chwarae dros gymru rhifyn 16

Page 1

Chwarae dros Gymru Rhifyn 16

RHIFYN ARBENNIG CHWARAE MEWN YSGOLION

HAF 2005

Chwarae yng Nghymru - Newid Jane ae ailwampio cabinet Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gynharach eleni yn golygu fod chwarae yn awr o fewn cylch gorchwyl Jane Davidson AC, Gweinidog Addysg a Dysgu Gydol Oes. Medrai rhai ohonom fod wedi poeni fod chwarae yn symud o ddwylo cadarn Jane Hutt AC, a fu'n gyfaill cryf ac a oruchwyliodd fabwysiadu Polisi Chwarae Cymru, ond yn ei haraith gyntaf i'r sector chwarae yng Nghymru yng nghynhadledd Chwarae Ysbryd Antur Chwarae Cymru yng Nghaerdydd dangosodd y Jane newydd na fyddai dim llaesu dwylo:

M

Yn gyntaf oll hoffwn bwysleisio fy mod yn cefnogi'r Polisi Chwarae. Ar ôl cymryd rhan mewn sefydlu cynlluniau chwarae fel gweithwraig ieuenctid mewn bywyd blaenorol, a chefnogi chwarae antur yng Nglanyrafon (Caerdydd) fel cynghorydd lleol, rwyf wrth fy modd fod Cymru ar y blaen. Fel Gweinidog Addysg a Dysgu Gydol Oes, mae dysgu, datblygiad a llesiant plant yn yr ystyr ehangaf o gonsyrn i mi. Bydd ein Strategaeth Chwarae yn parhau i gael ei seilio ar gefnogi chwarae fel “ymddygiad plant a gaiff ei ddewis yn rhydd, ei gyfeirio'n bersonol a'i gymell yn gynhenid”. Rwyf eisiau gweld gwerthoedd chwarae yn sail i'r profiad a gaiff plant yn yr ysgol ond nid wyf yn bwriadu i bolisi chwarae gael ei lyncu o fewn agenda addysg ffurfiol. Roedd y Polisi Chwarae yn ymrwymo Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu mewn partneriaeth strategaeth a fydd yn gosod y ffordd y medrir gweithredu egwyddorion y Polisi. Dyna pam y gwnaethom sefydlu Grw^ p Gweithredu Polisi Chwarae i fynd â'r Strategaeth rhagddi. Bu ymgynghori cyhoeddus yn ddiweddar ar argymhellion y Grw^ p, ac

roedd yn galonogol iawn gweld y nifer uchel o ymatebion manwl y gwnaethom eu derbyn. Rhaid seilio'r strategaeth chwarae ar gysyniad hawl plant a phobl ifanc sy'n adeiladu ar sylfaen Polisi Chwarae yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Ar draws y Llywodraeth yng Nghymru rydym eisoes wedi mynnu hawl o'r fath. Mae mynediad i chwarae yn un o saith nod craidd y Cynulliad ar gyfer plant a phobl ifanc. O fewn y rhaglen Ymestyn yr Hawl i bobl ifanc, un o'r deg hawl yw “cyfle ar gyfer cyfleoedd hamdden a chymdeithasol mewn amgylchedd diogel a hygyrch”. Mae hynny'n golygu fod yn rhaid i ni adeiladu ar y gefnogaeth benodol yr ydym wedi ei chyflwyno drwy'r Grant Chwarae gwreiddiol a Grant Cymorth i wneud chwarae yn gyfannol i wasanaethau prif ffrwd. Credwn fod gan bobl ifanc hefyd hawl i chwarae yn ei ystyr ehangaf. Mae Ymestyn yr Hawl, ynghyd â Strategaeth Chwarae y Cynulliad, yn cynnwys y disgwyliad y bydd pob person ifanc yn cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau addas i'w hoedran a'u haeddfedrwydd sy'n eu galluogi i brofi ffiniau a'u galluogi i ymchwilio eu potensial mewn amgylchedd cefnogol. Mae gan waith ieuenctid hefyd rôl hanfodol wrth sicrhau'r amgylchedd cywir ac anogaeth i sicrhau'r hawl hwn i'n

holl bobl ifanc. Yr wythnos yma fe wnaethom lansio ein hymgynghoriad “Gweithio Gyda'n Gilydd i Ddarparu Hawliau Pobl Ifanc”, i fapio sut y bydd yr Adran newydd a gynigiwn yn cefnogi gweithwyr ieuenctid a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n gweithio gyda phobl ifanc. Fel rhan o'r ymgynghoriad “Gweithio ^ gyda'n Gilydd”, awgrymais sefydlu Grw p Ymgynghorol o sefydliadau budd-ddeiliaid. I sicrhau cysylltiadau gyda'r Strategaeth Chwarae, bydd cynrychiolwyr sefydliadau chwarae yn aelodau o'r Grw^ p Ymgynghorol i sicrhau y caiff yr agwedd bwysig hon o waith gweithwyr ieuenctid ei gydnabod yn llawn. Sefydlwyd cyfarfodydd gyda gweithwyr ieuenctid ledled Cymru i benderfynu ar y cynllun gwaith newydd ac mae copi o'r ddogfen ymgynghori ar safle Rhyngrwyd Dysgu Cymru y Cynulliad. Dyddiad cau ymateb yr ymgynghoriad yw 31 Gorffennaf. Mae strategaethau chwarae lleol, gwaith ieuenctid, canolfannau integredig ac ysgolion gyda ffocws cymunedol oll yn chwarae eu rhan wrth gyflenwi ymrwymiad y Polisi Chwarae i ymestyn yr amrediad o amgylcheddau a chyfleoedd sydd ar gael ar gyfer chwarae plant. Mae Cymru wedi cymryd y blaen wrth ddatblygu Cam Sylfaen newydd ar gyfer plant 3-7 oed, yn seiliedig ar chwarae ac

Parhad t2 >

NEWYDDION A GWYBODAETH GAN YPLAYWORK SEFYDLIAD CENEDLAETHOL DROS CHWARAE VALUES REVIEW AT


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
chwarae dros gymru rhifyn 16 by Play Wales - Issuu