Chwarae yng Nghymru rhifyn 14

Page 1

Chwarae dros Gymru Rhifyn 14 HYDREF 2004 – RHIFYN YMGYNGHORI ARBENNIG NEWYDDION CHWARAE A GWYBODAETH GAN Y SEFYDLIAD CENEDLAETHOL DROS CHWARAE

Cam Hanesyddol dros Chwarae yng Nghymru oedd ymdeimlad o gyffro yn lansiad yr ymgynghoriad ar ˆ Gweithredu argymhellion Grwp Polisi Chwarae Llywodraeth ˆ Dyfodol yn Cynulliad yn Nhy’r Amgueddfa Werin Cymru ym mis Tachwedd 2004.

R

ˆ o blant yn Roedd y dail yn cwympo a grwp chwarae yn yr ardd, wrth i Jane Hutt, ˆ Gweinidog Plant, aelodau’r Grwp Gweithredu Polisi Chwarae, Swyddogion Datblygu Chwarae o bob rhan o Gymru ac aelodau tîm Chwarae Cymru ddathlu dechrau’r ymgynghoriad. Dywedodd Jane Hutt “Mae’r Cynulliad wedi cydnabod ers amser maith fod chwarae yn elfen hanfodol o ddatblygiad plant ... Yn awr mae’n rhaid i ni symud ymlaen o egwyddorion i weithredu”. Ymrwymodd ei hadran i gyhoeddi canfyddiadau’r ymgynghoriad ym mis Ebrill 2005. Bydd y rhain yn cyfrannu at y strategaeth chwarae genedlaethol i Gymru – y gyntaf ym Mhrydain. Trafododd Aelodau’r Cynulliad yr argymhellion mewn sesiwn llawn ar yr un diwrnod. Cafwyd ymateb cadarnhaol, gydag Aelodau’n cymeradwyo’r ddogfen fel bod yn gyfraniad hygyrch a synnwyr cyffredin tuag at i Gymru ddod yn wlad mwy cyfeillgar i blant. Croesawyd yr ymgynghoriad gydag ewyllys da, ac mae’n edrych fel pe bydd yr argymhellion yn cael cefnogaeth pob plaid. Dywedodd Catherine Thomas AC: “Rwy’n credu ei bod yn hollbwysig fod mwy o blant yn cael cyfleoedd go iawn i chwarae ac yn cael eu hannog i wneud hynny, ac y clywir eu lleisiau ar sut maent eisiau chwarae. I mi, mater o gyfiawnder cymdeithasol yw hyn.” Dywedodd Jeff Cuthbert AC: “Rhaid i ni fynd i’r afael â’r ethos ‘dim gemau pêl’ gyda chydymdeimlad a phenderfyniad ... ˆ Mae’r Grwp Gweithredu wedi gwneud argymhellion cyffrous, a fydd yn ddi-os yn helpu i newid tirlun cyfleoedd chwarae ar gyfer plant yng Nghymru.” Dywedodd Jocelyn Davies AC: “Rhaid i’r argymhellion hyn beidio aros yn ddamcaniaethol, ond maent yn haeddu cael eu troi yn realaeth i ddangos y caiff plant a’u hanghenion eu parchu yn ein cymdeithas”.

Un diwrnod bydd Cymru yn wlad lle’r ydym yn cydnabod ac yn darparu ar gyfer anghenion chwarae pob plentyn. ˆ Gweithredu Polisi Mae argymhellion y Grwp Chwarae yn seiliedig ar Bolisi Chwarae y Cynulliad (a gyhoeddwyd yn 2002), sy’n gwneud ymrwymiad cadarnhaol i anrhydeddu anghenion chwarae plant ym ˆ mhob agwedd o’u bywydau. Nod y Grwp oedd sefydlu gweledigaeth glir ar y ffordd ymlaen ac i edrych ar ddulliau ymarferol i ddarparu’r cyfleoedd gorau ar gyfer plant a phobl ifanc. Cymerwyd dynesiad cyfannol gan weithio gyda holl adrannau’r Cynulliad y medrai eu gwaith effeithio ar chwarae plant a phobl ifanc. Yn wir mae un o’r argymhellion yn gofyn am i anghenion plant a chwarae pobl gael eu hystyried yn Nheclyn Integreiddio Polisi y Cynulliad. Bu Chwarae Cymru a Plant yng Nghymru yn ymwneud yn agos â’r gwaith yn arwain i fyny at yr ymgynghoriad, gan gydˆ i’r Cynulliad. gyflwyno argymhellion y Grwp Mae Mike Greenaway, Cyfarwyddydd Chwarae Cymru, yn falch ac optimistig: “Mae hyn yn wych. Ni fedrir bychanu ei arwyddocâd hanesyddol. Mae’n anodd rhagweld unrhyw un yn anghytuno gyda’r argymhellion, sy’n fuddugoliaeth i synnwyr cyffredin da.” Dyddiad cau yr ymgynghoriad yw 5 Ionawr 2005, a medrir cyrchu’r ddogfen yn http://www.cymru.gov.uk/plant a phobl ifanc/cyhoeddiadau diweddar.

Argymhellion Mae’r argymhelliad allweddol yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i osod dyletswydd statudol ar bob awdurdod lleol i ddarparu ar gyfer anghenion chwarae plant er mwyn cwrdd â safonau gofynnol cenedlaethol, a fydd yn gwneud darpariaeth chwarae yn fater o hawl ac nid disgresiwn. Mae’r argymhelliad yma yn cysylltu gyda’r Ddeddf Plant newydd sy’n gwneud darpariaeth i’r Cynulliad ddatblygu cyfarwyddyd statudol newydd ar weithio partneriaeth i wella llesiant plant.

Mae argymhellion eraill yn cynnwys: • Gwella tiroedd ysgol i roi amgylchedd chwarae cyfoethog i blant; • Hyfforddiant ar gyfer staff ysgol, boed yn staff addysgu neu’n staff nad ydynt yn addysgu, i’w galluogi i gydnabod a hwyluso anghenion chwarae plant; • Datblygu ymchwil gweithredu er mwyn hysbysu’r mater o amddifadedd o ran chwarae a’i ganlyniadau; • Datblygu arweiniad cryno fydd yn galluogi datblygu rhaglen ardal chwarae a adeiledir yn y gymuned; • Cadw rhag datblygu bocedi o dir ac ardaloedd o leoedd agored, tir gwastraff a choetir lle mae plant a phobl ifanc yn chwarae.

ADOLYGIAD GWERTHOEDD CHWARAE yn www.playwales.org.uk


Chwarae Cymru Play Wales

Rhifyn 14 Hydref 2004

GOLYGYDDOL oedd ymdeimlad gwirioneddol o lwyddiant yn lansiad yr ymgynghoriad ar strategaeth chwarae genedlaethol i’n gwlad, ac fel llawer o fy nghydweithwyr rwy’n falch i fod wedi bod yn rhan o’r gwaith a ddaeth â ni i’r pwynt hwn.

R

Trannoeth y lansiad, bydd holl ddarllenwyr y Western Mail wedi gweld am y tro cyntaf holl dudalen flaen papur newydd cenedlaethol yn ymwneud yn llwyr â newyddion cadarnhaol am chwarae a darpariaeth chwarae plant, yn ogystal â thudalen ar y tu fewn a’r adran Comment wedi ei neilltuo i faterion a godwyd gan yr argymhellion. Mae arwyddocâd hanesyddol i’r digwyddiadau a’r cyfle a roddir i ni ar ran plant a phobl ifanc Cymru. Yr ydym yn eithriadol o ffodus i gael Cynulliad sy’n barod i dorri tir newydd i ddarparu ar gyfer anghenion chwarae plant a phobl ifanc. Mae cydweithwyr yng ngwledydd eraill Prydain yn gweithio’n galed i ddal i fyny gyda ni, ond nid yw hwn yn amser i orffwys ar ein rhwyfau. Mae angen i ni gyd roi’r sylw dyledus i’r cyfle hwn, ac ymateb yn adeiladol i’r ymgynghoriad. Nid yn aml yr ymgynghorir â phobl sy’n ymwneud â darpariaeth chwarae ar eu maes arbenigedd eu hunain felly mae’n rhaid i ni wneud i bob gair gyfrif ar ran y plant y darparwn ar eu cyfer. Nid ein proffesiynau ni yn unig yr ymgynghorir â hwy. Anfonwyd yr argymhellion er ymgynghoriad at y Gwasanaeth Heddlu, Ysgolion Cynradd ac Uwchradd, Adrannau Cynllunio a llawer mwy. Mae ymateb gan y sector chwarae sy’n canoli ar chwarae ac ar y plentyn yn hollbwysig.

ˆ Gweithredu Polisi Fel Cadeirydd y Grwp Chwarae medraf dystio ein bod wedi ceisio’n galed i drafod pob agwedd o anghenion pob plentyn a pherson ifanc ar gyfer gwell mynediad neu gadw eu mynediad i gyfleoedd chwarae, ond gall fod rhai agweddau a gafodd eu gadael allan – dywedwch wrthym lle mae’r bylchau os digwyddodd hyn. Hefyd, canmolwyd yr argymhellion fel bod yn hygyrch a synnwyr cyffredin, fodd bynnag mae materion ymarferol a fydd yn effeithio ar eu gweithrediad, er enghraifft, gweithlu neu gyllid. Yn yr un modd, mae’n ddyletswydd arnom i gefnogi agweddau dyheadol ein argymhellion a rhoi ein sylwadau ar y ffordd y medrant ddod yn realaeth. Mae’r bêl yn ein cwrt ni, gadewch i ni beidio ei chicio’n ôl i’r dyrfa. Yn Chwarae Cymru gobeithiwn y bydd ein holl ymatebion i’r ymgynghoriad yn helpu’r Cynulliad i gynllunio gweithredu ar gyfer y dyfodol. Roedd yn amhosibl gwahodd pob plentyn, person ifanc, gweithiwr chwarae neu ddarparydd ˆ chwarae yn y wlad i eistedd ar y Grwp Gweithredu Polisi Chwarae – dyma’r cyfle i bawb ohonom gymryd rhan a dweud ein barn. Margaret Jervis, MBE DL Cadeirydd, Bwrdd Ymddiriedolwyr ˆ Chwarae Cymru a Chadeirydd Grwp Gweithredu Polisi Chwarae Llywodraeth Cynulliad Cymru.

YMGYNGHORIAD Y LOTERI FAWR pa fath o brosiectau ddylai’r Gronfa Loteri Fawr eu cyllido yng Nghymru? yllid fydd un o’r materion allweddol ˆ wrth weithredu argymhellion y Grwp Gweithredu Polisi Chwarae.

C

Mae’n ffodus fod y Cronfa’r Loteri Fawr yn dechrau ail gam yr ymgynghoriad ar ei flaenoriaethau a chanlyniadau ar gyfer y gyfres gyntaf o raglenni cyllid yng Nghymru ar yr un pryd ag mae Llywodraeth y Cynulliad yn ymgynghori ar ymestyn a gwella darpariaeth ar gyfer chwarae plant a phobl ifanc.

Cwestiwn Dau “Sut y medrwn gynllunio rhaglenni sy’n torri ar draws sawl canlyniad a blaenoriaeth” yw’r rhan o’r ymgynghoriad lle teimlwn y gall darparwyr chwarae fod â’r dylanwad mwyaf. Os edrychwn yn agosach ar y ddogfen, mae’n amlwg fod darpariaeth ar gyfer chwarae plant a phobl ifanc yn torri ar draws llawer ohonynt ac mae hyn yn gyfle i ddatblygu rhaglen unigryw a chydlynol a gynlluniwyd i ateb anghenion chwarae plant Cymru.

CYNNWYS • Golygyddol

T2

• Ymgynghoriad y Loteri Fawr

T2

• Noswaith gyda’r Prif Weinidog

T3

• Y £200 Rhithiol

T3

• Dal Ati

T3

• Ymateb Chwarae Cymru i Ymgynghoriad T4/5 Chwarae y Cynulliad • Byw’n Beryglus

T6

• Ffit i Chwarae?

T7

• Cymdeithas Genedlaethol Caeau Chwarae

T7

• Ymgynghori â Phlant am Chwarae

T7

• Y Comisiynydd yn Cefnogi Darpariaeth Chwarae

T7

• Egwyddorion Newydd ar gyfer Gwaith Chwarae

T8

• Hyfforddiant Newydd Gwaith Chwarae T9 • Ein Dyn yn Hong Kong • Digwyddiadau, Cyllid a Chyhoeddiadau Newydd

T9 T10

Rydym eisoes wedi cynnal sgwrs ddechreuol gyda’r Loteri Fawr ac fel rhan o’r broses ymateb, cawsom ein gwahodd i gynnull cyfarfod o gynrychiolwyr darparwyr chwarae a gweithwyr chwarae gyda chynrychiolwyr y Loteri Mawr. Byddwn yn cyhoeddi ein hymateb ein hunan i’r ymgynghoriad yn fuan. Os hoffech gopi, cysylltwch â Gill Evans yn ein swyddfa genedlaethol neu fynd i dudalen newyddion gwefan Chwarae Cymru. Dyddiad cau Dydd Gwener 18 Mawrth 2005 www.biglotteryfund.org.uk/consultation/w ales Llinell Gyngor 0845 410 2030

C h wa ra e d ro s G y m r u Cyhoeddir gan Chwarae Cymru deirgwaith y flwyddyn. Dylid cyfeirio pob gohebiaeth ac ymholiadau at y Golygydd yn: C h w a r a e C y m r u , Tyˆ B a l t i c , S g w â r M o u n t S t u a r t , C a e rd y d d , C F 1 0 5 F H Ffôn: 029 2048 6050 Ffacs: 029 2048 9359 E-bost: mail@playwales.org.uk R h i f E l u s e n G o f re s t re d i g . 1 0 6 8 9 2 6 Nid barn Chwarae Cymru o reidrwydd yw'r farn a fynegir yn y cylchlythyr yma. Rydym yn cadw'r hawl i olygu cyn cyhoeddi. Bydd Chwarae Cymru yn cynnwys mewnddodion a hysbysebion yn y cylchlythyr hwn (cysyllter â Kathy Muse yn y cyfeiriad uchod i gael prisiau) fodd bynnag, nid ydym yn ardystio unrhyw rai o’r cynnyrch neu’r digwyddiadau a hysbysebir yn neu gyda’r cyhoeddiad hwn. Dyluniwyd ac argraffwyd gan Carrick Business Ser vices Cyf. Ffôn: 029 2074 1150. E-bost; sales@carrickbusiness.co.uk Lluniau Cartyn gan Les Evans.

Chwarae dros Gymru

2


Rhifyn 14 Hydref 2004

Chwarae Cymru Play Wales

Noswaith gyda’r

P r i f We i n i d o g wahoddwyd dau o ymddiriedolwyr Chwarae Cymru, ein Cyfarwyddydd a’r Uwch Swyddog Datblygu, i gwrdd â Tony Blair yn 10 Stryd Downing yn gynharach yr hydref hwn.

G

Bu Margaret Jervis, Catriona Williams, Mike Greenaway a Tony Chilton mewn derbyniad i ddathlu gwaith y rhai sy’n cyflwyno gwasanaethau gofal plant.

Dal Ati

Cynhaliwyd y derbyniad noswaith cyn lansio cynllun ysgolion estynedig y Llywodraeth. Mae hyn yn hyrwyddo defnydd ysgolion fel canolfannau gofal plant allan-o’r-ysgol ac mae’n debyg mewn rhai ffyrdd i gynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Ysgolion Cymunedol. Mae’r Llywodraeth yn gobeithio darparu “pecyn gofal plant hyblyg a phwrpasol” i rieni sy’n rhan o’r gweithlu ac yn cyfrannu at gydbwysedd gwaith/bywyd mwy sefydlog.

wnaeth plant yn ardal Trowbridge, Caerdydd i gyllidwyr feddwl ddwywaith pan wnaethant gynnal protest yn erbyn cau eu darpariaeth chwarae.

G

Cydbwysedd Gwaith/Bywyd i Blant Pan gododd y cyfle i siarad gyda’r Prif Weinidog holodd ein swyddogion ef am y math o weithgareddau yn oedd yn eu mwynhau yn ystod ei amser hamdden fel bachgen. Ymddengys iddo dreulio amser gyda’i ffrindiau, yn gwneud siglenni rhaff, adeiladu cuddfannau, gwneud tannau, chwarae mewn nentydd heb dreulio ychydig iawn o amser rhydd dan arolygaeth oedolion. Dim ond wedyn y symudodd ymlaen i her chwarae mewn band. Gofynnodd Mike a Tony iddo feddwl am ei brofiad ei hun yn nhermau cydbwysedd gwaith/bywyd ar gyfer plant heddiw, gan ddweud pe bai plant yn treulio hanner can awr yr wythnos ar adeiladau ysgol eu bod yn annhebygol iawn o fedru profi a manteisio o’r un fath o chwarae annibynnol iach a wnaeth ef. Ymddengys nad oedd erioed wedi meddwl am hyn a gofynnodd i Mike ysgrifennu ato gyda llythyr yn amlinellu ein pryderon. Mae’r amser rhydd y mae plant yn ei dreulio

Mike Greenaway, Margaret Greenaway a Tony Chilton y tu allan i Rif 10

unwaith y gorffennodd addysg ffurfiol am y dydd yn hollbwysig iddynt. Eu hamser hwy ydyw. Rhaid iddynt gael mynediad i gyfleoedd chwarae ansawdd uchaf (yn hytrach na gweithgareddau dan arweiniad oedolion) un ai drwy chwarae allan yn annibynnol neu drwy gael mynediad i ddarpariaeth chwarae sy’n rhoi amrediad enfawr o ddewisiadau iddynt yn seiliedig ar eu hanghenion chwarae datblygiadol eu hun, ac yn rhoi eu hawl i ymlacio, her a rhyddid yn gyntaf. Lle treulir amser rhydd plant o fewn yr adeiladau ysgol, mae tebygrwydd fod yr agenda addysgol a ddomineiddir gan oedolion yn ymdreiddio i mewn yn unig oherwydd yr awyrgylch a’r amgylchiadau lle mae’n digwydd.

Y £200 Miliwn Rhithiol n 2001 gwnaeth y Blaid Lafur addewid etholiad i glustnodi £200 miliwn ar gyfer chwarae plant am gylch nesaf y Gronfa Cyfleoedd Newydd ac yn 2002, dan gadeiryddiaeth Frank Dobson, cynhaliodd yr Adran Celfyddydau Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) adolygiad Prydaingyfan o ddarpariaeth chwarae plant.

Y

Yna adroddwyd eu canfyddiadau yn y cyhoeddiad Getting Serious About Play. Roedd llawer o bobl yn obeithiol iawn am y cynllun, a ymddangosai i fod yn dangos fod Llywodraeth y DG o’r diwedd yn rhoi sylw i anghenion chwarae plant. Dros y misoedd diwethaf daeth yn amlwg na chafodd £200m ei osod o’r neilltu bellach ar gyfer chwarae ond y bydd yn dod o “bot cyffredinol” y Gronfa Loteri Fawr. Ymddengys fod y DCMS yn disgwyl y caiff yr arian ei wario ar chwarae dros amser, ond nid ydynt wedi rhoi unrhyw arwydd am sut y caiff ei warantu neu ei fonitro.

Dywedodd Estelle Morris, Gweinidog Celfyddydau: “Rydym yn ad-drefnu’r Loteri i’w gwneud yn fwy ymatebol a hyblyg. Ni fydd mwyach botiau o arian wedi ei neilltuo gan y Llywodraeth ar gyfer gweithgareddau neilltuol ond bydd yn ystyried ceisiadau ar ganlyniadau lefel uchel”. Rhoddodd sicrwydd y bydd y Llywodraeth yn ymateb i Getting Serious About Play maes o law. Mae’r sefyllfa ychydig yn wahanol yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru eisoes wedi gwneud ymrwymiad i chwarae plant a darpariaeth chwarae yn eu Polisi Chwarae cenedlaethol ac mae’n gweithio tuag at strategaeth chwarae. Maent hefyd wedi cyflwyno eu blaenoriaethau eu hunain ar gyfer cyllid y Loteri Fawr. Os dymunwch gel mwy o wybodaeth cysylltwch â swyddfa Cymru y Gronfa Loteri Fawr ar: Ffôn: 01686 611700 Minicom: 01686 610205 E-bost: enquiries.wales@biglottery.org.uk

3

Bu’r Pod, blwch llongau wedi ei addasu ar ddarn o dir cyhoeddus yng nghanol stad fawr i ddwyrain y ddinas, yn llwyddiant mawr gyda phlant a theuluoedd lleol. Ychydig iawn o enghreifftiau o’r math hwn o ddarpariaeth chwarae lleol sydd yng Nghymru, a chafodd The Pod lawer o ymwelwyr a synnodd pa mor rhwydd yw i ddarparu cyfleoedd chwarae ansawdd uchel gyda staff o fewn cyllideb cyfyngedig. Caiff y Pod ei redeg gan weithwyr chwarae o Wasanaethau Chwarae Plant Caerdydd ddwy noswaith yr wythnos yn ystod amser y tymor a phob diwrnod o’r wythnos yn ystod gwyliau’r ysgol ac fe’i cyllidir drwy Brosiect Byw Iach. Mae plant 4 i 11 oed yn cymryd rhan ym mhob math o chwarae a hwylusir gan y gweithwyr chwarae yn seiliedig o amgylch y blwch – o wneud ˆ ac tannau a choginio arnynt, i chwarae dwr adeiladu den. Mae bron yr holl chwarae yn digwydd y tu allan, ac mae’r Pod yn darparu dillad tywydd gwlyb fel nad yw glaw byth yn difetha’r dydd. Dywedodd mam leol wrth y South Wales Echo, “Mae cymaint o blant yn ei fwynhau. Mae tua hanner cant o blant yn mynd i lawr yno ac nid oes dim byd eraill iddynt wneud o gwmpas fan hyn.” Cymerodd y blant gamau radical pan redodd yr arian allan a phan ddaeth dynion i yno i symud y blwch. Glynodd y plant eu hunain i do’r Pod drwy ddefnyddio tâp gludiog a gwrthod symud. Bu’n rhaid i’r Prosiect Byw Iach ddiwygio ei gyllideb a chadw’r ddarpariaeth chwarae yn agored, ac aeth y dynion symud ymaith yn waglaw. Dywedodd y Cynghorydd dros Trowbridge a Llaneirwg, “Mae’r hyn a wnaeth plant yn wych – mi fyddwn wedi bod fy modd i fod yno i’w weld.” Cysyllter â Gwasanaethau Chwarae Plant Caerdydd ar 029 2087 3944 Chwarae dros Gymru


Chwarae Cymru Play Wales

Rhifyn 14 Hydref 2004

Ymateb Chwarae Cymru i Ymgynghoriad ˆ Gweithredu Polisi Chwarae Llywodraeth Cylchredwyd Argymhellion Grwp

O

s nad ydych wedi derbyn copi o’r ymgynghoriad ac os hoffech gymryd rhan, medrwch lawrlwytho’r ddogfen o www.cymru.gov.uk neu gysylltu ag Elinor Jones yn yr Adran Plant a Theuluoedd ar 029 2080 1119.

Dylai’r cynlluniau presennol gydnabod cyfraniad chwarae tuag at eu priod amcanion, yn arbennig yng nghyswllt gwybodaeth am chwarae sy’n dod i’r amlwg a’r datganiadau egwyddor parthed chwarae plant fel a amlygir ym mholisi chwarae Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Bu Chwarae Cymru yn ymwneud yn agos gyda gwaith y Grwp ˆ Gweithredu Polisi Chwarae ac wrth ddatblygu’r Argymhellion. Fodd bynnag, ers cwblhau’r gwaith bu amser i roi ystyriaeth i’r materion a adawyd allan yn anfwriadol, yn ogystal â datblygu cynlluniau newydd sy’n effeithio ar yr Argymhellion. Felly rydym wedi nodi islaw y materion y medrech ddymuno eu hystyried yn eich ymateb eich hun. Lle gadawyd argymhelliad allan, mae hynny oherwydd nad oes gennym unrhyw wybodaeth bellach i’w hychwanegu heblaw eich annog i wneud ymateb cadarnhaol iawn.

Argymhelliad 6 –

Argymhellwn yn gryf eich bod yn darllen y geiriad sy’n cyd-fynd â’r argymhellion yn y ddogfen ymgynghori (sy’n hygyrch, defnyddiol ac yn nodi’r Argymhellion yn eu cyd-destun) cyn gwneud eich ymateb.

Argymhelliad 1 bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i ddarparu ar gyfer anghenion chwarae plant er mwyn cwrdd â safonau gofynnol cenedlaethol. Dylai darpariaeth ar gyfer anghenion chwarae plant fod yn uniongyrchol ac anuniongyrchol. Dylai’r argymhelliad hwn ddynodi’n eglur rôl ategol cymunedau a’r sector gwirfoddol wrth gyflwyno darpariaeth chwarae a rôl bosibl yr awdurdod lleol wrth alluogi hyn. ˆ Argymhellwn fod y Cynulliad yn cynnull grwp “tasg a gorffen” i ystyried argymhellion ar safonau gofynnol ar draws pob agwedd o ddarpariaeth chwarae. Dylai gofynion y Mesur Plant yng nghyswllt llesiant plant gael eu cyfnerthu gan y Cynulliad a’u hymgorffori yn Strategaeth Chwarae y Cynulliad.

bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymwybodol o nodweddion amddifadedd o ran chwarae wrth ystyried dosbarthu cronfeydd loteri newydd gan gynnwys y Gronfa Pobl Ifanc.

Y Gweinidog yn troi’r rhaff yn lansiad yr ymgynghoriad chwarae dan arweiniad plentyn (a all gael ei gefnogi gan waith chwarae) yn ystod oriau allan o’r ysgol. Gall mannau awyr agored sydd wedi’i ystyried a’i gynllunio yn dda gyfrannu at a hyrwyddo’r cyfle cyffredinol i ddysgu.

Argymhelliad 3 – bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cefnogi datblygu hyfforddiant i staff ysgol, boed yn staff addysgu neu’n staff nad ydynt yn addysgu, i’w galluogi i gydnabod a deall gwerth chwarae fel dysgu hunangyfarwyddiadol plant yn well, a sut y gallent hwy fel oedolion hwyluso’r chwarae hwnnw yn well yn ystod amser chwarae yn yr ysgol. Dylai hyn ymgorffori cynnwys sy’n trafod y gwahaniaeth neilltuol rhwng dysgu drwy chwarae ac addysgu drwy chwarae. Dylai chwarae o fewn gosodiadau ysgol gael ei gynnwys o fewn cylch gorchwyl arolwg Estyn. Mae’n dilyn y byddai arolygwyr Estyn wedi eu hyfforddi’n addas ac yn wybodus yng nghyswllt chwarae a darpariaeth chwarae plant.

Argymhelliad 4

Mae cynaliadwyedd yn fater hollbwysig ar gyfer darpariaeth chwarae wedi’i staffio a heb ei staffio fel ei gilydd, ac i’r ddarpariaeth anuniongyrchol sy’n cyfrannu at adeiladu gallu a chynnal darpariaeth uniongyrchol. Mae cynyddu’r mynediad i gyllid cynaliadwy tymor-hir yn sylfaenol i lwyddiant yr argymhellion hyn.

bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn sicrhau bod yr holl gyrsiau hyfforddi athrawon ar gyfer athrawon newydd a staff meithrin yng Nghymru yn mynd i’r afael â’r datblygiadau diweddaraf o ran deall chwarae plant fel dysgu hunan-gyfarwyddiadol plant a sut mae gwaith chwarae yn hwyluso’r broses honno.

Argymhelliad 2 –

Dylai hyn ymgorffori cynnwys sy’n trafod y gwahaniaeth amlwg rhwng dysgu drwy chwarae ac addysgu drwy chwarae.

bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymroddi i gefnogi trawsnewid yr ardaloedd hynny o diroedd ysgol nad ydynt yn benodol ar gyfer gweithgareddau chwaraeon, drwy dirweddu a phlannu, i greu lleoedd naturiol ad-daliadol sy’n darparu amgylchedd chwarae cyfoethog i blant. Dylai plant gael mynediad rhydd i’r ardaloedd hyn yn ystod eu hamser egwyl o fewn y diwrnod ysgol. Dylid hefyd ddatblygu cyfarwyddyd penodol i fynd i’r afael â materion yn deillio o ddefnyddio tiroedd ysgol ar gyfer cyfleoedd Chwarae dros Gymru

Argymhelliad 5 – bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn sicrhau y bydd yn y dyfodol yn cyfeirio adnoddau a mentrau, i ystyried pwysigrwydd hanfodol chwarae yn natblygiad a ffordd o fyw iach plant a phobl ifanc. Mae’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol yn cydnabod bod cyfleoedd chwarae yn hyrwyddo iechyd meddwl a lles seicolegol cadarnhaol.

4

Yng ngoleuni penderfyniad yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon i beidio clustnodi £200 miliwn o Gronfa Cyfleoedd Newydd y DG yn uniongyrchol i chwarae, dylai’r Cynulliad roi ymrwymiad clir i ddyrannu cyllid y Gronfa Loteri Fawr yn benodol ar gyfer chwarae plant. Dyma’r amser i ymrwymo cyllid trawsffurfiannol Cronfa Fawr y Loteri i ddarpariaeth chwarae plant i sbarduno newidiadau mewn amgylchedd chwarae plant yng Nghymru, rhoi sylwedd i Strategaeth Chwarae y Cynulliad ac adlewyrchu ymrwymiad y Cynulliad i’r Polisi Chwarae ddod yn realaeth i blant Cymru.

Argymhelliad 7 – bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cefnogi datblygu ymchwil weithredol er mwyn hysbysu’r mater o amddifadedd o ran chwarae a’i ganlyniadau i’r plentyn unigol a chymdeithas yn gyffredinol. Dylai mynegeion difreintiad lluosog gynnwys amddifadedd chwarae, a dylai unrhyw ymchwil a gynhelir sefydlu mecanweithiau i fesur y ffenomen.

Argymhelliad 8 – bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnwys ystyried plant a phobl ifanc a’u hanghenion chwarae yn Nheclyn Integreiddio Polisi Llywodraeth y Cynulliad. Medrai’r Cynulliad roi arweiniad i awdurdodau lleol parthed datblygu a defnyddio protocol tebyg ar lefel leol.

Argymhelliad 9 – bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob Awdurdod Lleol a Phartneriaeth Fframwaith gymryd rôl arweiniol yn natblygiad Polisïau a Strategaethau Chwarae Lleol ar gyfer cyflwyno polisi wrth ystyried datblygu Strategaeth Gymunedol. Fel elfen o’r adolygiad o’r polisïau a’r strwythurau lleol, medrid annog awdurdodau lleol i ystyried manteision strategol gosod y cyfrifoldeb dros ddarpariaeth chwarae sefydlog, gofod chwarae anffurfiol a darpariaeth chwarae gyda staff dan gyfrifoldeb uniongyrchol un adran arweiniol er mwyn hwyluso’r defnydd strategol mwyaf effeithlon o adnoddau ac arbenigedd. Dylai staff yn yr adran hon fod â chyfrifoldeb swyddog ar lefel briodol o hynafedd.


Chwarae Cymru Play Wales

Rhifyn 14 Hydref 2004

Chwarae y Cynulliad Cynulliad Cymru i gannoedd o sefydliadau fel rhan o ymgynghoriad. Argymhelliad 10 –

Argymhelliad 16 –

Argymhelliad 22 –

bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn egluro rhai agweddau ar ‘Ymestyn Hawl’ er mwyn sicrhau bod y fenter hon yn gwneud y cyfraniad mwyaf posib at gwrdd ag anghenion chwarae plant.

bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn sicrhau bod Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol (ac eraill) yn cael y dewis cyntaf ar unrhyw dir cyhoeddus addas sy’n dod ar werth, er mwyn i bocedi ac ardaloedd o leoedd agored, tir gwastraff a choetir, yn enwedig o fewn ardaloedd dinesig lle mae plant a phobl ifanc eisoes yn chwarae, gael eu hamddiffyn.

bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn hyrwyddo’r defnydd o offer tawelu traffig a Parthau Cartref o fewn datblygiadau presennol a datblygiadau newydd i gynyddu’r defnydd o ffyrdd preswyl ar gyfer chwarae plant.

Pan fo Estyn yn arolygu gwasanaethau cefnogaeth ieuenctid sy’n cynnwys darpariaeth chwarae, dylai arolygu’r elfen chwarae gael ei osod yn erbyn safonau sy’n adlewyrchu athroniaeth a phrosesau ar wahân a neilltuol gwaith chwarae yn hytrach, nag fel ar hyn o bryd, athroniaeth a phrosesau addysg a gwaith chwarae.

Lle cynigir tir o’r fath ar werth, dylid ei gynnig ar gost sy’n adlewyrchu adnoddau cyfyngedig sefydliadau o’r fath, yn hytrach na ‘chyfradd y farchnad’.

bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn sicrhau y datblygir hyfforddiant a chymwysterau Addysg Uwch sy’n briodol i anghenion y rheiny y mae eu rôl yn cyfuno gwaith chwarae, gwaith blynyddoedd cynnar, datblygu cymunedol a gwaith ieuenctid.

Dylai’r Cynulliad weithredu i sicrhau fod ymarfer yn y fan a’r lle yn adlewyrchu arweiniad y Cynulliad, yn arbennig lle mae disgwyliad fod diddordebau chwarae yn cael eu cynrychioli ar bartneriaeth. Dylai cynrychiolaeth o’r fath gael ei gwneud gan bersonél yn gweithredu ar lefel uwch i sicrhau nad rhywbeth symbolaidd yw.

Dylai hyn gynnwys datblygu TAR mewn Gwaith Chwarae.

Argymhelliad 13 –

Byddai hyn yn golygu y byddai gan weithwyr chwarae hawl i gyfraddau uwch o dâl i gydnabod eu lefel arbenigedd a phwysigrwydd yn natblygiad plant.

Argymhelliad 14 – bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cefnogi datblygu ystod newydd o ddeunyddiau hyfforddiant a chyrsiau gwaith chwarae i gwrdd ag anghenion y gweithiwr chwarae yn yr unfed ganrif ar hugain. ˆ NEWYDDION – Bu grwp o sefydliadau cenedlaethol gofal plant (CWLWM) yn llwyddiannus wrth gynnig am gyllid Ewropeaidd EQUAL. Mae elfen Chwarae Cymru ar gyfer cynhyrchu deunyddiau hyfforddi gwaith chwarae.

Argymhelliad 15 – bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn datblygu arweiniad cryno fydd yn galluogi datblygu rhaglen ardal chwarae a adeiledir yn y gymuned drwy Gymru. Medrai’r cynnig ffurfio elfen sylweddol iawn o gynllun trawsffurfiannol y Gronfa Loteri Fawr.

Argymhelliad 23 – bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i bwysleisio pwysigrwydd awdurdodau lleol yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau gwirfoddol, a thrwyddynt hwy â phlant o fewn cymunedau lleol.

Argymhelliad 12 –

bod Llywodraeth Cynulliad Cymru, wrth gydnabod cydraddoldeb cynyddol y rôl, yn cefnogi integreiddio tâl ac amodau Gwaith Chwarae i mewn i amodau gwasanaeth a graddfeydd tâl y Pwyllgor Cenedlaethol ar y Cyd ar gyfer Gwaith Ieuenctid a Gwaith Cymunedol.

Dylid ehangu’r cynllun ‘Ffyrdd Mwy Diogel i’r Ysgol’ i gynnwys ffyrdd diogel mewn ardaloedd lle gall plant chwarae, ac ‘ardaloedd mwy diogel yn ac o amgylch ein cartrefi.

Yn y den yn y lansiad – Olivia, Mali, Gwilym a Fern.

Argymhelliad 19 – bod Llywodraeth y Cynulliad yn archwilio pob posibilrwydd i sicrhau datblygu amgylchedd lle nad yw’r cydbwysedd rhwng anghenion chwarae plant a’u hangen i brofi risg yn cael ei beryglu gan ddefnydd amhriodol o gyfreithiad. Dylai’r Cynulliad weithio gyda Llywodraeth San Steffan i fynd i’r afael ag effeithiau negyddol y system iawndal ‘dim ennill – dim ffi’ ar gyfleoedd ar gyfer chwarae plant.

Argymhelliad 20 – bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn diwygio’r Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) er mwyn sicrhau nad yw’r Rheoliadau yn brwydro yn erbyn gwneud darpariaeth i gwrdd ag anghenion datblygiadol plant i ddysgu sut i reoli risg drwy chwarae. Byddai’n well i’r polisi chwarae pe bai’r Rheoliadau yn cyfeirio at gyfrifoldeb gosodiadau i roi cyfleoedd i blant brofi cymryd risg buddiol, datblygiadol briodol. Hefyd dylid adolygu’r safonau gofynnol parthed gofod awyr agored sydd ar gael ar gyfer chwarae plant a’i ddiwygio fel mater o bwysigrwydd neilltuol.

Ymhellach, byddai’n ddefnyddiol pe bai’r Cynulliad yn rhannu cynlluniau partneriaeth fel y medrir eu harolygu i sicrhau’r datblygiad mwyaf effeithlon. Bydd hyn yn cefnogi’r cynlluniau yn gysylltiedig â chwarae a darpariaeth chwarae o fewn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol a strategaethau eraill.

Argymhelliad 24 – bod Llywodraeth y Cynulliad yn cyhoeddi rhaglen er mwyn cyflwyno’r argymhellion, gan nodi cerrig milltir allweddol a fframwaith amser y gellid eu mesur yn eu erbyn. Yng nghyswllt ‘Chwarae a hawliau plant’, dylai plant mewn gosodiadau sefydliadol yn cynnwys ysbytai, sefydliadau troseddwyr ifanc, cartrefi plant, ysgolion preswyl (gwladol a phreifat), a llochesi a phlant sy’n ofalwyr gael yr un mynediad i ddarpariaeth chwarae â phob plentyn arall. I gloi, mae Chwarae Cymru yn edrych ymlaen at y cyfle i weithio gyda’r Cynulliad i ddatblygu rhaglen ar gyfer gweithredu’r argymhellion. Mae Swyddfa’r Comisiynydd Plant yn ymgynghori â phlant drwy eu teclyn ymgynghori e-bost “atebnôl” er mwyn hysbysu ymateb y Comisiynydd i’r argymhellion. Medrir cael mwy o wybodaeth am sut y gall plant ymuno ag atebnôl yn www.childcom.org.uk/cymraeg/atebnol neu gysylltu ag atebnol@childcomwales.org.uk

Mae hwn yn gyfnod prysur, ond gofynnwn i chi neilltuo peth amser i gynnig eich ymateb eich hunan – mae’r materion a godir yn bwysig tu hwnt i blant a phobl ifanc Cymru. 5

Chwarae dros Gymru


Chwarae Cymru Play Wales

Rhifyn 14 Hydref 2004

Byw’n B e r y g l u s an nad oeddwn yn ennill cwpan yr FA neu’n bowlio’r Awstraliaid allan am 27 yn y caeau gyda fy ffrindiau, roeddwn yn y coed. Y plant oedd piau’r coed – doedd oedolion byth bron yn mynd i mewn i’n tir ni.

P

Rhaffau cywarch dwy fodfedd go iawn, yn hongian 40 troedfedd i fyny, y’u cyrhaeddid drwy naid o ffydd o ystyllen wedi ei gosod ar goeden, gan roi taith gyflym codi-ofn wrth i ni fynd ar barabola ar draws cliriad mawr a cheisio dychwelyd i’r planc ar y ffordd yn ôl neu adael i’r person nesaf neidio arno hefyd! Fe wnes unwaith weld rhywun oedd wedi torri dwy fraich (felly sut oedd yn medru piso?) yn syrthio oddi ar siglen raff, ond roedd hynny mewn pentref yn Swydd Efrog lle’r oedd fy nghefndryd yn byw. Roedd pobl yn disgyn i ffwrdd yn ein coed ni, yn cael briwiau a chleisiau drwg, ond doeddem ni ddim byth yn anafu ein hunain mewn gwirionedd. Dylem fod wedi gwneud hynny mewn gwirionedd, ond eto rwy’n dweud fod hynny oherwydd ein bod ni’n medru ffurfio barn.

Er fy mod yn byw mewn maestref boblog iawn, roedd cae chwarae enfawr a hanner milltir sgwâr o goed tu cefn i fy nghartref pan oeddwn yn blentyn – tir hamdden yn eiddo i ffatri er budd eu staff, ond nad oedd eu ffensys yn cadw unrhyw un allan. Felly rhwng tua 7 a 12 oed, treuliais y rhan fwyaf o fy mhenwythnosau a’m gwyliau ysgol ymysg wahanol aelodau gang o efallai bymtheg o fechgyn yn “chwarae allan” yno. Roedd gangiau eraill, plant eraill hyd at ganol eu harddegau, yr oeddem yn adnabod rhai ohonynt ac nid eraill – a genethod, er nid cymaint. Roedd yr holl chwarae yma yn hollol heb arolygaeth, nid oherwydd fod ein rhieni yn esgeulus ond oherwydd fod yr hyn yr oeddem yn wneud yn eu barn hwy, a ninnau, yn normal a diogel. Roeddem yn gwybod fod molestwyr yn bodoli a roedd y plant i gyd yn gwybod am “ddynion rhyfedd” a’r hyn roeddech i fod i’w wneud: os gwelech unrhyw oedolyn o gwbl yn y coed fe roeddech yn rhedeg fel cath i gythraul a doedden nhw ddim yn dod yn agos atoch. Nid oedd neb yn poeni amdanynt, neu’n gadael i’w cysgod flocio’n golau allan. Cofiwch chi. rwy’n credu nad molestwyr oedd yr ychydig o oedolion y gwnaethom eu gweld yn y coed ond staff y ffatri yn ceisio yn ofer i gael trefn yn y tyfiant, fel dynion mewn helmedau haul yn ceisio dofi’r jyngl. Er ei bod yn wir nad oedd pêl-droed a chriced yn beryglus (os nad oeddech yn cael eich taclo o’r tu ôl gan Gareth), fedrwn ni ddim dweud yr un peth am bopeth a wnaethem yn y coed. Fe wnaethom adeiladu “gwersyll” a Chwarae dros Gymru

chwarae tic, cuddio a gemau rhyfel, a chael pleser enfawr wrth ddefnyddio ffyn i wastatau erwau o ddanadl poethion. Yn yr hydref roeddem yn casglu mwyar duon o’r nifer ddiben draw o berthi ar ben pellaf y coed. Fe wnaethom adeiladu argae yn y nentydd bach oedd yn rhedeg drwodd (dim ond ffosydd draenio mewn gwirionedd ond nentydd i ni – ˆ a gwneud roeddem hyd yn oed yn yfed y dwr!) llawer o brosiectau peirianneg sifil pwysig drwy eu dargyfeirio. A roeddem yn taflu cerrig at bethau. Hyd yma, cymaint o hwyl diniwed. Ond roeddem hefyd yn dringo coed, chwarae ar siglenni rhaff a chwarae o gwmpas gyda thân. Mae dringo coed yn ddigon cyfarwydd i’r rhan fwyaf ohonom iddo ymddangos yn ddiogel, ond meddyliwch os medrwch am “ddringo coed eithafol”. Roedd gen i ormod ofn i fynd yn llawer uwch na 15 neu 20 troedfedd i fyny unrhyw goeden, ond byddai rhai o fy ffrindiau yn dal i ddringo. Rwy’n cofio Gary a Keith, dau frawd, ar ben coeden llwyfen y mae’n rhaid ei bod yn 70 neu 80 troedfedd o uchder. Byddai unrhyw gamgymeriad wedi bod yn angheuol ar lawer mwy na 20 troedfedd, a hyd yn oed ar fy uchder tila i byddid wedi torri breichiau a choesau. Ond yn yr holl flynyddoedd hynny wnaeth neb erioed ddisgyn, nid oherwydd fod gennym sgiliau dringo wiwerod, ond oherwydd ein bod yn gwybod beth oedd ein cyfyngiadau. Fe wnaethom ffurfio barn dda am risg, a roedd ein barn yn well oherwydd i ni ddod i gysylltiad ag ef. Efallai fod y siglenni rhaff ychydig yn ddof o gymharu, er eu bod yn anferth o siglenni rhaff.

6

Fel y rhan fwyaf o blant roedd tân yn ein hudo, ond roedd hefyd ddiwylliant coelcerthi. Roeddem yn aml yn adeiladu tannau gwersyll bychan a chwarae gyda ffaglau ar dân. Y gorau oll oedd llen blastig wedi’i lapio o amgylch pren a’i danio, yna’i fflicio ar i allan fel y byddai darn bach o blastig llosg, gyda mwg du y tu ôl iddo, yn hedfan drwy’r awyr at ryw ˆ “zip” boddhaol tu hwnt. darged gyda’r swn Mae hyn yn swnio’n beryglus tu hwnt, ond eto ni ddioddefodd dim ohonom ddim mwy na deifio. Roedd rheolau anysgrifenedig gyda tân, felly er i ni gymryd arnom i fygwth ein gilydd gyda’n ffaglau, gwaharddwyd hyd yn oed fynd yn agos at losgi rhywun neu fflicio plastig yn eu hymyl. Fe wnaethom ddysgu ers pan oeddem yn ifanc sut i drafod tân, sut i gynnau un a diffodd un, a sut i osgoi llosgi. Felly beth mae hyn i gyd yn ddweud wrthym? Rwy’n credu ei fod yn dweud wrthyf nad yw plant yn wirion, ac er y medrech feddwl fod yr hyn y maent yn ei wneud yn beryglus, mae’n debyg nad yw cyn waethed â hynny. Os ydynt yng ngofal llawn y sefyllfa medrant – a byddant – yn rheoli risg. Byddant yn dysgu llawer iawn am y byd – elfennau gwyddoniaeth ymarferol, peirianneg ac adeiladwaith, yr amgylchedd naturiol, gwaith tîm, cymdeithas a gwybodaeth o’u cyfyngiadau personol. A byddant yn cael llawer o ymarfer da ar ben hynny. Rwyf wedi colli cysylltiad gyda’r holl gyfeillion hyn, ond rwy’n eithaf sicr nad aeth y bodolaeth “Lords of the Flies” hyn yn ddrwg a’u troi yn llosgwyr tai a lladron. Beth wnaeth ef i mi? Wel bum yn Arolygydd Iechyd a Diogelwch am un mlynedd ar bymtheg, felly rwy’n amlwg heb fod yn jynci chwilio am berygl, a rwy’n meddwl y medraf ddweud beth sy’n beryglus a beth sydd ddim. Rwy’n medru gweld y pwynt o wynebau meddal o dan fframiau dringo ond rwy’n meddwl y byddai plant yn dysgu mwy pe mai dim ond gro oedd yno ... a dwy i byth yn gwisgo gogls pan fyddaf yn chwarae concyrs. Matthew McNeal, 40 3/4 oed.


Chwarae Cymru Play Wales

Rhifyn 14 Hydref 2004

CYMDEITHAS GENEDLAETHOL

MEYSYDD CHWARAE

NPFA CYMRU ymdeithas Genedlaethol Meysydd Chwarae (NPFA) yw’r unig sefydliad cenedlaethol sydd â chyfrifoldeb penodol am ddiogelu a gwella gofod hamdden. Mae’n elusen gofrestredig, rhif 306070. Mae NPFA Cymru yn gyfrifol am ei waith yng Nghymru. Mae’n ymgyrchu i sicrhau fod gan bawb yng Nghymru fynediad i dir hamdden ansawdd uchel yn agos at eu cartrefi. Mae’n hanfodol fod gan bob cymuned ardaloedd ar gyfer chwarae, ymarfer, cymryd rhan mewn chwarae, mynd am dro neu ddim ond hamddena.

C

I helpu i gyflawni ei nod, mae NPFA Cymru yn diogelu 148 safle yng Nghymru drwy berchnogaeth, gweithredoedd ymroddiad a chyfamodau cyfreithiol ac mae’n awyddus i gynyddu’r nifer. Ef yw unig ymddiriedolydd Caeau’r Brenin George ac yn ddiweddar mae wedi ˆ Mae’r cynllun yn gweithredu dechrau ar gynllun Caeau Owain Glyndwr. fel cofeb i’r gwladweinydd o Gymru drwy ddiogelu tir hamdden am byth bythoedd. Mae NPFA Cymru yn anelu i sefydlu o leiaf un Cae ˆ ym mhob awdurdod unedol yng Nghymru. Owain Glyndwr

Ffit i Chwarae?

Mae NPFA Cymru hefyd yn gwthio am fwy o ddiogeliad ar gyfer caeau chwarae ysgol yng Nghymru. Yn Lloegr, caiff pob cynllun i werthu caeau chwarae ysgol ei gyfeirio at yr Ysgrifennydd Gwladol i’w ystyried a chyhoeddir cofnodion swyddogol. Roedd adroddiadau diweddar yn y cyfryngau am gyflwyno mesurau newydd i’r broses hon i’w gwneud hyd yn oed yn anos i werthu caeau ysgol yn Lloegr.

thema ar gyfer Diwrnod Chwarae dydd Mercher 3 Awst 2005 yw ‘Ffit i Chwarae?’ I rai pobl mae Diwrnod Chwarae yn gyfle i drefnu digwyddiad lleol yn hyrwyddo eu gwasanaeth chwarae ac i roi diwrnod arbennig ar gyfer y plant sy’n ei ddefnyddio, i eraill mae’n gyfle i gael sylw yn y cyfryngau i faterion chwarae.

Y

Yn anffodus, nid oes proses debyg yng Nghymru a chaiff yr holl geisiadau cynllunio eu trafod gan yr awdurdod cynllunio lleol heb i unrhyw wybodaeth fod ar gael. Er y diffyg gwybodaeth hwn, dywedodd Jane Davidson, Gweinidog Addysg y Cynulliad Cenedlaethol, yn ddiweddar nad yw gwerthu caeau chwarae ysgol yng Nghymru yn fater sylweddol ar hyn o bryd!

Mae chwarae awyr agored yn hanfodol ar gyfer plant, nid yn unig ar gyfer eu ffitrwydd corfforol ond hefyd ar gyfer eu iechyd cyffredinol, lles a hapusrwydd ... ond a yw eu hamgylchedd yn ffit i chwarae? Bydd Diwrnod Chwarae 2005 yn rhoi sylw i’r themâu cysylltiedig hyn:-

Rhodri Edwards, NPFA Cymru, Tyˆ Sophia, 28 Heol yr Eglwys Gadeiriol, Caerdydd CF11 9LJ Ffôn: 02920 636110 Ffacs: 02920 636131 e-bost: cymru@npfa.co.uk

1. Pwysigrwydd sylfaenol chwarae rhydd wrth ddarparu gweithgaredd corfforol ar gyfer plant o bob oedran, yn ogystal â hyrwyddo eu datblygiad cymdeithasol ac emosiynol iach.

Ymgynghori â Phlant am Chwarae

2. Y problemau sy’n wynebu plant a phobl ifanc wrth ganfod rhywle addas i chwarae – a beth sydd angen ei wneud.

Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth Chwarae Plant ym Miwrô Cenedlaethol y Plant yn Llundain wedi cynhyrchu dalen ffeithiau newydd – Consulting Children About Play – sy’n nodi’r meddwl cyfoes ar ymgynghori gyda phlant a phobl ifanc, ac yn ychwanegu persbectif gyda ffocws chwarae.

Mae “Ffit i Chwarae?” yn cwmpasu’r holl themâu a awgrymwyd ar gyfer y Diwrnod Chwarae nesaf yn cynnwys: ffit i chwarae; adhawlio’r strydoedd a gofodau cyhoeddus; a chwarae gyda’r ˆ Mae’n rhoi digon o gwmpas ar elfennau (daear, aer, tân a dwr). gyfer tanlinellu pwysigrwydd chwarae drwy gydol y flwyddyn, tra’n rhoi cyfleoedd chwarae ystyrlon i blant a phobl ifanc.

Cysyllter â CPIS neu ymweld â gwefan CPIS i gael eich copi eich hun. Ffôn: 020 7843 6303 E-bost: cpis@ncb.org.uk www.ncb.org.uk/library/cpis

I gael gwybodaeth bellach gweler www.playday.org.uk

Comisiynydd yn Cefnogi Gwell Darpariaeth Chwarae i Blant M ae Adroddiad Blynyddol y Comisiynydd Plant ar gyfer 2003/4 yn amlygu’r angen am sylw i “chwarae, gofod cyhoeddus a chynllunio”

sefyllfa hon yn anoddach pan yw’r angen a deimlir i ddiogelu’n cymunedau rhag ymddygiad rhai pobl ifanc drwy gyrffyw a gorchmynion gwasgaru ...

Mae diddordeb cyhoeddus a gwleidyddol cynyddol ym mater mannau cyhoeddus a sut mae plant a phobl ifanc yn cael mynediad iddynt, ynghyd â mathau mwy strwythuredig o weithgareddau hamdden ac adloniant. Mae’n amlwg iawn bod pobl ifanc yng Nghymru ac ar draws y DU, o’u cymharu â’u cyfoedion mewn llawer man arall yn Ewrop, yn cymryd rhan mewn llai o weithgaredd corfforol a chwaraeon, yn cael llai o ryddid i symud o gwmpas ac annibyniaeth gorfforol, yn treulio mwy o amser yn gwylio’r teledu ac yn llai amlwg yn gyhoeddus.

Mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru gyfle i arwain drwy esiampl yn y maes hwn drwy ddod o hyd i ffyrdd o asesu effaith eu polisïau a’u penderfyniadau cynllunio ar blant a phobl ifanc yn systematig a chyflwyno tystiolaeth gyhoeddus o hynny. Mae cyfle gwerthfawr yma i bob math ar chwarae gael lle yng nghanol bywydau ein plant a’n pobl ifanc yng Nghymru, boed hynny yn y wlad neu’r dref, a gwneud ein hymrwymiad i Erthygl 31 Confensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn yn ystyrlon.

Gweler www.childcom.org.uk i gael yr adroddiad llawn.

Mae cysylltu â phlant a phobl ifanc i gael hyd i atebion creadigol i’r

7

Chwarae dros Gymru


Chwarae Cymru Play Wales

Rhifyn 14 Hydref 2004

Egwyddorion Newydd

Egwyddorion

ar gyfer Gwaith Chwarae

Gwaith Chwarae

ron flwyddyn yn ôl derbyniodd Chwarae Cymru gyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i adolygu’r Tybiaethau a Gwerthoedd Gwaith Chwarae a ysgrifennwyd tua degawd yn ôl. Bron ddeuddeg mis yn ddiweddarach, ar ôl dau ˆ gylch ymgynghori, mae’r Grwp Sgriwtini a fu’n goruchwylio datblygiad y cynnig newydd yn barod i ddadlennu’r canlyniadau.

B

Yn gynnar yn y proses penderfynwyd gwahaniaethu’r Tybiaethau a Gwerthoedd presennol oddi wrth y cynnig newydd drwy alw’r rhai newydd yn Egwyddorion Gwaith Chwarae. Cynlluniwyd y ddau i hysbysu ymarfer gwaith chwarae fel cyfres o egwyddorion proffesiynol, ac fe’u defnyddir yn bennaf mewn hyfforddiant gwaith chwarae. Roedd llawer o weithwyr chwarae a hyfforddwyr gwaith chwarae wedi dechrau cytuno fod y Tybiaethau a Gwerthoedd yn cychwyn ychydig allan o le gyda’r meddylfryd presennol. Yn Ail Gam yr ymgynghoriad cyrhaeddodd 102 o ymatebion ein desg, rhai ohonynt gan sefydliadau yn cynrychioli grwpiau mawr o weithwyr chwarae a hyfforddwyr gwaith chwarae. Roedd yr ymateb i’r Ail Gam yn gadarnhaol gan bennaf, gan amlygu’r meysydd oedd yn dal i fod ˆ angen gwaith. Felly cyfarfu’r Grwp

Sgriwtini yng Nghaerdydd a Bryste i fireinio a gwerthuso fersiwn terfynol. ˆ Ar ôl cwblhau’r dasg hon, mae’r Grwp yn teimlo eu bod bron wedi cyflawni eu dyletswydd, ac nid yw’r ˆ ymgynghoriad terfynol ynglyn â chynnwys yr Egwyddorion, ond mae’n gofyn cwestiynau megis: 1. A yw’r Egwyddorion Gwaith Chwarae yn gam ymlaen o’r Tybiaethau a Gwerthoedd Gwaith Chwarae? 2. A yw’r Egwyddorion Gwaith Chwarae yn addas i bwrpas? 3. A ydym wedi gwneud cyfiawnder i weithwyr chwarae? ˆ Gofynnodd y Grwp am gyfarfod gyda SkillsActive, cyngor sgiliau y sector gwaith chwarae, unwaith y cwblhawyd yr ymgynghoriad terfynol, a gobeithiant y bydd yr holl brif sefydliadau gwaith chwarae a hyfforddwyr yn derbyn eu gwahoddiad i lofnodi’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Dywedwch eich barn yn www.playwales.org.uk/egwyddorio n neu ffoniwch Phil yn ein swyddfa genedlaethol i ofyn am fersiwn copi caled. Os oes gennych wefan, efallai y medrech roi cysylltyn i’r tudalennau ymgynghori egwyddorion: os felly cysylltwch â Gill Evans yn ein swyddfa genedlaethol (029 2048 6080) os gwelwch yn dda.

Mae’r egwyddorion hyn yn sefydlu’r fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae. Disgrifiant beth sy’n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, gan roi persbectif gwaith chwarae ar gyfer gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Maent yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y caiff gallu plant a phobl ifanc i ddatblygu’n gadarnhaol ei hyrwyddo os cânt fynediad i’r amrediad ehangaf o amgylcheddau a chyfleoedd chwarae. 1. Mae pob plentyn a pherson ifanc angen chwarae. Mae’r ysfa i chwarae yn gynhenid. Mae chwarae yn rheidrwydd biolegol a seicolegol ac yn sylfaenol i ddatblygiad iach a lles unigolion a chymunedau. 2. Mae chwarae yn broses a gaiff ei dewis yn rhydd, ei chyfeirio yn bersonol a’i chymell yn gynhenid. Hynny yw, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ar ac yn rheoli cynnwys a bwriad eu chwarae, drwy ddilyn eu greddf a’u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain am eu rhesymau eu hunain. 3. Prif ffocws a hanfod gwaith chwarae yw cefnogi a hwyluso’r broses chwarae a dylai hyn fod yn sail i ddatblygiad y polisi chwarae, strategaeth, hyfforddiant ac addysg. 4. I weithwyr chwarae, mae’r broses chwarae yn cael blaenoriaeth dros gymdeithasu, addysg ac agendâu eraill oedolion. Rhaid i weithwyr chwarae weithredu fel adfocatiaid dros chwarae pan yn ymwneud gydag agendâu oedolion. 5. Rôl gweithwyr chwarae yw cefnogi plant a phobl ifanc wrth greu gofod lle medrant chwarae. 6. Rhaid i ymateb gweithwyr chwarae i blant a phobl ifanc yn chwarae fod yn seiliedig ar wybodaeth gadarn a chyfoes o’r broses chwarae ac ymarfer adfyfyriol. 7. Rhaid i weithwyr chwarae gydnabod eu heffaith eu hunain ar y gofod chwarae a hefyd effaith chwarae plant a phobl ifanc ar weithwyr chwarae. 8. Rhaid i weithwyr chwarae ddewis dull ymyrriad sy’n galluogi plant a phobl ifanc i ymestyn eu chwarae. Rhaid i bob ymyriad gweithwyr chwarae gydbwyso risg gyda budd a lles datblygiadol plant.

Chwarae dros Gymru

8


Chwarae Cymru Play Wales

Rhifyn 14 Hydref 2004

Hyfforddiant Gwaith Chwarae Newydd ae Chwarae Cymru wedi sicrhau cyllid EQUAL i ddatblygu’r hyfforddiant gwaith chwarae diweddaraf un yng Nghymru.

ostwng y bwlch rhwng dynion a menywod mewn swyddi a chyflog, a dadsegregeiddio’r sector gofal plant”. Mae Chwarae Cymru, ynghyd â Mudiad Ysgolion Meithrin, Clybiau Plant Cymru, Communities that Care Wales, Cymdeithasau Grwpiau Chwarae Cyn-Ysgol Cymru ac Awdurdod Datblygu Cymru (dan y cyd-enw Cwlwm) wedi gwneud cynnig llwyddiannus am bron £2.5m o gefnogaeth gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd.

M

Dangosodd adolygiad o gyrsiau a ddatblygwyd yn flaenorol gan Chwarae Cymru, a hyfforddiant gwaith chwarae arall sydd ar gael ar hyn o bryd, fod y cynnwys a dull cyflwyno yn aml iawn yn annigonol ar gyfer anghenion gweithwyr chwarae a’r plant y gweithiant â hwy. Mae Chwarae Cymru yn ymrwymedig i ddatblygu hyfforddiant yn seiliedig ar ddamcaniaeth chwarae a gwaith chwarae cyfoes sy’n rhoi chwarae plant yn wirioneddol yng nghanol rôl gweithwyr chwarae. Y bwriad yw cynhyrchu pecyn aml-gyfrwng dwyieithog y medrir ei ddefnyddio i hyfforddi gweithwyr chwarae unrhyw le yng Nghymru.

Bydd Chwarae Cymru yn gyfrifol am ddatblygu pecyn hyfforddiant a chymwysterau ar gyfer gweithwyr chwarae, tra bydd aelodau eraill y ˆ grwp yn gyfrifol am brosiectau ymchwil a datblygu yn gysylltiedig â busnes ac entrepreneuriaeth, annog dynion i’r sector gofal plant ac ymestyn darpariaeth gofal plant yn y Gymraeg a ieithoedd lleiafrifol. Dengys y cynllun gwaith y bydd y pecyn hyfforddiant yn dechrau cael ei beilotio yn ail hanner 2005.

Mae’r cyllid EQUAL ar gyfer “gweithgareddau yn seiliedig ar

Ein Dyn yn Hong Kong ra ar wyliau yn ymweld â theulu ei fab yn Hong Kong, manteisiodd Tony Chilton ar y cyfle i ymweld â PLAY INFINITY, corff a sefydlwyd i hyrwyddo datblygu chwarae yn y rhanbarth.

T

Sefydlwyd Play Infinity yn 1999 gan Bonita Kwok a Winnie Wong, y bu’r ddwy ohonynt yng Nghynhadledd Chwarae Ysbryd Antur yng Nghaerdydd y llynedd. Nod y mudiad yw datblygu mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o bwysigrwydd chwarae ym mywyd y plentyn (swnio’n gyfarwydd?!). Gyda phrif ganolfan gweithredol yn Mong Kok, un o ardaloedd hynaf Kowloon yn Hong Kong, mae Play Infinity wedi agor cangen yn Macau yn ddiweddar, ardal ar draws aber Pearl River a Môr China i orllewin Rhanbarth Gweinyddol Arbennig

Hong Kong. Mae Play Infinity wedi cydnabod yr angen i ‘addysgu’ cymdeithas oedolion yng nghyswllt gwerth chwarae ac mae’n anelu i weithio gyda myfyrwyr astudiaethau cymdeithasol, darpar athrawon, ysgolion, rhieni, Cyngor Llywodraeth Hong Kong, grwpiau cymunedol ac elusennau ac i sefydlu rhwydwaith o gymdeithasau chwarae ac i ysgogi mwy o ymdeimlad o gyfrifoldeb dros ddarparu cyfleoedd chwarae. Mae llawer o’u gwaith yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau a gweithgareddau rhyngweithiol, er eu bod yn ymwneud â chynnal rhai ymarferion ymchwil sylfaenol i arddangos yr angen i wella ansawdd darpariaeth chwarae. Aeth deng mlynedd heibio ers i Tony weithio yn Hong Kong ddiwethaf ac er y bu newidiadau enfawr yn yr amgylchedd ffisegol a gwleidyddol, ymddengys mai

ychydig a newidiodd o ran gwella a chynyddu darpariaeth chwarae. Mae gan Play Infinity amser caled iawn o’u blaenau, oherwydd ychydig o dystiolaeth sydd yn ddiwylliannol a thraddodiadol y gwelir chwarae fel rhan hanfodol o ddatblygiad y plentyn yn y rhan hwn o’r byd. Mae Bonita a Winnie yn egniol, brwdfrydig ac ymroddedig ac fe wnaethant fwynhau ein hamser gyda ni yn y Gynhadledd yn gynharach eleni yn fawr. Maent yn awyddus iawn i gynnal a datblygu cysylltiadau gyda Cymru oherwydd yr hyn a welant fel datblygiadau cadarnhaol yma y medrid eu mabwysiadu yn Hong Kong. Rydym yn ceisio trefnu iddynt roi cyflwyniad a gweithdai yn y gynhadledd Ysbryd nesaf a ddylai fod yn ddiddorol i ni ond yn arbennig efallai y gymuned Chineaidd yma. Felly cadwch eich llygad ar agor!

Ymddiriedolwyr i Chwarae Cymru i fedrai fod amser mwy cyffrous a heriol i gymryd rhan yng ngwaith y sefydliad cenedlaethol dros chwarae plant.

N

Os hoffech gyfle i gyfrannu at ein gwaith, ac yn teimlo y medrwch gynnig eich profiad, arbenigedd ac ymrwymiad i’r swydd wirfoddol hon (telir treuliau) cysylltwch â ni am becyn cais os gwelwch yn dda.

9

Chwarae dros Gymru


Chwarae Cymru Play Wales

Rhifyn 14 Hydref 2004

DIGWYDDIADAU Bwletin Hyfforddiant a Digwyddiadau Mae’n amhosibl cynnwys yr holl gynadleddau, hyfforddiant a digwyddiadau yn gysylltiedig â chwaraeon a gynhelir dros y flwyddyn yn y cylchlythyr pedwar-misol hwn, felly rydym wedi dechrau parataoi bwletin e-bost dwyieithog o ddigwyddiadau a hyfforddiant yng Nghymru a Phrydain a gredwn a fyddai o ddiddordeb i ddarparwyr chwarae a gweithwyr chwarae yng Nghymru. Cafodd y rhifyn cyntaf ei gylchredeg ym mis Tachwedd, ond mae angen i ni hysbysebu eich digwyddiadau (pa bynnag mor lleol) ac i lofnodi ar gyfer y gwasanaeth di-dâl hwn. I gael eich cynnwys yn y rhestr bostio, neu i ddweud wrthym beth y buoch yn wneud, cysylltwch â Phil yn ein Swyddfa Genedlaethol (029 2048 6050) neu e-bost phil@playwales.org.uk). Byddwn yn parhau i roi sylw i’r prif ddigwyddiadau yn Chwarae dros Gymru.

1 a 2 Mawrth 2005

PlayEd – Ely, Swydd Caergrawnt 17eg Cyfarfod Chwarae a Datblygu Dynol e-bost: played2005@playeducation.com

11 a 12 Mai 2005

Chwarae Ysbryd Antur – Caerdydd Cynhelir Cynhadledd Ysbryd Chwarae Cymru yng Nghaerdydd fis Mai nesaf. Bydd yr archebu yn dechrau yn y Flwyddyn Newydd, cysylltwch â Phil yn ein Swyddfa Genedlaethol (029 2048 6050 neu e-bost phil@playwales.org.uk) os dymunwch gael eich ychwanegu at y rhestr bostio.

Cyhoeddiadau Newydd Mae KIDS wedi cyhoeddi tri llyfr yn ddiweddar ar gynnwys plant anabl mewn gwasanaethau prif ffrwd ar gyfer plant 5 i 16 oed.

All of Us – Inclusion Checklist for Settings – sy’n amlinellu ymarfer da ar gyfer gweithwyr chwarae, gwarchodwyr plant a staff gofal plant eraill.

All of Us – Inclusion Framework for Local Authorities – sy’n cynnig ffyrdd i awdurdodau lleol i symud polisi i ymarfer mewn cynnwys plant anabl. Mae’r pecyn ar gael yn ddi-dâl drwy ffonio 020 7359 3073; a

o

gemau

a

syniadau ymarferol, gemau a gweithgareddau ar gyfer pob plentyn i’w mwynhau, ac felly hyrwyddo cynhwysiant plant anabl mewn unrhyw osodiad chwarae neu blynyddoedd cynnar. Mae’r llyfr yn costio £10.00 i sefydliadau gwirfoddol a £20.00 i gyrff statudol. Mae ar gael gan York Publishing Services Cyf, ffôn 01904 431 213. Chwarae dros Gymru

Os ydych yn sefydliad gwirfoddol yn chwilio am gyllid gall WVCA gynnal chwiliad cyllid i’w aelodau ar Grantfinder. Cysyllter â’r Ddesg Gymorth ar 0870 607 1666, neu e-bost help@wcva.org.uk Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Yapp yn dyfarnu grantiau o tua £3,000 i sefydliadau elusennol gyda throsiant o lai na £75,000 ar gyfer gweithio gyda phlant a phobl ifanc, pobl gydag anableddau neu broblemau iechyd meddwl ac addysg a dysgu. Dyddiad cau 31 Ionawr. Gweler www.yappcharitabletrust.org.uk neu gysylltu â 01484 683403. Mae First Light yn darparu cefnogaeth ariannol ar gyfer gwneud ffilmiau lle mae pobl ifanc (5-18 oed) yn cymryd rôl arweiniol ym mhob agwedd o’r broses gynhyrchu. Mae’r math o brosiectau a gefnogwyd yn cynnwys gweithredu byw, rhaglenni dogfen creadigol a ffilmiau animeiddio. Y dyddiad cau nesaf yw 18 Ionawr 2005 ac mae ffurflenni cais ar gael o 22 Tachwedd. Manylion o www.firstlightmovies.com/funding.php

Bydd y bwletin hefyd ar gael ar ein gwefan yn fuan.

Pick & Mix – detholiad gweithgareddau cynhwysol –

Cyllid

BBC Plant mewn Angen Rhaid i fuddiolwyr fod dan anfantais oherwydd rhyw fath o anabledd, problemau ymddygiadol neu dechnolegol, yn byw mewn tlodi neu sefyllfaoedd o ddifreintiad, salwch, gofid, camdriniaeth neu esgeulustod. Dyddiad cau 30 Mawrth 2005. E-bost Pudsey@bbc.co.uk ffôn: 020 8576 7788 Mae Prosiect Gofodau Gwyrdd a Chymunedau Cynaliadwy Enfys bellach yn ei bedwaredd flwyddyn o gynorthwyo cymunedau i ddatblygu a chynnal pob math o brosiectau gofod gwyrdd diddorol. Daw’r cyllid gan y Gronfa Loteri Fawr y Loteri Genedlaethol ac fe’i dosberthir gan bartneriaeth Enfys. Hyd yma mae rhaglen Enfys wedi dyrannu tua £5.4m gan gefnogi 284 prosiect yng Nghymru. Gyda £1.1m pellach i’w dyrannu, bydd Enfys yn rhedeg am ychydig dros flwyddyn arall a byddai angen i’r prosiectau gael eu cwblhau erbyn 31 Rhagfyr 2005. Disgwylir tri cylch cais ˆ cymunedol neu’n sefydliad pellach. Os ydych yn grwp gwirfoddol, gyda syniadau diddorol i ddatblygu prosiect amgylcheddol yn eich cymuned a’ch prosiect medrech ddefnyddio hyd at £25,000 cyn diwedd 2005, ffoniwch: 0845 000 122 i gael pecyn cais neu gysylltu â Desg Gymorth WVCA ar 0870 607 1666 bey dîm Enfys ar 01492 539808 e-bost: k.burgess@wcva.org.uk. Gwobrau arloesedd Wavemakers – rhaglen grantiau bach i ddatblygu gwasanaethau blaengar i blant. Yn ogystal â dathlu llwyddiannau plant a phobl ifanc, mae ganddo bum categori sy’n cydnabod gwasanaethau proffesiynol. Bydd cam olaf y beirniadu yn cynnwys gweithdai ledled Prydain lle bydd pobl yn graddio enwebiadau. Yn yr ail cam, byddant yn eistedd ar banel gyda aelodau uwch o’r sector plant. Medrir gwneud enwebiadau drwy www.wavemakers.org.uk.

10


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.