Pwyso a mesur risgiau a buddiannau mewn chwarae plant

Page 1

Pwyso a mesur risgiau a buddiannau mewn chwarae plant Pam fod angen agwedd gytbwys a beth yn union yw hynny


Mae’r daflen wybodaeth hon yn anelu i amlinellu pam fod angen agwedd gytbwys, feddylgar tuag at reoli risgiau mewn chwarae plant. Mae’n anelu hefyd i gynnig trosolwg o asesu risg-budd (ARB), sy’n cael ei derbyn yn gyffredinol fel agwedd addas. Mae’r daflen wybodaeth hon wedi ei anelu at bob un sydd â diddordeb mewn chwarae plant, yn cynnwys gweithwyr chwarae, darparwyr a rheolwyr lleoliadau chwarae, addysgwyr, gweithwyr iechyd a diogelwch proffesiynol, rheolwyr risg a llunwyr penderfyniadau. Pam fod risg yn bwysig mewn chwarae plant? Mae gan blant o bob oed a gallu ysfa naturiol i chwarae. Yn ogystal, mae chwarae’n dda i blant. Mae Polisi Chwarae Llywodraeth Cymru’n nodi fod gan blant ‘awydd greddfol i chwarae’ a bod chwarae’n ‘hanfodol i’r broses o ddysgu a thyfu’. Pan fydd plant yn chwarae, bydd eu teuluoedd a’r gymuned ehangach yn elwa hefyd. Pryd bynnag y bydd plant yn chwarae, maent yn cael eu cymell yn reddfol i symud oddi wrth yr hyn sy’n arferol a chyfarwydd – ac o’r herwydd yn ddiflas – i’r hyn sy’n ddieithr, ansicr a deniadol. Mae’r Polisi Chwarae yn nodi hefyd: ‘mae gan blant awydd greddfol i chwilio am gyfleoedd i gymryd risgiau cynyddol’. Pur anaml y gellir dileu risgiau’n llwyr heb danseilio profiadau’r plant ar yr un pryd. Bydd llawer o blant a phlant yn eu harddegau’n mynd ati’n weithredol i chwilio am brofiadau chwarae anturus, cyffrous. Efallai y bydd darparu cyfleoedd chwarae heriol mewn amgylcheddau wedi eu rheoli’n helpu i leihau damweiniau’n gyffredinol, oherwydd y gallant ddigwydd mewn lleoliadau sy’n ddiogel rhag traffig a pheryglon difrifol eraill. Mae gan blant anabl yr un angen, os nad mwy o angen, am gyfleoedd chwarae anturus, gan ei bod yn bosibl nad ydynt yn cael y rhyddid dewis y mae eu cyfoedion heb anabledd yn ei fwynhau. ’Does ryfedd bod plant yn aml yn cael mân ddamweiniau wrth chwarae. Yn ogystal, ’dyw mân-anafiadau sy’n gwella’n gyflym mewn

amgylcheddau chwarae ddim, o reidrwydd, yn broblem. I ddweud y gwir maent yn gwbl anochel, yn enwedig mewn darpariaeth anturus, heriol. Ond wedi dweud hynny, mae meysydd chwarae o bob math yn fannau cymharol ddiogel, ac mae chwarae ar feysydd chwarae’n fwy diogel na chymryd rhan mewn llawer o chwaraeon neu weithgareddau hamdden eraill.1

Beth sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith? Yn gyffredinol, caiff meysydd chwarae a darpariaeth chwarae eraill eu rheoli gan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ayyb 1974, a Deddfau Atebolrwydd Deiliaid 1957 a 1984. Mae’r Deddfau hyn, a’r rheoliadau cysylltiedig, yn gosod dyletswydd gofal ar ddarparwyr a deiliaid a amlinellir gan y cysyniad o ‘resymoldeb’. Mae Deddf Atebolrwydd Deiliaid 1957 yn datgan hefyd bod ‘rhaid i ddeiliaid fod yn barod i blant fod yn llai gofalus nag oedolion’. Fodd bynnag, dengys dyfarniadau o’r llysoedd nad yw’r llysoedd yn ystyried bod plant yn ddiofal, anghymwys neu fregus mewn unrhyw synnwyr absoliwt. Nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i ddileu neu leihau risg, hyd yn oed ble fo plant dan sylw. Yn ymarferol, disgwylir i ddarparwyr gynnal ‘asesiad risg addas a digonol’, ac i weithredu ar eu canfyddiadau. Un elfen o asesu risg – sy’n draddodiadol yn ffocws pwysig i ddarparwyr chwarae – yw gwirio cydymffurfio gyda safonau cynnyrch. Mae’r safonau hyn wedi eu creu ar gyfer offer chwarae sefydlog, arwynebau diogel a phethau o’r fath, mewn ardaloedd chwarae


a mannau eraill sydd wedi eu dynodi ar gyfer chwarae.2 Mae gan safonau o’r fath ran bwysig i’w chwarae wrth sicrhau bod mannau chwarae’n cael eu hadeiladu’n dda, eu dylunio’n dda a’u bod yn rhesymol ddiogel. Fodd bynnag, fyddan nhw ddim yn dileu’r risg o gael anaf. At hynny, nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i gydymffurfio â nhw. Er y dylid ystyried safonau perthnasol bob amser, canllawiau yw’r rhain mewn termau cyfreithiol. Yn ogystal, mae safonau o’r fath yn canolbwyntio ar offer wedi ei wneuthuro, a dydyn nhw ddim yn berthnasol efallai i fannau fel coedwigoedd neu fannau awyr agored naturiol eraill. Dydyn nhw ychwaith ddim yn berthnasol i’r mathau o rannau rhydd a ddefnyddir mewn llawer o raglenni chwarae awyr agored. Ynghyd â’r safonau, mae canllawiau, cyngor a gwybodaeth arall ar gael. Er enghraifft, mae’r Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (RoSPA) a’r Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau ymhlith Plant yn cynnig arweiniad ac adnoddau ar-lein ar chwarae a diogelwch plant. Dylai’r deunydd yma hefyd, er ei fod o gymorth, gael ei ddefnyddio’n bwyllog wrth asesu a rheoli risg, yn hytrach na chael ei ystyried yn amod cyfreithiol.

Pam fod angen agwedd gytbwys? Gall rheoli risgiau mewn amgylcheddau chwarae fod yn dasg gymhleth. Mae’n wahanol iawn i reoli risg mewn cyd-destunau eraill fel ffatrïoedd neu weithleoedd. Mewn mannau fel hyn, pur anaml y bydd gan beryglon – pethau all, o bosibl, achosi niwed – unrhyw fuddiannau cynhenid. O’r herwydd, mae rheoli risg yn canolbwyntio’n llwyr ar yr angen i gyflwyno camau rheoli fydd yn lleihau’r risg o niwed i lefel dderbyniol. Ond mewn cyd-destun chwarae, bydd wynebu rhywfaint o risg yn fudd ynddo’i hun. Meddyliwch, er enghraifft, am bont sigledig: y math a welir mewn ardal chwarae i blant. Mewn ffatri neu weithle, fyddai’r un rheswm da dros adeiladu pont sy’n siglo. Pe bae pont o’r fath yn bodoli, mae’n debyg y byddai asesiad risg ohoni yn tynnu sylw at y ffaith bod angen ei hatgyweirio. Ond mewn cyd-destun chwarae, mae gan bont sigledig fuddiannau cynhenid, er y gallai arwain at fwy o ddamweiniau na phont gadarn. Mae pont sigledig yn cynnig her i blant: ydyn nhw’n ddigon sad ar eu traed – ac yn ddigon dewr – i’w chroesi? Felly, mewn amgylcheddau chwarae, mae’n allweddol caniatáu ar gyfer lefel o risg. Fel y mae’r Cyfarwyddyd Statudol, Cymru – gwlad lle


mae cyfle i chwarae, yn nodi: mae darpariaeth chwarae o safon yn ‘cynnig her ac ansicrwydd, gyda chyfleoedd graddol i fentro’. Mae’r angen yma i gynnwys rhywfaint o risg mewn amgylcheddau chwarae’n bwysicach fyth o ganlyniad i newidiadau ehangach ym mywydau bob dydd plant. Yn y degawdau diwethaf, gwelwyd gostyngiad yn yr amser y bydd plant yn ei dreulio’n chwarae ac yn teithio o gwmpas yn annibynnol y tu allan. Mae’r rhesymau am y dirywiad yma’n gymhleth ac yn destun dadlau. Ond mae llawer o bobl yn cytuno y bydd plant, o ganlyniad, yn cael llai o gyfle i wynebu a dysgu sut i reoli risg drostynt eu hunain.3 Mae rhoi cyfleoedd wedi eu rheoli i blant gymryd risg yn fodd o wneud yn iawn iddyn nhw am golli rhyddid yn fwy cyffredinol. Fel y dywed Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn ei Ddatganiad Lefel Uchel ar chwarae a hamdden plant: ‘mae chwarae’n helpu plant i ddysgu a datblygu; ac mae’n caniatáu iddynt wynebu realiti’r byd y byddant yn byw ynddo, sy’n fyd sydd ddim yn rhydd o risg ond yn hytrach fyd ble mae risg yn fythol bresennol. Mae’r cyfle i chwarae’n datblygu ymwybyddiaeth plant o risg ac yn eu paratoi ar gyfer eu bywydau i’r dyfodol’4. Mae dadl gynyddol ynghylch gwerth caniatáu i blant ddelio â risg, ac ynghylch peryglon gor-amddiffyn. Fodd bynnag, ’dyw hyn ddim yn awgrymu y dylem adael plant i’w tynged. Rydym yn parhau i fod â dyletswydd gofal i gadw plant yn rhesymol ddiogel, ac adlewyrchir y ddyletswydd hon yn y fframwaith cyfreithiol. Felly, wrth galon rheoli risg mewn chwarae mae angen i daro cydbwysedd rhwng cyfleoedd ar gyfer chwarae rhydd, ac ystyriaeth i les – neu o’i fynegi mewn modd arall, rhwng risg a diogelwch. Fel y mae Cynllun Cyflawni’r Polisi Chwarae Llywodraeth Cymru yn egluro, mae angen agwedd gytbwys, waeth os ydym yn meddwl am ardaloedd chwarae cyhoeddus, tiroedd ysgolion neu feithrinfeydd, meysydd chwarae antur, parciau a mannau cyhoeddus neu ardd gefn – mewn gwirionedd, unrhyw amgylchedd ble y gellid yn rhesymol ddisgwyl i blant chwarae.

Beth fydd yn atal mabwysiadu agwedd gytbwys? Fydd llawer o oedolion, yn enwedig y rheini sydd ag atgofion o blentyndod wedi ei dreulio’r tu allan yn bennaf, angen fawr o berswâd ynghylch buddiannau caniatáu i blant gymryd rhywfaint o risgiau. Ond ceir tystiolaeth eglur bod oedolion yn cyfyngu’n ormodol ar chwarae plant, oherwydd eu pryder ynghylch rhoi cyfle i blant gymryd risgiau. Mae’r HSE yn cydnabod y broblem hon yn ei Ddatganiad Lefel Uchel. Mae hwn yn nodi bod y rhesymau am lawer o’r dryswch yn cynnwys ‘ofn ymgyfreithiad neu erlyniad troseddol gan na chafodd y risg mwyaf dibwys ei ddileu’. Ofn ymgyfreithiad yw’r ffactor allweddol, yn hytrach na’r union nifer o achosion cyfreithiol. Mewn gwirionedd, fydd meysydd chwarae ddim yn arwain at lawer o hawliadau’n sgîl damweiniau, ac nid oes unrhyw dystiolaeth o gynnydd sylweddol mewn niferoedd.


Ychwanegodd datganiad yr HSE: ‘Gall y gwaith papur sydd ei angen beri rhwystredigaeth, a chamddealltwriaeth ynghylch yr hyn sydd angen ei wneud i reoli risgiau sylweddol.’ Mae eraill wedi awgrymu bod codi bwganod gan y cyfryngau i feio’n rhannol hefyd. Waeth beth yw achosion ofn risg gormodol, ceir bellach farn gyffredin mai’r modd i ddelio â’r broblem hon yw hybu agwedd mwy cytbwys a meddylgar tuag at reoli risg. Mae Cynllun Cyflawni’r Polisi Chwarae Llywodraeth Cymru’n datgan mai’r hyn sydd angen yw i ‘ymateb yn bositif drwy ehangu’r amrywiaeth o amgylcheddau a chyfleoedd sydd ar gael ar gyfer chwarae plant, tra’n parhau i roi ystyriaeth briodol i’w lles corfforol a seicolegol’.

Beth yn union yw agwedd gytbwys? Mae agwedd gytbwys tuag at reoli risg mewn chwarae’n cynnwys golygu dwyn ynghyd feddwl am risgiau yn ogystal â buddiannau mewn penderfyniad neu asesiad holistig, unigol. Dros y blynyddoedd diwethaf gwelwyd datblygiad ARB fel ffordd ddiogel o gefnogi proses o’r fath. Amlinellwyd asesu risg-budd (ARB) mewn chwarae am y tro cyntaf yng nghyhoeddiad y Play Safety Forum, Rheoli Risg mewn Darpariaeth Chwarae: Canllaw Gweithredu.5 Mae hwn yn diffinio ARB fel dull sy’n ‘amlinellu, mewn datganiad unigol, yr ystyriaethau risg a budd sydd wedi cyfrannu at y penderfyniad i ddarparu, addasu neu gael gwared â nodwedd neu gyfleuster penodol.’ Yr hyn sy’n gwneud ARB yn wahanol i asesu risg confensiynol yw ei fod yn cynnwys ystyriaeth ofalus o fuddiannau gweithgaredd, cyfleuster, strwythur neu brofiad. Gan fod hyn yn digwydd ochr yn ochr ag ystyried y risgiau, mae’n caniatáu i fuddiannau cynhenid rhai risgiau gael eu hystyried yn gywir. Mae’n egluro hefyd nad yw rheolaeth risg da wastad yn golygu y dylid lleihau neu reoli risgiau.

Ynghyd â meddwl yn benodol am fuddiannau, mae’r agwedd a amlinellir yn Rheoli Risg mewn Darpariaeth Chwarae: Canllaw Gweithredu yn cynnwys nodweddion allweddol eraill: •

Mae’n cynghori y dylai gweithdrefnau fod yn seiliedig ar ddealltwriaethau a gwerthoedd eglur ynghylch plant a’u chwarae, ac mae’n argymell y dylai darparwyr gytuno ar a mabwysiadu polisi chwarae sy’n amlinellu’r rhain. Mae Polisi Chwarae Llywodraeth Cymru’n enghraifft o hyn.

Mae’n egluro’n gwbl blaen bod llunio barn am y cydbwysedd rhwng risgiau a buddiannau, yn y pen draw, yn fater i’r darparwr, ac nid i arbenigwyr technegol, archwilwyr allanol, cynghorwyr cyfreithiol neu yswirwyr (er y gall eu sylwadau fod yn berthnasol).

Mae’n cyflwyno agwedd ddisgrifiadol, yn hytrach nag unrhyw fath o sgorio rhifol, am y rheswm bod prosesau sgorio o’r fath yn aml yn anodd eu defnyddio mewn modd cyson, ac y gallant or-gymhlethu’r dasg.

Mae’n egluro sut mae canllawiau a safonau (yn cynnwys safonau cynnyrch ar gyfer offer chwarae) yn ffitio i mewn i’r dasg rheoli risg gyflawn, gan bwysleisio nad yw cydymffurfio â’r safonau’n ofyniad cyfreithiol.

Beth am risgiau annisgwyl all godi’n ystod sesiynau? Mae chwarae awyr agored plant yn anrhagweladwy. Mae’n amhosibl bod yn gwbl sicr sut bydd sesiynau chwarae’n datblygu, ac yn amhosibl cynllunio ar gyfer pob senario. Dyna pam, mewn lleoliadau a oruchwylir, un o elfennau allweddol yr agwedd gyffredinol tuag at reoli risg yw sut y dylid ymateb i’r annisgwyl. Gelwir hyn yn asesu risg dynamig. Fel gyda risgiau y gellir eu rhagweld, y nod yw mabwysiadu agwedd gytbwys ac ystyriol. Weithiau, defnyddir y term ‘asesu risg-budd dynamig’ (ARB dynamig) i ddisgrifio arddull o’r fath. Nid yw ARB dynamig yn golygu glynu at weithdrefnau llunio penderfyniadau a bennwyd ymlaen llaw. All yr un weithdrefn ymdopi gyda’r cymhlethdod a’r cyfnewidioldeb fydd yn digwydd yn ystod chwarae plant.


