1 minute read

Llyfr stori Hwyl ar iard yr ysgol

I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Plant ar 20 Tachwedd 2022, lansiodd Chwarae Cymru lyfr stori newydd am hawl plant i chwarae.

Mae Hwyl ar iard yr ysgol yn adrodd stori un o adegau pwysicaf y diwrnod ysgol i lawer o blant –amser chwarae. Wedi eu cefnogi gan yr awdur a’r bardd Mike Church, mae’r stori wedi ei hysgrifennu gan staff ysgolion sy’n gweithio a byw yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Advertisement

Mae’r stori amserol hon yn ei hatgoffa’n wych sut all pob oedolyn ym mywydau plant un ai gefnogi neu rwystro’r hawl i chwarae. Mae’n crynhoi pwysigrwydd oedolion ac amgylcheddau cefnogol a goddefgar wrth helpu plant i gyflawni eu hawl i chwarae.

Mae’r llyfr ar gyfer plant ysgol gynradd a’u rhieni – yn ogystal ag athrawon a staff ysgol. Mae’n anelu i gefnogi plant er mwyn gwneud yn siw ^ r bod ganddynt yr hawl i chwarae yn yr ysgol. Mae hefyd yn adnodd defnyddiol i gefnogi pobl sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd.

Dyma’r llyfr olaf yn ein cyfres o lyfrau stori i blant, Hwyl yn y… . Fel ein dau lyfr arall – Hwyl yn y dwnjwn a Hwyl yn yr ardd – mae ein llyfr stori newydd wedi ei ddatblygu mewn partneriaeth â Petra Publishing, cyhoeddwr cymunedol hir sefydlog.

Os ydych chi’n byw neu’n gweithio yng Nghymru, gallwch wneud cais am gopi am ddim o Hwyl ar iard yr ysgol trwy e-bostio llyfrstori@chwaraecymru.org.uk

This article is from: