Chwilio am ddeunyddiau ar gyfer chwarae plant
Mae chwilio am ddeunyddiau rhad ac am ddim ar gyfer chwarae plant, neu ‘loffa’ fel y’i gelwir, yn hanfodol ar gyfer pawb sy’n cefnogi chwarae plant. Bydd unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant yn gwybod eu bod yn elwa o gael digonedd o stwff i chwarae gyda nhw. Mae bod ag adnoddau a deunyddiau ar gael i chwarae gyda nhw yn cynyddu’r posibiliadau’n sylweddol o fewn unrhyw ofod ble fo plant yn chwarae, a pham talu amdanyn nhw pan y gallech, gydag ychydig o ddychymyg, eu cael am ddim. Mae’r daflen wybodaeth hon yn archwilio’r mathau o bethau y gallem ystyried chwilio neu lloffa amdanyn nhw, awgrymiadau ar sut i fynd ati i gynyddu ein cyfleoedd i lwyddo, pwy allai ein helpu o bosibl, yn ogystal â straeon a chynghorion oddi wrth loffwyr arbenigol o bob cwr o Gymru.
Beth yw lloffa? Mae geiriadur Saesneg yr Oxford English (ar-lein) yn diffinio’r gair ‘scrounge’ neu loffa fel: ‘Ceisio derbyn rhywbeth (arian neu fwyd gan amlaf) ar draul neu trwy haelioni pobl eraill neu mewn modd llechwraidd.’ Hefyd, mewn geirfa gwaith chwarae, byddwn yn cyfeirio weithiau at y broses lloffa fel ‘Womblo’. ‘Mae’r Wombles yn greaduriaid bychan blewog, â thrwyn pigfain … a ymddangosodd yn wreiddiol mewn cyfres o nofelau i blant. Maent yn byw mewn tyllau yn y ddaear, ble maent yn anelu i helpu’r amgylchedd trwy gasglu ac ailgylchu sbwriel mewn ffyrdd creadigol … Arwyddair y Wombles yw “Gwnewch Ddefnydd Da o Sbwriel Da i Ddim”’. Wikipedia Dyna’n union beth yr ydym ninnau’n ceisio ei wneud – gwneud defnydd da o sbwriel pobl eraill, trwy ei ail-ddefnyddio fel adnoddau chwarae. Mae termau eraill sy’n gysylltiedig â lloffa’n cynnwys plymio neu ddipio mewn sgipiau, blagio neu gasglu adnoddau. Yn y bôn, maent i gyd yn golygu’r un peth – casglu adnoddau rhad ac am ddim i gefnogi chwarae plant.
Lloffa effeithlon ’Dyw lloffa ddim yn golygu dwyn, a dylem bob tro dderbyn caniatâd perchennog unrhyw adnoddau y byddwn yn eu casglu. Bydd y mwyafrif o bobl yn fodlon cyfrannu pethau nad ydynt eu heisiau bellach, yn enwedig os byddwn yn egluro ei fod er budd y plant. I fod yn lloffwr effeithiol, bydd angen inni fod yn ddyfeisgar a defnyddio ein dychymyg. Rydym angen menter, creadigedd a gwybodaeth am yr hyn y gellid ei ystyried yn beryglus i iechyd neu ddiogelwch a dylem fod yn fwy na pharod i gamu ymlaen a gofyn am ffafr. Mae’n helpu i gynllunio – i fod â syniad o’r hyn fydd yn ddefnyddiol ar gyfer chwarae, neu’r hyn sydd ei angen ar gyfer prosiect neu ddigwyddiad penodol, fel y gallwn glustnodi deunyddiau neu eitemau fydd yn werth gwneud ymdrech i’w casglu. Mae lloffa’n galw am fod yn fentrus – dysgwch ble y gellir dod o hyd i adnoddau – pa bobl, sefydliadau, busnesau, cartrefi, neu siopau sydd ag adnoddau y gallem fod eu heisiau neu sy’n werth eu cael. Meddyliwch am y ffordd orau i gysylltu gyda ffynhonnell adnoddau, er enghraifft pa un allwn ni sgwrsio â nhw wyneb-yn-wyneb, neu rai y byddem yn ysgrifennu atynt yn ffurfiol, neu’n eu ffonio neu’n eu e-bostio.
A phan gynigir adnoddau inni, bydd angen inni chwilio am beryglon posibl – er mwyn penderfynu os yw’r adnoddau’n ddiogel ar gyfer chwarae plant. Dylem ystyried y risgiau posibl sy’n gysylltiedig â phob deunydd gaiff ei loffa ac os oes unrhyw amheuon, ddylen ni ddim ei dderbyn.
Dulliau lloffa Mae’n bwysig penderfynu ar ddull sy’n gweddu i bob lle unigol y byddwn yn lloffa, er enghraifft: •
Ymweld â’r ffynhonnell – cwrdd wyneb-yn-wyneb
•
Llythyr unigol at ffynhonnell benodol neu gylchlythyr at nifer o ffynonellau
•
Galwadau ffôn neu e-byst
•
Cyfnewid adnoddau gyda sefydliadau eraill
•
Benthyca.
Rheolau euraidd lloffa •
Os byddwn yn mynd ar ymweliad, byddwn yn meddwl am ein harddull cyfathrebu a sut y byddwn yn cyflwyno ein hunain. Rydym am i’r bobl yma ein helpu, felly bydd angen inni wneud argraff gadarnhaol. Os byddwn yn ysgrifennu llythyr neu e-bost, byddwn yn ei gadw’n fyr, yn gwrtais ac yn gryno.
•
Byddwn yn cofio enw’r person yr ydym yn cysylltu â nhw ac yn ei ddefnyddio.
•
Byddwn yn egluro’n syml pam ein bod eisiau’r deunyddiau. Byddwn yn egluro sut y bydd cyfraniad o fudd i’r plant mewn ffyrdd fydd yn bwysig i’n ffynhonnell.
•
Byddwn yn cadw ein ffynonellau’n hapus. Byddwn yn mynegi ein diolch ac yn cadw ein sefydliad ym mlaen ein meddwl. Byddwn yn anfon llythyrau diolch, ac yn cyfeirio atynt yn ein cylchlythyrau neu yn ein diweddariadau ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn gwneud yn siŵr eu bod yn gwybod sut y mae pethau’n gyrru ymlaen trwy eu cynnwys ar restrau postio gwybodaeth.
•
Byddwn yn cadw cofnod o ffynonellau ac enwau cyswllt yr ydym wedi eu casglu fel y gallwn eu defnyddio eto, ac fel na fyddwn yn dychwelyd at ffynhonnell yn rhy fuan rhag ofn inni ymddangos fel ein bod yn eu plagio.
•
Fyddwn ni fyth yn gadael ffynonellau i lawr trwy beidio â throi fyny i gasglu adnoddau.
•
Os byddwn yn benthyca adnoddau, byddwn yn gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu dychwelyd mewn cyflwr da ac ar amser. Ddylen ni ddim teimlo cywilydd – mae lloffa’n grefft gwaith chwarae bwysig ac yn aml byddwn yn gwneud ffafr i’n ffynonellau neu’n gwneud iddyn nhw deimlo’n dda trwy ein helpu.
•
Byddwn yn ennill rhai a cholli rhai – mae’n bwysig na chawn ein ‘siomi’ os cawn ein gwrthod neu ein hanwybyddu.
•
Os byddwn ni’n galw heibio rhywle i ofyn am gyfraniad, mae’n debyg na fydd yn syniad gwych i droi i fyny yn ein dillad gorau ac yn gyrru car drud yr olwg!
Mae Tîm Datblygu Chwarae Conwy yn cynnig cyngor ychwanegol i weithwyr chwarae pan maent yn chwilio am adnoddau, yn eu Top Tips for Scrounging: ‘Pan fyddwch yn chwilio am rannau rhydd, mae’n ddefnyddiol meddwl am y canlynol: •
Ceisiwch ddefnyddio car mawr neu fan (’dyw hyn ddim yn hanfodol, ond mae’n help mawr!) rhowch hen gynfas gwely i lawr os ydych yn defnyddio eich car – fe allai fod yn llawn llanast!
•
Y lle gorau i chwilio am rannau rhydd yw mewn ystadau diwydiannol ble mae wastad digonedd o wastraff adeiladwyr.
•
Cofiwch gyflwyno eich hun bob tro, ac egluro beth rydych yn ei wneud cyn gofyn am neu gymryd pethau, mae gwên lydan yn mynd yn bell!
•
Yn aml, bydd cwmnïau’n cynnig pentwr o bethau i chi, bydd rhywfaint ohono’n ddefnyddiol a bydd rhywfaint ddim. Fodd bynnag, mae’n well cymryd y cyfan a thaflu’r stwff sydd ddim ei angen gan fod hyn o help i’r cwmni.
•
Cofiwch ddiolch i’r cwmni bob tro ac, os ydych am eu defnyddio’n rheolaidd, mae’n wych dangos rhywfaint o luniau’r plant yn defnyddio’r adnoddau iddyn nhw neu rhoddwch gerdyn diolch iddyn nhw o waith y plant y tro nesaf yr ewch i holi am adnoddau.
•
Gofynnwch i berthnasau a ffrindiau gan eu bod efallai’n taflu pethau yn y gwaith allai fod o ddefnydd i chi.
•
Os bydd cwmni yn gofyn ichi ddod yn ôl mewn cwpwl o ddyddiau neu’n dweud eu bod am gasglu rhywfaint o bethau ynghyd i chi, mae’n bwysig ichi eu casglu gan y byddant, efallai, wedi mynd i gryn drafferth i’ch helpu.’
Eiriol dros loffa Pam ddylai unrhyw un roi eu deunyddiau gwastraff neu ddeunyddiau dros ben i ni? Yn fyr, mae’n cefnogi chwarae plant ac mae’n dda i’r amgylchedd. Mae’n ddefnyddiol hefyd ar gyfer ystyried rheoli gwastraff yn well neu Leihau, Ail-ddefnyddio, Ailgylchu. Mae gan bob ysgol yng Nghymru Gyngor Ysgol ac mae gan y mwyafrif Gyngor-Eco hefyd. Mae’r Cynghorau-Eco’n defnyddio’r arwyddair ‘Lleihau,
Ail-ddefnyddio, Ailgylchu’ fel canllaw ar gyfer eu gweithgareddau ac mae enghreifftiau o’r ddau fath o grŵp yn casglu adnoddau ar gyfer chwarae’n ystod amserau chwarae. Er enghraifft, mae Prosiect Amserau Chwarae Chwareus Playful Futures yn annog plant ysgol, trwy eu cynghorau ysgol, i ystyried gofyn i blant eraill, staff a rhieni i gyfrannu adnoddau sydd â gwerth chwarae.
neu’n arf ar gyfer bachu pêl-droed sy’n sownd mewn coeden; gellir ei daflu, ei arnofio, ei dorri’n ei hanner, ei blygu, ei guddio, ei ychwanegu at bentwr, ei glymu i rywbeth arall, ei hollti, ei gatapyltio neu ei ddefnyddio i wneud tân. Mae rhannau rhydd yn creu amgylcheddau cyfoethocach i blant chwarae ynddynt trwy roi adnoddau hyblyg diddiwedd iddyn nhw ymestyn eu chwarae.
Er mwyn gwneud cais cwrtais am adnoddau neu eitemau penodol i gefnogi chwarae’r plant gellir ystyried syniadau fel gosod posteri yn yr ystafell staff, ceisiadau trwy’r cyfryngau cymdeithasol neu anfon llythyrau gartref at rieni.
Mae amgylchedd cyfoethog yn un ble gall plant wneud ystod eang o ddewisiadau, ble mae llawer o bosibiliadau fel y gallant ddyfeisio ac ymestyn eu chwarae eu hunain. Gallai hyn fod yn unrhyw ofod neu leoliad, dan do neu’r tu allan. Mae darpariaeth chwarae o safon yn cynnig cyfle i bob plentyn ryngweithio’n gwbl rydd gyda neu brofi, ymysg pethau eraill, rannau rhydd.
Beth allwn ni eu lloffa? Rhannau rhydd Rhannau rhydd yw’r disgrifiad a roddir i unrhyw adnoddau naturiol a synthetig y gall plant yn chwarae eu trin a’u trafod, eu symud a’u haddasu, eu hadeiladu a’u chwalu. Pan ddefnyddir rhywbeth fel rhan rhydd gellir ei ddefnyddio fel y mynnwch ac nid yn angenrheidiol at y diben gwreiddiol. Gall unrhyw beth a ddefnyddir fel rhan rhydd gynnig posibiliadau chwarae diddiwedd, er enghraifft gall brigyn fod yn wialen bysgota ger dŵr go iawn neu ddŵr dychmygol, neu’n llwy mewn cegin fwd,
Mae theori rhannau rhydd yn bodoli. Mae’n nodi: ‘Yn unrhyw amgylchedd, mae graddfa’r dyfeisgarwch a’r creadigrwydd, ynghyd â’r posibilrwydd o ddarganfod, mewn cyfrannedd union â’r nifer a’r mathau o newidion sydd ynddo.’1 Am fwy o wybodaeth am rannau rhydd, darllenwch ein pecyn cymorth Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant: www.chwaraecymru.org.uk/cym/cyhoeddiadau/ pecyncymorthrhannaurhydd
Yn y pen draw, mae cael llawer o rannau rhydd amrywiol yn gwella unrhyw leoliad chwarae. Mae hyn yn arbennig o bwysig os yw’r lleoliad ble mae’r plant yn chwarae’n blaen a diflas gyda fawr ddim nodweddion amgylcheddol diddorol. Lleolir peth darpariaeth chwarae yn yr unig fannau lleol addas sydd ar gael ar gyfer defnydd cymunedol, fel canolfannau cymunedol, meysydd chwarae ysgolion neu gaeau chwarae, all fod yn ddim mwy nag anialwch gwyrdd. Gall darparu rhannau rhydd gynyddu’r gwerth chwarae a gynigir i blant yn fawr iawn a chefnogi creu mannau chwarae cyfoethocach. Bydd lloffa adnoddau am ddim yn helpu i gadw costau mor isel â phosibl a’r gofod chware’n fwy diddorol ac amrywiol. ‘Bydd rhannau rhydd yn gweithio orau pan geir cymysgedd go iawn o bethau, yn cynnwys darnau cwbwl wahanol, dyma restr o bosibiliadau: teiars, paledi, tiwbiau hir o ganol carpedi, tiwbiau mawr trwm, defnydd, tarpolin, bocsys cardbord, gwisg ffansi, paent, sticeri, finyl, cwch, rhaffau, tŷ doliau, “mannequins”, ffenestri a drysau, dodrefn, rhwydi, pibau, lastig, gwlân, cregyn, cerrig, planciau pren, riliau carpedi, pebyll, cewyll poteli llaeth, olwynion bin mawr, hen deganau, plastig swigod. ’Dyw hon ddim yn rhestr gyflawn, gall rhannau rhydd fod yn beth bynnag y mae dy ddychymyg a dy ddawn lloffa’n ei ganiatáu.’ Top Tips for Scrounging, Tîm Datblygu Chwarae Conwy
Tir a lle i storio Gallwn hefyd loffa am adnoddau eraill ar wahân i rannau rhydd er mwyn i blant gael chwarae. Mae enghreifftiau’n cynnwys, prosiectau chwarae’n sicrhau lle i storio fel cynwysyddion morgludo i gadw eu rhannau rhydd, a thirfeddianwyr yn cyfrannu’r defnydd o dir at ddibenion chwarae. Bydd angen ystyried eu hatebolrwydd posibl yn ofalus iawn ond, gydag agwedd bwyllog a phroffesiynol, mae’n bosibl. Yn aml, defnyddir ‘Rhenti Rhad’ fel modd o basio tir ymlaen i grwpiau gwirfoddol neu drydydd sector at ddefnydd cymunedol. Bwyd Yn ôl asesiad cynhwysfawr gan y Cenhedloedd Unedig ar iechyd a lles plant2, mae gan y DU rai o’r lefelau uchaf o newyn ac amddifadedd ymysg cenhedloedd cyfoethocaf y byd. Mae bron i un o bob pump o blant y DU dan 15 oed yn dioddef o ansicrwydd bwyd – sy’n golygu bod eu teulu’n dioddef o ddiffyg mynediad sicr i fwyd maethlon, diogel a digonol. Os yw plant yn newynog mae’n effeithio’n sylweddol ar eu gallu i chwarae. Yn y DU, bydd llawer o ddarparwyr chwarae’n darparu bwyd ar gyfer y plant, er enghraifft mewn rhai lleoliadau bydd gwirfoddolwyr lleol yn paratoi bwyd ar y safle neu’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill ddaw â bwyd i’r safle chwarae. Os ydym yn cael trafferth dod o hyd i ffynonellau i ddarparu bwyd ar gyfer y plant yn ein lleoliad
chwarae gallem ystyried holi busnesau lleol i ofyn iddyn nhw gyfrannu bwyd. Mae busnesau a mudiadau elusennol eisoes yn darparu bwyd i rai prosiectau chwarae a meysydd chwarae antur yng Nghymru ac ardaloedd eraill o’r DU. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein taflen wybodaeth Chwarae, gwaith chwarae a bwyd: www.chwaraecymru.org.uk/cym/cyhoeddiadau/ taflennigwybodaeth
Gwirio adnoddau Mae angen i’r adnoddau y byddwn yn eu casglu fod yn ddigon diogel i blant eu defnyddio. Dylem greu system ar gyfer gwirio unrhyw eitemau newydd, er gwaethaf ble neu sut y gwnaethom eu caffael. Fyddwn ni ddim yn cymryd oherwydd bod rhywbeth wedi ei ystyried yn ddiogel pan gafodd ei ddefnyddio fel pecynnu diwydiannol, er enghraifft, y bydd yn ddiogel i blentyn ifanc chwarae ag o. Synnwyr cyffredin yw ein canllaw gorau ond dylid ystyried risgiau posibl fel: •
Dal bysedd neu’r pen
•
Darnau rhydd allai ddod i ffwrdd neu achosi perygl tagu
•
Pryderon cemegol – er enghraifft batris ac elfennau allai ollwng
•
Pryderon trydanol – er enghraifft gwifrau, cylchedau a phlygiau
•
Eitemau miniog
•
Tebygolrwydd o dorri’n ysgyrion neu’n deilchion, yn enwedig dan bwysau neu newid mewn tymheredd
•
Deunyddiau allai fynd ar dân
•
Haint bacterol trwy storio mewn man llaith, gwlyb neu ddŵr marw.
Meddyliwch am y camau fydd eu hangen i reoli’r risgiau hyn, er enghraifft: •
Sandio unrhyw ymylon miniog neu bren chwilfriw
•
Tynnu unrhyw wifrau, staplau neu hoelion sy’n sticio allan
•
Mynd trwy bocedi a leinin unrhyw ddillad neu ategolion ail-law
•
Golchi a glanhau’r holl adnoddau newydd.
Bydd creu rhestr wirio syml gyda phawb sy’n gweithio gyda ni, fel eu bod yn gwybod pa wiriadau i’w gwneud a pha gamau rheoli i’w rhoi yn eu lle, yn fan cychwyn da.
Mae ‘The Land’, maes chwarae antur yn Wrecsam, yn fodel o arfer dda. Isod, mae David Bullough, y Dirprwy Reolwr Chwarae, yn rhannu ei brofiadau fel lloffwr:
hi’n ei feddwl, tan inni lwytho ecosystem gwlyptir cyfan mewn sach tunnell, fel bod rhaid i’r ddeilen lili eistedd ar fy nglin ym mlaen y fan gan fod y cefn yn llawn dop.
‘Holwch eich teulu a’ch ffrindiau i gyd – fe all y rhan fwyaf ohonyn nhw gael gafael ar stwff am ddim. Fe fydd pawb, ar ryw adeg neu’i gilydd, yn symud tŷ neu’n clirio pethau allan. Rydw i wedi derbyn dillad theatr feddygol gan fy chwaer sy’n ddoctor, cadeiriau ‘recliner’ gan fy nain, plociau oddi wrth fy ffrind sy’n ffermwr, dillad pêl-droed, dillad, cacennau, peli pêl-droed, tai doliau, bocsys cardbord, planhigion, peiriannau argraffu, meinciau, beiciau, carpedi. Peidiwch a thanbrisio’r cysylltiadau sydd gennych eisoes. A rhieni’r plant, mae’r bobl yma’n ffynhonnell wych hefyd.
‘Mae’n beth da bod â rhywfaint o obaith dall. Rydyn ni wedi cael tri phiano ar The Land, a bob tro rydw i wedi dweud, “Mae hyn yn amhosib, allwn ni byth ei gael ar y fan ac yna allan o’r fan ac ar y safle”. Ateb Claire bob tro oedd, “Mi fydd popeth yn iawn”. A bob tro, rydyn ni wedi llwyddo i’w wneud ac mae’r plant wedi cael piano i’w chwarae!
‘Un diwrnod, dyma Claire (rheolwraig y maes chwarae) yn dweud wrtha i ein bod yn mynd i godi deilen lili. ’Doedd gen i ddim syniad beth oedd
‘Mae Freecycle yn drysorfa ar gyfer y gwirion a’r gwych ac fe fyddwch chi’n cwrdd â llawer o wahanol bobl. Os allwch chi gael eich enw allan yna, ymhell ac agos, yn y pen draw fydd dim rhaid ichi loffa rhagor, fe ddaw’r stwff atoch chi. Fe ddaeth dyn i The Land unwaith a gofyn “Ydych chi eisiau cwch modur?” Dyna’r ail gwch modur inni ei derbyn!’
Cefnogaeth i loffa Mae nifer o sefydliadau allai gynnig cymorth gyda chasglu adnoddau, fel llyfrgelloedd teganau a storfeydd sgrap. Mae storfeydd sgrap yn fath o siop talu a chario creadigol ar gyfer ysgolion, meithrinfeydd, grwpiau cymunedol lleol ac unigolion i stocio i fyny ar eitemau ar gyfer chwarae creadigol am brisiau rhesymol. Gan fod storfeydd sgrap ar draws y DU, mae miloedd o fusnesau’n cyfrannu amrywiaeth o adnoddau eisoes. Mae’r amrywiaeth o eitemau’n ddelfrydol ar gyfer annog chwarae dychmygol, creadigedd a datrys problemau. Sefydlwyd Reuseful UK gan aelodau o’r gymuned storfeydd sgrap er mwyn cefnogi ailddefnyddio adnoddau diangen er budd plant a chymunedau. Mae deunyddiau sgrap glân y gellir eu hailddefnyddio (y byddai busnesau’n ei chael yn anodd eu hailgylchu a fyddai, fel arall, yn cael eu hanfon i safle tirlenwi) yn cael eu rhyddhau i blant
chwarae â nhw trwy rwydwaith o storfeydd sgrap annibynnol ar hyd a lled y DU. I ddod o hyd i’ch storfa sgrap leol, ymwelwch â: www.scrapstoresuk.org Mae llyfrgelloedd teganau’n darparu adnoddau ar gyfer chwarae. Maent yn rhoi cyfleoedd i aelodau ar gyfer cyd-chwarae neu fenthyca teganau. Gall aelodau gynnwys: plant, rhieni a neiniau a theidiau, darparwyr gofal plant a chwarae, ysgolion a staff ysbytai. Am fwy o wybodaeth am lyfrgelloedd teganau, ymwelwch â: http://itla-toylibraries.org/home/join-us Mae gwefannau fel Freecycle neu Gumtree, a grwpiau prynu a gwerthu ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd, yn cynnig dull rhad ac am ddim o waredu staff diangen er mwyn iddo gael ei ailddefnyddio yn hytrach na’i daflu.
Nodyn
Cyfeiriadau
Roedden ni’n arfer sôn am ailgylchu ond ers cyflwyno deddfwriaeth i drwyddedu ailgylchu gan ddarparwyr masnachol, mae ailddefnyddio’n ddisgrifiad mwy cywir o’r hyn yr ydym yn anelu i’w wneud ag adnoddau y gallwn eu casglu ar gyfer chwarae plant.
1
Y Cenhedloedd Unedig (2017) Building the Future: Children and the Sustainable Development Goals in Rich Countries. Nicholson, S. (1971) The Theory of Loose Parts, Landscape Architecture, 62, 30-35.
2
Rhagfyr 2018 © Chwarae Cymru Awdur: Simon Bazley
Simon yw’r gŵr y tu ôl i Playful Futures. Mae’n ymgynghorydd chwarae a hyfforddwr gwaith chwarae.
www.chwaraecymru.org.uk
Chwarae Cymru yw’r mudiad cenedlaethol dros chwarae plant, elusen annibynnol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu hawl plant i chwarae ac i gynnig cyngor ac arweiniad ar faterion sy’n ymwneud â chwarae. Elusen cofrestredig, rhif 1068926 Cwmni cyfyngedig drwy warant, rhif 3507258 Cofrestrwyd yng Nghymru