Yn ogystal, ’dyw ARB dynamig ddim yn cynnwys cadw cofnodion neu ddogfennau. Mae natur gyfnewidiol, brysur esblygol sesiynau chwarae’n golygu nad yw’n hawdd dogfennu penderfyniadau a chamau gweithredu ar yr ennyd honno. Yn yr eiliad honno, mae angen i’ch sylw fod ar yr hyn sy’n digwydd o’ch amgylch. Gall yr amser, yr ymdrech, a’r egni a gymerwch i ddogfennu penderfyniadau a chamau gweithredu, neu ddangos eich bod wedi dilyn gweithdrefn benodol, dynnu eich sylw oddi ar chwarae’r plant. Mae’n bosibl iawn y gallai hyn danseilio’r broses llunio penderfyniadau a chynyddu’r risgiau. Felly, mae’n amhosibl egluro’n fanwl sut i reoli risgiau’n ddynamig. Yr hyn sydd angen, yw i ymarferwyr gael eu cefnogi i fyfyrio ar eu harfer, a’u helpu i wneud penderfyniadau doeth. Y nod yw cynyddu hyder a meistrolaeth broffesiynol, yn seiliedig ar werthoedd eich sefydliad.

Beth mae llywodraethau ac asiantaethau eraill yn ei wneud i hyrwyddo agwedd gytbwys? Ariannwyd cyhoeddi Rheoli Risg mewn Darpariaeth Chwarae: Canllaw Gweithredu gan lywodraeth y DU. Cefnogir yr agwedd hon gan yr HSE yn ei Ddatganiad Lefel Uchel fel ‘agwedd synhwyrol tuag at reoli risg’.

Mae’r gweinyddiaethau datganoledig yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd wedi ymgorffori agweddau risg-budd yn eu cyfarwyddyd perthnasol. Y tu hwnt i’r DU, mae’r egwyddor o daro cydbwysedd rhwng risgiau a buddiannau wedi ei gynnwys mewn safonau Ewropeaidd ar gyfer offer meysydd chwarae, ac mae wedi ei hymgorffori hefyd mewn safonau offer chwarae yn Awstralia. At hynny, mae’r Sefydliad Rhyngwladol ar Safoni (ISO) yn rhoi ystyriaeth ddwys i ARB fel dull a argymhellir ar gyfer rheoli risgiau a buddiannau chwaraeon a gweithgareddau hamdden.6

Beth mae’r ymchwil academaidd yn ddweud? Mae ymchwil ysgolheigaidd wedi cefnogi ARB ymhellach. Dangosodd adolygiad academaidd systematig i ‘chwarae’n llawn risg’ (a ddiffinnir fel ffurfiau gwefreiddiol a chyffrous o chwarae sy’n cynnwys risg o gael anaf) fuddiannau iechyd a datblygiadol amlwg. Daeth yr awduron i’r casgliad bod eu canfyddiadau’n ‘cefnogi hyrwyddo chwarae awyr agored llawn risg ar gyfer datblygiad iach plant’7.


Beth allwch chi ei wneud?

Cyfeiriadau

Os yw eich sefydliad chi yn ymwneud â darparu cyfleoedd chwarae, bydd ARB yn eich helpu i fabwysiadu agwedd gytbwys, ystyriol tuag at reoli risg. Fel cydnabyddiaeth o hyn, mae’r defnydd o ARB mewn polisïau a gweithdrefnau iechyd a diogelwch yn un o’r criteria a amlinellir ym Mhecyn Cymorth Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Llywodraeth Cymru, a dyma’r dull a argymhellir ar gyfer awdurdodau lleol yn ei Gyfarwyddyd Statudol.

1

Os ydych ond megis dechrau ar y broses, efallai y byddai o gymorth archwilio materion risg a chwarae plant. Yn ddelfrydol, byddai hyn yn dwyn ynghyd ystod mor eang â phosibl o bobl perthnasol, yn cynnwys gweithwyr proffesiynol, rheolwyr, pobl sydd yn ymwneud â rheoli risg, aelodau etholedig, pwyllgorau rheoli, cyrff llywodraethol, rhieni ac efallai’r plant eu hunain. Mewn awdurdodau lleol a sefydliadau eraill mwy o faint, bydd deialog rhwng rheolwyr gwasanaethau, rheolwyr risg a swyddogion arweiniol, yn hanfodol. Bydd adolygiad trylwyr o bolisïau a gweithdrefnau asesu risg sy’n bodoli eisoes yn dangos ble y mae angen adolygu ac ail-ystyried y rhain. Efallai y byddai’n ddefnyddiol cynnal peilot o weithdrefnau newydd, a’u rhedeg ar y cyd â gweithdrefnau sy’n bodoli eisoes am gyfnod, er mwyn helpu i reoli’r broses o newid.

Casgliad Mae gwella cyfleoedd chwarae ar gyfer plant a phlant yn eu harddegau o bob oed a gallu’n un o amcanion allweddol Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu sicrhau bod plant yn cael wynebu lefel o risg wedi ei reoli. Yr her yw gadael i blant gymryd risgiau derbyniol pan fyddant yn chwarae, heb eu gosod mewn perygl gormodol o niwed difrifol. Mae gan ARB fuddiannau i bawb sydd ynghlwm â chwarae. Yn bennaf oll, bydd plant a phlant yn eu harddegau’n elwa o brofiadau chwarae mwy deniadol a mwy o gyfleoedd ar gyfer datblygiad a thwf iach – y mae’r cyfan yn debygol o arwain at eu gweld yn mwynhau plentyndod hapusach a thyfu’n bobl mwy gwydn, abl a hyderus.

Ball, D. (2002) Playgrounds – risks, benefits and choices. Sudbury: Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. BSI Standards Ltd (2017) BS EN 11761:2017 Playground equipment and surfacing – General safety requirements and test methods. Llundain: BSI Standards Ltd. 2

Gill, T. (2007) No Fear: Growing up in a risk averse society. Llundain: Calouste Gulbenkian Foundation. 3

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (2012) Chwarae a hamdden plant – hyrwyddo agwedd gytbwys. 4

Ball, D., Gill, T. a Spiegal, B. (2013) Rheoli Risg mewn Darpariaeth Chwarae: Canllaw Gweithredu (2il argraffiad) (Argraffiad 1af 2008). Llundain: National Children’s Bureau. 5

Play Safety Forum (2021) Rheoli risg mewn darpariaeth chwarae. 6

Brussoni, M. et al (2015) What is the Relationship between Risky Outdoor Play and Health in Children? A Systematic Review, International Journal of Environmental Research and Public Health, 12(6), 6423-6454. 7

Adnoddau Llywodraeth Cymru •

Llywodraeth Cynulliad Cymru (2002) Polisi Chwarae.

Llywodraeth Cynulliad Cymru (2006) Cynllun Cyflawni’r Polisi Chwarae.

Llywodraeth Cymru (2012) Pecyn Cymorth Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae.

Llywodraeth Cymru (2014) Cymru – gwlad lle mae cyfle i chwarae.


Tachwedd 2021 © Chwarae Cymru Awdur: Tim Gill

Mae Tim yn awdur, yn ymchwilydd ac yn ymgynghorydd sy’n byw yn Llundain, ac mae’n eiriolwr byd-eang dros chwarae a symudedd plant. Mae wedi cyhoeddi dau lyfr: No Fear: Growing up in a risk averse society, ac Urban Playground: How child-friendly planning and design can save cities.

www.chwaraecymru.org.uk

Chwarae Cymru yw’r mudiad cenedlaethol dros chwarae plant, elusen annibynnol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu hawl plant i chwarae ac i gynnig cyngor ac arweiniad ar faterion sy’n ymwneud â chwarae.

Elusen cofrestredig, rhif 1068926


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.