arsylwi er mwyn gweld os oes angen ymyriad, tra’n cydnabod hefyd mai’r ymyriad lleiaf posibl yw’r hoff ddewis bob tro, oni bai bod plentyn yn debyg o wynebu lefelau niwed ‘sylweddol’ neu ‘afresymol’, boed yn gorfforol neu’n emosiynol. Mae’r termau ‘sylweddol’ ac ‘afresymol’ yn rhai goddrychol – tra byddai un gweithiwr chwarae’n dewis tynnu llinell derfyn ac ymyrryd, mae’n bosibl na fyddai un arall. Mae hyn oherwydd ein bod i gyd yn unigolion cwbl unigryw sy’n meddu ar bob math o brofiadau ac atgofion sy’n hysbysu ein harfer proffesiynol. Er enghraifft, efallai y bydd
gweithiwr chwarae sydd ofn uchder yn ymyrryd yn gynt pan fo plentyn yn dringo coeden na fyddai gweithiwr chwarae sy’n ddringwr brwd sydd yntau’n gyfforddus yn dringo i uchder. Felly, gall bod yn ymwybodol o’n sbardunau personol mewn amrywiol sefyllfaoedd fod yn offeryn defnyddiol wrth fyfyrio ar ein harfer er mwyn hysbysu penderfyniadau y gallem eu gwneud yn y dyfodol wrth arsylwi’r plentyn yn chwarae. ‘Nid yw taro’r cydbwysedd cywir rhwng amddiffyn plant rhag y risgiau mwyaf difrifol a chaniatáu iddynt elwa o fuddiannau chwarae yn ymwneud â dileu risg. Nid yw’n ymwneud ychwaith â dulliau cymhleth ar gyfer cyfrifo risgiau neu fuddiannau. Mae chwarae, yn ei hanfod, yn weithgaredd diogel a buddiol. Barnau synhwyrol oedolion yw’r cyfan sydd eu hangen, fel arfer, i sicrhau’r buddiannau gorau ar gyfer plant tra’n sicrhau nad ydynt yn gorfod wynebu risgiau diangen.’12 Y ‘barnau synhwyrol oedolion’ hyn y mae gweithwyr chwarae’n ymwneud â hwy’n bennaf. Mae cryn gronfa o theori gwaith chwarae y byddwn yn edrych arni’n fanylach sy’n cefnogi ein harfer proffesiynol.
Rhoi agwedd risg-budd ar waith Mae’n debyg mai taro’r cydbwysedd cywir rhwng y risgiau sy’n bresennol a’r buddiannau posibl i’r plentyn yn chwarae yw’r hyn y bydd y gweithiwr chwarae ymarferol yn ei ystyried fwyaf o ddydd i ddydd. Bydd hyn, ynghyd â’n myfyrdod parhaus os oedd ein hymyriadau arfaethedig yn gywir ai peidio, yn y pen draw, yn sail i’n harfer proffesiynol ac yn ein cefnogi i lunio barnau mwy deallus i’r dyfodol. Fel y nododd yr Athro Fraser Brown: ‘Mae rhaid i’r gweithiwr chwarae sicrhau cydbwysedd anodd rhwng rhyddid a diogelwch, a hynny bob dydd. Ar un llaw mae rhaid inni ochel rhag bod yn or-amddiffynnol, sy’n golygu na chaiff plant fyth wthio’n erbyn ffiniau a dysgu am eu cyfyngiadau eu hunain. Ar y llaw arall, byddai’n anghyfrifol inni ganiatáu i blant roi eu hunain mewn sefyllfa niweidiol.’
Aiff ymlaen i ystyried mai un o elfennau unigryw gwaith chwarae yw ‘Derbyniad cyffredinol y gall chwarae llawn risg fod yn fuddiol, ac nad oes angen ymyrryd oni bai bod mater diogelwch neu ddiogelu yn codi’.13
Fel rhan o hyfforddiant gwaith chwarae, byddwn yn dysgu’r acronym ‘AGGMYMA’, sy’n sefyll am:
Aros Gwylio Gwrando
I ymyrryd neu i beidio ag ymyrryd? Dyna’r cwestiwn
Myfyrio
Yn aml, bydd hyfforddiant a chymwysterau gwaith chwarae’n annog gweithwyr chwarae i ystyried y broses feddwl y maent yn ei defnyddio wrth iddynt arsylwi’r plentyn yn chwarae ac os dylid ymyrryd ai peidio. Fel bodau dynol, mae pob un ohonom yn asesu peryglon yn ddynamig gan bwyso a mesur y risgiau y gallent eu hachosi trwy’r amser. Er enghraifft, os byddem yn cerdded i lawr y stryd a bod twll mawr peryglus o’n blaen, fydden ni’n cerdded i mewn iddo? Na fyddem wrth gwrs, fe fydden ni’n asesu’r risg yn ddynamig. Yn gyntaf, fe fydden ni’n dynodi’r perygl, ac yna’n penderfynu beth i’w wneud – cerdded heibio iddo, yn fwy na thebyg! Mae bodau dynol yn dda iawn am asesu risgiau’n ddynamig gan ein bod yn gwneud hynny trwy’r amser a bydd plant yn datblygu’r sgiliau hyn, trwy chwarae, o oedran ifanc.
Ymateb Myfyrio Arfer Cyn inni ymyrryd, dylem gymryd ennyd i atal ein hunain, ystyried yr hyn sy’n digwydd cyn inni ymateb ac yna myfyrio ar ein hymyriadau er mwyn hysbysu ein harfer i’r dyfodol. Weithiau, caiff hyn ei fynegi’n weledol fel siart lif i’n helpu i ystyried yn fwy cyffredinol os y dylem ganiatáu i’r hyn yr ydym yn ei arsylwi barhau, neu os oes angen inni, efallai, ymyrryd. Efallai na fyddai angen inni roi stop ar yr hyn yr ydym yn ei weld yn gyfan gwbl ond y gallem, yn hytrach, gynnig awgrymiadau ynghylch sut y gellid addasu’r sefyllfa mewn rhyw fodd er mwyn lleihau’r lefel o risg annerbyniol i lefel sy’n dderbyniol.
Y Model ABC ar gyfer rheoli risg dynamig Yn ddiweddar datblygwyd papur cyfarwyddyd Rheoli risg dynamig ymddygiadau chwarae cyffredin allai fod yn beryglus14 gan Chwarae Cymru i gefnogi meddwl dyfnach ynghylch sut y gall damweiniau ddigwydd pan fo plant yn chwarae. Mae’r model hwn yn anelu i gefnogi ymarferwyr i asesu risg yn ddynamig trwy ddynodi enghreifftiau posibl o:
© New Model Army Photography
• A yw gweithgaredd yn debygol o achosi niwed? (Gweithredoedd)
• Beth yn ymddygiad y plant, all achosi iddynt
fod yn llai ymwybodol ac yn llai abl i reoli risg drostynt eu hunain a / neu dros eraill o’u cwmpas? (Moddau Ymddygiadol)
• Cyd-destun ar ffactorau penodol a all gynyddu tebygolrwydd a difrifoldeb unrhyw niwed posibl (Cyd-destun).
Felly, dyma’r Model ABC ar gyfer asesu risg dynamig. Bwriedir i’r model ABC gefnogi asesu risg dynamig gan ymarferwyr tra’n gweithio gyda phlant sy’n chwarae mewn darpariaeth chwarae wedi ei staffio. Mae’n cydnabod, tra gall ymddygiadau chwarae plant fod yn gymhleth ac ymddangos ar wahanol ffurfiau, mae’r ffyrdd y gallai niwed difrifol ddigwydd yn debygol o fod yn debyg ar draws gwahanol fathau o ymddygiad. Er enghraifft, mae’r ffyrdd y gallai anafiadau ddigwydd, a’r ffactorau y bydd angen i ymarferwyr eu hystyried, yn debygol o fod yn debyg waeth os yw plentyn yn dringo coeden, yn siglo ar raff neu’n llithro i lawr llethr mwdlyd.
