1 minute read

Sgiliau a rhinweddau personol a phroffesiynol uwch-weithiwr chwarae

Mae gan y gweithiwr chwarae sy’n gyfrifol am reoli lleoliad chwarae o ddydd-i-ddydd nifer o wahanol deitlau – goruchwylydd gwaith chwarae, uwch-weithiwr chwarae, gweithiwr chwarae â gofal, rheolwr gwaith chwarae. Byddwn yn defnyddio’r term uwch-weithiwr chwarae i gyfeirio at y rôl hon o hyn ymlaen.

Byddwn yn defnyddio llawer o sgiliau proffesiynol a rhinweddau personol i reoli lleoliadau chwarae. Rydym yn weithwyr chwarae yn ogystal ag yn rheolwyr y lleoliad ac yn arweinydd tîm – hyd yn oed os mai dim ond dau ohonom sydd yn y tîm hwnnw. Awgryma Kilvington a Wood1 bod uwchweithiwr chwarae angen sgiliau yn y meysydd canlynol: • Sicrhau mynediad i a rheoli gwybodaeth ac adnoddau – ymchwil parhaus yn defnyddio ystod o ffynonellau, y mae’r canlyniadau ar gael i’w defnyddio, yn ogystal â gwaith gweinyddol a chofnodi bob dydd • Cyllidebu, cynllunio a goruchwylio adnoddau ariannol • Cyfathrebu a rhwydweithio gyda gweithwyr proffesiynol a sectorau eraill – cadw gwaith chwarae’n fyw, datblygu cysylltiadau a chadw mewn cysylltiad â sectorau eraill sy’n gweithio gyda phlant, yn ogystal â rhannu’r neges gwaith chwarae • Cyfathrebu’n dda – defnyddio’r ystod ehangaf o dechnegau cyfathrebu i gynorthwyo dealltwriaeth • Dirprwyo – caniatáu i weithwyr chwarae eraill gymryd cyfrifoldeb • Datblygu’r tîm – helpu gweithwyr chwarae unigol i ddatblygu eu sgiliau unigol a’u sgiliau tîm • Meddu ar weledigaeth – gwybod yr hyn y mae’r ddarpariaeth yn anelu amdano • Adnabod cryfderau a gwendidau eich tîm – cydnabod aelodau’r tîm fel unigolion, y mae gan bob un ohonynt rywbeth i’w gynnig • Gwrando – nid dim ond clywed heb wir ddeall • Llunio penderfyniadau – a chymryd cyfrifoldeb am unrhyw benderfyniadau a wneir • Monitro a gwerthuso – gan ddefnyddio meincnodau arfer gwaith chwarae gorau • Goruchwylio gwaith y tîm – gwybod yr hyn sy’n cael ei wneud, pam ei fod yn cael ei wneud a phwy sy’n ei wneud • Recriwtio, dethol a chadw staff.

Advertisement

This article is from: