1 minute read

Gemau Giglo

Mae cyfleoedd ar gyfer chwarae, chwerthin a hiwmor yn elfennau hanfodol ar gyfer plentyndod iach a hapus.

Mae rhannu hiwmor yn gysylltiedig hefyd gyda datblygiad sgiliau pwysig eraill yn ystod plentyndod, yn cynnwys y ddawn i ddeall emosiynau a meddyliau pobl eraill ac i smalio chwarae.

Advertisement

Mae Chwarae Cymru wedi gweithio gyda seicolegwyr datblygiadol ym Mhrifysgol Caerdydd sydd â diddordeb ym mhwysigrwydd hiwmor a chwerthin yn chwarae plant, i ddatblygu adnoddau ar gyfer ysgolion.

Mae’r adnoddau Gemau Giglo newydd yn anelu i roi mwy o gyfleoedd i athrawon a phlant rannu hiwmor a chwarae yn yr ystafell ddosbarth. Mae’r adnoddau dwyieithog (Cymraeg a Saesneg) rhad ac am ddim, a’r gemau ystafell ddosbarth, ar gyfer plant ac athrawon ysgolion cynradd yn ne Cymru.

I wneud cais am adnoddau Gemau Giglo i’ch ystafell ddosbarth chi, cysyllter â Phrifysgol Caerdydd: play@cardiff.ac.uk

This article is from: