Mae cadw plant yn ddiogel yn golygu gadael iddyn nhw fentro

Page 1

Erthygl o Chwarae dros Gymru Hydref 2017 (rhifyn 49)

Mae cadw plant yn ddiogel yn golygu gadael iddyn nhw fentro

Dr. Mariana Brussoni sy’n rhannu ei gwybodaeth arbenigol am bwysigrwydd gadael i blant gymryd risg fel rhan o’u chwarae er budd eu hiechyd a’u lles, yn ogystal ag er mwyn datblygu gwersi bywyd pwysig. Mae’n galw ar i reoli risg mewn chwarae plant gael ei seilio ar dystiolaeth ac agwedd plentyn-ganolog - ac nid ar ofn a phryder. ‘Bydd yn ofalus!’ ‘Paid â mynd yn rhy bell!’ ‘Dere lawr!’ Mae’n siŵr y byddai’r mwyafrif o rieni’n cyfaddef iddynt floeddio’r geiriau yma. Gan amlaf, bydd y plant yn ymateb â siom bod eu hwyl wedi ei dorri’n fyr, yn poeni eu bod yn llai abl nag oeddent wedi meddwl, neu’n ddryslyd am yr hyn y mae eu rhieni’n eu rhybuddio’n ei gylch. Mae’r agwedd ofn-risg yma’n rhan o dueddiad cymdeithasol sy’n ystyried bod gweld plant yn cymryd risg yn rhywbeth cwbl negyddol. Dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd sŵn plant yn chwarae’r tu allan yn nodwedd gyffredin yn y mwyafrif o strydoedd preswyl. Heddiw, mae plant ar y stryd yn rywogaeth sydd bron â diflannu. Goramddiffyn yw’r norm bellach a chaiff risg ei ystyried fel ei fod cyn waethed â pherygl. Wedi treulio nifer o flynyddoedd yn adolygu ystadegau anafiadau plant ac yn ymchwilio i atal anafiadau, mae’n amlwg i mi ein bod yn cyfyngu’n ormodol ar chwarae plant er gwaetha’r ffaith bod anafiadau difrifol yn brin. Mae plant angen y rhyddid i chwarae fel y mynnant, yn cynnwys cymryd risg a chymryd rhan mewn chwarae mentrus. Mae fy ymchwil i, a gwaith eraill, yn pwyntio at bwysigrwydd cyfleodd i gymryd risg mewn chwarae er budd iechyd a datblygiad plant, yn cynnwys hybu hunanhyder, datblygiad cymdeithasol, gweithgarwch corfforol a gwytnwch. Mae chwarae’n llawn risg yn helpu plant i ddysgu am y byd a sut y mae’n gweithio, dysgu am eu hunain a’u terfynau a dysgu sut i gadw eu hunain

yn ddiogel. Pan fyddwn ni’n ceisio cyfyngu ar chwarae mentrus plant byddwn yn eu hamddifadu o’r cyfleodd hanfodol hynny allai, yn eironig ddigon, olygu eu bod yn llai diogel. Bydd plant yn dysgu sgiliau rheoli risg trwy archwilio risg mewn chwarae y gallant eu defnyddio wedyn mewn sefyllfaoedd eraill. Os bydd oedolyn yn gwneud yr holl reoli risg ar eu rhan, fydd plant ddim yn dysgu sut i wneud hyn drostynt eu hunain. Dros y blynyddoedd, mae ein hymdrechion i ffrwyno risgiau wedi arwain at fannau chwarae plant sydd yn fwyfwy unffurf, safonedig a diflas. Mae mynediad i fyd natur a deunyddiau naturiol wedi lleihau, tra bod offer chwarae plastig a metal sefydlog, sy’n cydymffurfio â safonau diogelwch ond sydd â gwerth chwarae cyfyngedig, wedi tyfu’n fythol bresennol. Mae safonau diogelwch yn defnyddio agwedd beirianyddol sy’n fwy addas ar gyfer ffatrïoedd a phroblemau beirianyddol cymhleth na chwarae plant. Mae’r safonau hyn yn wirfoddol, ond maent wedi eu cymhwyso’n gyffredinol a heb eu hamau er mwyn cyfyngu ar atebolrwydd. Mae hyn er gwaetha’r ffaith bod canlyniadau ymchwil ar fuddiannau diogelwch y safonau’n gymysg. Mae anafiadau difrifol mor brin fel bod astudiaethau wnaeth archwilio graddau anafiadau cyn ac ar ôl y newid i’r safonau heb arddangos unrhyw newid sylweddol. Mewn cyferbyniad â hyn, mae gwaith ymchwil gwahanol yn awgrymu pan fo offer yn rhy ddiflas, y bydd plant yn ei ddefnyddio mewn ffyrdd peryglus er mwyn cynnal y lefel o her.

Dangosodd ymchwil diweddar y byddai rhaid i blentyn chwarae’r tu allan am dair awr y dydd am tua 10 mlynedd cyn dioddef un anaf (cymharol fychan) fyddai angen triniaeth feddygol. Caiff llawer o fentrau atal anafiadau eu gyrru gan ofn a phryder, yn hytrach na thystiolaeth ymchwil a llunio penderfyniadau plentyn-ganolog.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.