Llunio barnau risg-budd Ar sail buddiannau galluogi plant i chwarae’n rhydd, dylid glynu at y rheol gyffredinol – y dylid caniatáu cymaint â phosibl o ryddid, cyn belled a bod hynny ddim yn cyfyngu’n ormodol ar hawl person arall i chwarae neu’n peri i’r chwaraewr, neu i bob eraill, wynebu risg afresymol o niwed corfforol neu emosiynol difrifol (gall hyn gynnwys dwyn enw drwg ar y ddarpariaeth chwarae allai, yn y pen draw, olygu na chaiff ei gynnig).
Dod i adnabod y plant Os nad ydym yn gyfarwydd â’r plant yr ydym yn gweithio â nhw byddwn, fel arfer, yn mabwysiadu agwedd ychydig yn fwy pwyllog tan ein bod yn hyderus bod gennym ddealltwriaeth ddyfnach o ddoniau a galluoedd unigryw pob un ohonynt. Dros amser gallwn ddechrau cyflwyno cyfleoedd mwy heriol wrth inni lunio dealltwriaeth ddyfnach o’r hyn y gall y plant ei wneud a ddim ei wneud fel arfer. Caiff y penderfyniadau hyn i gyd eu hategu gan arsylwadau rheolaidd o blant yn chwarae ac yna myfyrio ar yr hyn yr ydym wedi ei weld, fel unigolion ac fel rhan o dîm ehangach. Yn y pen draw bydd hyn yn ein galluogi i ehangu a chyfoethogi cyfleoedd chwarae plant. Byddwn bob amser yn cofio y bydd plant yn mynd ati’n naturiol i chwilio am risg ac ansicrwydd fel rhan o’u chwarae. Mewn gwirionedd, fe fyddant weithiau’n mynd ati’n weithredol i geisio risg pan maent yn chwarae fel y gallant geisio meistroli ‘rheoli bod allan o reolaeth’. Er enghraifft, yn aml bydd plentyn sy’n dysgu mynd ar gefn beic yn gwneud y broses honno’n fwy heriol, fesul tipyn, trwy efallai geisio reidio’r beic gyda dim ond un llaw ar yr handlen, ac yna heb ddwylo o gwbl pan maent yn teimlo’n ddigon dewr i wneud hynny.
Mae’n debyg bod pob BMXiwr a beiciwr mynydd proffesiynol wedi cychwyn seiclo gyda help llaw rhiant ar eu beic bach neu gyda chymorth olwynion sadio! Efallai na fydd rhai mathau o ddarpariaeth chwarae, fel cynllun chwarae tymhorol dros yr haf, yn rhoi digon o gyfle inni ddod i adnabod y plant newydd cystal ag y byddem mewn darpariaeth blwyddyn gron, fel maes chwarae antur. Os felly, byddwn yn defnyddio ein barn a fyddwn ni ond yn cefnogi cyfleoedd chwarae mwy heriol os ydym yn teimlo’n gyfforddus i wneud hynny ac os ydym yn teimlo bod y risg o niwed yn ‘rhesymol’. Mae llawer o bosibiliadau chwarae cyffrous y gallwn eu darparu sy’n cynnig gwefr ansicrwydd gyda fawr ddim risg o niwed, gallwn wastad gadw syniadau mwy uchelgeisiol ar gyfer adeg mwy priodol.
Pwysigrwydd gwybodaeth a myfyrio ar ein harfer Egwyddor Gwaith Chwarae 6: Caiff ymateb gweithwyr chwarae i chwarae plant a phobl ifanc ei seilio ar wybodaeth gyfredol, gref o’r broses chwarae, ac arfer myfyriol. Mae arfer myfyriol yn ganolog i wella a llunio dewisiadau mwy deallus am ein harfer proffesiynol a dylem achub ar bob cyfle i fyfyrio, fel unigolion a gyda’n cydweithwyr. Po hiraf y byddwn yn gweithio fel gweithwyr chwarae, y mwyaf o arsylwadau a wnawn o blant yn chwarae a’r mwyaf o ddewisiadau y byddwn wedi eu gwneud ynghylch ceisio cael y cydbwysedd yn gywir. Arfer myfyriol yw’r broses o ddysgu parhaus trwy’r llwyddiannau a’r camgymeriadau a wnawn a’u defnyddio i wneud gwelliannau bychain dros amser.
Mae cwestiynau defnyddiol y gallem eu gofyn i’n hunain yn cynnwys: •
Wnaeth fy ymyriadau gynyddu cyfleoedd i blant chwarae?
•
Wnaeth fy ymyriadau gefnogi plant i reoli risgiau drostynt eu hunain?
•
Ddylwn i fod wedi ymyrryd pan na wnes i?
Mae meddu ar ddealltwriaeth gadarn a chyfredol o’r broses chwarae’n allweddol er mwyn i weithwyr chwarae allu ymateb yn briodol i blant a phobl ifanc. Byddwn yn ennill y ddealltwriaeth yma o amrywiol ffynonellau a sianelau fel academyddion, ymchwilwyr, ein cydweithwyr, llyfrau, papurau cyfarwyddyd, gwefannau, cymwysterau, hyfforddiant a mynychu fforymau a chynadleddau, i enwi dim ond rhai.
Cyfeiriadau Ball, D., Gill, T. a Spiegal, B. (2013) Rheoli Risg mewn Darpariaeth Chwarae: Canllaw gweithredu. Llundain: Play Safety Forum www.chwaraecymru.org.uk/cym/rheolirisg
1
Y Cenhedloedd Unedig (2013) Sylw Cyffredinol 17 ar Erthygl 31 o CCUHP www.chwaraecymru.org.uk/cym/sylwcyffredinol
9
Bazley, S. (2017) Rich Play Award for Childcare Providers: A Quality Assessment Framework and Toolkit. Comisiynwyd gan Dîm Datblygu Chwarae, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy mewn partneriaeth â Phartneriaeth Gofal Plant a Datblygiad Blynyddoedd Cynnar (EYDCP) a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam; Y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, y Tîm Gofal Plant a’r Tîm Datblygu Chwarae.
10
Russell, W. a Lester, S. (2008) Play for a Change Summary Report: Play, Policy and Practice: a review of contemporary perspectives
2
Rheoli Risg mewn Darpariaeth Chwarae: Canllaw Gweithredu
3
Llywodraeth Cymru (2002) Polisi Chwarae. Caerdydd: Llywodraeth Cymru www.chwaraecymru.org.uk/cym/ polisichwaraecymru 4
Llywodraeth Cymru (2014) Cymru – gwlad lle mae cyfle i chwarae. Caerdydd: Llywodraeth Cymru www.chwaraecymru.org.uk/cym/digonolrwydd
Raymond Machell QC, ar gyfer PLAYLINK (2006) Negligence, play and risk – legal opinion www.playlink.org
11
5
Chwarae a Hamdden Plant – Hyrwyddo Agwedd Gytbwys
12
Brown, F. (2017) What is Unique about Playwork? https://playworkfoundation. org/2017/12/15/what-is-unique-about-playwork/
13
Llywodraeth y DU (2010) Common Sense, Common Safety www.gov.uk/government/publications/commonsense-common-safety-a-report-by-lord-young-ofgraffham
6
Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (2012) Chwarae a Hamdden Plant – Hyrwyddo Agwedd Gytbwys www.chwaraecymru.org.uk/cym/ymchwilrisg
7
Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (Ionawr 2005) www.chwaraecymru.org.uk/cym/chwaraeaher
8
Bazley, S., Barclay, S. a Bullough, D. (2016) Rheoli risg dynamig ymddygiadau chwarae cyffredin allai fod yn beryglus. Caerdydd: Chwarae Cymru www.chwaraecymru.org.uk/cym/newyddion/644the-abc-model-to-dynamic-risk-management-
14
Mai 2018 © Chwarae Cymru Awdur: Simon Bazley
www.chwaraecymru.org.uk
Chwarae Cymru yw’r mudiad cenedlaethol dros chwarae plant, elusen annibynnol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu hawl plant i chwarae ac i gynnig cyngor ac arweiniad ar faterion sy’n ymwneud â chwarae. Elusen cofrestredig, rhif 1068926 Cwmni cyfyngedig drwy warant, rhif 3507258 Cofrestrwyd yng Nghymru